Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II/Y Clasuron Cymraeg
| ← Rhagymadrodd | Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II gan Robert Ambrose Jones (Emrys ap Iwan) |
Cymraeg y Pregethwr → |
Y CLASURON CYMRAEG
(A DRADDODWYD I GYMDEITHAS GENEDLAETHOL GYMREIG LLYNLLEIFIAD, TACHWEDD 15, 1893)
Y mae testun fy sylwadau hytrach yn fyr nag yn fanwl; canys y mae'n hysbys i ysgrifennydd llafurus y Gymdeithas, os nad i eraill hefyd, nad wyf i ddim yn bwriadu bwrw golwg ar holl brif awduron Cymru, ond yn unig ar brif awduron a chyfieithwyr y ddwy oes o'r blaen, sef yr eilfed a'r drydedd ar bymtheg, y rhai, a siarad yn grwn, sy'n cynnwys y cyfnod rhwng y Diwygiad Protestannaidd a'r Diwygiad Methodistaidd. Er hynny, y mae'r testun braidd yn gamarweiniol hyd yn oed fel y mae o ar y cerdyn, canys pe dywedid mai'r ysgrifenwyr cymhwysaf i'r cyffredin eu cymryd yn gynlluniau ydyw'r clasuron Cymraeg, yna yn y ddwy oes o'r blaen, yn anad un cyfnod arall, y ceir hwynt. Wrth gyfeirio'ch sylw at lenorion pennaf y cyfnod hwnnw, amcanu yr ydwyf gyffroi aelodau ieuangaf eich cymdeithas i ymgydnabod mwy â'r ysgrifenwyr mwyaf Cymreigaidd eu hiaith a'u hysbryd. Fe fuasai mwy o unoliaeth yn fy sylwadau pe buaswn yn traethu am un llenor yn unig, ond wrth draethu am neilltuolion deg neu ddeuddeg, gan eu cymharu â'i gilydd, yr wyf yn gallu gwneud peth sydd ar hyn o bryd yn bennaf yn fy ngolwg, sef gosod y rhai ieuangaf ohonoch ar dir i farnu pa un o'r ysgrifenwyr Cymraeg a fyddai'n orau iddynt ei ddewis yn gynllun; ac ni chyfeiliornwn yn fawr pe dywedwn mai'r ysgrifennwr gorau ganddynt ydyw'r ysgrifennwr gorau iddynt. Fel rheol, y mae llenor ifanc yn hoffi rhyw awdur neilltuol, am fod hwnnw'n debyg iddo fo'i hun, ac wrth efelychu un tebyg iddo'i hun, nid yw'r efelychwr yn gwneud dim amgen na datblygu'i ddawn ei hun. Gofaler yn unig fod y neb a efelycher yn un sy'n haeddu ei efelychu, sef yw hynny, yn glasur. Canys fe ellir dweud am glasuron pob cenedl yr hyn a ddywed Vinet am glasuron Groeg a Rhufain, nad ydynt hwy, o'u hastudio, ddim yn mygu dawn nac yn lladd neilltuolrwydd neb. Y mae'r neb a efelycho'r awduron gorau yn eu pethau gorau yn rhywbeth amgen na dynwaredwr—disgybl yw hwnnw sydd ar y ffordd i fynd yn feistr.
Gan fod crefydd cenedl yn dylanwadu mwy na dim arall ar ei llenyddiaeth, yr wyf yn gweled yn dda ddosbarthu llenyddiaeth Gymraeg yn ddau gyfnod, sef
Y CYFNOD CATHOLIG A'R CYFNOD PROTESTANNAIDD,
gan adrannu'r Cyfnod Protestannaidd yn gyfnod Eglwysyddol ac yn Gyfnod Ymneilltuol.
Y mae Vinet a Menzel a Macaulay, a phob Protestaniad darllengar arall, am a wn i, yn addef bod crefydd Eglwys Rufain, oherwydd ei hynafiaeth, ei chwedloniaeth, ei rhwysg, ac amrywiaeth ei defodau, yn fwy barddonol o lawer na chrefydd Eglwys Loegr, ac yn fwy fyth felly na chrefydd yr Ymneilltuwyr; ac o achos hynny, y mae mwy o liw a sawr barddoniaeth ar ryddiaith y cyfnod cyntaf nag sydd ar ryddiaith yr ail a'r trydydd cyfnod. Yr hyn ydyw hanesion yr Hen Destament a damhegion yr Iesu i'r Epistolau, hynny ydyw'r Greal, y Mabinogion, a rhai o'r Brutiau, i sgrifeniadau mwy athrawiaethol y tri chanmlwydd diwethaf. Yng ngolwg y diwinydd yn ddiau, y mae'r lleiaf o'r Epistolau yn werthfawrocach nag araith Jwda, dameg Jotham, caneuon Moesen, a galarnadau Dafydd; ond yng ngolwg y llenor, anghymeradwy fydd y gwir, os na bydd o'n wir gloyw; a diflas fydd y da, os na bydd o'n dda teg yr olwg. O ran bod yn dda, nid yw llenyddiaeth Gymraeg y cyfnod cyntaf na gwell na gwaeth na llenyddiaeth y cyfnodau dilynol. Y mae hi'n llai gwir, a'i barnu wrth bwys a mesur y cysegr, ond y mae hi y llenyddiaeth decaf a welodd Cymru; ac y mae tegwch yn beth mor anhepgor mewn llenyddiaeth ag ydyw ffurf mewn celfyddyd. Y swyn sydd yn y tegwch hwn sydd wedi peri i estroniaid, megis yr Ellmyn, y Ffrancwyr, a'r Saeson, roi cymaint mwy o fri ar ein hen lenyddiaeth nag ar ein llenyddiaeth ddiweddar. Yr unig air sy'n dynodi'n fanwl natur llenyddiaeth y cyfnod hwn ydyw'r gair Ffrangeg naiveté, y gellir ei Gymreigio yn neifder, sef y naturioldeb prydferth hwnnw a berthyn i lenyddiaeth yng ngwrid a charedigrwydd ei hieuenctid.
Er amser y Diwygiad Protestannaidd, gwlad y cyffroadau crefyddol, gwlad yr ymryson ynghylch geiriau, gwlad yr ymgecru diwinyddol a phrydyddol, gwlad y gerdd ddychan a'r llythyrau di-enw, fu "Gwlad Gân" gan amlaf; ac y mae'n hysbys fod y cyffroadau pwysicaf, pa un bynnag ai crefyddol ai gwleidyddol, yn niweidiol i lenyddiaeth. Y maent, a dweud y lleiaf, yn niweidiol iddi ar y pryd; eithr gallant fod yn fuddiol iddi ymhen talm o amser ar ôl eu myned heibio. Fe all y stormydd eu hunain—pob stormydd oddieithr "storm mewn tebot "—ymddangos yn ddiddorol i ddyn pan edrycho arnynt oddi ar fryn, o bell,
Ac yntau'n ddihangol o'u cyrraedd,
Yn nofio mewn cariad a hedd.
Y mae'n debygol y rhaid i lawer blwyddyn eto fyned heibio cyn y daw i lenyddiaeth Gymraeg drannoeth teg, canys os yw'r Cymry wedi cefnu ar rai cyffroadau, y maent yn awr yn wynebu ar gyffroadau eraill mwy, sef cyffro gwleidyddol a chyffro cymdeithasol; ond pa bryd bynnag y delo llwydd allan o'r aflwydd hwn, ac y gwelir pob Cymro'n eistedd yn ddiddig o dan ei dderwen ei hun, fe ellir disgwyl i lawer un ysgrifennu ei feddyliau ar gân yn bereiddiach na Dafydd ap Gwilym, a'u hysgrifennu ar draeth yn llyfnach nag Elis Wynn. Atswn tymhestloedd a daeargrynfeydd, ac nid eu sŵn, sy'n cynhyrfu awen y prydydd a'r traethydd. Pan fo'r byd yn ymglafychu, ac yn esgor, hyd yn oed ar wirioneddau o'r math pwysicaf, mwy o lefain ac oernadu a glywir ynddo nag o ganu. Nid wyf yn anghofio bod ambell un iach ei galon, o fath Williams o Bantycelyn, yn medru canu'n dda ynghanol twrf y Philistiaid a'r bloeddio, ond fel rheol, cynhyrchu pamffledau a llyfrau dadleuol ac nid llenyddiaeth y mae rhyfel rhwng ymbleidiau crefyddol a gwleidyddol.
