Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II/Cymraeg y Pregethwr
| ← Y Clasuron Cymraeg | Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II gan Robert Ambrose Jones (Emrys ap Iwan) |
Llenyddiaeth Gymraeg y Cymry Gynt → |
CYMRAEG Y PREGETHWR
(ANERCHIAD A DRADDODWYD I'R EFRYDWYR YN ATHROFA DDIWINYDDOL Y BALA, CHWEFROR 25, 1893)
FY MRODYR IFAINC,
Yr oedd Dr. Edwards, eich prifathro, yn gryf, a minnau'n wan pan gafodd o gennyf addo dyfod yma i'ch annerch. Mi allaf ddywedyd Na wnaf cystal â neb trwy lythyr, a hyd yn oed yn wyneb dyn, os rhoddir imi hamdden i ystyried; ond pan ddelo ambell un ar fy ngwarthaf yn ddisymwth, byddaf yn dueddol i addo peth y bydd yn edifar gennyf wedi hynny fod wedi ei addo. Dyma fy esgus am ymgymryd â gorchwyl a fuasai'n gweddu'n well i rywun hŷn ac enwocach.
Nid wyf yn bwriadu'ch dysgu pa fodd i bregethu; canys yr wyf yn gobeithio ac yn credu hefyd fod llawer ohonoch eisoes yn bregethwyr mwy cymeradwy na myfi. Eithr y mae arnaf ofn eich bod, gan mwyaf, yn pallu mwy mewn un peth na minnau, sef mewn gwybodaeth drwyadl o'r iaith yr ydych yn gyffredin yn pregethu ynddi. Os mynnwch wybod yr hyn oll a ddywedir amdanoch yng ngwlad fy ymdaith i, sef y Mesopotamia sy rhwng Clwyd a Chonwy, dyma fo: na bu erioed do o bregethwyr gwell nag sydd yn y Bala ar hyn o bryd; fod eu pregethu yn ganmoladwy iawn o ran defnyddiau, traddodiad ac ysbryd, eithr fod geiriau ac ymadroddion rhai ohonoch yn swnio'n estronol i Gymry uniaith; a chan fod llawer o'r Cymry yn bobl gerddgar, y mae'r rheini'n cwyno bod brawddegau rhai ohonoch yn fwy afrywiog ac afrosgo nag y dylent fod. A rhoi bod y dystiolaeth hon yn wir, y mae'n ddiamau fod mwy o fai ar eraill nag sydd arnoch chwi; canys y mae'n debygol mai i ddysgu iaith estronol, ac nid i ddysgu'n llwyrach iaith eich gwlad, y'ch anfonwyd i'r ysgol pan oeddech yn blant; ac mai trwy iaith oedd yn ddieithr ichwi yr oedd yn rhaid ichwi geisio dysgu'r iaith honno ei hun, a phob peth arall. Os adwaenwch un dyn call a dysgedig a faidd gyfiawnhau'r ffolineb anferth hwn, mi a rof bob dimai sy gennyf ar fy helw tuag at y Coleg. Y mae'r Saeson eu hunain yn beio ar y peth pan wneir ef yn Ffinland a Poland, ac yr wyf innau am yr un rhesymau yn beio arno yng Nghymru. Y mae Alexandre Vinet, Wolfgang Menzel, ac awdur arall yr ydych chwi yn astudio un o'i lyfrau, sef Martensen, yn dywedyd yn bendant, ac ymron yn yr un geiriau, mai Cristionogaeth a hen iaith ein tadau a ddylai fod yn brif bynciau addysg yn ysgolion y plant; am mai Cristionogaeth a phriod iaith ydyw sylfaen diwylliad, a'r agoriad i bob gwybodaeth arall. Fe'n haddysgwyd ni'n weddol dda mewn Cristionogaeth yn yr Ysgol Sul ac ar yr aelwyd, ac yno fe'n dysgwyd i ddarllen hefyd, ond ni chawsom ddim cyfleustra i astudio'r Gymraeg yn yr Ysgol Sul nac mewn un ysgol arall, ac y mae'n sicr y byddwn byth ar ein colled o achos hynny. Fe gefais i ddwy fantais na chafodd y rhan fwyaf ohonoch chwi mo'u cyffelyb. Fe'm magwyd i mewn tre lle 'r oedd y Parchedig William Roberts yn pregethu bob mis mewn Cymraeg na chlywid mo'i gystal o enau un pregethwr arall, ac fe'm magwyd i mewn amser pan nad oedd gorfod ar neb i fynd i Ysgol y Bwrdd, os oedd Ysgol Fwrdd yn bod. Yr ydys erbyn hyn yn addef bod y sistem addysg a luniwyd gan farsiandwyr uniaith o fath Forster yn anfuddiol hyd yn oed i'r Saeson eu hunain; ond i'r Cymry y mae hi'n waeth nag anfuddiol, ac am hynny y mae plant y blynyddoedd hyn, er eu bod yn fwy gwybodus, eto'n llai deallus o lawer na'r plant a fyddai'n cydchwarae â mi. Pe troid yr ysgolion elfennol a wnaed i Seisnigo plant y Cymry yn ysgolion i'w diwyllio, sef yw hynny, pe dysgid hwy'n gyntaf dim i ymberffeithio mewn iaith anodd a chywrain fel y Gymraeg, a phe dysgid Saesneg iddynt trwy'r Gymraeg, fe allai ysgolion Cymru fod o ran dull ac effeithioldeb eu haddysg yn fath o athrofeydd bychain na byddai mo'u rhagorach mewn un wlad.
