Neidio i'r cynnwys

Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I/Llythyr Alltud

Oddi ar Wicidestun
Y Wladfa Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I

Llythyr arall Alltud

X

LLYTHYR ALLTUD

O L——, YNG NGHYMRU,
y зydd o Dachwedd, 1882.

FY ANNWYL DAD,

Rhaid i ti a'm ceraint eraill yn Fflandrys ysgrifennu'n helaethach ac yn fynychach ataf nag y gwnaethoch hyd yma, onid e, rhaid imi ddychwelyd adref cyn gorffen dysgu Cymraeg. Daeth gaeaf trist Prydain ar fy ngwarthaf cyn yr amser. Daeth tawch Tachwedd i'r wlad cyn canol mis Hydref, a pha alltud a ddichon aros yn y fath wlad heb gael llythyrau yn fynych o fro siriolach? Nid yw ein hoff Fflandrys, y mae'n wir, mor glir a sych ei hawyr â thaleithiau uchaf Belg (heb sôn am Ffrainc a'r Ital), ond y mae hi'n baradwys wrth Brydain—yn baradwys o ran ei hawyr, dealler, ac nid o ran ei golygfeydd. Y mae ym Mhrydain, ac yng Nghymru yn enwedig, olygfeydd nad oes mo'u hardded yn holl Fflandrys; er hynny, golygfeydd ydynt sydd, ysywaeth, yn fynychach o'r golwg nag yn y golwg. Gwn fod o'm blaen ddyffryn tirion, a mynydd cribog y tu hwnt iddo, ond ni welais mohonynt ers wythnosau, ac y mae'n amheus gennyf a welaf hwynt eto, canys y mae'r tarth yn gorwedd arnynt mor ddioglyd a phe na bai byth yn meddwl cyfodi. Gwn fod y môr yn agos, a bod clebren o afon yn cludo chwedlau iddo o Lyn——; ond nid yw sŵn y naill na'r llall yn cyrraedd hyd ataf rhag tewed yr awyr. Nid oes dim sŵn amgen na sŵn marwaidd a mesuredig y glaw. O! fy nhad, ni elli ddychmygu fel y mae tywydd y wlad hon yn pylu cynheddfau dyn ac yn gorthrymu ei ysbryd. Nid rhyfedd gennyf fod cynifer o'r trigolion mwyaf pruddglwyfus yn cymryd eu temtio tua diwedd y flwyddyn i achub y blaen ar Angau, ac i redeg i ymdwymo i Uffern, o ganol tarth mor oer a llaith!

Yr wyf yn gweled erbyn hyn ddangos ohonot dy fod yn ŵr doeth pan orchmynnaist na thraethwn fy marn wrthyt am y Cymry a'u pethau hyd oni fyddwn wedi dysgu eu hiaith, ac ymdroi am fisoedd wedi hynny yn eu plith. Dylit gyhoeddi'r gorchymyn hwn yn Saesneg, er mwyn y praidd a arweinir gan y bugeiliaid Cook o westy i westy ar draws y Cyfandir. Bydd llawer o'r teithwyr brysiog ac unieithog hyn, cyn gynted ag y dychwelont adref, yn ymosod i lefaru ac i ysgrifennu pethau rhyfedd amdanom ni, Gyfandirwyr. Er hynny, byddai'n ddifyr gennyt eu clywed yn camseinio enwau syml ar ddynion a lleoedd, megis Vandyck, Jordaens, Brüssel, a Waterloo. Seiniant y rhai hyn a phob enw estronol fel pe baent enwau Saesneg heb ystyried nad oes un genedl arall yn seinio â, ê, î, ô, ú, j, r, fel y gwnânt hwy! Ac y mae Cymry crachddysgedig yn eu dilyn, er y byddent yn agosach i'w lle pe dilynent eu cydwladwyr hollol annysgedig. Er enghraifft, seiniant y j sydd yn niwedd fy enw personol, ac yn nechrau fy enw teuluol, fel petai hi dzh! A hynny heb un rheswm amgenach na bod y sain hon yn un annwyl a chyffredin gan y Saeson. Gresyn fod y Cymry mor chwannog i ddynwared cenedl sy'n gwneud popeth wrth ei mympwy ac nid wrth reol! Gan eu bod yn dewis cyfeiliorni gyda'r Saeson mewn pethau bychain, hawdd y gelli gredu na fyddai'n anodd ganddynt (er gwaethaf crefydd a chydwybod) fyned mor bell â chyfiawnhau anghyfiawnderau'r Saeson yn yr Aifft. Yr wyf yn meddwl yn fynych am y geiriau a ddywedaist wrthyf pan oeddwn yn cychwyn oddi cartref y waith gyntaf: "Y mae'r hyn sydd iawn bob amser yn amlwg ac yn syml i'r neb y byddo ei lygad yn syml; glŷn wrtho yn y bach ac yn y mawr, hyd yn oed pe bai pob plaid yn dy erbyn."