****
Y mae'r ddau gyfnod Protestannaidd yn debyg yn hyn, sef eu bod yn gyfnodau pur ddiwinyddol, a bod eu diwinyddiaeth yn Buronaidd yn Biwritanaidd iawn, o ddyddiau'r Tuduriaid hyd yn awr; a rhaid addef bod Puroniaeth yn niweidiol i lenoriaeth. Pe buasai yng Nghymru yn y Cyfnod Eglwysyddol Eglwyswyr o'r Ysgol Uchel, fe allesid disgwyl iddynt fod yn fwy barddonol yn eu rhyddiaith, a phe buasai ynddo Eglwyswyr o'r Ysgol Lydan, fe allesid disgwyl iddynt fod yn fwy gwyddonol, ac felly yn ehangach eu syniadau a'u cydymdeimlad. A dweud fy mhrofiad fel llenor, fe fyddai'n well gennyf i o'r ddau weled Cymru'n Gatholig ei chrefydd nag yn Biwritanaidd, am fod Catholigiaeth yn fwy manteisiol i lenoriaeth a chelfyddyd, ac yn llawn mor fanteisiol i wyddoniaeth hefyd; ond fe fyddai'n well gennyf ei gweled yn Brotestannaidd, yn ystyr orau'r gair, na dim; canys y mae Protestaniaeth aruchel, ddiragfarn, tra bo hi'n ymosod â'i llaw aswy, yn adeiladu â'i llaw dde. Fe ddichon fod Protestaniaeth yr Almaen yn rhydd hyd at fod yn benrhydd; ond pe bai Piwritaniaid Cymru yn gymaint o lenorion ag ydynt o ddiwinyddion, gwelent fod y Brotestaniaeth honno hefyd yn adeiladu mwy nag y mae hi'n ei ddistrywio. Sŵn ei cheibiau ac nid sŵn ei thrywelau sy'n cyrraedd hyd at Gymru. Darluniau o furddunnod—o garneddau'r Almaen, ac nid darluniau o'i phalasau, a ddangosir inni. Hyd yn oed mewn dinas fawr fel hon, y mae mwy o sôn am Hegel nag am Leibnitz, a mwy o ladd ar Fragmente Lessing nag o ganmol ar ei ddramodau. Y mae'n rhaid i bawb sy'n pleidio rhyddid ddygymod â rhywfaint o benrhyddid, a hynny'n fwy am fod llawer peth yr ydys yn ei gyfrif yn benrhyddid heddiw yn myned yn rhyddid cyfreithlon yfory. Pa beth bynnag yw penrhyddid, y mae'n sicr fod Piwritaniaeth yr amser a aeth heibio yn ben-rhwymedd, canys yr oedd hi'n rhy gul i fod yn Biwritaniaeth Gatholig, chwaethach yn Biwritaniaeth Brotestannaidd. Piwritaniaeth Babyddol oedd hi. Os ydym yn ein galw'n hunain yn Brotestaniaid, byddwn yn Brotestannaidd, trwy fynnu rhyddid i farnu ac i lefaru fel y mynnom ein hunain, a thrwy oddef i eraill farnu a llefaru fel y mynnont hwythau. Os bydd i Brotestaniaeth gyson a rhesymegol ladd ein Piwritaniaeth, ni wna hi yn y pen draw ddim niwed i grefydd bur a dihalogedig, ac y mae'n ddiamau y gwna hi les dirfawr i lenoriaeth.
Er bod codiad y Methodistiaid yng Nghymru, ac adfywiad y cyfundebau Ymneilltuol eraill, wedi bod yn fendithiol iawn i'n cenedl, eto rhaid addef bod yr Ymneilltuwyr hyn wedi gwneud diwinyddiaeth Biwritanaidd yn gulach ei chynnwys, ac yn fwy dadleuol a beirniadol ei gwedd, nag y bu hi erioed o'r blaen. Nid oes diben ar nifer y llyfrau a'r pamffledi a wnaethant, ond darllen y rhan fwyaf ohonynt sy flinder i'r cnawd am nad oedd eu hawduron ddim yn llenorion. Fe gyhoeddodd y rhai dysgedicaf rai llyfrau buddiol a da ymhob ystyr, yn eiriaduron ac yn esboniadau, eithr nid ydys byth yn cyfrif y cyfryw bethau yn rhan o lenoriaeth cenedl. Llyfrau cyfleus ydynt, ac nid llyfrau clasurol, ac os darllenir mwy arnynt nag ar weithiau ag unoliaeth iddynt, hwy a ddifethant chwaeth y darllenwyr. Mynych y'n hanogir yng Nghymdeithasau'r Methodistiaid i ddarllen llenyddiaeth y Corff, ac y mae'r Wesleaid, y Bedyddwyr, yr Eglwyswyr, ie, a'r Annibynwyr hefyd, yn annog eu haelodau i ddarllen llenyddiaeth y cyfundeb y maent hwy'n perthyn iddo. Ond nid oes gan y Corff fel y cyfryw ddim llenyddiaeth. Nid oes y fath beth â Llenyddiaeth Gyfundebol. Nid oes dim yn haeddu ei alw'n llenyddiaeth os na bydd cenedl a chenedlaethau yn tystiolaethu bod iddynt ran ynddo. Mynych hefyd y'n hanogir mewn cymdeithasau crefyddol i ddarllen llenyddiaeth bur, a dealler nad gwir lenyddiaeth, nad llenyddiaeth glasurol, yr ydys yn ei feddwl yn y cymdeithasau hynny wrth lenyddiaeth bur, ond llyfrau diddrwg-didda, goruwchanianol, y gellwch yn ddiogel eu rhoddi'n anrheg i enethod pymtheg oed. A llefaru'n ddiamwys, nid oes a wnelo llenyddiaeth bur fwy â moesoldeb nag sydd a wnelo pure mathematics ag ef. Yng ngolwg y llenor, llenyddiaeth gain yn unig sy'n llenoriaeth bur. Nid yw'n wiw ganddo fo ddarllen llyfr oblegid ei santeiddrwydd yn unig, os na bydd ynddo hefyd brydferthwch santeiddrwydd. Ofer cynnig iddo bethau gwir a phethau cyfiawn os na byddant hefyd yn bethau hawddgar a chanmoladwy.
Pa beth bynnag a ddyweder am nifer a gwerth y llyfrau a gyhoeddwyd yn y cyfnod Ymneilltuol, rhaid addef bod ynddo lai o lyfrau clasurol nag sydd ymhob un o'r ddau gyfnod arall. Nid yw cynhyrchion gorau'r cyfnod hwn mor goeth â chynhyrchion y Cyfnod Eglwysyddol, nac mor brydferth â chynhyrchion y Cyfnod Catholig. Yn y ddau gyfnod o'r blaen, dynion yn medru sgrifennu oedd yn gyffredin yn mynnu sgrifennu, ond yn y cyfnod hwn y mae'r rhan fwyaf yn barnu mai coll amser yw dysgu Cymraeg cyn dechrau sgrifennu. Er hyn oll y maent yn derbyn eu gwobr, canys y mae eu cariad at eu cyfundeb yn cuddio lliaws o bechodau, a chariad eu cyfundeb tuag atynt hwythau yn dwyn agos cymaint o elw iddynt â phe buasent wedi pwrcasu ac astudio Gramadeg Rowland a Geiriadur Silvan Evans. Diolch i'r aml gyfundebaeth sy'n gwneud ysgrifenwyr anfedrus yn awduron hysbys, fe all pob rhyw lyfr ddywedyd ar ôl dyfod allan o'r wasg—"Pan yw fy nghenedl yn fy ngwrthod, fy nghyfundeb a'm derbyn." Eithr ni phery hyn ddim yn hir iawn, canys mi a wn am lawer o Galfiniaid cedyrn sydd eisoes wedi mynd mor anffyddlon i'w pobl eu hunain fel na phrynant ddim te diflas gan eu brodyr yn y ffydd os gallant gael te blasus am yr un bris gan Weslead.
Oddieithr pedwar neu bump, rhaid addef bod ysgrifenwyr Cymraeg pob cyfnod yn pallu mewn gwreiddioldeb neu ddyfeisgarwch, yr hyn sydd ball pwysig. Y mae hyn yn dyfod yn hytrach o ddiffyg dewrder nag o ddiffyg dawn, canys y mae gwerin y genedl, pa un bynnag ai wrth y pentan ai mewn dosbarth yn yr Ysgol Sul, yn dangos cymaint o wreiddioldeb â gwerin unrhyw genedl. Eithr pan elo Cymro o'r Ysgol Sul i'r coleg, y mae o'n peidio â dychmygu er mwyn gallu cofio. Er ei fod yn hunanol ddigon, ac yn fwy cysetlyd nag un cenedl-ddyn o dan haul, eto pan elo i sgrifennu traethawd neu bregeth neu lyfr, fo fwria ymaith ei hyder, a chan dybied ei fod yn rhy wan i gloddio, fo dry i gardota. Y mae'n gywilyddus ganddo osod ar y bwrdd ei gawl ei hun, ac am hynny y mae o'n cynnig i'w westeion botes Seisnig wedi ei ail dwymo ar dân Cymreig. Y mae'r Mabinogion hynaf, y mae'n wir, mor wreiddiol â chynhyrchion unrhyw genedl; ond i'r bobl gyffredin, ac nid i lenorion y rhaid diolch am hynny. Y nhwy o genhedlaeth i genhedlaeth a luniodd y chwedlau hyn, ac a'u lliwiodd hefyd. Ni wnaeth y gwŷr llên, sef y mynachod, fawr amgen na'u hysgrifennu. Y bobl, yr un ffunud, ac nid cerddorion wrth broffes, a wnaeth ein hen alawon; a chynulleidfaoedd Cymru a wnaeth oreuon ein tonau cysegredig yn gyfryw rai ag ydynt. Mae gwerin Cymru wedi bod erioed yn fwy cynhyrchiol ymhob peth na'i dysgawdwyr.
