Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I/Paham Gorfu'r Undebwyr
← Pynciau i Blant | Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I |
Wele dy Dduwiau, O Walia! → |
III
PAHAM Y GORFU'R UNDEBWYR
A llygaid Cymro Cymreig yr wyf i yn dewis edrych ar y cwestiwn y gofynnwyd imi ei ateb yn Y Geninen; a chan fod y cyfryw Gymro yn perthyn yn hytrach i ysgol nag i blaid y mae'n debygol na ŵyr y darllenydd gymaint amdano ag a ŵyr o am y Cymro Fydd. Boed hysbys ynteu mai Cymro Cymreig yw pob Cymro sy'n credu ac yn cyffesu mai cadw Cymru yn Gymreig o ran iaith ac ysbryd yw'r pwnc pwysicaf o bob pwnc gwleidyddol. Yn ei olwg ef, cadw'r Gymraeg yn fyw ac yn iach yw'r unig Geidwadaeth y mae'n weddus i'r Cymry ymegnio i'w hamddiffyn, a rhyddhau'r Dywysogaeth oddi wrth yr ormes Seisnig sy'n ei gwneud hi'n gadlas chwarae ac yn grochan golchi i bobl anghyfiaith ac anghyweithas ydyw'r unig Ryddfrydiaeth y mae'n wiw i'r Cymry ymladd drosti; canys y mae a wnelo'r Geidwadaeth a'r Rhyddfrydiaeth yma, nid yn unig â llwyddiant, ond hefyd â bywyd y genedl yr ydym yn perthyn iddi. Gan mai pobl anaml ydym, yn preswylio parth bychan o Ynys Brydain, ni allwn argyhoeddi estroniaid ein bod yn ddim amgen na Saeson heb eu llwyr wareiddio os na bydd gennym iaith wahanol. I ni, y Gymraeg yw'r unig wrthglawdd rhyngom a diddymdra, ac y mae'r sawl a dorro'r gwrthglawdd hwnnw, trwy barablu iaith ein gorchfygwyr heb raid nac achos yn euog o ddibrisdod sy'n dangos eu bod wedi colli pob parch iddynt eu hunain; a phan beidio dyn â pharchu ei hun y mae hwnnw i bob perwyl wedi peidio â bod. [1]
Er bod y Cymro Cymreig yn rhy falch i'w ddiddymu ei hun, nid yw o'n gulfarn o gwbl, fel y tybia rhai. Y mae o'n ewyllysio i'w gydwladwyr nid yn unig ddysgu Saesneg a darllen llenoriaeth Saesneg, ond hefyd ddysgu pedair prifiaith y Cyfandir, er mwyn ymgydnabod â phobl a llenoriaeth sy'n llai ynysaidd na rhai Prydain. Trwy dreulio tair neu bedair blynedd ar y Cyfandir, gwelent nad yw'r Saeson ddim mor fawr o lawer yng ngolwg cenhedloedd eraill ag ydynt yn eu golwg eu hunain, ac yng ngolwg y Cymry plentynnaidd sy'n credu bod "I say" yn Saesneg yr un peth â "Fel hyn y dywed yr Arglwydd " yn y Gymraeg. Gwelent ei bod yn rhaid i estron o Sais dalu mwy deirgwaith am ei fwyd a'i lety na rhyw estron arall, nid yn unig am ei fod yn anifail mwy ariannog, ond hefyd am ei fod yn anifail mwy didoriad, a bod yn rhaid gan hynny wrth fwy o amynedd i'w oddef. Gwelent mai syniad isel sy gan yr Ellmyn a'r Yswisiaid a'r Yswediaid am y Côd Addysg a luniwyd gan fasnachwr uniaith ac annysgedig a'i enw Forster, ac a adluniwyd gan ddynion sydd agos mor annysgedig ag yntau. Trwy dreulio rhai blynyddoedd ar y Cyfandir, fe ddysgent synio'n uwch am eu hen lenoriaeth eu hunain, ac yn is am lenoriaeth ddiweddar y Saeson.[2] Gwelent ohonynt eu hunain nad oes, ac na bu, cymaint ag un athronydd yn Lloegr, nad yw ei diwinyddion gorau yn yr oes hon ond corrod yn ymyl diwinyddion dwy o deyrnasoedd lleiaf Gogledd Ewrop, nad yw ei hesboniadau gorau ond lled-gyfieithiadau o esboniadau'r Almaen a'r Iseldir, nad yw ei geiriaduron helaethaf ond efelychiadau amherffaith o eiriaduron Ffrainc, ac nad yw ei dramodau mwayf poblogaidd ond cyfaddasiadau o ddramodau gwaelaf Ffrainc a'r Eidal, yr Ysbaen a'r Yswèd. Y mae'r Saeson yn cyniwair ymhell ac yn agos; er hynny, nid oes ganddynt, yn ôl eu tystiolaeth eu hunain, ddim un map nac un fforddiadur y gellir dibynnu arno. Cymerwn gysur; er bod gan y Saeson lawer gŵr grymus, un cawr sydd ganddynt, ac y mae hwnnw wedi marw er y flwyddyn 1616. Os nad oes gennym un Shakes— peare, y mae gennym iaith odidog, ac emynau ac alawon heb eu bath; ac os meithrinwn ein hiaith, odid na fydd yfory'r Cymry cyn deced â doe'r Saeson.
