Neidio i'r cynnwys

Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II/Rhagymadrodd

Oddi ar Wicidestun
Cynnwys Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II

gan Robert Ambrose Jones (Emrys ap Iwan)

Y Clasuron Cymraeg


RHAGYMADRODD

Cyn myned i Ffrainc am y tro cyntaf bu Emrys ap Iwan am dair blynedd yn gweithio yn yr un alwedigaeth â'i dad, sef fel garddwr ym Modelwyddan. Er yr holl newid byd a ddilynodd hynny, y digwyddiad mawr oedd troi ohono'i gamre i gyfeiriad gwlad ei hen nain. Ffrainc bellach fu ei ail famwlad. Gwinllannwr o Ffrancwr a wnaeth yr argraff ddyfnaf ar feddwl y cynarddwr ifanc. Paul-Louis Courier oedd ei enw, ac edrychir arno, ynghyd â'i gyfoeswyr, Béranger a Stendhal, fel llenorion y bobl, mewn ystyr arbennig iawn. "Yr hwn yn unig yn dy wlad sy'n foddlon i fod yn ddyn y bobl," medd Courier ei hun, yn ôl cymreigiad Emrys o'i eiriau. Fe elwir y tri a enwyd, gan feirniad amlwg o Ffrancwr o'n hoes ni, sef Thibaudet, yn llenorion y gwir Chwyldro, sef y Chwyldro Ffrengig parhaol. Fe ddengys yr un beirniad[1] fod yr hen winwydden genedlaethol, tua diwedd y ddeunawfed ganrif, yn dwyn ffrwyth newydd i aeddfedrwydd trwy wres y Chwyldro, sef y teip newydd o Ffrancwr a nodweddai'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yr oedd hwn yn elyn i'r brenin, yr offeiriad, a'r uchelwr, yn derbyn y Chwyldro, ac yn ei gymhwyso yn ei ddull ei hun, yn eiddigus o'i ryddid personol newydd, ac ar yr un pryd yn ei gydnabod nid yn unig fel peth perthynol iddo ef ei hun, ond fel cyfran o'r fendith wladol. Yn ôl Thibaudet, bu'n rhaid i lywodraethau'r ganrif, er eu holl amrywiaeth lliw, gydnabod y teip hwn, ei ddenu, ei ddefnyddio, a'i wasanaethu, a hwn o'r diwedd a ddaeth yn ben gyda'r Drydedd Weriniaeth.

Courier a luniodd eiriau mwyaf bachog a phendant y bobl hyn. Yr oedd ei gyfryngau llenyddol o fewn cylch eu diddordeb, ie, a'u brwdfrydedd hefyd. Yr oedd yn gymaint gŵr pros â M. Jourdain. Y llythyr cyhoeddus a'r pamffled oedd ei fynegiant a'i offeryn. Dysgodd symbylu dynion trwy eu difyrru ar draul gwrth wynebwyr. Y mae ei waith yn olau inni ar ei gymdeithas a'i gwleidyddiaeth, ac yn ddatguddiad o dymer ei hysbryd a'i meddwl. Mân—feddianwyr oedd ei "bobl," a hwy'n eiddigus o'r meddiant a'r rhyddid a ddaeth iddynt trwy'r Chwyldro, ac yn benderfynol i lynu wrth y ddeubeth fel gelen. Chwyrnent yn erbyn pawb a phopeth a fygythiai'r enillion hyn, sef yn erbyn y brenin, yr offeiriad, yr uchelwr, y trethwr, a'r swyddog. Eu prif chwyrnwr oedd Courier. Adnodau wrth fodd ei galon, gellid meddwl, oedd y rheini gan y proffwyd Micah am yr holl bobloedd yn rhodio "bob un yn enw ei dduw ei hun," ac amdanynt yn eistedd "bob un dan ei winwydden heb neb i'w dychrynu." Er y gofal a gymerai Courier o'i arddull, na feddylied neb nad oedd ganddo sylwedd, a neges bendant, ac y mae argraff o'r dyn yn gryfach hyd yn oed nag o'i waith.