Ni buaswn i ddim yn beiddio llefaru mor bendant pe na buaswn wedi ymofyn â gwŷr mwy na mi fy hun; canys mi a glywais rai o ddysgawdwyr Heidelberg, Bonn, Giessen a Geneva yn dywedyd ei bod yn rhyfedd ganddynt fod y Cymry'n gallu ymddygymod â'r sistem addysg a ddarparwyd i'r Saeson. Nid yw ryfedd gennyf i hynny o gwbl, canys y mae gwerin Cymru wedi mynd yn rhy groendew ac yn rhy bendew i deimlo camwri nad ydyw ddim yn peri niwed uniongyrchol i'w corff a'u hamgylchiadau; ac am hynny y mae'n haws eu cyffroi i ddadsefydlu Eglwys Loegr nag i ddadsefydlu neu i ddiwygio ysgolion Lloegr. Gan eich bod chwi'n bregethwyr, yr wyf yn hyderu y gwnewch eich gorau i argyhoeddi'r bobl mai drygau ysbrydol—drygau sy'n peri niwed i'w hysbryd a'u meddwl—ydyw'r drygau mwyaf, ac nad yw'n weddus brysio i fwrw ymaith ddrygau llai tra byddo rhai mwy yn aros. Os mai'r gŵr sy'n cynrychioli'r sir hon yn y Senedd a gymhellodd ar Mr. Acland i addo'r hyn a addawodd y dydd o'r blaen, yna fo wnaeth gymwynas fwy i Gymru nag a all o nac un seneddwr arall ei gwneud eto. Os gwleidyddiaeth ydyw hyn, chwi a syniwch ei bod yn wleidyddiaeth o'r fwyaf crefyddol os ystyriwch y fath ddylanwad sydd i'r drefn bresennol ar ddealltwriaeth a chrefydd ein cydwladwyr. Chwi a gewch mewn llawer man blant na fedrant y Gymraeg yn ddigon da i allu deall pennod neu bregeth Gymraeg yn hawdd, ac na allant byth ddysgu Saesneg chwaith fel y gallasent ddysgu Cymraeg; canys y mae Cymraeg eu cyndadau wedi gwneud ei hôl ar eu hymennydd ac ar eu peiriannau llafar; ac os coeliwn anianegwyr, fe erys olion yr heniaith ar eu plant a phlant eu plant, fel mai ofer yw disgwyl i iaith estronol fynd yn iaith naturiol hyd y drydedd neu'r bedwaredd genhedlaeth. Chwi a gewch ym mhob Ysgol Sul Gymraeg athrawon anfedrus yn ymdroi am fisoedd, ie, am flynyddoedd i ddysgu llythrennau a sillafau i blant, a chan y bydd y plant hynny yn mynd yn laslanciau a llancesi cyn gorffen dysgu darllen, y mae darllen yn mynd yn gasbeth ganddynt. Nid i Ysgolion Sul y perthyn addysgu mewn darllen, hyd yn oed pe bai ynddynt athrawon a allai addysgu'n fedrus ac mewn byr amser. Addysgu yng nghynnwys y Beibl yn unig ydyw gwaith yr ysgolion hyn, ac fe ellid mynd at gynnwys hwnnw'n llawer cynt pe dysgid y plant i ddarllen yn yr ysgolion beunyddiol, ac yn y rheini fe ellid eu dysgu i ddarllen Cymraeg mewn ychydig ddyddiau. Wrth gymryd y baich hwn ar eu hysgwyddau eu hunain y mae crefyddwyr Cymru yn gwneud peth ffôl a diddiolch dros ben.
Er gwaeled ydyw'r Ysgolion Sul, y mae'n debygol mai yno y cawsoch chwithau yn eich mebyd y rhan fwyaf o'ch addysg Gymreig, a chan fod y fantais a gawsom i ddysgu'n hiaith ein hunain yn llai na'r fantais a gafodd pregethwyr un genedl arall i ddysgu eu hiaith hwy, y mae'n rhyfedd iawn fod ein Cymraeg cystal ag ydyw; ac y mae'n rhyfeddach fyth fod corff ein gwrandawyr yn ein deall cystal, am fod rhifedi'r miloedd o eiriau sydd yn y Beibl yn fwy na rhifedi'r cannoedd o eiriau sydd ar arfer ganddynt hwy.
Er mwyn eich annog i ymberffeithio yn yr iaith odidog a adawyd inni yn etifeddiaeth, mi a wnaf ychydig sylwadau ar GYMRAEG Y PREGETHWR, gan olygu ei iaith a'i arddull. I chwi, y rhai a ddysgwyd i brisio pob gwybodaeth er ei mwyn ei hun, fe ymddengys gwybod hen iaith eich gwlad yn un o'r pethau mwyaf anhepgorol. Er y gellwch ddysgu llefaru ac ysgrifennu Saesneg neu ryw iaith arall yn gywir ddigon, eto, yn eich iaith eich hun yn unig y gellwch obeithio llefaru ac ysgrifennu'n gain, oblegid hon sydd yn ddelw eich ysbryd ac yn wir lun eich meddwl. Yn hon y gellwch chwi draethu'ch meddyliau yn naturiol, ie, yn hon y gellwch chwi feddwl y meddyliau hynny ynoch eich hun. Y mae hi'n offeryn y meddwl yn unig am ei bod yn sylfaen iddo. Y mae'r gair sy'n gynnyrch y meddwl yn gweithredu'n ôl ar y meddwl ei hun, a thrwy hwnnw'n gweithredu ar holl fywyd dyn. Fel y bydd yr iaith, felly y bydd y dyn, ac felly y bydd y genedl. Y mae iaith dda'n hyrwyddo gwareiddiad, ac iaith wael, neu iaith nad ydys yn ei medru'n dda, yn rhwystro gwareiddiad. Y mae adfywiad llenoriaeth bob amser yn cydfyned ag adfywiad iaith. Pan gyhoeddodd Dante y Divina Comedia fo roes i'w gydwladwyr iaith a llenoriaeth ar yr un pryd. Pan ymroes Lessing i buro ac i berffeithio iaith yr Ellmyn y paratowyd y ffordd i Goethe a Schiller. Pan ddechreuodd Wolff yn nechrau'r ganrif o'r blaen draethu ei ddarlithiau athrofaol yn iaith ei wlad, yn lle mewn iaith estronol fel y gwneid o'r blaen, y dechreuodd athroniaeth redeg a chael gogonedd yn yr Almaen. Os ydyw llenoriaeth y wlad honno'n fwy cydolig yn fwy cosmopolitan—na llenoriaeth un wlad arall, y mae hi felly am ei bod yn fwy cenhedlig. Pan geisio pobl fynd yn gydolig trwy beidio â bod yn genhedlig ni byddant yn ddim i neb, ond pan geisiant fod yn gydolig trwy fod yn genhedlig, byddant yn bob peth i bawb. Paham y dylanwadodd Luther fwy ar ei wlad ac ar y byd na'i gyfaill dysgedicach, Melanchthon? Yn un peth, am ei fod yn Allman o'r Ellmyn, ac oblegid hynny, fel gwladgarwr a llenor Ellmyneg y mawrygir o bellach yn yr Almaen. Yr wyf yn gwneud y sylwadau cyffredinol hyn am fod tuedd ynddynt i beri ichwi ddal yn well ar y pethau mwy neilltuol a ddywedaf ar ôl hyn.