Y Cymro Cymreig yn rhagfarnllyd! Nac ydyw, yn wir. Fe fyddai agos cyn chwithed ganddo weled Saeson Lloegr yn anghofio eu hiaith eu hunain er mwyn myned yn Gymry uniaith ag yw ganddo weled Cymry Cymru yn anghofio eu Cymraeg er mwyn myned yn Saeson uniaith. Dyma'r cwbl Y mae o'n dadlau drosto, sef y dylai'r Cymry fod cyn ddysgediced ddwywaith o leiaf â Saeson cyffredin.
A ydyw'r Cymro Cymreig yn gulfarn wrth haeru y dylai'r Saeson yng Nghymru ymostwng i'r unrhyw amodau ag y mae'n rhaid i Gymry ymostwng iddynt yn Lloegr? Yn Lloegr y mae'n rhaid i Gymro ddysgu iaith y wlad cyn y rhoddir iddo un swydd gyhoeddus na swydd hyd yn oed fel gweithiwr ar un o'r ffyrdd haearn. Paham yr ydym ni'n goddef i Saeson uniaith gael pob rhyw swydd yng Nghymru, ac felly yn eu denu yma i heidio i'n gwlad? Ai am ein bod yn fwy haelfrydig, ai ynteu am ein bod yn ffolach na chenhedloedd eraill? Er mwyn gweld gwrthuni ein hymddygiad, dych— mygwn fod y Saeson yn ymddwyn tuag atom ni fel yr ydym ni yn ymddwyn tuag atynt hwy. Dych— myger eu bod ynghanol Lloegr yn troi cyfarfod yn Gymraeg neu yn hanner Cymraeg o achos bod yno ddau neu dri o Gymry uniaith yn ddigon hy i weiddi "Cymraeg, Cymraeg." Dychmygwn eu bod yn dewis Cymro uniaith i'w cynrychioli yng Nghaint neu yn Ynys Wyth, a'u bod yn llefain, Clewk, Clewk, wrth wrando ar y cyfryw gynrychiolydd yn traethu yng Nghymraeg llydan Sir Fôn ar y priodoldeb o roi ychydig o le i iaith a llenoriaeth Saesneg yn athrofeydd Caergrawnt a Rhydychen. Dychmygwn fod barnwyr ac ynadon Lloegr gan mwyaf yn Gymry heb fedru dim Saesneg, a bod y rhai sydd yn medru Saesneg yr un ffunud yn mynnu siarad yn Gymraeg; fod y dadleuwyr, wrth erlyn ac amddiffyn, yn apelio at y barnwyr a'r rheithwyr yn Gymraeg, ac yn gwastraffu amser i holi'r tystion trwy gyfieithydd. Dychmygwn fod trigolion St. Albans neu Clackton-on-Sea yn codi eglwys a phedwar capel ar gyfer ymwelwyr Cymreig a theulu neu ddau o breswylwyr Cymreig, ynghyd â dwsin o Saeson sydd wedi colli eu Saesneg wrth werthu llefrith, cwrw, cennin neu bysgod i'r Cymry hynny. Dychmygwn fod athrawon ysgolion Lloegr yn gwialenodio, ie, yn ffonodio eu disgyblion am siarad Saesneg yn yr ysgol, ac yn eu rhybuddio na siaradont "that vulgar English" y tu allan i'r ysgol chwaith. Dychmyger bod miloedd o goegynnod a choegennod ar hyd a lled Lloegr yn clebran Cymraeg yn y siopau, yn y trenau, a hyd yn oed mewn dosbarth yn yr ysgolion Sul, a hynny am eu bod yn synio bod siarad hen iaith go bur fel y Gymraeg yn beth mwy gweddus na siarad rhyw glytwaith diweddar fel Saesneg. Dychmygwn fod ar agos bob siopwr yn Lloegr gywilydd ei alw ei hun yn butcher, yn clothier, neu yn shoemaker, a