Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II/Paul-Louis Courier
| ← Anerchiad ar Ganiadaeth | Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II gan Robert Ambrose Jones (Emrys ap Iwan) |
Dyfynion o'r "Pamphlet des Pamphlets" → |
PAUL-LOUIS COURIER
Y mae'r cyfeiriadau a wneuthum yn fy llith o'r blaen[1] at y ddau lenor Ffrengig y mae G. P. Marsh yn eu cyfrif "by far the greatest stylists of modern times" wedi gwneud rhai o ddarllenwyr "Y GENINEN" yn awyddus i wybod chwaneg am y mwyaf anhysbys o'r ddau. Wrth ymosod i foddhau'r darllenwyr hynny, yr oeddwn yn bwriadu rhoi syniad iddynt am arddull ddigyffelyb Paul-Louis Courier; ond yr wyf wedi fy siomi fy hun yn hollol yn hyn o beth. Er fy mod i, yn gystal o ddiffyg dawn ag o ddiffyg ymarferiad, yn waelach cyfieithydd o lawer na Morus Kyffin, Edward James, a Charles Edwards, eto y mae'n amheus gennyf a allasai'r mwyaf cyfarwydd â'r gwaith hwn ddangos pranciau nwyfus arddull Courier, a chadw gwedd Gymraeg ar ei gyfieithiad ar yr un pryd. Ysywaeth, y rhan ymadrodd mwyaf cryno yn y Ffrangeg yw'r un mwyaf amgylchog yn y Gymraeg. Cyfeirio yr wyf yn awr at y cyfraniad gorffennol (past participle). Rhaid yw arfer dau neu dri neu chwaneg o eiriau Cymraeg i gyfieithu'r cyfraniad gorffennol Ffrangeg. Weithiau gwna un gair Saesneg y tro amdano, ond pan fo eisiau nodi'n eglur y rhyw a'r rhif, rhaid arferyd dau neu dri ohonynt. Ond yn y Ffrangeg, yr ydys yn nodi'r rhif a'r rhyw yn nherfyniad y cyfraniad, a hynny heb hwyhau'r sain. Fel sgrifennwr craff a chelfydd y mae Courier wedi canfod y rhagoriaeth hwn yn ei iaith; a chan fod yn dra hoff ganddo ymadroddion cryno, y mae'n arferyd y ffurf gyfraniadol yn bur fynych. Oherwydd hyn, pa le bynnag y bydd Courier yn fwyaf cryno, yno y rhaid i'r cyfieithydd Cymraeg fod yn fwyaf amleiriog: hynyna fel enghraifft.
O bob iaith, y Saesneg yw'r iaith y mae'n hawsaf cyfieithu iddi; am ei bod hi wedi dwyn lliaws o'i geiriau a'i phriodebion oddi ar genhedloedd eraill. Ond ychydig o'r naill na'r llall a fenthyciodd hi gan y Cymry. Am hynny, anodd iawn yw cyfieithu Cymraeg pur i'r Saesneg. Po fwyaf Cymreigaidd fo'r iaith, mwyaf i gyd fydd y cam a gaiff wrth ei throi i'r Saesneg. Yr un ffunud, meistrolaeth Courier ar Ffrangeg cwbl Ffrengig sy'n ei wneud ar unwaith mor ddifyr i'w ddarllen yn ei iaith ei hun, ac mor anodd ei gyfieithu i iaith arall.
Anfynych y byddys yn cyhuddo Ffrancwr o sgrifennu'n dywyll; ond y mae rhai yn cyhuddo Paul-Louis o sgrifennu felly. Gan ei fod yn sgrifennwr mor awgrymog a byreiriog, ni all na bo rhyw gymaint o'i feddwl yn aros yn guddiedig oddi wrth rai; ond y mae digon o feddwl hyd yn oed ar wyneb ei eiriau i roddi mwynhad i'r darllenydd mwyaf cyffredin. Nid yw goleuni ymadrodd gwir ffraeth yn tywynnu i gyd ar unwaith, hyd yn oed i feddwl y darllenydd craffaf.
