Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II/Llenyddiaeth Gymraeg y Cymry Gynt
| ← Cymraeg y Pregethwr | Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II gan Robert Ambrose Jones (Emrys ap Iwan) |
Gwersi i Sgrifenwyr a Siaradwyr Ieuainc → |
LLENYDDIAETH GREFYDDOL Y CYMRY GYNT
I'w gwrando ac nid i'w darllen y darparwyd y sylwadau hyn; ac yr wyf yn eu cyhoeddi yn unig rhag dibrisio penderfyniad caredig Penadur ac astudwyr Coleg Diwinyddol y Bala.—E. AP I.
Er bod llenyddiaeth yn un a diwahân, ac iddi'r un egwyddorion ymhob cylch, eto fe ddywedir er mwyn cyfleustra ei bod naill ai'n grefyddol neu ynteu'n gyffredin—yn gyffredin, meddaf, ond nid yn aflan; am fod pa beth bynnag sydd wrthun ym meddyliau ysgrifenedig dyn yn annheilwng i'w alw'n llenyddiaeth. Y mae llenyddiaeth gyffredin yn dda am ei bod yn darparu ar gyfer yr enaid; y mae llenyddiaeth grefyddol yn well o lawer am ei bod hi'n darparu ar gyfer yr ysbryd hefyd. Y mae'r gair "llenyddiaeth" ynddo'i hun agos ymhob iaith hysbys yn golygu gwybodaeth deg, neu ddysgeidiaeth gain; a pha beth bynnag nad yw wir, nad yw onest, nad yw bur, nid yw hwnnw yn deg chwaith. Yr un gair, meddant hwy, oedd gan y Groegiaid am y teg ac am y da; a gair go gyffelyb i "deg", sef "disgleirdeb", ydyw ystyr y gair "da" yn y Gymraeg hefyd. Fe wnaeth yr hen Ymneilltuwyr, yn ddiau, lawer iawn tuag at ddyrchafu crefydd ysbrydol yn y wlad hon; ond rhaid addef eu bod wedi peri niwed nid ychydig i chwaeth y bobl wrth wahanu'r da oddi wrth y teg, neu'r buddiol oddi wrth y prydferth. Yr oeddynt yn sôn llawer am santeiddrwydd; ond ychydig am ""brydferthwch" santeiddrwydd." Hyd yn oed yn awr, y mae'n well gan lawer ohonynt annog ieuenctid i ddarllen llyfrau da, sef llyfrau diddrwg, nag i ddarllen llyfrau gwych. Y mae llyfrau gwych yn cynnwys pob llyfr "da"; ond yn sicr, nid yw'r rhan fwyaf o'r llyfrau dwl-dduwiol a alwant hwy yn dda ddim yn llyfrau gwych o gwbl; a hynny am y rheswm amlwg nad oes arnynt mo'r nodau hynny sydd yn rhoi i lyfrau werth llenyddol. Y mae pob llyfr sy'n rhan o lenyddiaeth yn gywreinwaith yn waith celfyddyd—o ran cynllun, defnyddiau, arddull, ac iaith; ac am hynny yn tueddu i ddyrchafu chwaeth y neb a'i hastudio. Prin, gan hynny, y rhaid dweud mai ychydig o'r llyfrau Cymraeg a gyhoeddwyd yn ystod y can mlynedd diwethaf sydd yn rhan o lenyddiaeth y cyfnod hwnnw. Y mae ein "llyfrau" crefyddol yn llawer; ond prin yw ein "llenyddiaeth" grefyddol. Yr achos pennaf o hyn ydyw amledd sectau yng Nghymru, a'r ffaith eu bod gan mwyaf yn sectau go newydd. I fagu llenorion, rhaid i gyfundeb fod nid yn unig yn gryf, ond hefyd yn hen. Rhaid iddo fod wedi cefnu er ys talm ar y cyfnod cyffrous, pryd y mae gorfod arno dreulio'i nerth mewn ymddadlau â gwrthwynebwyr, er mwyn ymsefydlu neu ymgadarnhau yn y wlad. Cyn y Diwygiad Protestannaidd, pan nad oedd ond un cyfundeb yng Nghymru, fe gynhyrchodd y Cymry lenoriaeth y mae iddi enwogrwydd Europeaidd; canys gweithoedd y cyfnod hwnnw, megis y Gododdin, y Greal, a'r Mabinogion, ydyw'r unig weithoedd Cymraeg yr ydys yn eu hastudio yng ngwledydd y Cyfandir. Yn wir, y mae'r gweithoedd hanner crefyddol a hanner arwraidd hyn yn fwy hysbys o lawer i'r Ellmyn nag ydynt i gorff y Cymry. Pan gymerodd Eglwys Loegr le yr Eglwys Gatholig fel prif, a bron fel unig, eglwys y Cymry, fe gynhyrchwyd yn y cyfnod hwnnw lenyddiaeth sy'n ail i lenyddiaeth y cyfnod blaenorol; ac er na chyfieithwyd un o lyfrau'r cyfnod hwn i'r Ffrangeg a'r Ellmyneg, fe gyfieithwyd un ohonynt, sef "Gweledigaethau'r Bardd Cwsg", i'r Saesneg; a hynny gan lenor Seisnig wedi dysgu Cymraeg.