bod Richard Cockburn, Cigydd; John Coldbottom, Dilledydd; ac Alfred Rawbottom, Crydd, yn serennu uwch ben y siopau. Dychmygwn fod Cwmni'r L. & N. W. R. yn dileu'r enw Runcorn Station, ac yn peri paentio ar yr ystyllen: Gorsaf yr Un-Corn; fod gweision Gorsaf Oxford yn gweiddi "Rhydychen" er mwyn boddio'r astudwyr Cymreig, a bod gweision gorsaf Caer er mwyn peri cyfleustra i farchnadwyr ffwdanllyd Cymru yn dywedyd wrthynt yn fwyn: "This way, gentlemen, to the Nerpwl train." Dychmyger (os gellir dychmygu peth mor anghredadwy) fod gweithwyr o Saeson ar rai o ffyrdd haearn Lloegr yn goddef i ddeuddyn uniaith â'u henw Huws a Dafis eu trin mor drahaus ag y mae gweithwyr o Gymry ar rai o ffyrdd haearn Cymru yn goddef i rai Saeson uniaith eu trin hwy. [3] Yn sicr, ni byddai'n fwy anweddus i'r genedl ieuengaf ddynwared y genedl hynaf nag ydyw i'r genedl a orchfygwyd ei hamharchu ei hun er mwyn dangos parch i'r genedl a'i gorchfygodd. Os dywed rhywun mai cenedl gydraddol ydym â'r Saeson ac nid un ddarostyngedig iddynt, yna paham na bai gennym senedd Gymreig? Neu, yn niffyg senedd Dywysogaethol, paham na bai nifer ein cynrychiolwyr yn y Senedd Ymerodrol yn gyfartal â nifer cynrychiolwyr y Saeson? Lle bynnag y bo "predominant partner," nid oes yno gydraddoldeb. Nid yw "predominant partner" yn ddim amgen nag enw mwyn ar orthrechwr—tyrant.
"Yr hynaf a wasanaetha'r ieuengaf." Dyna'r ffaith ar hyn o bryd, ond y mae'r Cymro Cymreig yn gobeithio na bydd hynny ddim yn ffaith byth; nid am ei fod yn ddigon plentynnaidd i roi coel ar broffwydoliaethau Myrddin a Thaliesin, eithr am fod ganddo gred yn Rhagluniaeth a chyfiawnder Duw. Fe demtid dyn i gredu nad oes Creawdwr a Llywodraethwr yn bod pe gorfyddai iddo gredu y goddefir i genedl mor waedlyd ac ysbeilgar â'r Saeson flino a llygru'r byd yn llawer hwy. Yn fuan neu yn hwyr, y mae traha cenedl yn dychwelyd ar ei phen ei hun, a pha genedl erioed a fu mor drahaus â'r Saeson? Y mae llawer cenedl o dan ei phawen er ys ugeiniau a channoedd o flynyddoedd; er hynny, nid oes odid un ohonynt wedi dygymod â'i chyflwr. Y mae miloedd ar filoedd o Gymry heddiw mor ffiaidd ganddynt fod yn ddarostyngedig iddi a phe buasent yn byw drannoeth ar ôl cwymp Llywelyn; ac fe godai Iwerddon, a'r Aifft, a'r India, mewn gwrthryfel yn ei herbyn yr wythnos nesaf, pe rhyngai bodd i Ffrainc neu Rwsia dorri asgwrn ei chefn. Os o'r braidd y mae hi'n gallu gorfod ar fân genhedloedd anarfog a hanner noethion, pa le yr ymddengys hi pan ddelo chwant arni i brofi ei gynnau newyddion mewn rhyfel yn erbyn cenedl gref? Gymry, nid yw ddoeth i chwi frysio i ymgolli ynghanol y Saeson—ni wyddoch beth a ddigwydd mewn deng mlynedd.
