Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I/Sylwadau am y Rhyfel nad oedd yn Rhyfel
← Gair at rieni Cymreig | Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I |
Y Wladfa → |
VIII
SYLWADAU AM Y RHYFEL NAD OEDD YN RHYFEL
FONEDDIGION,
"Ac Abner a ddywedodd wrth Joab, Cyfoded yn awr y llanciau, a chwaraeant ger ein bronnau ni. A dywedodd Joab, Cyfodant. . . A phob un a ymaflodd ym mhen ei gilydd, ac a yrrodd ei gleddyf yn ystlys ei gyfaill." Dyna'r chwarae. The national game, neu glorious war, y geilw Cristnogion Seisnig y cyfryw chwarae.
*
Dywedir mai'r achos paham y rhoir cymaint llai o gosb ar ddyn am gicio ei wraig a hanner lladd ei fam nag am ddwyn torth geiniog neu ŵy petrisen i dorri ei newyn ydyw er mwyn cynnwys, ac felly ddatblygu splendid fighting qualities'—ysblennydd ansoddau ymladdol' y Saeson.
*
Y mae'n ddiau bod buchedd y rhan fwyaf o'r milwyr Prydeinig yn eu cartref, yn eu cymhwyso'n arbennig i chwarae â chleddyf ac â bidog ar faes y gwaed. Cânt yno ddigon o gyfleustra i ddangos eu creulondeb a'u gwaedgarwch heb ofni dirwy na charchar na chrocbren.
*
Tybia llawer o aelodau Cymdeithas Heddwch' mai'r rhyfeloedd ymosodol a wna'r Saeson yn ddibaid sy'n peri iddynt ymhoffi mwy nag un genedl arall mewn paffio, ymosod, gyrru rhedfeirch, hela, saethu colomennod anafedig, ac arteithio creaduriaid direswm. Ond tybiaf i nad yw'n iawn dweud bod y naill beth yn peri'r llall, er bod y ddau, wrth eu harfer, yn cryfhau'i gilydd y mae'n ddiamau.
*
Mynegodd un o'r esgobion fod yn dda ganddo weled byddin Lloegr yn atgyfodi'r hen arfer o ruthro ar y gelyn â bidogau. Y mae'n sicr mai gwaith go ddof ydyw saethu at ddyn o bell. Y mae'n fwy tebygol y tarewch yr awyr neu'r ddaear ganwaith na tharo dyn unwaith; a phe llwyddech i daro dyn â'r ganfed ergyd, y mae'n annhebygol iawn y lladdech ef. Pwy a ŵyr, gan hynny, na allwn innau ymgreuloni digon i ollwng ergyd wyllt trwy'r mwg i ganol catrawd bell o elynion Seisnig, ond yn wir, os nad wyf yn fy nghamddeall fy hun, byddai'n rhaid i mi gael anian esgob Seisnig, neu gigydd Cymreig o leiaf, cyn y gallwn yrru llafn o ddur trwy galon unrhyw greadur.
*
Os oedd yr esgob yn awgrymu bod gan y milwr Seisnig fwy o ddawn i drin bidog nag i drin gwn, y mae ef yn iach yn y ffydd. Biff a bir yw bwyd a diod y Sais. Yn awr, y mae biff yn fwyd cryfhaol iawn, ac y mae cryfder corffol yn anhepgorol i drin bidog. Llygad da a dwylo diysgog sy'n angen— rheidiol i saethu'n union, ac y mae hi'n digwydd bod diod y Sais yn gwneud ei lygad yn bŵl a dyfrllyd, a'i law yn grynedig. Gan ei fod yn saethwr mor wael, y mae arno ofn wynebu dyn gwyn a disgybledig. Tybiodd ef yn ddiweddar fod y Boer gwyn, o hir drigo yng ngwlad dynion duon, wedi anghofio ymladd, ac am hynny ef a feiddiodd ddangos peth o'r draha tuag ato. Ond cafodd y Cristion meddw y fath gurfa gan y saethwr da hwnnw, fel y penderfynodd ynddo'i hun nad ymladdai ef byth mwyach ond â dyn du anrhyfelgar. Credir mai er mwyn adennill y prestig a'r gogoniant milwrol a gollasai Lloegr yn y Transvaal yr anfonodd hi ei chadlywydd gorau, a chynifer o'r milwyr gorau, i ddarostwng llafurwyr gorthrymedig ac annisgybledig yr Aifft.