Yr wyf i eisoes yn medru digon o Gymraeg i ddeall popeth a glywaf ac a ddarllenaf, eithr bydd yn rhaid imi aros yng Nghymru am rai misoedd eto cyn y gallaf lefaru'r iaith yn rhugl a chywir. Y mae hi, fel pob iaith hen a chywrain, yn bur anodd i'w dysgu'n berffaith, er ei bod yn un o'r rhai hawsaf i'w dysgu'n amherffaith. Y mae cannoedd o Saeson yng Nghymru ers blynyddoedd heb ei medru hyd yn oed yn amherffaith. Ni wn yn iawn pa un ai rhy falch, ai rhy ddiog, ai ynteu rhy ddiallu ydynt i'w dysgu. Odid na'th gynorthwya'r ffeithiau canlynol i farnu trosot dy hun: (1) Nid yw'r Saeson eto wedi ymddyrchafu digon i deimlo ei bod o werth iddynt ddysgu dim na fyddo yn elw ariannol iddynt. (2) Y maent yn chwannog i alw pob iaith na fedrant hwy mo'i dysgu yn iaith farbaraidd. Y maent yn hyn yn debyg i lwynog Aesop—yr hwn, wedi iddo neidio a neidio yn ofer at sypiau grawnwin mawrion aeddfed,' a aeth ymaith, gan ddywedyd, Surion, surion ydynt!' (3) Rhaid addef bod y Saesneg, o ran sain, ar ei phen ei hun ymhlith ieithoedd adnabyddus Ewrop, ac am hynny, y mae'n anodd anghyffredin i Saeson lefaru unrhyw iaith arall yn ddealladwy, ac yn anodd i bob cenedl arall lefaru eu hiaith hwythau. Dywedir mai yn yr oes hon, ac yn Neheudir Lloegr yn bennaf, yr aeth y Saesneg yn dafodiaith mor bŵl a chymhenllyd. Proffwyda rhai y cyll hi'n fuan bob sain, oddieithr y seiniau sïol, os pery corff y genedl i ddilyn ysgoegynnod Llundain. Nid rhyfedd bod cathod y Cyfandir yn rhedeg i'r drysau pan elo Saeson heibio, canys y mae'n hawdd i greaduriaid amgenach na chathod feddwl nad ydynt wrth ymddiddan yn dweud dim ond ps, ps, ps, yn ddi-dor.