Ysywaeth, nid yw'r Cymry Cymreig eto wedi ymgyfuno'n blaid wleidyddol; ar wasgar y maent ar hyn o bryd ymhlith y pleidiau eraill. Y mae llawer ohonynt wedi ymuno â'r Cymry Fydd, o achos eu bod yn tybied bod y blaid honno ychydig yn llai Seisnigaidd na'r hen blaid Chwigaidd. Y mae eraill ohonynt yn parhau'n aelodau o'r blaid Chwigaidd am eu bod yn ofni bod swyddogion Cymru Fydd yn chwanocach i farchogaeth ar y teimlad Cymreig nag i'w fagu. Y mae nifer nid bychan o Gymry Cymreig yn Dorïaid, am eu bod yn credu y gall dyn fod yn Gymro da, beth bynnag fyddo'i syniadau am Fasnach Deg, am Iawn i Dafarnwyr, am Ynadon di-arian a di-ddysg, ac am y pwnc pitw pa un ai o lyfr ai yn syth o'r safn y gellir yn orau wenieithio i "enaid ein hannwyl frawd a ymadawodd o'r byd." Y mae llawer o'r Cymry Cymreig yn ymgadw ymhell oddi wrth bob plaid wleidyddol a'r sydd yn awr yn y maes, am eu bod yn barnu nad yw dynionach sydd yn ddiofal am eu braint bennaf ddim yn haeddu cael breintiau llai. Y mae byw ar gawl yn fyw rhy dda o lawer i'r sawl a ddiystyro'u genedigaeth-fraint.
*****
Un arwyddair, sef "Cymru Gyfan," sydd gan y Cymro Fydd; ond y mae gan y Cymro Cymreig dri arwyddair, sef "Cymru Rydd, Cymru Gyfan, a Chymru Gymreig." Canys, heb fod yn Gymru Gymreig, Cymru mewn enw yn unig fydd hi. Y mae'r Cymro Fydd yn gwawdio'r waedd "Cymru i'r Cymry," ac yn ceisio boddhau'r Saeson heb lwyr anfoddhau'r Cymry trwy weiddi "Lloegr i'r Lloegrwys, a Chymru i'r Cymry ac i'r Saeson." Hyd yn oed pan fydd y Cymro Fydd yn gweiddi 'Cymru Gyfan," nid yw'n hawdd deall beth y mae o'n ei feddwl; ond yng ngenau'r Cymro Cymreig y mae'r ymadrodd yn gwbl ddiamwys, ac yn arwyddocáu: Cymry hyd at ei hen derfynau, sef Cymru hyd at Hafren.
Fe ŵyr y darllenydd bellach pa beth yw teimlad a pha beth yw credo'r Cymry Cymreig; ac fe eddyf eu bod yn ddosbarth cryf o ran nifer, ac y byddant yn gryf o ran dylanwad hefyd, ar ôl eu cyfuno'n blaid. Mewn gwirionedd, dwy blaid wleidyddol a ddylai fod yng Nghymru hyd oni chaffo hi ei hawliau cenhedlig, sef Plaid Gymreig a Phlaid Wrth-Gymreig, a gwneuthur y blaid olaf yn wannach wannach a ddylai fod ein hymgais pennaf. Peth plentynnaidd a gwaeth na phlentynnaidd yw inni ddynwared y Saeson trwy ymrannu yn Dorïaid "Duw a'n cadwo," ac yn Dorïaid Gafr a'u 'sgubo," yn Chwigiaid Dofion (Liberals) ac yn Chwigiaid Gwylltion (Radicals), yn Bleidwyr Athrawiaeth yr Iawn (Compensationists), ac yn Bleidwyr Barn Ddidrugaredd (Anti-Compensationists), cyn penderfynu'r pwnc pwysig pa un ai'r Cymry ai'r Saeson sydd i gael eu ffordd yng Nghymru, a pha un ai'r Gymraeg ai'r Saesneg sydd i fod yn iaith ysgolion a chynghorau a swyddfeydd a llysoedd barn Cymru.