*
Megis o ddamwain, wedi'r cwbl, y gorchfygodd hi'r trueiniaid hynny, er mor anghynefin yr oeddynt â rhyfela. Yn wir, nid eu gorchfygu mewn brwydr a wnaeth hi, ond eu dychrynu trwy ddisgyn arnynt yn ddisymwth yng nghysgod y tywyllwch. Y mae'n wir fod bai mawr ar Arabi neu rywun am na fuasai'r wyliadwriaeth yn fanylach, a'r cloddiau'n uwch. Pe gwnaethid Tel-el-Kebir yn hanner tebyg i Kafr Dowar, buasai diweddiad pur wahanol i'r rhyfel. Fe allai fod yr Eifftiaid yn meddwl bod y Saeson yn rhy falch i ruthro arnynt yn y nos, ac yn rhy wâr i arfer llawer ar y bidogau yn ôl dull cigyddlyd rhyfelwyr gynt. Byddant yn gwybod y tro nesaf y ceisiant fwrw ymaith yr iau na thâl cymryd dim yn ganiataol mewn rhyfel. Os cymerir rhywbeth yn ganiataol am y Saeson, cymerer hyn: sef, y bydd iddynt, wrth ymladd â phobloedd an— nysgedig mewn rhyfel, hyderu mwy ar fidogau'r gwŷr traed ac ar gleddyfau'r gwŷr meirch nag ar ynnau.
*
Er cymaint yw rhagoroldeb y Saeson a'r Ysgotiaid fel ymladdwyr, rhaid cael Gwyddelod i'w llywyddu. Gwyddel, fel y gwyddys, oedd Wellington, a Gwyddelod yw Syr Garnet Wolseley a Syr Frederick Roberts. Y ddau olaf ydyw'r unig gadlywyddion sydd wedi dangos tipyn mwy o fedrusrwydd na'r cyffredin ym mrwydrau diweddar Lloegr. Er hynny, ni thalai cynlluniau hen ffasiwn y ddau hyn ddim yn erbyn cadlywyddion Holland, neu Denmarc, neu y Swêd, heb sôn am gadlywyddion yr Almaen. Yr oedd y dull a gymerodd Wolseley i ymosod ar yr Eifftiaid yn y frwydr ddiwethaf yn un a arferid yn fynych ers talm. Ofer fuasai ei arfer eilwaith hyd yn oed yn erbyn yr Eifftiaid, gan mor hawdd ydyw ymbaratoi ar ei gyfer.
*
Nid oes gennyf i ddim parch i Wyddelod o'r fath yma, sydd yn ymwerthu i ryfela rhyfeloedd anghyfiawn Lloegr, yn lle arfer hynny o allu sydd ganddynt i geisio rhyddhau eu gwlad eu hunain. oddi wrth iau estronol. O na chodid ail Napoleon, mwy rhyddfrydig na'r cyntaf, i wneud i genhedloedd gormesol dynnu eu crafangau atynt, fel y gallai Cymru, Iwerddon, Bohemia, Poland, yr Aifft, a'r Ind eto godi eu pen! Pa hyd y goddefir i un genedl gadw un arall yn gaeth yn erbyn ei hewyllys? Nid oes dim yn fwy poenus i ddynion cyfan na meddwl eu bod yn aelodau o genedl ddarostyngedig. Gall hanner dynion anghofio eu bod yn gaeth, ie, gallant fyned yn y man i anghredu hynny. Y fath yw dylanwad caethiwed! Y mae hapusrwydd y dyn diysbryd yn annirnadwy i'r dyn ysbrydlon, ac y mae gofid y dyn ysbrydlon yn annirnadwy i'r dyn diysbryd.
