Neidio i'r cynnwys

Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II/Plicio Gwallt yr Hanner Cymry

Oddi ar Wicidestun
Gwersi i Sgrifenwyr a Siaradwyr Ieuainc Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II

gan Robert Ambrose Jones (Emrys ap Iwan)

Anerchiad ar Ganiadaeth


PLICIO GWALLT YR HANNER CYMRY

(TALFYRIWYD)

A'u plant hwy oedd yn llefaru y naill hanner o'r Asdodeg, ac heb fedru ymddiddan yn iaith yr Iddewon, ond yn ôl tafodiaith y ddeubar bobl. Yna yr ymrysonais â hwynt, ac y melltithiais hwynt; tarewais hefyd rai ohonynt, ac a bliciais eu gwallt hwynt. —Neh. xiii. 24 a 25.

Yng ngolwg llenor, y mae'r drwg a wnaeth sectyddiaeth i lenoriaeth Cymru yn fwy na'r drwg a wnaeth hi i grefydd a gwladoldeb, am ei bod hi, trwy lygru iaith y Cymry, wedi llygru eu chwaeth hefyd, ac anafu eu deall; ac felly eu rhwystro i ragori mewn dim. Y mae'r hen iaith Gymraeg, sydd eto'n fyw yng nghilfachau'r mynyddoedd, yn dysgu'r rhai sy'n ei siarad i feddwl yn fanwl heb beidio â bod yn hoyw; ond am yr iaith Gymraeg newydd, a sgrifennir gan salw lu y mân gyfieithwyr, nid yw honno dda i ddim ond i gadw'r mân gyfieithwyr yn ddiddos, ac i ddwyn tipyn o elw i'w meistriaid. "Oes y byd i'r iaith Gymraeg," medd beirdd mwyaf cwrw-garol yr Eisteddfod. Ie, ond fe fynnai gwŷr mwy athronyddol eu meddwl wybod pa Gymraeg a olyga'r beirdd hynny. Ai Cymraeg rhai ohonynt hwy eu hunain, ai ynteu Cymraeg Cymreigaidd eu teidiau? Os eu Cymraeg hwy eu hunain, yna, meddaf i, trenged y Gymraeg gyda'r genhedlaeth hon. Er y bûm i, trwy eiriau teg a geiriau tost, yn annog y Cymry i lynu wrth eu hiaith, pan oedd agos pawb o'r rhai a dybid eu bod yn benaethiaid y bobl yn proffwydo—ie, yn dymuno—ei thranc buan, eto nid euthum yn rhy ragfarnllyd i addef y buasai'n well gennyf, o'r ddau, weled fy nghydwladwyr yn arfer Saesneg gwych na Chymraeg gwael. Ac nid wyf chwaith yn rhy ragfarnllyd i addef yr awr hon eto, mai yn nhŷ ei charedigion yr archollwyd ac y llurguniwyd yr hen Gymraeg mor echryslon. Pan amlhaodd yr ymbleidiau crefyddol yng Nghymru, yr oedd yn rhaid iddynt gael rhyw fath o gewri i'w harwain i ryfel yn erbyn ei gilydd. Ac yn y dyddiau hynny, cawr y gelwid pob corrach a safai dipyn yn uwch, ac a allai ddifenwi'n fwy haerllug na'i gyd—gorachod. Am hynny y cynhyrfwyd llawer o lafurwyr annysgedig gan ryw ysbryd neu'i gilydd i droi eu pladuriau yn gyllellau papur, a'u sychau yn binnau ysgrifennu. "Alexander y gof copr a wnaeth i mi ddrygau lawer," ebe Paul; felly, yr un modd, pan ymwthiodd gofaint a chryddion, seiri maen, seiri coed, a seiri clobos Ymneilltuol i gadeiriau hen Gymreigwyr trylen Eglwys Loegr ac Eglwys Rufain y dechreuwyd gwneud i'r Gymraeg y drwg sydd erbyn hyn, gobeithio, wedi cyrraedd ei eithaf. Yn Hanes Llenyddiaeth Gymreig, fe ddywed Gweirydd ap Rhys, ar ôl rhoi enghreifftiau helaeth o chwedlau Bown o Hamtwn ac Amlyn ac Amic:

Dyna ddigon, a gormod hefyd gan rai, ond odid, o'r sothach coelgrefyddol ac anwireddus yna; ond gwasanaetha i ddangos â pha fath lenyddiaeth ac addysg bwdr y porthid ein hynafiaid gan yr offeiriaid Pabaidd twyllodrus; a dylai [ni ddangosir trwy enw na rhagenw pa beth a ddylai] ein llenwi â diolchgarwch diffuant am y cyfnewidiad dymunol. etc...etc,

(tud. 77).