Ar ôl dangos pa fath un yw'r Cymro Cymreig, yr wyf o'r diwedd yn dyfod at y gofyniad a roddwyd imi, sef, Paham y gorfu'r Undebwyr yn yr Etholiad Cyffredinol diwethaf? Yr wyf yn ateb yn fyr ac yn bendant mai am eu bod yn Undebwyr. Y mae'n hawdd gennyf gredu bod a wnelo Deddf Gwaharddiad Lleol ychydig bach â'r gorchfygiad, a bod a wnelo anallu, annifrifwch, a chroesdynnu arweinyddion y Blaid Chwigaidd beth yn ychwaneg ag ef; ond bwriad y blaid honno i roddi Ymreolaeth i Iwerddon ac i ddadsefydlu'r Eglwys yng Nghymru a barodd i'r Saeson ymgynddeiriogi yn ei herbyn. Torïaid hyd i fêr eu hesgyrn ydyw corff mawr y genedl Seisnig mewn materion cenhedlig, ac y mae'n ddiau fod y darllenydd wedi sylwi mai yn Lloegr ac yn y rhannau mwyaf Seisnig o'r gwledydd Celtig y cafodd yr Undebwyr fwyafrif mawr. Yr oedd Chamberlain yn Rhyddfrydol hyd at fod yn eithafol tra oedd ei blaid yn ymfoddloni ar ddeddfu i ddosbarthiadau trwy'r deyrnas, ond pan osiodd ei blaid ddeddfu i genhedloedd, sef i'r Gwyddelod a'r Cymry, ar wahân i'r Saeson, fe droes y gŵr o Birmingham yn Dori rhonc. Ac y mae Chamberlain yn hyn o beth yn deip neu yn ddangosiad teg o ryw naw o bob deg o'r genedl sy'n honni mai hyhi yw'r predominant partner. Gwybydd, ddarllenydd, mai brwydr rhwng y Celtiaid a'r Teutoniaid oedd y frwydr etholiadol a ymladdwyd y mis o'r blaen; ac ni all y Celtiaid byth mwy ddisgwyl am gymorth effeithiol gan y Saeson tuag at ei hennill hi. Pa beth gan hynny a wnânt er mwyn dwyn barn i fuddugoliaeth? Ymuno â'i gilydd yng Nghymru, Iwerddon, ac Ucheldiroedd yr Alban, i ffurfio Cynghrair Celtig, a chytuno i ymladd yn y modd mwyaf Parnelaidd am yr un a'r unrhyw beth, a hwnnw yn gyfryw beth ag a gynhyrfo wladgarwch y cenhedloedd darostyngedig hyd y gwaelodion. A pha beth amgen a all hynny fod na'r hawl ddwyfol i'w llywodraethu eu hunain fel y gwelont hwy yn dda? Neu, yng ngeiriau Freeman yr hanesydd: "The right of every nation to govern, or, if so be, to misgovern itself." Gan fod y Teutoniaid wedi cyhoeddi rhyfel yn erbyn y Celtiaid, cyhoedded y Celtiaid ryfel yn eu herbyn hwythau; ac er ein bod yn wannach o lawer na'r Saeson, yr ydym ynghyd yn ddigon cryfion i orchfygu. Ni faidd Lloegr ddangos ei holl rym yn erbyn y gwledydd agosaf ati, rhag ofn lleihau ei dylanwad yn ei thiriogaethau pell. Fe fyddai'n well ganddi ildio llawer iawn na dangos i'w gelynion ymhob parth o'r byd fod ei chymdogion agosaf mor anfoddog a gwrthryfelgar fel na allai hi ddim ymddiried iddynt ar adegau enbyd. Ofn ac nid cariad a barodd iddi ryddfreinio'r Pabyddion a dadsefydlu'r Eglwys yn Iwerddon; act ofn yn unig a bair iddi eto roddi ymlywodraeth i'r cenhedloedd sydd yn ddarostyngedig iddi. Os darfu iddi, trwy ofn, ildio cymaint i un genedl yn yr amser a fu, pa faint mwy, tybed, a ildia hi i dair yn yr amser a fydd? Lle da i Arglwydd Salsbri sefyll yn warsyth yn y fan y crymodd Duc Wellington.
