Neidio i'r cynnwys

Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I/Gair at rieni Cymreig

Oddi ar Wicidestun
Paul mewn dillad newydd Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I

Sylwadau am y Rhyfel nad oedd yn Rhyfel

VII

GAIR AT RIENI CYMREIG

Awn allan o'm ffordd ped ymofynnwn ar hyn o bryd a yw'r iaith Gymraeg yn marw, ai nid yw; a yw hi'n haeddu byw, ai nid yw: yr hyn y mynnwn i chwi ei gofio ydyw ei bod yn fyw heddiw. Y mae yn ein plith ddigon a gormod o bobl i ddweud wrthych beth sydd gennych i'w wneuthur yn wyneb yr hyn a all fod. Fy ngwaith i yw cyfeirio'ch llygaid yn barchus at eich dyletswyddau yn wyneb yr hyn sydd yn bod. Y perygl ydyw i ni, wrth gael ein cynghori'n ddiddiwedd i ofalu dros drannoeth, anghofio bod i heddiw ei waith ei hun, a hefyd i anghofio bod y fath amser a heddiw yn bod. Swm y cyngor a roddaf i chwi yn y llythyr hwn yw, gwneuthur ohonoch yn y modd gorau yr hyn yr ydych eisoes yn ei wneuthur ryw fodd. Yr ydych trwy'ch esiampl eich hun, neu trwy gyfryngau eraill, yn dysgu rhyw gymaint o Gymraeg i'ch plant. Yn awr, fy nadl yw os ydyw'r Gymraeg yn haeddu cael ei dysgu o gwbl, y dylai gael ei dysgu'n dda. Yng nghanol pobl a phethau Cymreig y mae eich plant yn byw; adnodau a chaniadau Cymraeg a ddysgwch iddynt; i wrando gwasanaeth crefyddol Cymraeg y mynnwch eu harwain. Yn awr, pa fodd y gall yr adnodau, yr emynau, a'r pregethau hyn gyrraedd eu hamcan arnynt, oni byddant yn eu prisio ac yn eu deall; a pha fodd y deallant hwy hwynt os na ddysgir hwy? Gan fod eich Saesneg chwi sy'n rhieni iddynt mor garpiog—mor garpiog o'r hyn lleiaf â'ch Cymraeg y mae'ch plant yn tyfu i fyny heb fedru siarad un iaith yn briodol. Yr wyf yn dweud hyn er cofio eu bod mewn ysgolion beunyddiol. Y mae arnaf ofn bod rhieni yn taflu'r gwaith o ddysgu eu plant yn rhy lwyr ar athrawon yr Ysgol Sabothol, yn gystal â rhai'r ysgolion beunyddiol. Y mae cael offeiriaid a bugeiliaid ac athrawon ysgolion i roddi addysg grefyddol i blant wedi dyfod yn fath o angenrheidrwydd erbyn hyn. Y mae llawer mam foethus yn cadw mamaethod llaeth mewn mwy nag un ystyr. Y peth nesaf a wna'r mamau hyn fydd rhoddi genedigaeth i'w plant trwy ddirprwy.

Y mae athrawon yn dra buddiol fel cynorthwywyr, ond ni ddylid gwneuthur dirprwywyr ohonynt. Yn briodol, braint a gwaith rhieni yw dysgu eu plant. Hwynt—hwy a allai wneuthur y gwaith hwn orau o lawer. Yn awr, un o'r pethau hynny y perthyn i'r rhieni eu dysgu mewn modd arbennig i'w plant ydyw eu hiaith. Ni all athro ddysgu Cymraeg i'w blentyn fel y gall ei fam ef wneud; ni all 'chwaith ddad-ddysgu'r math hwnnw o Saesneg a ddysgodd hi iddo. Cymer rhieni boen fawr i ddysgu iaith anwesog, floesg, i'w plant yn eu babandod, ond nid ymboenant ddim ar ôl hynny i'w dysgu i siarad yn groyw a phriodol. Onibai am athrawon ni cheid ond ychydig o blant a fedrai hanner deall eu Beibl, a hynny'n gwbl am na chynefinwyd hwy gartref â'i eiriau a'i ymadroddion, ac y maent ymhell o wybod y pethau hyn fel y dylent, er cael cymorth athrawon.

