Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I/Y Llo Arall
← Wele dy Dduwiau, O Walia! | Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I |
Paul mewn dillad newydd → |
V
Y LLO ARALL
FONEDDIGION,
Yn fy llythyr o'r blaen, bwrw gwawd yr oeddwn ar y llo aur: fy ngorchwyl y tro hwn yw gwaradwyddo'r llo Seisnig, gan ei wneuthur ef yn ffiaidd yng ngolwg ei addolwyr. Yr wyf eisoes wedi dweud na ellir parchu mo'r llo Seisnig ar gyfrif ei enw na'i oed. Ond er mai'r hen a berchir, eto yr ieuanc a gerir. Buasai ei ieuenctid yn ei wneud yn anghymeradwy gan genhedloedd eraill, ond hyn yn anad dim sy'n peri i'r Cymry wirioni arno! Er mai llo Seisnig y gelwir ef, eto, mewn ystyr arall, nid oes yr un llo mwy Cymreig nag ef—ffrwyth cariad y Cymry ydyw. O dan bren deiliog yng Nghymru yr ymddygwyd arno; y Cymry a roes iddo sugn; ar borfa Cymru yr aeth yn fras. Cydnabyddaf fod gan y Cymry lawer i'w ddywedyd drostynt eu hunain, ac er mwyn hepgor trafferth iddynt hwy, byddaf mor garedig â nodi dau neu dri o bethau sy'n glod iddynt. Tra bo ambell genedl yn addoli'r pell—yr haul, er enghraifft—y mae'r Cymry'n addoli'r agos. Y genedl agosaf atom yw eu duw hwy. Tra bo ambell genedl yn addoli abstract idea, y mae'r Cymry yn addoli personau: nid amgen na'r Liverpool roughs, a physgod-wragedd Billingsgate. Hyn yna o ganmoliaeth i chwi wrth fynd heibio.
Ni raid dweud wrth y rhai craffaf ohonoch nad wyf i ddim yn erbyn i chwi barchu pob Sais sydd yn haeddu parch. Dywedodd un Sais mai'r Saeson gorau yw'r bobl orau ar y ddaear, ac mai gwerin y Saeson yw'r creaduriaid dylaf a dyhiraf. Yr wyf yn credu ei dystiolaeth. Y trueni yw bod y Saeson gorau gymaint llai eu nifer na'r rhai gwaethaf. Cydnabyddaf fod miloedd o Saeson yn bobl y gellir eu parchu. Dadlau yr wyf nad yw corff y genedl Seisnig ddim yn gyfryw bobl y dylem ni'r Cymry eu haddoli a'u dynwared.
Os gellwch, ac os mynnwch, anrhydeddwch bob Sais, ond gwnewch hynny heb aberthu'ch anrhydedd eich hunain. Dangoswch iddo annibyniaeth eich ysbryd, nid trwy ei boeni â dwrn a thafod, ond trwy beidio ag ymostwng i'w efelychu yn ei feiau cenhedlol, megis ei falchder, ei daeogrwydd, ei draheusder, a'i anwybodaeth. Yn y Sais, nid yw'r pethau hyn ond amlygiadau o'i ysbryd. Ynoch chwi y maent yn amlygiadau o wasaidd-dra. Yr ydych yn ceisio gweithio eich hunain i'r un ysbryd ag ef, trwy ddwyn yr un nodau ag ef.
Da chwi, byddwch yn Gymreigaidd; cedwch nodweddion mwyaf rhagorol eich cenedl: cedwch eich iaith; byddwch yn syml fel eich tadau. Trwy wneuthur hyn, chwi a godwch ragfur a atalia lawer drwg rhag dyfod ar eich gwarthaf o Loegr. Y mae'r ysbryd gwasaidd a'r duedd ddynwaredol sydd ynoch yn eich gwneud yn wiail ystwyth yn llaw'r diafol. Ef a ddywed wrthych, "Y mae gwŷr dysgedig yn Lloegr yn anffyddwyr; byddwch chwithau'n anffyddwyr, ac felly fe'ch cyfrifir yn ddysgedig. Defodaeth sydd yn y ffasiwn yn addoldai Lloegr. A fyddwch chwi yn olaf i ddilyn y ffasiwn? Y mae'n arferiad gan y Saeson i gicio'u gwragedd: a ddylai fod awdurdod gwrywod Cymru yn llai? Pobl uniaith ac anwybodus yw'r Saeson; gan hynny, ai gweddaidd ynoch chwi, weision, yw bod yn fwy dysgedig na'ch arglwyddi? Os mynnwch ladd cenfigen y Saeson tuag atoch, ymfoddlonwch ar wybod tipyn o'r iaith Saesneg yn unig; neu yn hytrach, byddwch heb yr un iaith, fel y Dic Sion Dafyddion. Gwnewch y tro, hyd yn oed felly, yn gymynwyr coed ac yn wehynwyr dwfr i'ch gorchfygwyr. Y mae'n rhaid i mi addef bod gennych chwi yng Nghymru un ddefod genhedlol na fynnwn er dim i chwi ei bwrw ymaith. Cyfeirio yr wyf yn awr at eich dull gweddus o garu. Rhaid i mi gael gan y Saeson fabwysiadu'r dull hwn, ond cyn y gallaf eu perswadio i wneud hynny, rhaid i mi beri iddynt gredu mai o Ffrainc y mae'r ddefod yn dyfod."