Dywedais fod gennym ychydig o awduron gwreiddiol, ac ohonynt y mae dau os nad tri yn perthyn i'r cyfnod yr wyf yn bwriadu sylwi arno oddi yma ymlaen, sef Elis Wynn, a Morgan Llwyd; ac y mae'r trydydd hefyd, sef Theophilus Evans, mor wreiddiol ag y dichon i hanesydd fod; ie, yn rhy wreiddiol i fod yn hanesydd cywir. Y mae'n wir y dywedir am
ELIS WYNN
nad yw hyd yn oed ei Weledigaethau, er gwyched ydynt, ddim yn waith hollol wreiddiol of defnydd na chynllun. Pe rhoem fod hynny'n wir, fe ellid haeru bod yn y gwaith ddigon o brofion i ddangos bod yr awdur ei hun yn un tra gwreiddiol; canys y mae y pethau a dynnodd o allan o'i feddwl ei hun yn llawn cystal â'r pethau a ddygodd oddi ar Quevedo, os bernir gwaith yr awdur Sbaeneg hwn wrth y cyfieithiad Saesneg ohono oedd gan Elis Wynn; ac nid yw'r pethau a ddygodd oddi ar Milton, ar ôl eu troi i iaith rydd, yn ymddangos ddim mwy Miltwnaidd na llawer o bethau eraill yn y Gweledigaethau sy'n perthyn yn ddiamheuol i'r Bardd Cwsg ei hun. Y mae gwastadrwydd ei waith o'i ddechrau i'w ddiwedd yn dangos mai gan ei gydradd ac nid gan ei well y bendithiwyd ef, ac nad ysbeiliodd o eraill o ddim nad oedd ganddo ei gystal yn ei feddiant ei hun. Ysbeilio a wnaeth efô am ei fod yn drachwantus ac nid am ei fod yn dlawd. Er hyn oll, ysbeilio ysbeilwyr a sglyfaetha sglyfaeth a wnaeth y Bardd Cwsg, canys nid oedd efô wedi'r cwbl yn fwy dyledus i Quevedo nag oedd Quevedo i Cervantes, nac mor ddyledus o lawer i Milton ag oedd Milton ei hun i'r Italiad Andreini a'r Ffrancwyr St. Avitus a Du Bartas.
Boed a fynno, ni bu gan y Cymry er amser y Diwygiad Protestannaidd un ysgrifennwr mwy gwreiddiol nag Elis Wynn. Mewn asbri, arabedd, a gwawdiaith, ychydig iawn yn y byd oll sy'n rhagori arno. Yn wir, y mae o mor llawn o'r pethau hyn fel y mae o'n pallu mewn afiaith, sef mewn humor—os goddefir imi seinio gair Lladin fel gair Cymraeg. Awdur Don Quijote ydyw'r unig un, hyd y gwn i, sydd wedi medru bod yn afieithus ac yn arabeddus ar yr un pryd. Y mae awduron mwyaf afieithus y Saeson yn ysgrifennu'n rhy wasgarog i fod yn arabeddus, ac y mae ysgrifenwyr mwyaf arabeddus y Ffrancwyr yn ysgrifennu'n rhy gryno i fod yn afieithus; canys crynoder sy'n dygymod orau ag arabedd, ac anghrynoder sy'n dygymod orau ag afiaith. Math o ddigrifwch—o ysmaldod—yw arabedd ac afiaith; eithr digrifwch sych yw arabedd am mai ffrwyth dealltwriaeth ydyw, a digrifwch llaith yw afiaith am mai ffrwyth teimlad ydyw. Digrifwch dealltwriaethol, sef y digrifwch sy'n hynodi'r Ffrancwyr, yw digrifwch Elis Wynn, ac y mae hwn, pan fyddo'n gryf mewn dyn, yn gwthio ymaith ddifrifwch. Y mae'r Bardd Cwsg yn rhy ddigrifol i fod yn ddwys, ac yn rhy ddigrifol i fod yn wir aruchel. Yr ydys yn teimlo ei fod yn ei elfen wrth ddarlunio " cwrs y byd," eithr wedi iddo "ar adenydd ffansi" fyned i diriogaeth angau ac i gelloedd uffern buasid yn disgwyl iddo fod yn llai cellweirus o lawer. Y mae'n wir ei fod yn ceisio bod yn dduwiolaidd yno, ond ceisio y mae o, a methu bob rhyw bum munud. Y mae mor drwm ei wep a chrynedig ei leferydd â goruchwyliwr angladdau, a chwi ellwch ei weled yn awr ac eilwaith yn codi ei gadach at ei wyneb, eithr nid i sychu ymaith ddeigryn, ond i guddio gwên. Nid yw ei Lucifer (= Lleufer) nac yn urddasol fel Satan Milton, nac yn ddirmygol fel Mephistophel Goethe. Hen lencyn o Gymro nwyd- wyllt, ffwdanllyd, ydyw o, eithr crefyddol ddigon yn y bôn: Weslead hynaws newydd gael cwymp oddi wrth ras, ac un y mae'n ddrwg gennych yn eich calon fod Pabyddion, Mohamediaid, Cromweliaid, a Chwaceriaid, a giwed aflonydd eraill, yn peri cymaint o boen i'w enaid cyfiawn yn ei deyrnas ei hun. Ar air, y Bardd Cwsg ei hun yw Lucifer yn y cyfryw dymer y buasai'r bardd hwnnw ynddi pe buasai o wedi ei osod i gadw heddwch rhwng y pleidiau crefyddol yn uffern. Yn wir, Bardd Cwsg yn ei wahanol dymherau ac mewn gwahanol gyflyrau sy'n llefaru trwy enau pob person sydd yn y llyfr. Os yw hyn yn fai arno, y mae'n fai a berthyn i Milton hefyd, canys fe ŵyr pawb nad oedd dim o'r dramodydd ynddo yntau chwaith.
Y mae Elis Wynn yn dangos dau allu na sylwais i ddim arnynt hyd yn ddiweddar, ac nad oeddwn yn disgwyl eu cael mewn awdur mor chwareus, sef gallu barnwrol a gallu ymresymol o radd bur uchel. Chwi a gewch enghraifft o'r ddeubeth hyn yn ateb Lucifer i'w dywysogion yn agos i ddiwedd y llyfr.
Yn ei feistrolaeth ar eiriau grymus, y mae Elis Wynn yn gystadl â Theophilus Evans, ac yn rhagori arno mewn llyfnder a miniogrwydd ymadrodd. Yn y peth olaf, sef miniogrwydd, y mae'n rhagori ar bawb a fu o'i flaen ac ar ei ôl. Nid oes neb chwaith yn y ddau gyfnod olaf a chanddo glust mor gerddgar ag ef. Sylwch ar fydr a chynghanedd yr ymadroddion blaenaf yn ei lyfr, ac yn enwedig ar le a gwaith y gytsain g:
Ar ryw brynhawngwaith teg o haf hirfelyn tesog, cymerais hynt i ben un o fynyddoedd Cymru, a chyda mi ysbïenddrych i helpu'm golwg egwan i weled pell yn agos a phethau bychain yn fawr. Trwy yr awyr denau eglur, a'r tes ysblennydd tawel, canfyddwn ymhell bell tros Fôr y Werddon lawer golygiad hyfryd. O'r diwedd, wedi porthi fy llygaid ar bob rhyw hyfrydwch o'm hamgylch, onid oedd yr haul ar gyrraedd ei gaerau yn y gorllewin, gorweddais ar y gwellt glas, tan synfyfyrio deced a hawddgared (wrth fy ngwlad fy hun) oedd y gwledydd pell y gwelswn gip o olwg ar eu gwastadedd tirion; a gwyched oedd cael arnynt lawn olwg; a dedwydded y rhai a welsant gwrs y byd wrthyf i a'm bath.
Fe fuasai'r dernyn hwn yn llyfnach, yn fwy clymedig, ac yn fwy Cymreigaidd fyth, pe buasai'r awdur, yn ôl arfer y prif awduron eraill (oddieithr Charles Edwards), yn arfer rhagenw o flaen y ferf, yn enwedig yng nghorff brawddeg. Heblaw hynny, y mae'r ferf"canfyddwn" heb ragenw o'i blaen, yn amwys.
A chymryd popeth ynghyd,
MORGAN LLWYD
sy'n haeddu'r lle nesaf i Elis Wynn. Mewn dwyster meddwl a dwyster teimlad, y mae'r Llwyd yn rhagori ar y Gwyn; er y rhaid addef bod y dwyster hwn yn ei wneud ef yn llai dynaidd, ac yn gulach ei gydymdeimlad, nag Elis Wynn. Er ei fod o ran amser yn y cyfnod Eglwysyddol, eto Ymneilltuwr oedd efô o ran ei syniadau. Yn wir, yr oedd o mor Ymneilltuol fel yr oedd, megis John Milton, wedi ymneilltuo oddi wrth gorff yr Ymneilltuwyr, ac yr oedd yn rhy annibynnol i fod yn Annibynnwr. Eithr er mai Ymneilltuwr oedd o, eto nid oedd o mor Biwritanaidd ei syniadau â llawer o'r Eglwyswyr; canys yr oedd ei ysbryd cyfriniol yn ei ddwyn yn agos at y Catholigion, a'i ysbryd ymchwilgar, beirniadol, yn ei ddwyn yn agos at y Rhesymoliaid. O ran hynny, y mae Cyfriniaeth a Rhesymoliaeth, er bod eu brigau'n ymwahanu, yn tyfu oddi ar yr un bonyn. Yr un peth sy'n peri i rai ysbrydoli'r naturiol ag sy'n peri i eraill naturioli'r ysbrydol.
