Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II/Anerchiad ar Ganiadaeth
| ← Plicio Gwallt yr Hanner Cymry | Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II gan Robert Ambrose Jones (Emrys ap Iwan) |
Paul-Louis Courier → |
ANERCHIAD AR GANIADAETH
GYFEILLION,
Y mae ynof un cymhwyster arbennig i siarad mewn cyfarfod o'r fath yma, sef bod fy ngwybodaeth am gerddoriaeth mor fechan fel na fedrwn i siarad yn faith ar y pwnc, ped ewyllysiwn; ac oblegid hynny, y mae'n debygol, y gofynnwyd imi'ch annerch.
Ond er nad wyf yn gerddor, yr wyf yn dipyn o lenor; ac efallai y gall llenor sydd heb fod yn gerddor ddweud un neu ddau o bethau ynghylch canu a haeddai gael eu hystyried gan gerddorion, yn enwedig[1] gan gerddorion sydd heb fod yn llenorion hefyd.
Meddylier, er enghraifft, am amser mewn canu. Onid ar bwys ei wybodaeth lenyddol y gall cerddor farnu pa un ai'n chwyrn ai'n araf y dylid canu geiriau neilltuol mewn iaith neilltuol? Fe gytunir bod y Cymry hyd yn ddiweddar yn canu popeth yn rhy araf yn araf hyd at fod yn hwyrdrwm; ond mi fyddaf i'n meddwl, a golygu'r peth oddi ar safle lenyddol, fod ambell gynulleidfa Gymreig yn y dyddiau hyn yn mynd i'r eithaf cyferbyniol trwy ganu'n rhy gyflym. Fel rheol, fe arweinir y cynulleidfaoedd hynny gan ddynion ifainc sy wedi ymroi i ganu'n unig, ac wedi ymwadu â phob chwant i feddu gwybodaeth gyffredinol. O achos hynny, nid ydynt hwy ddim yn alluog i gyfaddasu amser y dôn i natur y geiriau, heb sôn am ei chyfaddasu i anian cenedl, ac i anian iaith cenedl. Canu y maent hwy wrth glociau Lloegr. English time ydyw eu safon. Pe baent hwy gystal llenorion â llawer o'r cerddorion sydd yma heddiw, hwy a wybyddent ei bod yn amhriodol i'r Cymry ganu cyn gyflymed â'r Saeson, ac yn amhriodol i'r Saeson ganu cyn arafed â'r Cymry; a hynny oblegid dau reswm, sef oblegid y gwahaniaeth sy rhwng cymeriad y ddwy genedl, a'r gwahaniaeth sy rhwng iaith y ddwy. Ni oddef geiriau Saesneg gymryd eu llusgo a'u troelli fel y gwna geiriau Cymraeg, o achos nad yw'r llafarogion sydd ynddynt mor bur, mor agored, ac mor hirllaes â llafarogion y Gymraeg—mewn gair, o achos nad ydynt hwy mor Italaidd eu sain. Camu'n frysiog dros y llafarogion, a sangu'n ysgafn ar frig y cytseiniaid, fel iâr yn sangu ar farwor, y bydd y Saeson wrth siarad. Siarad yn gyflym ac nid yn groyw ydyw eu pwnc mawr hwy, a dyna'r achos paham y maent hwy'n taflu'r acen mor agos i ddechrau'r geiriau. Y mae hyn yn gwneud eu hiaith yn fwy crisp, fel y dyweder, ac felly yn un well i ddibenion masnachol nag un iaith arall, ac yn well ond odid i ddibenion ymddiddanol hefyd nag un iaith oddieithr y Ffrangeg. Ond po orau y bo iaith mewn ystyr masnachol ac ymddiddanol, gwaelaf oll ydyw mewn ystyr cerddorol a barddonol.