Pan ddaeth y Diwygiad Methodistaidd i Gymru, fe aeth Eglwys Loegr yn ebrwydd yn rhy wan ac yn rhy estronol i gynhyrchu llenyddiaeth Gymraeg o radd uchel; ac y mae'r Ymneilltuwyr eto'n rhy ieuanc, ac, os rhaid dweud y gwir i gyd, yn rhy gulfarn ac yn rhy genfigenllyd, i gynhyrchu llawer o lenyddion hirhoedlog. I gynhyrchu llenyddiaeth a gydnabyddir yn llenyddiaeth gan yr holl genedl rhaid iddynt anghofio, dros y pryd, eu bod yn perthyn i'r cyfundeb hwn neu'r cyfundeb arall, a chofio'n unig mai dynion ydynt; neu, o leiaf, mai Cymry ydynt. Ac arfer y gair "llenyddiaeth" yn ei ystyr manylaf, nid oes y fath beth â llenyddiaeth gyfundebol yn bod. Rhaid i lenyddiaeth wirioneddol fod yn genhedlig; neu, os mynnwch air hwy ac anghywirach, yn genedlaethol. Fe fu gennym ni'r Methodistiaid dri, os nad pedwar, o lenorion, sydd ac a fyddant yn ddynion cenedl; ac am un ohonynt, sef Williams o Bant-y-celyn, fe ellir ei osod ef ar yr un tir ag Aneirin Gwawdrydd a Dafydd ap Gwilym, os nad yn wir yn uwch na hwynt. Ond nid am ei fod ef a'r lleill yn Fethodistiaid Calfinaidd, eithr am eu bod yn fwy na Methodistiaid yr aeth eu gwaith yn eiddo cyffredin i'r holl genedl. Gan ei bod yn deg imi gredu bod y rhan fwyaf ohonoch chwi wedi darllen mwy neu lai ar weithoedd Williams o Bant-y-celyn a Dr. Lewis Edwards, sôn a wnaf i am brif lyfrau gwŷr o Gymry nad oeddynt yn Fethodistiaid; am fy mod yn ofni bod y rheini yn fwy anhysbys i lawer ohonom nag y dylent fod.
Ysywaeth, cyfieithiadau ydyw'r rhan fwyaf o'r llyfrau crefyddol a gyhoeddwyd ar ôl y Diwygiad Protestannaidd; ond y mae rhai ohonynt yn gyfieithiadau mor ystwyth a Chymreigaidd fel y maent mor ddarllenadwy â llyfrau gwreiddiol; a chan eu bod felly, yr wyf yn eu cyfrif yn rhan o lenyddiaeth Gymraeg. Cyfieithiad yw'r Beibl ei hun, ac ymha wlad bynnag y mae cyfieithiad gwych ohono, y mae'r genedl yno yn ei gyfrif yn un o'i chlasuron ei hun.