Er bod y Gymraeg, fel agos pob iaith dda, yn iaith anodd iawn, eto fe all pob dyn trwy ei hastudio ac ymarfer â hi, ei hysgrifennu'n gywir, os nad yn gain hefyd. Trwy yr un moddion gellwch wellhau'ch arddull hefyd, os bydd gennych arddull. Wrth arddull yr wyf yn meddwl yr argraff neilltuol honno y mae awdur yn ei gosod ar yr iaith gyffredin. Efallai fod arddull yn dibynnu llawn mwy ar gymeriad moesol dyn nag ar deithi ei feddwl, ac nid ychydig ar ei dymer a'i iechyd. I sgrifennu mor feddylgar â Carlyle fe fyddai'n rhaid ichwi wrth ymennydd Carlyle; ond i sgrifennu mor hynod ag ef, fe fyddai raid ichwi wrth yr iau a'r gïau a'r cylla oedd ganddo. I ffurfio arddull neilltuol y mae'n rhaid ichwi ffurfio cymeriad neilltuol, ac y mae hynny'n waith poenus a maith. Fe anwyd rhai yn wahanol i'r cyffredin, ac am hynny y mae'n weddol hawdd iddynt hwy sgrifennu a llefaru'n wahanol i'r cyffredin. Gwybydder hagen nad oes gan bob ysgrifennwr hynod ddim arddull; canys y mae llawer un yn ysgrifennu'n hynod am ei fod yn amharchu anian ac yn troseddu deddfau cyffredin yr iaith y byddo'n ysgrifennu ynddi. Cofier bod i iaith hefyd ei harddull, ac y dylai arddull y dyn ymaddasu i arddull yr iaith. Er cynifer o ffurfiau newyddion ar eiriau ac ar ymadroddion a ddygodd Carlyle i'r Saesneg, yr oedd o'n ufuddhau i hen ddeddfau'r iaith honno mor fanwl â neb. Pascal a Paul-Louis Courier, yn ôl G. P. Marsh, ydyw'r ddau awdur perffeithiaf eu harddull a ymddangosodd yn yr oesoedd diwethaf hyn; ond wrth gymell y Ffrangeg i ymostwng i'w harddull hwy, yr oeddynt hwythau yn ymostwng i'w deddfau hithau; ac os oeddynt hwythau'n gallu sgrifennu'n hynodol mewn iaith mor gaeth ei gramadeg â'r Ffrangeg, pa faint haws y gall eraill ysgrifennu felly, a bod yn ramadegol hefyd, mewn ieithoedd mor ystwyth â'r Gymraeg a'r Ellmyneg? Mewn gwirionedd, nid arddull mo'r dull o draethu a fyddo'n anghydweddu â phriodwedd yr iaith, ond iaith wneuthur yn dyfod o fympwy ac nid o ddawn. Nid gwisg yn hongian yn llac am y meddwl ydyw iaith briodol, ond corff wedi ei gydgenhedlu ag ef—corff ysbrydol, tryloyw, sy'n gwasanaethu'n unig i roi ffurf ar y dyn oddi mewn, ac nid i'w guddio na'i addurno chwaith. Pan sonier am arddull, meddylier am yr hyn sy luniaidd ac nid am yr hyn sy liwiog; canys y mae cymesuredd y bregeth a chyflead y meddyliau ynddi yn nodau amlycach ar arddull na thlysni'r defnyddiau a chyflead y geiriau. Y mae pob cyfanwaith yn gywreinwaith; ac ni bydd un cyfansoddiad, pa un bynnag ai pregeth ai traethawd ai cân, ddim yn werthfawr a hirhoedlog os na bydd o'n gywreinwaith. Ymhlith llenorion fel ymhlith crefftwyr, y pensaer celfydd, ac nid y cloddiwr cerrig, a gyfrifir yn bennaf. Saernïaeth dda ydyw enaid arddull, a chyda'r enaid hwnnw y mae arddull yn anfarwol. Y mae crug o feini marmor yn ymchwalu, ac yn ebrwydd yn ymgolli; ond y mae adeilad o feini pridd yn sefyll dros lawer oes. Yr un ffunud, y mae meddyliau annelwig a fyddo'n gorwedd yn llanastr ar bapur, pa mor dda bynnag eu defnydd, yn mynd yn fuan yn eiddo cyffredin, neu ynteu ar goll; ond y mae arddull yn aros byth yn eiddo priodol i'r neb oedd piau fo yn y dechrau.