Eto yr oedd ganddo ef arddull yn anad neb hyd yn oed yn Ffrainc. Nid anodd deall hyn os cywir y deffiniad a rydd Emrys inni o arddull, sef yr argraff neilltuol honno y mae awdur yn ei gosod ar yr iaith gyffredin." Yr oedd Courier yn feistr ar Roeg. Darllenai hi o chwaeth, ac nid i ateb anghenion galwedigaeth. Chwaeth a chariad yn unig a'i cadwai wrthi. Yr oedd mireinder ei Ffrangeg yn ffrwyth gofal ac astudiaeth feunyddiol o'r ddwy iaith. Rhoddai hyn loywder i'w eiriau am fod ei ddysg yn llwyr yng ngwasanaeth ei ddawn. Yn y blaenllymu a welir ar ei frawddegau yr oedd rhywbeth a gâi o'i gyfathrach agos â'i "bobl," ac yr oedd yno gaboli hefyd yn llathru â rhyw ddieithrwch ysblennydd. Parchai ei bobl, a pharchai hefyd ysgolheictod prin.

Bu Napoleon yn eilun i Courier, eto yr oedd yn gas ganddo filwriaeth. Nid yw mor anodd deall hyn mewn gwlad lle y deellir nad milwr yn unig oedd Napoleon. Beth bynnag, rhoes Courier heibio ei alwedigaeth filwrol, a'i orchest bennaf mewn perthynas â hi fu ei gyfieithiad o Xenophon. Trosodd bethau eraill hefyd o Roeg i Ffrangeg fel rhan o'i ddisgyblaeth lenyddol, sef ei ymgymhwysiad at allu creu mireinder Groegaidd ei naws yn y Ffrangeg. Yr oedd yn etifedd ac yn llafuriwr dygn mewn dwy ystad, a gwiw oedd ganddo ei holl etifeddiaeth lenyddol, a gynhwysai olewydd Groeg a gardd Ffrangeg. Fe'i ystyriai ei hun fel garddwr a gwinllannwr iaith ei genedl. Ni phoenai ar ôl a oedd aruchel, mawreddog, na barddonol, ond yn hytrach fe roes ei fryd ar sgrifennu'n glir, yn lluniaidd, ac yn gywrain. Nid oedd neb mwy byw ei gydwybod lenyddol, a gwaradwydd iddo fyddai gwrthod dysg. Am hynny y dysgodd lunio llythyr gan Mme. de Sevigné, a phamffled gan yr enaid aflonydd hwnnw, sef Blaise Pascal.

Yr oedd syniadau tra gwahanol ar led yn Ffrainc ac yn Ewrop o oes y Chwyldro ymlaen am natur gwaith llenor a'i werth. Wedi'r sylw a roddwyd i Gyffesion Rousseau, cafwyd llawer i ddewis yr un llwybr. Nid oedd mwyach yr un pwys ar fodelau mewn llenyddiaeth, na'r un parch at ddysg a thraddodiad. Yr oedd y gwerthoedd a fynnid mwyach yn gyfan ym mhersonoliaeth gysegredig yr unigolyn. Hunan—fynegiant oedd llenyddiaeth felly, ac fe gafwyd digonedd ohono am flynyddoedd hir. Yn naturiol felly, barddoniaeth, a thelyneg yn anad unffurf arall, oedd priod gyfrwng yr oes. Ychydig, a heb fod yn ffafriol iddo, yw cyfeiriadau Emrys ap Iwan at Jean-Jacques Rousseau, ac nid yw byth yn cymaint â sôn am nemor un o feirdd a llenorion "llwyddiannus" ei ganrif yn Ffrainc. Awgrymwyd yn ddiweddar ei fod wedi ffoli ar lenyddiaeth Ffrainc. Camddeall o'r mwyaf yw hynny. Diystyrodd agos holl lenyddiaeth y wlad honno yn ei ddydd ac yn ôl hyd at ganol y ddeunawfed ganrif, ag eithrio gwaith yr un llenor a ddewisodd fel athro. Dewisodd yn gwbl bwyllog; nid yn ddall, ond yn unol â'r canonau a barchodd trwy gydol ei oes.

