Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I/Paul mewn dillad newydd
← Y Llo Arall | Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I |
Gair at rieni Cymreig → |
VI
PAUL MEWN DILLAD NEWYDD;
NEU O.C. 66 VERSUS O.C. 1877
Y mae'n debyg bod dyfodiad yr Apostol Paul i Lerpwl echdoe yn beth hysbys erbyn hyn i bawb sy'n arfer darllen y papurau beunyddiol. Yn wir, nid hawdd meddwl bod ffaith mor hynod â hon heb gyrraedd clustiau pawb eraill hefyd. Ofer gan hynny, fyddai i mi bellach ymdroi i fynegi o ba le, ac ymha long y daeth Paul yma, pwy a'i derbyniodd ef ar y man glanio, pa sawl rhoch magnel a ddychrynodd wylanod, sawl awyren a gystadlodd â'r ehedydd, sawl amserell aur a newidiodd feddiannydd, sawl seindorf a ganai "See the conquering hero comes," sawl ymladdfa a fu rhwng y gwahanol enwadau crefyddol amdano, beth oedd barn y benywod am ei berson, pa heolydd yr arweiniwyd ef ar hyddynt, ymha le a chyda pwy y ciniawodd, beth a ddywedodd yn ateb i'r toast "To the clergy," a chant o bethau eraill. Ymfoddlonaf yn unig ar roddi adroddiad o'r hyn a gymerodd le yn St. George's Hall drannoeth. Yno derbyniodd Paul GENHADAU (deputations): — 1. Oddi Wrth y Gwragedd.—Dyfod ato i ymofyn a wnaethant hwy pa fodd y bu i ddiwinydd o'i fath ef gael ei demtio i wneud sylwadau beirniadol ar wragedd chwedleugar, ac ar eu gemau, a'u gwallt, a'u gwisgoedd. Dywedent wrtho nad oes yn awr odid eneth ddengmlwydd oed ar nas gŵyr fod ei ateb i'r gofyniad mawr "Beth a wisgwn" yn gwbl gyfeiliornus y mae nid yn unig yn anghyson â deddfau chwaeth y merched eu hunain, ond hefyd, yn wrthwyneb hollol i ddeddfau misol golygydd anfarwol y Follet. Credent na allai byth broselytio holl wragedd Ewrop oni roddai iddynt berffaith ryddid i siarad ac i ymwisgo fel y mynnent." Atebodd Paul, "Angelesau diedyn, y mae'n ddrwg iawn gennyf ddarfod i mi erioed eich brifo; ond goddefwch i mi awgrymu'n fwynaidd nad teg iawn yw eich gwaith yn bwrw i'm dannedd ymadroddion a ysgrifennais mewn llythyrau cyfrinachol at Timotheus ac eraill. Ni ellwch chwi eich hunain lai nag addef y byddwch yn ysgrifennu llawer llythyr at eich cyfeillion na fynnech er dim iddynt gael eu cyhoeddi; ond felly ysywaeth y digwyddodd gyda'm llythyrau i. Byddai'n haws i chwi faddau i mi pe cofiech hefyd fy mod y pryd hwnnw yn hen lanc croendew, a gwyddoch o'r gorau fod pob hen lanc yn barotach i ddodi iau ar war merch nag i ddodi modrwy am ei bys. Ond wedi gweled ohonof ferched glân y Gorllewin, meddiannwyd fi gan deimlad mwy tyner. Teflwch oddi wrthych gan hynny bob rhwymau a osodais arnoch yn amseroedd yr anwybodaeth. Pe buasai merched y Dwyrain cyn laned ag ydych chwi, odid na phriodaswn un ohonynt. Beth bynnag am hynny, y mae'n sicr y buasai eu prydferthwch wedi fy atal rhag ymyrryd dim â'u ffasiynau. Cyn eich gollwng ymaith, dymunaf roi ar ddeall i chwi mai cymeradwy iawn gennyf i yw'r dull Jesebelaidd sydd ar eich cyrff a'ch gwisgoedd. Onid ymddangoswch yn y dull hwn mewn dawnsfeydd a chyngherddau, byddwch yn euog o guddio'ch gogoniant dan lestr." Ar ôl diolch iddo, aeth y merched ymaith yn llawen.