Er na bûm cyhyd yn dysgu Cymraeg ag y bûm yn dysgu Saesneg, eto yr wyf yn gallu ei hynganu a'i llythrennu'n gywirach o lawer. Yr oeddwn o'r blaen yn gynefin â phob sain sydd ynddi, oddieithr sain yr ll. Y mae hon yn fwy chwern na sain yr ll Ysbaeneg. Gorchfygais hon hefyd cyn cyrraedd Cymru, canys trewais, yn y trên rhwng Llundain a Chaerlleon, wrth deulu Cymreig yn cynnwys tad a merch a mebyn, ac wedi darfod i ysgytiad nerthol y cerbyd gyflwyno'r ferch imi yn bur ddiseremoni trwy ei thaflu drwyndrwyn yn fy erbyn, gofynnais iddi yn Saesneg fod mor garedig â'm hyfforddi i seinio'r Gymraeg. Atebodd hithau na fedrai hi mo'm hyfforddi, a'i fod yn amheus ganddi a fedrai neb arall chwaith, ond ei bod yn ewyllysgar iawn i ddweud ll gynifer o weithiau ag a fynnwn, ac y cawn innau ei dynwared. Hi a chwanegodd na chafodd hi, ac na bu raid iddi wrth gymaint â hynny o fantais. Tybed, meddwn innau, y medr pob plentyn Cymreig seinio pob llythyren yn unig trwy ddynwared eraill, a heb ddim hyfforddiad?. Diau, meddai hithau, fod rhai plant yn myned yn bur hen cyn medru ynganu ll neu r, ond pwy all ddim wrth hynny?—Y rhieni, meddwn innau, y rhieni. Pan welont hwy y bydd eu plentyn yn methu ag iawn seinio rhyw lythyren trwy ddynwared eraill, dylent ddangos iddo pa fodd i ystumio ei enau a'i dafod. Os byddant yn rhy annysgedig—nid wyf yn cyfeirio atoch chwi, Mademoiselle—os byddant yn rhy annysgedig i wneud hynny, dylent beri i'w plentyn edrych i mewn i'w genau hwy pan seiniont lythyron anodd. Er nad wyf i mor ieuanc ag y bûm, ac nad yw fy mheiriannau llafar, oherwydd hynny, mor ystwyth â rhai plentyn, eto tyngaf wrthych, yn yr ysbryd mwyaf diymhongar, y gallwn adrodd y seiniau anhawsaf tan y nef pe cawn ysbïo genau'r sawl a'u gwnâi. Er mwyn praw, yr wy'n addo seinio'r l ddyblyg yn ebrwydd os goddefa'ch brawd bach imi chwilio ei enau (ei geg a ddylwn ddweud) tra byddo ef yn ei seinio. Gwnaeth y bachgennyn ymdrechiadau gorchestol i ufuddhau i orchymyn ei chwaer, ac i'm boddhau innau, ond bu'r cwbl yn ofer. Yr oedd gan y crwtyn bochgoch gymaint o ddawn i weled ochr ddigrif pethau fel na fedrai gadw'i dipyn ceg yn yr un ystum am chwarter munud. Bob tro yr osiai ddweud ll delai arno bang o chwerthin o'r iachaf ac o'r mwyaf heintus a glywaist erioed. Pa ieithoedd a chenhedloedd bynnag a gynrychiolid yn y cerbyd, yr oedd pob un yn deall ac yn teimlo oddi wrth chwerthin anorchfygol y bachgen. Ymunodd pawb ag ef yn ddifrifol, nes tywallt dagrau na ddaeth eu purach o ffynnon galar—pawb ond y tad. Gallwn i feddwl nad oes mo fath priodi a phlanta i sobri gŵr o Brydeiniwr. Ond dichon fy mod yn gwneud cam â'r gŵr hwn; feallai mai gweddw ydoedd, a'i fod wrth weled ei ferch yn ymddiddan mor rhydd â gŵr ifanc dieithr yn ofni y collai geidwades bresennol ei dŷ cyn y gallai ef gael o hyd i un well yn ei lle; neu, feallai mai hen ysgolfeistr ydoedd, wedi llwyddo trwy hir arferiad i atal ei dueddiadau chwerthingar er mwyn cadw ei ofn ar ei ddisgyblion direidus. Gweli, fy nhad, na bu dim neilltuol rhyngof i a'r lodes, onid e, buaswn wedi mynnu gwybod erbyn hyn pa beth yw galwedigaeth ei thad; pa faint o eiddo byw a marw sydd ganddo; pa sawl plentyn; pa sawl merch; os dwy neu chwaneg, pa un ohonynt yw ei anwylyd; a oedd ei gyndadau yn chwannog i ail-briodi; a oes ganddo frodyr neu chwiorydd di- briod neu ynteu di-blant â'u hamgylchiadau'n gyfryw byddai'n werth i ddyn ddeisyfu dydd eu marwolaeth; pa un ai creaduriaid grasol yn marw pan fynno eraill, ai ynteu creaduriaid cyndyn, herllyd, yn marw pan fynnont hynny eu hunain, yw'r perthnasau? Pa beth yw cyflwr eu cylla? A ydyw eu hysgyfaint yn holliach? Os felly, a ydyw'n debygol y dymchwelir hwynt yn ddisymwth gan y parlys neu ag ergyd haul? &c., &c. Nid yw'r rhai hyn ofyniadau di—bwys hyd yn oed yn Fflandrys. Y maent ym Mhrydain yn bwysicach na gofyniad ceidwad y carchar i Baul a Silas.