Gwelir y bwysicaf o'r canonau hyn yn nhraethawd Emrys ar Gymraeg y Pregethwr:

I'r rhai y mae ganddynt arddull, y ffordd orau y gwn i amdani i wellhau'r arddull hwnnw ydyw mynnu'n gyntaf oll lyfrau'n cynnwys enghreifftiau o waith pob awdur enwog ym mhob iaith a fyddo'n hysbys iddynt, ac yna darllen yn ddyfal weithoedd yr awdur y byddo'i arddull yn debycaf i'w harddull amherffeithiach hwy eu hunain. Wrth gymryd y cyfryw un yn gynllun, nid dynwared rhywun arall y byddant, ond datblygu eu dawn eu hunain. Pan fyddo'r awdur a ddewiser yn gynllun yn pallu mewn rhywbeth gwerthfawr, fe ddylai'r darllenwr ar yr un pryd ddarllen gwaith rhyw awdur arall a fyddo'n rhagori yn y peth hwnnw. Hyn a geidw'r disgybl rhag mynd yn gaethwas i'w athro.

Ei brif gynllun ef oedd Paul-Louis Courier. Gwelodd ei frawd-enaid yn y Ffrancwr hwn, a meithrinodd ei ddoniau cynhenid ei hun trwy arddel a mawrhau'r berthynas. Yr oedd yr un syniad o ryddid gan y ddau, yr un aflonyddwch yn erbyn llyffetheiriau "swyddogol" mewn byd ac eglwys, ynghyd â'r un parch dwfn at y "bobl," ac at dreftadaeth ysbrydol. Ymdrechai'r ddau gaboli eu hiaith. Ymserchent ynddi, a pharchent hi. Yn ei berthynas ei hun â'i athro, Groeg Emrys oedd y Ffrangeg, a'i Ffrangeg oedd y Gymraeg. Gwelai Emrys hefyd fireinder mewn eiliaith; yr oedd arno flys am ei ail greu yn ei famiaith; gwyddai am adnoddau diderfyn i'w darganfod yn iaith y bobl; a pharchai hefyd ddysg ac arweiniad coeth cynfeistri llenyddiaeth ei wlad. Ei Mme. de Sevigné a'i Blaise Pascal oedd awduron y "Clasuron Cymraeg." Cyflenwai ei addysg a'i gymreictod yn ysgol pob un ohonynt.

Gwaith difyr ac nid dibwys fyddai olrhain ymhellach fyth y tebygrwydd rhwng y disgybl a'r prifathro. Fe'i gwelir yn eu hagwedd ddeublyg at filwriaeth, sef eu casineb at yr erchylltod ynghyd â'u blas at olrhain a chroniclo campau'r drin. Sur la Cavalerie Emrys yw "O Elba i Waterloo." Gan Courier hefyd yn ddiau y dysgodd ef ei edmygedd o Napoleon. Nid hynny'n unig, ond peth pwysicach o lawer. Fel yr oedd Rousseau yn gweld iechyd cymdeithas yn tarddu o fywyd dyfnaf a mwyaf mewnol y dyn unigol, fe'i câi Courier ym mywyd ac ymgyfathrach feunyddiol a disylw'r "bobl" fel y cyfryw, ac yn arbennig ym mywyd ei briod genedl. Dyna achos ei gasineb at ymyrraeth y llywodraeth a'r eglwys â'r bywyd beunyddiol hwn. Yn hyn yr oedd ef yn wir blentyn y Chwyldro. Croesawyd dysgeidiaeth y Chwyldro ynglŷn â bywyd cenedl yn Iwerddon cyn diwedd y ddeunawfed ganrif. Yng Nghymru yr adeg honno, agwedd arall o'r ddysgeidiaeth newydd yn unig a dderbyniwyd, sef ynglŷn â "breintiau cynhenid dyn." Emrys ap Iwan, trwy arweiniad Courier, oedd y cyntaf i dderbyn neges genedlaethol y Chwyldro Ffrengig fel Cymro. Gwelwyd yn amlwg yn y gyfrol gyntaf o'i draethodau effaith hyn yn y maes cymdeithasol a pholiticaidd. Fe'i gwelir hefyd yn y maes llenyddol, yn enwedig lle bo cyfeirio at ragorion iaith a meddwl creadigol y bobl. Fe gofia Emrys am y rhagorion hyn hyd yn oed wrth fesur gwerth iaith y clasuron a'r Beibl Cymraeg.

