Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I/Pynciau i Blant
← Bully, Taffy, a Paddy | Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I |
Paham Gorfu'r Undebwyr → |
II
PYNCIAU I BLANT
(PUM SWLLT O WOBR)
FONEDDIGION,
Gan y bydd y nos ormesol, bellach, yn ymlid plant da yn gynharach—gynharach o'r heolydd i'r aelwydydd, nid anfuddiol fyddai rhoi pwnc dadleuol iddynt i ysgrifennu arno. Cânt ddewis yr un a fynnont o'r pynciau isod, a chânt gymryd yr ochr a fynnont wrth ymdrin ag unrhyw un ohonynt, oddieithr y blaenaf. Rhag i neb o'r plant ddweud na ŵyr pa fodd i ysgrifennu arnynt, mi a roddaf gyfarwyddyd bras iddynt o dan bob pwnc.
1.—Pa un ai mantais ai anfantais i Gymry yw'r Gymraeg?
Wrth ysgrifennu ar y pwnc hwn addefed y cystadleuydd yn gyntaf oll fod cariad dyn at iaith ei dadau yn un o'r "teimladau mwyaf cysegredig," ond profed yn ddi-oed ar ôl gwneud hynny fod yn weddaidd iddo fygu'r teimladau hynny, er dyfned ydynt, er mwyn "llesoldeb bydol." Dangosed y gwnelai Cymro yn gall pe newidiai ei iaith, ei grefydd, a'i Dduw hefyd, am dair punt yn yr wythnos yn lle dwy. Syniai'r werin gynt mai'r peth cyfiawnaf oedd y peth buddiolaf hefyd yn y pen draw—eithr profed y cystadleuydd fod y syniad yna'n anghywir; neu profed o'r hyn lleiaf, fod budd uniongyrchol a theimladwy ar y budd na byddo felly. Haered (nid rhaid iddo ymdrafferthu i brofi), haered, meddaf, nad yw ymlyniad cenedl wrth ei hiaith briodol yn ddim amgen na "rhagfarn" a clannishness. Er enghraifft, culni ysbryd sy'n peri i Gymro siarad Cymraeg yn hytrach na Saesneg; pe bai'n rhyddfrydig fe fwriai heibio ei iaith ei hun ac a fabwysiadai iaith y Saeson. Y mae ysbryd gwir ryddfrydig yn dysgu dyn i garu gwraig ddieithr yn fwy na'i wraig ei hun, i fawrygu cenedl elynol yn fwy na'i genedl ei hun, ac i ddewis iaith estronol yn lle ei iaith ei hun. Y mae'n wir na fynn y Saeson newid eu hiaith er dim, ie, ni fynn y rhan fwyaf ohonynt gymaint â chwanegu iaith estronol at eu hiaith eu hunain. Ond er mai hwy ydyw un o'r ddwy genedl fwyaf uniaith yn Ewrop, eto ni byddai'n foneddigaidd i Gymro eu galw hwynt yn clannish nac yn rhagfarnllyd: yn un peth am eu bod wedi achub y blaen arnom trwy fwrw'r geiriau yna i'n hwynebau'n gyntaf; a pheth arall, am mai hwynt—hwy yw ein harglwyddi—ein duwiau a ddylaswn ddweud. Y mae gennym ni'r Cymry bob hawl i'n gwaradwyddo ein hunain â phob rhyw enw drwg y gwelodd y Daily Telegraph yn dda ei roi arnom, gan fod hynny'n beth mor ddifyr gennym; ond nid oes gennym hawl i droi ar ein meistri gan ddywedyd, "Tinddu ddu ebe'r frân wrth yr wylan."
Dyma beth arall hefyd y gall y cystadleuydd ei haeru heb ofni cael ei wrthddywedyd gan y rhai na wyddant nemor am y Cyfandir, sef, "na lwyddodd un genedl i siarad dwy iaith am dymor hir." Y mae'r byd mor fawr, a phob rhan ohono, oddieithr Lloegr, mor ddieithr i'r rhan fwyaf o Gymry fel y mae'n ddiogel i Gymro cartrefol ddweud y peth a fynno amdano ac am ei drigolion.