Dyna fel y sieryd y diafol. Fel beirniad teg, ni fynnwn ddweud gair yn amharchus am alluoedd y diafol, ond nid ofnwn ddweud, ie, yng ngŵydd y prif farnwr Cockburn, ei fod yn greadur mor gelwyddog â John Jones, o Lan——; am hynny, cred di fi, ddarllenydd. Yr wyf i yn adnabod y Saeson yn well na llawer; ac yr wyf wedi dyfod i weled mai'r ffordd orau i ryngu bodd y Sais ydyw trwy beidio â dangos yn rhy amlwg dy fod yn malio am ei anfodd. Ymostwng i Sais ac ef a'th fathra; gosod dy hun ar yr un tir ag ef, ef a'th barcha. A ydych chwi’n meddwl, Gymry, eich bod yn fwy eich parch gan y Saeson oherwydd eich bod yn ymboeni i ymdebygu iddynt, ac i fyw yn gwbl iddynt? Nid ydych felly yn sicr, y maent yn eich diystyru o eigion eu calon.
A welwyd erioed genedl mor blentynnaidd a gwasaidd â'r Cymry presennol? Dangosant eu gwaseidd-dra yn y pethau lleiaf yn gystal ag yn y pethau mwyaf. Clywir am bethau fel hyn weithiau. Gofynna'r lletywr i'r tafarnwr, "I say, man, beth yw enw'r dref acw?" "Llynllychar, syr."
Llynllychar, syr." "Pa beth?" Llynllychar, syr." A ydych chwi'n galw peth fel yna'n enw?" "Clywais ddweud nad oes yn yr enw yna, syr, un sain, syr, na cheir hi yn ieithoedd y Cyfandir, syr." "Beth yw ieithoedd y Cyfandir i mi? Sais wyf fi, a gŵr bonheddig hefyd. Dyma chwi: os na roddwch enw mwy Cristnogol ar y dref acw erbyn y deuaf yma nesaf, myn einioes—." "O! na enynned llid fy arglwydd Sais yn erbyn ei was, ac na reged ef yn ddirfawr. Ein tadau dwl a alwodd y dref ar yr enw yna. Atolwg, pa seiniau sydd yn peri tramgwydd i'm harglwydd, fel yr alltudiom hwynt. Ein hyfrydwch mwyaf ni'r Cymry fydd gwneud pob enw mor esmwyth ag sydd bosibl i gegau bendigedig Saeson." "Gwnewch hynny ar frys ynteu," ebe'r Sais, ac na roddwch achos i mi i fyned i drafferth i'ch rhegi'r tro nesaf."
Y mae'r Saeson wedi dyfod i wybod erbyn hyn na raid iddynt hwy ddim ymostwng i gyfaddasu eu genau at enwau Cymraeg gan fod y Cymry mor rasol â chyfaddasu'r enwau at eu genau hwy, ac mor ymostyngar hefyd fel ag i seinio pob enw—nid fel y dylid ei seinio, ond fel y camseinir ef gan y Saeson.—Clywais rywbeth ar wedd pregethwr yn gofyn am docyn i fyned i Penmenmore. O! fel yr oeddwn yn ei ddiystyru! Tebyg yw y buaswn wedi ei ffonodio i bwrpas onibai i'm cydymaith fy nyhuddo. Meddai wrthyf, a roddwch chwi achos i'r bachgennyn gwirionffol yna i ffrostio ei fod wedi ei gosbi gan Iwan Trevethick yn ddigyfrwng? Gadewch iddo dyfu tipyn cyn ei anrhydeddu â ffonnod. Hwyrach hefyd, ei fod yn myned i bregethu at yr Anglo-Welsh Presbyterians, a gwyddoch cystal â minnau nad oes odid neb o'r sect honno'n alluog i ddarllen a gweddïo yn Saesneg. Felly, ped analluogid y pregethwr hwn i fyned i'w gyhoeddiad, byddai gorfod ar y Presbyteriaid, naill ai myned allan heb addoli, neu ynteu fyned i wrando ar un yn pregethu yn eu hiaith eu hunain; a byddai'r pechod diwethaf yn fwy na'r cyntaf." A wyddoch chwi rywbeth am Benmaenmawr?" meddwn wrtho. "Na wn i," meddai yntau. "Felly," meddwn, "ni ddylech farnu eu bod hwy yno mor anhyddysg yn yr iaith Saesneg ag yw'r Anglo-Welsh Presbyterians mewn lleoedd eraill." "Felly, ni a'u cyfrifwn hwy yno yn eithriad," ebe fy nghyfaill. "Wrth reswm (meddwn innau)—na lefarwn ond am a wyddom."
