Neidio i'r cynnwys

Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III/Cyfraith Moses, a'r Proffwydi, a'r Salmau

Oddi ar Wicidestun
Rhagair i'r Ysgrif Gyntaf Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III

gan Robert Ambrose Jones (Emrys ap Iwan)

Damhegion Crist

CYFRAITH MOSES, A'R PROFFWYDI, A'R SALMAU

Nid yw'r peniad uchod namyn ymadrodd yn Luc xxiv 44; ac yr wyf yn ei gymryd yn destun ychydig sylwadau ar ffurfiad ac ar raniadau'r Hen Destament, yr hwn yw'r llyfr gorau o bob llyfr yng ngolwg yr Iddewon, a'r ail orau yng ngolwg Cristnogion hefyd.

Er mai sylwedd y Beibl ydyw'r peth pwysicaf o lawer, eto ni ellir iawnsynio am y sylwedd heb wybod rhywfaint am ei ffurf, ac yr wyf i'n ofni mai ychydig ddarllenwyr y Beibl yng Nghymru sy'n gwybod nemor am ffurfiad a dosbarthiad Hen Destament na'r Newydd. Y mae a wnelo'r ddeubeth hyn â'r amser y sgrifennwyd y gwahanol lyfrau; a heb wybod yr amser y sgrifennwyd hwynt, ni allwn chwaith wybod pa ddylanwad a gafodd crefyddau cenhedloedd eraill ar grefydd yr Israeliaid a'r Iddewon. Er mai i'r rhain y rhoddwyd y datguddiad llawnaf, eto fe roddwyd rhywfaint o ddatguddiad i genhedloedd eraill hefyd, canys fe ddywed Paul na adawodd Duw mono'i hun yn ddidyst mewn un rhan o'r ddaear; ac fe ddywed awdur y bedwaredd efengyl hefyd fod y Gair tragwyddol yn goleuo pob dyn a'r sydd yn dyfod i'r byd. "Iachawdwriaeth sydd o'r Iddewon"; er hynny, y mae'r Iddewon, hyd ryw fesur, yn ddyledus i'r Groegiaid, i'r Persiaid, ac i'r Eifftiaid. Fe ysbeiliodd yr Israeliaid yr Eifftiaid o ryw bethau amgenach na bethau amgenach na thlysau aur a thlysau arian; a phe na buasent wedi eu caethgludo i Fabilon, a'u dwyn trwy hynny i gysylltiad â'r Persiaid, ychydig os dim o sôn a fuasai yn yr Hen Destament am y dull y crewyd y byd, am nef a Hades ac uffern, am Satan a Gabriel a Michael, am y sarff a dwyllodd Efa yn Eden, am anfarwoldeb enaid ac atgyfodiad y corff. Gan ei bod yn hysbys i'r cyfarwydd fod yr holl bethau hyn yn hen grefydd y Persiaid, ac nad oes un cyfeiriad eglur atynt yn yr Hen Destament, oddieithr yn y llyfrau a sgrifennwyd ar ôl y caethiwed, yna y mae'n naturiol casglu mai yn naear Persia yr eginodd ac y tyfodd yr athrawiaethau hyn. Gormod o beth fyddai dywedyd mai yno y cafodd yr Iddewon yr hadau; diogelach yw dywedyd gyda Kuenen mai crefydd y Persiaid a brysurodd dyfiant yr hadau a oedd o'r blaen yn gorwedd yn guddiedig yn y grefydd Iddewig.

Yn awr, gan fod yr hanes am greadigaeth y byd ac am gwymp dyn wedi eu dodi yn nechrau'r Beibl, y mae'n hawdd i ddarllenydd cyffredin feddwl bod y penodau blaenaf yn yr Hen Destament wedi eu sgrifennu yn gynt na'r llyfrau sydd yn sefyll yn agos i'w ddiwedd; a bod y Salmau hefyd, gan eu bod wedi eu casglu ynghyd i'r un fan, wedi eu sgrifennu tua'r un amser. Ond nid yw bod lliaws o bethau o'r un natur wedi eu dwyn ynghyd i'r un llyfr ddim yn profi eu bod wedi eu sgrifennu gan yr un awdur, ac ar yr un pryd. Nid oes dim yn fwy profedig na bod y llyfrau yr ydys yn eu priodoli i Foesen wedi eu sgrifennu gan wahanol awduron, a hynny ar wahanol amserau; a hyn sy'n egluro paham y ceir ynddynt ddau draddodiad gwahanol am y Greadigaeth, am y Dilyw, am sefyllfa'r Tabernacl, am ddechreuad y Saboth, ac am liaws of bethau eraill. Nid ar unwaith chwaith y rhoddwyd y gyfraith sydd ynddynt; eithr yn llin ar lin, yn orchymyn ar orchymyn, fel y byddai amgylchiadau yn gofyn.

