Neidio i'r cynnwys

Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I/Rhagymadrodd

Oddi ar Wicidestun
Cynnwys Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I

Bully, Taffy, a Paddy

RHAGYMADRODD

Peidiwch â chynhyrfu, wŷr Athen; glynwch wrth yr hyn a ofynnais gennych, sef peidio â chynhyrfu wrth y pethau a ddywedaf, ond gwrando. Yn wir, mi debygaf, cewch fudd o wrando. Canys yr wyf ar fin dywedyd wrthych bethau eraill, ac efallai y bloeddiwch allan rhagddynt; ond, da chwi, na wnewch hynny. Os lleddwch fi, nid hawdd fydd cael un arall tebyg—un sydd, mewn gair (er ei ddigrifed), yn eistedd ar y ddinas megis ar farch tal, telediw, sydd braidd yn swrth gan ei faint ac yn gofyn rhyw gacynen i'w gyffroi. Un felly ydwyf i, a chredaf fy nghyflwyno gan Dduw i'r ddinas; eisteddaf yn ddi-baid ar hyd y dydd ar bob un ohonoch ym mhob man, gan eich cyffroi a'ch perswadio a'ch ceryddu. Un arall o'm bath ni ddaw'n rhwydd i chwi, gyfeillion, ond os gwrandewch arnaf i, fe'm harbedwch. Chwithau, efallai, yn ddig fel rhai a gyffroer o'u cyntun, gan wrando ar Anytos, a'm lleddwch yn hawdd â dyrnod. Yna chwi gysgech ymlaen weddill eich oes, oni ofalai Duw amdanoch ac anfon rhywun arall ar eich gwarthaf. Gellwch amgyffred oddi wrth hyn mai rhyw rodd, yn wir, wyfi gan Dduw i'r ddinas: canys nid yn ôl dull dynion ydyw fy mod i yn esgeulus am fy mhethau fy hun ac yn gadael fy eiddo ofal ers cynifer blwyddyn bellach, ac yn ymwneuthur hyd â'ch pethau chwi, gan ddynesu at bob dyn fel tad neu frawd hynaf, a cheisio'i berswadio i ofalu am rinwedd. . . Canys dygaf i, mi gredaf, dyst digonol mai'r gwir a ddywedaf, sef fy nhlodi.

Allan o Amddiffyniad Socrates, yn ôl Platon. Cyfieithiad y Prifathro D. Emrys Evans.

Os gallaf ryw fodd yrru eiddigedd ar fy nghig a'm gwaed fy hun.

CODIR y geiriau olaf uchod fel math o is-bennawd gan Emrys ap Iwan ei hun i gyfres o erthyglau a sgrifennodd i'r Geninen o 1890 i 1892. Y prif deitl oedd Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys, a'r unig rheswm pam na chynhwyswyd hwy yn y gyfrol hon yw eu bod yn hawdd eu cael ers rhai blynyddoedd bellach yng Nghyfres y Ford Gron. Oblegid hynny penderfynwyd eu hepgor er mwyn cael lle i eraill a gladdwyd mewn hen gylchgronau a newyddiaduron.

Byddai'r un pennawd yn taro o flaen y rhan fwyaf o draethodau Emrys, ac y mae'n arbennig felly am gynnwys y gyfrol hon. Nid oedd dameg y gacynen yn ddieithr iddo ychwaith, canys efô ei hun a drosodd i Gymraeg eiriau dewr ei hoff arwr, Paul-Louis Courier:—

Arnat ti y mae llefaru, ac arno yntau [sef gwas y gyfraith] y mae dangos trwy ei erlyniad wirionedd dy eiriau. Wrth ddeall a chefnogi'ch gilydd, yn ôl dull Socrat ac Anytos, gellwch droi'r byd. Am hanes bywyd Emrys nid oes angen yma fawr mwy na chyfeirio'r darllenydd at gofiant yr Athro T. Gwynn Jones. Yn unig am fod y llyfr hwnnw hytrach yn anodd ei gael erbyn hyn, y codaf y braslun byr isod o erthygl y Parch. L. E. Valentine yn y rhifyn cyntaf o'r cylchgrawn Heddiw:—

Ganed ef yn Abergele ym mis Mawrth 1851. Nid oedd yn Gymro o waed coch cyfan, ac un tro, fe edliwiodd hyn yn finiog i'w gydwladwyr. Cyfeirio [yr oedd] at ei hen nain oedd yn Ffrances o addysg dda a fu'n gwasanaethu yn yr Hen Wrych yn ymyl Abergele. Priododd hi â Jones y pengarddwr yno, ac aethant i fyw i bentref Llanddulas. Gor-ŵyr i'r pen-garddwr hwn oedd Emrys.