Er bod Morgan Llwyd mewn rhai pethau yn cyfranogi o ragfarnau'i oes, eto y mae o mewn pethau eraill ymhell o flaen ei oes. Nid oes un diwinydd Cymreig, nac odid ddiwinydd Seisnig chwaith, wedi rhagddangos cynifer o'r syniadau a gyhoeddir yn y dyddiau hyn mewn cyfrolau deg a chwech yr un gan Clark o Gaer Edni. Nid yw'r Prydeiniwr Heard yn ei Tripartite Nature of Man, na'r Ffrancwr Godet yn ei draethodau ar yr un pwnc, yn dywedyd odid ddim na ddywedwyd ddau can mlynedd yn ôl ar ddwy neu dair o ddalennau yn y Cyfarwyddyd i'r Cymro, ac yn y Tri Aderyn, o waith Morgan Llwyd. Fe fyddai'n ormod i mi ddyfynnu'r cwbl a ddywedodd yntau, eithr gwrandawer ar ychydig o frawddegau o'r ddau lyfr y cyfeiriwyd atynt:
Y mae gennyt etifeddiaeth o dair rhan, sef ysbryd ac enaid a chorff. Dy ysbryd di a ddaeth o'r Tad, fel rheswm o'r meddwl, fel gwreichionen o'r eirias, fel ffynnon o'r môr, neu fel anadl o'r genau yr hwn a chwythwyd i gorff dyn allan o fynwes Duw, ac sydd i ddychwelyd eilwaith i'w fynwes ef, yr hwn sy'n preswylio mewn plas a elwir Tragwyddoldeb. Dy enaid hefyd yw'r ysbryd naturiol a grewyd o'r elem— entau anweledig, yn ôl naturiaeth y telpyn pridd, yr hwn y mae efe yn lletya ynddo; er hynny, y mae'r enaid yma yn ffurfiwr i'r corff, ac yn ei agweddu yn ôl ei feddwl, i aros yn ei hafoty corfforol dros amser. Ac eto cwlwm yw yr enaid yma rhwng yr ysbryd a'r corff; a phan wisger ef allan drwy glefydau, neu ei dorri ffordd arall, y mae yr ysbryd yn ymollwng oddi wrth y corff i mewn, fel gŵr yn myned oddi cartref. mae enaid ymhob peth byw, a math ar ddeall gan bob anifail, ond nid oes ysbryd anfarwol mewn dim ond mewn dynion ac angylion. Yr enaid y mae dyn yn ei lun ei hun yn ei genhedlu, ond Duw yw tad (ac nid taid) yr ysbryd. Yr ysbryd yw neuadd yr enaid, a'r enaid yw porth yr ysbryd... Mae rhinweddau dyn naturiol yn ei enaid, a'i bechodau yn ei ysbryd. Mae rhinweddau dyn ysbrydol yn ei ysbryd, a'i bechodau yn unig yn ei enaid... Pam y mae ymrysonau ymysg ffyddloniaid? Am fod enaid y naill yn ymosod yn erbyn ysbryd y llall; canys yr un yw eu hysbryd hwynt oll yn Nuw, ond ni chytuna eu heneidiau daearol â'i gilydd.
Trowch i Ddogmateg Martensen, y pennaf o ddiwinyddion Lutheraidd yr oes hon, a darllenwch ei bennod ar Briodoliaethau Duw, a chwi welwch fod y frawddeg orau ynddi yn debyg iawn i gyfieithiad o'r frawddeg hon sydd yn y Tri Aderyn:
Nid yw Trugaredd a Chyfiawnder yn Nuw yn ymryson, ond yn digoni y naill y llall, ac yn ymborth yn ei gilydd erioed, fel llawenydd a thristwch yn yr un galon.
Yn lle gosod Trugaredd a Chyfiawnder i ymladd â'i gilydd fel math of "Punch and Judy" yn ôl arfer isel y diwinyddion Piwritanaidd a hen bregethwyr y Methodistiaid, y mae efô, yn gytunol â diwinyddion diweddarach a mwy athronyddol, yn edrych ar undod yr holl briodoliaethau yn yr YDWYF tragwyddol.
Pe buasai Vinet, yr hwn a elwir Pascal y Protestaniaid, yn byw o flaen Morgan Llwyd ac nid ar ei ôl, fe dyngasai rhywrai mai oddi ar y Ffrancwr hwnnw y lladratasai'r Cymro ei sylwadau gwych ar y Deml Ysbrydol. Er bod Pascal yn cydoesi ag ef, eto y mae'n anodd gennyf feddwl mai i'r awdur hwnnw y mae o'n ddyledus am rai o'r ymadroddion Pascalaidd sydd yn ei brif waith. Eithr fe ddichon mai o "Wladwriaeth " Platon yn ddigyfrwng neu yn gyfryngol y cafodd ei syniadau am ddelwau'r meddwl. Hyd yn oed pe buasai awen arafaidd Bunyan ac awen gynhyrfus Christmas Evans wedi ymgyfarfod ynddo fe fuasai'n anodd iddo sgrifennu dernyn mwy swynol na hwnnw lle y mae'r golomen yn adrodd ei hanes crefyddol; ac eto ni allai o fod yn ddyledus i Christmas Evans, nac yn wir i Bunyan chwaith. Y mae'n fuddiol darllen llyfr y Tri Aderyn am y rheswm hwn yn unig, sef bod ei awdur yn peri i'r darllenwr atgofio'r pethau a welodd rywbryd neu'i gilydd yng ngweithoedd prif awduron y gwahanol genhedloedd.
Pe bernid gwerth llyfr wrth nifer y brawddegau cynhwysfawr sydd ynddo, yna fe gyfrifid llyfr y Tri Aderyn ymhlith y goreuon o lyfrau'r byd; eithr nid crug o feini, pa mor werthfawr bynnag, ydyw llyfr, ond adeilwaith: a rhaid addef nad yw adeilwaith Morgan Llwyd yn deilwng o'r defnyddiau sy ganddo. Y mae'n frawddegwr gwych dros ben, ond paragraffwr gwael ydyw. Yn wir, nid yw llawer o'i baragraffau amgen na thwr o ddiarhebion, o ymadroddion diarhebol, ac o sylwadau byrion, heb ymresymiad na chysylltiad agos. Yn lle cyfres o frawddegau syml o'r un hyd, fe fuasai'n well gennych gael mwy o frawddegau cymalog, a mwy o arddodiaid rhyngddynt i fachu'r naill wrth y llall. Ac ystyried fyrred yw ei anadl, y mae ei arddull yn dda; ac y mae ei iaith hefyd, er ei bod yn gyffredin yn aflêr, yn aneglur, ac yn anystwyth, bob amser "mewn grym" ac weithiau "mewn prydferthwch" hefyd. O sgrifennwr mor gryf, nid oes neb yn gallu sgrifennu'n dlysach nag ef. Pa beth a all fod yn dlysach na'r dychymyg hwn:
Mae'r bwa yn y cwmwl â'i ddeupen i wared ac nid i fyny, i ddangos nad yw'r Tad yn ewyllysio saethu at ddynion mwyach, ond yn gollwng ei fwa i lawr yn ei law. Mae rhan o'r enfys yn wyrddlas, i ddangos ddarfod boddi'r byd mewn dwfr; a rhan ohoni'n gochfelen, i ddangos y llosgir y byd â thân eto.
A pha beth a all fod yn fwy hapus na'i waith yn cyffelybu Cristionogion yn ymrafaelio â'i gilydd i frodyr Joseff yn ymryson ar y ffordd tua thŷ eu tad?
Pe buasai dysg Morgan Llwyd gymaint â'i ddawn, a'i fedr gymaint â'i allu, ac yntau wedi cael oes hwy a thawelach, fo allasai wneuthur llyfr y buasai ei glod yn cerdded i lawer gwlad.
THEOPHILUS EVANS
sy'n haeddu ei enwi'n drydydd ymhlith awduron y cyfnod. Y mae'n wir ei fod ef mor hygoelus fel nad ydys mwyach yn ei gyfrif yn hanesydd da; ond yr ydys eto'n mawrygu ei allu llenyddol gymaint ag yn amser ein teidiau. Yn y gallu hwn y mae ef yn sefyll yn uwch o lawer na Morgan Llwyd, ac agos yn gyfuwch ag Elis Wynn. Er bod gradd o debygrwydd rhwng Elis Wynn a Morgan Llwyd, nid oes dim tebygrwydd rhwng un ohonynt a Theophilus Evans. Y mae hwn yn debycach i Morus Kyffin nag i un ysgrifennwr Cymraeg arall; canys y mae o fel hwnnw yn ysgrifennu'n hytrach yn llawn nag yn gryno, yn hytrach yn rhwydd nag yn fanwl. Mewn ymchwydd, sef yr hyn a eilw'r Saeson yn flow neu swing, y mae'r ardderchocaf Theophilus yn rhagori ar bawb oddieithr ar Morus Kyffin. Er bod y Gweledigaethau wedi eu cyhoeddi dair blynedd o flaen Drych y Prif Oesoedd,[1] a'r Tri Aderyn drigain mlynedd o flaen y Gweledigaethau, eto y mae Cymraeg y Drych yn fwy henaidd o lawer na Chymraeg y ddau lyfr hynny. Tra y mae Elis Wynn, a Morgan Llwyd, ac Edward James, ac eraill oedd yn byw o'i flaen, yn dodi'r ferf yn gyffredin yn nechrau ymadrodd syml, y mae Theophilus Evans yn llawn mor fynych yn dodi'r enw'n flaenaf. Y mae'n fwy ganddo fo glymu ymadroddion ynghyd, trwy ddwyn geiriau perthnasol yn agos at ei gilydd, na dangos arbwys. Rhaid addef bod llawer o'r swyn yn dyfod o'r hendid hwn, ond fe fyddai'n well peidio â'i ddilyn yn hyn o beth, oddieithr pan fyddo'r syniadau'n gofyn iaith aruchel neu areithyddol. O ran hynny, y mae'n debygol nad ceisio bod yn henaidd ei Gymraeg yr oedd o, ond bod ei waith yn dyfal ddarllen y Brutiau yn ei febyd wedi gwneud ei Gymraeg yn fwy henaidd na Chymraeg ei gydoeswyr yn ddiarwybod iddo fo'i hun. Heblaw hynny, hanesydd neu chwedlonydd oedd efô, ac nid rhaid i hwnnw wrth iaith mor fanwl â'r athrawiaethwr.
