Neidio i'r cynnwys

Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I/O Elba i Waterloo

Oddi ar Wicidestun
Llythyr arall Alltud Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I

Detholion

XII

O ELBA I WATERLOO

Hwyrach y dywed rhai mai peth pur anghyson yw i mi, sy'n gennad hedd, dreulio amser i draethu am dair brwydr y lladdwyd ac y clwyfwyd ynddynt agos i gan mil o wŷr heb achos amgenach na bod Siôr y Trydydd a phenaduriaid uchelwaed eraill yn cenfigennu wrth ŵr a wnaed yn ymherodr trwy ewyllys y bobl ac nid trwy fraint genedigaeth. Ni cheisiaf i ymgyfiawnhau, ond addef a wnaf yn hytrach fod pob dyn yn euog o ryw anghysonderau neu'i gilydd, ac un o'm hanghysonderau i yw hyn: fod yn gas gennyf ryfel yn fy nghalon, yn enwedig ryfel y cryf yn erbyn y gwan; ac eto fod yn ddiddorol gennyf yn anad dim ddarllen hanes brwydrau rhwng byddinoedd disgybledig; ac yn ddiddorol gennyf rodio ar draws ac ar hyd y meysydd lle y cymerodd y brwydrau hynny le, ac ar hyd y ffyrdd y cerddodd yr ymladdwyr ar hydddynt i'r meysydd hynny.

Heblaw hynny, hanes Ffrainc o ddechrau'r Chwyldroad hyd ddiwedd teyrnasiad Napoleon ydyw'r hanes mwyaf swynol i mi o bob hanes, a hanes y cyfnod hwnnw ydyw'r unig hanes y gallaf i ddweud fy mod wedi rhoddi blynyddoedd i'w astudio. Y mae'n naturiol i mi, gan hynny, wybod llawn mwy am y frwydr a fu rhwng Napoleon a Wellington ar y deunawfed o Fehefin, 1815, nag am y frwydr a fu yn amser Abram rhwng Amraphel brenin Sinar a Bera brenin Sodom.

Er cynifer o ddynion rhyfedd a ddaeth i'r amlwg yn y cyfnod cyffrous y crybwyllais amdano, Napoleon yn ddiau oedd y rhyfeddaf. Plentyn y Chwyldroad ydoedd o, ac fe ellid meddwl bod Ffrainc y pryd hwnnw mewn gwewyr o achos ei bod ar esgor arno ef.

Ac heblaw mai Napoleon oedd dyn enwocaf ei oes, efô yw dyn enwocaf pob oes, oblegid y mae eisoes fwy o lyfrau wedi eu scrifennu amdano ef nag am un dyn arall ar y ddaear. Fe dystiolaethodd Mr. Gladstone mai Napoleon oedd y dyn mwyaf ei ymennydd a fu yn y byd er amser Iwl Cesar; ac fe gydsynia pawb mai Hannibal, Cesar, a Napoleon yw'r tri chadlywydd pennaf a welodd y byd. Yn wir, yr oedd Napoleon yn fwy o gadlywydd na Cesar, er bod Cesar yn fwy o lywodraethwr, yn fwy o lenor, ac yn fwy o ddyn, nag oedd yntau. Yn awr, gan ei fod yn ŵr mor hynod, ac yn dangos yn ei ddyddiau gorau gymaint o ddychymyg wrth ryfela ag a ddangosodd Dante wrth farddoni, a Raffael wrth baentio, nid yw'n anweddus i mi a'r darllenydd draethu a darllen ychydig amdano. Er mai Napoleon yn ei wendid a welwn yn Waterloo— Napoleon wedi colli ei wallt, wedi colli ei iechyd, wedi colli ei ynni, ac wedi colli mesur o'i gof hefyd; eto, fel mai Hannibal ydoedd Hannibal er i Scipio ei orchfygu ym mrwydr Zama, felly Napoleon ydoedd Napoleon er i Wellington a Blücher ei orchfygu yntau ym mrwydr Waterloo.

Nid brwydr ddiwethaf Napoleon oedd y frwydr gyntaf a gollodd o. Yr oedd y frwydr fawr benderfynol a'i hysigodd yn anaele wedi ei hymladd er ys un mis ar hugain cyn brwydr Waterloo. Fe brofwyd yn Rwsia y gallai natur ei orchfygu, ac fe brofwyd yn Leipsig y gallai dynion hefyd ei orchfygu; ac fe fu gwybod ei fod yn orchfygadwy yn gymorth i'w elynion i'w orchfygu yn Waterloo. Wrth weled ei fod wedi colli'r rhan fwyaf o'i hen sawdwyr yn eira Rwsia fe gytunodd y rhan fwyaf o alluoedd Ewrop i gasglu naw can mil o wŷr er mwyn ei lethu ym mherfeddion yr Almaen, ac wedi tridiau o ymladd tost, llwyddasant i wneud hynny. Y mae'n wir i Napoleon, trwy wahanu ei elynion, orfod arnynt mewn amryw o frwydrau ar ôl hynny, ond fe argyhoeddwyd seneddwyr Ffrainc nad oedd bosibl mwyach godi digon o filwyr newyddion i wrthsefyll holl Ewrop; am hynny diorseddasant eu Hymerodr ac a wnaethant amodau heddwch â'u gwrthwynebwyr. Fe gytunodd Napoleon i ym— alltudio i Ynys Elba, ac yn ddi-oed fe esgynnodd Louis 'r Deunawfed i orsedd Ffrainc. Cyn pen hir fe glywodd Napoleon nad oedd y brenin hwn ddim yn rhyngu bodd i'r Ffrancod ymhopeth; ie, ef a glywodd fod y cynrychiolwyr oedd wedi ymgyfarfod yn Vienna i ad-drefnu map Ewrop ac i rannu'r ysbail wedi myned i ymdaeru â'i gilydd, a bod Ostria, Lloegr, a Ffrainc eisoes yn ymbaratoi i fyned i ryfel yn erbyn Prwsia a Rwsia. Yr oedd aelodau'r Gyngres ar fedr ymwahanu pan ddygwyd iddynt y newydd brawychus fod Napoleon wedi dianc o Elba ac wedi glanio'n ddiogel ar dueddau Ffrainc. Gresyn iddo fod mor frysiog, canys pe buasai fo wedi oedi dychwelyd hyd ryw fis ymhellach, fe a gawsai'r boddhad o weled prif alluoedd Ewrop yn rhy brysur yn ymladd â'i gilydd i allu ymyrryd ag ef. Dyma'r amryfusedd cyntaf a wnaeth Napoleon yng nghorff yr amser a elwir yn "gan niwrnod." Er cymaint oedd llid y galluoedd yn erbyn ei gilydd, yr oedd eu cenfigen yn erbyn Napoleon yn fwy; am hynny, hwy a benderfynasant ymheddychu â'i gilydd er mwyn ymuno ynghyd i ddarostwng yr hwn a alwai Siôr y Trydydd "the Corsican upstart," yr hyn o'i gyfieithu yw "conach Cors." Fe geisiodd Napoleon ganddynt adael iddo eistedd yn llonydd ar orsedd Ffrainc, ond ni fynnent hwy gymaint â derbyn ei genhadon. Penderfynu a wnaethant yn hytrach ddanfon miliwn o filwyr i ymosod ar Ffrainc o bob cyfeiriad, sef 260,000 o Ostriaid o dan lywyddiaeth Schwartzenberg; 170,000 o Rwsiaid o dan Barclay de Tolly; 150,000 o Brwsiaid o dan Blücher; 120,000 o bobl gymysg o dan Wellington, ynghyd â byddin— oedd eraill llai o'r Sbaen a'r Ital. Lloegr oedd yn dwyn y rhan fwyaf o'r baich yn y rhyfel hwn fel yn y rhyfeloedd o'r blaen, canys heblaw'r arian a wariodd hi i gasglu ac i gynnal ei byddin ei hun, hi a roddodd ddeuddeng miliwn o bunnau i gynorthwyo'r galluoedd eraill oedd mewn cynghrair â hi; a hynny, dealler, yn y flwyddyn 1815 yn unig. Y mae'r ddyled o fwy na chwe chan miliwn. yr aeth y deyrnas hon iddi yn ei hymdrech i adsefydlu brenhiniaeth etifeddol yn Ffrainc heb ei thalu eto, ac fe bery'r ddyled hon i fod yn orthrwm ar ein gwlad dros lawer o genedlaethau.

