Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II/Gwersi i Sgrifenwyr a Siaradwyr Ieuainc
| ← Llenyddiaeth Gymraeg y Cymry Gynt | Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II gan Robert Ambrose Jones (Emrys ap Iwan) |
Plicio Gwallt yr Hanner Cymry → |
GWERSI I SGRIFENWYR A SIARADWYR IEUAINC
ANNWYL DDISGYBLION,
Talm o amser yn ôl dinoethais a chywirais liaws o ymadroddion anghymreigaidd a welswn ac a glywswn. Ag arddull yr ymdriniaf ychydig y waith hon.
Gwybyddwch y dichon i'ch arddull fod yn wrthun, er i'ch geiriau fod yn gymeradwy, ac er i'ch ymadroddion fod yn Gymreigaidd. Ni chanmolwn nemor arnoch pe dywedwn yn unig fod gennych Gymraeg da, neu Saesneg da; am fod yn hawdd cael hyd i eiriau a phriodebion mewn geiriadur a gramadeg. Ond rhown glod mawr ichwi pe dywedwn fod gennych arddull da; canys byddwn wrth hynny yn rhoi ar ddeall fod gennych ragoriaethau meddyliol cynhenid a chyraeddedig, nad ŷnt gan y rhan fwyaf. Pan na bo iaith ddim ond math o wisg symudliw o amgylch rhith o feddwl, nid cymwys ei galw'n arddull. Rhaid iddi fod yn hytrach megis corff, sy'n cyd-hanfod, yn cyd-fod, yn cyd-dyfu, ac yn cyd-oberu â'r enaid. Yn wir, bu Buffon yn hyfach na Wordsworth, canys dywedodd, "Y dull, y dyn yw."
Gall llawer sgrifennu'n dlws heb fod ganddynt ddim arddull. Yn wir, y mae tlysni, oni bydd yn dlysni tra rhagorol, yn cau allan bob neilltuolrwydd. Fel nad yw wyneb teg odid byth yn wyneb hynod, ac nad yw dyn hawddgar gan bawb odid byth yn ddyn ar ei ben ei hun, felly hefyd nid yw sgrifennwr tlws odid byth yn un ag arddull ganddo. Nid yn y lliw a rodder ar feddyliau, eithr yn eu lluniad, eu cyflead, a'u cymhlethiad, y canfyddir arddull awdur. Genir rhai i saernïo, ac eraill i addurno: ac y mae'r lliwiwr, ysywaeth, yn tynnu mwy o sylw na'r lluniwr. Y mae arddull yn sefyll yn hytrach ar nawd neu anian dyn nag ar ei allu, ac felly yn dyfod yn hytrach o'i galon nag o'i ben. Yr oedd Charles o'r Bala yn sgrifennwr golau, a gweddol gywir hefyd, er gwaethaf ei aw-iau yn rhagymadrawdd," canawl," "párawd," agaws, diwigiaw," etc.; ond nid oedd ganddo arddull, a hynny o achos nad oedd dim hynodrwydd yn ei gymeriad ef.[1] Ond y mae gan yr hen Charles Edwards arddull, ac y mae gan Morgan Llwyd hefyd un; yn wir, y mae pob un o'n prif awduron mor nodedig am ei arddull ag ydyw am ei Gymraeg. Y mae gan y Ffrancwyr fwy o sgrifenwyr medrus nag sy gan un genedl arall; er hynny, gan ychydig ohonynt y mae arddull, a hynny am fod i'w hiaith hwy arddull. Po fwyaf diarddull y bo iaith gwlad, hawsaf oll yw i bobl y wlad honno sgrifennu mewn arddull neilltuol. Diolchodd un awdur Ellmynig am fod yr Ellmyneg heb arddull ("Die Deutsche Sprache hat der Himmel sei dafür gepriesen-keinen Styl, sondern alle mögliche Freiheit"). Y mae'n rhyfedd na fyddai gan chwaneg o sgrifenwyr Cymraeg arddull, a'u hiaith hwythau mor ddiarddull: ac nid oes achos iddynt hwy, fel Carlyle, redeg yn y gwddf i amau eu hiaith, a throseddu ei rheolau, er mwyn sgrifennu'n wahanol i'w cydwladwyr, ac yn debyg i ryw Richter estronol. Yn wir, y rhai sy'n cadw deddfau'r Gymraeg fanylaf sy'n sgrifennu ryddaf, a hwynt-hwy sy'n sgrifennu annhebycaf i'w gilydd. Y mae i'r Saesneg hefyd ei harddull, er nad i'r un mesur â'r Ffrangeg. Iaith unffurf, anhyblyg yw hithau; ac y mae'n rhyfedd pa fodd y medrodd Shakespeare ac ychydig eraill ystumio digon arni i'w chymhwyso i fynegi eu meddyliau a'u teimladau. Y mae chwaredau'r Sais Shakespeare, a llythyrau'r Ffrancwr Pascal, yn profi bod awen (genius) yn gallu gorfod ar waelder iaith. Pa orchest a wnâi Cymro pe buasai ganddo feddwl un o'r ddau hyn? Neu pa orchest a wnâi'r ddau hyn pe buasai ganddynt iaith ystwyth o fath y Sbaeneg, yr Italeg, yr Ellmyneg, neu'r Gymraeg? "Y Gymraeg!" meddwch. Ie, y Gymraeg; canys gellir profi, cyn hawsed ag y gellir profi y gwna dau a dau bedwar, ei bod hi, o ran ystwythder, yn rhagori ar y tair iaith a enwais gyda hi. Ac os y hi ydyw'r iaith ystwythaf o'r ieithoedd gwybyddus, yna y hi ydyw'r iaith fanylaf—yng ngenau meddyliwr manwl, bid sicr; canys y mae manylder yn cydfyned ag ystwythder, ie, yn gorffwys arno.