Ysywaeth neu ysywell, y mae'r ymryson rhwng dosbarth a dosbarth wedi myned erbyn hyn yn ymryson rhwng cenedl a chenedl; a'r Saeson ynghyd â Cheltiaid Seisnigedig sydd wedi mynnu i hynny fod. Na sonier mwyach am Chwigiaid Cymru a Thorïaid Cymru; sonier yn unig am y Cymry a'r Gwrth-Gymry. Y mae'r Cymry yn lluosocach o lawer na'r Chwigiaid, ac fe ellir disgwyl i Gymry ymladd yn erbyn y gelyn cyffredin yn fwy calonnog o lawer nag y buont yn ymladd yn erbyn ei gilydd. Rhaid addef bod ymgeiswyr y Saeson a'r Cymry Seisnigedig yng Nghymru wedi cynhyrfu mwy o deimlad o blaid Undebaeth nag a gynhyrfodd ymgeiswyr y Cymry yn ei erbyn, ac y mae'n hawdd canfod yr achos. Nid oedd gan ymgeiswyr y Cymry ddim i'w gynnig i'r Cymry fel cenedl heblaw dadsefydliad yr Eglwys, ac y mae hwnnw, arno ei hun, yn hytrach yn bwnc sectol nag yn bwnc cenhedlig; o leiaf, y mae'n anodd dangos i'r cyffredin ei fod yn ddim amgen na hynny. Fel hyn y mae'r cyffredin yn ymresymu: "Pa beth a all fod yn cynhyrfu'r Ymneilltuwyr gwleidyddol i alw'r sect sefydledig yn 'Estrones,' ac yn Eglwys Seisnig yng Nghymru'— ai cariad at eu cenedl neu at eu hiaith? Nage'n ddiau, canys y maent hwy eu hunain yn llenwi'r wlad ag estronesi Seisnig, a thrwy hynny yn dangos nad gwaeth i Gymro addoli yn iaith ei orchfygwyr nag yn iaith Llywelyn. Yr ydym yn methu â gweled bod Eglwys Loegr yn gwneud cymaint i Seisnigo Cymru ag eglwysi Seisnig yr Ymneilltuwyr. Fel rheol, y mae ynddi hi un gwasanaeth Cymraeg bob Sul, ond yn eglwysi Seisnig yr Ymneilltuwyr ni cheir clywed un gair o Gymraeg. O'r ddau, yr ydym yn meddwl y byddai Cymro yn llai o fradwr wrth fyned i eglwys hanner Saesneg nag wrth fyned i gapeli hollol Saesneg. Os o wladgarwch y maent yn chwenychu dadsefydlu Eglwys Loegr, dadsefydlant eu heglwysi Lloegraidd eu hunain i ddechrau. Peidiant â chyfrannu arian tuag at godi a chynnal y cyfryw 'eglwysi,' a bwriant allan o'r Senedd ac o'r cynghorau bob cynrychiolwr sydd trwy eiriau neu drwy arian yn cefnogi'r fath glybiau anghymreig. Yn boeth y bo'r Eglwyswyr a'r Ymneilltuwyr: rhyngddynt a'i gilydd hwy a ddinistriant Gymru ost cânt eu ffordd. Nid yw'r helynt sydd rhyngddynt ond ymgecraeth rhwng pechaduriaid a rhagrithwyr. Cenfigen sectol sydd wrth wraidd eu holl regfeydd. Awn i'n pebyll a gadawn iddynt, hyd oni chodo rhywun yng Nghymru a garo'i genedl yn fwy nag Eglwys Loegr ac achos' Saesneg."
