Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II/Nodiadau Darlith ar Nodweddion y Ffrancwyr
| ← Dyfynion o'r "Pamphlet des Pamphlets" | Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II gan Robert Ambrose Jones (Emrys ap Iwan) |
Detholion → |
NODIADAU DARLITH AR NODWEDDION
Y FFRANCWYR
Didwylledd yw amod yr Ellmyn—Bismark wedi drygu eu cymeriad—Gweithgarwch a myfyrdod yn nodweddion—Richter yn dweud mai'r Ellmyn piau llywodraeth yr awyr, am eu bod yn byw yn y cymylau—Bonhomie yr Ellmyn—La conversation comme talent n'existe qu'en France—Yn Ffrainc, astudio dynion yr ydys; yn yr Almaen, llyfrau.
Yn Lloegr fe gyfrifir pawb sydd yn werth llai na dwy fil o bunnau yn y flwyddyn yn fwy neu lai tlawd, er y ceir llaweroedd o dlodion y ddwy fil yn edrych i lawr ar dlodion y ddau gant.
Gan nad yw tad o Ffrancwr, er y Chwyldroad, yn gadael y cwbl na'r rhan fwyaf o'i dda i'w fab hynaf, nid oes yn Ffrainc gynifer o diriogion a chyfoethogion mawr ag sydd yn Lloegr. Yno y mae tir ac arian wedi eu rhannu'n fwy cyfartal. Hyn yn peri bod yr hen balasau mawrion yn myned yn ddiddefnydd. Y ffaith bod gwladwyr Ffrainc yn byw ar eu tir eu hunain yn peri eu bod yn byw yn gynilach ac yn sobrach na gwladwyr y wlad hon.
Yng ngolwg y Saeson y mae'r Ffrancwyr yn rhy gynnil; ond nid cariad at arian ynddo'i hun sydd yn eu gwneud felly, ond yr awydd i fod yn ddiddyled, a'r awydd i adael rhyw gynhysgaeth i'w plant. Y mae ar y Ffrancwyr ofn bod yn nyled neb; a'r ofn hwn, ac nid anfoesoldeb fel yr haera rhai, sydd yn atal cynifer o ieuenctid gweddol dlawd rhag priodi. Y mae hyn yn peri nad yw'r Ffrancwyr ddim yn lluosogi fel pobl ddiofal am y dyfodol, megis tlodion Iwerddon a Lloegr. Ond y mae'n peri [hefyd] fod yno lai o drueni nag sydd yn y wlad hon ac Iwerddon. Fe gollodd llawer o Ffrancwyr y cwbl oedd ganddynt yn y rhyfel rhwng Ffrainc a'r Almaen, ond trwy fyw am ychydig flynyddoedd ar fara sych i forefwyd, a chloron a chnau cyffylog wedi eu rhostio i ginio a swper, llwyddasant i adael gwaddol da i'w merched priodadwy.
Pobl y wlad o bob dosbarth yn codi rhwng 4 a 5 yn yr haf a rhwng 6 a 7 yn y gaeaf. Dim borefwyd. Weithiau goffi a llaeth gyda dernyn o fara ynddo, neu heb fara. Te yn unig fel meddyginiaeth rhag yr annwyd a rhag y cnoi.
Fel y gwyddoch, ceir amryw fathau o fwyd yn y gwestai, er mwyn cyfarfod â chwaeth pob un a ddelo iddynt. Mewn tai preifat fe wyddys pa fwydydd sydd yn gymeradwy gan y teulu, ac am hynny bydd ynddynt hwy lai o amrywiaeth, a bydd y bwyd wedi ei goginio yn well nag mewn gwestai. Mewn gwirionedd, ni ŵyr neb pa mor ragorol y gall y Ffrancwyr goginio os na chafodd fwyd mewn tŷ preifat.
Gall gwraig i wladwr Ffrengig wneud cinio blasus gydag asgwrn ac ychydig o lysiau.
Gwin, wrth reswm, yw'r ddiod gyffredin oddieithr i forefwyd, ond y mae'r gwin cyffredin yn wannach hyd yn oed na diodydd dirwestol y wlad hon.
