Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II/Dyfynion o'r "Pamphlet des Pamphlets"
| ← Paul-Louis Courier | Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II gan Robert Ambrose Jones (Emrys ap Iwan) |
Nodiadau Darlith ar Nodweddion y Ffrancwyr → |
DYFYNION O'R "PAMPHLET DES PAMPHLETS "
Tra oeddid yn fy holi yn y préfecture de police ynghylch fy enw, fy nghynenwau, a'm galwedigaeth, daeth un o'r presenolion ataf; ac er ei fod yn ddieithr a di-swydd, gofynnodd im yn gyfeillaidd a diddefod ai myfi oedd awdur rhyw bamffledau? Ymddifferais innau'n bybyr.
'Ha! Syr (meddai yntau wrthyf), yr ydych yn awenydd mawr—yr ydych yn ddihafal.'
Parodd yr ymadrodd hwn imi atgofio ffaith hanesiol bur anhysbys, a adroddaf ichwi megis rhwng cromfachau.
Yr oeddwn yn bwyta efo'm cydymaith Duroc, a oedd yn lletya y pryd hwnnw, eithr er ys ennyd bach, sylwch, yn ystafelloedd isaf hen dŷ hyll tros ben, yn ôl fy nhyb i, rhwng buarth a gardd. Yr oedd amryw ohonom wrth y bwrdd yn llawen ac yn brysur pan ddaeth i mewn, yn gwbl ddirybudd, ein camrad Bonaparte, perchennog newydd yr hen dŷ, a chyfaneddwr y llofft isaf. Fel cymydog yr oedd yn dyfod; ac fe'n synnodd y cyweithaster hwn yn gymaint fel na wyddai neb o'r gwesteion pa beth i'w wneud. Codasom oll, a gofynasom 'Pa beth sydd yn bod?' Parodd y gwron inni adeistedd. Nid oedd ef yn gyfryw gydymaith ag y gallech ddywedyd wrtho, Eistedd, a bwyta efo ni. Buasai hynny'n gweddu'n burion cyn prynu ohono'r hen dŷ. Yr oedd yn ein golygu o'i sefyll, ac yn cerdded yn ôl ac ymlaen, heb wybod yn iawn pa beth i'w ddywedyd.
'Ai artichokes sydd gennych yna?'
'Ie, gadlywydd.'
'Yr ydych chwi, Rapp, yn eu bwyta efog olew, onid ydych? '
'Ydwyf, gadlywydd.'
'A chwithau, Savary, efo sibr.[1] Efo halen y byddaf i yn eu bwyta.'
'Ha! gadlywydd!' meddai'r hwn a elwid y pryd hwnnw Savary, 'dyn mawr ydych chwi; yr ydych yn ddihafal.'
Adroddais yr hanesyn hwn fel y gweloch, fy nghyfeillion, ddarfod fy nhrin innau fel Bonaparte, a hynny am yr un rhesymau. Nid er dim yr oeddid yn gwenieithio i'r consul; a phan oedd y gŵr da hwn hefyd, efo'i eiriau teg, yn fy nghanmol mor anfeidrol nes peri imi yswilio, gan fy ngalw'n ddyn digymar ac aneiluniadwy, yr oedd ganddo ei ddiben, fel y dywedwyd wrthyf ar ôl hynny gan wŷr a'i hedwyn. Mynnai ef dynnu rhywbeth ohonof ar fedr fy nghanmol ar fy nhraul fy hun; ond ni wn a foddlonwyd ef. Ar ôl llawer o ymadroddion a llawer o holion, a atebais cystal ag y gellais, ef a ddywedodd wrthyf wrth ymadael:
'Syr, gwrandewch arnaf, credwch fi, arferwch eich awen fawr i wneud rhywbeth amgenach na phamffledau.'
Myfyriais ar hyn, a chofiais ddarfod yn flaenorol i Meistr de Broë, gŵr huawdl, brwd o blaid moesau da, fy nghynghori'n gyffelyb, mewn geiriau llai gwenieithus, ger bron y brawdlys. Gan droi ataf, a gwneud ysgogiad areithegol o'r gwychaf, ef a'm cyfarchodd fel hyn: Bamffledwr brwnt, etc.!' Ergyd taran—na, ergyd pastwn, ac ystyried arddull yr areithiwr, â'r hon y'm tarawodd i lawr yn anaele. Cododd y gair hwn yn fy erbyn y barnwyr, y tystion, y rheithwyr, y gynulleidfa; ie, ymddangosai fy amddiffynnwr ei hun wedi ei derfysgu. Fe'm condemniwyd ym marn pawb o'r munud y'm galwodd swyddog y brenin yn bamffledwr, ac ni allwn innau wadu na wneuthum yr hyn a elwir yn bamffled. Yr oeddwn felly yn bamffledwr yn ôl fy marn fy hun; ac wrth weld y dychryn a barodd y fath enw i'r presenolion, cythruddais a chywilyddiais.