Eto mynnai i'r bobl fod yn bobl wrteithiedig, ac nid yn rhy "werinaidd," sef yw hynny, yn ddidoledig oddi wrth eu perffeithwyr. Dyna pam y soniai gymaint wrthynt yn eu newyddiaduron a'u cylchgronau am y clasuron Cymraeg. Yn nyddiau'r clasuron rhyddiaith Gymraeg o oes y Dadeni Dysg hyd at ymhell yn y ddeunawfed ganrif, fel gyda beirdd y gynghanedd ymhob oes, yr oedd cyfansoddiad llenyddol yn ffrwyth astudiaeth o'r iaith, sef chwilio ei golud, a darganfod ei hadnoddau, trwy ymgydnabyddu â gwaith y meistri. Yr oedd gan awdur pob un o'r clasuron hyn ei fodelau neu ei gynlluniau. Ysgolheictod oedd hwn o'r fath sy'n cyfuno ac nid yn daduno. Fe'i collwyd erbyn oes Emrys, ac yr oedd ef yn hollol ar ei ben ei hun yn ei ble am astudiaeth o'r Gymraeg a'i chlasuron fel amod unrhyw fawredd llenyddol.

Yr oedd yna fudiad arall ar gynnydd, sef ysgolheictod Syr John Rhys, a weithiai ar linellau Ellmynig, yn astudio gwyddor iaith, ond Emrys oedd y cyntaf, hyd y gwn, yn ei gyfnod i ymroi at y clasuron fel y bydd prentis yn troi at waith ei feistr. Ymdriniai lawer â gwerth arbennig yr amrywiol glasuron fel modelau. Gwelai un fel sgrifen gron cymwys i laslanc ymarfer â hi, ac un arall fel ysgrifen redeg diogel i ddisgybl profedig ei mentro tua diwedd ei gwrs; gwelai un fel arddull priodol at adrodd hanes a'i addurno, ac arall at ddadansoddi meddwl yn gywrain. Daeth Syr John Morris-Jones â pheth o'r ysbryd hwn i fyd astudio barddoniaeth Gymraeg, ond y mae Emrys yn aros heb ei olynydd yn ei briod faes ei hun, sef rhyddiaith Gymraeg.

Yr oedd manyldeb yn bwysig ganddo. Trwy hyn fe ddeallodd gyfrinach geiriau. Parai iddynt amlygu eu hystyr i drwch y blewyn. Astudiai rym pob terfyniad, ac am hynny y gwyddai'r rhagor rhwng duwiol a duwiolaidd, cyfeillgar a chyfeillaidd, dynol a 'dynaidd. Yr un modd y detholai seiniau, geiriau, a rhithmau arbennig at ei bwrpas arbennig. Câi fanyldeb mwy yn iaith y bobl nag yn ymadroddion mwy unffurf y Beibl a Drych y Prif Oesoedd. Olrheiniai gynnydd manyldeb yn iaith y clasuron o waith Morgan Llwyd hyd at Ellis Wynne. Darganfu fod Cymraeg manwl yn Gymraeg eglur, ystwyth, a llawn amrywiaeth, ac oblegid hynny gwyddai paham a pha fodd y mae'r arddull yr hyn yw'r dyn. Eglurodd hynny hefyd yn ei ymdriniaeth ag arddull Edward James yn ei gymhariaeth wych rhwng trefnu brawddeg a threfnu byddin. Daeth ag ysbryd a disgyblaeth rhetoric yn ôl i iaith oedd yn colli pob graen a gofal, fel y gwelir yn amlwg yn niweddglo'r ddau draethawd cyntaf yn y casgliad hwn.