Ar ôl gadael yr ysgol bu mewn siopau dillad yn Lerpwl, ond ymhen y flwyddyn dychwelodd yn arddwr i Fodelwyddan. Yn ddeunaw oed, ar ôl dechrau pregethu aeth i Goleg y Bala a chafodd wŷr fel Puleston Jones, Iolo Caernarfon, a Griffith Ellis yn gydfyfyrwyr. Ar derfyn ei gwrs yno bu'n cadw ysgol yn y Rhuallt ac yn gofalu am eglwys Saesneg yng Nghaergwrle. Yna aeth ar y cyfandir i ddysgu Ffrangeg ac Almaeneg ac i hyfforddi mewn Saesneg yn Lausanne a Bonn a Giessen. Ordeiniwyd ef yn Sasiwn yr Wyddgrug yn 1883, a bu'n byw yn Ninbych, Rhuthyn, Trefnant, a Rhewl, ac yn y Rhewl y bu farw ym mis Ionawr 1906, a chladdwyd ef ym mynwent y capel.

Rhyfedd fel y gellir rhoi cyfrif am fywyd y mwyaf anturiaethus o ddynion mewn ychydig o eiriau, ond y fath hanes a ddarnguddir gan air neu ddau ohonynt weithiau. Y flwyddyn mewn siopau dillad yn Lerpwl er enghraifft. Ni allai byth deimlo'r un fath tuag at Saeson wedyn, oblegid yno y daeth i'w hadnabod yn eu rhinweddau a'u diffygion. Gwyddai hefyd nad oedd yn Gymro o waed coch cyfan, ac o'i fachgendod parodd hynny chwilfrydedd ynddo i ymgydnabyddu â byd mawr y Cyfandir. Trwy fyw yn y ddau le, sylweddolai fwyfwy fod rhan ohono'n perthyn i Ewrop, a rhan i Gymru. Brwydr am unoliaeth o'r rhannau gwerthfawr hyn oedd ei frwydr fewnol, ac o'r synthesis hon y cyfoethogodd fywyd ei wlad, trwy ledu ar orwelion rhai o'i meibion disgleiriaf o hynny hyd heddiw.

"Ordeiniwyd ef yn Sasiwn yr Wyddgrug yn 1883." Dyna frawddeg gynhwysfawr arall. Gorfu ar ei enwad o hir ddiwedd arddel profiad a gweledigaeth newydd ar ôl brwydr gas ar ran rhai o'i 'mawrion.' Bu grym argyhoeddiad, llwyredd gwasanaeth, a dichlynder cymeriad yn drech o'r diwedd na phen-wendid Sais-addolgar, snobrwydd, a diffyg hunanbarch a hyder cenedlaethol cefnogwyr y mudiad i godi capeli Saesneg ar draul Cymry mewn ardaloedd Cymreig.

"Bu'n byw yn Ninbych, Rhuthyn, Trefnant, a Rhewl." Hynny yw, fe roes ei orau i eglwysi ei gyfundeb yn Nyffryn Clwyd, gan adael swm ei gyflog, hyd yn oed, i anrhydedd yr eglwysi a fugeiliai mor ofalus. Troes ei gefn ar bob cyfle i ennill clod a chyfoeth a chymdeithas dysgedigion ar y Cyfandir, er cryfed y dynfa. Rhydd yr Athro T. Gwynn Jones yr hanes fel y bu iddo gael cynnig perchenogaeth ysgol yn yr Yswisdir ar delerau ffafriol iawn, ac wrth edrych yn ôl ar ei yrfa fe gofia Emrys am gyfle arall a wrthododd er mwyn Cymru a'r Efengyl:—

Yn wir, pan oeddwn i yn iau, ac yn ystwythach fy nhafod nag ydwyf yn awr, mi gefais gynnig tri chant o bunnau am weithredu fel corresponding secretary yn Belgrade, prifddinas Servia; a phe buaswn wedi derbyn y cynnig, hwyrach y buaswn erbyn hyn yn gonsul, ac ar y ffordd i fod yn llysgennad.