Yn ei feistrolaeth ar eiriau a phriodebion Gymraeg, nid yw Theophilus Evans yn ail i neb; er y ceir yn ei lyfr hefyd, fel yn y Beibl, lawer o ffurfiau sydd erbyn hyn yn ymddangos yn anghymreigaidd.
Eithr nid er mwyn ei Gymraeg yn unig y dylid astudio'r awdur hwn, ond hefyd oblegid ei fawr ddawn, sydd bob amser yn ffrydio mor ddiymdrech â dwfr allan o ffynnon. Y mae ganddo agos cymaint o allu i adrodd, neu yn hytrach i chwedleua, ag sy gan awduron y Mabinogion; ac yn ei allu i ddarlunio, y mae o'n rhagori ar bob awdur Cymraeg. Y mae'n ddiau gennyf y gwnâi well gohebydd rhyfel na neb a sgrifennodd i bapurau Llundain o amser brwydr Waterloo hyd amser brwydr Plevna. Y pethau gorau eraill sy'n britho'r Drych, heblaw'r chwedlau a'r darluniadau, yw'r mân gyffelybiaethau sydd ynddo. Os gwyddoch am ryw lyfr diweddar mewn unrhyw iaith ag ynddo gyffelybiaethau tebycach i gyffelybiaethau byrraf y bardd Homer na'r rhai canlynol, fe fyddai'n dda gennyf gael gwybod ei enw:
Megis aderyn gwyllt pan dorrer ei esgyll, a fydd yn dychlamu ac yn selgyngian o gylch tŷ gydag un dof; ond pan dyfant drachefn, efe a ddengys o ba anian y mae: felly y Brithwyr hwythau, ar ôl iddynt ymgryfhau, ond yn enwedigol ar ôl iddynt ymgyfeillachu a'r Saeson a'r Ffrancod, rhuthro a wnaethant ar eu hen feistriaid, y Brytaniaid, a'u llarpio mor ddidrugaredd ag y llarpia haid o eryrod ddiadell o ŵyn.
Fe weithiodd hynny, yn wir, ryw gymaint o fraw ynddynt, ac a wnaeth i'w calonnau ysboncio ychydig; megis y gwelwch ddyn yn cilio yn drachwyllt wrth ganfod neidr yn ddiswta yn gwanu ei cholyn ac yn llamsach mewn perth.
Chwennych yr oeddynt godi mewn arfau, lladd eu meistriaid, a bwyta braster y wlad, ond eu bod yn ofni bod y Rhufeiniaid yn rhy galed iddynt; megis y gwelwch chwi bedwar neu bump o gorgwn, er cymaint a fo'u chwant, a safant o hirbell, gan edrych o yma draw heb feiddio peri aflonyddwch idd eu goreuon.
Er gwahanu yr hen Frytaniaid oddi wrth ei gilydd, sef i Lydaw, a Chernyw, a Chymru, eto Ilawer gwaith y gwnaethant ymgais i hyrddu ymaith y gelynion, a bod yn ben drachefn; ond gormod o ymorchest oedd hynny, ac uwchben eu gallu; megis pan fo neidr wedi ei thorri yn dri darn, e fydd pob darn clwyfus dros encyd yn gwingo, ond heb allu byth ymgydio drachefn.
Yno y gwelid y saethau'n chwifio o'r naill lu at y llall, megis cafod o gesair yn ymdyrru pan fo gwynt gwrthwyneb yn eu gwthio draw ac yma.
Fe fyddai'n burion imi yma ddyfynnu'r ymadroddion sy'n dilyn y gyffelybiaeth olaf er mwyn rhoi enghraifft o ddawn yr awdur i ddarlunio:
Och! pa fath olwg dosturus a fyddai gweled rhai â'u hymysgaroedd allan, a'r meirch rhyfel yn ymddyrysu ym mherfedd a choluddion eraill; ambell ddart yn nhwll y llygad, a'r dyn eto yn fyw ac yn ymgynddeiriogi gan ei boen! ambell ddart yn y safn, y naill hanner y tu hyn, a'r hanner arall y tu draw i'r gwddf allan! ambell ddart yn y talcen dros yr adfach, a'r ymennydd yn glafoerio allan! ambell ddart yn disgyn ar y llurig neu'r astalch pres, ac yn seinio yn rhonc megis cloch! ac ambell ddart yn union at y galon ac yn diboeni mewn munud. Ac am ben hyn, yn lle meddygon i drin eu clwyfau, y meirch rhyfel yn ystrancio draw ac yma dros y clwyfus truain, yn briwo esgyrn rhai, yn llethu eraill; yn cernodio allan ymennydd rhai, a chalonnau ac ymysgaroedd eraill.
Os mynnwch gael enghraifft o allu'r awdur i gyfieithu, darllenwch ei gyfieithiad o "wiw bregeth St. Antwn" i'r "annwyl gariadus bysgod."
Er na ddylid cyfrif yr hen
CHARLES EDWARDS
gyda'r tri chedyrn a enwyd, eto, gan fod y cyffredin yn ei gyfrif yn hytrach yn awdur nag yn gyfieithwr, y mae o'n haeddu lle anrhydeddus ar ôl y tri hynny. Wrth ddarllen gweithoedd y tri chyntaf, eu hedmygu yr ydys oblegid eu doniau meddyliol; ond wrth ddarllen llyfr a rhagymadroddion Charles Edwards, ei garu yr ydys oblegid ei wylder, ei fwyneidd-dra, ac ireidd-dra ei ysbryd. Yn ddiau fe dywalltwyd gras ar ei wefusau, ac y mae enaint y Santaidd yn disgyn ar hyd ei farf. Ar ôl gwybod cymaint a wnaeth megis o'r tu ôl i'r llenni i ddyrchafu llenyddiaeth ei wlad, yr ydys yn ei garu'n fwy fyth. Rhwng popeth, efô yw'r awdur hawddgaraf sy gennym. Os cymwys oedd galw Daniel yn ŵr annwyl," Ioan yn "ddisgybl annwyl," a Luc yn "ffisigwr annwyl," llawn mor gymwys fyddai galw Charles Edwards yn awdur annwyl. Efô yw Fénelon Cymru; canys y mae pawb yn ei garu, er nad yw pawb yn ei gredu. Er hynny, dynion duwiolfrydig a all fwynhau Charles Edwards orau; canys y mae llawer o'r swyn sydd yn ei eiriau yn dyfod o'r eneiniad sydd arnynt. Ond fe all pob llenor, boed ef grefyddol neu anghrefyddol, brisio'i arddull dlos, a'i ffigurau gogleisiol. A dweud y gwir i gyd, y mae ei arddull yn well na'i iaith, fel y dengys y dyfyniad byr hwn:
Gwraig Job a lefarodd wrtho fel un o'r ynfydion; er hynny, ni phechodd ef â'i wefusau. Cawsai ddigon o rybudd oddi wrth Adda fel medrai Satan wneuthur bwa croes o'i asen ef i saethu ato ef ac i'w archolli; am hynny, gwiliodd ac ymgadwodd. Mor iachus ydoedd tymer ei ysbryd ef, nad allai yr haint oedd cyn nesed at ei fynwes ef mo'i amharu.