Rhag cymysgu ynghyd lyfrau annhebyg i'w gilydd, mi a ddosbarthaf lenyddiaeth grefyddol y Cymry yn llenyddiaeth ddefosiynol, yn llenyddiaeth athrawiaethol, ac yn llenyddiaeth hanesyddol, sef yn llenyddiaeth y mae a wnelo hi â hanes crefydd. Mewn llenyddiaeth ddefosiynol, rhaid addef ein bod yn dra chyfoethog; canys y mae pob llyfr a gyfrifir yn glasurol yn y dosbarth hwn, oddieithr Cyffesiadau Awstin, wedi ei gyfieithu i'r Gymraeg, a hynny gan ein llenorion gorau. Gan Gatholigion y cyfansoddwyd y rhai enwocaf ohonynt; ond Protestaniaid pybyr a'u cyfieithodd oll, oddieithr un; yr hyn sy'n profi bod y dynion mwyaf duwiolfrydig ymhob cyfundeb yn ddynion cenedl ac yn ddynion byd. "Dilyniad Iesu Grist", gan Thomas a Kempis, yw'r llyfr crefyddol y bu mwyaf o ddarllen arno o bob llyfr oddieithr y Beibl; ac fe drowyd hwn o'r Lladin i Gymraeg ystwyth ond lled werinaidd, gan Huw Owen o Fôn. Ychydig o'r "Arweiniad i Fywyd Defosiynol", gan François de Sales, Esgob Genefa, a drowyd i'r Gymraeg; ac y mae'r ychydig hynny, ysywaeth, yn "Llyfr Gweddi'r Catholig"—llyfr na byddai'n ddiogel ei ddodi yn nwylo Protestaniaid ieuainc. Llyfr Catholig wedi ei Brotestaneiddio ydyw "Llyfr y Resolusion" hefyd, a Gymreigiwyd gan Dr. Dafis o Fallwyd, un o gyfieithwyr y Beibl Cymraeg. Er fy mod yn myned i grybwyll am lyfrau defosiynol eraill o waith Protestaniaid, eto fe eddyf pob Ymneilltuwr diragfarn nad oes gan Brotestaniaid unrhyw wlad un llyfr defosiynol o'r radd uchaf i'w gynnig i grefyddwyr; a hynny ydyw un achos paham y mae Protestaniaid gymaint mwy diffygiol na'r Catholigion mewn lledneisrwydd a pharchedigaeth. Ond os ydym ni'r Anghydffurfwyr yn rhy ofnus neu'n rhy gulfarn i annog ein pobl ieuainc i ddarllen y ddau lyfr byd-enwog y soniwyd amdanynt, yna anoger hwynt i chwilio am gyfieithiad godidog Elis Wynn o "Reol Buchedd Santaidd" Dr. Jeremy Taylor, yr hwn oedd yn Brotestaniad, ac yn un o dri chedyrn diwinyddion Lloegr; neu gyfieithiad da John Langford, a chyfieithiad gwell Edward Samuel, o "Holl Ddyletswydd Dyn". Ni wn i a oes yn Gymraeg lyfr defosiynol o waith neu o gyfieithiad Anghydffurfiwr. Y mae gan Griffith Jones o Landdowror, "Seren Fore'r Diwygiad Methodistaidd," gasgl o Weddïau Teuluol; ond y mae'n rhaid addef nad yw ei weddïau ef mor ddarllenadwy o lawer â gweddïau a gyfansoddwyd neu a gyfieithwyd gan eraill o'i flaen.
Er nad oes gennym ni'r Methodistiaid, mwy nag Anghydffurfwyr eraill, ryw un llyfr arbennig y gellid ei alw'n Llyfr Defosiynau, eto yr wyf yn credu bod yn wasgaredig ym mhregethau a llythyrau rhai o'n hen bregethwyr sylwadau dwysion a duwiolfrydig odiaeth, a phe cesglid hwy ynghyd a'u dosbarthu o dan wahanol bennau, y gwnaent lyfr na byddai raid i un cyfundeb ar y ddaear gywilyddio o'i blegid.