Heblaw hynny, dyweded y cystadlydd mai cywilyddus o beth ydyw na ŵyr llawer o reithwyr a thystion Cymreig fawr fwy am iaith y Barwn Bramwell nag a ŵyr y Barwn Bramwell am eu hiaith hwythau. Yn sicr dylai'r Methodistiaid neu ryw gyfundeb cymwynasgar arall ddyfeisio rhyw gynllun i addysgu'r Cymry hyn i ddeall iaith y Barwn Bramwell a'i osgordd. Y mae anwybodaeth y barnwyr a'r dadleuwyr o'r iaith Gymraeg yn ennyn rhyw barchedigaeth dwfn yn enaid pob Cymro "diragfarn," ond gwrid a gyfyd i'w wyneb pan welo dyst neu garcharor heb fedru nemor o Saesneg. Dylid edrych ar Sais uniaith fel prodigy; ond dylid edrych ar Gymro uniaith yn benbwl. Traethed y cystadlydd ychydig o hanesynnau i gadarnhau'r gwirionedd uchod. Cymered yr hanesyn hwn fel cynllun:—Aeth gŵr a gwraig uniaith o Loegr i Ffrainc. Gan nad " arweinid hwy'n bersonol" gan Gaze na Cook, bu raid i'r gŵr ofyn rhyw gwestiwn i un o'r fforddolion brodorol, a chan i hwnnw ei ateb mewn iaith farbaraidd (cofier mai iaith farbaraidd y geilw'r Sais bob iaith na ŵyr ef mohoni), gan i hwnnw, meddaf, ei ateb mewn iaith farbaraidd, trodd y Sais uniaith at ei wraig a dywedodd gyda theimlad a gyfansoddid o dosturi, o syndod ac o ddigofaint, Gracious me! this fellow is as ignorant as Plato—he doesn't know a word of English!
Ac nid yn y llysoedd cyfreithiol yn unig y mae'r Gymraeg yn anfanteisiol, ond y mae felly hefyd yn y cynghorau plwyfol a threfol, ac addysgol ac iechydol a gedwir yng Nghymru. Bydd un ddau o aelodau'r cynghorau hyn yn Saeson, o ran iaith os nad o ran cenedl hefyd, ac nid peth hawdd i Gymry â llonaid eu pen o Gymraeg ydyw tynnu allan ohonynt eu hunain ddigon o ymadroddion Saesneg i ymddadlau â Saeson yn yr iaith Saesneg. Nid gwiw fyddai i bob aelod lefaru yn ei iaith ei hun fel y gwneir mewn un senedd ar y Cyfandir, ac fel y gwneir mewn amryw o gynghorau taleithiol yno, gan nad yw'r Saeson yn deall Cymraeg. Nid gweddaidd 'chwaith fyddai gosod anghenraid ar Sais i ddysgu Cymraeg neu fyned ynghylch ei helynt. Gan hynny, rhaid i bob Cymro "diragfarn" ac "unclannish" wybod mai'r peth gorau fyddai i ryw ddwsin o Gymry wneud ffyliaid ohonynt eu hunain er mwyn dangos eu parch i un Sais. Dangosed y cystadlydd na ddichon y Cymry eu parchu eu hunain heb fod yn euog o amharchu'r Saeson, ac na ddichon iddynt wneuthur tegwch â hwy eu hunain heb wneuthur cam â'u harglwyddi. Myneged ei alar hefyd oherwydd bod cynifer o Gymry mor rhyddfrydig i ddygymod ag iau caethiwed, ac yn ddiwethaf oll, cusaned ei gadwyni trwy gydganu â'r arglwyddi "God save our gracious Queen."
2.—Pa un ai mantais ai anfantais yw'r Saesneg i'r Saeson?
Profer, os mynner, mai mantais ydyw iddynt; ond os dewisir profi mai anfantais ydyw, dyweder na ddichon un Sais deithio trwy'r byd ei hunan, ac na ddichon gael unrhyw swydd enillfawr ac anrhydeddus mewn gwledydd tramor dan y llywodraeth hon na than ryw lywodraeth arall heb wybod y Ffrangeg. Gan na ddichon pen bychan gynnwys dwy iaith, profer y byddai'n rhesymolach i'r Saeson ymwrthod â'r Saesneg, ac ymfoddloni ar yr iaith fwyaf manteisiol yn unig, sef, y Ffrangeg. Noder hefyd mor fawr oedd anfantais Beaconsfield, ac mor anwybodus yr ymddangosai yng Nghynhadledd Berlin oblegid na fedrai mo iaith gyffredin ei gyd— gynghorwyr. O! na buasai'r Ffrancwyr, yr Ellmyn, y Rwsiaid, a'r Tyrciaid, o'r un ysbryd â nyni'r Cymry. Pe baent felly, buasent oll yn unfryd yn troi i'w Saesneg o barch i'm Harglwydd Sais.