Ar ôl gweled nad oedd wiw iddo ddisgwyl am heddwch fe ymbaratôdd Napoleon i ryfel. Yr oedd ei anfanteision yn fawr, canys ar ôl ei gwymp yn Leipsig yr oedd popeth yn Ffrainc wedi myned i gyflwr didrefn. Yr oedd y wlad, o hir ymladd â holl Ewrop, wedi ei hysbyddu o filwyr cymwys i ryfel, ac yr oedd bellach fwy o hen filwyr Napoleon ym myddinoedd ei elynion nag yn ei fyddin ef ei hun. Yr oedd corff y genedl oddieithr y Fyddin wedi blino ar ryfel ac yn chwenychu heddwch. Yr oedd pleidwyr y frenhiniaeth eto'n lluosog yn y wlad ac yn dra gelynol i Napoleon, a chan fod y rhain yn Babyddion brwd, yr oeddent yn ei gasáu yn fwy o achos iddo ddwyn ymaith a charcharu'r Pab. Yr oedd pleidwyr y Weriniaeth hefyd agos mor wrthwynebol i'r Ymerodraeth ag oeddynt i'r Frenhiniaeth, ac er mwyn ennill cefnogaeth y rhain fe fu raid i Napoleon roi swydd uchel a phwysig i'r diegwyddor Fouché, yr hwn y buasai'n well gan yr Ymherodr ei saethu na'i anrhydeddu, am ei fod yn gwybod bod y Fouché hwn yn ymohebu'n fradwrus â Wellington a Metternich. Yr oedd amryw o'i hen swyddogion yn anfoddlon i'w wasanaethu o achos llw a wnaethant i'r Brenin Louis, ac nid oedd gan y milwyr fawr o ymddiried yn y rhan fwyaf o'r swyddogion a dorrodd eu llw er mwyn derbyn uchel swyddau drachefn o dan yr Ymherodr. Nid oedd neb yn amau nad oedd Ney yn hollol ddi- ragrith wrth gilio'n gyntaf oddi wrth yr Ymherodr at y Brenin, ac wrth gilio drachefn oddi wrth y Brenin at yr Ymherodr; ond yr oedd yr ymdeimlad o'i anwadalwch a'i anghysondeb wedi effeithio cymaint ar ei ymennydd ef ei hun fel y barnodd Napoleon hyd y funud olaf nad oedd yn ddiogel iddo ymddiried un rhan o'r fyddin i Ney yn yr ymgyrch bresennol. Er gwaethaf y rhwystrau hyn. ac eraill, fe wnaeth Napoleon bethau rhyfedd yng nghorff y byr amser a gafodd i ymbaratoi; canys. erbyn y ddeuddegfed o fis Mehefin yr oedd ganddo 250,000 o filwyr yn barod i ryfel ar gyffiniau Belg,. yr Almaen, yr Ital, a'r Sbaen. Ysywaeth, fe fu raid iddo ddanfon trigain mil o'r rhain i ddarostwng gwrthryfel a godasai'r Brenhinwyr yn y rhan o Ffrainc a elwir La Vendée. Dyma'r gyntaf o'r aml anffodion y cyfarfu Napoleon â hwynt yn ei hynt anffortunus i Belg. Oni buasai'r gwrthryfel hwn, fe fuasai'r fyddin Ffrengig oedd dan ei arweiniad ef yn fwy na'r gryfaf o'r ddwy fyddin wrthwynebol oedd yn sefyll agosaf i Ffrainc. Yn lle bod ganddo gan mil a hanner o filwyr yn croesi'r cyffiniau i Belg, nid oedd ganddo mwyach prin gant a chwarter o filoedd. Y mae'n wir fod y nifer hwn yn fwy na digon yn llaw Napoleon i orchfygu Blücher a Wellington ar wahân; ond pe buasai'r ddau hyn yn cyfuno eu byddinoedd ynghyd, yr oedd yn amheus, a dywedyd y lleiaf, a allesid eu gorchfygu yn yr amgylchiadau presennol; canys rhaid cofio nad oedd Napoleon ei hun mo'r dyn egnïol a fuasai cyn colli ei iechyd yn Rwsia, ac nad oedd ei fyddin chwaith ddim cystal ag y buasai hi gynt, ac nad oedd ganddo mwyach gynifer o swyddogion medrus ag a fuasai ganddo unwaith. Yr oedd Berthier, sgrifennydd ei orchmynion a phennaeth ei osgordd, wedi cefnu arno; felly hefyd yr oedd ei frawd-ynghyfraith Murat, pennaeth ei farchoglu; ac yr oedd Mortier, pennaeth ei warchodlu, wedi clafychu ar y ffordd. Yr oedd absenoldeb Mortier yn Waterloo agos mor bwysig ag absenoldeb Grouchy.

Er y byddai'n ormod dywedyd bod gan Blücher gystal milwyr ag oedd gan Napoleon, eto yr oedd ganddo y waith hon filwyr mwy profedig. Yr oedd milwyr Wellington ychydig yn llai eu nifer ac yn fwy anghyfartal eu gwerth na milwyr Blücher. Tramorwyr oedd y rhan fwyaf ohonynt o lawer; ac yr oedd y rheini oll, oddieithr yr Hanoferiaid, wedi bod yn ymladd am dymor o dan Faner Ffrainc. Bu hyn yn gymorth nid bychan iddynt i ymladd yn erbyn y Ffrancod yn y rhyfel hwn. Yr oedd yr Hanoferiaid hefyd yn filwyr deallus a phrofedig, canys yr oeddynt hwythau gan mwyaf wedi bod yn ymladd o dan Wellington yn y Sbaen. Yr oedd y bumed ran o'r fyddin oedd gan Wellington yn Belg yn Frytaniaid a Gwyddelod, ac er mai dynion anneallus ac anfoesol wedi eu cymryd o blith gwehilion y bobl oedd y rhain agos i gyd, eto yr oedd Wellington trwy ddisgyblaeth lem wedi eu gwneuthur yn ymladdwyr gwych. Yr oeddynt yn barod i ryfela yn erbyn pob gelyn oddieithr y cnawd a'r diafol, ac nid oedd arnynt ddim ofn marw cyhyd ag y caent ddigon o gigfwyd a chwrw a chysgu tra byddent yn fyw.

Cant a chwech o filoedd oedd nifer y milwyr oedd gan Wellington yn barod i gyfarfod â Napoleon. Ac arfer ffigurau crynion, dyma eu nifer yn ôl eu cenedl: 50,000 o Ellmyn, 29,000 o Fatafiaid (Is- Ellmyn) a Belgiaid, a 21,000 21,000 o Brydeiniaid a Gwyddelod. Fe welir felly mai ffôl o beth yw galw byddin Wellington yn fyddin Seisnig cymhwysach o lawer fyddai ei galw'n fyddin Ellmynnig; ie'n wir, yn fyddin o Ellmyn y dysgesid y rhan fwyaf ohonynt i ryfela gan Napoleon ei hun. Fe fu miloedd lawer o Brwsiaid hefyd yn ymladd unwaith o dan Faner Ffrainc, ond gwybydder nad Ellmyn yw'r Prwsiaid o ran gwaed na chymeriad, er eu bod ers talm o amser bellach yn siarad iaith yr Ellmyn.

Gair byr eto am y tri maeslywydd yn y rhyfel hwn. Yr oedd Blücher erbyn hyn yn ŵr penllwyd deuddeg a thrigain oed, ac er ei fod yn gweithio'n galed yn amser rhyfel, ac yn pechu'n galed yn amser heddwch, eto yr oedd o'n parhau i fod mor heini ac egnïol a'r llanc iachaf yn ei fyddin. Dyn gwrol hyd at fod yn ddibris ydoedd o. Efô, yn wir, oedd yr unig gadlywydd yn Ewrop nad oedd arno ddim o ofn Napoleon. Er i hwn roi curfa dost iddo lawer gwaith, eto nid oedd modd ei ddychrynu na'i ddigalonni. Yr oedd ei ddull rhydd a thadol yn ei wneud yn annwyl gan ei filwyr, ac nid oedd neb â chanddo gymaint o ddawn ag ef i danio eu hysbryd. Ond os Blücher oedd calon a llaw byddin Prwsia, Gneisenau oedd ei hymennydd, ac yr oedd Blücher ei hun yn ddigon gonest i addef hynny; canys pan oedd o unwaith mewn cyfeddach ym Merlin, ef a ddywedodd wrth ei gymdeithion, "Mi a wnaf yn awr beth na all neb ohonoch chwi ei wneud, canys chwi a'm gwelwch yn cusanu fy mhen fy hun," a phan oeddynt yn rhyfeddu pa fodd y gallai wneud y fath beth, ef a gododd ac a roes gusan i'w gyfaill Gneisenau, gan ddywedyd, "Dyma fy mhen i." Bryd arall, pan ddywedwyd wrtho fod Athrofa Rhydychen yn bwriadu ei raddio yn Ddoethor, fe atebodd yntau, "O'r gorau; ond os mynnant fy ngwneud yn Ddoctor, hwy a ddylent wneud Gneisenau yn ddrogydd (druggist); canys os mai myfi sy'n rhoddi'r pelennau, efô sy'n eu gwneuthur."

Yr oedd y Maeslywydd Wellington yn ddyn cwbl wahanol i Blücher o ran ei dymer, er ei fod o ran cyneddfau yn debycach i Blücher nag i Napoleon. Dyn pwyllog a thra gochelgar oedd o; ac er ei fod yn falch a phenderfynol iawn, eto nid oedd o un amser yn rhy falch i gilio rhag gelyn cryfach nag ef ei hun. Ond er y byddai fo'n fynych yn gwrthod brwydr, ni byddai fo byth yn ymroddi ar ôl ei derbyn. Fel ymladdwr amddiffynnol ar faes cyfyng yr oedd o'n ddiguro; ond yr oedd o'n rhy amddifad o ddychymyg i ragori fel ymladdwr ymosodol ar gylch eang. Y mae hyn yr un peth a dweud ei fod yn daethegwr—yn tactician rhagorol, ond ei fod yn stradegydd—strategist israddol. I allu cynllunio ymlaenllaw, y mae'n rhaid i ddyn allu gweled yr anweledig; a rhagoriaeth uchaf Wellington oedd gallu gweled yn eglur yr hyn oedd ger ei fron yn unig. I wneuthur cyfuniadau mawrion a llydain. cyn brwydr y mae'n rhaid wrth awen (genius), ac nid ydoedd gan Wellington ddim awen. Er bod y gwŷr cymhwysaf i farnu yn addef iddo wneud camgymeriadau pwysig yn yr India, yn y Sbaen, ac ym Melg hefyd; eto, trwy ryw ddamwain neu'i gilydd, ni ddioddefodd fawr o niwed oddi wrth y camgymeriadau hynny; ac oblegid hyn y cyfrifid ef yn ei ddydd y maeslywydd mwyaf ffortunus yn Ewrop. Ni ellir ei osod ef gyda Napoleon a Hannibal yn y rhes flaenaf o gadlywyddion, na chwaith gyda Turenne a Marlborough yn yr ail res, ond y mae agos pawb yn barod i'w osod gyda Ffredrich Fawr a Moltke ar ben y drydedd res.