Y mae'n chwith gweled teimlad gwrthgatholig hanesydd mor ddiwyd yn gorfod mor fynych ar ei farn lenorol, a hyd yn oed ar ei deimlad cenedlgarol; canys y mae'n ymddangos na fyn ef ddim cyfrif yr "offeiriaid Pabaidd " ymhlith "ein hynafiaid." Diau fod chwedlau bwganod Gweirydd, fel pob chwedlau, yn ddigon anwireddus, a'u haddysg ond odid weithiau'n bwdr; er hynny, nid sothach mohonynt, ond llenyddiaeth o'r fath uchaf, ac o ran dychymyg, iaith, ac arddull, nid oes gennym ddim yn yr oes hon i'w gystadlu â hwynt. Onid yw Hanes y Ffydd gan yr Eglwyswr Efengylaidd, Charles Edwards, mor anwireddus, yn ôl ei faint, â Hanes y Merthyron gan Fox? Beth er hynny? Y mae'r llyfr yn werthfawr gan bob llenor Cymraeg. Nid gweddus i Brotestaniaid edliw i Gatholigion eu celwyddau; canys fe eddyf Dr. Chillingworth, un o bencampwyr Protestaniaeth, fod yr achos Protestannaidd yn cael ei gynnal yn awr, ac wedi ei gynnal o'r dechreuad, gan wrthun gelwyddau ac enllibiau, o'r hyn y mae eu prif ysgrifenwyr dadleuol yn euog mewn modd hynodol." Hyn, debygaf i, ydyw'r unig wahaniaeth rhwng yr hen chwedlyddion Catholig a'r rhai Protestannaidd, sef bod y Catholigion yn llunio eu celwyddau yn fwy celfydd, ac yn eu hadrodd yn fwy swynol na'r Protestaniaid. Ysbryd gwerinaidd yr Ymneilltuwyr mewn materion eglwysig a gwladwriaethol sy'n eu gwneud mor gyffredin; a'u gwrthwynebrwydd dirmygus i'r hyn sy brydferth a lluniaidd sy'n gwneud eu llyfrau mor anniddorol i'r llenor, a'u teisi gwair o gapelau mor anniddorol i'r galofydd (architect). Ond y maent yn ymwellhau'n gyflym, a hynny trwy fod gwybodaeth helaethach yn eu dysgu hwynt i edmygu'r hyn yr oeddynt gynt yn ei ddirmygu.

Diau y buasai'r sothach dadleuol yr esgorodd sectyddiaeth arno wedi marw yn yr esgoreddfa, a myned i ffordd yr holl bapur, oni buasai fod teimlad perthynasol y fam a'r holl deulu yn eu cymell hwynt i arfer pob moddion i'w gadw'n fyw. Rhaid yw i sect gael rhywbeth a gamenwir yn llenoriaeth cyn bod ganddi gymaint ag un llenor; a hyn, meddaf eto, ydyw gwreiddyn y drwg.

Er bod gan y sectau fwy o wŷr dysgedig yn awr nag a fu ganddynt o'r blaen er dyddiau tadau cyntaf y Methodistiaid, eto ychydig iawn iawn sy ganddynt o ddynion digon diwylliedig i allu sgrifennu Cymraeg yn weddol goeth. Gan fod rhai ohonynt yn B.A.-od, yn M.A.-od, ac yn D.D.-od, rhaid credu y buont mewn rhyw fangor neu'i gilydd, yn astudio deddfau rhesymeg, os na buont yn astudio deddfau'r Gymraeg; ond ni feddyliai neb mo hynny wrth chwilio a chwalu eu brawddegau; ac oherwydd hyn, y mae'n anodd i ambell lenor gwladaidd beidio â gofyn i ba beth y mae addysg athrofaol yn dda, os nad yw hi'n coethi'r meddwl. Mi a adwaen ychydig ohonynt a allai'n wir fyned yn burion trwy arholiad mewn gramadeg, na allent er hynny, naill ai o eisiau dawn naturiol, neu ynteu o eisiau cynefindra â'r sgrifeniadau gorau, ddim ysgrifennu llythyr Cymraeg yn gystal ag y gall llawer tramorwr. Ond nid am hyn yn gymaint yr wyf i'n beio arnynt, ond am eu hyfdra yn cyhoeddi eu Cymraeg gwael cyn ymdrafferthu i ddysgu Cymraeg gwell. Os na fynnant drugarhau wrthynt eu hunain, dylent drugarhau wrth eraill. Hybarch beriglor marchog penchwiban La Mancha, a fynnit ti losgi eu hysgrifeniadau i gyd? I gyd, i gyd, a chwaneg hefyd.