—Y Faner, Chwefror 27, 1895.

Nid un na dau ar lawr Dyffryn Clwyd heddiw sy'n barod i ddiolch iddo am y dewis a wnaeth. Ni cheisiodd ychwaith ennill ffafr arweinwyr ei enwad, ond eu gwrthwynebu'n gyndyn heb gyfrif y gost, pan welai fod achos, ac yn enwedig pan welai fod Cymru, ei hiaith, a'i chynhysgaeth feddyliol ac ysbrydol yn ddistadl neu'n eilbwys yn eu golwg. Dioddefodd ei wawdio'n gyhoeddus am hyn, megis yng Nghymdeithasfa'r Gogledd yn Llanidloes yn y flwyddyn 1881, pan oedd Emrys o flaen ei 'well' am feiddio gwrthod ufuddhau i 'bull y Pab bach o'r Bala.' Dyma'r hanes fel y codwyd yn y Cofiant gan T.G.J.:—

Mr. Jones [wrth y Dr. Lewis Edwards a'r Gymdeithasfa]: Yr wyf yn meddwl y dylid caniatáu mesur o ryddid llafar gyda rhyddid barn, onide, nid yw y rhyddid i farnu o nemor werth. . . Yr wyf yn ymatal rhag ysgrifennu yn erbyn amryw bethau ag yr wyf yn anghytuno â hwynt, am fod y rhai hynny yn bynciau dadleuadwy, ac mewn pethau felly yr wyf yn ymostwng i farn y mwyafrif; . . Ond nid wyf i yn cyfrif ffyddlondeb neu anffyddlondeb i iaith yn bwnc dadleuadwy. Ni allwn i bleidio dim â thuedd ynddo i Seisnigo'r Cymry heb fyned yn erbyn fy argyhoeddiadau politicaidd. (Chwerthin.)

I Emrys, felly, yr oedd ei argyhoeddiadau ar fater llunio bywyd gwlad a chymdeithas yn gysegredig. Crechwen Cymdeithasfa Llanidloes oedd ateb y cyfnod pryd yr oedd unigoliaeth yn ben mewn byd ac eglwys fel ei gilydd. Caent hwy flas ar ganu "Duw, cadw f'enaid bach o hyd uwch sŵn y byd a'i ddrygau," ac yr oedd Emrys iddynt hwy yn siarad yn wirion am ei fod o flaen ei oes.

Eto nid am iddo wrthwynebu'r 'mawrion,' nac am ei weledigaeth ar fywyd cymdeithas yn gymaint, y mae cynifer o bobl Dyffryn Clwyd yn barod i ddiolch amdano, ond am iddo ddewis aros yn eu plith a llafurio cystal gyda'r plant, sef had yr Eglwys. Na thybied neb mai dyn sur oedd, oblegid ni bydd plant byth yn hoffi dynion felly, ac y mae digonedd o brofion eu bod i gyd yn hoff o Emrys. Ymhell cyn bod sôn am ddysgu hygiene yn yr ysgolion, yr oedd ef wrthi yn eu dysgu yn Gymraeg i barchu'r corff, ac i wybod mwy amdano a'i anghenion, pwrpas y gwahanol rannau ohono, a'r modd i'w datblygu. A'r un gofal y gwrteithiai'r meddwl a'r ysbryd. Crefydd eang ddynol oedd ganddo, a'i neges i'r dyn yn gyfan, ac i gymdeithas a gwlad yn eu cyfanrwydd.