Gŵr hynod yn unig y cyfrifid Courier yn ei ddydd; ond heddiw y mae'n ŵr enwog; ac yn ôl pob tebyg, yn fwy enwog yr â. Y mae'r cyfenwad inimitable wedi glynu mor dynn wrth enw Paul-Louis Courier ag y mae all-accomplished wrth Pascal, judicious wrth Hooker, a venerable wrth Bede.
I Pascal, o bawb o'r Ffrancwyr, y mae Courier debycaf o ran ei ddull o feddwl ac ymadroddi. Y mae, fel yntau, yn nodedig am ei ŵreidd-dra, ei wreiddiolder, a'i wawdiaith; am fin, bywiogrwydd a beichiogrwydd ei frawddegau. Er hynny, y mae'r annhebygrwydd rhyngddynt yn amlycach o lawer na'r tebygrwydd. Y maent yn annhebyg hyd yn oed yn y pethau y maent yn ymdebygu fwyaf. Courier yw'r mwyaf ysmala, ond Pascal yw'r mwyaf urddasol. Dirmyg sy dan wawdiaith Courier, ond digllonedd a difrifoldeb sy dan wawdiaith Pascal. Courier sy'n tynnu mwyaf o waed, ond Pascal sy'n peri mwyaf o gleisiau. Pascal yw'r sgrifennwr llyfnaf, ond Courier yw'r un hoywaf. Er mai yn llyfrynnau y cyhoeddodd Pascal ei "Lythyrau at ŵr o'r wlad," ac er mai yn ffurf llythyrau a llyfrynnau y sgrifennodd Courier hefyd, eto ar ôl eu casglu ynghyd gwnaethant ddau waith yr ydys erbyn hyn yn eu cyfrif yn glasurol. "Y crach-awdur brwnt" y gelwid Courier gan y dosbarth llywodraethol. "Ysgentyn cellweirus, cablaidd," y galwai'r Iesuaid Pascal. Credai, neu o leiaf, cyhoeddai gelynion Pascal a Courier mai byrhoedlog fyddai cynhyrchion y naill a'r llall; ond byw ydynt eto, a byw fyddant tra bo byw'r Ffrangeg. Yr oedd yn y ddau gymaint o awen (genius) fel y gwnaethant bethau a oedd dros amser yn bethau dros byth, a phethau lleol yn bethau diddorol i bawb.
Ni wn i am un sgrifennwr yn sefyll yn gymaint ar ei ben ei hun â Paul-Louis Courier. Nid oes un ddalen o'i waith y gellid ei phriodoli i neb arall. Y syniadau, y teimladau, y rhagfarnau, a'r dulliau ymadrodd, delw eu hawdur sydd arnynt i gyd. Ac yr oedd y neilltuolrwydd hwn yn perthyn yn naturiol iddo ef. Y mae'n sgrifennu mor hynod, yn ei ffordd, â Carlyle, a hynny heb beidio â bod yn naturiol a dirodres. Nid arddull wneuthur mo'i arddull ef, fel yr eiddo creawdwr y "tragwyddoldebau," yr
"anfeidroldebau," y distawedigaethau," a'r "gorfawreddau." Yr oedd ganddo yntau ei gynlluniau, yn wir; ond y Groegiaid oedd y rhai hynny, ac nid yr Ellmyn. "Junius" yw'r tebycaf iddo yn y wlad hon. Yn erbyn gormes rhai mewn awdurdod y sgrifennai'r ddau. I newyddiadur y sgrifennodd "Junius "; felly Courier hefyd, gan mwyaf. Yr oedd y ddau yn sgrifennu'n gryno ac yn finiog. Nid oes gan Courier lai o saethau yn ei gawell nag sy gan "Junius," ond nid yw ef, fel "Junius," yn eu gwenwyno—digon yw ganddo ef eu blaenllymu'n dda. Nid yw chwaith yn torri ei ymadroddion mor unffurf â "Junius." Y mae "Junius" mor watwarus ag yw Courier, ond nid yw mor chwareus. Bustl, ac nid halen, yw gwatwariaeth, oni bydd afiaith gyda hynny. O eisiau'r elfen iach, siriol hon, ni allai "Junius" chwerthin ei hun, na pheri i eraill chwerthin chwaith. Os yw "Junius" yn gwenu o gwbl, gwenu â'i drwyn y mae, ac nid â'i enau.