2. Oddi Wrth Brif Deilwriaid Rhydychen.— Gofyn i Paul a fyddai mor fwyn â dweud wrthynt beth oedd lliw a llun y cochl a adawodd Nhroas.
3. Oddi Wrth yr Eglwys Lydan:—Gofynnodd y cenhadau iddo a oedd yn parhau i goleddu syniadau mor gul am Iddewiaeth a chrefyddau eraill, ac a oedd yn barod i alw yn ôl y geiriau geirwon a lefarodd am Baganiaid moesol a dysgedig. Cyn myned allan, parasant iddo ddarllen Nathan der Weise, o waith Lessing, er mwyn ehangu ei gydymdeimlad.
4. Oddi Wrth y Bedyddwyr.—Gofyn iddo a glywsai gan Phylip beth oedd hyd, a lled, a dyfnder y llyn y bedyddiwyd yr eunuch ynddo; hefyd, a oedd gan geidwad y carchar blant bychain.
5. Oddi Wrth y Calfiniaid.—Gofynasant i Paul sut y bu i un fel ef, a gafodd ysgol dda, arfer ymadroddion mor amwys a llac yn ei lythyrau. Nid oeddynt heb gredu ei fod yn Galfiniad o'r iawn ryw, ond yr oedd wedi ysgrifennu rhai ymadroddion â gwedd Arminaidd arnynt. Credent pe cymerasai amser i ysgrifennu yn fwy manwl a chyson na buasai'r un Arminiad yn byw heddiw.
6. Oddi Wrth yr Arminiaid.—Nid oeddynt yn hoffi gwenieithio i neb, ond ni allent ymatal rhag tystio wrtho eu bod yn edrych arno fel un o ddisgyblion galluocaf Arminius. Bron na ddywedent ei fod yn ail i Iago ei hun. Er hynny, yr oedd yn ofidus ganddynt weled yn ei lythyrau rai geiriau a brawddegau â thuedd ynddynt i fagu Calfiniaeth. Dymunent wybod pa un ai i frys Paul, ai i ddichell rhyw adysgrifiwr yr oeddynt i briodoli'r brychau hyn.
7. Oddi Wrth y 'Sais-addolwyr.—Deisyfent gael gwybod gan Paul pa un yw'r ddyletswydd fwyaf Cristiolus, ai ceisio troi'r Cymry dwyieithog yn Saeson uniaith, ynteu pregethu'r Efengyl iddynt yn iaith eu mam.
8. Oddi Wrth y Pregethwyr Cerddorol.—Eisiau gwybod oedd arnynt hwy pa waith oedd yn dwyn mwyaf o elw iddo ef a'i gyfaill Silas, ai canu ynteu pregethu. Mynnent hefyd iddo ddywedyd wrthynt, ar ei wir, a oedd y gerdd a ganasant gynt yn y carchar cyn goethed â'r cerddi a genir ganddynt hwy ambell nos Sadwrn mewn capelau.
9. Oddi Wrth Undeb y Gweithwyr.—Eu neges hwy oedd gofyn iddo a oedd y cynghorion a roddodd i weision y Dwyrain yn yr oes apostolaidd yn gynghorion y disgwylid i weision Prydain eu gwneud yn yr oes rydd a golau hon. Os oeddynt felly, pa fodd y cydsafai'r cyfryw rwymedigaethau ag "annibyniaeth" y gweithiwr.
10. Oddi Wrth Ddosbarth o'r Amaethwyr.— Deisyfent gael gwybod a oedd sicrwydd bod gan y creaduriaid deudroed hynny a elwir gweision a morynion, y fath beth ag enaid o'u mewn; os oedd, dymunent wybod ymhellach a oedd rhyw rwymau arnynt hwy i ymddwyn tuag atynt fel perchenogion enaid. Gofynasant hefyd onid oedd yn tybied bod y gyfryw ystafell gysgu ag oedd ganddynt i'w llanciau a'u llancesau yn eu gosod hwynt ar dir manteisiol iawn i gyflawni'r gorchymyn cyntaf yn Genesis.