Gan mai trefn a chymesuredd ydyw prif nodau arddull gwych, y mae hwn yn gorffwys gymaint ar resymeg ag ar ramadeg; ac am hynny, un o'r ffyrdd cyffredinol gorau i fagu arddull ydyw darllen llawer ar lyfrau awduron sydd, fel yr apostol, "yn ymresymu yn hir "—yr awduron sy'n hytrach yn cyfuno nag yn daduno. Fe geir mwy o'r cyfryw rai ymhlith y Ffrancwyr nag ymhlith cenhedloedd eraill, ac er eu bod hwy yn cyfrannu llai o wybodaeth i ddarllenwr nag y mae awduron Ellmynig a Seisnig yn ei chyfrannu, eto y maent yn agor ac yn coethi mwy ar ei feddwl. Y mae perygl i bregethwyr ar ôl gadael y coleg ymroi yn gyfangwbl i ddarllen llyfrau sy'n rhoddi iddynt ddefnyddiau i wneuthur pregethau. Rhaid yw i bregethwyr ddarllen esboniadau, bid sicr, ond hyd yn oed wrth arfer y rheini, y mae'n haws gennym o lawer ddarllen eglurhad ar adnodau unigol na darllen yr arweiniad i holl gynnwys y llyfr a esbonier. Gwell gennym ysbïo dinas Hebron a Dyffryn Escol er mwyn dwyn adre gyda ni swp o rawnwin, nag esgyn i ben Piscah i olygu'r wlad o ben bwy gilydd. I'r rhai y mae ganddynt arddull, y ffordd orau y gwn i amdani i wellhau'r arddull hwnnw ydyw mynnu'n gyntaf oll lyfrau'n cynnwys enghreifftiau o waith pob awdur enwog ym mhob iaith a fyddo'n hysbys iddynt, ac yna darllen yn ddyfal weithoedd yr awdur y byddo'i arddull yn debycaf i'w harddull amherffeithiach hwy eu hunain. Wrth gymryd y cyfryw un yn gynllun, nid dynwared rhywun arall y byddant, ond datblygu eu dawn eu hunain. Pan fyddo'r awdur a ddewiser yn gynllun yn pallu mewn rhywbeth gwerthfawr, fe ddylai'r darllenwr ar yr un pryd ddarllen gwaith rhyw awdur arall a fyddo'n rhagori yn y peth hwnnw. Hyn a geidw'r disgybl rhag mynd yn gaethwas i'w athro.
Mewn llyfrau sy'n ymdrin ag areitheg, yr ydys yn sôn am arddull aruchel, arddull syml, ac arddulliau eraill. Yn hytrach na dweud dim am y rheini, sylwi'n fyr a wnaf i o hyn i'r diwedd ar rai o'r teithi neu'r rhinweddau sy'n briodol i bob rhyw arddull.
PURDEB ydyw'r peth blaenaf. Y mae a wnelo hwn â geiriau ac ag ymadroddion, sef cyfuniad o eiriau. Er na fynnwn ichwi fod yn bureiniaid neu yn Phariseaid llenorol, fe ddylai'r holl eiriau a arferwch wrth bregethu fod yn Gymreigaidd eu dull, os nad yn Gymraeg o ran gwreiddyn. Y mae arfer geiriau mor anghydweddol â'r Gymraeg fel y rhaid eu hitaligo wrth eu hysgrifennu a'u hargraffu yn lladd urddas pregeth; ac er nad oes i'r hyn sydd urddasol ddylanwad mor amlwg ar y cyffredin â'r hyn sydd heb fod felly, eto y mae iddo ddylanwad tecach ac iachusach o lawer. I gadw'r urddas hwn ac i gael ar eraill y dylanwad goruchel sydd ynglŷn ag ef, y mae'n rhaid i'ch iaith fod yn hytrach yn henaidd nag yn ffasiynol: yn debycach i iaith y Beibl nag i iaith newyddiadur. Diau fod iaith gymysg, sitrachog, yn fwy effeithiol nag iaith bur i beri digrifwch; ac am y rheswm hwnnw y dylech chwithau ei bwrw allan. Ond o ddiogi yn unig y mae'r rhan fwyaf yn arfer y cyfryw iaith. Yn lle meddwl mor annibynnol wrth ddarparu pregeth Gymraeg â phe na baent yn gwybod ar y pryd ddim ond Cymraeg, ceisio atgofio a throsglwyddo y maent i'r Gymraeg yr hyn a ddarllenasant mewn iaith arall, a hynny heb gymorth geiriadur na gramadeg; ac os na thrawant wrth air heb ei geisio, hwy a gwynant fod y Gymraeg yn dlawd, ac a gymerant air o'r iaith a'r llyfr y cawsant eu syniadau ynddynt. Fel rheol, Cymry tlawd eu meddwl sy'n cael y Gymraeg yn dlawd. Odid byth y bydd eisiau gair nac ymadrodd ar y neb a astudiodd yr iaith yn ddigon da i allu meddwl ynddi. I'r meddyliwr manwl, cyfoeth y Gymraeg ac nid ei thlodi sy'n peri anhawster. "Pa air a ddewisaf?" ac nid "Pa air a gaf?" yw ei waedd ef.
Ond hwyrach y dywedir mai er mwyn eraill ac nid er mwyn arbed trafferth iddo'i hun y mae ambell bregethwr yn arfer geiriau Saesneg ac ymadroddion Seisnigaidd. Pe buasai amser gallaswn brofi bod parchu iaith yn beth llawn pwysicach na boddhau eraill, hyd yn oed a golygu'r peth oddi ar dir moesoldeb a chrefydd. Y mae'n sicr fod cyfieithwyr y Beibl mor awyddus i chwilio am eiriau dealladwy â neb ohonom; ond chwilio am eiriau cymeradwy oedd bennaf yn eu golwg. Am hynny fe fu'n well ganddynt hwy ddwyn i'r cyfieithiad Cymraeg eiriau a phriodweddion diarfer na dwyn rhai estronol, er y buasai'r rheini'n fwy cynefin. A phan fyddai raid iddynt wrth air estronol, dwyn ei gorff yn unig a