Sgrifennai "Junius" yn erbyn y gwŷr mwyaf pendefigaidd a chyhoeddus; am hynny, yr oedd gan ei lythyrau ef fwy o fantais i redeg ymhell o ran amser a lle na rhai Courier; canys nid yn erbyn uchelwyr Paris y sgrifennai Courier yn gyffredin, eithr yn erbyn llywodraethwyr gormesol ei ardal ei hun: yn erbyn y meiri, y cyngor, a'r offeiriaid; yn erbyn pobl nad oes odid neb ohonynt yn adnabyddus i genhedloedd a chenedlaethau eraill. Y mae lle i feddwl ddarfod i rai o'r boblach hyn wneuthur camwri er mwyn cael anfarwoli eu henwau mewn rhyw lythyr gogan o waith Courier. Diamau iddo lwyddo i wneud enwau'r Meistri Furia, Jomard, a de Beaune, yn fwy adnabyddus nag y gwnaeth "Junius" enwau Duc Grafton, Arglwydd Granby, a Syr William Draper. Ychydig fuasai yn ymddiddori yn awr yn llythyrau "Junius" oni bai am y cablu urddas sydd ynddynt. Diau y buasai pob llenor Saesneg yn eu darllen er mwyn eu Saesneg coeth; ond y gwir ydyw mai yr enllibio sydd ynddynt sy'n eu gwneud yn gymeradwy gan y lliaws. Y mae Courier yn ysgrifennu agos mor "bersonol " â 'Junius," ond ni buasai pobl mewn gwledydd eraill yn ymhyfrydu nemor mewn cyfeiriadau at bersonau anhysbys, oni bai fod yn ei sgrifeniadau ef rywbeth sy'n eu gwneud yn werthfawr ar wahân i amser a lle.
Y mae'r casgl o sgrifeniadau Courier yn cynnwys nid yn unig y llythyrau a ymddangosodd mewn newyddiaduron, ond hefyd ei lythyrau cyfrinachol at ei geraint a'i gyfeillion; ei raglith i waith Herodotus, a'i gyfieithiad o ran o'r gwaith hwnnw; ynghyd â chyfieithiad diwygiedig o'r chwedl swynol Daphnis a Chloe, o waith y Groegiad Longus. Er ei fod yn un o'r Groegwyr gorau yn ei oes, a'r ysgrifennwr Ffrangeg gorau oll, eto ni chafodd ei dderbyn yn aelod o'r Académie. Heblaw nad oedd yn ysgolor graddedig, nid oedd chwaith yn ddigon o ddyn clig a chlwb i fod yn gymeradwy gan ei gyd-lenorion. Am hynny, dyn cyffredin a byrhoedlog ei enwogrwydd, ac nid ef, a gyfrifwyd ymhlith yr "Anfarwolion "; oherwydd paham y dywedodd ef wrtho'i hun ar ôl cael ei wrthod: "Ni byddi di byth yn neb na dim; hynny ydyw, ni byddi na phlismon, na chasglwr trethi, na sbïwr, na duc, na gwastrodyn, nac yn aelod o'r Académie. Paul-Louis fyddi, a dim amgenach. Gresyn!