Llawer yn y wlad yn cymryd potes i'w borefwyd, a'r rhai sydd yn cymryd hwn yw'r bobl iachaf. Y borefwyd mawr, sef y borefwyd â fforch, rhwng 10 ac II ar gloch yw'r pryd trymaf yn Ffrainc. Y mae'r cinio, sy tua 6 ar gloch, yn bryd ysgafnach. Rhai yn cymryd cwpanaid o goffi a chacen, neu hanner potelaid o win, rywbryd rhwng y borefwyd a'r cinio. Yn y wlad ni fwyteir dim swper, ond yn y mân drefi yn y rhan Ffrengig o'r Swisdir fe gymerir tamaid o fara a chaws, neu fara a chnau gyda gwydraid bach o win gwyn.
Bûm yn profi malwod unwaith, a phe buaswn heb wybod mai malwod oeddynt, diau y buaswn yn eu mwynhau. Ni chefais erioed goesau llyffaint; canys y mae'r rheini mor ddrud, fel y mae'r Ffrancwyr yn eu cadw agos i gyd i gyfoethogion Lloegr a'r Taleithiau Unedig. I mi nid yw coes llyffant yn ymddangos yn fwy anghynnes na neidr y dwfr, sef yslywen, ac eto y mae rhai yn y wlad hon yn gallu bwyta neidr y dwfr heb gymaint â bytheirio ar ôl hynny.
Y mae gan y Ffrancwyr, yn enwedig y bobl gyffredin, ragfarn yn erbyn cig dafad a chig oen. Flwyddyn yn ôl yr oedd rhyw anhwyldeb arnaf; am hynny gofynnais i feddyg o Lerpwl pa beth a fwytawn. Bwytewch gig dafad, meddai. Fis yn ddiweddarach gofynnais yr un cwestiwn i feddyg yn Ffrainc. Na fwytewch gig dafad, ebe hwnnw. Euthum oddi yno i'r Almaen, a gofynnais i feddyg yn Hamburg pa un ai'r Sais ai'r Ffrancwr oedd yn ei le. Y mae'r ddau'n cyfeiliorni, ebe hwnnw. Bwytewch gig dafad os bydd yn dygymod â chwi; onid e, na fwytewch ddim ohono. Wyddoch chi beth, doctor, ebe fi, yr ydych yn gwybod cymaint â minnau. Atolwg, pa faint yw'r tâl am atebiad mor ochelgar? Coron, os gwelwch yn dda, ebr yntau.
Oddieithr cig dafad, gellyg y ddaear, sef jerusalem artichokes, gwyfon gwyrddion, sef green gooseberries, ac ychydig bethau eraill, fe all y Ffrancwyr fwyta pob math o gigau, o lysiau, ac o ffrwythau, os byddant wedi eu coginio'n dda; a da oedd i'r Parisiaid yn amser y gwarchae ar Paris eu bod yn medru byw ar chwyn, ceffylau, cathod a llygod, ac anifeiliaid gwylltion y Jardin des Plantes.
Os nad yw Pabyddion Ffrainc yn rhoddi cymaint o amser â ninnau i grefydda ar y Sul, y maent yn rhoddi mwy o lawer yng nghorff wythnos; canys y mae'r rhai mwyaf defosiynol ohonynt yn codi'n blygeiniol iawn i fyned i wasanaeth yr offeren bob dydd. Y maent hefyd yn neilltuo rhywfaint o amser ar rannau o'r dydd i ddarllen a myfyrio, yn ymprydio ac yn cadw gŵyl, ac yn treulio cryn amser i ymweled â'r cleifion a'r tlodion.