Dyna ddigon am ein llyfrau defosiynol; mi af rhagof bellach i enwi goreuon ein llyfrau athrawiaethol. O'r llyfrau gwreiddiol yn y dosbarth hwn yr wyf yn credu mai mân lyfrau Morgan Llwyd yw'r rhai llawnaf o feddwl. Anghydffurfiwr ydoedd Morgan Llwyd, ond Anghydffurfiwr mor eang ac annibynnol fel nad yw'n hawdd penderfynu i ba gyfundeb yr oedd o'n perthyn. "Tri Aderyn yn Ymddiddan" yw'r hynotaf o'i lyfrau; ond y mae'r rhan fwyaf o'r lleill mor sylweddol ag yntau, er y gallant fod i rai yn llai difyrrus.
O'r llyfrau tramor a drowyd o'r Lladin i'r Gymraeg, "Gwirionedd y Grefydd Gristionogol," gan Hugo Grotius, yw'r mwyaf ysgolheigaidd; ac efô, yn fy marn i, yw'r cymhwysaf o bob llyfr Cymraeg i fod yn llyfr dosbarth mewn athrofa neu gyfarfod darllen.
Y llyfr nesaf iddo o ran ysgolheictod a gallu rhesymegol ydyw "Deffynniad Ffydd Eglwys Loegr", gan Esgob Jewel, wedi ei gyfieithu o'r Lladin yn ystwyth odiaeth gan Morus Kyffin. Er mai amddiffyn Eglwys Loegr yn erbyn edliwiadau Eglwys Rufain y mae Jewel, eto y mae ei waith, erbyn hyn, yn hytrach yn amddiffyniad i Ymneilltuaeth nag i'r Eglwysyddiaeth Uchel sydd yn awr mewn bri. Y mae hen amddiffynwyr Eglwys Loegr yn dangos un peth yn amlwg iawn, sef nad diwygio'r Eglwys Gatholig a wnaeth y Diwygwyr Protestannaidd, eithr ymwahanu oddi wrthi, mor wirioneddol ag yr ymwahanodd yr Ymneilltuwyr oddi wrth Eglwys Loegr; a chyfiawnhau'r ymwahaniad neu'r ymadawiad hwn y mae prif amddiffynnwr Eglwys Loegr yn ei lyfr. Mewn gwirionedd, dyfyniadau o'r "Deffynniad" fyddai'r rhesymau cryfaf yn erbyn y rhai sydd yn haeru nad yw Eglwys Loegr yn ddim amgen na pharhad difwlch o'r hen Eglwys Frytanaidd. Y mae'n resyn fod llawer o offeiriaid, a rhai o esgobion, Eglwys Loegr mor brysur gyda mân orchwylion fel nad ydynt yn cael amser i ymgydnabod â phrif awduron eu heglwys eu hunain.
Yr oedd gan y Jewel y soniwyd amdano, ran, gyda Cranmer, Latimer, ac eraill, yng nghyfansoddiad neu yn adolygiad "Llyfr yr Homiliau" hefyd. Casgl helaeth o bregethau ydyw'r Homiliau hyn i amddiffyn athrawiaethau ac egwyddorion Protestannaidd. Nid oes arnynt fawr o ddisgleirdeb nac eneiniad, ond y maent yn bur sylweddol, ac yn fuddiolach i'w darllen na'r rhan fwyaf o'r pregethau a ganmolir yn y dyddiau hyn. O ran cynllun a saerniaeth y maent yn rhagorol, ac yn gwbl rydd oddi wrth yr aml bennau a'r aml raniadau sy'n anurddo pregethau'r Puritaniaid. Y mae eu hawduron yn cadarnhau eu dadleuon â phob rhyw reswm ac â phob rhyw adnod y gellir meddwl amdanynt; ac am hynny fe all "Llyfr yr Homiliau" wasanaethu fel math o eiriadur i bregethwr ieuanc. Gŵr dysgedig ond anhysbys, a'i enw Edward James, a gyfieithodd y llyfr hwn; ac yn fy marn i, y mae ei Gymraeg ef yn fwy Cymreigaidd ac yn fwy cywir na Chymraeg y Beibl. Y mae ei arddull hefyd yn llawn mwy urddasol nag arddull Morus Kyffin. Fe gyfaddaswyd yr "Homilïau" i oes ddiweddarach gan Dr. Nourse, ac fe Gymreigiwyd deuddeg ohonynt yn eu ffurf ddiwygiedig gan Edward Samuel, person Llangar, a oedd agos cystal cyfieithwr ag Edward James.