Wi! gwelaf i'r Gymraes yma fy nhynnu oddi ar fy llwybr fel y tynnodd y Graig Fagnedig long Agib. Glynaf, bellach, fel ci tarw wrth yr ll hyd ddiwedd yr hanes. Dyn sobr oedd y tad fel y dywedais, ac am hynny medrodd ef wneud yr hyn y methodd ei fachgen â'i wneud. Cyn pen munud awr yr oeddwn yn medru seinio ll cystal â neb—ac yn gwybod hefyd nad yw deintyddion Prydain ddim mor daclus eu gwaith o lawer â deintyddion Belg.

Ymddengys i mi mai llyfnder geiriol ac ystwythder brawddegol yw prif ragoriaethau'r Gymraeg. Y mae hi, yn y peth blaenaf yn rhagori ar y Ffrangeg, ac yn y peth olaf yn rhagori hyd yn oed ar yr Ellmynneg a'r Italeg. Nid oes ynddi gynifer o lafarogion agored ag sydd yn yr Italeg ac ieithoedd eraill deheudir Ewrop, ac am hynny nid yw hi mor ganadwy â hwynt. Er hynny, y mae'n fwy canadwy filwaith na'r Saesneg, ac am hynny y mae'n syn gan dramorwyr fel myfi glywed Cymry yn canu 'Elias' a'r 'Mesïa' yn Saesneg. Y mae gan y Saeson ryw reswm am ganu yn yr Italeg, ond nid oes gan Gymry ddim rheswm am ganu cymaint yn Saesneg. Yr wyf yn casglu bod y Cymry sydd heb wybod ieithoedd tramor, na thystiolaeth dysgedigion am ieithoedd, yn meddwl bod y Saesneg yn dlysach ac yn bereiddiach na'r Gymraeg! Gallit feddwl mai geiriau tlysion iawn yw Iacob (neu Siacob), Siôr, Siârl, Siôn, Sionyn, Siân, Mari, Cadi, Sara, Grâs—yn enwedig wrth eu bod mor debyg eu sain i enwau anwylaf y Cyfandirwyr; ond gwybydd fod y rhai hyn yn enwau gwrthun, gwahanglwyfus ym marn y Cymry, a hynny ymlaenaf am eu bod yn rhy Gymreigaidd; ac yn ail, am eu bod yn dlodaidd eu tarddiad. Gwell gan Gymry'r ffurfiau Seisnigaidd ac anfarddonol Dzhêcob, Tsharls, Dzhón, Dzhonni, Dzhên, Mêri, Cêt, Sêra, Grês! Dyry'r rhai mwyaf di-chwaeth ohonynt enwau mwy anghydgerdd fyth ar drefi, tai, a ffyrdd. Galwant Hewl y Bont (Rue du Pont) yn Bridge Street—dau air na fedr un o bob mil o Gymry na Saeson eu hynganu'n briodol heb ymatal yn hir rhyngddynt i dynnu eu tafod o'r drysni.