Y mae llawer ohonoch yn rhieni i blant na allant, oherwydd rhyw amgylchiadau, byth obeithio siarad Saesneg yn gywir a rhwydd. Cymraeg, yn ôl pob tebyg, fydd yr iaith a arferant yn bennaf hyd eu bedd. Yn awr, os oes raid iddynt siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg o gwbl, byddai'n dda iddynt allu gwneud hynny yn gywir ac yn olau. Fel y bo iaith dyn y bydd ei feddwl. Y mae'n rhaid i ddyn wrth iaith dda, nid yn unig i fynegi ei feddyliau, ond hefyd i roddi bod iddynt. Nid yn unig y mae'r meddwl yn dylanwadu ar iaith dyn, ond y mae ei iaith hefyd yn dylanwadu ar ei feddwl; ac felly, mewn modd anuniongyrchol, ar ei holl ymarweddiad. Wrth ddysgu arferion da i'ch plant, dysgwch iaith dda iddynt hefyd; ie, cofiwch fod dysgu iaith dda yn un o'r arferion da hynny. Onid oes gennych na gallu na hamdden i ddysgu'ch plant yn athrawiaeth iaith, dysgwch hi iddynt yn yr ymarferiad ohoni. Rhoddwch iddynt o leiaf bob cefnogaeth "foesol i'w dysgu. Peidiwch â siarad yn sarhaus amdani yn eu gŵydd hwynt. Anrhydeddwch hi pe na bai ond er mwyn ei henaint.

Er mai Ymneilltuwyr yw llawer ohonoch, y mae rhyw barchedig ofn yn dyfod arnoch chwithau o flaen yr hen hen eglwys yna. Yn wir, nid gwaeth gennych gael eich gweld yn myned yn sentimental uwchben ceiniog hyll, os gellwch, trwy'r rhwd a'r baw, ddarllen Anno Domini, MCCCCI.