Y mae gennym amryw gyfieithiadau o "Daith y Pererin", ond y crynodeb a'r lledgyfieithiad a wnaeth Stephen Hughes a'i dri chyfaill ohono ydyw'r mwyaf darllenadwy o lawer. Er nad yw llyfrau fel "Taith y Pererin" a "Choll Gwynfa", sydd yn cynnwys un alegori hir yn yr hon yr ydys yn personoli pechod a rhinwedd, ddim mor gymeradwy yn awr ag y buont unwaith, eto pe tynnid o'r cyfieithiad hwn o Daith y Pererin chwaneg o'r hen ddiwinyddiaeth unochrol y mae pob cyfundeb erbyn hyn wedi cefnu'n ddistaw arni, fe ellid ei wneud eto yn llyfr diddorol iawn i blant. A dweud y gwir, tlawd iawn ydym o lyfrau crefyddol cyfaddas i blant. Y mae'n wir fod "Saith Doethion Rhufain" yn chwedl mor gywrain a difyrrus ag ydyw'r "Nosweithiau Arabaidd", ond nid chwedl grefyddol ydyw honno. Nid wyf i am gredu y dylai hyd yn oed lyfrau plant fod yn blentynnaidd, canys, hyd y gwelais i, y mae llyfrau plentynnaidd yn cadw plant yn blant; er hynny, fe ddylai pob llyfr a roir iddynt fod yn loyw fel y grisial, ac yn hoyw fel asgell fraith.
Mi a ddywedais yn y dechrau y soniwn yn y trydydd lle am lyfrau crefyddol sydd yn hanesyddol; ond y mae sôn am hynny bron yr un peth â sôn am bethau nid ydynt. Dyma'r llyfrau gorau o ran eu gwerth llenyddol: "Hanes y Ffydd Ddiffuant", gan Charles Edwards; yr ail ran o Ddrych y Prif Oesoedd, gan Theophilus Evans; a'r ail ran o "Hanes y Byd a'r Amseroedd", gan Simon Thomas. Nid yw defnydd nac iaith y llyfr olaf yn dangos bod ei awdur mor ddawnus a dysgedig â'r ddau awdur arall; ond yr oedd ynddo fwy o gymhwyster i fod yn hanesydd am ei fod ychydig yn llai hygoelus na hwynt-hwy. Y mae'n wiw darllen y llyfr hwn oblegid ei fod yn un o'r ychydig hen lyfrau hanesyddol ag ynddo fwy o ffeithiau nag o chwedlau; ac y mae'n wiw darllen "Drych y Prif Oesoedd" oblegid y disgrifiadau a'r cyffelybiaethau Homeraidd sydd ynddo, a "Hanes y Ffydd" oblegid yr aml feddyliau tlysion sydd yn wasgaredig ynddo; ond os na chofir o hyd wrth eu darllen mai math o nofelau hanesyddol ydynt, gallant wneud mwy o niwed nag o les. Yn nyddiau'n tadau nid oedd beirniadaeth hanesyddol, sef yr hyn yr hyn a eilw rhai o'r Ellmyn yn chwithig iawn yn uwch-feirniadaeth," ddim wedi cyrraedd i Loegr, chwaethach i Gymru. Am hynny, nid yw'n deg eu beio am fod yn rhy hygoelus: ond y mae yn deg eu beio am fod yn llawn mwy hygoelus nag awduron y Brutiau, oedd yn byw lawer canmlwydd o'u blaen. I mi, y mae hygoeledd y Protestaniaid yn fwy gwrthun ac yn fwy anesgusadwy na hygoeledd y Pabyddion; ac y mae parodrwydd parhaus y Cymry i dderbyn hen draddodiadau ac i gredu chwedlau ofer yn peri imi ofni nad yw'r Pabyddion wedi ymosod ar waith anodd iawn wrth geisio troi Cymru yn Babyddol yn ei hôl. Os ydyw'r Cymry'n credu ddarfod i Dduw wneuthur gwyrthiau afreidiol a lled ddigrifol i ddiogelu John Jones o Dreffynnon, pa beth a'u rhwystra yn y man i gredu bod yr un Duw yn iacháu cloffion a gwywedigion wrth weddi'r Tad Beauclerc a thrwy rinwedd ffynnon Gwenfrewi?