Wedi myned allan oddi yno, cefais fy hun ar y grisiau, yn ochr Meistr Arthus Bertrand, llyfrwerthwr, un o'm rheithwyr, yr hwn oedd yn myned i giniawa, wedi fy nghyhoeddi'n euog. Cyferchais well iddo; fe'm harfollodd yntau, canys dyn diddichell odiaeth yw e'. Ac ar y ffordd, erfyniais arno ddywedyd wrthyf pa beth oedd yn ymddangos iddo ef yn senadwy yn y Discours a gondemniasid.
'Ni ddarllenais mohono (meddai yntau wrthyf); eithr pamffled ydyw, ac y mae hynny'n ddigon i mi.'
Yna gofynnais iddo pa beth ydoedd pamffled, ac ystyr y gair, gan ei fod i mi yn lled aneglur, er nad yn ddieithr. Eb yntau:
'Un neu ddwy ddalen argraffedig ydyw, fel yr eiddoch chwi.'
'Ai pamffled fyddai tair dalen?' ebe finnau. 'Ef allai (meddai yntau), yn ôl y farn gyffredin; ond a siarad yn fanwl, un ddalen yn unig sydd i bamffled. Gwna dwy neu chwaneg ohonynt lyfryn.'
'Beth am ddeg dalen? pymtheg dalen? ugain dalen?'
'Gwnânt gyfrol (meddai yntau)—gwaith.'
'Ar eich anrhydedd a'ch cydwybod, Meistr Arthus Bertrand, gan eich bod yn rheithiwr, pa un ai pamffled ai llyfryn ydyw'r dalenaid a hanner a wneuthum i?'
'Pamffled (meddai yntau)—pamffled yn ddiddadl.'
Yr wyf i felly yn bamffledwr?'
'Ni fynaswn ddywedyd hynny wrthych, o barch, o dynerwch, o dosturi; ond dyna'r gwir. Er hynny (eb ef ymhellach), os edifarhewch, maddeuir ichwi yn y byd arall. Ewch, fy annwyl Syr, ac na phechwch mwyach. Ewch i garchar Sainte—Pélagie.' Fel yna y'm cysurai. 'Syr (meddwn wrtho), un gofyniad eto, os gwelwch yn dda.'
'Dau (meddai yntau), a chwaneg, a chynifer ag a fynnoch hyd bedwar ar gloch; yr hwn, debygaf, sydd ar daro.'
'O'r gorau, dyma fy ngofyniad:—Pe bawn, yn lle pamffled ar dreth Chambord, wedi gwneuthur cyfrol neu waith, a ddyfarnasech chwi e'?'
'Yn ôl yr amgylchiadau.'
'Yr wyf yn deall. Fe'i darllenasech yn gyntaf er mwyn gweled a fuasai'n ddyfarnadwy?'
'Fe'i harchwiliaswn yn ddiau.'
'Eithr ni fyddwch yn darllen pamffled?'
'Na fyddaf, canys ni all pamffled fod yn dda. Nid yw pamffled amgen nag ysgrif lawn o wenwyn?'
'O wenwyn?
'Ie, Syr, o'r ffieiddiaf hefyd. Pe amgen, nis darllenid. Y mae dynion yn gyfryw fel y carant wenwyn ymhopeth a argraffer. Er enghraifft, ni wn i, ac nid wyf yn ewyllysio gwybod dim am eich pamffled a gondemniwyd gennym. Eithr gwn hyn y mae'r byd yn ei ddarllen, ac am hynny rhaid fod gwenwyn ynddo. Dywedodd dadleuwr y brenin hynny wrthym, ac nid oeddwn innau yn ei amau. Deellwch mai'r gwenwyn sydd mewn ysgrifeniadau o'r fath yma a gondemnir gan yr awdurdodau. Canys mewn ystyr arall y mae'r wasg yn rhydd. Argreffwch, cyhoeddwch yr hyn a fynnoch—eithr nid gwenwyn!'
Ar ôl gwneud ychydig sylwadau ar hyn rhyngof a mi fy hun, dywedais: Yn ddiau, Syr, nid yw gwenwyn yn dda i ddim; a da y gwneir yn atal ei werthiant. Eithr y mae'n rhyfedd gennyf fod y bobl, yn ôl eich tystiolaeth chwi, yn ei garu gymaint. Y mae hynny yn ddiddadl am fod mewn pamffledau rywbeth amgenach na gwenwyn.'