Y mae rhai, nad ydynt na Solomoniaid na Miltwniaid, cystal â dweud fel esgus fod y Gymraeg yn iaith rhy dlawd i arddangos y meddyliau mawreddig a'r teimladau dyfnion sy'n ymweithio ynddynt hwy, a bod yn rhaid iddynt gan hynny, er mwyn cyfrannu eu cyfoeth i'r byd, fenthyca lliaws o eiriau a phriodebion Saesneg. O! druain; y chwi sy'n dlawd. Y mae'r Gymraeg mor oludog o eiriau ac ymadroddion fel mai dewis ac nid dyfeisio ydyw anhawstra mawr y rhai sy'n ei medru. Tybed eich bod mor fawr ag yr ydych chwi eich hunain yn meddwl eich bod? Ie, tybed eich bod mor fach ag y mae eraill yn meddwl eich bod? Credu yr ydwyf i mai diogi a diofalwch ydyw eich beiau pennaf. Pan fyddwch yn troi rhywbeth o'r Gymraeg i'r Saesneg, byddwch yn ymdrafferthu i chwilio Gramadegau a Geiriaduron a Mynegiaduron; a chywilyddus fyddai gennych droi "ar ei ben ei hun" yn on his own head. Ond yr ydych yn tybied ei bod yn rhydd ichwi wneud fel y mynnoch â'ch iaith briod, fel y dengys yr enghreifftiau a roddaf ymhellach ymlaen. Y mae yn y Dywysogaeth ar hyn o bryd dri math o Gymraeg, sef (1) Cymraeg darllenwyr y Beibl a'r hen lyfrau, (2) Cymraeg darllenwyr y newyddiaduron a llyfrau diweddar, ac yn (3) Cymraeg Wesleaidd, sydd yn fath o Gymraeg "gneud," ac yn bur wahanol ei sŵn a'i sylwedd i Gymraeg cyffredin. Pan oeddwn yn fachgen, mi a feddyliwn mai rhyw iaith gyfrin o fath ffregod yr Aifftwys a'r Seiri Rhyddion oedd y Cymraeg hwn,[1] a'i fod wedi ei arfaethu i guddio athrawiaethau Mr. Wesley oddi wrth y byd (Cymreig) deallus, a'u datguddio i'r rhai bychain etholedig. Ond pan euthum yn ŵr, deellais nad oedd y brodyr Wesleaidd ddim yn credu eu bod hwy na neb arall wedi eu hethol yn ddiamodol; eu bod hwy yn anad un cyfundeb arall â'u hwyneb tuag at y byd, yn bawb ac yn bopeth, ac na buasai ddim yn waeth ganddynt pe buasai holl Galfiniaid Cymru yn deall ac yn derbyn eu hathrawiaethau—tan yr amod eu bod yn dysgu eu Cymraeg gwneuthur. Fe ddywedir wrthyf i fod siaradwyr y Cymraeg hwn yn deall ei gilydd yn rhyfedd iawn; neu o'r hyn lleiaf yn meddwl eu bod; ond gan nad wyf i yn eu deall, ni chynigiaf droi'r enghreifftiau a yrrwyd imi o'u Cymraeg hwy i Gymraeg cynefin. Y mae'n dda gennyf dystiolaethu bod y Cymraeg hwn yn darfod o'r tir fel y mae dynion yn myned yn gallach ac yn ddysgedicach. Heblaw hynny, y mae gorfod i bobl yn y dyddiau hyn fod mor brysur fel y mae cyn gased ganddynt roddi amser i ymegnïo i ddysgu Cymraeg gwael ag i ymegnïo i ddysgu Cymraeg gwych. Y maent yn teimlo y gallant siarad ac ysgrifennu'n llawn digon gwrthun heb geisio.