Pe buasai Cristnogion mwy eu sêl na'u gwybodaeth wedi deall ac addef bod y goruwchnaturiol wedi dyfod hyd atom ar hyd ffyrdd naturiol, fod y gair sydd o Dduw wedi ei roddi trwy ddynion, fod y trysor hwn gennym mewn llestri pridd, a bod y llestri'n rhoi peth o'u lliw a'u llun a'u blas ar y trysor, pe gwybuasent nad yw ysbrydoliaeth y Beibl ddim yn gyfystyr ag anffaeledigrwydd y llythyren; ar air, pe buasent yn fwy o Brotestaniaid nag o Babyddion, ni buasai cymaint o agendor rhwng crefyddwyr anwybodus ac anghredinwyr gwybodus ag sydd yr awr hon. Yn wir, ymlyniad rhagfarnllyd y rhan fwyaf o Gristnogion wrth draddodiadau'r tadau, a'u diofalwch am gadw gorchmynion trymaf cyfraith Crist, sydd wedi gyrru cynifer yn anffyddwyr mewn gwledydd Cristnogol. Gan y bydd addysg yng Nghymru cyn hir agos mor uchel a chyffredinol ag yr ydoedd hi yn yr Almaen ryw hanner can mlynedd yn ôl, y mae'n ofynnol i bawb sydd yn addysgu eraill, pa un bynnag ai o'r pulpud ai mewn dosbarth, iawn gyfrannu gair y gwirionedd, a rhoi y cyfryw eglurhad arno ag a fyddo yn ei ganmol ei hun wrth bob cydwybod dynion. Canys os ceisiwn barchu. gair Duw trwy amharchu rheswm a chydwybod dynion, yna ni gollwn ein haelodau a'n gwrandawyr mwyaf goleuedig, fel y collwyd hwy mewn llawer gwlad arall. Fe fuasai Cristnogaeth yn llawer uwch ei phen yn y byd nag ydyw hi heddiw pe derbyniasai Cristnogion bob gwirionedd newydd â chalon hawddgar a da, yn lle'i dderbyn megis o'u hanfodd ar ôl hir ymladd yn ei erbyn. Ymladd a wnaethant yn erbyn darganfyddiadau seryddiaeth a darganfyddiadau daeareg; ac ymladd y mae llawer ohonynt heddiw eto yn erbyn darganfyddiadau anianeg a darganfyddiadau hynafiaeth; ac ymladd ond odid a wnânt hyd oni chredant mai trwy natur ei hun y mae Duw yn datguddio pethau natur, ac mai trwy yr Ysbryd ei hun y mae o'n datguddio pethau'r ysbryd.

Er bod y dysgedigion pennaf mewn rhai pethau yn wahanol eu barn am yr Hen Destament, eto y maent mewn llawer o bethau wedi dyfod i gytundeb hollol; a rhyfygus yw'r dyn a daero fod y pethau a gredir yn ddiamau ymhlith dynion annysgedig cyn wired â'r pethau a gredir yn ddiamau ymhlith dynion dysgedig. I ba beth y mae dysg a doniau dda os nad ydynt yn cymhwyso'r rhai a'u medd i arwain y rhai nis meddant. "Digon i'r disgybl fod fel ei athro," medd yr Iesu, ond y mae rhai o ddilynwyr yr Iesu yn mynnu gwelláu'r adnod trwy ddywedyd, "Digon i'r athro fod fel ei ddisgybl." "Y mae gennyf i gystal hawl i farnu â'r gorau o ddynion," medd ambell un. Oes, yn ddiau; y mae ganddo gystal hawl i farnu, ond nid oes ganddo gystal hawl i benderfynu. Yn wir, nid oes ganddo ddim hawl o gwbl i benderfynu bod 2 a 2 yn gwneud 5, fod troedfedd cyhyd â llathen, mai clwt gwastad yw'r ddaear ynghanol y dyfroedd, fod yr haul yn troi o'i hamgylch bob dydd, nad yw sêr y nef namyn mân lusernau i'n goleuo ni liw nos, fod ffurfafen las yn do i'r ddaear ac yn llawr i'r nef, a bod y Beibl Cymraeg wedi disgyn oddi uchod yn un llyfr cyfan, ac wedi'i gyfieithu a'i argraffu a'i rwymo mewn modd gwyrthiol.