Gan fy mod yn addysgu megis mewn dosbarth, ac nid mewn cynulleidfa, y mae'n rhydd imi wyro ychydig ymhellach oddi ar ganol fy llwybr, er mwyn gwneud y sylw ymarferol hwn:—Wrth ystyried teithi'r Gymraeg, a theithi meddwl y rhai sy'n ei siarad, yr wyf yn credu y byddai'n haws i'r Cymry ragori fel athronyddion nag fel beirdd. Ond rhaid addef bod un peth yn ôl iddynt tuag at fod yn athronyddion gwych, sef y gallu i gymryd poen. Felly, er mwyn ymenwogi, heb boen a heb ddysg, y maent hwy yn myned yn feirdd, neu'n hytrach yn brydyddion, gan ganu i'w cariadon ac i'r lleuad! Ceisiodd Henry Taine yn ei Littérature Anglaise ddangos paham na fagodd y Saeson neb o'r math hwnnw o athronyddion yr ydys yn eu galw'n fetaffysegwyr. Diau mai'r rheswm a roes ef ydyw'r un cryfaf; ond nid rheswm gwan fuasai hyn chwaith, sef nad yw iaith y Saeson ddim yn ddigon manwl i alluogi dyn i draethu, na hyd yn oed i synio'n olau, am y pethau a alwai'r hen Gymry yn el ac elf. Ond nid yw'r diffyg hwnnw ar y Gymraeg, pa ddiffyg bynnag arall a fo arni.
Dychwelaf yn awr at y peth y gwyrais oddi wrtho. Y mae arddull da o ran yn ddawn, ac o ran yn gaffaeliad. Dir yw fod llawer math o arddull da; canys bydd pobl yn sôn am arddull Junius, arddull Swift, arddull Bunyan, ac arddull Hooker. Er hynny, y mae rhai teithi cyffredinol y sy'n gweddu i bob math o arddull, megis coethder, manylder, eglurder, priodoldeb, a naturioldeb. Y mae rheolau gramadeg yn neilltuol ac yn bendant, ac am hynny yn hawdd eu hamgyffred a'u cadw; ond ni ellir amgyffred rheolau chwaeth heb feddu chwaeth. O ba herwydd, y mae'n anodd mynegi'n benodol pa fodd y gellwch fod yn goeth, neu'n briodol, neu'n naturiol eich arddull. Bydd y cyngor hwn, ond odid, yn fuddiolach na rheol i chwi y sy'n ieuanc:—Dyfal ddarllenwch yr hen sgrifeniadau gorau yn eich iaith eich hun ac yn yr iaith Saesneg; ac os medrwch ddysgu'r Ffrangeg mor rhwydd ag y medr ambell goegyn o Gymro anghofio'i Gymraeg, yna cymdeithaswch â Pascal a Paul-Louis Courier; canys hwynt—hwy, ym marn gwŷr cyfarwydd, ydyw'r arddullwyr gorau o bawb yn yr oesoedd diwethaf. Dylwn eich rhybuddio y byddwch yn fwy anfoddog nag erioed ar ôl gwneud fy nghyngor; canys bydd yn flin gennych ddarllen a gwrando llawer o bethau yr ŷch yn ymhyfrydu ynddynt ar hyn o bryd.