Am Gymraeg y rhan fwyaf o'r newyddiaduron, yr wyf wedi llwyddo erbyn hyn i'w ddeall yn burion, ac os myn y cyffredin hefyd ddysgu ddeall mewn agos cyn lleied o amser ag a fyddai'n angenrheidiol iddynt i ddehongli'r Gododdin, mi a ddangosaf iddynt y ffordd:—Yn gyntaf oll, tynner allan yr holl eiriau llanw a'r holl ymadroddion chwyddedig; ac os bydd ar ôl hynny ryw nifer o eiriau'n aros ar y papur, troer hwynt o air i air, ac o sillaf i sillaf, i'r Saesneg. Hyn heb newid dim ar drefn y geiriau a wna Saesneg gweddol. Yna troer yr ymadroddion drachefn i'r Gymraeg yn ôl deddfau ac anian yr iaith. Fe welir oddi wrth hyn mai'r cwbl sy'n angenrheidiol tuag at ddeall Cymraeg newyddiadurol ydyw amser, amynedd, a gwybodaeth o'r Saesneg.

Rhaid addef bod ein Geiriaduron yn gyfrifol am lawer o'r geiriau anferth a arferir yn y newyddiaduron Cymraeg. Heb grybwyll am yr enghreifftiau gwrthunaf, megis "cerbydres," "tanysgrifres," restr tanysgrifiadau," onid cyfieithiad clogyrnaidd o eiriau, o sillaf i sillaf, yn hytrach na geirlun neu Gymreigiad o'r pethau a ddynodant, ydyw'r rhan fwyaf o'r enwau swyddol a geir yn y geiriaduron hynny? A phan arferer gair cyffredin, y mae'n anodd dirnad paham yr arferir hwnnw yn hytrach na gair cyffredin arall mwy penodol a mwy perthnasol. Paham, er enghraifft, y cyfieithir ministry, yn ei ystyr gwladwriaethol, yn "weinyddiaeth," a ministers, yn yr un ystyr, yn "weinidogion"? Onid cysonach fyddai galw aelodau'r weinyddiaeth yn weinyddion? A phe gwneid hynny, anfynych y byddai raid amlhau geiriau i wahaniaethu rhwng "gweinidogion y wladwriaeth a gweinidogion y Gair. Ac yn lle manwl gyfieithu yr hen enwau amrosgo sydd ar swyddau'r gwahanol weinyddion, oni byddai'n well dynodi eu swyddau ag enwau mwy syml a phenodol, megis Gweinydd y Cyllidau, yn lle Canghellydd y Trysorlys"; Gweinydd Masnach, yn lle "Llywydd y Bwrdd Masnach"; a Gweinydd y Llynges, yn lle "Prif Arglwydd y Morlys "? Y mae'r enwau hyn yn gymaint haws i'w deall, i'w cofio, ac i'w llefaru, fel y perid hwylustod i laweroedd, ac na pherid rhwystr i neb, ped arferid hwynt yn lle'r rhai arferol. Y mae gennyf i bob dyledus barch i hen arfer gyffredinol, ond nid i arfer ddrwg nad yw hi na hen na chyffredinol.

Ond beiau dybryd yn erbyn anian yr iaith ymhob cyfnod arni, ac nid beiau maddeuadwy y gellir dwyn drostynt awdurdod geiriaduron a gramadegau diweddar, yr wyf yn bwriadu eu dinoethi a'u cywiro, canys nid gwiw ymdroi i hidlo gwybed pan fo cymaint o lyncu camelod. . .

I gyfeillion y mae gorfod arnynt wrth eu swydd ddarllen papureuach a llyfreuach diweddar y mae arnaf ddiolch am gasglu'r rhan fwyaf o'r ymadroddion yr ydys yn eu cywiro. Y mae rhai ohonynt mor wrthun fel y'm sarhawn fy hun, a darllenwyr "Y "GENINEN"" hefyd, pe gwnawn fwy na'u cyhoeddi er mwyn peri syndod. Cymerer y rhai hyn yn enghreifftiau:

Yr oedd [ef] wedi dweud y gallai gwrthryfel fod yn gyfiawnhaol mewn achos tebygol o ormes. I atal yn y dyfodol ychwanegiad o anghenraid o gapelau.

Addefai y diffynnydd iddi gyhoeddi yr athrod haeredig, ond pleidiai gyfiawnhad.

Y datblygiad diweddaf yn ngwaith y gymdeithas hon ydyw sefydliad clwb.