Yn awr, ni ddylid derbyn na gwrthod dim sydd hen am ei fod yn hen, ac ni ddylid chwaith dderbyn na gwrthod dim sy newydd am ei fod yn newydd. Derbyn a ddylem yr hyn sydd wir a phrofedig pa un bynnag fyddo, ai hen ai newydd. A chofier nad hen ydyw pob peth a dybir ei fod yn hen, ac nad newydd ydyw pob peth a dybir ei fod yn newydd. Er enghraifft, fe daera rhyw ddosbarth yn y wlad hon mai gwell yw'r hen syniadau am y Beibl na syniadau beirniaid diweddar, heb wybod nad yw'r syniadau y maent hwy yn eu cyfrif yn newydd namyn hen syniadau Calfin a Luther Diwygwyr Protestannaidd eraill. Am Calfin, y gŵr y mae ei enw ar Fethodistiaid cyntefig Cymru, yr oedd o'n barnu y dylai pwnc y Canon fod yn bwnc agored ymhlith Cristnogion; am mai rheswm a chydwybod dyn ei hun, ynghyd â thystiolaeth yr Ysbryd yn ei galon, sydd i benderfynu pa lyfrau sydd ysbrydoledig a pha lyfrau nad ydynt ysbrydoledig, ac nid traddodiadau'r Rabbiniaid Iddewig a'r Tadau Eglwysig.[1] Am hynny, nid oedd o'n cyfrif Luther yn anffyddiwr o achos bod hwnnw'n barnu y dylasai'r Rabbiniaid fod wedi cau allan o'r Canon lyfrau'r Caniadau, y Pregethwr, Esther, a'r Croniclau, ac o achos ei fod barnu nad oedd epistolau Iago a Suddas, yr Epistol at yr Hebreaid a Llyfr y Datguddiad, ddim yn gyfartal eu hawdurdod â llyfrau eraill y Testament Newydd. Protestaniaid oedd y ddau ŵr hyn, ond mhen rhyw gan mlynedd fe droes y rhan fwyaf o'u dilynwyr yn hanner Pabyddion trwy roi mwy o bwys ar draddodiad dynion ac ar awdurdod cynghorau nag ar dystiolaeth cydwybod a thystiolaeth yr Ysbryd.

Nid oes un camsyniad mwy cyffredin na bod Hen Destament yr un faint, yr un fath, ac yn yr un drefn, ymhob oes er dyddiau Esra уг offeiriad. Mewn gwirionedd yr oedd rhannau helaeth ohono heb eu sgrifennu yn ei amser ef, ac ni chasglwyd holl lyfrau'r Testament hwnnw ynghyd hyd Gymanfa Jamnia ym mhen rhyw hanner can mlynedd ar ôl marw Crist. Yn y gymanfa honno fe gafodd y Rabbi Aciba gryn waith i argyhoeddi ei gyd-Rabbiniaid fod llyfrau Esther, y Croniclau, a'r Pregethwr, yn llyfrau cysegredig. Am y rheswm hwn, a'r rheswm nad yw Crist a'i apostolion yn gwneud un cyfeiriad atynt, fe dybia llawer nad oeddid yn cyfrif y llyfrau hyn yn llyfrau cysegredig yn amser Crist. Ond nid yw'r ffaith na chyfeiriasant hwy atynt ddim ynddi ei hun yn braw nad oeddid yn eu cyfrif yn llyfrau ysbrydoledig, ac nid yw eu gwaith yn dyfynnu o lyfrau eraill ddim ynddo'i hun yn braw bod y rheini yn ysbrydoledig; canys y mae llawer yn barnu bod yr Apostolion, os nad yr Iesu hefyd, yn dyfynnu o lyfrau'r Apocryff, a hyd yn oed o lyfrau sydd wedi myned ar goll, am na cheir rhai o'u dyfyniadau mewn dim llyfrau sydd yn awr ar gael. Y ffaith ydyw nad oedd Canon yr Hen Destament ddim wedi ei sefydlu yn amser Crist. Am hynny, yr oedd Hen Destament yr Iddewon oedd yn siarad yr iaith Roeg yn cynnwys cryn lawer mwy o lyfrau na Thestament yr Iddewon oedd yn llefaru iaith Canaan. Nid oedd Iddewon Palestina yn cyfrif dim llyfrau yn ysbrydoledig oddieithr y llyfrau a sgrifennwyd yn yr Hebraeg.[2] Yr oedd Iddewon y tu allan i Balestina yn barnu, o'r tu arall, lefaru o Dduw trwy Iddewon Groegaidd hefyd, hyd yn oed ar ôl i'r hen iaith Hebraeg beidio â bod yn iaith lenyddol; ac felly, yr oeddynt hwy'n cymysgu'r llyfrau a sgrifennwyd yn yr iaith Roeg, sef yr Apocryff, â'r llyfrau a gyfieithwyd o'r Hebraeg. Fe ŵyr y darllenydd ond odid fod yr un gwahaniaeth barn yn bod ymhlith Cristnogion hefyd, canys y mae Hen Destament y Catholigion yn fwy na Hen Destament y Protestaniaid, am fod y Catholigion, a llefaru'n grwn, yn derbyn Hen Destament yr Iddewon oedd ar wasgar, a'r Protestaniaid yn derbyn Hen Destament Iddewon Palestina. Y mae'n wir fod y Protestaniaid hefyd yn cydnabod ei bod yn fuddiol darllen y llyfrau Groegaidd, ac am hynny'n eu dodi ar eu pennau eu hunain rhwng yr Hen Destament a'r Newydd; ond gan fod y llyfrau hyn yn rhy Babyddol eu dysgeidiaeth gan Brotestaniaid Prydain, fe ddarfu i Gymdeithas y Beiblau, ryw 70 mlynedd yn ôl, benderfynu peidio â'u cyd—rwymo o hynny allan â'r Beiblau a argreffid yn eu gweithdy hwy.