Lled-awgrymwyd gan ambell un yn ddiweddar mai Pabydd dirgel oedd. Gyda phob parch i'n brodyr Catholig, nid oes ganddynt unrhyw hawl iddo. Yn ei ddydd, fe'i cyhuddwyd ar goedd yn y Gymdeithasfa fod ei syniadau am natur a threfniant eglwys yn arwain i Annibyniaeth, ac yn ddiau yr oedd ef yn agos dros ben i'r ffin. Gwrthwynebai bob ymgais i "bresbytereiddio'r"[1] enwad trwy ganoli awdurdod ymhlith ychydig o arweinyddion yn hytrach na dilyn llais y mwyafrif. Ei ateb i'r cyhuddiad o Annibyniaeth oedd ei fod yn ofni bod tuedd y Corff yn arwain i Babyddiaeth. Y mae'n amlwg gan hynny ym mha gyfeiriad yr oedd tuedd Emrys. Helaethir ganddo ar yr un pwnc mewn paragraff o Lythyr Alltud lle y gesid argyhoeddiad yr unigolyn ymhell uwchlaw buddiannau unrhyw gorfforaeth eglwysig. Y meddyliwr a effeithiodd drymaf o bawb ar ei feddwl, ar ei arddull, ac ar ei holl weithgarwch llenyddol oedd Paul-Louis Courier. Gwrth-glerigwr tanbaid oedd Courier, a'i genhadaeth mewn bywyd oedd ymdrechu i ddiogelu rhyddid barn a llafar rhag cael eu cwtogi gan yr offeiriadaeth a llywodraeth glerigol ei thuedd. Emrys ap Iwan a gyfieithodd i Gymraeg ymosodiad Courier ar y Gyffes Ddirgel.

Paham, ynteu, y gellir dwyn y fath gyhuddiad â Phabyddiaeth yn ei erbyn? Yn bennaf, am iddo ar ôl hir gyd-fyw â Chatholigion rhagorol ar y Cyfandir, ddysgu eu parchu, a gweld mor wael yw llawer o'n rhagfarnau yn erbyn ein cyd-ddynion. Gwelodd nad yw'r eneidiau dethol i gyd yn yr un gorlan. Yr oedd ei enaid a'i feddwl yn ddigon mawr i weld y gorau mewn eraill, a hynny heb iddo fradychu dim o'i argyhoeddiadau ei hun. [2] Ni chafodd ei enwad erioed mo'i ffyddlonach, a'r cwbl a geisiodd ef ganddi ar ei ran ei hun oedd y fraint o gael ei gwasanaethu.

Yr oedd y gacynen ar waith hefyd ym Mreuddwyd Pabydd fel arfer. Ei ffordd effeithiol o yrru ei gyd-genedl i chwilio seiliau ei bywyd a'i phroffes oedd trwy beri iddi weld y seiliau hynny wyneb-i- waered am foment fach. "Fel y gallwyf ryw fodd yrru eiddigedd . . . Gwelai fod grym yn nadl y Tad Morgan ar falltod y sectau, ac unigoliaeth anorganaidd yr oes. Pwy a wad hynny heddiw, ac oni wna'r enwadau ateb yr her, ar bwy y bydd y bai os daw'r 'breuddwyd' i ben?

Nid bob amser y sylweddolir bod Emrys ap Iwan yn ysgrifennwr toreithiog. Fe fyddai ei holl weithiau yn ddigon i lenwi ugain o gyfrolau o faintioli hon, a dweud y lleiaf. Cafwyd dwy gyfrol o'i Homiliau eisoes. Diweddir y cofiant gan restr chwe thudalen o'i "Lythyrau i'r Wasg, ei Ysgrifau, a'i Lyfrau," ac y mae'r rhestr honno, er gwerth-fawroced yw (ac yr wyf yn dra dyledus iddi), ymhell o fod yn gyflawn. Y mae llaweroedd o bethau pwysig eto heb weled print o gwbl: hwyrach mai'r pwysicaf ohonynt yw llyfr o'i weddïau sy'n haeddu ei ystyried yn un o glasuron defosiynol y Gymraeg.

Gan hynny, y mae gofyn egluro pwrpas y gyfrol bresennol. Y mae traethodau Emrys yn amrywiol iawn. Ceir beirniadaeth lenyddol ganddo ar awduron a llyfrau Cymraeg a Ffrangeg. Ymdrinia'n aml â phynciau crefyddol, yn enwedig â lle'r iaith Gymraeg mewn addoli, ac fe sgrifennodd hefyd ar bynciau amrywiol megis ar broblem yr orgraff, ac ar ddulliau dysgu iaith. Y mae'r cwbl yn bwysig ac yn ddiddorol i'r eithaf, ac os bydd derbyniad i'r gyfrol hon fe fwriedir yn y man, gyhoeddi detholion eto o'r ysgrifau hyn, sef Ysgrifau Llenyddol, Ysgrifau Crefyddol, ac efallai Ysgrifau Amrywiol. Dealler nad o'r meysydd hyn y casglwyd yr ysgub bresennol.