Fel hyn y mae llawer o Ymneilltuwyr Cymroaidd yn siarad; am hynny, braidd y gellir disgwyl iddynt ymladd yn egnïol dros yr ymgeiswyr a fydd yn gofyn am eu cefnogaeth. Y mae rhai o'r ymgeiswyr Chwigaidd yn dangos llai o gallineb, os nad llai o wladgarwch hefyd, hyd yn oed na'r ymgeiswyr Torïaidd. Cymerer yr ymgeiswyr dros fwrdeisdrefi Dinbych yn enghraifft. Gan fod gennyf hawl i bleidebu yn Rhuthyn, fe ddanfonwyd i mi fwrnel o bapurau argraffedig a sgrifenedig oddi wrth y ddau ymgeisydd, Gwallter Morgan a Thudur Hywel. Yr oedd holl bapurau'r ymgeisydd Torïaidd mewn Cymraeg pur dda, a holl bapurau'r ymgeisydd Chwigaidd mewn Saesneg gweddol. Yr oedd y Tori yn dweud "y dylid cefnogi iaith, llenoriaeth ac arferion y Cymry," a'r Chwigiad yn dweud yr ymroddai fo i ofalu am "the affairs of this great nation." Fe'm llanwyd â digofaint a chywilydd wrth ddarllen cylch—lythyr mor ynfyd ac mor sarhaus, a phenderfynais ar y pryd na rown byth bleideb i ymgeisydd oedd yn caru'r "great nation" yn fwy na'i genedl fach ei hun: ond rhag ofn nad oedd o'n medru sgrifennu Saesneg yn ddealladwy, mi a euthum i Ruthyn er mwyn cael eglurhad ganddo yn Gymraeg ar ei ymadrodd rhyfedd. Ysywaeth, nid oedd o yno, ond fe ddywedodd rhai o'i gyfeillion (y nefoedd a faddeuo iddynt os dywedasant gelwydd politicaidd wrthyf) mai'r ysgrifennydd a oedd yn gweithredu dros yr ymgeisydd a wnaeth y llythyr anffodus oedd yn fy mlino, ac na wyddai'r ymgeisydd ei hun ddim amdano, er bod ei enw wrtho; a chan fod yr ysgrifennydd hwnnw'n fwy o Sais nag o Gymro, ac yn byw y tu hwnt i Glawdd Offa, nad oedd yn hawdd iddo gofio bod y fath genedl â'r Cymry yn bod, ac am hynny y byddai'n resyn imi gosbi'r ymgeisydd o achos anwybodaeth ei ysgrifennydd. Er bod hyn yn eglurhad aneglur iawn, ei dderbyn a wneuthum am ei werth, a rhoi fy llais— nid o blaid y Great Nationist, eithr yn erbyn yr Unionist, a phan glywais beth oedd diwedd y chwarae, yr oedd yn dda gennyf fod Morgan wedi colli, ac yn ddrwg gennyf fod Hywel wedi ennill.
Nid oes gofod i sôn am Mr. Herbert Roberts, yr hwn sydd, fel Martha, yn ofalus ynghylch llawer o bethau, a heb fod yn ddiofal am ddim oddieithr yr un peth angenrheidiol; nac am yr estron diddrwg sydd yn cynrychioli capelau dyledog Sir Fflint, yr hwn sydd, fel Mair a Phersis, yn cymryd llawer o boen yn yr Arglwydd i ddeall beth a fynn ei etholwyr anghyfiaith iddo ei wneud erddynt. Y mae'n ddigon i mi ddweud fod y rhai hyn, ac amryw o ymgeiswyr pellach, wedi aflwyddo mewn rhan neu yn gwbl, am nad oedd yn eu hanerchiadau ddim i gyffroi'r galon Gymreig. Os oedd ymgeiswyr Torïaidd yn gallu tanio Saeson a Chymry Seisnigedig trwy frygawthan am Undod yr Ymerodraeth, fe allasai'r ymgeiswyr Chwigaidd yr un funud danio'r Cymry trwy sôn am hawlio priod y Dywysogaeth. Os mynn ymgeiswyr mewn etholiad sôn am bob rhyw beth oddieithr y peth mwyaf, gan osod hawddfyd person a dosbarth yn uwch na rhyddid cenhedlig, pa fodd y gellir beio ar rai o'r etholwyr am gyfrif y Chwigiaid a'r Torïaid yn ddau dŷ masnachol, ac am eu bod yn cymryd eu cennad i fyned i'r siop lle y cynigir iddynt y fargen orau?