Gan fod disgyblion yr Iesu agos i gyd wedi eu magu ar lan Llyn Tiberias, y mae'n sicr eu bod hwy'n medru Groeg yn llawn cystal ag y medr y rhan fwyaf ohonom ninnau Saesneg. Yn wir, y mae'n amlwg mai o'r Hen Destament Groeg y byddent hwy'n fynych yn dyfynnu; a hynny ydyw'r rheswm bod yr ymadroddion dyfynedig yn y Testament Newydd mor annhebyg i'r ymadroddion sydd yn ein Hen Destament ni. Er bod Beibl Iddewon Palestina yn bur debyg i'r Hen Destament sydd yn awr yn ein dwylo ni, eto yr oedd ei lyfrau wedi eu dosbarthu yn bur wahanol. Yn ôl natur eu cynnwys yr ydys wedi dosbarthu'r llyfrau yn ein Hen Destament ni; ac felly, y llyfrau cyfreithiol sy'n sefyll ymlaenaf, y llyfrau hanesyddol yn ail, y llyfrau barddonol ac addysgol yn drydydd, a'r llyfrau proffwydol yn olaf. Yn y Beibl y cyfeiria'r Iesu ato yn y testun yr oedd y llyfrau wedi eu dosbarthu yn ôl eu gwerth a'u hawdurdod, ac felly'r gyfraith sy'n sefyll ymlaenaf, y proffwydi yn nesaf, a'r Salmau yn olaf. Er bod yr Iddewon yn cyfrif holl lyfrau'r Hen Destament yn ysbrydoledig, eto y Gyfraith yn unig a alwent hwy'n Sgrythur ac yn Air Duw. Nid oedd yr holl lyfrau eraill amgen nag esboniad dynion Santaidd Duw ar y Sgrythur. Y Gyfraith yn unig a ddarllenent hwy'n gyson ac yn rheolaidd yn eu synagogau. Yn awr ac yn y man y byddent yn darllen rhannau detholedig o'r Proffwydi, ac ni byddent yn darllen Salmau o gwbl yn eu synagogau, er eu bod yn canu Salmau yn y deml. Yn wir, yr oedd llyfr y Gyfraith yn eu golwg hwy gymaint santeiddiach na'r llyfrau eraill, fel nas cadwent ef yn yr un gist â hwynt-hwy. Yn y gwrthwyneb, yr ydym ni Gristnogion yn rhoi mwy o fri ar y Salmau a llyfrau'r Proffwydi nag ar y Gyfraith, am eu bod hwy'n fwy efengylaidd, ac felly'n debycach eu haddysg i lyfrau'r Testament Newydd.

Ond pa rannau o'r Hen Destament a feddylir wrth y Gyfraith? Y pum llyfr blaenaf a feddylir wrthi yn y testun, ac yn llyfrau diweddaraf yr Hen Destament; ond yn y llyfrau a sgrifennwyd cyn amser Hesecia, y Deng Air Deddf a feddylir wrthi'n gyffredin; ond weithiau y mae hi'n cynnwys Llyfr y Cyfamod, sef y llyfr sy'n cynnwys yr unfed bennod ar hugain o Ecsodus a'r ddwy bennod ddilynol. Weithiau hefyd y mae hi'n golygu'r Deng Air Deddf, ynghyd â'r holl ddeddfau oedd ar lafar a heb eu sgrifennu; canys yng nghof dynion byw ac nid mewn llyfrau y byddid yn trysori gwybodaeth hyd amser y proffwydi cyntaf. Nid yw'n debygol ddarfod i Foesen ei hun sgrifennu dim heblaw'r Deng Air Deddf ar ddwy lech;[3] er bod rhai'n barnu mai o'i enau ef y daeth cynnwys Llyfr y Cyfamod hefyd. Fel y mae Llyfr y Salmau'n gasgliad o'r holl salmau a wnaed hyd ddyddiau'r Maccabeaid, felly y mae llyfrau Moesen yn cynnwys yr holl ddeddfau a wnaeth offeiriaid Israel hyd amser Esra: a chan mai ar gyfraith Moesen y sylfaenwyd pob deddf ddiweddarach, yr oedd yr Iddewon, er mwyn cyfleustra, yn galw'r holl ddeddfau gyda'i gilydd yn gyfraith Moesen.

Er hynny, y mae'n amlwg i ddarllenydd gweddol graff fod yn llyfrau Moesen dair cyfraith, sy'n wahanol iawn eu hoedran a'u cynnwys. Y mae'r gyfraith gyntaf a symlaf yn gynwysedig yn Llyfr y Cyfamod, sef Ecs. xxi—xxiii; a honno a fu mewn grym hyd amser y Brenin Iosïa. Y mae'r ail gyfraith yn gynwysedig yn Llyfr Deuteronom;[4] a honno a fu mewn grym o amser Iosïa hyd amser Esra. Y mae'r drydedd gyfraith, sef y Gyfraith Lefiticaidd, yn gynwysedig yn y rhan olaf o Lyfr Ecsodus, ac yn Lefiticus a Numeri; a hon a fu mewn grym o amser Esra hyd ddinistr y drydedd deml yn y flwyddyn 70 o oed Crist.