Y mae Mr. Jones yn edrych arno ei hun fel math o ferthyr argyhoeddiadau cydwybodol parthed y cwestiwn duwinyddol o dragywyddol gosb.

Bu gweinidog yr eglwys yn foddion trosglwyddiad dymuniad i Mr. Jones am iddo ar unwaith ymddiswyddo.

Un o'r pethau mwyaf eithafol ddigywilydd a digydwybod.

Polisi y parti ddylai fod. . .

Yr ydym yn llafurio dan anhawster.

"Y mae gennym lawer o broblems i'w solvio—Oes, y mae, ond ystyriwch, fy nyn bach i, ei bod yn anos "solvio problems" hyd yn oed, na throi'r ddau air i'r Gymraeg.

Efallai fod ychydig o'r ymadroddion sydd isod bron cyn wrthuned â'r rhai sydd uchod; ond gan fy mod yn tybied nad ydynt hwy mor anarferol, y mae mwy o reswm am eu cywiro. Er mwyn cyfleustra yr wyf yn dosbarthu'r holl eiriau a'r ymadroddion sydd yn awr o'm blaen o dan wahanol bennau a fwriedir i ddangos y bai amlycaf sydd ar bob enghraifft, ac nid pob bai. Canys mi a gymerwn fwy na'm rhan o'r "GENINEN" pe gosodwn frawddeg ag arni chwaneg nag un bai o dan chwaneg nag un pen.

1.—Rhoi enwau Saesneg, neu ynteu Seisnigaidd, ar leoedd Cymreig a lleoedd, etc., tramorol, megis:

Bridgend yn lle Pen y Bont; Menai Bridge yn lle Porth Aethwy; Greenfield yn lle Maes Glas; South Stack yn lle Ynys Lawd; Skerries yn lle Moelrhon; Ponkey yn lle y Ponciau; Ruabon yn lle Rhiwabon; Spire a Rhine yn lle'r ffurfiau Ellmyneg a mwy Cymreigaidd, Speier a Rhein; Danube yn lle Donaw; yr Appennines yn lle'r Apeninnau; Crete yn lle Creta; Belgium yn lle Belg; Norway yn lle Norwy.

2.—Cyfuno geiriau gwahanol, ac felly roi achos i'r Saeson ac i Gymry dynwaredol gamgyfleu'r acen, megis:

Penybont (a seinir gan lawer yn Penni-bont) yn lle Pen y Bont,[2] neu Ben-y-bont; Cwmyglo yn lle Cwm-y-glo; a channoedd o enwau eraill.

3.—Peidio ag arfer y cyfenw neilltuol y o flaen enw y bydd ef yn ei benodoli, ac yn newid ei ffurf, megis:

Rhyl, Rhiw, Fron, Groes, Foel, Goppa, Graig, Garn, Babell, Vaerdre, Borth, Garnedd, Bont Uchel, Waun, yn lle y Rhyl, y Fron, etc., etc.

4.—Esgeuluso newid cytseiniaid blaen ar ôl arddodiaid, megis:

o Bangor yn lle o Fangor; i Caernarfon yn lle i Gaernarfon; yn Dolgellau yn lle yn Nolgellau; trwy Conwy yn lle trwy Gonwy.

5.—Esgeuluso meddalu cytseiniaid blaen ar ôl berfau terfynol (finite verbs) ac ymadroddion rhagferfol ac eglurhaol, megis:

"Tywallta ar eu hysbrydoedd balm dy drugaredd" yn lle ". . . falm, etc."

"Cysura pawb sydd yn galaru " yn lle . . . bawb.

6.—Arfer terfyniadau amhriodol, megis:

Ieithyddwr, ieithyddwyr yn lle ieithydd, ieithyddion.

cyfarfyddodd ac adnabyddasai yn lle cyfarfu ac adnabuasai.

7.—Arfer geiriau amhriodol, megis:

Foneddigion a boneddigesau yn lle Foneddigion yn unig, am fod enwau ag iddynt y terfyniad —ion yn cynnwys y ddau ryw. Fe ellir sôn am foneddigesi pan fynner eu gwahaniaethu oddi wrth foneddigion gwryw.

Bonwr, bones, bonesau yn lle meistr, meistress, a miss.

Bonheddwr (nobleman) yn lle gŵr bonheddig (gentleman).

Tirddalwyr a taiddalwyr yn lle deiliaid tir a deiliaid tai.

Y cyhoedd yn lle pawb, neu y bobl, neu y cyffredin, neu ynteu y lliaws.