Goddefer imi cyn dibennu gyfeirio at hen lyfr a gefais beth amser yn ôl gan gyfaill, sef "Cysondeb y Pedair Efengyl", gan John Evans, M.A., caplan i'r brenin Siôr y Trydydd, ac adolygydd un o argraffiadau'r Beibl. Pan geir yr un hanes mewn mwy nag un efengyl, yr hanes llawnaf yn unig a roir yn y Cysondeb hwn, ac yn fynych iawn fe ddodir ymadroddion rhwng crymfachau ynghanol y testun i egluro neu i gyflawni'r ystyr, ac i ddangos y cysylltiad sy rhwng y naill adnod neu'r naill adran a'r llall, ac ar ôl pob pennod y mae esboniad ar yr ymadroddion tywyllaf. Hwn yw'r esboniad cyntaf a wnaed yn yr iaith Gymraeg, ac anturiaf ddweud mai hwn yw'r esboniad gorau sy gennym ar yr "holl" Efengylau—y gorau o ddigon i bregethwyr ieuainc, i aelodau eglwysig ac aelodau'r Ysgol Sul. Mi wn na chyfrifir mo'r esboniadau gorau oll yn rhan o lenyddiaeth cenedl; ond y mae'r Cymraeg cywir a gloyw yr ysgrifennwyd yr esboniad hwn ynddo, ynghyd â gwerth y Rhagdraethawd maith sydd o'i flaen ar Hanes Crefydd, bron â'm temtio i gyfrif y llyfr yn un o lyfrau clasurol y Cymry. Y mae'n rhyfedd iawn nad ymgystadlai cyhoeddwyr Cymru mewn dwyn allan argraffiad newydd o'r llyfr hwn ac amryw o'r llyfrau eraill y crybwyllwyd amdanynt. Y mae'n arw o beth ei bod yn rhaid i'r genhedlaeth hon o Gymry ymfoddloni ar waelach llyfrau nag oedd gan y cenedlaethau o'r blaen. Y mae arnaf ofn y rhaid disgwyl wrth ryw Sais neu Americaniad i neud ei ffortiwn trwy ddwyn allan argraffiad hardd ac unffurf o'r clasuron Cymraeg.
Yr wyf wedi traethu'n unig am awduron marw rhag cael fy nhemtio i wenieithio neu i beri tramgwydd i awduron byw. Pe buasai'r Methodistiaid mor gul ag ambell gyfundeb Cymreig, dywedaswn y dylem edrych na lygrom chwaeth ein pobl ieuainc trwy eu hannog i ddarllen llyfrau a elwir yn grefyddol, yn unig am eu bod wedi eu gwneuthur gan ddynion o'n sect ni. Yr ydys mewn rhai cylchoedd yn y dyddiau hyn yn gwneud masnach o grefydd, ac yn gwneud cam â chrefyddwyr, trwy gymell arnynt lyfrynnach a phapurach crefyddol yn lle llenyddiaeth grefyddol. Os teimlir anhawster i wybod pa lyfrau crefyddol sy'n llenyddiaeth grefyddol, ymofynner pa lyfrau sy mor gymeradwy heddiw ag oeddynt ddau neu dri chant o flynyddoedd yn ôl. Y mae gwyddoniaeth yn myned rhagddi; y mae hyd yn oed esboniadaeth grefyddol yn myned rhagddi'n araf, er pan ddechreuwyd cyfieithu esboniadau tramorwyr i'r Saesneg; ond y mae llenyddiaeth grefyddol, a llenyddiaeth "gyffredin" hefyd, yn myned yn ei gwrthol. Y mae'n wir y rhaid i bregethwyr ieuainc ddarllen llyfrau crefyddol nad oes iddynt ddim gwerth llenyddol, sef llyfrau wedi eu hamcanu i'w gwneuthur hwynt yn hytrach yn wybodus nag i fagu ynddynt ysbryd crefyddol a chwaeth lenyddol; ond nid yw llyfrau addysgiadol o'r fath yma, pa mor hylaw ac angenrheidiol bynnag y byddont, ddim yn rhan o lenyddiaeth. Nid adeilwaith ydynt hwy, eithr defnyddiau i wneuthur adeilwaith. Y mae'n dda gennyf weled cynifer o aelodau'r Ysgolion Sul yn darllen llyfrau addysgol, ond fe fyddai'n well gennyf o'r ddau eu gweled yn darllen llyfrau llenyddol, am fod i'r rhain, yn enwedig os byddant yn grefyddol hefyd, fwy o ddylanwad ar yr holl ddyn.