Os myn y darllenydd wybod pa le a pha bryd y ganwyd Courier, a ffeithiau cyffelyb, tröed i eiriadur. Digon yw i mi ddywedyd ei fod wedi byw dan y Weriniaeth gyntaf, dan Ymerodraeth Napoleon y Cyntaf, ac wedi hynny dan Frenhiniaeth y Bourboniaid. Gwinllannwr ydoedd wrth ei alwedigaeth; ac oherwydd hynny y mae cymaint o arogl y maes ar ei sgrifeniadau. Bu am rai blynyddoedd yn bennaeth ar fintai o fagnelwyr yn y Fyddin; ond ni ragorodd fel milwr, am fod yn gas ganddo ryfel. Darllen llyfrau Groegaidd oedd ei hoff waith ef yn y maes: a phan fyddai yn Rhufain, Ffloren, Napel, neu Vienna, treulio'i ddyddiau a wnâi mewn llyfrdai i chwilio am hen sgrifeniadau Groegaidd.
Bywyd helbulus a gafodd. Cafodd ei ddirwyo dro ar ôl tro, a'i daflu fwy nag unwaith i garchar; a thra oedd yno, byddai'n paratoi rhyw lith a'i dygai yno drachefn. Costiodd ei annibyniaeth yn ddrud iddo. Nid oedd ei sgrifeniadau yn dwyn dim elw iddo. Cyhoeddai a lledaenai hwynt ar ei draul ei hun. Ond nid oedd ei elynion am fod yn hir yn ei ddyled. Ryw noson, ac ef eto ond dwy a deugain oed, fe'i saethwyd am ei boen.
Gan ei fod yn y Pamphlet des Pamphlets yn ei ddarlunio ac yn ei gyfiawnhau ei hun, gadawaf bellach iddo ef lefaru:
Sgrifennodd ataf fy nghyfaill Syr John Bickerstaff yr hyn yr ydwyf ar fedr ei gyfieithu ichwi yn union deg. Gŵr hynod yw hwnnw—athronwr, llenor gwych, a phleidiwr mawr i ddiwygiad, nid Seneddol yn unig, eithr cyffredinol hefyd; canys mynnai ef adlunio holl lywodraethau Ewrop, am na thâl yr orau ohonynt nemor, medd ef. Gŵr gweddol o gyfoeth ydyw, wrth lawer o bendefigion ei wlad ef; er hynny, y mae ef yn gwbl foddlon ar ei ran; ac yn y cymes (mediocrite) hyfryd hwn yr oedd yn byw, pan ddarfu i weinyddion y wladwriaeth, wrth weled ei fod yn ddyn hylaw, hynaws, ei annog i fyned i'r senedd. Gyda'i fod yno, dechreuodd daranu a stormio yn erbyn treuliau'r llys, y llwgr a'r segurswyddau. Tybiwyd mai eisiau ei ran ohonynt oedd arno; ac am hynny cynigiodd y gweinyddion iddo le, yr hwn a gymerodd yntau; a rhoesant iddo swm cyfatebol i'w olud, yn ôl arfer llywodraethwyr o roddi mwy i'r neb y bo mwy ganddo. Cyn gynted ag y cafodd ef yr arian, dychwelodd i'w etifeddiaeth; a chynullodd ato'r llafurwyr a'r tyddynwyr a holl amaethwyr y sir, a dywedodd wrthynt: Cefais afael yn ffodus iawn ar gyfran o'r hyn yr ydys yn ei ddwyn oddi arnoch i gadw chwiwgwn a diogod y llys. Dyma'r arian, ac yr wyf ar fedr eu hadferu yn anrhydeddus. Dechreuwn hagen hefo'r rhai tlotaf. Tydi, Pedr, pa faint a delaist y flwyddyn hon? Cymaint â hynny, dyma hwy. Tydi, Paul; chwychwi, Isag ac Ieuan, pa faint yw'ch dogn?" Wedi iddo gyfrif yr arian a rhannu'r cwbl, dychwelodd i Lundain, a chan feddiannu ei swydd newydd, ymosododd yn gyntaf dim i ryddhau pob dyn ar a oedd mewn dalfa am ddywedyd gormod o'r caswir yn erbyn y mawrion a'r gweinyddion; a hynny a wnaethai hefyd, canys yr oedd ei le yn rhoi iddo'r gallu, oni buasai ddarfod ei fwrw allan.