Y mae'n hysbys nad oedd Wellington, o achos oeredd ei natur, ddim mor hoff gan ei filwyr a'i swyddogion ag oedd Napoleon a Blücher; er hynny, yr oedd ganddynt barch mawr iddo, a llawer iawn o ymddiried ynddo.

Odid na welodd pob un ohonoch ddarlun ohono o'i ysgwyddau i fyny. Y dyn tebycaf a fu erioed i John Elias, os nad yw darlun John Elias yn un dychmygol ac anghywir fel y darlun genethig a wnaed o Williams, Pant-y-celyn. Pen hirgul a thalcen cyfyng; llygaid pŵl yn edrych yn union ar eu cyfer; arleisiau isel a bochgernau uchel; trwyn mawr crwm fel trwyn Rhufeiniwr, a gên oedd yn hwy na'i drwyn. Ei enau oedd yr unig ran o'i wyneb oedd yn weddol Roegaidd. Y mae'r holl bethau hyn gyda'i gilydd yn dangos bod ganddo ewyllys gref a chydwybod fawr, ond ei fod yn pallu mewn crebwyll a chydymdeimlad; fod ganddo fwy o ddawn i ddirnad nag i amgyffred; hynny ydyw, fod ei feddwl yn hytrach yn gryf nag yn eang. Ar air, y mae'r wyneb yn peri ichwi synio'n dda am y dyn; ond nid oes ynddo ddim swyn na dim dirgelwch—dim i'ch tynnu i syllu arno'n ddi-baid fel ar wyneb Napoleon. Yr ydych yn gweled y cwbl sydd ynddo ag un drem, ac yna'n myned rhagoch at eich gorchwyl gan ddywedyd mai Gwyddel gwych oedd Wellington.

Hwyrach y byddai'n fuddiol imi chwanegu mai yn yr un flwyddyn â Napoleon y ganed ef, ac mai mewn ysgol filwrol yn Ffrainc yr addysgwyd yntau'n bennaf; ond ni ragorodd o mewn dim heblaw gwybodaeth o'r Ffrangeg. Dyn go ddwl y cyfrifid ef yn ei ieuenctid, ond fe gyfrifid ei frawd Richard yn ddyn disglair iawn. Oni buasai i hwn, trwy ei fawr ddylanwad yn y Llywodraeth, ddyrchafu ei frawd iau i swydd anrhydeddus yn y Fyddin, fe fuasai Arthur, Duc Wellington, wedi gadael ei wlad mewn digalondid, a threulio'i fyd fel masnachwr yn yr Amerig. Fe ddylai llwyddiant Wellington beri cysur i bob bachgen pendew.

Am Napoleon, ni ellir dweud ei fod ef mor gydwybodol â Wellington, nac mor onest â Blücher chwaith; ond o ran ei deithi meddyliol yr oedd o gymaint uwch na hwynt—hwy ag ydyw'r bardd na'r prydydd. Ni allasai un o'r ddau hyn orchfygu tair rhan o bedair o holl Ewrop, a'u cadw am gyhyd o amser dan ei droed. Ni allasai un ohonynt wneud ei wlad mor waraidd ac mor llwyddiannus â Ffrainc yn ystod yr amser pan oedd Napoleon yn bennaeth y Weriniaeth ac yn bennaeth yr Ymerodraeth. Ni allasai ac ni fynasai un ohonynt hwy roddi i'w wlad ddeddfau mor syml ac mor deg â'r rhai sy'n sgrifenedig yn y Code Napoléon. Ni allasai un ohonynt chwaith, heb ymddrysu, ymddiddori ymhob rhyw beth yr oeddid yn ei ddysgu, yn ei ddyfeisio, ac yn ei wneuthur yn ei wlad ei hun ac ym mhob gwlad arall. Ond er bod Napoleon yn ddyn mawr, yr oedd ynddo gryn lawer o'r plentyn hefyd; neu'n hytrach, o eneth wedi ei difetha gan ei mam. Gwên angel oedd ganddo fo pan fyddai fo'n gwenu, a chuwch cythraul oedd ganddo pan fyddai fo'n cuchio. Yr oedd ei wyneb cyn ystwythed â maneg; ac fe ellid darllen arno ei deimladau o bell. Yr oedd o'n rhy dymherog ac yn rhy sydyn ei symudiadau i ymddangos yn urddasol bob amser ac ymhobman. Er hyn oll, yr oedd y fath swyn yn ei olwg ac yn ei lais fel yr oedd o'n gwirioni ei filwyr; ac fe gyfrifid ei bresenoldeb ef yn eu plith yn gyfartal â deugain mil o wŷr. Er ei fod yn ddiofal iawn am fywyd ei filwyr, eto'r oedd o'n bur ofalus am eu cysur a'u llwyddiant; ac fe daera rhai mai o achos iddo ymdroi gormod i ymweled â'r clwyfedigion. ar faes Ligny y collodd o'r frwydr yn Waterloo. Y mae'n anodd iawn credu y buasai fo mor garedig gan ei filwyr pe buasai fo mor ddideimlad ag y dywed rhai ei fod. Pan fyddai fo'n dyfod i'r golwg, nid peth anghyff— redin o gwbl fyddai gweled rhywbeth tebyg i'r hyn a welwyd ar faes Waterloo, sef milwr clwyfedig â'i fraich yn hongian gerfydd un neu ddau o'r gewynnau, ac yntau'n ei thynnu ymaith oddi wrth ei gorff, ac yn ei thaflu i fyny i'r awyr gan lefain, 'Byw byth fo'r Ymherodr!

Y mae'n sicr fod pob un ohonoch wedi gweled darlun o Napoleon; ond a welsoch chwi ddarlun da ohono? Os gwelsoch, nid anghofiwch mono byth. Dyn bychan o gorffolaeth, ac iddo ben mawr a gwddf byr. Go denau pan oedd yn ieuanc, a go dew yn ganol oed. Wyneb moel, clasuraidd ei doriad, yn dangos ei fod yn hanfod o'r hen Roegiaid. Pryd gwelw, ac arno wawr felynaidd. Talcen uchel a llydan, a'i waelod yn ymdaflu allan dros ddau lygad llawn—dau lygad oedd weithiau'n befr ond nid yn deryll; ac weithiau braidd yn gibog ond nid yn llym chwaith, eithr hytrach yn ddwys, ac fel pe buasent yn edrych ar bawb ar yr un pryd, ac yn cyniwair trwy'r ddaear a thrwy amser, draw, draw, i ber— feddion tragwyddoldeb. Trwyn syth, heb fod yn fain nac yn drwchus; a gwefusau lluniaidd odiaeth fel pe baent wedi eu naddu â chŷn Phidias. Ar air, yr oedd o'n gyfryw ddyn, fel pan welid ef yn myned heibio, y dywedai mamau'r Cyfandir wrth eu plant, Wele'r dyn," neu "Dacw fo." Nid oedd raid i neb ddywedyd, "Wele'r Ymherodr," neu "Dacw Napoleon."

Pan oedd o'n ieuanc yn yr ysgol nid oedd o'n ddwl nac yn ddisglair chwaith. Mewn mesuroniaeth a hanesyddiaeth yn unig yr oedd o'n rhagori. Fe wyddai ei athrawon bod ynddo lawer o allu cuddiedig, ond gan ei fod yn llencyn ymgilgar a thawedog, fe fuasai'n rhyfedd iawn gan ei gyd— ysgolheigion glywed rhywun yn proffwydo mai Bonaparte bach o Ynys Cors fyddai, cyn pen ychydig flynyddoedd, y gŵr enwocaf yn yr holl fyd.