Yr wyf felly yn eich annog i ddarllen y llyfrau Cymraeg a enwyd, nid am fy mod yn meddwl y cewch ynddynt hwy gymaint o wybodaeth ag a gewch mewn llyfrau diweddarach, eithr am fy mod yn credu eu bod yn llyfrau manteisiol i fagu ynoch ysbryd defosiynol a chwaeth lenyddol. Beth bynnag yw eu diffygion, y maent wedi eu hysgrifennu mewn arddull sy'n debycach i arddull urddasol y Beibl, sef yr arddull sy'n gweddu orau i'r pulpud, a'r arddull sy'n debycaf i barhau mewn bri. Gan na fuwyd hyd yn hyn yn dysgu'r Gymraeg yn ysgolion ein gwlad, nid yw'r Cymry yn rhoi cymaint o bwys ar iaith ac arddull ag a ddyry cenhedloedd eraill; ond y mae arwyddion pur amlwg y rhoddir mwy o bwys arnynt o hyn allan. Pa un bynnag ai byr ai hir fydd oes y Gymraeg, pa un bynnag a ddysgir hi'n lled gyffredinol yn ysgolion ein gwlad ai ni wneir,[1] y mae'n sicr fod mwy o blant ac ieuenctid yn ei hastudio yn awr nag a fu yn ei hastudio er ys talm hir o amser; ac am hynny, y mae'n ddoeth ichwi ofalu na fyddo'r dosbarth gorau o'ch gwrandawyr yn yr amser a ddaw ddim yn medru'r Gymraeg yn well na chwi, rhag ofn iddynt eich diystyru a'ch gadael. Yn hyn, fel ym mhopeth arall, ymbaratowch yn hytrach ar gyfer y genhedlaeth sy'n dyfod nag ar gyfer y genhedlaeth sy'n myned ymaith; ac os mynnwch fod yn bregethwyr poblogaidd, boed yn well gennych fod yn boblogaidd yn ddeg a thrigain oed nag yn bum mlwydd ar hugain; canys nid oes dim i'w ofni'n fwy na bod yn fach yn hen ar ôl bod yn fawr yn ieuanc. Wrth ymgoethi ar gyfer dosbarth coethaf, mewn oes a ddichon fod yn goethach na'r oes hon, nid wyf yn credu y'ch gwnewch eich hunain yn bregethwyr mwy anghymeradwy gan y dosbarth cyffredin. Os nad yw gwrandawyr cyffredin yn gallu prisio iaith helaeth (copious), y maent hwythau yr un ffunud â'r rhai dysgedig yn prisio iaith olau ac ystwyth. Hyd yn oed yng Nghymru, y pregethwyr a chwiliodd am eiriau cymeradwy fu meistriaid y gynulleidfa; o leiaf, hwynt-hwy a barhaodd i fod yn feistriaid y gynulleidfa dros hir amser. Y mae hyn yn fwy gwir fyth am bregethwyr gwledydd eraill. Yr oedd Bourdaloue, Massillon, a Bossuet, yn bregethwyr mwy cymeradwy na phregethwyr eraill am eu bod yn fwy o lenorion na hwynt; ac am eu bod yn llenorion, y maent, er wedi marw, yn llefaru eto trwy eu pregethau argraffedig.