3.—Pa un ai mantais ai anfantais i ddynion fyddai bod heb iaith o gwbl?
Os dywedir mai mantais fyddai hynny, dangoser y medr dynion eisoes wneud y ddau beth pwysicaf, sef bwyta a chysgu, heb yr un iaith, ac y medrent garu ac ymbriodi, ac ymbaffio ac ymgymodi, a chladdu ei gilydd hefyd heb iaith, pe rhoddent eu bryd ar hynny. Profer y byddai mwy o naturioldeb ar eu hysgogiadau, a mwy o fynegiant ar eu gwep pe baent heb iaith; y ceid gwared llwyr o'r pregethau hirwyntog, yr areithiau llywyddol, y cylch—lythyrau, yr hysbysiadau, yr enllibiau, gweniaith, Warton, Bradlaugh, y Police News, a phob rhyw geriach, pe baem heb iaith. Ar air, ceid y fath ddistawrwydd ar wyneb y ddaear fel y byddai Thomas Carlyle farw o lawenydd.
4.—Pa un ai mantais ai anfantais i gerddorion ydyw bod mwy nag un dón ar yr un pennill?
Os barna'r cystadleuydd mai anfantais ydyw, dyged resymau i brofi mai tystiolaeth yr oesau ydyw na chanodd un cerddor ddwy dôn ar yr un pennill am dymor hir. Boddlona'r werin, o'r hyn lleiaf, ar un. Wrth ddysgu tôn newydd, anghofiant yr hen. Pe ceisient gadw'r ddwy, anghofient y ddwy; neu ynteu, cymysgent y ddwy ynghyd, a byddai hynny'n waeth fyth.
5.—Pa un ai mantais neu anfantais i'r Swliaid yw eu bod yn groenddu?
Os dywedir mai anfantais, profer na feiddiasai'r Saeson eu trin mor annynol pe buasent yn bobl wynion. Yn wyneb hyn, dangosed y cystadlydd mai dyletswydd resymol y Swliaid yw troi'n wynion cyn gynted ag y gallont. Profer ei bod yn haws iddynt newid eu lliw na newid eu hiaith am nad ydyw eu lliw yn cyrraedd yn is na'r croen, ond bod iaith eu tadau wedi paratoi lle yn eu henaid, ac wedi gosod ei nod ar eu peiriannau tufewnol; ie, cyn medru ohonynt siarad gair ohoni.
Dyna bynciau'r gystadleuaeth; dyma'r rheolau eto:—
1. Ni chaniateir i neb a welodd lawer o'r byd, ac a ŵyr amryw ieithoedd gystadlu ar y pwnc blaenaf am fod perygl iddo fod yn fwy "clannish" a "rhagfarnllyd' na'r Cymry rhyddfrydig hynny a arhosodd ar hyd eu hoes tan ddylanwad y Saeson. 2. Ni chaniateir i neb manylaidd ei feddwl 'chwaith ymgystadlu arno rhag ofn iddo fyned i'w drin yn hanesyddol, yn athronyddol, ac yn anianyddol, yn ôl dull Marsh, Müller, Menzel, Carpenter, ac eraill.
3. Bydd yn rhydd i blant Cymreig brofi bod y Gymraeg yn anfanteisiol, cystal ag y gallont yn Gymraeg, ac ni chaeir hwynt allan o'r gystadleuaeth hyd yn oed os digwydd iddynt wybod tipyn o Saesneg.
4. Y mae'n rhydd i Saeson o bob oedran ymgystadlu os medrant brofi na wyddant un iaith heblaw'r Saesneg; eithr rhaid i'r ymgeiswyr Cymraeg fod naill ai yn eu plentyndod cyntaf, neu yn eu hail blentyndod.
5. Anfoner yr ysgrifeniadau trwy swyddfa'r Faner i ysgrifennydd "Cymdeithas yr Unieithogion," erbyn dydd Nadolig y flwyddyn hon. Cyhoeddir y traethawd gorau yn y Boy's Own Paper.
Y rhai hyn fydd y beirniaid: —Edward Levy Lawson, Esq., Daily Telegraph Office, London, author of "British Interests in the Moon," "Russian Intrigue, Affghan Treachery and Irish Ungratefulness," "Welsh Clannishness," &c. Richard Johnny David, Esq., author of "They Tuty of Welshmen to do ass they are towld," "How iss to turn a Welsman into a Hinglisman," &c.
Ydwyf, &c.,
—Y GWOBRWYWR.
ALLAN O'R Faner, MEDI 1, 1880.