Bu ef ar ôl hyn yn ymdeithio; a sgrifennodd ataf o Rufain fel hyn: Cymerwch eich beio, eich dyfarnu, eich carcharu; cymerwch eich crogi, ond cyhoeddwch eich barn. Dyletswydd yw hyn ac nid braint; canys y mae dyled ar bob un y bo barn ganddo i roi llafar iddi, er mwyn lles y lliaws. Y mae'r gwir yn bob peth i bawb. Pa beth bynnag a wyddoch y sy'n fuddiol, yn dda i bob dyn ei wybod, nid yw rydd ichwi gelu hynny yn ôl na rheswm na chydwybod. Dyn sgeler o'r mwyaf fuasai Jenner, y bufrechwr cyntaf, pe cadwasai ei gyfrinach am un awr; a chan nad oes neb heb gredu bod ei syniadau ei hun yn fuddiol, nid oes neb heb fod yn rhwymedig i'w mynegi a'u taenu trwy bob ffordd ddichonadwy iddo. Y mae llefaru yn dda, sgrifennu yn well, argraffu yn beth rhagorol. Syniad wedi ei draethu mewn ymadroddion cryno a golau, hefo thystiolaethau, prawfysgrifau, ac enghreifftiau, pamffled yw pan ei hargraffer; a'r weithred orau, yr wrolaf yn fynych, y gall dyn ei gwneuthur er mwyn y byd. Canys os da fydd eich syniad, ceir budd oddi wrtho; os drwg, fe'i cywirir, a cheir budd oddi wrtho fyth. Ond y camarferiad, meddwch; wfft i'r gair, meddaf i; y rhai a'i dyfeisiodd, hwynt—hwy sy'n camarfer y wasg, wrth argraffu'r hyn a fynnont, gan dwyllo a difenwi, ac atal dynion rhag gwrthateb. Y mae ganddynt hwy eu rhesymau, dealler, am ddyrchafu eu llef yn erbyn pamffledau, llyfrynnau, a newyddiaduron. Y mae gennyf innau fy rhesymau; ac fe fynnwn pe cyhoeddai pawb yr hyn oll a synio ac a wypo. Yr un modd y gwaeddai'r Iesuaid yn erbyn Pascal; a diau y buasent yn ei alw yn bamffledwr, ond nid oedd y gair yn bod eto; am hynny fe'i galwasant yn ufferngi (tison d'enfer), yr un peth yn iaith penboethyn. Dyn a ddywedo'r gwir ac a gaffo wrandawiad y mae'r enw hwn bob amser yn ei arwyddo. Atebasant ei bamffled ef yn gyntaf oll trwy bamffledau eraill; wedyn trwy lettres de cachet, sef trwy dra-awdurdod, a thyciodd hyn iddynt yn llawer gwell. Dyma, gan hynny, yr ateb y byddai'n wiw gan yr Iesuaid a'r galluogion ei roi i bamffledau.