Mi enwais symledd a chrynoder ymhlith yr ansoddau sy'n perthyn i arddull da, am fy mod yn bwrw bod pob un o'r rhai a enwais yn cynnwys y ddau hyn, ac yn cau allan bob peth gwrthwyneb iddynt. Er enghraifft, ni ddichon dim fod yn goeth, nac yn briodol, nac yn naturiol, oni bydd hefyd yn syml ac yn gryno. Ond y mae'n fwy angenrheidiol ichwi fod yn gryno—yn awgrymus, o'r hyn lleiaf—wrth sgrifennu nag wrth lefaru. Ped ymdrown i ddywedyd paham, fe beidiwn â bod yn awgrymus fy hun. Os dyfalasoch fy rhesymau, nid wyf yn neidio dim wrth ddyfod i'r casgliad hwn: sef mai ychydig o bethau ar a baratowyd i'w gwrando sy'n deilwng i'w darllen. Dichon y daw amser pryd y medr gwrandawyr eich deall yn llefaru mewn awgrymau a thrwy amneidiau, ac y bydd yn ddiogel i chwithau redeg at y Therefore heb aros gyda'r In-as-much.
Cyffyrddaf—a chyffwrdd yn unig a wnaf—â rhai o'r anhepgorion a enwais. Na fydded i chwi a wneloch â'r naturioldeb isel y sy'n taro'n erbyn coethder. Ni ddylech ddilyn natur ond yn unig lle bo natur yn haeddu ei dilyn. Credwch na fedrwch wneud dim yn berffaith naturiol heb ei lwyr ddysgu, canys nid chwarae â geiriau y byddaf wrth ddywedyd nad oes dim yn fwy naturiol i ddyn na bod yn annaturiol.
Mewn priodoldeb, ysgatfydd, yr ŷch yn pallu fwyaf; am hynny, edrychwch yn ddyfal ar fod mynegiad pob meddwl yn gwbl gyfaddas i'r cyfryw feddwl. Na thraethwch feddyliau ychyd yn iaith nwyfus John Wilson neu Kilsby Jones. Os mynnwch wybod a oes gwerth mewn rhyw feddwl, mynegwch ef yn yr iaith fwyaf diaddurn. Os na bydd pryd na thegwch iddo yn noethlymun, nid gwiw fydd ei addurno â blodau ac â rhubanau. Nac arferwch ddau neu chwaneg o gydenwau (adjectives) gogyfystyr—na chymaint ag un, oni bydd yn rhaid wrtho. Diffyg chwaeth, a phrinder geiriau, ydyw'r achos bod dynion yn arferyd gormod o eiriau; canys o fethu â dyfod o hyd i'r unig air cymwys, bydd gorfod arnynt ymfoddloni ar amryw o eiriau anghymwys. Na'ch temtier chwaith i bentyrru cyffelybiaethau, megis "cof fel uffern," "safn fel dôr dragwyddoldeb," "yn ddiffaith a digysgod fel traeth y tragwyddol fyd." Nid yw "feliau" o'r fath yn ddim amgen na chydenwau a goreiriau gorgryf i guddio gwendid meddyliol. Nid rhaid wrth ddim awen i lunio cant ohonynt mewn munud awr.
Heblaw hynny, fe'ch ceidw'r teimlad o briodoldeb rhag arferyd y cast hwn: sef traws-gyfleu geiriau heb achos, a heb ddiben amgenach na gyrru syndod ar annoethion. Gellwch fod yn "ddoniol" odiaeth heb alw'r Werddon yn " Werdd Ynys," a byd arall yn "arall fyd."
Dylai pob gair a arferoch fod fel saeth a ollynger oddi ar fwa un celfydd, ac nid yn farcutan papur a gyhwfaner yn yr awyr i ddifyrru plant. Y mae grym yn y gair a ddyweder i berwyl, pa un bynnag ai o'r nef ai o'r ddaear y byddo; canys "efe a wna yr hyn a fynnoch, ac a lwydda yn y peth yr anfonasoch ef o'i blegid."
Nodiadau
[golygu]- ↑ Diau fod llawer o'r atebion sydd yn Yr Hyfforddwr mewn iaith urddasol, ond y maent hwy felly am eu bod wedi eu cymryd o Gatecism Eglwys Loegr, ac o'r Homiliau, naill ai'n uniongyrchol, neu ynteu'n anuniongyrchol trwy Gatecism Griffith Jones.—E. ap I.