Daliwch yn awr ar hyn o holl hen bethau Cymru, y rhyfeddaf a'r gwerthfawrocaf yw iaith Cymru. Atolwg, chwi drigolion tref Y Faner, pa beth yw'r murddyn llwydaidd afluniaidd acw sydd wedi meddiannu'r clogwyn mwyaf golygus yn eich tref? "Dyna'r castell." I ba beth y mae o dda? "I gadw flower shows." Onid yw o'n dda i ddim arall? "O ydyw, y mae'n dda i—i—i edrych arno." Oni ddymunech gael rhywbeth mwy buddiol, megis palas, neu garchar, neu fop-asylum, neu factory, neu felin wynt, yn ei le? "Dymunem gael y cwbl, ond nid un ohonynt yn lle'r hen gastell." Paham yr ydych mor anewyllysgar i dynnu i lawr adeilad mor hen, mor dyllog? "A! am ei fod felly y mae mor werthfawr yn ein golwg; y mae swyn yn ei henaint; y mae ideas yn ei dyllau." Beth, a yw pobl Dinbych hefyd ymysg y Ceidwadwyr? A yw golwg ar yr hen gastell yn gyrru eu Radicaliaeth i ffoi? O! na theimlent at eu hiaith fel y maent yn teimlo at eu castell; a hynny am yr un rhesymau, oni wyddant am rai cryfach. Ond y maent hwy, er yn arddel eu castell, yn gwadu eu hiaith. Gwna rhai ohonynt y fath "ymdrechion gorchestol" i ddynwared y Saeson fel y bo'n amhosibl i ddyn wybod mai Cymry ydynt—hyd oni chlywo hwynt yn siarad Saesneg. Gwyddoch fod gwŷr enwog yn Lloegr yn ysgrifennu'n gryf, ond yn ofer ysywaeth, yn erbyn yr ysbryd Vandalaidd sy'n llywodraethu'r dosbarth masnachol yn Lloegr; sef y dynion hynny a dynnai i lawr dŵr Llundain er mwyn cael y cerrig i godi darllawdy. Ai tybed nad oes gennyf innau a'm bath gystal achos i achwyn yn erbyn Vandaliaeth y meinionbethau hynny sy'n gwastraffu eu hamser i ddinistrio iaith na fedrasant hwy erioed mo'i dysgu: dynion sy'n dywedyd "surion, surion," am y sypiau grawnwin mawrion aeddfed" y maent hwy'n rhy gorachaidd i'w cyrraedd; dynion sydd â'u clychau trystiog diorffwys yn canu cnul claf nad yw eto'n meddwl am farw? Taera'r Stauntons Cymreig hyn mai marw o farwolaeth naturiol y mae'r iaith a ymddiriedwyd iddynt, ond dywed y wlad, os yw hi'n marw o gwbl, mai marw o eisiau ymgeledd a chefnogaeth y mae. Yr wyf yn ymostwng i natur, ïe, yn ei llid, oblegid y mae'r dinistr a wna natur yn naturiol, fel hyhi ei hun. Nid wyf yn gwarafun i'r glaw a'r cenllysg ddawnsio ar y cerrig mwyaf cysegredig; cânt hwy grafu'r addurniadau oddi ar yr adeilad mwyaf godidog, a lliwio ei wyneb â llwydni llawer oes; ond pan welaf ddwylo anwir yn dwyn ceibiau a llaid er mwyn rhagflaenu anian, byddaf yn cau ac yn codi fy nwrn, gan ddywedyd, "Ymaith, Vandaliaid, onid e mi a'ch. . . ." Ac nid adeilad o goed a cherrig difywyd a fynnai'r rhai hyn ei ddistrywio, ond adeilad o eiriau byw, prydferth-adeilad a wnaed nid gan ddyn, ond gan genedl, ac nid yn gyfangwbl gan genedl, eithr gan Dduw. Pan oedd Lloegr yn rhoddi ei holl nerth allan i lethu'r Gymraeg, glynodd eich hynafiaid wrthi'n gyndyn. Ond yn awr, gyda bod dysgedigion y Cyfandir wedi agoryd eu llygaid ar ei rhagoriaethau, dyma chwithau yn eich tro yn ceisio'i bwrw oddi wrthych. Ymddengys fod gwrthwynebiad ac erledigaeth yn dygymod yn well na dim arall â chwi, y Cymry. Pan erlidid yr hen Fethodistiaid o achos eu crefydd, yr oedd crefydd yn cynyddu. Pan ddirgymellwyd y tenantiaid i bleidleisio yn ôl ewyllys eu meistri tir, byddent yn sicr o ethol Rhyddfrydwyr; ond pan gawsant ryddid i bleidleisio yn ôl eu hewyllys eu hunain, dechreuasant ethol Ceidwadwyr. Yr unig ffordd i gael gan y Cymry i iawn wneuthur ydyw eu gorfodi—eu scriwio i gam wneuthur. Pe bai Lloegr unwaith eto'n arfer moddion treisiol i ddiddymu'r Gymraeg, buan y profid ei bod hi cyn gryfed â'r "dyn claf" o'r Dwyrain.

Anghyson iawn, debygaf i, yw gwaith llawer ohonoch yn talu athro am ddysgu gronyn o iaith farw, fel Lladin, i'ch plant, a chwithau'n eu hanghefnogi i ddysgu iaith fyw ac angenrheidiol fel y Gymraeg: iaith hefyd y mae gan eich plant gyfleustra mor rhagorol i'w dysgu. Ychydig iawn, fel y gwyddoch, hyd yn oed o ysgolheigion ein prif— ysgolion sydd wedi dysgu digon o Ladin i ddeall a mwynhau llyfr dieithr yn yr iaith honno. Nid yw dyn wrth ddysgu iaith ond yn dysgu'r moddion i gyrraedd rhyw amcan pellach. Nid dysgu Groeg a Lladin yw dechrau a diwedd dysgeidiaeth glasurol; ond y diwedd yw gwybodaeth o gynnwys yr ieithoedd hynny. Nid wyf heb gofio bod dysgu iaith ynddo'i hun yn ddisgyblaeth, ond o ddau fath o ddisgyblaeth y gorau yw'r mwyaf ffrwythlon. Gwir fod curo awyr yn ymarferiad buddiol i un peth, ond y mae curo clobos yn fuddiol i ddau beth.