Cyn imi ymdroi i sôn am y tri maeslywydd yn rhyfel byr y flwyddyn 1815, mi a ddywedais fod Napoleon wedi gyrru byddinoedd i amddiffyn Ffrainc o du'r de a'r dwyrain, ac wedi dwyn ei fyddin ogleddol, sef ei brif fyddin, hyd yn agos gyffiniau Belg erbyn y deuddegfed o fis Mehefin. Ef a wnaeth hyn yn gyflym ac yn ddirgel odiaeth, fel na wyddai Blücher a Wellington pa bryd nac ymha fan y croesai fo'r cyffiniau er mwyn ymosod arnynt. Yn wir, yr oedd yn anodd ganddynt gredu y beiddiai fo ymosod arnynt o gwbl hefo byddin oedd agos yn llai o'r hanner na'u byddinoedd hwy; ond os gwnâi o hynny, yr oedd Wellington yn barnu mai ymosod a wnâi o'n gyntaf ar ei fyddin ef yng ngogleddbarth Belg, a Blücher yntau'n barnu mai ymosod a wnâi o'n gyntaf ar ei fyddin ef yn neheu— barth Belg. Ond nid oedd Napoleon yn bwriadu gwneud y naill beth na'r llall, na dim arall a fyddai'n foddion i wthio'r naill fyddin i freichiau'r llall. Ei fwriad ef yn hytrach oedd rhuthro ar y fan lle yr oedd asgell aswy byddin Wellington yn ym gyffwrdd ag asgell dde byddin Blücher, er mwyn eu gwahanu oddi wrth ei gilydd, ac yna ymosod hefo'r rhan fwyaf o'i fyddin ar y Prwsiaid, tra byddai fo a'r rhan leiaf o'i fyddin yn atal Wellington rhag eu cynorthwyo hwynt; ac yna ar ôl gorchfygu Blücher, troi a dinistrio Wellington—oni lwyddai hwn i ffoi rhagddo mewn pryd. Er mwyn cwblhau'r cynllun hwn fe ddarfu i Napoleon ar fore'r pymthegfed o Fehefin groesi'r afon Sambre gyferbyn â Charleroi, ac o Charleroi ef a arweiniodd gorff ei fyddin tua'r gogledd-ddwyrain yng nghyfeiriad Namur lle'r oedd pencadlys Blücher; ac a yrrodd adran ohoni o dan lywyddiaeth Ney tua'r gogledd yng nghyfeiriad Brüssel lle'r oedd pencadlys Wellington, er mwyn iddo ef a Ney feddiannu'r groesffordd fawr sy rhwng Sombreffe a Quatre Bras, ac felly, dorri'r cymundeb rhwng Blücher a Wellington. Yr ydys yn cydnabod bod cynllun Napoleon a'i holl gyfuniadau cyffredinol y rhai gorau a allesid eu dychmygu ac yn gwbl deilwng o'i awen, ac o'r tu arall y mae pob beirniad cymwys a di—ragfarn hyd yn oed ymhlith y Prwsiaid a'r Saeson yn addef bellach fod trefniadau Blücher a Wellington y rhai gwaelaf a allesid eu gwneuthur, ac nad oes fawr o ddiolch iddynt hwy am na ddinistriwyd eu byddinoedd yn llwyr ar yr unfed dydd ar bymtheg o Fehefin, ac am na buasai Napoleon drannoeth yn Brüssel yn ôl ei arfaeth. Yn un peth, yr oedd eu byddinoedd yn rhy wasgar— edig o lawer, ac am hynny ni ellid eu crynhoi ynghyd mewn byr amser. Peth arall, yr oeddynt yn sefyll yn rhy agos i gyffiniau Ffrainc, ac am hynny yr oedd yn rhaid iddynt ymgrynhoi megis o dan ynnau'r Ffrancod. Er bod cynllun Napoleon yn berffaith, ni allwyd ei gwblhau yn hollol, canys y diwrnod cyn i Napoleon groesi i wlad Belg fe ddarfu i ddau o'i brif swyddogion oedd yn eu calon yn bleidiol i'r Brenin Louis adael y fyddin a myned drosodd at y Prwsiaid a datguddio iddynt gymaint ag a wyddent o fwriad yr Ymherodr. Fe roes hyn gyfleustra i'r llu o Brwsiaid oedd yn gwylio'r cyffiniau o dan y Cadlywydd Ziethen i arafhau cerddediad y Ffrancod ar hyd y ffyrdd culion sy'n arwain i Fleurus, ac amser i Blücher i gasglu ynghyd 88,000 o'i fyddin i ymyl pentref Ligny, yr hwn sydd o flaen Sombreffe. Fe ddanfonodd Blücher y newydd yn ddi-oed i Wellington, ac a ddymunodd arno frysio i grynhoi ei fyddin ac i ymwasgu at asgell dde ei fyddin ef gerllaw Ligny, er mwyn iddynt ill dau gydosod ar Napoleon. Ond ni fynnai Wellington gredu bod cyrch Napoleon yn y cyfeiriad hwnnw, ac am hynny ateb a wnaeth o na byddai'n ddiogel iddo orchymyn i'w filwyr ymdeithio tua Ligny hyd oni châi o chwaneg o sicrwydd. Fe ddanfonodd Blücher ato eilwaith i ddywedyd nad oedd dim amheuaeth nad oedd y rhan fwyaf o'r fyddin Ffrengig wedi croesi i Belg yng nghymdogaeth Charleroi, a'i fod ef yn bwriadu ei gwrthsefyll yn Ligny. Ar ôl derbyn y genadwri hon, fe orchmynnodd Wellington i ran o'i fyddin symud hyd i Nivelles, ond nid cyn belled â Quatre Bras a Ligny. Y mae'n ddiamheuol y buasai'n well gan Wellington oedi cyfarfod â Napoleon hyd oni buasai'r Ostriaid a'r Rwsiaid wedi cyrraedd Rhein. Ar ôl colli tair awr ar ddeg i betruso ac i ymesguso, fe roed math o orfod arno i symud yn nes at Blücher trwy i ddau gadlywydd tramor oedd yn ei fyddin, sef Saxe— Weimar a Perpoucher, gymryd saith mil o Felgiaid, Batafiaid, ac Ellmyn, o Nivelles heb ganiatâd Wellington, er mwyn meddiannu pedair croesffordd Quatre Bras. Ymddygiad anturus y rhain a gadwodd y sefyllfa bwysig honno rhag syrthio i ddwylo rhagfilwyr y fyddin Ffrengig. Cyn gynted ag y bu'n wiw gan Napoleon roi swydd i Ney yn ei fyddin, ef a ymddiriedodd iddo fintai gref o filwyr, gan orchymyn iddo ysgubo popeth oddi ar ei ffordd yn Quatre Bras, ac yna ar ôl gadael rhai o'i wŷr i feddiannu'r lle, brysio gyda'r lleill ar hyd ffordd Namur er mwyn ymosod ar gefn ac asgell aswy'r Prwsiaid, tra byddai fo'n ymosod arnynt o'r tu blaen. Fe fuasai'n hawdd iawn i Ney wneud hynny pe buasai fo'n debyg iddo'i hun; ond am y rheswm a grybwyllais o'r blaen, yr oedd o yn y rhyfel hwn yn hollol ffwndrus, gan ei fod yn gweithredu weithiau yn rhy arafaidd ac weithiau yn rhy frysiog. Wrth weled milwyr yn yr adeiladau, yn y coed, a thu ôl i'r cloddiau, yn Quatre Bras, fe dybiodd o fod holl fyddin Wellington o'i flaen; ac am hynny ef a oedodd ddechrau brwydro hyd oni chyrhaeddai chwaneg o'i adnoddau; ac ar ôl dechrau ymladd, ymladd yn llesg a gochelgar iawn a wnaeth o, fel pe buasai arno ofn syrthio i fagl. Fe roes hyn gyfle i Wellington, o ganol y prynhawn ymlaen, i ddwyn mintai ar ôl mintai o Brüssel, fel yr oedd ganddo cyn nos gymaint ddwywaith o wŷr ag oedd gan Ney, er bod gan Ney cyn dyfodiad Picton gymaint ddwywaith o wŷr ag oedd gan Dywysog Oranje, yr hwn oedd yn llywyddu cyn dyfod Wellington i'r maes. Pe buasai Ney wedi ymladd mor benderfynol yn erbyn yr ychydig ag y darfu iddo yn niwedd y dydd ymladd yn erbyn y llawer, ef a allasai fod wedi meddiannu Quatre Bras cyn i gymaint ag un Brytaniad gyrraedd y lle, ac wedi gallu cynorthwyo Napoleon i lwyr ddifetha'r Prwsiaid. Fe ddigwydd odd peth arall pur anffodus i'r Ffrancod ar y diwrnod hwn; yr oedd Napoleon yn ddoeth iawn wedi gosod y Cadlywydd D'Erlon gyda phum mil ar hugain o filwyr o'r tu ôl, megis trydydd troed stôl, yng nghyrraedd y ddwy fyddin Ffrengig, er mwyn iddi fod yn barod i gyfnerthu'r naill neu'r llall pan fyddai gwir angen am hynny. Wrth weled nad oedd Ney wedi dyfod i ymosod ar y Prwsiaid o'r tu cefn, fe ddanfonodd yr Ymherodr orchymyn i D'Erlon wneud hynny; ond cyn i hwn gyrraedd y Prwsiaid, ef a gafodd genadwri arall oddi wrth Ney yn dymuno'n daer arno ddyfod i'w gynorthwyo ef, am nad oedd ganddo mwyach prin ddeunaw mil o wŷr i ymladd yn erbyn deugain mil Wellington. Rhag ofn bod Ney mewn perygl, fe ymdeithiodd D'Erlon tua Quatre Bras, ond erbyn iddo gyrraedd yno yr oedd y nos wedi terfynu'r frwydr, a Ney wedi encilio i'r wersyllfa yr oedd o ynddi cyn dechrau ymosod. Felly, fe fu pum mil ar hugain D'Erlon yn ymdeithio yn ôl ac ymlaen y prynhawn hwnnw heb danio un ergyd i gynorthwyo Ney na Napoleon. Pe buasai Ney wedi galw amdano ynghynt, neu wedi peidio â galw amdano pan oedd o ar fedr amgau'r Prwsiaid, fe fuasai goruchafiaeth Napoleon y diwrnod hwnnw yn llwyrach o lawer. Er hynny, ef a gwblhaodd ei amcan mewn rhan; canys ef a orchfygodd y Prwsiaid yn dost, ac er na lwyddodd Ney i orchfygu'r fyddin gyfunol yn Quatre Bras, fe lwyddodd yntau i'w rhwystro hi i gynorthwyo'r Prwsiaid. Yr oedd Wellington wedi addo bod yn Ligny erbyn pedwar o'r gloch, ond ni chafodd o gyrraedd yno o gwbl; a chan fod y Prwsiaid wedi eu cilgwthio o Ligny, fe fyddai Napoleon ei hun drannoeth ar dir i gilgwthio Wellington o Quatre Bras. Brwydr waedlyd iawn oedd brwydr Ligny; canys fe gollodd y Prwsiaid tuag ugain mil o wŷr, ac fe gollodd y Ffrancod ddeng mil. Tua chwe mil a gollodd Wellington yn Quatre Bras, ac ychydig dros bedair mil a gollodd Ney. Rhagoriaeth eu magnelwyr a'u marchogion a alluogodd y Ffrancod i beri cymaint o golled i'w gwrthwynebwyr.