Detholiad yw'r llyfr hwn, a detholiad bychan yn unig, o'r traethodau a'r llythyrau hynny a gyhoeddwyd gyntaf yn y Faner a'r Geninen, ac sy'n amlygu neges Emrys ar bynciau cymdeithasol a gwladgarol, ynghyd â'i allu i groniclo hanes. Gan fod y neges mor grisial glir gan Emrys ei hun, ofer fyddai rhoi crynodeb ohoni yma. Amcanwyd dethol yn y fath fodd ag i amlygu amrywiol agweddau o'r neges gyfoethog hon. Ysgrifennodd lawer ar gymeriad cenedlaethol y Cymro, y Sais, a'r Gwyddel. Cynhwysir Bully, Taffy a Paddy yn unig; ac o'r toreth a ysgrifennodd yn ffafr Ymreolaeth i Iwerddon ni cheir yma ond yr erthygl hon. Yr un modd, y mae ei neges wleidyddol i Gymru yn gyfan yn Paham y Gorfu yr Undebwyr. Yr ateb yw am eu bod yn 'Undebwyr,' a hefyd am eu bod yn apelio at reddfau parhaol y genedl Seisnig. Gofyn Emrys ymhle y mae gwleidyddwyr Cymru yn sefyll yn wyneb hyn, a chaiff eu bod yn rhanedig rhwng gwrthbleidiau a reolir o Lundain, ac yn ail, eu bod yn apelio at bethau eilbwys ym mywyd Cymru. Oblegid hynny ni wiw iddynt ddisgwyl ennyn sêl ac ymlyniad cyffelyb i lwyddiant yr Undebwyr yn Lloegr. Sôn am bethau ddeugain mlynedd yn ôl yr oedd Emrys wrth gwrs, ac nid am ein hoes ni.

Ceir yma enghraifft o ffrwyth ei gariad angerddol at yr iaith yn y Gair at Rieni Cymreig yn anad unlle, ac y mae'r gacynen ar ei mwyaf pigog pan gaiff gyfle ar Paul yn ei ddillad newydd! Yr oedd ariangarwch a Sais-addoli yn atgas gan Emrys, ac fe gafodd ei gyfle arnynt yn Wele dy Dduwiau, O Walia! Cerydd cariad oedd pob cerydd a roes i Gymru, a phwy a wad ei hawl i'w rhoi ar ôl ystyried maint ei ymdrech er ei mwyn? Ffieiddiai hunangyfiawnder, ac yn enwedig pan gerddai law-yn-llaw â gormes. Am hynny yr oedd 'llwyddiant' yr Ymerodraeth i ymestyn ei therfynau trwy 'ryfel cyfiawn' yn anathema iddo. Ni byddai ei wawd byth yn greulonach nag wrth chwalu'n gandryll 'hanes' y rhyfeloedd hyn fel y ceid yn y Wasg Saesneg. Un ysgrif o fysg llawer o'r fath yw'r Sylwadau am y Rhyfel nad oedd yn Rhyfel.

Eithr y cyfle mawr a luniodd Emrys iddo'i hun i bortreadu Cymru ei ddydd yn ei chyfanrwydd oedd y ddau Lythyr Alltud. Yno y craffai ar ei bresennol gyda'r un medr ag a amlygodd yn y Breuddwyd Pabydd wrth ddyfalu dyfodol. Yr oedd ei lygad yr un mor graff hefyd yn gweld i'r gorffennol fel y gall y darllenydd farnu wrth ddarllen ei hanes o ymgyrch olaf Napoleon, sef O Elba i Waterloo. Gellir dal mai'r gwaith olaf hwn yw'r perffeithiaf ei gelfyddyd a luniodd erioed. Y mae'r portread o Napoleon a Blücher a Wellington yn ddiguro, a dangosodd eu hawdur fod ganddo ddoniau nofelydd gwrthrychol. Y mae'n herio rhai o ragfarnau anwylaf ei oes yn yr 'ochr' a ddengys, a medrused ei amddiffyn. Mawr oedd ymffrost ei oes yn ei rhyddfrydigrwydd,' chwedl Emrys ap Iwan, ac onid oedd Napoleon yn "ŵr a wnaed yn Ymherodr trwy ewyllys y bobl ac nid trwy fraint genedigaeth"? Ond prif gamp y darn cyffrous hwn yw amlder, ystwythder, ac uniongyrchedd y Gymraeg, ynghyd â'i gyfanrwydd cryno diŵyro, a'i drefniant. Anodd meddwl am ddarn cyhyd ag ef yn ein holl lenyddiaeth sy'n meddu'r rhagorion hyn i gymaint graddau wrth ddisgrifio ac adrodd un hanes cyflawn.