Pan oeddwn i'n dweud ei bod yn amhriodol canu geiriau Cymraeg mor gyflym â geiriau Saesneg, mi allaswn anturio mynd ymhellach a dweud ar bwys yr un rhesymau ei bod yn amhriodol, ie, yn wir yn anodd, canu geiriau yn llediaith Gogleddbarth Cymru mor gyflym â rhai yn llediaith y Deheubarth.
Nid oddi ar ragfarn yr ydwyf yn dweud bod y Gymraeg yn fwy soniarus a chanadwy o lawer iawn na'r Saesneg, canys fe ellid profi hynny trwy dystiolaethau'r seinegwyr gorau yn Ewrop. Y mae safon i farnu gwerth iaith a natur seiniau, fel agos popeth arall. Y mae pob Sais unieithog, ac ambell eneth o Gymraes hefyd, yn meddwl bod y Saesneg yn dlysach na'r hen Gymraeg, a bod ynddi lai o seiniau afrywiog. Camsyniad dybryd! Y mae rhai ohonoch, yn ddiamau, wedi darllen The Science of Language, gan Max Müller, ac yn cofio ond odid ei fod o'n dosbarthu'r Saesneg a'r Wyddeleg ymhlith yr ieithoedd cras, gwrywaidd, ac yn dosbarthu'r Gymraeg ymhlith yr ieithoedd benywaidd. Yn ôl Max Müller, un o'r beiau pennaf ar y Gymraeg ydyw ei bod yn rhy neis, ac yn rhy lathraidd i fod yn iaith gref. Yr ch ydyw'r unig lythyren gras sydd ynddi, ac ni chyhuddwn i mo'r merched ifainc yma o fod yn rhy gymhenllyd pe baent hwy'n seinio honno'n llai gyddfol, yn enwedig wrth ganu. Ond yr ydwyf i'n methu dirnad beth sy gan rai ohonynt yn erbyn y llythyren u. I ac nid u a ddaeth y prynhawn yma i'm clustiau i o enau amryw. Y mae colli sain o iaith yn golled fawr hyd yn oed mewn ystyr cerddorol, os credir bod amrywiaeth llafar seiniau yn fanteisiol i ganiadaeth. Y mae sain yr u yn dda ynddi ei hun, ac y mae iddi le amlwg ac anrhydeddus yn y Ffrangeg a'r Ellmyneg a llawer iaith arall.[2] Os oes ar rai ohonoch gywilydd dangos eich bod yn medru holl seiniau iaith eich gwlad, da chwi, seiniwch yr u ynteu, er mwyn peri i Saeson feddwl eich bod yn medru y French neu y German alphabet. Dyna reswm a ddylai fod yn gymeradwy hyd yn oed gan ferched y boarding schools. Os oes yma ryw eneth a ddywed na fedr hi ddim seinio'r u, mi a'i dysgaf yn rhad i wneud hynny mewn hanner awr os nad oes rhyw ddiffyg naturiol ar ei pheiriannau llafar.
Peidied neb â meddwl fy mod yn ergydio yrŵan at gyd-daleithwyr Mr. Lumley, oblegid fe all pobl y Deheudir eu hamddiffyn eu hunain. Nid wedi cefnu ar sain yr u y maent hwy, ond heb ddechrau ei mabwysiadu, o leiaf yn y cysylltiadau yr ydym ni yn ei harfer. A heblaw hynny, y mae'r sain a roddant hwy i'r u, er ei meined, yn wahanol ddeg o raddau i sain syml yr i, peth na ŵyr dynwaredwyr y Gogledd mono. Ni chlywais i gymaint ag un dynwaredwr o bregethwr, na dynwaredwr o ganwr o'r Gogledd, a fedrai seinio'r u fel Deheuwr.