Erbyn hyn y mae'r Blaid Chwigaidd yn Lloegr agos wedi diflannu, a hyd yn oed ped ymddangosai hi eilwaith yn ei nerth ymhen chwech neu ddeu- ddeng mlynedd, hi a fydd yn rhy ofnus i ail gynnig i'r Cymry a'r Gwyddelod y pethau y gorchfygwyd hi o'u plegyd. Am hynny, nid trwy ennill ei ffafr hi, eithr trwy flino'r Blaid Dorïaidd, sef yw hynny, trwy flino corff y genedl Seisnig y gall y cenhedloedd darostyngedig godi eu pennau. Y mae Rhyddfrydiaeth bellach yr un peth â rhoddi rhyddid i'r cenhedloedd Celtaidd, ac y mae Torïaeth yr un peth â'u rhwymo â chadwynau pres yn lle â chadwynau haearn. "Y Teutoniaid yn erbyn y Celtiaid" fydd gwaedd y Torïaid, a'r "Celtiaid yn erbyn y Teutoniaid" fydd gwaedd y Rhyddfrydwyr: ac yn wir, meddaf i chwi, ni cheir byth lawer o'r cyfryw Ryddfrydwyr yn Lloegr. Rhaid i'r Cymry, mewn undeb â'r Celtiaid eraill, ymddarparu i ymladd yn erbyn cenedl gyfan, ac nid mwyach yn erbyn plaid; canys y mae'r etholiad diwethaf wedi dangos yn amlwg fod y Saeson bron i gyd yn unfarn yn erbyn cydnabod y Cymry a'r Gwyddelod yn genhedloedd priodol. Y mae'r gŵr bonheddig o Loegr yn addef bod y fath greaduriaid â lleidr Cymreig a llofrudd Gwyddelig, ond y mae o'n gwadu bod y fath bobloedd â chenedl Gymreig a chenedl Wyddelig. Un genedl sydd, os gwelwch yn dda, sef "y genedl fawr hon," chwedl Gwallter Morgan; ac aelodau annheilwng yw pawb o'r Cymry a'r Gwyddelod (oddieithr y drwgweithredwyr) ohoni hi. Sais bendigedig oedd Wellington pan gynorthwyodd o Bülow a Blütcher i orchfygu Napoleon yn agos Waterloo; ond damned Irish traitor" oedd o pan bleidiodd o fesur yn Nhŷ'r Arglwyddi i ddwyn ymwared i'r Pabyddion.
Nid yw ddrwg gennyf ddarfod dryllio'r gorsen Seisnig yr oedd Chwigiaid Cymru'n pwyso mor hyderus arni. Fe ellir disgwyl y byddwn bellach yn fwy o Gymry ac yn fwy o Geltiaid, ac fe argyhoeddir pob gwleidydd o gyfreithiwr mai ofer fydd iddo mwyach lefaru a gweithredu â'i lygad yn wastadol ar y sach wlân yn Nhŷ'r Arglwyddi. Heblaw hynny, fe geir yn ystod teyrnasiad y Torïaid ddigon o amser i ddysgu'r Cymry i chwenychu ac i geisio'r un peth ag y mae'r Gwyddelod yn ei geisio. Canys oni chawn Ymreolaeth ar yr un pryd â'r Gwyddelod, byddwn yn rhy weinion i gael Ymreolaeth byth. Am fy mod yn Ymreolwr cywir a chyson, yr wyf yn parhau i lefain, er gwaethaf gwawd Saeson arglwyddaidd a Chymry gwasaidd: Cymru i'r Cymry; Lloegr i'r Saeson; yr Alban i'r Albaniaid; Iwerddon i'r Gwyddelod! Yr eiddo'r Cymro i'r Cymro, a'r eiddo'r estron i'r estron!—Yn enw rheswm, pa beth sy decach? {{c|EMRYS AP IWAN.
ALLAN O'R Geninen, 1895.
Nodiadau
[golygu]- ↑ "Yn Ffrainc mi a fedraf Ffrangeg; ond paham y dylwn siarad estroniaith yn fy ngwlad fy hun?"—Lessing yn Minna von Barnhelm.
- ↑ "English science can now boast of but very few noted living names any more than can English literature."—Daily Chronicle, September 12, 1895.
- ↑ Y mae'n ymddangos fod gan y Saeson anhawddgar hyn ffordd newydd i gael gwared o'r gweithwyr Cymreig, sef eu gyrru i weithio ymhell oddi cartref, a thrwy hynny beri iddynt deimlo bod eu cyflog yn rhy fach i'w cynnal hwy mewn llety.