Ar ôl brwydr Ligny fe ddychwelodd Napoleon i'w bencadlys yn glaf, ac a aeth i'w wely heb roi dim cyfarwyddiadau i'w swyddogion. Naw ar gloch bore drannoeth ef a aeth mewn cerbyd i weled maes y gad am ei fod yn rhy wael i farchogaeth. Er bod cysuro'r clwyfedigion yn waith da yn ddiau, eto y mae'r rhan fwyaf yn beio Napoleon am wneud hynny ar fore pan oedd pob munud o amser mor werthfawr iddo; ac yn ei feio'n enwedig am na ddanfonasai fo ran o'i fyddin dan Grouchy i ymlid y Prwsiaid yn gyntaf dim yn y bore; a rhai yn ei feio am ddanfon Grouchy o gwbl yn lle danfon cadlywydd iau a bywiocach. Y mae'n sicr na buasai fo, er gwaethaf ei afiechyd, ddim mor ymarhous pe gwybuasai fo fod y Prwsiaid, yn lle encilio'n anhrefnus tua'r de-ddwyrain i Namur, yn encilio'n weddol drefnus tua'r gogledd-ddwyrain i Wavre, a bod corfflu newydd o Brwsiaid o dan Bülow wedi ymuno â hwynt ar y ffordd. Gan fod y rhan fwyaf o'r Ellmyn a oedd ym myddin y Prwsiaid wedi ffoi yn ystod y nos tua Namur, fe dybiodd Napoleon mai tuag yno yr aethai'r holl fyddin. Yr oedd hi'n brynhawn yr eilfed dydd ar bymtheg pan gafodd Grouchy orchymyn i gymryd 34,000 o wŷr i ymlid ac i wylio'r Prwsiaid gorchfygedig, ac yr oedd hi'n brynhawn pan gychwynnodd Napoleon i Quatre Bras. Yr oedd hi'n ddeg o'r gloch y nos pan wybu Grouchy fod rhan o'r fyddin Brwsiaidd wedi myned tua Wavre, ond pe gwybuasai fo'r cwbl, yr oedd yr holl fyddin wedi cyrraedd yno erbyn hynny; ac felly yr oedd hi ar y ffordd i Brüssel oedd yn gyfochrol â'r ffordd oedd yn myned o Quatre Bras i Brüssel trwy Waterloo a thrwy ganol coedwig Soignes. Ar hyd y ffordd olaf hon yr enciliodd Wellington a'i lu ar ôl iddo glywed am orchfygiad ac encil y Prwsiaid. Fe hysbyswyd iddo fod Blücher yn bwriadu crynhoi ei filwyr yn Wavre, ddeuddeng milltir o du'r dwyrain i Waterloo, ac fe ddanfonodd yntau gennad i hysbysu Blücher y gwrthsafai fo Napoleon ym Mont St. Jean o flaen Waterloo tan yr amod bod Blücher yn addo anfon dau gorfflu o bum mil ar hugain i'w gynorthwyo. Fe atebodd Blücher y deuai o i'w gynorthwyo, nid â dau gorfflu yn unig, eithr â'i holl fyddin. Nid oes eisiau dweud yr enciliasai Wellington o Waterloo fel yr enciliodd o o Quatre Bras pe nad addawsai Blücher ymuno ag ef. Y mae'n iawn dweud hefyd na buasai Blücher chwaith, er mor feiddgar oedd o, ddim wedi addo dynesu at Wellington ar draws y wlad o Wavre, pe gwybuasai fo fod Napoleon wedi danfon Grouchy ar ei ôl; canys fe fuasai'n hawdd i hwn groesi ei lwybr a'i atal dros hir amser yn y mynedfeydd culion sy rhwng Wavre a Waterloo. Yr oedd penderfyniad Blücher a Wellington i ymuno yn Waterloo yn eu gosod mewn sefyllfa fwy peryglus nag yr oeddynt ynddi ar yr unfed dydd ar bymtheg; ie'n wir, yn yr un sefyllfa yn union ag yr oedd y Prwsiaid ynddi ym mrwydr drychinebus Jena. Erbyn hyn, y mae agos pob sgrifennydd milwrol yn condemnio eu cynllun a'u cadlywyddiaeth, er eu bod yn addef bod llwyddiant yn cuddio lliaws o ddiffygion. Pa waeth, ebe un, eu bod wedi anghofio elfennau cyntaf milwriaeth—" though they blundered, they blundered into victory"; ac y mae'r fuddugoliaeth honno i'w phriodoli i ddaear laith Waterloo, ac yn bennaf oll i amryfusedd cadarn Grouchy.

Dychwelwn bellach at Napoleon. Erbyn iddo gyrraedd Quatre Bras, yr oedd byddin Wellington, oddieithr y gwŷr meirch, wedi myned ymaith. Fe ymlidiodd y Ffrancod ar ôl y rhai hyn hyd i Genappe ac ymhellach, ond ni allasent wneud llawer o niwed iddynt gan iddi ddyfod yn law taranau anghyffredin. Gwnaeth hwn y ffordd fel afon, a'r meysydd o'i deutu fel siglen. O achos yr anhawster i deithio yr oedd hi agos yn nos pan gyrhaeddodd y fyddin Ffrengig y tir llechweddog oedd yn wynebu gwersyllfa byddin Wellington ar ucheldir Mont St. Jean. Yr oedd hi o hyd yn glawio'n drwm, a pharhau i lawio a wnaeth hi hyd bump ar gloch y bore, fel y bu raid i'r milwyr, druain, orffwys ar y ddaear ddyfrllyd ynghanol yr ŷd gwlyb. Fe gafodd y prif swyddogion le i ymlechu ym mhentref Planchenoit oedd o'r tu ôl i'r fyddin, ac yn yr ychydig dai oedd gyda'r ffordd fawr. Nid oedd cyflwr y cyfunoliaid yn llawn mor druenus, am eu bod hwy ar dir uwch a sychach, ac mewn ardal â mwy o dai ynddi. Heblaw hynny, yr oeddent hwy bellach yn agosach i'r storfeydd yn Brüssel, fel y cawsant hwy well swper a gwell borefwyd na'r Ffrancod.


Pan oleuodd bore tarthog y deunawfed dydd o Fehefin, fe welodd y Ffrancod eu bod yn gwersyllu ar lechwedd tua milltir a hanner ei hyd a oedd yn disgyn yn raddol i bantle nad oedd ond prin yn ddigon llydan i'w alw'n ddyffryn, nac yn ddigon dwfn i'w alw'n lyn. Yn gyfarwyneb â'r llechwedd, ac o du'r gogledd i'r pantle, yr oedd trum, yr hwn oedd uwch a serthach tua'i ben gorllewinol na thua'i ben dwyreiniol. Y pryd hwnnw, yr oedd o'n uwch o gryn dipyn, ac yn serthach o lawer, nag ydyw o'n awr ar ôl gwneud y domen sydd arno. Ar hyd ael y trum hwn, yr oedd magnelau'r fyddin gyfunol, ac mewn pant lled gysgodol y tu hwnt i'r magnelau yr oedd corff y fyddin. Yn rhedeg yn gyfochrol â llinell y magnelau, ychydig o'i blaen, yr oedd ffordd gul a oedd y pryd hwnnw'n ddofn a gwrychiog, yr hon oedd i wasanaethu yn lle ffos i rwystro ac i anhrefnuso'r marchoglu ymosodol. O flaen pen gorllewinol y trum, sef o flaen asgell dde'r fyddin gyfunol, yr oedd Plas neu Gastell Goumont, a elwir weithiau'n Hougomont, yn cynnwys amryw adeiladau cedyrn, a pherllan, a choedwig; ac ynddynt yr oedd deunaw cant o Frytaniaid ac Ellmyn. Gyferbyn â chanol y fyddin rhwng pen a throed y bryn ac ar ymyl gorllewinol y ffordd fawr i Brüssel yr oedd fferm La Haye Sainte, yn yr hon yr oedd rhai cannoedd o Hanoferiaid. Gyferbyn ag asgell aswy'r fyddin yr oedd ffermydd Ter la Haye a Papelotte, yn llawn o filwyr Ellmynnig, Is-Ellmynnig a Belgaidd. Y mae'n amlwg i bawb fod sefyllfa'r fyddin yn un gadarn odiaeth, ac yn un anodd iawn i'w goresgyn mewn byr amser; ond y mae'r rhan fwyaf yn dweud ei bod yn sefyllfa anfanteisiol iawn i ymgilio ohoni pe digwyddasai i'r fyddin gael ei gorchfygu. Yr oedd milwyr Wellington wrth godi eu pennau uwchlaw'r trum a'r cloddiau yn gallu gweled holl fyddin Napoleon yn sefyll yn drefnus ar y llechwedd noeth a oedd o'u blaen; ac fe ddywedir na welwyd erioed fyddin harddach o ran gwisgiad ac arfogaeth. Yr oedd y fyddin cyn dechrau symud wedi ei threfnu'n dair llinell, y naill linell y tu ôl i'r llall ac yn fyrrach na'r llall; fel yr oedd hi'n debyg ei llun i wyntell. Reille oedd yn rheoli'r asgell aswy, yr hon oedd gyferbyn ag asgell dde'r fyddin gyfunol o dan y Cadlywydd Seisnig Hill. D'Erlon oedd yn rheoli'r asgell dde, yr hon oedd gyferbyn ag asgell aswy'r fyddin gyfunol o dan Picton a Kempt. Napoleon ei hun oedd yn rheoli craidd neu ganol y fyddin, a'r Tywysog Oranje oedd yn rheoli craidd y fyddin gyfunol.

