Neidio i'r cynnwys

Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II/Detholion

Oddi ar Wicidestun
Nodiadau Darlith ar Nodweddion y Ffrancwyr Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II

gan Robert Ambrose Jones (Emrys ap Iwan)


DETHOLION

Canfydda, cyfarfyddais, adnabyddodd, darganfyddasom, etc. Ymha le y cawsoch o hyd i'r ffurfiau anferth yna—ai yn y Beibl, bregethwyr? ai yn y Gweledigaethau neu yn Hanes y Ffydd, ohebwyr? Prin y gallaf ddisgwyl i lawer ohonoch roi sylltyn am Ramadeg; llawer llai i gynilo ychydig o amser

I roi i lawr eiriau lu,
Deg mil, a'u digymalu;
Profi gwreiddyn y prifair,
Olrhain yn gywrain y gair;
Ceisio'n ddiball, dyall da
Ddwys ganfod ei ddisgynfa;
Caru, coledd cywirwaith,
Tlysau agoriadau'r iaith.

Na: y mae'ch gwaith yn arfer y ffurfiau a roddwyd yn profi ei bod yn ormod gan y rhan fwyaf ohonoch roi pum munud o'ch oes i ddysgu treiglo'r prifair bod; canys pum munud fyddai'n ddigon i'r dylaf ohonoch. Ond y mae'n rhesymol imi ddisgwyl i bob un ohonoch ddarllen yr Ysgrythur Lân—yn enwedig chwychwi'r pregethwyr. Addefir eich bod yn bur gyfarwydd ag esboniadau ar y Beibl, ond y mae'n amlwg wrth eich iaith aflêr ac anystwyth eich bod yn ddieithr iawn i'r Beibl ei hun. Pe darllenech ef yn fynych ac yn fanwl, chwi ysgrifennech Gymraeg yn weddol dda, ar eich gwaethaf. Ai tybed fod modd ichwi gael gafael ar feddyliau'r Beibl heb gyffwrdd â'i eiriau? A ydych yn medru ymhyfrydu yn ei wirionedd heb gael eich goglais gan ei dlysni llenyddol? Ni choeliaf mo hynny, hyd yn oed os dywedir wrthyf fod eich croen cyn dewed â chroen y behemoth. Ond, meddwch wrthyf, "I ba beth yr ymdrafferthwn i wneud gwaith gwych, os cawn gymaint o arian a chlod am wneud gwaith gwael? Pe siaradem yn gryno, byddai'n rhaid inni wthio cnawd ac esgyrn hanner cant o'r pregethau sydd gennym yn awr i groen un. Ped ysgrifennem yn olau, nid ymddangosai'n hysgrifeniadau mor ddwfn o lawer. Pe traethem ein meddyliau'n hoyw, nid ystyrid hwynt mor drymion; canys y mae hi'n dyb gyffredin fod cysylltiad agos rhwng y trymllyd a'r trwm. Pe rhoddem fin main, disglair, ar ein brawddegau, ni chyfrifid hwynt gan y rhan fwyaf mor bwysig, oblegid cyfrifa llawer y pŵl a'r pwysig yn gymdeithion. Pe siaradem Gymraeg yn Gymreigaidd, byddai perygl i'n gwrandawyr feddwl nad ŷm yn hyddysg yn y Saesneg, ac na buom erioed mewn athrofa'n dysgu egwyddorion Groeg a Lladin. Yn sicr, ni fynnech ein gweled ni, blant y colegau, ac etifeddion y B.A., yr M.A., y Ph.D., a'r D.D., yn ymostwng i bregethu yn arddull Feiblaidd Daniel Rowlands, ac eraill o bregethwyr amseroedd yr anwybodaeth'!"

Wel, mi welaf eich bod yn rhy gall i fod yn ddoeth, yn rhy gyfrwys i fod yn gydwybodus, ac yn rhy grachddysgedig i fod yn ddysgadwy; ond cyn ysgwyd y llwch oddi wrth fy esgidiau, gwnaf un ymdrech yn rhagor i gael gennych ddysgu'r prifair bod, mewn un neu ddau o'r amserau, ac yna byddaf yn lân oddi wrth eich gwaed.

Yr Amser Gorffennol

Bûm, Buost, Bu.
Buom, Buoch, Buont (neu Buant).

Yr Amser Tragorffennol

Buaswn, Buasud (neu-it), Buasai.
Buasem, Buasech, Buasent.