'Dim ond ffregod, coegiaith, a chellwair. Pa faint, fy annwyl Syr, pa faint o synnwyr a ddichon dalen fach ei gynnwys? Pa feddyliau, pa ideon, a ellir eu datblygu arni? Mewn gweithoedd rhesymiadol, braidd y gellir gweled—ie, yn y chweched gyfrol at ba beth y mae'r awdur yn cyfeirio.' 'Ni ddichon dalen, yn wir (meddwn innau), gynnwys llawer.'
'Dim â gwerth ynddo (meddai yntau); ac am hynny, ni fyddaf i'n darllen dim un.'
"Ni fyddwch, felly, yn darllen gorchmynion Arglwydd Esgob Troyes ynghylch y Grawys a'r Adfent?
'O! y mae hynny'n beth pur wahanol!'
'Na chylch-lythyrau Toulouse ar uchafiaeth y pab?'
'O! peth arall yw hynny.'
'Felly, yn ôl eich barn chwi, gall ambell lyfryn —gall dalen unig. . .'
'Ffach! na soniwch wrthyf amdanynt. Wfft i lenoriaeth, i'r oes, ac i'r genedl, fod y fath ffiloregau haerllug yn cael eu hysgrifennu, eu hargraffu, a'u darllen.'
'Syr (meddwn innau wrtho), beth am Lettres provinciales Pascal?'
'O! llyfr ardderchog, campwaith ein hiaith!' 'O'r gorau, nid yw'r campwaith ardderchog hwn yn ddim amgen na phamffledau, na dalennau a ymddangosodd . . .'
Arhoswch y mae gennyf fy syniadau am hynny. Fel yr wyf yn anrhydeddu'r gweithoedd mawr a wnaed i barhau am oesoedd, felly yr wyf yn dirmygu ac yn ffieiddio'r mân ysgrifau byrhoedlog, y papurau sy'n myned o law i law, ac yn llefaru wrth bobl y pryd hwn am bethau'r pryd hwn. Ni allaf oddef pamffledau.'
Ac eto y mae'n hoff gennych y Provinciales—y mân lythyrau fel y'u gelwid gynt pan oeddynt yn hedeg o law i law?'
‘Yn wir (meddai yntau ymhellach, heb gymryd arno fy nghlywed), y mae'n syn gennyf eich bod chwi, sy'n ddyn addysgedig, ac wedi'ch arfaethu i fod yn rhywbeth yn y byd, yn ymddarostwng i wneuthur pamffledau! Pe baech yn gyfrifwr, yn geidwad carchar, neu yn gendarme, cyrhaeddech sefyllfa anrhydeddus; canys pwy a'ch lluddiai i fyned, yn y man, yn farwn, fel rhywun arall?'
'Nid oedd Blaise Pascal (meddwn innau) nac yn geidwad carchar, nac yn geidwad trefn, nac yn swyddog i Meistr Franchet.
Ust! Lleferwch yn is, canys gall ef ein clywed.' 'Pwy?'
"Yr abad Franchet.'
Ai tybed ei fod mor agos atom?'
'Syr, y mae ef ym mhob man. Dyma bedwar ar gloch; eich ufudd was.'
'Minnau yr eiddoch chwithau.'
Fe'm gadawodd, ac aeth ymaith ar redeg.
Y mae hyn, fy annwyl gyfeillion, yn haeddu ystyriaeth; tri gŵr mor ragorol, sef Meistr Arthus Bertrand, Meistr Franchet, a Meistr de Broë, gŵr hynod ei wybodaeth a'i urddas—dyma dri gŵr da yn elynion i bamffledau. Cewch weled llawer eraill, ac o'r gymdeithas orau, yn twyllo cyfaill, yn celwyddu, yn bradychu, yn torri amod; ac eto byddai'n gywilyddus ganddynt fod wedi dywedyd y gwir mewn ysgrif bymtheg dalen; canys yn yr ychydig y mae'r drwg i gyd. Gwnewch bymtheg o ddalennau, dyna chwi'n bamffledwr—a gwyliwch rhag Sainte-Pélagie! Gwnewch bymtheg cant, fe'ch cyflwynir i'r brenin. Cymysgir rhyw gymaint o wenwyn â phob peth a argreffir; a pho leiaf y llyfr, cryfaf oll fydd y gwenwyn. Y mae mymryn o halen morphin yn ymgolli mewn celyrnaid, fel na chlywir dim oddi wrtho; ond yn peri cyfog mewn cwpanaid, yn lladd mewn llwyaid—a chyfryw beth yw pamffled!
Nodiadau
[golygu]- ↑ Gair Emrys ap Iwan am 'saws.'—Gol.