Nid oes dim camystumio ar yr iaith wrth ymdrin â phethau milwrol. Y mae'r eirfa yn wobr mynnu meddwl yn wastadol yn y Gymraeg a meddiannu ei holl adnoddau: gosgordd, marchoglu, gwarchod-lu, maeslywydd, cadlywydd, rhagfilwyr, ffwndrus, cilgwthio, magnelwyr, taethegwr, stradegydd, pencadlys, corfflu, cyfunoliaid.

Ar gyfer y llyfr hwn fe ddiweddarwyd yr orgraff a'r gystrawen yn gyson ag arferiad ein hoes. Ysgrifennwyd rhai o'r ysgrifau ganddo mewn orgraff oedd yn arbennig iddo ef ei hun, ac eraill yn ôl arfer gyffredin ei ddydd. Yr unig gysondeb posibl oedd yr hyn a wnaed, sef trwy ddiweddaru. Mân frychau cystrawen yn unig oedd gofyn am eu symud, gan fod gafael Emrys ar iaith ein clasuron rhyddiaith mor gadarn. Ni ofalai roi rhagenw o flaen enw neu ferfenw pan fyddai ffurfiau fel ei hun, &c., yn dilyn. Nid arferai'r cywasgiadau sydd mor hwylus pan fo'r fannod yn dilyn llafariad. Mwy anghywir. ganddo yw arfer ffurfiau fel o fy, &c., yn lle o'm. Yn fyr, fe symudwyd cryn lawer o'r cyfryw feflau yn unol â'n synnwyr drannoeth ni, ond gochelwyd rhag newid y geiriau sy'n nodweddiadol o Emrys ei hun, megis llenoriaeth, cenhedlig ('cenedlaethol' yw ystyr hwn bob tro ganddo), Cristiolus ('Cristnogol yn yr ystyr o fod yn 'Grist-debyg'), pleidebu, bwrnel, hendid, digofus, corffol, prestig, celfor(ion), dyfyn(ion), anniolchus, Rhyddfrydigion, dargeisio, tlodaidd, gwrthwynebrwydd, calleiddio, cydymlapio (gwell o lawer, debygaf i, nag 'oferlapio'!), politegwr, penddarol. Y mae i'r ffurfiau hyn wir ddiddordeb parhaol fel ffrwyth ymboeni llenor mawr i gymhwyso'r iaith i bwrpas newydd. Pwy na theimla rym geiriau fel 'Seisyn' a 'Chymroaidd'? Yr un modd, ni 'chywirwyd' y ddeuair 'gormodd' a 'boddlon': y rhain yw'r ffurfiau a ddefnyddir bob amser gan Emrys, a gellir dadlau'n gryf trostynt.

Y mae fy nyled yn drom i Mr. G. J. Williams, M.A., o Goleg Caerdydd, am ei barodrwydd i roi o'i amser gwerthfawr i ddarllen llawysgrif y llyfr hwn, a gwella cryn dipyn arni. Yr un modd y mae diolch yn ddyledus i Mr. Idwal Lewis, B.A., o'r Llyfrgell Genedlaethol, am ei barodrwydd i gywiro'r proflenni. Dymunaf ddiolch hefyd i Mr. Prosser Rhys am bob cyfarwyddyd, ac i'r cyfeillion yng Ngwasg Gee am eu gwaith graenus. Teg yw cydnabod mai yn y Llyfrgell Genedlaethol y deuthum o hyd i'r hen gopïau o'r Faner a'r Geninen.

Peth priodol iawn, yn fy marn i, yw cychwyn cyfres lyfrau'r Clwb Cymraeg â gwaith Emrys ap Iwan, oblegid ef oedd un o arloeswyr mwyaf y deffroad cyfoes sy'n peri bod y Clwb hwn yn antur bosibl heddiw.