11. Oddi Wrth Ddosbarth Neilltuol o'r Cyfoethogion (gyda heddgeidwad o'u hôl).—Agorodd eu blaenor ei enau, gan ddywedyd "Y gwas Paul, y mae gennym beth i'w ddweud wrthych. Yn gyntaf dim dymunem ddwyn ar gof i chwi fod eich het am eich pen. (Paul yn ei thynnu mewn dychryn.) Bellach at ein cenadwri:—A ydych chwi, Paul, yn barod yn awr i gyfiawnhau'r cyfeiriadau pigog a diystyrllyd a wnaethoch atom ni, y Neo-Aristocrats, yn eich llythyrau at Timotheus, ac eraill? Pwy yn y wlad hon a wynebodd y cyfoethogion ac a lwyddodd? Gwybyddwch mai ynfytyn a chablwr a hunan-leiddiad yw'r neb a ddywedo'r gwir am yr arianogion, neu wrthynt." Yna Paul, wedi llygadu ar y gefynnau yn llaw'r heddgeidwad, a lefodd â llef uchel, "O! Timotheus, Timotheus, dy annoethineb di a'm dygodd i'r cyfyngdra hwn. Paham na losgaist fy llythyrau ar ôl eu darllen? Yn awr, gan hynny, boed fy ngham i arnat ti." Yna, gan syrthio ar ei liniau o flaen y dirprwyon, ef a ddywedodd, "O feistriaid, trugarhewch, trugarhewch. Am bob gair du a ysgrifennais amdanoch, yr wyf yn addo ysgrifennu cyfrol o iaith wen. Tyngu yr wyf heddiw na ddywedaf y gwir wrthych byth mwy. Ni soniaf mwyach am 'grai nodwydd ddur fy athro, ond cyhoeddaf i'r rhai goludog fod y fynedfa i'r nefoedd cyfled â drws eglwys a chyfuwch â phyrth Thebes. Addawaf gyhoeddi heddwch pryd na bydd heddwch. Dadleuaf dros godi achosion Seisnig, Ffrengig, ac Ysbeinig, mewn lleoedd nad oes mo'u heisiau gwnaf rywbeth, gwnaf bopeth, er mwyn ennill eich ffafr chwi, ac hefyd sicrhau fy nghysur fy hun."
Yna blaenor y ddirprwyaeth a barablodd drachefn, ac a ddywedodd, "My dear Mr. Paul, y mae'n ddiogel gennyf fy mod yn mynegi teimlad pob un o'r rhai sydd gyda mi, wrth ddywedyd bod eich ymostyngiad yn ein cymodi (clywch, clywch). Nid ydym ni byth yn euog o faddau'n frysiog i'r neb a'n tramgwyddo, ond y mae'ch edifeirwch dwys a'ch addunedau difrifol chwi yn ein temtio i dorri ar ein harfer. Y mae'r ystwythder rhagorol a ddangosasoch yn awr wedi'ch gwneud yn werthfawr yn ein golwg. Cewch weled yn fuan y bydd ein cefnogaeth ni yn fantais anhraethol i chwi. In fact, Mr. Paul, it will be the making of you.' Ni raid dweud wrthych y gallwn ni wneud heboch chwi, y pregethwyr, ond ni all y pregethwyr wneud dim ohoni hebom ni. Gan hynny, gwyn ei fyd y gŵr a ŵyr pa fodd i'n boddhau. Yn awr, rhaid i ni fyned ymaith, onid e byddwn ar ein colled. Bydd yn dda gennym gael eich cyfeillach heno yn Puncto Place; anfonir cerbyd i'ch cyrchu. Au revoir."