Tebygolrwydd (probability) yn lle tebygrwydd (likeness), ac weithiau tebygrwydd yn lle tebygolrwydd.

Presenoldeb meddwl yn lle parodrwydd meddwl, neu bwyll.

Papurau dyddiol' yn lle papurau beunyddiol.

Y mae digon o fynd ynddo yn lle . . . digon o ffrwt.

Yr wyf innau'n eilio'r cynigiad yn lle . . . cefnogi, etc."

Cymerwch eich siawns yn lle Cymerwch a ddelo, neu Deued arnoch a ddelo.

Y mae Barnes yn dywedyd i'r gwrthwyneb, yn lle . . . yn amgen.

Gobeithlu. Dyma air arall sy'n dyfod o gamsyniad am yr enw Saesneg Hope, nad yw amgen na Mr. Hope o Gaer Edin, sylfaenydd Cymdeithas Ddirwestol y Plant.

8.—Arfer geiriau estronol pan aller cael rhai Cymraeg, megis:

Highwater mark yn lle pen gorllanw; jointstock yn lle da cyd; impulsive yn lle ysgethrin; ergyd ricochet yn lle ergyd adlam; Jack of all trades yn lle Siôn bob swydd; cafodd relapse yn lle adglefychodd; yn ddiseremoni yn lle yn ddiymannerch; yn gorwedd in state yn lle . . . ar ei wely dangos; "y mae pressure lled fawr wedi ei ddwyn i weithredu arnynt," yn lle Bu cryn lawer o gymell arnynt; "y mae gan bob dyn ei hobby," yn lle . . . ei degan; "y mae ganddo interest mawr," yn lle Y mae ganddo fraich hir; "nid yw hyn yn fy line i," yn lle . . . fy ffordd i.

9.—Cyfieithu diarhebion Saesneg yn ôl y geiriau ac nid yn ôl yr ystyr, megis:

Gwneud rhinwedd o angenrheidrwydd," yn lle Cymryd cyngor gan angen, neu Droi rhaid yn rheswm.

"Cario glo i Newcastle," yn lle Dwyn dŵr dros afon, neu Iro blonhegen.

Gonestrwydd ydyw y policy gorau," yn lle Gorau callineb, cywirdeb; neu Ni lwydd a wneir drwy hoced.

"Y mae haelioni yn dechrau gartref," yn lle Nes elin nag arddwrn.

"Y mae gormod o gyfeillgarwch yn magu diystyrwch," yn lle Ni bydd rhybarch rhy gynefin. "Llawer o ddynion, llawer o feddyliau," yn lle Pawb a'i chwedl ganddo.

Rhoi'r cyfrwy ar y ceffyl iawn," yn lle Bwrw'r bai ar ei berchen.

10.—Arfer ymadroddion aneglur, megis:

"Carchariad Mr. Dillon a'r aelodau dros Gymru," yn lle Aelodau Seneddol Cymru a charchariad Mr. Dillon.

"Merched anffodus a thŷ annhrefnus" yn lle Puteiniaid a phuteindy.

"Cafodd hyd i'w feistr" yn lle Trawodd wrth ei drech.

"Dychrynodd y ceffylau" yn lle Dychrynodd ef y ceffylau, neu Fe ddychrynodd hyn y ceffylau. Mi allwn mewn ychydig iawn o amser gael hyd i gannoedd o ymadroddion mewn llyfrau diweddar sy'n amwys yn unig am nad oes rhagenw gyda'r ffurf ferfol a elwir er mwyn cyfleustra yn "drydydd person unigol."

11.—Arfer ymadroddion annestlus, megis:

Gwneuthur cais' a gwneud ymdrech yn lle ceisio ac ymdrechu.

"Gwnewch eich hun yn barod," yn lle Ymbaratowch.

"Dylent yn gyntaf eu gwneud eu hunain yn gymwys i'r swydd," yn lle . . . ymgymhwyso, etc.

Traddodi araith," yn lle areithio.

"Dyn wedi ei wisgo'n bur barchus," yn lle Dyn trwsiadus.

Anogodd ar fod yr holl amaethwyr yn cael eu galw ynghyd," yn lle Anogodd alw ynghyd yr holl amaethwyr.

"Yr wyf i'n hollol anghydnabyddus ag ef," yn lle Nid adwaen i mohono.