Gellid meddwl, hagen, wrth eu siarad, mai bychan o beth oedd hynny ganddynt; diystyru a wnaent y mân lythyrau, am nad oeddynt ar y gorau, meddent hwy, yn ddim amgen na chroesanaethau brwnt i ddifyrru munud o amser trwy athrod a gogan; ysgrifau diwerth, disylwedd, a ddarllenid yn y bore ac a anghofid erbyn yr hwyr; ar air, pethau annheilwng ohono ef, y fath ŵr, y fath lenor! Yr oedd yr awdur yn ei ddarostwng ei hun wrth dreulio'i amser a'i ddoniau i sgrifennu dalennau yn lle llyfrau, ac i droi pob peth yn gellwair, yn lle rhesymu yn ddifrifol; dyna'r edliwiad a ddygent yn ei erbyn, hen edliwiad arferol y sawl na bo'r chwarddwyr o'u tu. Pa beth a fu? Gwnaeth cellwair, gwnaeth gwatwar miniog Pascal yr hyn ni allodd deddfau a dedfrydau, gwnaeth i'r Iesuaid ffoi yn archolledig o bob man. Er ysgafned y dalennau hynny, llethasant y corff cryf hwn. Darfu i bamffledwr, dan chwarae, ddymchwelyd y ddelw fawr hon, a arswydid gan frenhinoedd a phobloedd. Ni chyfyd mwyach y Gymdeithas syrthiedig, pa faint bynnag a ateger arni; ac erys Pascal yn fawr yng nghoffadwriaeth dynion, nid oblegid ei weithoedd dysgedig, ei drogyrfen (roulette), ei brofiadau, eithr oblegid ei bamffledau, ei fân lythyrau.
Nid y Tuscalanodau a enwogodd Ciceron, eithr ei areithiau, gwir bamffledau. Ymddangosasant yn ddalennau hedol, heb eu rholio o amgylch ffon, yn ôl yr arfer y pryd hwnnw, gan na thraethwyd mo'r rhan fwyaf a'r rhai gwychaf ohonynt. Pa beth oedd ei Caton amgen na phamffled yn erbyn Cesar, yr hwn a atebwyd yn ddiau yn dda iawn, fel ag y medrai ef, ac fel dyn deallus, teilwng i gael ei wrando hyd yn oed ar ôl Ciceron. Yn ddiweddarach dreliwyd un arall mewn dalen arall, a chan ei fod yn ŵr ffyrnig, a heb feddu sgrifell Cesar na'i gleddyf chwaith, atebodd hwnnw'r pamffledwr Rhufeinig trwy orchymyn ei ladd. Esgymuno, erlid, dyna'r daledigaeth gyffredin i'r neb a feiddio ddywedyd ei hun y peth a synio pawb. Yr un modd y trengodd o'i flaen ef bamffledwr mawr Tir Groeg, sef Demosthen, yr hwn y mae ei Philipodau yn parhau hyd heddiw. Bychan hagen fuasai eu dylanwad ped ymfoddlonasai ef ar eu llefaru wrth yr ychydig bobl a allai eu clywed a'u deall mewn cymanfa; ond wedi eu sgrifennu, yr oedd pawb yn eu darllen; ac yr oedd y pamffledau hyn, yn ôl addefiad y Macedoniad ei hun, yn peri mwy o rwystr iddo ef na holl arfau Athen.. [2]
Er bod y rhan fwyaf o'r darnau a ddyfynnais uchod o'r Pamphlet des Pamphlets wedi eu dodi yng ngenau Syr John Bickerstaff, eto y mae'n amlwg mai geiriau Courier ei hun ydynt. Yn niwedd y pamffled hwn y mae'r awdur yn rhagdebygu na byddai farw mewn heddwch; canys y mae'n dywedyd:
Yr wyf yn credu ddarfod fy ngwneuthur i ddilyn Socrat hyd y diwedd. Na, trowch y cwpan hwn heibio; chwerw yw'r cegid; ac y mae'r byd ohono'i hun yn ymddiwygio digon heb i mi, druan, ymhel ag ef. Pryf fyddwn i ar y cerbyd a âi rhagddo yn burion heb fy hymian i. Myned y mae e, gyfeillion cu; ac ni phaid â myned. Os yw ei fynediad yn ymddangos i ni yn araf, y mae hynny am mai dros funudyn yr ym yn byw. Ond gymaint o ffordd a dramwyodd er pump neu chwe chanrif!
Os metha gan ryw ddarllenydd weled na phryd na thegwch yn yr esiamplau a roddwyd o waith Courier, priodoled hynny i ddiffyg chwaeth ynddo'i hun, neu ynteu i ddiffyg medr yn y cyfieithydd.