*
Buasai'n dda gennyf pe llwyddasai'r blaid orthrymedig i roi curfa i'r blaid orthrymol; er hynny, bydd yn well i'r Eifftiaid eu bod wedi ymladd yn aflwyddiannus na bod heb ymladd o gwbl. Cânt fwy o barch a mwy o freintiau hefyd nag oeddynt yn eu cael chwe mis yn ôl pan oedd Saeson yn edliw iddynt eu bod yn rhy wasaidd i ymladd am eu hawliau. Anturiais broffwydo yn fuan ar ôl y diwrnod y bu'r Saeson yn profi eu teganau newyddion; sef eu cadlongau a'u gynnau, o flaen Alexandria, y diystyrai'r papurau Seisnig esgus Mr. Gladstone cyn gynted ag y byddai'r chwarae' ar ben. Gŵyr y darllenydd yn ddiau mai hyn oedd esgus Beaconsfield y ' Rhyddfrydwr,' sef mai arweinydd plaid filwrol oedd Arabi, nad oedd yn cynrychioli nemor neb heblaw'r blaid honno, ac mai ef a'i dipyn plaid oedd holl achos yr helynt. Pa beth, erbyn hyn, a ddywed y ddau barchusaf o'r papurau Llundeinig: "Y gelod estronol, ac nid Arabi, oedd gwir achos y rhyfel," medd y Standard. Ac meddai gohebydd yr un papur ddoe ddiwethaf, sef Hydref 4ydd: "Dylid anghredu pob adroddiad a anfoner i Loegr i ddweud bod y bobl yn rhegi Arabi. Y mae'r adroddiadau hyn, gan mwyaf, yn dyfod oddi wrth yr un personau diymddiried ag sydd wedi camarwain pobl Lloegr o'r dechrau. Yr Eifftiaid Seisnig a'r swyddogion Seisnig oedd yn taeru nad oedd y bobl yn pleidio Arabi, ac nad oedd ef yn ddim amgen nag arweinydd gwrthryfel milwrol; ac yn hytrach na chyffesu llwyred eu camsyniad, y maent eto fyth yn chwannog i weled difrifoldeb yn y croeso a roddwyd i'r Khedive, a chasineb nad yw yn ddiau'n bod, at Arabi.". . . "Y mae'n beth hollol hysbys mai'r Control ynghyd â'r cyflogau afresymol a roddid i Ewropiaid wedi eu gwthio ar yr Eifftiaid oedd achos cyntaf yr holl helbul yn yr Aifft. Hyn a roes ddechreuad i'r llef, 'Yr Aifft i'r Eifftiaid.'" Yr un peth a dystiolaetha gohebydd y Daily News ar yr un diwrnod, megis y dengys y dyfyn hwn: "Amlwg yw nad ymfoddlona'r bobl ar unrhyw ffurf o lywodraeth a dueddo i ddarostwng ymestyniadau cenhedlig. Mynych y clywir y swyddogion Seisnig uchaf yn dweud mai pleidwyr Arabi ydyw'r fyddin, ac eto cydnabyddir yn hollol gyffredinol fod y fyddin yn cynrychioli teimladau corff y bobl."
Fe allai y buasai'n garedicach amgeneirio na chyfieithu'r dyfynion uchod. Nid oes neb ar gystal tir â chyfieithwr i weled cyn lleied sydd gan ysgrifenwyr ac areithwyr Seisnig politicaidd o'r lucidity hwnnw y soniai Matthew Arnold amdano y dydd o'r blaen. Fe allai y dylid maddau i'r rhai sydd yn ysgrifennu y brysnegesau, ond ni ddylid maddau i ysgrifenwyr illucid y prif erthyglau. Er hynny, gwych yw gweled dynion yn cyffesu eu hanwireddau hyd yn oed mewn Saesneg afloew.
*
Wel, ddarllenydd, a wyt ti'n meddwl y byddai'n ormod i'r Eifftiaid gipio a chrogi'r Saeson celwyddog y cyfeirir atynt yn y dyfynion uchod? Onid wyt yn meddwl y dylai pawb sy'n caru cyfiawnder yn fwy na swp o Saeson neilltuol ymuno i ddiarddelwi gweinidogion presennol brenhines y Saeson am orchymyn dinistrio dynion ac eiddo ar bwys celwydd a oedd mor olau dri mis yn ôl ag ydyw yr awr hon? Y mae'n bryd i'r genedl anhawddgar wybod bod yng Nghymru filoedd o wŷr y mae'n dra ffiaidd ganddynt fod o dan lywodraeth rhyw ddeuddeg o Abneriaid na allant ymatal am ychydig o dymhorau rhag dywedyd, "Cyfoded yn awr y llanciau, a chwaraeant ger ein bronnau."
Ydwyf, &c.,
E.
ALLAN O'R Faner, HYDREF 11, 1882.