Gan i mi gyffwrdd fel hyn â'r achosion Seisnig, gallaf sylwi mai gwaseidd-dra cenedlaethol a osododd sail y rhai hyn, ac mai rhodres rhai o'n cydwladwyr a gododd y muriau. Os digwydd i fethdalwr ac anturiwr, a golchwraig ddyfod o Loegr i ardal Gymreig, O! y fath gyffro a bâr hynny drwy'r gwersyll Methodistaidd! Heb ymofyn o gwbl a yw'r cyfryw bobl yn bwriadu trigo yn yr ardal, neu a oes ganddynt wynt at y Methodistiaid, gwneir brys i godi English Presbyterian Church iddynt, ac i gael English Presbyterian pastor arnynt. Addewir swydd anrhydeddus hefyd, i bob Trefnydd Calfinaidd Cymreig a elo yno atynt. Penodir un yn gyhoeddwr, un arall yn ddrysor, un arall yn arweinydd y canu, un arall i chwarae offeryn cerdd, ac un arall yn master of the ceremonies. Delir o flaen eraill y gobaith o gael eu gwneud yn flaenoriaid—lay elders, a siarad yn fanwl. Cysurir y lleill â'r ffaith ei bod yn llawer haws iddynt gysgu o dan bregethwr na ddeallant nag o dan bregethwr a ddeallant. Trwy nerth y cymhellion hyn, ac eraill o gyffelyb natur, llwyddir i gael cynulleidfa led gryno. Ond cyn pen hir y mae'r swyddau'n myned yn ddiwerth yn eu golwg, y Saeson yn diflannu, newydd-deb y peth yn colli, a'r bobl yn blino ac yn graddol ymwasgaru. Ond gan fod arnynt ormod o gywilydd i ddychwelyd at y Trefnyddion Calfinaidd Cymreig, y maent yn myned at yr enwad Sefydledig, neu ynteu yn peidio â myned i un lle i addoli. Wrth fynegi bod yr achosion Seisnig mewn lleoedd Cymreig wedi bod yn achos i lawer golli eu tipyn crefydd, nid wyf ond yn dywedyd "geiriau gwirionedd a sobrwydd."
Dichon dy fod di, ddarllenydd, er gwaethaf y teimlad o dosturi, yn methu peidio â gwenu o glust i glust wrth ddarllen yr ymadroddion uchod. Nid i mi y mae'r clod, ac nid arnaf i y mae'r bai dy fod yn gwenu. Addefaf yn rhwydd nad oes gennyf i ddim dawn i wneuthur pethau cyffredin yn anghyffredin. Dywed disgyblion Lavater nad wyf i ddim yn enwog am fy ngallu disgrifiadol. Ni allaf i wneud mwy na nodi pethau yn union fel y maent. Gan hynny, os bydd i'r mynegiad syml hwn o ffeithiau perthynol i'r achosion Seisnig beri rhyw gymaint o ddifyrrwch i ti, dod y gogoniant nid i mi ond i sefydlwyr a chefnogwyr yr Anglo-Welsh Presbyterian Churches.