Yn y dernyn yma yr ydys yn gweled ar unwaith ym mha bethau yr oedd o'n rhagori, ac ym mha beth yr oedd o'n pallu. Ni all dim fod yn dlysach na'r syniad sydd yn y dernyn, na dim yn dlysach na'r ffurf y mae'r syniad yn ymddangos ynddo; ond fe allesid gwisgo'r peth mewn gwell iaith. Eithr un peth yn unig sy'n peri bod bai ar Gymraeg Charles Edwards, sef ei waith yn arfer rhagenwau lle nad oes mo'u heisiau; a'r hyn sydd waeth na hynny, yn peidio â'u harfer lle y mae eu heisiau. Yn y dernyn a ddyfynnwyd y mae o'n dywedyd, "wrtho ef," ato ef," ei asen ef," "ei ysbryd ef," "ei fynwes ef," pan fuasai'n ddigon iddo arfer ef ar ôl y gair asen yn unig; ond nid yw o'n arfer nac enw na rhagenw gyda'r berfau diberson cawsai ac ymgiliodd, fel na aller deall yn hawdd pa un ai dyn ynteu dynes, ai person ynteu peth, yw sylfon (subject) y ddwy ferf. Heblaw ei fod wrth beidio ag arfer rhagenw gyda chyfryw ferf yn tywyllu'r ystyr, y mae o hefyd yn gwneud aelodau brawddeg yn fwy ysgaredig ac afrywiog; canys y mae rhagenwau ar unwaith yn clymu ymadroddion, ac yn meddalu llythrennau celyd. Er enghraifft, y mae'r frawddeg, Pan ddaeth o'n agos, hi a gyfarchodd well iddo," yn eglurach, yn llyfnach, ac yn fwy cysylltiedig na'r frawddeg, "Pan ddaeth yn agos, cyfarchodd well iddo." Yr wyf yn pwyso cymaint ar hyn am fod y rhan fwyaf o sgrifenwyr yr oes hon wedi mynd i gredu os yw'n rhydd iddynt beidio ag arfer rhagenw gyda'r ffurfiau personol cyferchaist, cyfarchasoch, fod yn rhydd iddynt hefyd beidio ag arfer un gyda'r ffurf ddiberson cyfarchodd.[2] Y mae'n resyn fod gŵr mor ddysgedig â Charles Edwards, trwy ei siampl, wedi rhoi lle iddynt i gredu peth mor gyfeiliornus.
O ran ei gynnwys, y mae'r rhan flaenaf, sef y rhan hanesyddol o waith Charles Edwards yn lled ddiwerth, am nad yw hi ddim amgen na chasgliad o chwedlau allan o Fucheddau'r Saint Catholig, ac o Hanes y Merthyron Protestannaidd gan Foxe; ac am hynny, fe ddylai'r darllenydd edrych ar y chwedlau hynny'n unig fel enghreifftiau o hygoeledd yr hen bobl. Y mae gan bob cyfundeb ei chwedloniaeth, ac os astudir chwedloniaeth Gristionogol fel yr ydys yn astudio chwedloniaeth Groeg a Rhufain, fe all yr astudiaeth wneud mwy o les nag o afles. Yn ddiweddar y dechreuwyd dysgu dywedyd y gwir yn noeth, ac y mae lle i ofni na byddys wedi gorffen dysgu cyn y delo'r mil blynyddoedd. Yn y cyfnod dymunol hwnnw fe ymddengys dywedyd celwydd ym mhlaid un cyfundeb, ac yn erbyn cyfundeb arall, yn arferiad mor waradwyddus â chyniweirio Lime Street ar ôl hanner nos.
Ymhlith awduron y cyfnod, efallai mai'r pedwar a enwyd yn unig a ellir eu cyfrif yn glasuron. Yr oedd ynddo sgrifenwyr eraill o radd uchel, ond prin y sgrifennodd rhai ohonynt yn ddigon helaeth, nac eraill ar bynciau digon pwysig, i haeddu cael eu galw'n awduron clasurol. Odid nad oedd Edmwnd Prys yn Gymreigydd llawn medrusach na Charles Edwards; er hynny, ni sgrifennodd o ddim mewn rhyddiaith y byddai'n wiw annog y cyffredin i'w ddarllen. Er gwerthfawroced ei gynnwys, ac er gwyched ei arddull yw Epistol Dr. Richard Davies "At y Cembru," eto yr wyf yn hwyrfrydig i'w osod ymhlith gweithoedd clasurol y Cymry; yn un peth, am ei fod mor fyr; ac yn beth arall, am fod ei Gymraeg mor Salsbrïaidd. Er darfod i Edward Samuel ysgrifennu lliaws o anerchiadau, a hyd yn oed un llyfryn sy'n rhywbeth amgen na chyfieithiad, eto ymhlith y cyfieithwyr clasurol ac nid ymhlith yr awduron clasurol y dylid ei restru ef. Y mae'n resyn bod cynifer o sgrifenwyr dysgedicaf a medrusaf y cyfnod hwn wedi ymfoddloni ar gyfieithu'n unig; a hynny'n fwy o achos bod y mân bethau gwreiddiol a ysgrifenasant yn dangos y gallasent ysgrifennu llyfrau amgenach nag amryw o'r llyfrau Saesneg y bu'n wiw ganddynt eu troi i'r Gymraeg. Yn fy marn i, ni all un cyfieithiad, pa mor dda bynnag, fod yn gyfieithiad clasurol, os na bydd o'n gyfieithiad o waith clasurol; am hynny nid wyf yn cyfrif y Llwybr Hyffordd, o gyfieithiad Robert Llwyd o'r Waen, a'r Ymarfer o Dduwioldeb, o gyfieithiad Rowland Fychan o Gaer Gai, yn gyfieithiadau clasurol. Ie, y mae'n amheus gennyf a ddylid cyfrif Llyfr y Resolusion yn gyfieithiad clasurol. Er bod ei gyfieithydd, y Dr. John Davies o Fallwyd, yn un o'r Cymreigwyr gorau, eto nid oedd awdur y llyfr ddim yn un o'r awduron gorau, hyd yn oed yn ôl tystiolaeth ei gyd-grefyddwyr; canys yr oedd Robert Parsons yn rhy brysur yn ceisio adsefydlu'r ffydd Gatholig yn Lloegr i allu cael hamdden i wneuthur llyfr hirhoedlog. Os bu'r llyfr hwn farw yn Lloegr o eisiau hynodrwydd llenyddol, prin y byddai'n wiw ei atgyfodi yng Nghymru, hyd yn oed yn y corff ysbrydol a mwy Protestannaidd a roes Dr. Davies iddo.
Os ydys yn ymwrthod â Llyfr y Resolusion, pa beth ynteu sy'n aros i brofi bod Dr. Davies o Fallwyd yn un o'r cyfieithwyr gorau?—Ei waith yn cynorthwyo Dr. Richard Parry i ddiwygio cyfieithiad Dr. Morgan o'r Beibl. Eto i gyd, y mae Morgan yn haeddu mwy gogoniant na Davies a Parry, o gymaint ag y mae'r hwn a adeiladodd dŷ yn cael mwy o barch na'r rhai sy'n ei atgyweirio. Y mae'n wir y dywed Dr. Morgan mai diwygio a wnaeth yntau gyfieithiad Salsbri o'r Testament Newydd, ond nid oedd gan Morgan fel Cymreigiwr ddim i'w ddysgu gan Salsbri. Y mae cynefindra â Chymraeg William Morgan, fel y diwygiwyd gan John Davies a Richard Parry, yn peri i'r cyffredin feddwl na allasai neb arall newidio dim arno heb ei niweidio. Eto os bwriwn ymaith y rhagfarn sy'n dyfod o hirymarfer â rhywbeth, fe fyddai'n rhaid inni addef bod un o leiaf a allasai wellhau llawer ar Gymraeg y Beibl; canys y mae'r cyfieithiad o'r adnodau a geir yn Llyfr yr Homilïau yn fwy Cymreigaidd na chyfieithiad neb arall.
Y mae crybwyll am y llyfr hwn yn fy nwyn at ei gyfieithydd,
EDWARD JAMES,
un o'r ddau bennaf o'r holl gyfieithwyr Cymraeg, a'r cywiraf o'n holl ysgrifenwyr yn gyfieithwyr ac yn awduron. Nid gwiw sôn am arddull unrhyw gyfieithydd, am fod cyfieithydd wrth reswm yn ceisio sgrifennu yn arddull gŵr arall; ond pe buasai Edward James yn awdur, fe fuasai ganddo fo arddull o'r fath orau, fel y prawf ei ragymadrodd i'w gyfieithiad o'r Homiliau. Ym mha ran o lenoriaeth Gymraeg; ie, ym mha ran o lenoriaeth Saesneg y tu allan i gampwaith Hooker, y cewch chwi well enghraifft o'r hen arddull ddyrchafedig na'r ddwy neu dair brawddeg hir ond ystwyth hyn:
Yr Homiliau hyn hefyd, am eu bod mor fuddiol, a orchymynnodd yr ardderchog Frenhines Elizabeth eu hargraffu eilwaith; a hi a roddodd yr un gorchymyn am eu cadw hwy ag a roesai ei brawd duwiol yn y blaen. Ac megis na ellir dywedyd fod ar y ddaear erioed Dywysog a ddangosodd ym mhob peth arall fwy o zel at Dduw nac o ofal dros ei ddeiliaid na'r Brenin godidog ardderchog duwiol James ein grasusaf Frenin a'n Llywydd, felly yn y peth hyn ni ddangosodd efe ddim llai o'r fath zel a gofal nag a ddangosasai y Brenin Edward VI, a'r Frenhines Elizabeth, o'i flaen ef. Oherwydd yntau trwy gyfraith eglwysig (fel y gellir gweled yn 46 Canon a wnaeth y Gymanfa Esgobion ac Eglwyswyr a gynhaliwyd yn yr ail flwyddyn o'i deyrnasiad ef ar Brydain Fawr, Ffrainc, ac Iwerddon, yr hon a gadarnhaodd ei fawrhydi ef â'i awdurdod goruchel brenhinol) a roes orch ymyn caled ar fod i bob Person, Ficar, a Churat, ddarllen yr Homiliau hyn bob Sul a Gŵyl (o ddiffyg pregeth) ymhob Eglwys Blwyf a Chapel o fewn y deyrnas, fel y gallai y rhai ni chlywant lafar pregethwr ond yn anaml, wrth arfer o glywed y pregethau duwiol dysgedig hyn yn fynych, ddysgu mewn amser gredu yn Nuw yn union ac yn ffyddlon, galw arno yn ddifrif ac yn deilwng, gwneuthur y cwbl o'u dyled tuag at Dduw a'u cymydogion, ac ymddwyn felly yn y byd hwn yn ôl gwybodaeth fel y caffont fwynhau bywyd tragwyddol yn y byd a ddaw trwy ein Iachawdwr Iesu Grist.