Yn ôl y gyfraith gyntaf, yr oedd yn rhydd i bob penteulu yn Israel aberthu, a hynny ymhob rhyw fan. Yn ôl yr ail gyfraith, yn y tabernacl neu'r deml yr oedd rhaid aberthu; a chan y Lefiaid yn unig yr oedd hawl i aberthu yn y fan honno. Yn ôl y drydedd gyfraith gan deulu Aaron yn unig yr oedd hawl i aberthu, ac yr oedd y Lefiad a feiddiai nesáu at yr allor i aberthu yn euog o farwolaeth. Y mae hyn ei hun yn ddigon i ddangos bod y drydedd gyfraith yn gaethach na'r ail, a bod yr ail yn gaethach na'r gyntaf.

Am wyth gan mlynedd ar ôl marw Moesen nid oedd neb yn Israel yn gwybod am un gyfraith amgen na'r gyntaf, a chan nad oedd neb yn gwybod am un arall, teg yw penderfynu nad oedd un gyfraith arall yn bod y pryd hwnnw, canys pe buasai un o'r ddwy arall yn bod, yna fe fuasai dynion gorau'r Hen Destament yn euog o bechodau rhyfygus. Fe fuasai Gideon, Manoa, Samwel, Saul, a Dafydd, yn euog o farwolaeth am aberthu mewn lleoedd anghyfreithlon; ac yn wir am aberthu o gwbl, a hwythau heb fod offeiriaid. Fe fuasai'r bachgen Samwel yn euog o farwolaeth am gysgu yn y stafell yr oedd arch Duw ynghadw ynddi; ac fe fuasai Solomon yn euog o farwolaeth am aberthu wrth gysegru'r deml. Ie, fe fuasai miloedd o dduwiolion Israel yn euog am aberthu yn Sichem, Bethel, Mispa, Offra, Gilgal, Rama, Gibeon, Hebron, Bethlem, Beerseba, Cades, Mahanaim, Tabor, a Charmel. O'r tu arall, ni buasai meibion Eli yn euog o un bai eglwysig am wneud yr hyn a wnaent wrth aberthu pe buasai'r gyfraith Lefiticaidd mewn grym; ac ni buasai gan Elias ddim achos i feio ar Ahab a'i dylwyth am ddinistrio allorau'r Arglwydd yng ngwlad Israel pe buasai'n hysbys fod yr allorau hynny'n anghyfreithlon.

Mewn gwirionedd, yr oedd esbonwyr yr oes o'r blaen, wrth daeru mai Moesen oedd awdur y gyfraith Ddeuteronomaidd a'r gyfraith Lefiticaidd, yn rhoi achos cyfiawn i anffyddwyr ddywedyd nad yw'r hanes a geir yn yr Hen Destament yn ddim amgen na chymysgfa o anghysonderau. Heblaw hynny, yr oedd yr esbonwyr hyn yn myned yn erbyn tystiolaeth eglur a phendant y Proffwydi eu hunain; canys y maent hwy'n dywedyd na roddwyd y deddfau aberthol ac offeiriadol yn yr anialwch "A offrymasoch chwi imi aberthau a bwyd—offrymau yn y diffeithwch?" ebe Amos; ac ebe'r proffwyd Ieremia yr un ffunud: "Ni ddywedais i wrth eich tadau, ac ni orchmynnais iddynt, y dydd y dygais hwynt allan o'r Aifft, am boeth-offrymau ac aberthau." Ebe Esiais hefyd: "Ni pherais iti fy ngwasanaethu ag offrwm, ac ni'th flinais ag arogl-darth." Ac ebe fo mewn man arall: "Beth yw lluosowgrwydd eich aberthau i mi, medd yr Arglwydd? Gwaed bustych ac ŵyn a bychod nid ymhyfrydais ynddynt. Eich lleuadau newydd a'ch gŵyliau gosodedig a gasaodd fy enaid; maent yn faich arnaf; blinais yn eu dwyn." Yn lle ymarfer â'r defodau hyn, gwnewch eich dyletswyddau moesol "peidiwch â gwneuthur drwg, dysgwch wneuthur daioni." Y mae'r proffwyd Mica hefyd mor efengylaidd a gwrth-offeiriadol ag Esaia, canys y mae o'n dywedyd: "A pha beth y deuaf gerbron yr Arglwydd? A ddeuaf fi ger ei fron Ef â phoeth-offrymau a dyniewaid? A foddlonir yr Arglwydd â miloedd o feheryn, ac â myrddiwn o ffrydiau olew? Dangosodd Efe i ti, ddyn, beth sydd dda. A pha beth a gais yr Arglwydd gennyt, ond gwneuthur barn, a hoffi trugaredd, ac ymostwng i rodio gyda'th Dduw?"