wnaent; rhoddent iddo'n gyffredin ben a chynffon o'u hiaith eu hun, gan ei wneud felly yn air y gellid ei dreiglo fel geiriau cwbl Gymraeg. Fel mai hawdd cynnau tân ar hen aelwyd, felly hawdd yw dwyn ar arfer eiriau a fydd wedi mynd yn ddiarfer, os byddant yn eiriau persain a da. Y mae'r cyfryw eiriau, fel rheol, yn eu hesbonio'u hunain yn well na geiriau estronol. O ran hynny, anfynych y bydd raid i bregethwr wrth eiriau na cheir mohonynt yn y Beibl, a dau neu dri o lyfrau cynefin eraill. A chan y dylai pawb a fagwyd mewn Ysgol Sul fod erbyn hyn yn hyddysg yn y Beibl, ni raid i un pregethwr ymddiheuro i neb am arfer pob rhyw air ac ymadrodd a gaffer ynddo fo. Ni ellwch byth draethu holl gyngor Duw mewn pum cant o eiriau, hyd yn oed pe baech yn eu britho â phum cant arall o eiriau Saesneg. Er ichwi ymgyfaddasu i ddealltwriaeth y werin hyd at bregethu fel cenhadon Mr. Booth, fe fydd rhai o'ch geiriau fyth yn ddieithr i ambell wrandawr. Rhaid ichwi wrth lawer o eiriau i ymdrin yn drwyadl â llawer o bynciau; ond haeru yr ydwyf i na bydd y geiriau hynny ddim mwy annealladwy i'r cyffredin o fod yn Gymraeg. Paham y mae cynifer o bregethwyr sydd heb fod yn brominent eu hunain mor chwannog i arfer y gair prominent wrth bregethu?[1] A oes ynddo fo ogoniant mwy nag yn y gair amlwg? Ac os oes, tybed fod gweision a morwynion Cymru yn ddigon craff i'w ganfod? Ac os gelwir ar bregethwr i gefnogi rhyw gynigiad mewn cyfarfod cyhoeddus, a gyfrifir o'n bregethwr mwy am iddo ddywedyd, "Y mae'n bleser [neu, yn hyfrydwch] gennyf eilio'r cynigiad," nag os dywed, fel rhyw ddyn arall: "Y mae'n hyfryd gennyf gefnogi'r cynigiad." Yn ddiau, pregethwr mawreddog ac nid pregethwr mawr a fyn arfer enw yn lle cyfenw, a rhoddi ystyr newydd ac amwys i'r gair eilio. Y mae'n ddigon tebygol ei bod yn hawdd i Gymry sy'n medru Saesneg ddyfalu ystyr yr ymadrodd anghymreigaidd yma: "Yr ydych at eich rhyddid i ateb yr wyth a fynnoch o'r cwestiynau," ond fe ddylai'r rhai sy'n llunio rheolau i ymgeiswyr gofio bod eto liaws yn y wlad yn fwy hyddysg yn iaith yr Ysgrythur nag yn eu cymysgiaith hwy, ac y dylid gan hynny ddywedyd wrthynt mewn Cymraeg glân: "Y mae'n rhydd i chwi ateb," etc.
Os na ellwch gael mewn geiriadur, neu yn ein hen glasuron Cymraeg, air mor gymwys a phenodol ei ystyr â rhyw air estronol y gwyddoch amdano, gofynnwch i rywun cyfarwydd ffurfio gair ichwi; ac os na bydd hwnnw yn haeddu ei dderbyn gan bawb, yna Cymreigiwch y gair estronol yn gytunol â deddfau'r Gymraeg. Er enghraifft, os gair Groeg yn diweddu yn is a fydd o, tynnwch yr is ymaith, a dodwch derfyniad Cymraeg yn ei le. Os bydd yr hen air ffaig yn anghymeradwy gennych am ei fod yn anghynefin, a'r gair gwneuthur argyfwng am ei fod yn garbwl, nac arferwch y gair Groeg crisis sy'n gyfystyr, na'r ffurf Seisnigaidd creisis; ond fel y tynnwyd is o paralysis yn y ffurf Gymraeg parlys, felly tynnwch chwithau is o crisis, gan ei wneuthur a'i seinio yn cris fel y gwna'r Ffrancwyr. Trwy hynny fe fydd y gair yn fwy dealladwy, am fod ei gorff yn cadw'i lun a'i sain gyntefig; heblaw ei bod yn haws ei dreiglo'n rheolaidd, peth a ddylid ei ystyried bob amser wrth ddwyn i'r iaith air estronol.[2] Yr un modd y dylid gwneud hefo analysis, synthesis, phenomenon, phosphorus, ac estroneiriau eraill, os bernir nad yw'r geiriau Cymraeg pur yn ddigon neilltuol eu hystyr. Am lawer o'r geiriau perthynol i gelf a gwyddor, y mae'r rhai Cymraeg mor fyrion, mor benodol eu hystyr, ac mor ddealladwy, â'r rhai estronol. Pa achos sydd am y ffurf Seisnigaidd anatomy neu'r ffurf Gymreigaidd anatomiaeth, a chennym ninnau'r gair Cymraeg difyniaeth neu difynneg. Gymaint gwell ymhob ystyr ydyw hwn na'r gair Ellmyneg Zergliederungswissenschaft! Ac eto i gyd, y mae'r Ellmyn er ys talm bellach mor awyddus i lanhau eu hiaith oddi wrth estron-eiriau fel y maent hwy wedi bwrw allan y ffurf anatomie er mwyn gwneud lle i'r gair anferth hwn. Ac yn y diwedd, rhaid iddynt barhau i arfer y cyfenw estronol anatomisch o eisiau gair Ellmyneg pur, cyfystyr â'r gair Cymraeg difynegol. Os bydd gennym ni'r Cymry enw ar rywbeth yn ein hiaith ein hun, ni raid i ni, fel yr Ellmyn, fynd i iaith arall i gaffael cyfenw. Am fod y geiriau hyn yn enghreifftiau cyfleus y darfu i mi wrth reswm eu dewis hwy, ac nid am fy mod yn meddwl y bydd arnoch eu heisiau yn y pulpud.