"Y mae'r cwestiwn wedi ei setlo yn yr Iwerddon er achlesiad anfesurol i amaethyddiaeth y wlad," yn lle Y mae'r pwnc wedi ei benderfynu yn Iwerddon, er dirfawr les i amaethyddiaeth y wlad honno.

"Y mae'n adlewyrchu cryn gredyd ar ei olygydd," yn lle Y mae'n peri (neu yn dwyn) clod nid bychan i'w olygydd.

"Y mae, fel yr awgrymwyd, y flwyddyn 1884 wedi esgor ar lawer o bethau," yn lle Fel yr awgrymwyd, fe ddigwyddodd llawer o bethau yn y flwyddyn 1884.

"Pasiwch yr halen" yn lle "Estynnwch yr halen."

"Yr oedd ei feistr yn ddyn o anianawd hynaws," yn lle Yr oedd ei feistr yn ŵr hynaws.

"Y mae'r gwleidyddwr hwn yn petruso rhwng y ddau barti," yn lle Y mae'r gwleidydd hwn yn bwhwman rhwng y ddwyblaid; neu yn nofio rhwng deuddwr.

Barnu ai a oedd yn bosibl iddynt ddyfod i gydwelediad," yn lle Barnu a allent hwy gytuno.

"Hi a dorrodd allan i nwyd fawr," yn lle Hi a frochodd.

"Nid oes gennyf i ddim i'w wneud ag ef," yn lle Nid oes a wnelwyf i ag ef.

Aeth y tân allan," yn lle Fe ddiffoddodd y tân. "Peidiwch â'ch gwneud eich hun mor ddieithr," yn lle Na fyddwch mor ddieithr.

"Y mae ef yn cario popeth i eithafion," yn lle Y mae ef yn eithafol ymhopeth.

"Dyma'r cyfraniad pwysicaf at orchwylion y cyfarfod," yn lle Dyma'r peth gorau a wnaed yn y cyfarfod.

"Y mae'n beth buddiol neilltuol i gael dyn ieuanc i actio ar ei orau," yn lle Gwych ydyw gweled dyn ieuanc yn gweithio â'i holl egni.

"Yr wyf yn meddwl mai'r cwrs gorau i mi ei gymryd " yn lle . . . mai gwell fyddai i mi.

"Y mae ef wedi syrthio mewn cariad â hi," yn lle Y mae hi wedi dwyn ei galon ef.

"Gofalwch am beidio â gwneud hynny," yn lle Edrychwch na wneloch chwi mo hynny.

'Hunan-ymwadu," yn lle Ymwadu.

"A chymryd yn ganiataol fod hynny yn wir," yn lle A bwrw (neu a rhoi) fod hynny'n wir.

"Y maent yn ddieithr i iaith a hanes y Cymry," yn lle Ni wyddant mo iaith na hanes y Cymry.

Eisteddodd i fyny wrth y tân trwy'r nos," yn lle Cadwodd ŵyl bentan.

12.—Arfer ymadroddion anghymreigaidd, megis:

"Y mae'n bleser mawr gennyf eich hysbysu," yn lle Y mae'n hyfryd iawn gennyf hysbysu ichwi. Begio y cwestiwn," yn lle Haeru peth cyn ei brofi.

"Y maent bob amser yn ei redeg ef i lawr," yn lle . . . yn lladd arno.

"Ni wnânt hwy ddirgelwch o'r mater," yn lle Nid ydynt hwy'n ceisio celu'r peth.

"A ydych chwi ar delerau da yn awr?" yn lle A ydyw hi'n dda rhyngoch yn awr?

Cymryd ar ôl ei thad yr oedd Ann," yn lle I'w thad yr oedd Ann yn ymdebygu.

"Nid yw Mr. Matthews mewn meddiant o'r holl ffeithiau," yn lle Ni ŵyr Mr. Matthews mo'r holl ffeithiau.

"Yr oedd ymhell o fod yn iach," yn lle Nid oedd ef (neu hi) yn iach o lawer.

"Y mae ef yn awr wedi ei ddychwelyd i'r senedd," yn lle . . . wedi ei ethol i'r senedd.

"Yr ydych at eich rhyddid," yn lle Y mae'n rhydd ichwi.

"Os try rhywbeth i fyny, dywedwch," yn lle Os digwydd rhywbeth.

"Wrth ddal cymdeithas â Duw," yn lle Wrth gymdeithasu â Duw.

"Pa fodd y mae pethau'n mynd gydag ef?" yn lle Pa fyd sydd arno? neu Pa lwyddiant sydd iddo?