Y mae'r agosrwydd rhwng meistri a gweision, ac yn enwedig rhwng meistresi a morwynion, yn fwy o lawer nag yn y wlad hon. Anfynych bydd dim oddieithr priodas neu angau yn eu gwahanu oddi wrth ei gilydd, a hyd yn oed ar ôl i forwyn briodi fe fydd yn dda ganddi gael gwahoddiad ar achlysurion neilltuol i gynorthwyo ei hen feistres. Darllenais am
Darllenais am un hen forwyn a drowyd ymaith am ryw achos neu'i gilydd. Drannoeth hi a ymddangosodd eilwaith yn y tŷ, fel pe na buasai dim wedi digwydd, gan ddywedyd nad oedd wiw ceisio ei gyrru ymaith, y byddai'n well ganddi hi wasanaethu heb gyflog nag ymadael o'i hen le. Y mae'r Ffrancwyr cyfoethocaf yn cadw cyn lleied o forwynion fel na ellir disgwyl i'r morwynion wneud pob rhyw waith yn y modd gorau; ond pa beth bynnag a wnelont, hwy a'i gwnânt yn gydwybodol ac yn wyneb-lawen.
Y Ffrancwyr yn yfed er mwyn cymdeithas, ac nid o chwant am y ddiod.
Ni raid dweud dim am y tai coffi; am fod tai go debyg ym Mhrydain hefyd er ys blynyddoedd bellach, ond eu bod yn llai golau ac yn llai agored yn y wlad hon, ac heb erddi cysgodol ynglŷn â hwynt. Ond er mor anghysurus ydynt o'u cymharu â rhai Ffrainc, y maent wedi gwneud a chadw mwy yn ddirwestwyr na mil o areithiau dirwestol.
Yr ydys, wrth reswm, yn yfed rhywbeth neu'i gilydd ym mhob café Ffrengig, ond er mwyn ymddiddan ac nid er mwyn yfed yr ydys yn myned i dŷ coffi; ac oherwydd eu bod yn ymgyfarfod mewn lleoedd o'r fath, y mae'r Ffrancwyr yn well ymddiddanwyr nag un genedl arall.
Y Ffrancwyr at ei gilydd mor uniaith â'r Saeson. Gan fod pob dyn dysgedig trwy Ewrop yn medru eu hiaith hwy, nid oeddynt hyd ar ôl rhyfel 1871 yn gweld achos iddynt hwy ddysgu un iaith arall.
The interval between a French peasant and a Kentish labourer is enormous.
Ffrainc gymaint bedair gwaith â Lloegr, ac agos gymaint ddwywaith â Phrydain ac Iwerddon; er hynny, nid yw ei phoblogaeth gymaint. Os yw rhai o ferched Paris a Bordeaux yn newid eu dull o wisgo bob mis, y mae pobl y wlad yn ymgadw at yr un dull yn gaethach o lawer na Chymry Lleyn ac Eifionnydd.
Y Ffrancwr naill ai yn dilyn ei reswm ei hun, neu ynteu yn ymostwng i awdurdod eglwysig; ac y mae hynny yn ei wneud naill ai yn anffyddiwr neu yn Babydd.
Yr offeiriaid Pabaidd yn bur debyg i ninnau, bregethwyr y Methodistiaid—rhai yn wych, rhai yn wael, a llawer yn weddol. Culni meddyliol yw'r pechod parotaf i'w hamgylchu hwy a ninnau. Yn yr Almaen y mae'r offeiriaid yn fwy rhyddfrydig. At ei gilydd, y mae offeiriaid Ffrainc, a phob gwlad arall o ran hynny, yn fwy ymwadol o lawer na phregethwyr Cymru. Gan eu bod oll yn ddibriod, ac yn byw i'r eglwys yn unig, nid oes fawr o demtasiwn iddynt hwy gasglu a chadw arian. Am yr un rheswm y maent yn gofyn llai o arian i'w cadw. Y mae cyflog ein pregethwyr mwyaf poblogaidd ni yn fwy seithwaith, os nad ddengwaith, na chyflog yr offeiriad Catholig, ac yn fwy ddwywaith na chyflog esgob. Fe fyddai'r gyflog yr ydym ni'r Methodistiaid yn ei rhoddi i un cenhadwr yn ddigon i gadw tuag ugain o genhadon Catholig. Yng ngolwg Eglwys Rufain, nid ydyw'r cenhadon Protestannaidd eithr bugeiliaid sefydlog yn magu teuluoedd yn barchus mewn gwledydd pellennig. Mi wn fod i'r offeiriaid Pabaidd lawer o feiau, ond bydd yn llawn digon buan i mi eu condemnio'n ddiwahaniaeth pan fyddwyf wedi dysgu byw yn fy stafell heb dân trwy'r gaeaf, er mwyn gallu prynu tanwydd i hen wragedd tlodion fy ardal. Y mae llaweroedd ohonynt yn gwneud hynny.