Enter Iwan Trevethick yn ddigofus. "Paul, Paul, beth yn enw gwirionedd a ddarfu i chwi? Ai i chwarae'r ffon ddwybig y'ch gwahoddais i Brydain? Wele, mi a ddywedais ynof fy hun, ni wrandawant ar Iwan Trevethick am mai Iwan Trevethick ydyw, odid na wrandawant ar Paul. Erbyn hyn, wele Paul wedi dyfod, ond O! mor annhebyg ydyw iddo'i hun. Disgwyliais am lewddyn, ond llwfrddyn a ddaeth. Craig oedd o flaen fy nychymyg, ond ymenyn sydd o flaen fy llygaid. Edrychais am ŵr a ddatguddiai'r cerrig terfyn rhwng y byd a'r eglwys, yntau a gladdodd y garreg olaf. Disgwyliais am ddyn a gyhoeddai y gwir yn erbyn y byd '; yn lle hynny, mathrodd y gwir, a chydymagweddodd â'r byd. Bellach, Rodres, nac ofna. Ffug, cymer galon. Y Llo Aur, bydd fyw byth. Chwithau, Waseidd-dra a Gweniaith, teyrnaswch mewn heddwch. Wybodaeth, ymgryma i Gyfoeth. Gallineb, dod barch i Uchelgais. Llawenhewch, waseiddwyr, canys er pan ddaeth y Paul hwn i Brydain, fe chwanegwyd un at eich nifer. Ond ust! fy enaid, gwell yw ymliw nag ymson. Yn ddiau, Paul, siarad a gweithredu yn anghyson iawn a ddarfu i chwi heddiw, a gofidiaf am hynny hyd fy marw. Er hynny, aeth fy nigofaint heibio ar edyn y geiriau sydd newydd ddianc o'm genau. Yn awr gan hynny, Paul, pa lwybr a fyddai orau i mi ei gymryd i'ch cyfiawnhau? Geil fy nghariad ddyfeisio esgusion lawer i ddieuogi cyfaill." Atebodd Paul, "Ni ddywedais heddiw ond yr hyn a ddylaswn. Os mynnwch eich profi eich hun yn gyfaill i mi, esgusodwch, yn hytrach, y culni a'r llymder a ddangosais yn fy epistolau. Rhaid addef ein bod ni yn yr oes gyntaf yn llawer mwy pendant a rhagfarnllyd nag yw dynion yn yr oes hon. Os parhau a wnaf i fod megis cynt, byddaf ddeunaw can mlynedd, neu chwaneg, ar ôl yr oes. I ochel hynny, yr wyf am fy nghymodi fy hun â'r genhedlaeth hon trwy fy ngwneud fy hun ym mhob peth yn modern man. Clywais fod rhyw bethau a ysgrifennais ynghylch ffiniau barn a buchedd yn atal llawer o bobl weiniaid a gorgrefyddol rhag credu a gwneuthur yn ôl eu hewyllys. Yr wyf ar fedr esmwythau eu cydwybodau trwy symud pob maen tramgwydd oddi ar y ffordd. Yfory, mi a ym— neilltuaf i'r Hafod Unig, sydd ar fynydd Hiraethog, er mwyn cael hamdden i baratoi argraffiad newydd o'm hepistolau. Bwriadaf dynnu llawer oddi wrthynt, a chwanegu llawer atynt. Hyderaf y byddant yn eu gwedd ddiwygiedig yn, hollol ddi- dramgwydd. Gwnaf ymdrech deg i ddileu popeth sydd yn annygymod â chwaeth, ac yn aflonyddu ar gydwybod y beau monde. Cyhoeddaf y fath ryddid iddynt ag a'u dygo i deimlo na fydd yr efengyl fwyn, yn ôl Jean Jacques Rousseau, ond megis cyfraith gaeth wrth fy efengyl newydd i." Ocha fi, beth a glywaf. Ai diau, Paul, mai chwi ydych chwi; os mai e, rhad arnoch.
Exit IWAN TREVETHICK.
O.Y.—Hwyrach y dichon i ddieithrwch y dull hwn o ysgrifennu beri i rai anghyfarwydd gamfarnu ysbryd ac amcan yr ysgrifennydd. Fe allai y dywed y rhai craff wrthynt beth yw ergyd yr ysgrif.—I.T.
ALLAN O'R Faner, GORFFENNAF 11, 1877.