Er mai peth dibwys ydyw purdeb sain wrth burdeb geiriau, ac yn enwedig wrth burdeb ymadroddion, eto yr wy'n meddwl ei bod bellach yn bryd i ni, sy'n ddysgawdwyr i'r bobl, seinio enwau estronol naill ai yn ôl deddfau'r iaith y cymerwyd hwy ohoni, neu ynteu yn ôl deddfau'r iaith y dygwyd hwy iddi. Arfer yn unig, a honno'n arfer ddrwg a diweddar, sy'n peri inni lasenwi rhyw hen batriarch yn Dsiacob; canys nid yw'r enw hwn o ran ei sain na Hebraeg na Chymraeg na Saesneg. Y mae'n sicr na buasai golygyddion y Beibl Cymraeg a gyhoeddwyd yn 1654 byth yn arfer y j i ddynodi sain yr i gytseiniol pe rhagwybuasent y buasai rhyw fân bregethwyr annysgedig yn nechrau'r ganrif hon yn ceisio seinio'r j honno fel j Saesneg. A gwybydder mai ceisio ei seinio felly, ac nid ei seinio'n gwbl Saesneg, y mae llawer o bregethwyr hyd yr awr hon. Er y buasai'n dda inni wrth y llythyren hon, eto y mae'n burion nad ydys yn awr yn ei harfer mor gyffredinol ag y buwyd unwaith, onide fe a'n dysgesid yn yr Ysgol Sul i seinio jawn yn dsiawn, a jachawdwrjaeth yn dsiachawdwrdsiaeth. Gresyn na fuasai'r cyfieithwyr wedi arfer ymhobman yr hen ffurfiau Cymraeg oedd ar arfer yn eu hamser hwy, sef Iagof neu Iago ac nid Jacob, Iof neu Io ac nid Job, Moesen ac nid Moses; canys ni fuasai neb mor dueddol i gamseinio'r hen ffurfiau cynefin. Yn Salmau Edmwnd Prys y ffurf Iago a arferir, a hynny am ei bod hi'n fwy barddonol na'r ffurf newydd; a Iago ydyw'r ffurf a geir yn y Testament Newydd ar fwy nag un Jacob. Yr ydys eto yn arfer Moesen yn y gair tarddedig Moesenaidd fel yr ydys yn arfer Platon yn y geiriau tarddedig Platonig a Platoniaid. Diau fod y fath enwau ag Eisac a Sôl yn ffurfiau pur Seisnigaidd, eithr dyna'r cwbl a ellir ei ddywedyd drostynt. Pan ddysgir y Gymraeg yn yr ysgolion beunyddiol fe ddysgir y plant i seinio geiriau estronol yn fwy priodol; ac os na achubwn eu pymtheng mlynedd mor hynod iddynt hwy ag yr ymddengys John Rhys, Silvan Evans, a Michael Jones, yn awr i ninnau. Er fy mod wedi traethu mwy am eiriau nag am ymadroddion, eto gwybydder bod purdeb ymadrodd yn bwysicach o lawer yn fy ngolwg i na phurdeb geiriau.
Rhag i burdeb fyned yn bureindeb—yn purism— dylem gofio, yn y lle nesaf, fod LLYFNDER hefyd yn rhinwedd ar iaith. Rhaid addef bod Cymraeg llyfr, pa mor dda bynnag y bo, yn anodd i'w ddarllen, am ei fod gymaint mwy clogyrnog na Chymraeg llafar. Fel y mae dŵr yn caboli rhai cerrig ac yn tyllu rhai eraill, felly y mae tafodau cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth yn llyfnu rhai geiriau, ac ysywaeth yn eu llygru hefyd. Y mae geiriau yn ymgaboli yn ôl deddfau cyffredinol, ac yn ymlygru oherwydd mympwyon neilltuol. Fe ddylai pregethwr ymgadw rhag llygriadau iaith, eithr fe ddylai barchu pob cyfnewidiad a wnaed arni yn ôl deddf. Am hynny ni ddylai mo'i llefaru fel y mae argraffwyr yn gweled yn dda ei hargraffu; yn hytrach dilyned y bobl ymhob peth y maent yn cytuno ynddo ar hyd yr oesoedd. Er enghraifft, y mae'r cyfuniad nt yn gas nid yn unig gan dafodau'r Cymry, ond hefyd gan dafodau'r Llydawiaid, yr Italiaid, y Sbaeniaid, a'r Ffrancwyr; ac o achos hynny, y mae'r cenhedloedd hyn oll wedi ymwrthod ag ef ers cannoedd o flynyddoedd: y tair blaenaf ohonynt trwy fwrw allan y t, a'r Ffrancwyr trwy ddwy neu dair o ffyrdd nad yw'n wiw ymdroi i'w hegluro. Y mae'r arfer gyffredinol hon yn profi bod nt, yn enwedig yn niwedd sill ddiacen, yn sain ddybryd. Ond er bod llais Cymru. a llais y Cyfandir hefyd yn mynd yn erbyn y t ar ôl n yn nherfyniadau lluosog berfau, y mae argraffwyr diweddar yn glynu wrthi'n dynnach hyd yn oed nag ysgrifenwyr Cymraeg y Canol Oesoedd. Ond os ydys yn parhau i'w hargraffu ac i'w hysgrifennu, ni ddylai neb ei llefaru. Ac heblaw ei bod yn anodd seinio t ar ôl n, y mae'n anodd seinio pob cytsain arall ar ôl t. Am hynny y mae n, gan ei bod yn llythyren lithrig, ac felly'n cyd-daro'n lled esmwyth â chytsain ddilynol, yn well llythyren derfyn na t. Er enghraifft, y mae'n haws dywedyd: "Hwy a welan Dduw," na "Hwy a welant Dduw."
Peth arall sy'n boenus i bob siaradwr ydyw seinio sain gyfansawdd a diacen, megis ai, au, ac aw, yn gwelai, pethau, taraw; ac am hynny fe ddylid yn gytunol â deddfau sain a hen arfer roi sain seml i bob un o'r terfyniadau hyn, yn enwedig o flaen cytseiniaid, trwy droi ai yn e, au yn a, ac aw yn o. Pe cytunai pobl Canolbarth a Deheubarth Cymru i ddywedyd petha yn lle pethau, y mae'n ddiau y cytunem ninnau yn y Gogleddbarth i ddywedyd carre yn lle carrai. Felly fe fyddai'n ddealledig fod e mewn gair tarddedig yn troi'n ei, ac a yn eu. Dyma dir y gall pleidwyr yr a a phleidwyr yr e ymgyfarfod arno heb golli mwy nag a enillant.
Mewn gramadeg Cymraeg a gyhoeddwyd yn yr Almaen yn y flwyddyn 1886, y mae'r awdur yn cadarnhau peth a ddywedasai Cymro yn un o rifynnau cyntaf Y GENINEN, sef bod terfyniadau deuseiniol a diacen yn gwneud y Gymraeg yn fwy afrwydd nag y dylai hi fod. Pan fo tystiolaeth estron yn cytuno â thystiolaeth brodor, rhaid fod mesur o wir ynddi.