Y mae'n debygol mai yn Gymraeg y mae ac y bydd y rhan fwyaf ohonoch chwi yn pregethu yn gyffredin, ac na all rhai ohonoch obeithio rhagori byth wrth bregethu mewn un iaith arall. Am hynny, y mae dyled grefyddol arnoch chwi i wneud y Gymraeg yn offeryn i ddiwyllio'ch meddwl eich hunain, ac yn gyfrwng cymwys i drosglwyddo'ch meddyliau a'ch teimladau i eraill. Fel y galloch wneud hynny, yr wyf yn eich annog i ddarllen cryn lawer ar lenyddiaeth grefyddol ein hen dadau. Prin y rhaid imi ddweud na fynnwn ichwi ymfoddloni ar ddarllen llyfrau Cymraeg yn unig: yn hytrach, mi a'ch cynghorwn i beidio â brysio fyned yn fugeiliaid i leoedd poblog, eithr i ddewis yn hytrach leoedd bychain, gwledig, fel y caffoch hamdden ym mlynyddoedd cyntaf eich gweinidogaeth i ddarllen y llyfrau hynny a gyfrifir yn oreuon y byd. Ar ôl gadael y Bala, na chefnwch am byth ar Platon, Aristotel, a Tacit; canys y mae'n wiw darllen y rhain drachefn a thrachefn mewn rhyw iaith neu'i gilydd. Na fydded y llyfrau ar eich silffoedd yn rhy Biwritanaidd, na hyd yn oed yn ddiwinyddol i gyd; canys yn y dyddiau hyn fe ddisgwylir i bregethwr fod yn nesaf peth i hollwybodol. Darllenwch lyfrau'r Ellmyn er mwyn helaethu'ch gwybodaeth, llyfrau'r Ffrancwyr er mwyn dysgu iawn-drefnu'ch gwybodaeth, llyfrau'r Saeson er mwyn dysgu cymhwyso'ch gwybodaeth, a llyfrau'r hen Gymry er mwyn gallu ohonoch gyfrannu'ch gwybodaeth mewn dull Cymreig i'ch cydwladwyr.
Yn iach, frodyr ieuainc, a bendith a'ch canlyno chwi a'ch athrawon.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Gan fod y rhan fwyaf o ysgolfeistriaid Cymru yn gofalu mwy am eu helw a'u hesmwythyd eu hunain nag am iaith eu gwlad, y mae arnaf ofn na fynnant hwy ymdrafferthu i ddysgu iaith a hanes Cymru i'r plant hyd oni ddywedo'r Cynghorau Ysgol wrthynt fod yn rhaid iddynt wneud hynny neu ymddiswyddo. Gan fod llawer o aelodau'r Cynghorau hyn mor anwlatgar â'r athrawon, fe ddylai'r holl etholwyr sy'n caru eu gwlad a'u hiaith a'u cenedl ofalu na ddewisont neb yn aelod o Gyngor Ysgol heb iddo addo'n bendant y mynn o i'r addysg ieithyddol sydd yn cael ei chyfrannu yn amherffaith yn yr Ysgol Sul gael ei chyfrannu'n berffeithiach yn yr Ysgol Feunyddiol. Ni waeth mo'r llawer pwy a etholer i'r cynghorau eraill, na hyd yn oed i'r Senedd Ymerodrol, ond y mae hoedl yr unig beth sy'n ein cadw'n genedl yn sefyll ar y math o ddynion a etholer i'r Cynghorau Ysgol. Ni allai Cymdeithas Cymru Fydd (os yw hi'n eto'n fyw) wneud dim sydd well na danfon dynion i gyfarwyddo ac i drefnu'r Cymry ymhob lle y byddo ethol Cynghorwyr Ysgol ynddo. Yn y dyddiau hyn, y mae Ymneilltuwyr Cymreig yn dangos ofn mawr rhag i addysg yr ysgolion Eglwyseiddio'u plant; ond nid ydynt yn dangos dim ofn rhag i'r addysg honno eu Seisnigeiddio! Ocha fi! A ydyw bodolaeth hanner dwsin o sectau cyn bwysiced â bodolaeth iaith? Yn enw rheswm, pa bryd yr ymdeimla corff y Cymry nid yn unig â'r gorthrymau sydd arnynt hwy a'r Saeson ynghyd, ond hefyd â'r gorthrwm mwy sydd arnynt hwy yn unig?—E. ap I.