Y mae mwy nag un ffordd o ymgyrraedd at burdeb iaith. Un ffordd yw arfer y gair diddosben am het. Nid dyna ffordd Emrys. Iddo ef, daw purdeb ymadrodd yn gyntaf, yna purdeb geiriau, ac yna purdeb sain. Nid oedd yr un o'r rhain yn ddistadl yn ei olwg, ond ni châi'r llai ei le o flaen y mwy, am fod gan Emrys drefn a chymesuredd. Gan fod llun yn fwy ganddo na lliw, yr oedd purdeb ymadrodd yn sicr o'r blaen. Dyna pam y dyfal chwynnai briodebion Saesneg o'r iaith. Y mae poeni ar ôl geiriau ar draul ymadroddion yn ein harwain yn y pen draw i siarad fel y gŵr pwysig hwnnw a anogai ddynion i "beidio â rhoddi'r arddangosfa ymaith." Un arall o sylwadau cyfoethog Emrys ar arddull yw bod "geiriau'n ymgaboli yn ôl deddfau cyffredinol, ac yn ymlygru oherwydd mympwyon neilltuol." Hynny yw, y "bobl" a ŵyr, trwy eu bywyd beunyddiol a'i dreigliad oesol.

Yn yr ymchwil am gywirdeb mewn iaith ac arddull, fe rydd Emrys le i hanes (gan gynnwys arfer gwlad) ac i reswm. Y mae'n sicr o fod yn iawn yn ei farn gyffredinol ar hyn o beth, fel mewn llawer cymhwysiad o'r egwyddor. Eto gellir amau a gadwodd ef y fantol yn gywir bob amser rhwng y ddau, sef rhwng hawliau hanes neu arferiad cyffredinol ar y naill law, a rhesymiad yr unigolyn ar y llaw arall. Er enghraifft, ystyrier ei gyngor ynglŷn â llunio geiriau newyddion yn yr iaith Gymraeg. Gwyddai am ddeddfau tyfiant geiriau Cymraeg o Ladin a Groeg, ond nid yw bob amser yn cofio mai deddfau tyfiant ydynt, ac nid dyfais beiriannol. Y mae'n awgrymu y gellir eu cymhwyso pryd y mynner i lunio'r gair a fynner. Dylid cofio mai deddfau ydynt a weithiodd tros gyfnod o flynyddoedd arbennig ac yna peidio. Weithiau'n ddiau fe ellir eu hail arfer yn hwylus i lunio gair newydd megis ffosfor, ffenomen, &c. Ond nid yw hyn yn dal bob amser, fel y gwelir oddi wrth y gair rhyfedd cris a luniodd Emrys i olygu cyfyngder. Y mae rhyw synnwyr anneffiniol yn penderfynu trosom a ellir derbyn gair gwneuthur yn "gyflawn aelod" o'r iaith. Bu Emrys yn chwarae cryn dipyn hefyd gyda rhagenwau a geirynnau rhagferfol, ond gydag aeddfedrwydd blynyddoedd fe roddodd heibio lawer o'r mân driciau hyn. Eto, wrth ymgodymu â'r iaith yn ei ffordd ei hun, ynghyd â thrwy ei hastudio yng ngorchestion eraill, fe'i hystwythodd, ac amlhau ei hadnoddau.

Y mae'r detholiad hwn yn cynnwys traethodau a chyfraniadau eraill ar iaith, arddull, a llenyddiaeth Gymraeg, ar Paul-Louis Courier, ynghyd âg ar ambell bwnc perthynasol arall. Fe godwyd peth o'r defnydd yn syth o lawysgrifau Emrys ei hun, ond yng ngholofnau'r Faner a'r Geninen y cafwyd rhan fwyaf. Diweddarwyd yr orgraff a chymhwyswyd ychydig ar fanion iaith yn yr un modd ag a wnaed yn y gyfrol flaenorol. Unwaith eto y mae diolch yn ddyledus i Mr. G. J. Williams, M.A., o Goleg Caerdydd, am ei garedigrwydd yn darllen y proflenni, i Mr. Prosser Rhys eto am bob cyfarwyddyd, ac i'r cyfeillion yng Ngwasg Gee am eu gwaith graenus. Dymunaf ddiolch yn fawr hefyd i Mr. John Morris, Trefnant, am gael benthyg rhai o lawysgrifau Emrys ap Iwan, a chael copïo ohonynt ar gyfer y gyfrol hon. Manteisiwyd yn fawr hefyd ar adnoddau'r Llyfrgell Genedlaethol.

Ionawr, 1939. D. MYRDDIN LLOYD.

Nodiadau

[golygu]
  1. Gweler ei Histoire de la littérature française de 1789 à nos jours (Stock, 1936), tud. 88 ac ymlaen.