Ar y gyfraith Israelaidd ac ysbrydol hon, a roddwyd trwy Foesen a'r proffwydi, ac nid ar y gyfraith Iddewaidd a wnaed gan Esra yr offeiriad, y darfu i'r Iesu sylfaenu ei efengyl. Fe dystiolaethodd Paul fod y gyfraith o ran ei chnewyllyn yn santaidd, yn gyfiawn, ac yn dda; ond pan fydd o'n cyfeirio at ei phlisgyn, y mae o'n ei galw'n ddeddf caethiwed, a'i hegwyddorion yn egwyddorion llesg a thlodion. Er hynny, yr oedd y plisgyn a wnaed gan yr offeiriaid yn angenrheidiol ar y pryd i gadw'r cnewyllyn, canys fe fu'r rheolau manwl a chwanegasant hwy at gyfraith seml Moesen a'r proffwydi yn foddion effeithiol i ddiddyfnu'r genedl oddi wrth eilunaddoliaeth; ac yn wir, fe ellir dweud mai'r rheolau hynny a fu'n foddion i gadw'r Iddewon yn genedl wahanedig. Meddylier, er enghraifft, am y gwaharddiad i briodi estronesi. Fe fuasai hwn yn orchymyn llym ac afreidiol ar lawer adeg, ond yn amser Nehemia yr oedd yn orchymyn angenrheidiol; canys pe buasai'r dyrnaid o Iddewon a oedd wedi gweled yn dda ddychwelyd o Fabilon i'w gwlad eu hunain yn dechrau ymgymysgu trwy briodas â'r cenedloedd oedd o'u hamgylch, buan iawn y peidiasent â bod yn genedl, ac wrth beidio â bod yn genedl, hwy a gollasent eu crefydd, ac fe fuasai'r golled honno yn golled i'r holl fyd. Er mai crefydd gul ac anianol oedd crefydd yr Iddewon o'i chymharu â hen grefydd yr Israeliaid, eto yr oedd y grefydd honno, sef y grefydd Lefiticaidd, yn athro at Grist; am mai hyhi oedd yn gwneud genedigaeth Crist o had Dafydd yn beth posibl. Yr oedd hyd yn oed caethder y gyfraith hon yn tueddu i baratoi'r Iddewon mwyaf ysbrydol i dderbyn yr efengyl, sef perffaith gyfraith rhyddid. Yn wir yr oedd cyfraith yr Iddewon mor gaeth fel na allwyd ei chadw'n fanwl mewn un oes. Yr oedd y degymau mor fawr fel na ellid eu talu'n llawn, y gŵyliau mor feithion a lluosog fel na ellid eu cadw oll, a'r cosbau am fân droseddau mor llym fel na feiddiai'r awdurdodau mo'u gweinyddu.

Y mae awdur anhysbys y Llythyr at yr Hebreaid yn gweled yn y tabernacl a'i ddodrefn, yn yr archoffeiriad a'r aberthau, gysgodau o bethau nefol. Hyn, ymhlith pethau eraill, a barodd i'r Eglwysi Gorllewinol, oddieithr Eglwys Rufain, gau allan y llyfr hwn o'r Canon hyd y bumed ganrif. Yr oedd Calfin am yr un rhesymau'n barnu nad Paul oedd ei awdur, a Luther yn myned mor bell â thaeru na allai awdur mor Iddewaidd fod yn ysbrydoledig. Y mae'n wir fod syniadau'r awdur hwn am y ddeddf Lefiticaidd yn bur wahanol i syniadau Paul amdani, ond rhaid cofio mai ei amcan ef oedd cymodi'r Iddewon â Christnogaeth trwy geisio dangos nad oedd y grefydd newydd namyn cyflawniad o'r hen.



Ychydig iawn a ddywedaf am y proffwydi a'r Salmau. Wrth y proffwydi y meddylir nid yn unig lyfrau'r proffwydi a elwir yn briodol felly, ond hefyd y prif lyfrau hanesyddol, megis Ioswa, y Barnwyr, Llyfrau Samwel, a Llyfrau'r Brenhinoedd. Nid oeddid yn cyfrif Daniel ymhlith y proffwydi; am hynny, yn y trydydd dosbarth y ceid ei lyfr ef Beibl Hebraeg.

Fel y sylwyd o'r blaen, y mae syniadau'r proffwydi, yn enwedig y proffwydi cyntaf, yn fwy eang, a'u hathrawiaeth yn fwy ysbrydol nag athrawiaeth yr offeiriaid. Yr oedd rhai o'r proffwydi diweddaraf yn offeiriaid eu hunain, ac am hynny, yn rhoi mesur o fri ar aberthau a defodau eraill. Yn ôl y gyfraith offeiriadol, yr oedd Duw'n cyfrannu ei ras i Israel trwy'r offeiriaid; yn ôl y proffwydi, trwy'r gair yr oedd o'n cyfrannu ei ras. Yn ôl hen grefydd yr Israeliaid y proffwyd ac nid yr offeiriad oedd yn gyfryngwr rhwng Duw a dynion: "Pe safai Moses a Samuel ger fy mron (ebe Duw), eto ni byddai fy serch ar y bobl yma." "Yn ôl y proffwydi, yr oedd crefydd Israel (medd Robertson Smith) yn wahanol i grefyddau eraill, ac yn rhagori arnynt o achos nad ydoedd hi ddim yn grefydd aberthol."