I'r rhai na welodd faes y frwydr, hwyrach y dyry darluniad Victor Hugo eglurach syniad amdano na'm darluniad i, ac na darluniad neb arall. Y mae o'n peri i'r darllenydd feddwl am y llythyren A, wedi ei rhoi i orwedd ar lawr â'i phwynt yn cyfeirio i'r gogledd. Y mae coes dde'r llythyren yn dynodi'r ffordd o Nivelles, a'i choes aswy yn dynodi'r ffordd o Genappe; y llinell groes sydd ar ei thraws yn dynodi'r ffordd gau rhwng pentref Ohain a Braine l'Alleud; blaen y llythyren yn dynodi Mont St. Jean lle'r oedd Wellington; pen y goes orllewinol yn dynodi Hougomont, a phen y goes ddwyreiniol yn dynodi La Belle Alliance lle'r oedd Napoleon. Ar ganol y llinell groes hon y bu'r ymosod mwyaf penderfynol, a cheisio ennill y sefyllfa dri—onglog oedd rhyngddi hi a blaen y llythyren oedd diben yr ymosod hwnnw. Dealler nad oedd y ddwy fyddin ddim i gyd o fewn y ddwy ffordd y mae dwy goes y llythyren yn eu dynodi, canys yr oedd esgyll y ddwy fyddin yn ymestyn drostynt ymhell. Yn wir, yr oedd La Belle Alliance ar ffordd Genappe yn hytrach ynghanol byddin ôl Napoleon nag ar ei chwr.

Y mae ychydig o wahaniaeth barn rhwng yr awdurdodau am rifedi'r ddwy fyddin. Fe ddywed hanesyddion Ffrainc mai 68,000 o filwyr oedd gan Napoleon, a bod gan Wellington 75,000; ac fe ddywed prif hanesyddion Prydain a'r America mai 68,000 neu 70,000 oedd gan Wellington, a bod gan Napoleon 72,000 o leiaf.[1]

Credu yr wyf i mai'r rhai olaf sydd gywiraf yn hyn o beth; er hynny, y cwbl sy sicr ydyw na allai byddin Napoleon ddim bod yn fwy na 72,000, ac na allai byddin Wellington ddim bod yn llai na 68,000. Felly, ac arfer rhif cofadwy, oddeutu deng mil a thrigain oedd nifer pob un o'r ddwy fyddin. Ond am ychydig iawn o amser y bu'r ddwy fyddin yn ogyfartal; canys yn fuan ar ôl i'r frwydr ddechrau fe fu raid i Napoleon anfon deng mil o filwyr i wrthsefyll y Prwsiaid oedd yn ymosod ar ei gefn a'i asgell aswy; a phan gyrhaeddodd y rhain i'r maes hanner awr wedi pedwar ar gloch fe fu raid iddo rannu ei fyddin yn ddwy—y naill i wynebu'r fyddin gyfunol o du'r gogledd, a'r llall i wynebu'r fyddin Brwsiaidd o dan Bülow. Y mae pawb yn cytuno yn hyn o beth, sef bod gan Napoleon fwy o farchogion ac o fagnelwyr nag oedd gan Wellington, a bod gan Wellington fwy o wŷr traed nag oedd gan Napoleon.

Y mae rhai yn beio ar Napoleon am na buasai fo wedi dechrau'r frwydr yn foreach, a cheisio dymchwelyd y fyddin gyfunol cyn i'r Prwsiaid ddyfod ar ei warthaf, ond y mae'r rhain yn anghofio nad oedd Napoleon ddim yn disgwyl y Prwsiaid; am nad oedd o wedi ei rybuddio eu bod yn agos gan y cadlywydd a ddanfonesid i'w gwylio. Gan ei fod wedi gorchymyn i Grouchy ymgadw mewn cymundeb ag asgell dde ei fyddin ef, yr oedd yn fwy naturiol iddo ddisgwyl Grouchy na disgwyl y Prwsiaid.

Yr oedd ganddo ddau reswm am oedi dechrau'r frwydr hyd yr hanner awr olaf o'r bore. Yn un peth: Gan fod miloedd lawer o'r milwyr oedd ym myddin Wellington wedi bod yn ymladd unwaith dan ei Faner ef, ac o hyd yn bleidiol iddo yn eu calon, yr oedd o'n disgwyl i'r rheini gilio ato; a chilio a wnaethent yn ddiau oni buasai i Wellington eu cymysgu â milwyr ffyddlonach. Peth arall; a dyma'r rheswm pwysicaf: nid oedd y tir wedi sychu digon i fod yn llawr cymwys i wŷr meirch ac i fagnelau symudol; a chofier mai yn y pethau hyn yr oedd nerth Napoleon; er y buasai'n well iddo wrth fwy o wŷr traed ar ddiwrnod fel hwnnw. Yr oedd hi, gan hynny, o fewn hanner awr neu lai i hanner dydd pan roes yr Ymherodr Napoleon arwydd i ddechrau'r frwydr.

Ei gynllun oedd cymryd yn gyntaf oll yr adeiladau diffynedig oedd yn sefyll o flaen y fyddin gyfunol, ac yna hollti ei chanol a throi ei hasgell aswy. Yr ydys yn cydnabod bod y cynllun cyffredinol hwn y gorau a allesid ei ddychmygu; ond yr ydys yn addef hefyd na ddangosodd Napoleon erioed cyn lleied o ynni a medr i weithio ei gynllun allan. Yr ydys yn cynnig tri rheswm am hyn. Y blaenaf yw bod Napoleon yn dibrisio medr ei wrthwynebwr Wellington trwy dybied y gallai fo'n hawdd orfod arno trwy nerth braich yn unig, heb ymdrafferthu i ystrywio dim. Yr ail yw, bod dyfodiad disymwth y Prwsiaid wedi drysu ei gynllun cyntaf, ac wedi ei demtio i ruthro ar y fyddin gyfunol cyn ei gwanhau yn ddigonol â thân ei fagnelau. Y trydydd yw, ei fod yn rhy glaf i farchogaeth nemor er mwyn gweled â'i lygad ei hun pa beth yr oedd ei swyddogion yn ei wneud yng nghyrrau eithaf y maes. Y mae'n hysbys ei fod dros y rhan fwyaf o'r diwrnod hwnnw yn eistedd ar gadair rhwng La Belle Alliance a Rossomme, â'i bwys ar fwrdd a osodesid o'i flaen. [2] Oherwydd y pethau hyn, ni allodd Napoleon gyflawni ei holl fwriad. Ef a lwyddodd, y mae'n wir, i gymryd ffermydd Papelotte, Ter la Haye, La Haye Sainte; ac i feddiannu coedwig a pherllan a gardd Castell Hougomont hefyd; ond ni allodd o gymryd y castell ei hun, na'r ffermdy, na'r adeiladau eraill oedd ynglŷn ag ef; ac fe gollodd filoedd o filwyr wrth geisio ei gymryd. Gan fod Hougomont y pryd hwnnw yn guddiedig gan goed, nid oedd modd i Napoleon weled o'r fan lle yr oedd o pa mor gadarn oedd y lle. Pe na buasai fo'n dioddef cymaint gan glwyf y marchogion a dolur y garreg, diau y buasai fo wedi marchogaeth hyd yno, ac wedi atal ei filwyr penboeth rhag colli eu gwaed yn ofer, trwy orchymyn iddynt ymfoddloni ar gadw meddiant o'r goedwig a'r berllan, neu ynteu trwy orchymyn i Kellerman ddinistrio'r adeiladau â magnelau. Er y buasai meddiannu Hougomont yn fanteisiol iawn i Napoleon, ac yn ddinistriol i Wellington, eto nid oedd yr Ymherodr wedi meddwl am aberthu llawer o'i filwyr er mwyn ennill y lle; canys nid ar asgell dde Wellington yr oedd o'n bwriadu ymosod yn benderfynol, eithr ar ei asgell aswy, yr hon oedd yn wannach ac yn haws i'w chyrraedd. Yn unig er mwyn cuddio'i fwriad i ymosod ar yr asgell aswy y darfu iddo'n gyntaf oll ymosod ar Hougomont. Dau ar gloch yr oedd o'n bwriadu gwneud ym— osodiad penderfynol, ac yr oedd o'n hyderu y byddai fo wedi llwyr orchfygu Wellington erbyn tri. Ond pan oedd hi'n tynnu at un ar gloch, ef a wybu er ei syndod bod deng mil ar hugain o Brwsiaid o dan Bülow yn cyfeirio tua'i asgell dde. Drysodd hyn ei gynlluniau, a rhoes orfod arno i anfon deng mil o filwyr o dan y Cadlywydd Lobau i geisio atal yr adran gyntaf hon o fyddin Blücher rhag cyrraedd y maes. Yn lle gwneud ymosodiad penderfynol ar fyddin Wellington, ymfoddloni a wnaeth o bellach ar wneud cyfres o ruthriadau er mwyn ennill amser. Yn wir, nid oedd y frwydr o'i dechrau i'w diwedd fawr amgen nag ymgyrchiadau o du'r Ffrancod yn erbyn sgwariau'r fyddin gyfunol; magnelau'r fyddin hon, o'r tu arall, yn tanio arnynt pan fyddent yn dyfod, a'u marchogion yn rhuthro arnynt pan fyddent yn cilio yn ôl i ailymffurfio. Pan fyddai'r marchogion Ffrengig yn dyfod, fe fyddai magnelwyr Wellington yn ffoi i'r sgwariau, ac yna'n dychwelyd at y magnelau pan giliai'r marchogion. Pan fyddai gwŷr meirch Wellington yn rhuthro i lawr y bryn wrth eu pwysau, hwynt-hwy a fyddai drechaf; ond pan anturient fyned i'r gwaelod gwastad, neu hyd at y llechwedd cyferbyniol, gwŷr meirch Ffrainc a fyddai drechaf. Yn ystod un o'r ymgyrchoedd hyn fe laddwyd ac fe glwyfwyd dwy ran o dair o'r Scotiaid Llwydion mewn ychydig funudau; ac o'r pum mil o wŷr traed a arweiniodd Picton yn erbyn y Ffrancod ni ddychwelodd deunaw cant. Collodd cannoedd o feirch a marchogion Ffrengig hefyd eu hoedl trwy gwympo bendramwnwgl i'r ffordd ddofn y soniwyd amdani—ffordd oedd bron yn anweladwy hyd oni ddelai dyn i'w hymyl; ac ar ôl i hon mewn ambell fan ymlenwi â chelaneddau briwedig y gallodd y marchogion byw fyned drosti i ben y bryn yr oedd byddin Wellington yn sefyll arno.