Y mae llawer un yn rhoi achos i estroniaid feddwl bod y Gymraeg yn iaith arw oherwydd ei fod yn pwyso gormod ar lythrennau cras. Yn wir, y mae clywed ambell Gymro yn rhochian yr ch yr un fath yn union â chlywed un o Wyddelod Conamara yn chwyrnu yn ei gwsg.
Fe all siaradwr Cymraeg ochel seiniau afrywiog trwy lawer o ffyrdd eraill oedd yn bur gyffredin yn y dyddiau gynt, sef trwy droi m yn n o flaen n arall, megis arnon ni yn lle arnom ni, a thrwy arfer rhagenw rhwng gair â chytsain yn ei ddiwedd a gair arall â chytsain yn ei ddechrau, megis "Y mae arnat—ti swllt," neu "Y mae arnati swllt," yn lle "Y mae arnat swllt."
Mynych y clywais i ddywedyd bod pregethwyr yr oes o'r blaen yn fwy naturiol na phregethwyr yr oes hon, a phregethwyr yr oes hon yn fwy celfydd na rhai'r oes o'r blaen. Os wyf i'n deall ystyr y gair "celfydd," yna nid wyf yn petruso dywedyd bod yr hen bregethwyr yn fwy celfydd o lawer na ni; ac am eu bod yn fwy celfydd yr oeddynt yn fwy naturiol. Rhai o'r to diwethaf o bregethwyr a glywais i, y mae'n wir; ond clywais adrodd darnau o bregethau a draddodwyd gan do cynharach, ac os ydyw'n iawn eu barnu wrth y darnau hynny, yr oeddynt yn dra chelfydd. Yr oeddynt yn arfer pob dyfais gyfreithlon i ochel dybryd sain, ac i amlhau seiniau llafar.[3] Yr oedd cynghanedd yn eu geiriau a mesur ar eu brawddegau, ac y mae'n amlwg eu bod, wrth lunio'u brawddegau, yn fwy gofalus na ni i astudio hyd eu hanadl. Yr oedd y gofyniad, "Pa fodd y canaf?" mor bwysig yn eu golwg hwy ag ydyw'r gofyniad, "Pa beth a waeddaf?" yn ein golwg ninnau. A pha beth bynnag a feddyliwn ni am las-ganu pregeth, y mae'n ddiddadl y rhaid wrth fwy o gelfyddyd y prydydd a'r cerddor i wneuthur pregeth ganadwy na phregeth waeddadwy. Paham yr oedd y diweddar Richard Owen gymaint mwy effeithiol na phregethwyr eraill? Am hyn, yn un peth, sef bod miwsig yr hen bregethwyr yn ei lais ac yn ei iaith hefyd. Yr oedd o'n cofio bod gan agos pob Cymro dair clust, ac yn credu mai trwy agoryd y feinaf o'r tair y gallai'n orau fwrw eiriau i'r galon oedd islaw iddi.
Hyd yn oed pe bai amser, nid oes achos imi draethu am YSTWYTHDER, EGLURDER a MANYLDER, bob un ar ei ben ei hun, am fod ystwythder ac eglurder yn y Gymraeg yn gorffwys yn gyffredin ar fanylder. Dywedwch rywbeth yn fanwl, a chwi a'i dywedwch yn eglur ac yn ystwyth hefyd. Fe ellir gwrthdroi mwy ar frawddeg Gymraeg nag ar frawddeg Ellmyneg, ac y mae pob newidiad a wneir ar drefn geiriau mewn brawddeg Gymraeg yn arwyddo newidiad ar ystyr y frawddeg; peth na ellir ei ddywedyd am frawddeg Ellmyneg. Er mwyn arbwys ac amrywiaeth y symudir gair i ddechrau brawddeg yn yr Ellmyneg, ond yn y Gymraeg fe wneir hynny er mwyn cyferbyniaeth hefyd. Y mae'r gair a symudir o'i le arferol i ddechrau ymadrodd yn rhoi ystyr mor benodol i'r holl ymadrodd hwnnw fel y mae o'n cau allan bob ystyr arall gwahanol. Cymerer yr ymadrodd hwn yn enghraifft:
Yr oedd yr astudwyr yn cerdded gynnau i'r coleg i weddïo.
Yn yr ymadrodd hwn, dywedyd yr wyf y ffaith yn syml, heb bwyso ar un gair neilltuol; eithr yn yr ymadroddion sy'n canlyn, yr wyf trwy newid trefn y geiriau yn dywedyd rhywbeth nad oeddwn o'r blaen yn ei ddywedyd yn eglur a phendant:
Yr astudwyr oedd yn cerdded gynnau i'r Coleg i weddïo.
Cerdded yr oedd yr astudwyr gynnau i'r Coleg.
Gynnau yr oedd yr astudwyr yn cerdded i'r Coleg.
I'r Coleg yr oedd yr astudwyr yn cerdded gynnau.
I weddïo yr oedd yr astudwyr yn cerdded gynnau i'r Coleg.
Y mae'r ymadroddion hyn yn profi'r hyn a ddywedais o'r blaen, sef bod Cymraeg manwl o anghenraid yn Gymraeg eglur, miniog, ystwyth, a llawn o amrywiaeth; yn Gymraeg sy'n llesol i feddwl y llefarwr ac yn hyfryd i glust y gwrandawr. Y mae'r cyfryw iaith yn peri imi feddwl y gallai'r Cymry, pe bai eu gweithgarwch gymaint â'u gallu, ragori mwy mewn athroniaeth nag mewn barddoniaeth. Os oes ar hyn o bryd fwy o brydyddion yng Nghymru nag sydd o athronyddion, y mae hynny am ei bod yn haws i ddyn diog fod yn dipyn o brydydd nag yn llawer o athronydd.
Mewn barddoniaeth, ac areithyddiaeth uchel, fe all iaith fod yn ystwyth heb fod yn fanwl. Iaith ystwyth yn hytrach na manwl a geir yn y Beibl, ac iaith felly a geir yn Nrych y Prif Oesoedd. Morgan Llwyd, neu'n hytrach Elis Wynn, oedd y cyntaf a wnaeth iaith fanylach y bobl yn iaith lenorol, ac a seiliodd ystwythder ar fanylder. Y mae ei iaith ef, er yn llai swynol nag iaith hynafol y Drych, yn fwy buddiol i bob perwyl.