Nid oes un sain yn y Gymraeg mor annymunol fel y dylid ei halltudio ohoni. Cymerer y Gymraeg fel y mae hi, gyda'r ch a'r cwbl, y mae hi'n un o'r ieithoedd mwyaf cyfaddas i enau cantorion. Y mae gan gantorion Seisnig achos i droi i'r Italeg, ond nid oes gan gantorion Cymreig ddim achosdim achos ieithyddol, beth bynnag—i ganu Saesneg mewn cyngherddau yng Nghymru, am fod ganddynt hwy iaith sy gymaint mwy canadwy na'r Saesneg ag ydyw'r Italeg na'r Gymraeg.
Mi adwaen i Gymro ieuanc a fu mewn ysgol ar y Cyfandir, yn yr hon yr oedd amryw o'r ysgolorion yn gantorion gwych, ac er nad oedd y Cymro hwnnw yn fwy o gerddor nag yn well lleisiwr na minnau, eto pan fyddai cyfarfod adloniadol yn y gwyliau, ac y gofynnid i wŷr ifainc ganu bob un yn ei iaith ei hun, y Cymro fyddai seren cyfarfod o'r fath bob amser (neu, gan mai person yn y rhyw wrywol oedd o, efallai mai dweud a ddylaswn mai efô oedd haul y cyfarfod), nid oblegid ei fod agos cystal lleisiwr â'r Ellmyn a'r Hwngariaid ac eraill, ond oblegid fod sŵn mwy hoff yr iaith Gymraeg, a sain mwy nefol yr hen alawon Cymreig, yn swyno yn gwirioni'r gwrandawyr.
Ar un peth arall y sylwaf, a hynny mewn ychydig eiriau, sef ar y modd y dangosir gwahanol deimladau mewn canu. Bydd ambell arweinydd canu, wrth geisio dangos ystyr gwahanol linellau mewn pennill, yn symud mor ddisymwth o'r lleddf i'r llon fel y bydd calon dyn gwan fel fi yn dychlamu gan ddychryn. Pam nad efelychir y plentyn bach, sydd yn fynych yn dechrau gwenu cyn gorffen wylo, heb gymryd hamdden i sychu'r dagrau oddi ar ei ruddiau? I fod yn naturiol fe ddylai cantorion, a siaradwyr hefyd o ran hynny, symud o'r naill deimlad i'r llall, megis o dan ddylanwad y teimlad oedd yn eu meddiannu gyntaf.
O'r ddau, y mae'n well gennyf i glywed canu pob rhyw beth mewn tôn hanner lleddf yn ôl dull yr hen bobl na'r symudiadau a'r ysgytiadau annaturiol sy'n dangos yn lle cuddio celfyddyd. Fel y rhan fwyaf o'r hen genhedloedd, y mae'r Cymry yn bur dueddol i gymysgu rhyw gymaint o'r lleddf â'r pethau mwyaf llon. Rhaid iddynt gael gorfoleddu mewn tôn hanner wylofus. Ac y mae'n ddiamau gennyfi y cânt gyfleustra i ddangos eu hoffter tuag at y lleddf wrth ganu'r anthem nefol mewn byd arall: "Ti a laddwyd, ac a'n prynaist ni i Dduw trwy dy waed." Wel, gobeithio na chaiff neb sydd yma achos i beidio â chanu nac yn y byd hwn nac yn y byd a ddaw.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Yn y llsgr. ceir geiriau yn enwedig yn sgrifenedig tros ben y geiriau o leiaf, ond nid yw'r naill na'r llall wedi eu croesi allan. Gol.
- ↑ Gwyddai Emrys yn burion mai siarad yn fras yr oedd wrth gymharu'r Gymraeg â'r seiniau Ffrangeg ac Ellmyneg hyn; oblegid yn ei adolygiad yn Y "Faner", Mawrth 3, 1886, ar ramadeg Cymraeg Ernst Sattler, fe sonia am y gwahaniaeth rhyngddynt, ac yn wir fe ddywed yno am yr # Gymraeg ogleddol ei bod yn nes i'r i nag i'r i Ellmyneg.—Gol.