Dywed rhai rhai sgrifenwyr milwrol y dylasai Napoleon, pan welodd y Prwsiaid tuag un ar gloch yn dyfod yn ei erbyn, encilio, ac ymladd y frwydr ar dir mwy manteisiol iddo'i hun, dyweder yn Genappe; ond gan ei fod yn ymherodr yn gystal ag yn gadlywydd, yr oedd rhesymau gwleidyddol yn ei rwystro i wneud hynny. Heblaw hynny, yr oedd o'n disgwyl y buasai Grouchy yn ymosod ar y Prwsiaid o'r tu cefn tra byddai Lobau gydag adran o'i fyddin ef yn ymosod arnynt o'u blaen; ac felly, y dinistrid hwynt rhwng dau dân. Ond y mae'n hysbys bod Grouchy wedi colli golwg ar y rhan fwyaf o fyddin Blücher, ac yn tybied ei bod i gyd o'i flaen gerllaw Wavre.

Er cymaint o ddryswch a barodd ymddangosiad y Prwsiaid i Napoleon, yr oedd o'n gwbl hyderus y gallai fo eu gwrthsefyll hwy a gorchfygu byddin Wellington hefyd. Yr oedd o erbyn canol y pryn— hawn wedi ysgytio cymaint ar y fyddin hon, ac yr oedd yr arwyddion ymhob cyfeiriad mor ffafriol, fel y danfonodd o gennad i Baris i hysbysu nad oedd dim amheuaeth mwyach am ganlyniad y frwydr; ond yn fuan wedi hyn fe aeth ei obaith am fuddugoliaeth yn llai sicr, canys pan oedd hi'n hanner awr wedi pedwar ar gloch fe lwyddodd y Prwsiaid i ymwthio hyd i'r maes. Calonogodd hyn y fyddin gyfunol yn fawr, a digalonnodd ychydig ar y fyddin Ffrengig. Bellach yr oedd yn rhaid i Napoleon droi wyneb ei asgell dde tua'r dwyrain er mwyn ymladd â'r Prwsiaid. Rhwystrodd hyn hwynt rhag ymosod yn effeithiol ar asgell aswy byddin Wellington. Pan ymwthiodd y Prwsiaid o'r tu ôl i Napoleon trwy ymosod ar bentref Planchenoit fe fu raid iddo droi cwr ei asgell aswy yn hytrach tua'r de, fel yr oedd rhan o'i fyddin erbyn hyn â'i chefn at gefn rhan arall oedd yn ymladd yn erbyn Wellington. Er hyn oll, fe barhaodd y frwydr yn amhenderfynol hyd hanner awr wedi chwech, ac o'r pryd hwnnw hyd yr awr y daeth yr ail adran o fyddin Blücher i'r maes, yr oedd rhagolygon Napoleon yn ddisgleiriach nag y buont ar hyd y dydd. Yn ystod yr oriau hyn fe gilgwthiwyd y Prwsiaid o Planchenoit dair gwaith —y drydedd waith hyd ymhell o'r maes. Rhoes hyn gyfle i Napoleon i ymosod yn ffyrnicach ar ganol byddin Wellington.

Pan oedd Napoleon wedi myned tua Planchenoit i arolygu'r ail ruthr yn erbyn y Prwsiaid fe ymosododd Ney hefo'r marchoglu ar fyddin Wellington; a hynny yn erbyn gorchymyn pendant yr Ymherodr i oedi ymosodiad penderfynol hyd oni byddai fo wedi cilgwthio'r Prwsiaid hefo'r gwŷr traed. Y canlyniad oedd na ellid ar y pryd gyfnerthu Ney â gwŷr traed. Fe wyddys mai peth colledus iawn, ac aneffeithiol hefyd, yw ymosod ar sgwariau hefo gwŷr meirch yn unig; ac o'r tu arall mai ymffurfio yn sgwariau ydyw'r peth gwaelaf oll i gyfarfod â rhuthr gwŷr traed, a phe buasai Ney wedi aros hyd. oni ddychwelsai'r gwŷr traed o Planchenoit, ni thyciasai sgwariau Wellington ddim. Er i Ney beri i Napoleon ddigio wrtho am byth am ei fyrbwylltra yn aberthu cynifer o'r gwŷr meirch y buasai'n rheitiach eu harbed hyd yr awr olaf, eto yr oedd ei ymosodiad yn un mor ofnadwy fel na feiddiasai Wellington ddim sefyll yn ei erbyn, oni buasai ei fod yn gwybod bod yr ail adran o fyddin Blücher yn agos i'r maes. Yn yr ymosodiad hwn fe lwyddodd Ney i dorri llinell flaen y fyddin gyfunol, ac fe addefa'r Cadlywydd Kennedy a rhai Saeson eraill ei fod wedi gwneuthur cryn hollt yn yr ail linell, a hollt nid bychan yn y drydedd linell hefyd; fel nad oedd dim yn eisiau bellach ond gwŷr traed i wahanu'r fyddin gyfunol, ac i feddiannu'r ffordd i Brüssel. Fe lwyr ddarniwyd un o'r catrodau Seisnig; fe ddrylliwyd saith o'r sgwariau, ac fe yrrwyd yr adran Seisnig-Ellmynnig oedd dan lywyddiaeth Alten ar ffo hyd ar ffordd Brüssel. Yn y cyfwng peryglus hwn fe benderfynodd Wellington aberthu'r rhan fwyaf o'i wŷr meirch er cynorthwyo'i wŷr traed i dorri grym y Ffrancod; ond gan nad oedd gan un genedl y pryd hwnnw wŷr meirch a allai ddal ymhwrdd gwŷr meirch Ffrainc, fe wthiwyd Cumberland a'i farchogion yn anhrefnus i blith y floaduriaid a'r clwyfedigion oedd yn tagu'r ffordd i Brüssel. Ffoes deuddeng mil, sef y rhai mwyaf dibrofiad o'r Brytaniaid a'r rhai mwyaf anffyddlon o'r tramoriaid, i ymlechu yng nghoedwig Soignes, a rhedodd llawer hyd i Brüssel, gan gyhoeddi bod y frwydr wedi ei cholli; ac yn wir, yr oedd yn naturiol iddynt feddwl hynny, canys heblaw'r dinistr a wnaethai rhuthr Ney ar rengoedd byddin Wellington, yr oedd y Ffrancod eisoes wedi cymryd trigain o fagnelau a chwech o faneri.