Yr un ffunud y dylid treiglo bod pan fyddo'n rhan ôl gair cyfansawdd. Felly, dyma'r ffurfiau a ddylid eu harfer yn lle'r rhai sydd yn nechrau'r paragraff—cenfydd, cyfarfüm, adnabu, darganfuom (neu darganfuasom), etc.

A ddarlleno, ystyried,
A ystyrio, cofied,
A gofio, gwnaed.

Ydwyf, etc.,


—ATHRO.

DARN O'R GWERSI I YSGRIFENWYR A SIARADWYR
IEUAINC," ALLAN O'R "Faner", TACHWEDD 17, 1880.

Gwych gennyf i fod cynifer o wŷr ieuainc dysgedicaf Cymru er ys talm bellach yn ymroi i ddysgu iaith ac i ddarllen hen lyfrau eu gwlad, a bod nifer y coegion sy'n meddwl y medrant lefaru a sgrifennu yn eu hiaith eu hunain heb ymdrafferthu i'w hastudio, yn myned yn lleilai o flwyddyn i flwyddyn. Oni buasai am yr ysbryd arall a gwell a ddaeth yn ddiweddar ar ein dysgawdwyr, diau yr aethai Cymraeg y wasg a Chymraeg y pulpud cyn hir yn iaith farbaraidd, annheilwng o genedl ddiwylliedig. Pan elo iaith yn sâl, y mae hi'n barod i farw; a phan elo hi'n rhy wael i fod yn addas i bob rhyw berwyl, gorau po gyntaf y bo hi farw. Yng ngenau y rhan fwyaf o bregethwyr ac yn llaw y rhan fwyaf o sgrifenwyr y dyddiau hyn, y mae'r Gymraeg yn iaith dlawd iawn: yn brin ei geiriau ac yn aflêr ei brawddegau. Yn wir, ni chawsai dynion mor anhyddysg yn eu priod iaith ddim cyfle i addysgu eraill mewn un wlad arall ar y ddaear. Ond yn llaw gwŷr cyfarwydd, bu'r Gymraeg bob amser yn ddigonol i bob peth ar a ofynnid ganddi. A drowyd y Beibl i ryw iaith yn well nag y'i trowyd i'n hiaith ni? A oedd yn Ewrop, yn yr Oesoedd Canol, rywrai'n medru chwedleua'n rhagorach na chwedleuwyr Cymru? A sgrifennodd un Sais neu un Ffrancwr yn fwy hoyw na Morus Kyffin a Theophilus Evans? yn fwy cryno nag Elis Wynn? yn fwy cyfareddol na Morgan Llwyd? ac yn fwy dichlyn na'r caplan brenhinol John Evans, A.M.? A fynegodd rhyw emynydd wahanol deimladau'r dyn duwiol yn gystal â Williams, sef Williams Fawr o Bantycelyn? A welodd llygad, a glywodd clust, ac a ddychmygodd calon dyn, rywbeth na allai meistr o feddyliwr neu feistr o ysgolhaig ei draethu a'i ddarlunio yn y Gymraeg yn llawn cystal ag mewn un iaith arall? Dynion tlawd eu hunain sy'n cwyno bod y Gymraeg yn dlawd. Golud y Gymraeg, ac nid ei thlodi, fydd yn gyrru penbleth ar y gŵr cyfarwydd. Nid gofyn "Pa air a gaf?" fydd hwn, eithr "Pa air a ddewisaf o blith cynifer o eiriau gogyfystyr?"

Ys gwir nad oes neb yn yr oes hon a fedr droi Gwladwriaeth Plato neu Fucheddau Plutarch i gystal Cymraeg ag y trowyd y Beibl iddo; ond arnom ni, ac nid ar ein hiaith, y mae'r bai am hynny. Pe na buasai llenorion gwir ysgolheigaidd o fath yr Esgob Morgan, yr Esgob Parry, yr Esgob Richard Davies, a'r Dr. John Davies, wedi darfod o'r tir yn Oesoedd Tywyll yr Eglwys Sefydledig ac yn ystod rhwysg Anghydffurfiaeth dra gwerinaidd, buasai'r Gymraeg erbyn hyn yn iaith grynhoach ac ystwythach nag ydoedd hi hyd yn oed yn amser y cedyrn hynny. Diau gan hynny y buasai gennym ddigon o wŷr a allasai ddiwygio llawer ar gyfieithiad diwygiedig y Dr. Parry, heb fod neb yn ein plith yn ddigon anllythrennog i'w farbareiddio yn ôl dull pob esboniwr diweddar oddieithr y Parch. Puleston Jones.<ref>Er bod iaith y gŵr dawnus hwn weithiau'n rhy werinaidd i fod yn urddasol, eto nid oes neb byw a chanddo well syniad nag ef am anian (genius) y Gymraeg. "'Does dim dwywaith," chwedl yntau, am hyn.—E. ap I.