Ond dywedir wrthym gan y rhai a fynnai gael eu tybied yn broffwydi, "y mae'r iaith Gymraeg yn myned i farw." Felly. Darfyddai am bob iaith ar wyneb y ddaear pe bai pawb fel chwi. Pe trinid chwi fel yr ydych chwi yn trin y Gymraeg, trengai pob copa ohonoch cyn Calanmai. Pe gomeddai eich cyfeillion i chwi ymborth, pe tyngai mil o ynfydion fod argoelion marwolaeth yn eich gwedd, pe dygid eich arch i'ch ystafell, a phe cenid eich cnul yn hirllaes, pa sawl un ohonoch a fyddai byw i ddarllen llythyr nesaf Iwan Trevethick? Er bod fy syniad i amdanoch yr hyn yw, eto, yn gymaint â bod eich nifer mor lliosog, rhaid i mi gydnabod bod eich gallu i wneuthur niwed yn fawr. Gan hynny, os parhau a wnewch i gydfwriadu â'r Saeson yn erbyn bywyd y Gymraeg, y mae arnaf ofn mai marw a wna; ond os bydd i chwi am unwaith gymryd plaid y bobl wybodus ac annibynnol, a phenderfynu y caiff y Gymraeg fyw, byw a fydd. Y mae tynged yr iaith Gymraeg yn dibynnu ar ewyllys y Cymry eu hunain. Ni ddywedaf y byddai marw crefydd Cymru ym marwolaeth y Gymraeg, er y credaf y derbyniai ergyd arw. Ond credaf yn sicr y derfydd am Fethodistiaeth o Gymru pan ddarfyddo am y Gymraeg. Er gwaethaf rhai eithriadau, y mae digon o ffeithiau i brofi bod hoedl y ffurf hon ar grefydd ynglŷn wrth hoedl y Gymraeg. Y mae Methodistiaeth yn llys— ieuyn mor genedlaethol fel na all dyfu ond ar bwys iaith genedlaethol. Nid yw rhai o'n harweinwyr heb wybod hyn. Gelyniaeth at Fethodistiaeth ddiledryw sy'n peri i lawer o Fethodistiaid hanner gwaed fod mor awyddus i sefydlu English Presbyterian Churches mewn lleoedd nad oes mo'u heisiau. Wedi y galluoger hwynt i godi nifer lled dda o'r achosion Seisnig hyn, gwnânt bont ohonynt i fynd trosodd i dir Presbyteriaeth. Gwisgant yr enw Presbyteriaid yn awr; yng nghwt yr enw daw'r trefniant.
Fethodistiaid, arferwch eich barn; na chymerwch eich hudo gan genhadon cyflogedig i roddi'ch arian at sefydlu achosion sy'n tueddu i niweidio crefydd, i ddinistrio'ch enwad, eich iaith, eich annibyniaeth, a'ch holl neilltuolion crefyddol a chenedlaethol. "Nac edrychwch bob un ar yr eiddoch eich hunain, eithr pob un ar yr eiddo eraill hefyd." A yw'r gair hefyd yn eich Beibl chwi? Os felly, mynnwch wybod ei rym
a'i ystyr. Fel personau neilltuol yr ydych yn hunangar iawn, ond fel cenedl yr ydych y rhai mwyaf anhunangar ar y ddaear. Ni fynnwn ar un cyfrif i chwi fod mor hunangar â chenedl y wlad honno where charity begins at home and ends at home. Ond am eich cariad chwi y Cymry, oddi cartref y mae'n dechrau, ac oddi cartref y mae'n terfynu. Os na adewch i hunangariad drigo o'ch mewn, bydded ynoch dipyn o hunan-barch ynteu. Dangoswch nad gwneud nyth i'r gog Seisnig yw unig amcan eich creadigaeth. Cofiwch mai eich sarhau eich hunain yr ydych, a sarhau'r Saeson hefyd, wrth aberthu'ch ceiniogau cochion i gynorthwyo pobl sy'n ymgreinio mewn aur a gemau. Gadewch i'r meirw gladdu eu meirw. Gadewch i'r Saeson ddarbod dros y Saeson—Saeson Lloegr dros Saeson Cymru, oni allant ddarbod drostynt eu hunain.
Ond os cudd eu mamau eu bronau rhagddynt, paham y mae'n rhaid i ni fyned yn famaethod iddynt? Os ydynt yn dyfod atom i fyw, boed iddynt eu cyfaddasu eu hunain atom. Onid ydym wrth eu bodd hwy, boed iddynt ddychwelyd i'w gwlad eu hunain. Y mae digon ohonynt eisoes yn bwyta braster y wlad hon heb i neb ei gwneud hi mor gysurus iddynt fel ag i ddenu chwaneg ohonynt yma. Dysgwch eu hiaith hwynt, ond nid er mwyn hepgor iddynt hwy'r drafferth i ddysgu eich iaith chwi. Dangoswch iddynt fod gennych iaith gwerth ei dysgu, ac iaith y mae'n rhaid iddynt ei dysgu cyn cael mwynhau eich rhagorfreintiau crefyddol, ac oni bydd eu hathrawon yn anfedrus iawn, a hwythau'n fwy pendew nag y tybiaf eu bod, gallant cyn pen blwyddyn ddeall a darllen Cymraeg yn rhwydd.
Ond y mae hyn oll yn impracticable, meddai'r gwŷr bach Seisgar. Tebygaf fod popeth yn impracticable i chwi ond llyfu traed y Saeson.
Pe buaswn yn Gymro o waed coch cyfan fel un ohonoch chwi, hwyrach y gallaswn gyd-ddwyn â'ch gwaseidd-dra; ond tra bo gwaed cenedl fwy annibynnol yn rhedeg yn fy ngwythiennau, ni allaf ond ystyried eich gwaseidd-dra yn ffieiddbeth, a chwithau yn ddirmygedig.
Yr eiddoch, &c.,
IWAN TERVETHICK (sic.)
ALLAN O'R Faner, EBRILL 11, 1877.