Mewn un peth, yn wir, y mae Elis Wynn yn ymbellhau oddi wrth iaith y bobl, ac oddi wrth iaith y prif lenorion eraill hefyd; ac yn hynny o beth y mae o yn llai manwl na hwy, sef mewn peidio ag arfer rhagenw personol yn ddigon mynych o flaen ac ar ôl berf; ac weithiau, y mae o'n tywyllu synnwyr ymadrodd trwy adael a allan o flaen berf, gan ddywedyd, "Ni welsom," pan y mae o'n meddwl dywedyd, "Ni a welsom." Fe ŵyr rhai cyfarwydd pa bryd y gellir hepgor rhagenwau, eithr ni ŵyr y cyffredin ddim; am hynny, os mynnant hwy lefaru'n eglur, edrychant na chynilont mo'u rhagenwau, yn enwedig gyda'r ffurf noeth a elwir yn "ferf yn y trydydd person unigol." Yn lle dywedyd Daw, dyweder yn hytrach, Efe a ddaw, Hi a ddaw, neu ynteu Y daw efe, Y daw hi; onide fe all gwrandawr feddwl mai gwrthrych y ferf fydd ei thestun. Yn lle arferyd y ffurf orchmynnol Gwelwn am y modd mynegol, dyweder Mi a welwn, os gorffennol ac unigol a fydd y ferf; a Ni a welwn, os dyfodol a lluosog a fydd hi. Heblaw hynny, y mae rhagenwau yn gwneud brawddeg yn fwy rhugl a chlymedig; canys y mae'r frawddeg, Gwelwn ef pan awn yno," heblaw ei bod yn fwy aneglur, yn fwy toredig hefyd na "Ni a'i gwelwn o pan awn ni yno." Y mae'r werin bob amser yn arfer rhagenw ar ôl berf, ac yn arfer mi o flaen berf hefyd; eithr eu bod hwy ysywaeth, fel gwladwyr anllythrennog Ffrainc, yn gwneud i ragenw yn y person cyntaf unigol wasanaethu yn lle rhagenwau yn y personau eraill. Yr un ffunud, fe ddylid weithiau arferyd rhagenw er mwyn eglurder, hyd yn oed pan na bydd ei eisiau er mwyn arbwys, mewn ymadrodd fel hwn hefyd, "Fe sychodd Olwen ei dagrau hi"; canys y rhagenw hi sy'n dangos mai dagrau rhyw ferch amgen nag Olwen a olygir. Heb y rhagenw fe ellid meddwl mai ei dagrau ei hun a ddarfu i Olwen eu sychu.
Yr wyf yn cyfeirio'ch sylw at y pethau sychion hyn am ei bod yn bwysig i sgrifennwr, ac yn enwedig i siaradwr, arfer iaith y gall gwrandawr ei deall yn rhwydd ac yn ebrwydd, ac nid ei dyfalu. Nid yw hyn yn anghyson â'r peth a awgrymais i o'r blaen, sef bod iaith ambell un yn aneglur i'r cyffredin yn unig am ei bod yn anghynefin, a'r iaith yn anghynefin am fod y pethau yr ymdrinir â hwy yn anghynefin. Y gwrandawyr ac nid y siaradwyr a ddylid eu beio am hyn.
Yn ddiwethaf, nac anghofiwch BRIODOLDEB NATURIOLDEB, canys hebddynt hwy ni bydd iaith nac arddull neb yn dda. . . .
Swm cwbl a ddywedwyd yw hyn: Pa beth bynnag a wneloch, gwnewch hynny yn dda. Na foddlonwch i wneud dim yn wael hyd yn oed os bydd gwaith gwael yn dwyn ichwi gymaint o glod ac elw â gwaith gwych. Y gwych yn unig a fydd byw; am hynny, ceisiwch yn hytrach anllygredigaeth na gogoniant ac anrhydedd presennol. Gwnewch eich pregethau'n gyfryw y bydd yn wiw gan ddynion eu darllen ymhen oesoedd ar ôl eich marw; canys wrth ymgyfaddasu i'r oesau a ddêl, chwi a'ch gwnewch eich hunain yn bregethwyr cymhwysach i'ch oes eich hun. Y mae llawer pregethwr wedi ei ddifetha ei hun cyn ei farw trwy ymroi i foddhau'r hen boblach oedd yn myned ymaith, ac esgeuluso ymbaratoi ar gyfer y genhedlaeth oedd yn dyfod ar eu hôl hwynt. Cofiwch y daw'r Gymraeg ar fyrder i'r ysgolion cyffredin, ac y mae hynny'n cynnwys y bydd Cymraeg coeth ac arddull da yn fwy eu bri gan y genhedlaeth nesaf. A pha beth yn y diwedd ydyw iaith goeth amgen nag iaith heb ynddi ddim geiriau ofer ac anghymwys, eithr rhai eglur hyd at fod yn loyw, a manwl hyd at fod yn finiog. "Geiriau y doethion sydd megis symbylau "; ac y mae pregeth y byddo'i ffurf yn gyfaddas i'w defnydd fel afalau aur mewn gwaith arian cerfiedig."
Nodiadau
[golygu]- ↑ Tua blwyddyn yn ôl, o bulpud Cymraeg yn y dref hon, clywyd y frawddeg fythgofiadwy hon:—"Mae'r subliminal consciousness yn full of infinite possibilities!"—Gol.
- ↑ Y mae iaith gymysg fel y Saesneg yn peidio â bod yn iaith. resymegol, ac yn un fanteisiol i ddisgyblu'r meddwl, am nad yw un gair yn awgrymu gair arall perthnasol. Er enghraifft, pwy allai ddyfalu bod a wnelo naval â ship?—E. ap I.
- ↑ Megis o flaen l, m, n ac r yn y fath eiriau â magl, storm, edn, sobr.—E. ap I.