Onid yw pob brawddeg, gyda'i haml aelodau, yn peri ichwi feddwl am ddinas wedi ei chydgysylltu ynddi ei hun; ac onid yw'r awdur yn peri ichwi feddwl am dywysog urddasol yn ymdaith yn amlder ei rym? Dyn diwylliedig a mawr ei amgyffred a fedrai lunio brawddegau o fath y rhai a ddyfynnwyd. Haws fyddai i ddyn cyffredin drefnu byddin fawr mewn brwydr na threfnu ymadroddion yn null meistrolaidd Edward James. Pe na buasai ofn Calfiniaid Dyffryn Clwyd gerbron fy llygaid, mi a ddywedaswn ddarfod ethol Edward James i fod yn rhywbeth amgenach na chyfieithydd. Er bod yr Homilïau yn haeddu eu cyfieithu, ac yn haeddu eu darllen yn y dyddiau hyn am fwy nag un rheswm, eto y mae'n anodd gennyf feddwl na allasai'r cyfieithydd, trwy rin y ddawn a'r ddysg oedd ganddo, wneuthur rhyw waith llenorol a fuasai'n rhagorach na'r Homilïau. Yn ei gyfieithiad o'r rhain nid yw'r arddull mor fawreddig ag yn ei Ragymadrodd iddynt; ond y mae hynny'n bod o achos nad oedd arddull Cranmer a Latimer a Jewel mor fawreddig â'i arddull naturiol ef. Ni buasai gan awduron yr Homilïau ddim achos i gwyno bod y cyfieithiad Cymraeg yn anghywir, ac nid oes gan ddarllenwyr Cymreig achos i gwyno ei fod yn anghymreigaidd; canys nid oes gennym un gwaith gwreiddiol sy'n fwy Cymreigaidd nag ef. Er ei fod yn un o gyfieithiadau hynaf y cyfnod, y mae ei Gymraeg yn fwy diweddar ei ddull na Chymraeg un llyfr safonol oddieithr y Gweledigaethau ac mewn cywirdeb a manylder y mae o'n rhagori ar Gymraeg pob llyfr y gwn i amdano. Fe ddywedir am rai, megis Pascal yn Ffrainc, a Lessing yn yr Almaen, eu bod wedi sefydlu'r iaith yr oeddynt yn ysgrifennu ynddi. Ni bu neb yn nes i sefydlu'r Gymraeg nag Edward James. Lle na all efô fod yn gryno heb fod yn aneglur, y mae'n fforffedu crynoder er mwyn eglurder. Yn gytunol â hyn, ni bydd o odid byth yn arfer berf yn y ffurf a gamelwir yn " 3ydd person unigol" heb enw neu ragenw yn sylfon iddi. Yn gyffredin y mae o'n arfer rhagenwau o flaen ffurfiau personol y ferf hefyd; ac weithiau (a hynny er mwyn gochel amwysedd yn unig, ac nid er mwyn dangos arbwys) y mae yn eu harfer ar ôl ffurfiau personol, yn enwedig ar ôl berf yn y 3ydd person lluosog. Pan fo sylfon berf ar ei hôl, a'r sylfon hwnnw'n enw, y mae o'n arfer fe o flaen y ferf i wasanaethu yn rhagarweinydd i'r enw. Er mwyn dangos yn fanylach yr amser presennol, y mae o'n mynych arfer y ffurfiau amhersonol ydys a byddys. Hyd yn oed mewn ymadrodd cysylltiol, anfynych y mae o'n arfer y ffurf ddyfodol i ddynodi'r amser presennol; canys yn lle dywedyd, "y'n cyfiawnheir," "y'i dygir (ef)," y mae o'n dywedyd, "fod yn ein cyfiawnhau," "fod yn ei ddwyn."
Gan fod y syniadau sydd yn yr Homilïau yn hytrach yn Ysgrythurol a syber nag yn newydd a disglair, a bod y brawddegau gan mwyaf yn dra chymalog, rhaid addef nad yw'r cyfieithiad hwn ddim yn un o'r pethau hyfrytaf i'w ddarllen. Er hynny, gan fod rhannau pob brawddeg wedi eu cymwys gydgysylltu, a'r geiriau ymhob rhan wedi eu hiawn drefnu, y mae'n fuddiolach i lenor ifanc a fynno ddisgyblu ei feddwl, ddarllen y cyfieithiad o'r Homilïau nag odid un llyfr arall a gyhoeddwyd yn iaith y Cymry.
Dywedais mai Edward James oedd un o'r ddau bennaf o'n cyfieithwyr. Pe dywedaswn mai efô oedd y pennaf o'r cwbl, y mae arnaf ofn y gwnaethwn gam â'r hen
FORUS KYFFIN,
cyfieithydd dawnus Deffynniad y Ffydd, o waith yr Esgob Jewel; canys er bod Edward James yn rhagori arno mewn coethder, cywirdeb, a manylder, y mae yntau'n rhagori ar Edward James mewn rhwyddineb, ystwythder a hoywder. Y mae Cymraeg Edward James yn gyffelyb i sgrifen gron, a Chymraeg Morus Kyffin yn gyffelyb i sgrifen redeg: ac er bod hon yn arwydd o law fwy hyfedr na'r llall, y mae'n ddiogelach i ddisgyblion ifainc gymryd ysgrifen gron yn gynllun. Astudied y cyfryw rai Gymraeg Edward James yn gyntaf er mwyn dysgu sgrifennu'n bur; ac wedyn astudiant Gymraeg Morus Kyffin er mwyn dysgu sgrifennu'n wych. Er cystal yw Cymraeg Edward James yn ei gyfieithiad, eto y mae Cymraeg ei Ragymadrodd ef ei hun yn fwy urddasol. Yn y gwrthwyneb, y mae Cymraeg Morus Kyffin yn ymddangos yn llawn cystal yn ei gyfieithiad ag yn ei Ragymadrodd. O ran arddull y mae Rhagymadrodd James yn rhagori ar Ragymadrodd Kyffin, a chyfieithiad Kyffin yn rhagori ar gyfieithiad James. Ond y mae'r rhagoriaeth hwn yn ei gyfieithiad yn dyfod yn bennaf o hyn: sef bod arddull yr Esgob Jewel ei hun yn well yn y Deffynniad nag yn yr Homiliau. Heblaw hynny, gan mai o'r Lladin ac nid o'r Saesneg y cyfieithodd Kyffin Ddeffynniad y Ffydd, yr oedd math o orfod arno i gyfieithu'n rhyddach.
Yn ei fedr i gyfieithu brawddegau hirion, cyfansawdd, y mae Morus Kyffin yn gyfartal ag Edward James. Y mae gan Jewel yn nechrau'i lyfr un frawddeg sy'n ymestyn dros fwy na thudalen a hanner o faint cyffredin. Er hynny, y mae Kyffin yn ymfwrw iddi yn y pen yma mor ddihafarch, ac yn dyfod allan ohoni yn y pen draw mor llwyddiannus â dyfrgi yn croesi afon. Pe buasai cyfieithydd cyffredin yn ymosod ar y fath orchwyl, fe fuasai'n wiw iddo cyn dechrau ddiogelu ei fywyd a chanu'n iach i'w berthnasau.
Rhag eich blino â meithder, ychydig iawn a ddywedaf am y cyfieithwyr eraill.
EDWARD SAMUEL
yn ddiau sy'n haeddu cael ei osod yn nesaf i'r ddau a enwyd, gan ei fod yn Gymreigydd dillyn odiaeth. Ni chyfieithodd un Cymro arall gynifer o lyfrau gwerthfawr. Yn ei amser ef yr oeddid yn eu cyfrif hwynt oll yn weithoedd safonol, ac yr ydys eto'n cyfrif mwy nag un ohonynt felly. Y gorau o'r cwbl yn ddiau yw gwaith Hugo Grotius ar Wirionedd y Grefydd Gristionogol, sy'n haeddu bod yn llyfr dosbarth yn ein colegau diwinyddol. Dyma'r pethau eraill a gyfieithodd o: Holl Ddyledswydd Dyn; Athrawiaeth yr Eglwys, sef detholiad o'r Homilïau wedi eu newyddu gan Dr. Nourse; a rhai o weithoedd Dr. Beveridge. Er nad oes dim llawer o wreiddioldeb yn ei lyfr ar Fucheddau yr Apostolion a'r Efengylwyr, y mae hwn yn rhywbeth amgenach na chyfieithiad. Er nad yw iaith Edward Samuel yn hwn ddim mor Gymreigaidd ag mewn amryw o'i gyfieithiadau, eto gan ei fod yn cynnwys cryno— deb cyfleus o hanes prif ddynion y Testament Newydd, y mae'r llyfr yn haeddu ei argraffu unwaith eto.