Bai mawr Eglwys Rhufain ydyw ei bod yn anghefnogi pob gwybodaeth y tu allan iddi ei hun, ac nad yw hi yn gwneud odid ddim i symud ymaith ofergoelion y werin. Nid yw'r offeiriaid yn darllen dim llyfrau oddieithr llyfrau eu Heglwys eu hunain; ac yn wir, y mae ganddynt gynifer o fân orchwylion fel nad oes ganddynt amser i ddarllen llawer.
Ni fyn Ffrancwr briodi merch os na bydd y llog ar ei chynhysgaeth yn ddigon i'w chadw hi ei hun. I gael mynediad i dŷ lle bo merch ieuanc, rhaid i fab ieuanc yn gyntaf oll ofyn trwy rywun arall am y ferch honno yn wraig. Wedi iddo benderfynu ei phriodi fe fydd yn rhydd iddo ei gweled ac ymddiddan â hi. Wrth reswm, fe fydd y mab wedi ymholi yn ddyfal ynghylch y ferch cyn anturio myned mor bell â hyn.
Chwedl garwriaethol:—Gofynnodd dyn ifanc unwaith i Sais oedd wedi priodi Ffrances, ac wedi byw hanner ei oes yn Ffrainc, fyned at rieni parchus i ofyn eu merch yn wraig iddo. Aeth yntau a dywedodd
neges wrth y fam. Atebodd hithau yn rhwydd y câi y carwr ei merch ymhen dwy flynedd, os na ddôi rhywun cyfoethocach a boneddicach i'w gynnig ei hun iddi yn y cyfamser. Gan fod y carwr yn 32 oed, yr oedd yn ormod ganddo aros hyd hynny. Fe briododd ferch arall cyn pen mis, a gwnaeth hon iddo wraig ragorol, ac y mae'r ddau yn byw yn dra dedwydd.
Ni bydd un ferch ieuanc dan 25 oed yn myned ei hunan i'r farchnad nac unlle arall heb fod ei gweinyddes neu ryw berthynas gyda hi. Dealler bod merch ieuanc dros 25 oed yn hen ferch yn Ffrainc. Merched ieuainc Ffrainc yn gwbl wahanol i'r darluniau a wneir ohonynt yn y wlad hon; canys fe'u megir yn llawer caethach. Y maent yn gweithio yn y tŷ o fore hyd hwyr oddieithr pan fyddont yn gwneuthur dyletswyddau crefyddol. Ni byddant byth yn siarad â gŵr ieuanc yn unlle, nac yn myned yn fynych i gymdeithas; yn gwisgo yn syml; ni chânt ddarllen dim llyfrau ond a rydd eu rhieni iddynt. Er hyn oll y maent yn dra siriol, ac yn teimlo'r iau yn esmwyth am eu bod wedi eu cynefino â hi. Yn y wlad hon y mae merched yn colli eu rhyddid wrth ymbriodi. Yn Ffrainc ei ennill y maent. Yn y dosbarth cyffredin, nid oes fawr mwy o bellter rhwng y ddeuryw nag sydd yn y wlad hon. Er hynny, cariad masnachol iawn yw cariad y ferch tuag at y mab. Am hynny, ei harfer hi ydyw oedi ac oedi diwrnod y priodi er mwyn rhoi cyfle i ryw garwr amgenach ymgynnig iddi. Pe dywedech wrth Ffrances fod caru o'r fath yma yn garu gwael, atebai hithau fod caru ar brawf yn well na charu dall, a bod yn deg iddi fel y person goddefol garu pob dyn ar ei thelerau ei hun.