Y llyfrau cysegredig y gelwid y trydydd dosbarth lyfrau'r Hen Destament, ond fe'u gelwid weithiau, fel yn y testun, yn Salmau; am mai Llyfr y Salmau oedd gynt yn sefyll ymlaenaf yn y dosbarth. Ar ôl y Salmau yn y dosbarth hwn, yr oedd y llyfrau Hebraeg a sgrifennwyd ddiweddaraf, ac a ystyrid yn lleiaf eu hawdurdod, megis y Diarhebion, Job, Ruth, y Galarnad, Daniel, Esra, Nehemia, a'r Croniclau. Ar ôl hir a chyndyn ddadlau fe benderfynwyd chwanegu at y llyfrau hyn Lyfr Esther, a'r Pregethwr, a'r Caniadau; a hynny'n bennaf am eu bod wedi eu sgrifennu'n Hebraeg. Er hynny, nid oedd yr Iddewon yn caniatáu i'w plant ddarllen y Caniadau hyd oni byddent yn ddeg ar hugain oed. Yn ddirgel ac nid yn gyhoeddus y byddai'r Iddewon yn darllen holl lyfrau'r dosbarth hwn, oddieithr Llyfr y Salmau. Ni ddarllenid y llyfr hwnnw chwaith yn gyhoeddus, eithr fe genid rhannau ohono yng ngwasanaeth y deml; ond ni chenid dim ohono yn y synagogau, am nad oedd dim canu ynddynt hwy. Braidd y mae'n rhaid dweud mai trefn gwasanaeth y synagog a ddilynwyd ar y cyntaf yn yr eglwysi Cristnogol.

Gan ddarfod cyfansoddi'r Salmau ar wahanol amserau y mae syniadau'r awduron am natur Duw ac am ddyletswyddau dyn yn bur wahanol. Y mae rhai ohonynt yn darlunio Duw fel bod sy'n preswylio uwchlaw'r ddaear, ac yn edrych i lawr ar feibion dynion. Y mae eraill, sy'n fwy ysbrydol, yn darlunio Duw fel bod sy'n llenwi pob man, ac yn treiddio trwy bob peth. Y mae rhai ohonynt yn gosod cryn bwys ar aberthau, ac eraill yn cyfrif aberthau yn bethau afreidiol. Israeliaid[5] oedd awduron y Salmau mwyaf ysbrydol, ac Iddewon oedd awduron y Salmau mwyaf defodol. Y mae'n amlwg mai dilynwyr Samwel y proffwyd, ac nid dilynwyr Esra'r offeiriad, a draethodd y syniadau efengylaidd hyn: "Aberth ac offrwm nid ewyllysiaist; poeth-offrwm a phech-aberth nis gofynnaist." "Arglwydd, agor fy ngwefusau, a'm genau a fynega dy foliant; canys ni chwenychi aberth, pe amgen, mi a'i rhoddwn; poeth-offrwm ni fynni. Aberthau Duw ydynt ysbryd drylliedig; calon ddrylliog, gystuddiedig, O Dduw, ni ddirmygi." "A fwytaf fi gig teirw, neu yfaf fi waed bychod? Abertha foliant i Dduw, a thâl i'r Goruchaf dy addunedau; a galw arnaf Fi yn nydd trallod, a Mi a'th waredaf [heb aberth], a thi a'm gogoneddi." Dilynwyr y proffwydi, meddaf, a draethodd y syniadau hyn; ac yr oedd holl addysg y proffwydi yn seiliedig ar gyhoeddiad Samwel, proffwyd cyntaf brenhiniaeth Israel, yr hwn a ddywedodd: "Wele, gwrando sydd well nag aberth, ac ufuddhau na braster hyrddod."