Na'th arweinied y gwiriondeb hwn i feddwl mai cenedl angherddgar yw'r Cymry. Y mae lliaws mawr ohonynt yn hoffi canu ac yn medru canu; ie, y mae rhai miloedd ohonynt yn mynnu canu pa un bynnag ai medru ai peidio. Diau y buasai'r Cymry yn genedl amgenach o lawer pe buasent yn llai cerddgar, neu o leiaf pe buasent yn ymhoffi llai mewn tonau lleddf. Yr wyf i'n credu bod Platon (Pleton neu Pleto y llysenwa Cymry'r pagan hwn) yn llygad ei le pan ddywedodd fod cerddoriaeth gwynfannus alarllyd yn anwreiddio dynion, ac felly yn eu hanghymhwyso i fod yn aelodau o wladwriaeth berffaith. Rhaid imi addef y bydd yr alawon a genir mewn addoldai Cymraeg yn fy meddwi â'u swyn, ond wedi'r elwyf adref, a sobri, a dechrau fy chwilio fy hun, byddaf yn canfod, er fy ngofid, fy mod wedi llesgáu a masweiddio, gorff ac ysbryd. Nid yw dyn byth mor analluog i wrthsefyll temtasiwn a phan fyddo'n myned allan o addoldy Protestannaidd neu Babyddol ar ôl bod yn gwrando cerddoriaeth synhwyrus. Er hynny, y mae'n debygol mai'r pryd hwnnw y bydd ef yn ei deimlo ei hun yn fwyaf crefyddol. Tybiaf i mai cyflwr darostyngedig y Cymry ydyw'r achos bod eu cerddoriaeth mor sentimental. Dylwn ddweud wrthyt fod eu halawon gwladol neu wladgarol yn ŵraidd ac yn iachus odiaeth. Os cyfansoddwyd y rhai hyn ar ôl dyddiau Ywain Glyndyfrdwy, rhaid bod y cyfansoddwyr yn bur annhebyg eu hysbryd i'r rhan fwyaf o'u cyd-wladwyr.

Y mae yng Nghymru bregethwyr nad oes mo'u rhagorach hyd yn oed yn Ffrainc, ond bydd pregethau gweddol y Ffrancod byw yn hwy na phregethau gorau'r Cymry, a hynny am fod mwy o ôl celfyddyd arnynt. Ymddengys bod siaradwyr ac ysgrifenwyr Cymru heb wybod neu ynteu heb gredu eto mai celfwaith yn unig sydd yn hirhoedlog. Celfyddyd yw popeth,' meddai Goethe; fe'i credodd llawer o'r Ellmyn, ac am hynny llwyddasant. Er hyn oll, gwelais gwyno mewn rhyw newyddiadur fod pregethwyr presennol Cymru, y rhai ifangaf ohonynt yn neilltuol, yn rhy goeth ac yn rhy gelfydd'! A glywaist ti erioed am ddyn pwyllog yn cwyno o achos gormod coethder, neu'n haeru bod celfyddyd yn taro'n erbyn natur berffeithiedig? Fe allai fod gan y cwynwr hwnnw ryw wirionedd dan ei ewin, ond gan nad oedd ef ei hun nac yn goeth nac yn gelfydd, ef a fethodd â chaffael geiriau cyfaddas i amlygu ei feddwl. Byddaf i mor fwyn a thybied mai 'anghoeth' a feddyliai wrth 'goeth,' ac mai anghelfydd' a feddyliai wrth 'gelfydd.' Os wyf i'n iawn dybied, yr oedd yntau'n iawn synied. A siarad fel llenor yn unig, diau gennyf mai anghoethder ac anghelfyddyd yw dau fai pennaf pregethwyr ifainc a chanol oed Cymru. Os ydyw'n ddiogel imi hyderu ar adysgrifwyr a dynwaredwyr, byddai'n hawdd profi yn wyneb rheolau pwysicaf gramadeg ac areitheg, fod pregethwyr yr oes o'r blaen (ac y mae rhai ohonynt eto'n fyw yn yr oes hon) yn fwy celfydd na'r to presennol o bregethwyr, a bod eu llwyddiant i'w briodoli i fesur mawr i'w celfyddyd. Rhaid addef bod ganddynt wrandawyr coethach nag sydd gan bregethwyr yr oes hon, canys yr oeddynt yn ddarllenwyr dyfal ar y clasuron cysegredig; ond y mae lle i ofni nad yw eu hepil gan mwyaf, er llawned eu silffoedd, yn darllen dim yn y byd mwy clasurol na Thrysorfa y Plant a newyddiaduron Lerpwl. Gweli, gan hynny, y dichon ddyfod amser pan fydd pregethwr coeth yn anghyfaddas i wrandawyr Cymreig, a phan fydd yn rhaid iddo, er mwyn bod yn gymeradwy, ymdebygu mwy o ran syniadau ac arddull i swyddogion Byddin Iachawdwriaeth nag i Rowlands o Langeitho, a physgotwyr chwaethus Galilea.