Gwell yw crynhoder na byrder: am fod y cryno yn cynnwys pob gair y mae'n rhaid wrtho. Sgrifenwyr chwanocaf i ymwrthod â geiriau rheidiol yw'r rhai chwanocaf i arferyd geiriau afreidiol.

Y mae llawer o Gymry yn sgrifennu'n anghywir o wybod tipyn o Saesneg, a dim o un iaith estronol arall. Pan gaffont well a helaethach addysg diau y byddant yn well Cymreigwyr. Onid y Cymry mwyaf hyddysg yn ieithoedd a llên cenhedloedd eraill fu'r Cymreigwyr gorau ymhob oes?

Os cas gan rywun ddechrau rhes o ymadroddion ag y mae, gwybydded fod llawer ffordd amgenach i osgoi hynny na thrwy arferyd ffurf yr amser dyfodol yn lle'r amser presennol. Onid yw dechrau agos pob brawddeg â rhyw ferf yn gwneud y brawddegau mor bŵl â phe baid yn dechrau pob un ohonynt ag un o ffurfiau presennol y ferf bod? Pa Gymro bynnag sy'n ymadroddi yn rhy unffurf, arno ef ei hun, ac nid ar y Gymraeg, y mae'r bai. Fel y bydd meddwl dyn, felly yn union y bydd ei iaith a'i arddull. Os bydd min ar ei feddwl, bydd min ar ei iaith hefyd; os bydd amrywiaeth yn ei feddyliau, bydd amrywiaeth yn ei ymadroddion hefyd. Yr oedd yn syn gan Ruskin fod Shakespeare yn medru barddoni mor dda mewn iaith mor anfarddonol â'r Saesneg. Nid oedd raid iddo synnu dim—ymdrŷ pob rhyw wialen yn hudlath yn llaw swynwr.

Rhag i neb feddwl nad yw rydd i Gymro arferyd yr amser dyfodol yn fynychach na'r Sais, dylwn ddywedyd ei bod yn briodol iddo arferyd ffurf yr amser dyfodol nid yn unig am bethau a fydd, ond hefyd am bethau a all fod, sy raid eu bod, ac a ddylai fod; ie, ei bod yn briodol iddo arferyd y ffurf honno pa bryd bynnag y byddo'r hyn sydd wir yn yr amser y sydd, yn wir yn yr amser a fydd hefyd. Fe wêl y neb a gofio hyn nad yw cyfieithwyr y Beibl Cymraeg wrth arferyd berf yn yr amser dyfodol, lle y mae'r cyfieithwyr Saesneg yn arferyd berf yn yr amser presennol, ddim yn myned yn erbyn yr arfer gyffredin mor fynych ag yr ydys yn tybied eu bod. O ran hynny, onid oedd y Saeson eu hunain, pan gyfieithwyd y Beibl, yn gwneud mwy o ddefnydd o'r amser dyfodol, a llai o'r amser presennol, nag y maent yn ei wneud yn yr oes hon? Fel y mae'r Sais yn chwannog i wneud eiddo cenhedloedd eraill yn eiddo iddo'i hun, felly y mae'n naturiol iddo chwenychu gwneud pob amser yn eiddo iddo'i hun, trwy ei droi i'r amser presennol. Pe bai'r Sais yn byw mwy yn y dyfodol, a'r Cymro yn byw mwy yn y presennol, byddai'r naill a'r llall yn fwy o feistr ar amserau y ferf. Trwy ddysgu tipyn gan ei gilydd, odid na fedr y ddau yn y man sgrifennu mor rhesymegol â Ffrancwr.

Ceir Cymraeg o'r math gorau yn ein Beibl ni, a cheir ynddo lawer o Gymraeg gwneuthur hefyd. Ein doethineb ni yn y dyddiau hyn yw dewis y Cymraeg da sydd ynddo, a gwrthod y llall. Edward James, Elis Wynn, Charles Edwards, John Evans, a Morgan Llwyd, yw'r awduron sy'n cydymffurfio lwyraf ag arfer y bobl wrth drin y berfau.

DARNAU O'R GWELLA GWALLAU . . ‚" ALLAN O'R Geninen, 1901—2.

Nodiadau

[golygu]