Y mae'r darn isod o'r Pamphlet des Pamphlets gan Paul-Louis Courier, a droswyd i'r Gymraeg gan Emrys, yn egluro beth oedd prif gymhelliad y ddau wrth ysgrifennu, ac yn haeddu ei gofio fel cyffes dau lenor mawr, gwrol, a di-dderbyn-wyneb: —

Lleferwch wrth ddynion am eu helyntion ac am helynt yr awr, a pheri clywed o bawb eich llais, os mynnwch ymenwogi. Gwnewch bamffledau fel Pascal, Franklin, Ciceron, Demosthen, fel yr Apostol Paul a Sant Basil; canys yn wir, anghofiais y ddau olaf, dynion mawr, y darfu i'w traethodynnau ddileu llawer o hen ofergoelion paganaidd, ac ail greu llawer cenedl. Y mae pamffledau eraill wedi newid gwedd byd. Heuasant ymhlith y Saeson egwyddorion goddefiad, y rhai a gludodd Penn i'r Amerig; ac y mae'r wlad honno'n ddyledus i Franklin am gadw ei rhyddid trwy yr unrhyw foddion ag yr enillwyd ef iddi, sef trwy bamffledau, newyddiaduron, cyhoeddusder. Yr ydys yno yn argraffu popeth. Nid ys yn esguso dim twyll, boed ef swyddogol: nid ys yn twyllo'r bobl, am nad oes yno neb â chanddo awdurdod i gelwyddu, ac i ostegu pob gwrth-ddywedwr. Ni wna'r wasg nemor o ddrwg, ond hi a etyl lawer o ddrwg. Y mae dalennau argraffedig wrth amredeg bob dydd, a hynny'n helaeth, yn rhoi addysg rad a buddiol i laweroedd. Y mae agos pawb yn darllen y newyddiaduron, a gallai'r rhan fwyaf ysgrifennu iddynt hefyd, pe dysgent yn unig fynegi eu meddwl yn olau ac i'r perwyl. Nid rhinwedd gyffredin yn ddiau yw crynoder; nid peth hawdd yw cau llawer o synnwyr o fewn ychydig o eiriau. O! mor amheuthun yw dalen lawn mewn llyfrau! A chyn lleied o ddynion sy'n alluog i ysgrifennu deg dalen heb ffregod! Yr oedd yn anhawddach gwneuthur llythyr lleiaf Pascal na'r holl Encyclopédie. . .

Ni chadarnheir unrhyw wirionedd heb ferthyron, namyn y rhai y mae Euclid yn eu haddysgu. Yn unig trwy ddioddef oblegid ei syniadau y gall ddyn ddarbwyllo; ac am hynny y dywedodd Paul mewn effaith: Credwch fi, canys yr wyf yn fynych yng ngharchar. Pe buasai ef wedi byw yn esmwyth, ac wedi elwa ar yr athrawiaeth yr oedd yn ei phregethu, erioed ni seiliasai grefydd Crist. Tydi, gan hynny, Paul-Louis, winllanwr, yr hwn yn unig yn dy wlad sy'n foddlon i fod yn ddyn y bobl, baidd eto fod bamffledwr, a chyhoedda hynny'n uchel, uchel. Ysgrifenna, gwna bamffled ar ôl pamffled, tra na phallo iti ddefnydd ac achos. Dring i bennau tai, pregetha'r Efengyl i'r cenhedloedd, a gwrandewir arnat—os gwelir di cael dy erlid. Canys y mae'n rhaid wrth y cymorth hwn, ac ni wnei ddim heb Meistr de Broë. Arnat ti y mae llefaru, ac arno yntau y mae dangos trwy ei erlyniad wirionedd dy eiriau. Wrth ddeall a chefnogi'ch gilydd, yn ôl dull Socrat ac Anytos, gellwch droi'r byd.

Allan o'r Faner, Awst 23, 1882.
D. MYRDDIN LLOYD

Nodiadau

[golygu]
  1. Ef piau'r gair.
  2. Y mae diwylliant Cymraeg eang yn ddisgyblaeth mewn goddefgarwch crefyddol, oblegid y mae cynifer o bethau gorau ein llenyddiaeth yn glwm annatadwy wrth fwy nag un ffurf o Gristnogaeth. Y mae casineb at unrhyw un o'r ffurfiau hynny yn ein rhwystro rhag gweld gwerth ein cynhysgaeth genedlaethol yn ei chyfanrwydd, ac oblegid hynny yn peri i ni fod yn llai o Gymry. Gwyddai Emrys ap Iwan hyn yn dda.