Bydd y Cymry yn achanu'r rhan olaf o'u pregethau yn fwy na phregethwyr un genedl arall y gwn i amdani. Pan wnelont hynny'n gynnil, yn amldonog, ac yn gydwedd â'r ymadroddion, bydd y dylanwad yn hyfryd ar bob dosbarth. Er nad ydyw'r achanu hwn, ond odid, yn ddim amgen na'r llith-ganu Eglwysig wedi ei drosglwyddo i bregethau Ymneilltuol, eto y mae'n gweddu'n dda i'r Gymraeg, gan fod ei geiriau hi'n goddef eu llusgo a'u nyddu'n fwy na geiriau ieithoedd eraill y Gogledd-Orllewin.

Er bod mwy o bellter rhwng Ymneilltuwyr Cymru a'r Eglwyswyr nag sydd rhwng Protestaniaid a Phabyddion rhannau o'r Cyfandir, eto y mae'r Ymneilltuwyr yn glynu'n dynn wrth amryw o ddefodau priodol yr Eglwys, ac yn mabwyso rhai eraill yn barhaus. Y maent mewn un neu ddau o bethau yn gor-Babyddu'r Pabyddion. Tybiasit ti, yn ddiau, y buasai'n ddigon gan Brotestaniaid trwyadl ymfoddloni ar un gwasanaeth crefyddol wrth gladdu corff marw; eithr gwybydd eu bod yn gyffredin yn darllen ac yn hirweddio wrth "godi'r corff," ac yn y capel, ac wrth y bedd, er bod y bedd yn fynych gerllaw'r capel. Nid ŷnt yn teimlo dim gwrthwynebrwydd at yr hen ddefod driphlyg hon, ond y mae gan rai ohonynt wrthwynebrwydd mawr i offrymu yn yr eglwys—gwrthwynebrwydd cydwybodol, meddant hwy. Hyfryd gan gybydd gael ei gydwybod yn foddlon i gadw'i bwrs.

Anffawd yr Eglwys yng Nghymru ydyw ei chysylltiad â gwladwriaeth estronol a gwrth-genhedlig. Anffawd y rhan fwyaf o'r Ymneilltuwyr ydyw'r cyfleustra sydd gan eu blaenoriaid cyfoethog i ddynwared Arglwydd Beaconsfield a'r brenin Nebuchodonosor yn ddigerydd. Nid yw llawer o'r rhai hyn yn gwasanaethu nac yn cynrychioli un eglwys, a phaham y mae'n rhaid iddynt, a hwythau'n gwybod y pery eu brenhiniaeth hyd awr eu marwolaeth, a'u harswyd hyd derfyn dydd eu claddedigaeth? Gwybydd di na fynn rhai o'r Ymneilltuwyr cyfoethog ddim bod yn petty tyrants; ac na chaiff eraill ohonynt fod yn petty tyrants—mewn eglwysi y bydd ynddynt saith o wŷr, heblaw gwragedd a phlant. Pan fyddo amryw o gyfoethogion anghytras yn blaenori yn yr un eglwys, y mae'r naill, fel y mae orau, yn cymedroli gorfynt a dylanwad y llall. Nid yw'r rhai traheusaf o'r blaenoriaid ariannog yn ddigon anghall i herian a dial mewn modd uniongyrchol ar neb o'u gwrthwynebwyr; byddant yn ymddiried y bryntwaith hwn i'r diaconiaid.

Yr wyf wedi ysgrifennu mwy o'r hanner na hyn, ond rhag cael ohonot ormod o waith darllen ar unwaith, cadwaf y gweddill hyd yr wythnos nesaf. Fy annwyl dad, derbyn barch a serch puraf dy unig fab,

EMRIJ VAN JAN.

ALLAN O'R Faner, RHAGFYR 13, 1882.

Nodiadau

[golygu]