Ac ystyried popeth, rhaid gosod y gwlatgar a'r gweithgar
STEPHEN HUGHES
yn is nag Edward Samuel; eithr gan ei fod yn ysgrifennu'n rhyddach ac yn fwy naturiol, y mae mwy o swyn ynddo nag sydd yn Samuel. Y mae ei gyfieithiad o Daith y Pererin mor rhydd fel y byddai'n gymhwysach ei alw'n amgeneiriad. Gŵr gwylaidd iawn oedd Stephen Hughes; er hynny, y mae o'n honni bod y cyfaddasiad Cymraeg hwn yn llai blinderus ac yn fwy dealladwy na'r gwaith gwreiddiol, am ddarfod gadael allan ohono bethau a adroddid fwy nag unwaith, a dwyn i mewn iddo bethau eraill oedd yn angenrheidiol i egluro'r ystyr. Pa un bynnag ai gwell ai gwaeth yw Taith Pererin Stephen Hughes na Thaith Pererin Bunyan, y mae'n ddiamau gennyf i ei fod yn fwy darllenadwy nag un cyfieithiad Cymraeg a wnaed yn ddiweddarach. Er bod Cymraeg y llyfr yn bur o ran ei ymadroddion, lled werinaidd ydyw o ran y geiriau. Ac nid gwedd y geiriau yn unig sydd yn werinaidd —y mae'r geiriau eu hunain felly yn gyffredin. Ond yr ydys yn teimlo bod hyn yn hytrach yn addas nag yn anaddas mewn cyfieithiad o lyfr syml a fwriadwyd i bawb o bob oed ac o bob dosbarth. Y mae'n hawdd gweled wrth bob peth a sgrifennodd Stephen Hughes ei fod yn credu y dylai iaith llyfr fod yn debycach i iaith lafar. Er hynny, nid oes un o'n hysgrifenwyr a chanddo Gymraeg llai taleithiol nag ef. Er mwyn gwneud Cymraeg ei gyfieithiad yn Gymraeg Tywysogaethol fo ddewisodd dri chynorthwywr o wahanol barthau o Gymru. Pan fo gair Deheuol da yn ddieithr i Gymry'r Gogledd, y mae o ar ymyl y ddalen yn ei egluro â gair Gogleddol; a phan fo gair Gogleddol da yn ddieithr i Gymry'r De, y mae o'n egluro hwnnw â gair Deheuol. Er mai Deheuwr oedd ef ei hun, eto rhag ffafrio'r Deheubarth yn fwy na'r Gogleddbarth, y mae o'n gyffredin, fel Edmwnd Prys, yn arfer y rhagenw fo yn sylfon berf, ac ef yn wrthrych iddi; megis, "Fo a'i gwelodd ef." A llefaru'n fanylach, fo ydyw'r rhagenw sydd ganddo yn y cyflwr enwadol (nominative), ac ef ymhob cyflwr arall. Yr wyf i'n meddwl mai da y gwnâi llenorion yn ei ddilyn yn hyn o beth, canys paham y dylem beri i'r un a'r unrhyw ragenw wneud dau waith, a chennym ninnau ragenw arall yn sefyll yn segur? Y mae gan y Saeson eu he a'u him, yr hyn sydd yn fantais fawr. Pa beth sy'n rhwystro i ninnau arfer fo ac o am he, ac efô am he arbwysig, ac arfer ef am him, ac efe am him arbwysig neu gyferbyniadol? Y mae'n wir fod cyfieithwyr y Beibl yn arfer y ffurf efe i ddynodi sylfon berf, ond y mae honno'n rhy hir i fod yn rhagenw syml; heblaw fod arfer rhagenw dyblyg yn lle rhagenw syml yn ei gwneud hi'n anodd i ddarllenydd wybod pa bryd y bydd y rhagenw yn arbwysig, a pha bryd na bydd o ddim.
Y mae Pattrwn y Gwir Gristion, sef cyfieithiad
HUW OWEN O FON
o'r Imitatio Christi, yn fwy gwerinaidd fyth—yn rhy werinaidd ond odid. Er hynny, y mae'r cyf— ieithydd wedi llwyddo'n rhyfedd i gadw'r swyn sydd yn y llyfr byd—enwog hwnnw. Pa symledd, pa heneidd—dra, pa ysbrydolrwydd bynnag, a berthyn i'r gwaith gwreiddiol, fe ellid meddwl na chollwyd nemor ohonynt yn y cyfieithiad Cymraeg. Yn wir, y mae hwn, er cynifer o fân wallau sydd arno, mor annhebyg i gyfieithiad fel yr ydys yn anghofio mai cyfieithiad ydyw. Yn unig trwy ei gymharu â chyfieithiad Dr. Challoner, a chyfieithiadau Saesneg eraill, y canfyddir gymaint y mae'n rhagori mewn naturioldeb. Gan fod hwn yn gyfieithiad mor ddarllenadwy o lyfr y bu mwy o ddarllen arno nag ar un llyfr crefyddol arall, y mae'n rhyfedd na bai argraffwyr Cymru'n ymryson pwy ohonynt a fyddai'n gyntaf i ddwyn allan argraffiad hardd ohono tebyg i'r argraffiadau Saesneg.
Beth am
JOHN LANGFORD,
cyfieithydd cyntaf Holl Ddyledswydd Dyn—a ydyw yntau ymhlith y clasuron? Bron na thebygwn ei fod; a hynny am reswm amgenach na'i fod yn byw yn Rhuthyn ddeucant a chwarter o flynyddoedd yn ôl. Yn flaenaf oll, fo gyfieithodd un o'r ddau lyfr defosiynol mwyaf eu bri a gyhoeddwyd erioed yn Lloegr; a'r hyn sy fwy, fo a'i cyfieithodd yn bur foddhaol hefyd. Er cynifer o feiau sydd ar ei gyfieithiad, eto y mae o'n llawn mor ddymunol i'w ddarllen ag yw cyfieithiad Elis Wynn o Holy Living Jeremy Taylor; er ei bod yn iawn dweud bod Elis Wynn yn iau ac yn anfedrusach pan gyfieithodd o'r gwaith hwnnw na phan wnaeth o'r Gweledigaethau'. Y mae'r geiriau yng Nghymraeg John Langford yn llai gwerinaidd o beth na geiriau Huw Owen, Stephen Hughes, a Morus Kyffin; eithr y mae yntau'n gyffredin yn bwrw allan y llythyren t o'r terfyniadau berfol —ant, —ent, —ont; ac yn troi'r terfyniadau —ym, —em, —om, yn —yn, —en, —on o flaen y rhagenw ni.[3] Y mae o, fel y Dr. Morgan ac eraill, yn troi'r terfyniad berfol ai yn e, ac yn arfer fo yn lle ef ac efe, a nhw yn lle hwy, a hwynt; eithr y ffurf lenyddol ef y mae o yn ei harfer ar ôl gair a derfyno mewn cytsain.
Am ysgrifenwyr Cymraeg un cyfnod y bûm i'n traethu heno; ac yr wyf wedi dangos bod gennym yn y cyfnod byr hwnnw ddeg o leiaf o sgrifenwyr clasurol, ac ychwaneg na hynny o lyfrau clasurol. Mynych y bydd rhywrai sy'n medru Saesneg yn cwyno nad oes yn y Gymraeg ddim llyfrau teilwng i'w darllen. Ni fynnwn innau ddywedyd bod llyfrau gorau'r Cymry agos cystal â llyfrau gorau'r Saeson, ond yr wyf yn dywedyd yn ddibetrus eu bod yn well o lawer na'r rhan fwyaf o'r llyfrau Saesneg y mae'r cyffredin yn dewis eu darllen. Os tybia rhai Cymry eu bod, o wybod enwau'r prif awduron Saesneg, wedi myned yn ormod o wŷr i edrych ar lyfrau Morgan Llwyd ac Elis Wynn, paham ynteu na ddarllenant y cyfieithiadau gwych sy gennym o sgrifeniadau Cranmer, Latimer, Jewel, Jeremy Taylor, Beveridge, a John Bunyan? Ac os dywedant ymhellach fod yr awduron hyn yn fwy eu bri yn Lloegr nag yn y byd, paham na ddarllenant y cyfieithiadau sy gennym o weithoedd Grotius a Thomas a Kempis? Canys nid oes yn y Saesneg gyfieithiadau gwell na'r rhain, os oes eu cystal. Ni ellir gwadu nad Cymru fechan yw hen wlad ein tadau, yn llenyddol yn gystal ag yn ddaearyddol; ond tra bo cerrig ym mynyddoedd Arfon, a glo yn naear Morgannwg; tra bo gennym y Gododdin, y Mabinogion, a chaniadau Dafydd ap Gwilym, ynghyd â thrysorau eraill nid ychydig o'i amser ef hyd amser Lewis Edwards, na ddyweded neb am Gymru ei bod, o ran ei thir na'i llenyddiaeth, yn Gymru fechan dlawd.
ALLAN O'R Geninen, IONAWR 1894.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Nid yw hyn yn hollol gywir. Dyddiad argraffiad cyntaf y Bardd Cwsc yw 1703, ac o'r Drych yw 1716.—Gol.
- ↑ Wrth ddywedyd hyn yr wyf yn golygu'n hytrach ystyr presennol y terfyniad na'i wreiddyn cuddiedig.—E. ap I.
- ↑ Yn y gwrthwyneb, troi'r rhagenw ni yn mi, ac nid newid y terfyniadau berfol y mae Dr. Gruffydd Roberts, Morys Clynog, a Morus Kyffin—ffordd sy'n ymddangos yn chwithig i ochel dybryd sain.—E. ap I.