"Y mae ef yn cadw oriau cynnar," yn lle Fe fydd ef yn dyfod adref yn gynnar.

Yr wyf yn teimlo drosto'n arw," yn lle Y mae'n arw gennyf amdano.

"Cerddasant yno o bwrpas," yn lle . . . yn unswydd.

"Am y presennol," yn lle Ar hyn o bryd.

"Wedi eu llosgi i fyny," yn lle Wedi eu llwyr losgi.

"Rhaid iddynt gadw'n glir o berygl," yn lle Rhaid iddynt ymgadw rhag perygl, neu . . . ochel enbydrwydd.

"Brysiwch i ddyfod i delerau," yn lle Brysiwch i gymodi, neu i gytuno.

"Y mae ef yn ei feddwl ei hun yn ddyn o bwysigrwydd," yn lle . . . yn tybied ei fod yn ŵr pwysig.

"Paham y rhaid cadw at hen arferion?" yn lle Paham y rhaid ymlynu wrth . . .?

"Darfu iddi, mewn effaith, addef ei bod yn euog," yn lle Fe ddarfu iddi cystal ag addef ei bod yn euog.

'"Paham y dylem binio ein ffydd wrth ei lawes ef" yn lle Paham y dylem dyngu wrth ei air ef?

"Yr wyf yn dal at yr hyn a ddywedais," yn lle Yr wyf yn glynu wrth a ddywedais.

"Os gallaf fy mynegi fy hun yn eglur," yn lle Os gallaf amlygu fy meddwl.

"Dylai gael ei alw i gyfrif," yn lle Fe ddylid ei geryddu.

"Y mae hyn yn fater o ffaith," yn lle . . . yn wirionedd sicr.

"Gwnaethant am y porthladd," yn lle Cyrchasant (neu hwy a gyfeiriasant) tua'r porthladd.

"Wedi syrthio'n aberth i'r ddiod feddwol," yn lle Wedi myned yn ysglyfaeth, etc.

"Fe gostiodd hynny ei fywyd iddo," yn lle Fe fu hynny'n angau iddo.

"Nad yw Mr. Gladstone mewn ffafr gyda hi," yn lle Nad yw'n dda ganddi Mr. Gladstone.

"Tystiodd ei bod mewn ofn corfforol," yn lle fod arni ofn am ei hoedl.

"Nid oedd ei resymau'n gwneud dim argraff arnynt," yn lle yn mennu dim arnynt.

"Ni allant ddal allan yn hir eto," yn lle Ni allant wrthsefyll, etc.

"Ac felly y ffurfiodd ef gydnabyddiaeth â hi," yn lle yr ymgydnabu ef â hi.

"Ond wrth bregethu yr oedd ef gartref," yn lle y byddai ef yn ei elfen.

"Y mae'r ddihareb yn dal," yn lle Y mae'r ddihareb yn parhau'n wir, neu . . . cyn wired heddiw ag erioed.

"Os cymerwch chwi'r peth mewn llaw," yn lle Os ymgymerwch chwi â'r peth, neu Os ewch chwi ynghyd â'r peth.

"Yn bresennol, gorffwys arnom i ddymuno i'n holl ddarllenwyr, Blwyddyn newydd dda," yn lle Bellach, y mae'n wiw inni ddymuno i holl ddarllenwyr y *** flwyddyn newydd dda.

Gobeithio bod y nef drugarog wedi gwrando gweddi'r gwael" hwn, er mwyn cael o'r darllenwyr amser i edifarhau am dreulio cymaint o'r blynyddoedd o'r blaen i ddarllen ei Gymraeg sitrachog. Er hynny, pe buasai ganddynt hwy ddigon o synnwyr i allu darllen y golygydd ei hun, buasent wedi peidio â darllen ei waith er ys talm o amser cyn iddo fo weddïo drostynt.

—NEHEMIAH O DDYFFRYN CLWYD.

ALLAN O'R "Geninen", 1889.

Nodiadau

[golygu]
  1. Benywol ydyw "Cymraeg" pan fo'n golygu'r iaith; eithr gwrywol ydyw'r gair pan fo'n golygu math neilltuol o Gymraeg.E. ap I.
  2. Dyma'r ffordd y rhennir enwau lleoedd cyfansawdd ar orsafoedd y rheilffyrdd yn Iwerddon y blynyddoedd diwethaf hyn.—GOL.