Ond yr wyf, yn wir, yn tybied ynof fy hun nad y pwys a roddwch ar ddisgyblaeth feddyliol, ond eich awydd diwala i ddilyn defod ac arfer, sy'n eich cymell i daflu'ch punnoedd i logellau dieithriaid ymhongar ac anfedrus am gymryd arnynt ddysgu Lladin i'ch plant. Yr ydych chwi'n byw'n rhy agos i'r nation of utilitarians i gael dylanwadu arnoch gan ystyriaethau o'r fath yma. Beth sydd yn y ffasiwn? A beth sydd yn talu? Dyna'r unig ofyniadau sy'n ysgwyd eich enaid chwi, onid e? Ond nid oes arnaf ofn eich cyfarfod, ie, ar y tir hwn. Yr wy'n cydnabod eithriadau, wrth gwrs, ond a siarad yn gyffredinol, pa faint o aur ac arian a enillodd eich plant yng ngrym eu gwybodaeth o'r iaith Ladin? Ai am "wybodaeth" y soniais? Dyn a ystyrio! Nid mewn blwyddyn y dysgir iaith farw —yn ôl dull Prydain, beth bynnag er bod hynny o amser yn ddigon i ddysgu iaith fyw. Profiad y rhan fwyaf o'r plant ydyw, er gwaethaf yr aur a'r amser a dreuliwyd, na ddysgasant Ladin yn ddigon da i fedru ei chofio, chwaethach ei defnyddio. Ond pe buasai'r amser braf y buont yn clebran mensa, mensae; amo, amas, wedi ei dreulio ganddynt i ddysgu'r Saesneg trwy'r Gymraeg, a'r Gymraeg trwy'r Saesneg, onid ydych yn meddwl y buasent erbyn hyn yn llawer mwy defnyddiol iddynt eu hunain ac i eraill? Ydyw, gyfeillion, y mae gwybodaeth drwyadl o'r Gymraeg yn talu'n well na gwybodaeth elfennol o Ladin. A phaham yr ydych yn clegar fyth a hefyd ynghylch ffasiwn? Oni wyddoch chwi fod dysgu Cymraeg yn dyfod yn beth ffasiynol? Nid deg, na deg ar hugain, o enwogion y Cyfandir sy'n ymffrostio yn eu Cymraeg. Gan ei bod hi'n cael croeso yno, caiff wahoddiad i ddyfod i Loegr yn y man. Pan ddechreuir ei dysgu yn Lloegr, fe gais epaod Cymru ei dysgu hefyd, nid yn gymaint er mwyn yr iaith. ei hun, ag er mwyn dynwared y Saeson. Os mynnwch wybod pa beth a ddigwydd i Gymru ar ôl hyn, darllenwch arwyddion Ffrainc, canys y mae'r Saeson yn dilyn y Ffrancod, a'r Cymry yn dilyn y Saeson. Os gwelwch chwi gwmwl megis cledr llaw gŵr yn codi o Ffrainc, ar Loegr y glawia gyntaf, ond ni thyn ei odrau ato nes gwlychu holl Gymru hefyd. Bydd Cymru, ie, bydd Ewrop i raddau helaeth yr hyn a fydd Ffrainc. Oddi yno y cychwyn y drwg a'r da. Ffrainc yw mam gwareiddiad, a Lloegr yw ei famaeth. Os nad ydych yn coelio, edrychwch i waelod eich het a darllenwch.

IWAN TREVETHICK.

ALLAN O'R Faner, RHAGFYR 26, 1877.

Nodiadau

[golygu]