Er hyn oll, fe welodd Ney mai ofer oedd iddo geisio llwyr dorri'r drydedd linell â gwŷr meirch yn unig; am hynny, ef a archodd i'r rhain gadw'u tir tra byddai fo'n anfon at yr Ymherodr i ddeisyfu gwŷr traed; ond ni allai Napoleon eu hepgor ar hyn o bryd, canys yr oedd yn amlwg erbyn hyn fod yn rhaid iddo nid yn unig ymladd â'r deng mil ar hugain o Brwsiaid oedd yn curo arno o du'r de ac o du'r dwyrain, ond hefyd ymbaratoi yn erbyn 30,000 eraill oedd yn dyfod arno o'r gogledd— ddwyrain. Gorchymyn a wnaeth o, gan hynny, i Ney gadw'i dir am ryw awr, tra byddai fo'n myned â rhan o'i warchodlu i gilgwthio'r Prwsiaid oedd yn ceisio meddiannu pentref Planchenoit o'i ôl. Ar ôl gwneud hynny'n bur effeithiol, ef a ddychwelodd gyda chwe mil o'i wŷr traed i gynorthwyo Ney ar fryn St. Jean. Fe drefnwyd tua dwy fil o'r rhain i wneud yr ymosodiad cyntaf. Gan fod Wellington yn gwybod bod y Prwsiaid o dan Bülow yn dychwelyd i ail ymosod ar gefn ac ystlys y Ffrancod, a bod y Prwsiaid dan Ziethen ar ymuno ag asgell aswy'r fyddin gyfunol, ef a allodd yn ddiberyg! dynnu ei asgell aswy ato er mwyn cyfnerthu canol ei fyddin yn erbyn ymosodiad y gwarchodlu Ffrengig. Ef a ffurfiodd ei fyddin ar lun bwa, er mwyn gallu tanio ar yr ymosodwyr o bob cyfeiriad. Tanio a wnaeth hi yn effeithiol ofnadwy nes teneuo rhengau'r ymosodwyr yn fawr. Er hynny, ni syflodd y rhain ddim. Ar ôl ymwasgu ynghyd, taniasant hwythau, ac ar ôl tanio hwy a ymbaratoesant i ymosod â bidogau. Ond cyn iddynt allu gwneuthur hynny fe ymagorodd y bwa, a chyfododd y gwarchodlu Seisnig megis o'r ddaear, gan saethu i'w hwynebau bron o hyd braich. Er hynny, nid gwrthsafiad pybyr Wellington a barodd i'r adran flaenaf o'r gwarchodlu Ffrengig encilio oddi ar fryn St. Jean, eithr peth arall nad yw'r rhan fwyaf o'r hanesyddion Seisnig yn dewis sôn amdano.—Pan oedd Napoleon wrth droed y bryn yn trefnu pum bataliwn o'i hen warchodlu i fyned i gyfnerthu'r gwarchodlu iau a oedd yn ymladd dan Ney ar ben y bryn, fe welwyd bod y Prwsiaid o dan Ziethen wedi ymuno ag asgell aswy byddin Wellington, ac wedi llwyddo i dorri bwlch yn llinell y Ffrancod, nes gwahanu'r Ffrancod oedd yn wynebu'r Prwsiaid o dan Bülow oddi wrth y Ffrancod oedd yn wynebu'r fyddin gyfunol dan Wellington. Ar yr un pryd fe welwyd bod y Prwsiaid oedd dan Bülow bron wedi cyrraedd yr unig ffordd y gallai'r Ffrancod encilio ar hyd—ddi tua Ffrainc. Y mae'n wir fod pelennau'r Prwsiaid yn disgyn ar y ffordd hon ers oriau, ond y pryd hwn, ar ôl cymryd ohonynt bentref Planchenoit, y gallodd y Prwsiaid beryglu'r cymundeb a oedd ar y ffordd honno rhwng yr ymladdwyr Ffrengig a'u hadnoddau. Parodd hyn gyffro a dychryn mawr ymhlith y Ffrancod. Wrth weled y Prwsiaid ar amgau o'u hamgylch, a'i bod bellach yn rhy ddiweddar i ddisgwyl ymwared oddi wrth Grouchy, hwy a frysiasant yn anhrefnus iawn i gyrraedd y ffordd y daethent ar hyd-ddi o Ffrainc. Yn y cyfamser fe orchmynnodd Wellington a Blücher i'r holl filwyr oedd danynt gerdded rhagddynt yn eu herbyn. Yr oedd y gweddill o fyddin Wellington yn rhy luddedig, ac yn rhy amddifad o farchogion i'w hymlid hwynt ymhellach na La Belle Alliance; ond fe barhaodd Blücher i'w hymlid ar hyd y nos,, gan eu lladd yn ddiarbed, a'u rhwystro i orffwys am funud awr. Dechreuodd y fyddin Ffrengig ffoi yn fuan wedi wyth o'r gloch; ond yr oedd hi'n nos pan daniwyd yr ergyd ddiwethaf ar faes y gad, canys fe safodd gwŷr y gard, sef yr hen warchodlu Ffrengig, ynghanol y rhyferthwy o elynion oedd yn eu hamgylchu; ac yn lle ymostwng, hwy a syrthiasant agos i gyd.

Nid oedd Ney gyda'r gwarchodlu hwn; er hynny, yr oedd o yn un o'r rhai olaf i gilio oddi ar fryn St. Jean. Er iddo wneud dau amryfusedd cadarn yn y frwydr hon, eto ef a brofodd y waith hon, fel y profasai fo lawer gwaith o'r blaen, mai efô oedd y dewraf o'r dewrion." Yr oedd ei gap yn dyllog a'i wisg yn garpiog gan fwledau, a'i gleddyf wedi ei dorri yn ei hanner. Yr oedd pump o feirch wedi eu lladd dano; ac er hynny, clwyfau ysgafn a gafodd o ei hun. Ar ôl colli ei holl wŷr ei hun, a gweled ohono fintai heb bennaeth arni yn cilio o'r maes, ef a redodd ati, ac a barodd iddi sefyll, gan ddywedyd Deuwch, fy ngharedigion, a gwelwch fel y gall Marsial Ffrengig farw." Gresyn na chawsai fo farw ar y maes yn hytrach na marw ym Mharis fel un a farnwyd yn euog o fod yn ffyddlonach i'w Ymherodr nag i'w frenin.

Er mai byddinoedd cymharol fychain oedd yn ymladd yn Waterloo, yr oedd y frwydr yn un waedlyd iawn. Y mae'r Prwsiaid eu hunain yn addef iddynt golli saith mil o wŷr. Y mae'r rhai mwyaf diragfarn o'r hanesyddion milwrol Seisnig yn dywedyd i Wellington golli pymtheng mil neu un fil ar bymtheg o wŷr, a hanesyddion tramor yn barnu ddarfod iddo golli mwy na deunaw mil. Ni wyddys yn fanwl pa nifer o wŷr a gollodd Napoleon, am ddarfod i rai miloedd ohonynt fanteisio ar ei gwymp i ddianc adref heb roi dim cyfrif ohonynt eu hunain. Ond yr ydys yn tybied iddo golli pum mil ar hugain o leiaf, a chyfrif y lliaws a laddwyd ac a glwyfwyd wrth ffoi ar hyd ffordd Genappe. [3] Er nad oedd colled y Ffrancod fawr fwy, os dim, na cholled eu gwrthwynebwyr, eto yr oedd yn fwy o anffawd iddynt hwy golli pum mil ar hugain allan o un fil ar ddeg a thrigain nag oedd i fyddinoedd Wellington a Blücher golli tair mil ar hugain allan o gant a thri deg o filoedd. Pe collasai'r rhain gymaint arall ag a wnaethant, fe fuasai ganddynt yn niwedd y frwydr fwy o filwyr wedyn nag oedd gan Napoleon yn ei dechrau.

Am fod maes y gad mor gyfyng, ac felly mor llawn o filwyr, y collodd Napoleon a Wellington gynifer o wŷr. Pe buasai'r ddaear yn sych fe fuasai eu colled yn fwy fyth, am y buasai mwy o'r pelennau ffrwydrol yn ymddryllio wrth syrthio ar y ddaear, yn lle ymgladdu yn y llaid. Er hynny, ni allai daear Waterloo fod yn sychedig iawn ar ôl yfed gwaed hanner can mil o laddedigion a chlwyfedigion.

Y ddau dro y bûm i'n ymweled â maes Waterloo. ni welid un march rhyfel yn cloddio'r dyffryn, ac ni chlywid un waewffon yn tincian ar ddwyfronneg y marchog. Yr oedd llais yr utgorn, twrf tywysogion, a'r bloeddio, wedi distewi. Nid oedd yno ddim sŵn oddieithr sŵn yr adar yn canu yn y coed; dim mwg oddieithr y mwg oedd yn esgyn o simnai ambell fwthyn; na dim llwch heblaw'r llwch a godai gyr o ddefaid ar y ffordd. Y mae'n awr dawelwch lle y bu unwaith gyffro mawr. Doe, yr oedd y maes hwn yn goch gan waed; neithiwr fe olchwyd ei wyneb â glaw o'r nefoedd, a'r bore fe'i sychwyd â phelydrau'r haul; fel erbyn heno y mae maes Waterloo yn bur debyg i'r hyn ydoedd gan mlynedd yn ôl, oddieithr ei fod yn ffrwythlonach gan lwch esgyrn y lladdedigion. Yn ddiau y mae'r ddaear yn fwy anghofus hyd yn oed na'i thrigolion.

ALLAN O'R Geninen, EBRILL A GORFFENNAF, 1899.

Nodiadau

[golygu]
  1. Y mae awdur y Great Commanders of Modern History yn dywedyd i Wellington ddwyn 45,000 o Quatre Bras, iddo alw 21,000 o Nivelles, a rhyw 4,000 o leoedd eraill, a bod ganddo felly 70,000 ar y maes, heblaw'r 17,000 neu 18,000 a adawodd o yn Hal i ddiogelu ei asgell dde.
  2. "In some of the most critical and terrible moments of the Waterloo campaign he seems to have been scarcely able to keep himself awake."—Encyclopædia Britannica.
  3. Y mae tramorwyr, megis y Ffrancwr Thiers a'r Prwsiad von Damitz, yn taeru bod colled Napoleon yn Waterloo yn llai o rai miloedd na cholled ei wrthwynebwyr. Y mae Dr. Sloane, o'r tu arall, yn haeru darfod i'r Ffrancod golli 30,000, tra na chollodd y Cyfunoliaid fwy na 22,500. Gwell gennyf i dderbyn tystiolaeth y pleidiau eu hunain am eu colledion eu hunain na derbyn tystiolaeth eu gwrthwynebwyr. Felly yr wyf yn derbyn ffigur uchaf y Ffrancod am golled Napoleon, ffigur uchaf y Prwsiaid am golled Blücher, a ffigur uchaf Brytaniaid ac Americaniaid am golled Wellington.