Yn y sylwadau hyn, yr wyf wedi dwyn i mewn syniadau beirniaid estronol a rhy anturus o fath y Ffrancwr Réville, y Batafiad Kuenen, a'r Allman Wellhausen; ond nid wyf wedi eu dilyn hwy ond yn unig cyn belled ag y mae'r beirniad Brytanaidd Robertson Smith yn eu dilyn. Y mae hynny yr un peth â dweud fy mod wedi eu dilyn cyn belled yn unig ag y maent yn cytuno â'r beirniad mwy gochelgar Reuss. Am fod hwn yn Ffrancwr ag ynddo waed Ellmynig, y mae'n cyfuno ynddo'i hun wybodaeth a barn yn fwy nag un beirniad arall ar yr Hen Destament. Dyweder a fynner yn erbyn gormod rhysedd rhai o'r beirniaid diweddar, y maent oll fel ei gilydd yn cerdded yn fwy neu lai union ar hyd y "ffordd newydd a bywiol" a agorodd y Protestaniaid cyntaf. Calfin, yn anad neb arall, yw tad ac athro pob beirniad hanesyddol, pa un bynnag ai Reuss ai Robertson Smith fyddo'i enw; a phe bai'r Methodistiaid Calfinaidd yn dilyn Calfin yn hytrach yn ei syniad rhydd am y Sgrythurau nag yn ei syniad caeth am etholedigaeth, byddent yn fwy Galfiniaid, ac felly'n fwy o Brotestaniaid, o lawer nag ydynt. Beirniaid hanesyddol yn unig sy'n feirniaid Protestannaidd; a beirniadaeth hanesyddol yw sylfaen beirniadaeth destunol a sgrythurol.<ref>Y mae'r crach-lenorion sy'n meddwl bod cyfieithu yr un peth â Chymreigio geiriau estronol o sillaf i sillaf, yn galw beirniadaeth hanesyddol yn "uwch-feirniadaeth," a beirniadaeth destunol yn "is-feirniadaeth"! Yn enw rheswm, pa hyd y caniateir i siopwyr werthu papur ac inc i Gymry nad ydynt yn medru Cymraeg nac un iaith arall?<ref> Yn awr, gan hynny, ni raid i neb ymgyffroi o achos bod beirniadaeth hanesyddol yn ymwthio o'r Cyfandir trwy Loegr i Gymru; canys unig effaith hynny yn y pen draw fydd gwneud Cristnogion Cymru yn fwy Protestannaidd, a'u dwyn yn ôl i'r tir diogel y safodd Calfin arno. Dyma'r unig dir y gallwn ymladd oddi arno ag anffyddwyr heb ddefnyddio arfau'r Pabyddion, ac â Phabyddion heb ddefnyddio arfau anffyddwyr. Na feddylied neb fy mod wrth amddiffyn Protestaniaeth y Cyfandir, yn amddiffyn Anglicaniaeth a Phuritaniaeth y wlad hon; canys nid yw'r rhain ddim amgen na Phabyddiaeth Lloegr wedi ei chymysgu â mwy neu lai o Brotestaniaeth y Cyfandir; a chan eu bod yn gorffwys mewn rhan ar reswm ac mewn rhan ar draddodiad, ni ddichon iddynt sefyll yn hir. Am hynny yr ydys eisoes yn gweled bod y rhan fwyaf o'r Anglicaniaid yn ymdroi'n Babyddion, a bod y rhan fwyaf o'r Puritaniaid yn ymdroi'n Brotestaniaid. Hynny o Brotestaniaeth a ddaeth i'r wlad hon, o'r Cyfandir y daeth o, a dylem fod yn hytrach yn llawen nag yn drist wrth weled mwy ohoni'n dyfod drosodd yn y dyddiau hyn nag a ddaeth yn nyddiau'r Ffrancwr Calfin, yr Yswisiad Zuinglius, a'r Allman Luther. Y Cymry a ddylai fod y bobl barotaf o bawb i groesawu Protestaniaeth bur a llwyr, canys onid yw egwyddor fawr Protestaniaeth yn gynwysedig yn gryno mewn un o'n hen ddiarhebion: "Rhydd i bob dyn ei farn, ac i bob barn ei llafar."

ALLAN O'R Geninen, GORFFENNAF 1898.

Nodiadau

[golygu]
  1. Gweler yr argraffiad Ffrangeg o'r Institution, sy'n ddiweddarach ac yn helaethach nag argraffiad Lladin 1536. Gweler hefyd Le Congé de discerner entre les livres apocryphes. E. ap I.
  2. Fe ddywedir ddarfod sgrifennu dau neu dri o lyfrau'r Apocryff ar y cyntaf mewn Hebraeg llygredig, neu ynteu yn yr Aramaeg; ond gan na sgrifennwyd monynt mewn Hebraeg clasurol, braidd y mae'n wiw eu cyfrif yn eithriadau. E. ap I.
  3. "Nid yw'r Deng Air Deddf sydd yn Deuteronom ac yn y Testament Newydd yn gwbl gyffelyb i'r Deng Air sydd yn Ecsodus. Dengys hyn ddarfod eu newid a'u helaethu fwy nag unwaith. Y mae'n debygol mai fel hyn y sgrifennwyd hwy ar y cyntaf:
    1. Myfi yw Iafe dy Dduw.
    2. Nac addola dduw arall.
    3. Na thwng anudon yn fy enw.
    4. Cadw yn santaidd y seithfed dydd.
    5. Anrhydedda dy dad a'th fam.
    6. Na lofruddia.
    7. Na odineba.
    8. Na ladrata.
    9. Na cham-dystiolaetha.
    10. Na thrachwanta.
  4. Y mae'n amlwg oddi wrth i 5 a iv 41-43 mai rhywun oedd yn byw yng Ngwlad Canaan a sgrifennodd y llyfr hwn, canys y mae o'n cyfeirio at Moab, Gilead, a Basan, fel gwledydd tu hwnt i'r Iorddonen. Yn y Beiblau cyffredin yr ydys wedi cuddio hyn o beth trwy gam-gyfieithiad. Y mae'r cyfeiriad sydd yn y llyfr at y frenhiniaeth yn dangos mai yn amser y brenhinoedd y sgrifennwyd ef.
  5. Fe ddeëllir fy mod yn arfer y gair "Israeliaid" yn ei ystyr helaethaf ac nid yn ei ystyr cyfyngaf.