Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III/Damhegion Crist
| ← Cyfraith Moses, a'r Proffwydi, a'r Salmau | Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III gan Robert Ambrose Jones (Emrys ap Iwan) |
Darparu a Derbyn yn Gyflawn Aelodau → |
DAMHEGION CRIST
Yn y Beibl fe roddir i'r gair dameg neu gyffelybiaeth ystyr tra eang, gan ei fod weithiau'n arwyddo dihareb, weithiau foeswers, weithiau wireb dywyll, ac weithiau hanes arwyddluniol. Yr oedd Crist fel addysgwr yn Feistr neu athro, yn efengylydd, ac yn broffwyd i benaethiaid anghrediniol y bobl trwy ei waith yn tystio yn eu herbyn i'r gwirionedd. Ac fe ellir rhannu'r damhegion yn dri dosbarth sy'n cyfateb i'r tri theitl hynny, sef: 1. Y damhegion athrawiaethol, sy'n mynegi'r gwirionedd cyffredinol am deyrnas Dduw, megis y saith dameg ym Mathew xiii; 2. Y damhegion efengylaidd, sy'n arddangos daioni a gras Duw tuag at bechaduriaid a thrueiniaid; 3. Y damhegion proffwydol neu farnol, sy'n cyhoeddi cyfiawnder Duw fel un yn talu i ddynion yn ôl eu gweithredoedd. Dealler mai trwy rybuddio a cheryddu, fel Elias, yn hytrach na thrwy ragfynegi yr oedd yr Iesu'n proffwydo. Nid yw pob dameg yn perthyn mor gaeth i un dosbarth fel na ellid ei gosod mewn dosbarth arall, canys y mae dameg y swper mawr, er enghraifft, yn efengylaidd ac yn farnol.
Y mae'r rhan fwyaf o ddamhegion Mathew yn athrawiaethol ac yn farnol, a'r rhan fwyaf o rai Luc yn efengylaidd. Er bod yr efengylau yn cynnwys llawer o'r un pethau, eto y mae iddynt eu nodau neilltuol. Y mae efengyl Mathew yn hytrach yn Iddewaidd, ac efengyl Luc yn fwy dynol a chyffredinol. Felly nid oes odid ddameg yn Efengyl Luc heb fod yn llawn trugaredd ac ewyllys da tuag at bechaduriaid. Gan fod Luc yn gydymaith i'r Apostol Paul oedd yr yn naturiol iddo wneud ei efengyl yn efengyl maddeuant, a maddeuant a geir trwy ffydd.
O'r saith dameg a geir ym Mathew xiii, fe lefarwyd y pedair blaenaf wrth y gynulleidfa gymysg, a'r tair olaf wrth y disgyblion o'r neilltu. Gellir golygu Dameg yr Heuwr yn rhagymadrodd i'r chwech eraill, a gellir dosbarthu'r chwech hyn yn dri phâr, am fod pob pâr yn gosod allan yr un gwirionedd cyffredinol mewn gwedd wahanol.
Pâr 1. Yr efrau a'r rhwyd.
Pâr 2. Yr had mwstard a'r surdoes.
Pâr 3. Y trysor a'r perl.
Y gwirionedd mawr a ddysgir yn nameg yr heuwr yw bod dylanwad y Gair yn dibynnu ar ystad y galon. Min y ffordd, neu fin y llwybr sathredig oedd yn myned trwy'r maes. Wrth dir draenog y golygir, nid tir â pherthi drain yn tyfu arno ar y pryd, ond tir heb ei lwyr lanhau oddi wrth wraidd neu hadau drain. Wrth dir da y golygir y rhan o'r maes oedd yn rhydd oddi wrth feiau'r rhannau eraill, ac felly ar unwaith yn rhywiog, yn ddwfn, ac yn lân.
Ni sonnir yn nameg yr Heuwr am wrandawyr hollol galongaled sy'n diystyru'r gair. Er bod min y ffordd a'r creigleoedd yn anfanteisiol iawn i dderbyn yr had, eto nid craig noeth ydyw'r naill na'r llall. Gwrandawyr difeddwl a dideimlad ydyw'r dosbarth blaenaf, eto nid at fod yn anobeithiol. Nid o ddiffyg gallu meddyliol mae eu hurtrwydd ysbrydol yn dyfod, ond o fod eu meddwl wedi myned yn sathrfa i ewyllysiau'r cnawd a syniadau bydol. Nid yw'r ail ddosbarth yn ddideimlad, ond y maent hwythau'n ddifeddwl. Y maent i'w canmol am dderbyn y Gair gyda llawenydd; am ei dderbyn heb ystyriaeth y maent i'w beio, a'r hyn sy'n profi eu bod heb ystyriaeth ydyw eu bod heb ragweled y blinder a'r erlid sy'n eu haros. Nid oes gan wrandawr o'r dosbarth hwn wreiddyn ynddo'i hun, hynny ydyw yn y cyneddfau sy'n cyfansoddi personoliaeth, sef y rheswm a'r gydwybod a'r ewyllys; y mae'r rhain yn aros yn galed, a gwraidd eu ffydd heb dreiddio iddynt. Yn eraill y mae ei wreiddyn ef, sef yn y brwdfrydedd sy'n meddiannu'r cyffredin. Enghraifft o'r dosbarth hwn oedd yr un a ddywedodd wrth Grist, "Mi a'th ganlynaf i ba le bynnag yr elych." Yr oedd diwygiad mawr ar hyn o bryd yng Ngalilea.
Gŵr dauddyblig ei feddwl, neu ddauddyblig ei ewyllys ydyw'r un a dderbyniodd yr had ymhlith y drain. Ei fai ef ydyw dwyn dau gnwd, gyda'r canlyniad y bydd i'r cnwd gwaethaf ddifetha'r cnwd gorau. Ei ddalen ni wywa, yn hytrach hi a dyf hyd oni ddelo'r dywysen, ond gwerdd fydd y dywysen pan ddylai hi fod aeddfed. Yn yr ystyr yna y dywedir ei fod yn myned yn ddiffrwyth. Ef a ddwg ffrwyth ond nid i berffeithrwydd. Ef a all fod yn gadwedig, ond ni bydd ei fywyd yn ddefnyddiol nac yn ddaionus ei ddylanwad. Enghraifft o'r dosbarth hwn oedd yr un a ddywedodd: "Mi a'th ganlynaf di, O Arglwydd, ond gad imi'n gyntaf ganu'n iach i'r rhai sydd yn fy nhŷ."
Y mae gwrandawr y tir dreiniog yn derbyn neu yn deall y gair, ac yn ei gadw hefyd. Ei unig fai ydyw nad ydyw ef yn ei dderbyn a'i gadw ef yn unig. Y mae gwrandawr y tir da yn gwneud hynny, ac felly y mae ei feddwl ef yn syml fel ei lygad. Hyn a feddylia Luc wrth ddywedyd bod ganddo galon ardderchog a da. Dyn â'i amcan yn uchel ac yn llwyr ymroddi i'w amcan, ydyw meddwl yr ymadrodd hwn.
YR EFRAU A'R RHWYD
Nid yw'n sicr a lefarwyd yr holl ddamhegion a geir ym Mathew xiii ar yr un pryd, ond fe gytuna pawb i'r Iesu lefaru tair ohonynt, sef dameg yr Heuwr, yr Efrau, a'r Rhwyd, oddi ar ei eistedd yn y llong ar fin môr Galilea. Y maent ill tair yn gweddu i gyflwr naturiol y rhan honno o'r wlad, a hefyd i gyflwr moesol y gwrandawyr. Damhegion pruddaidd ydyw'r rhai hyn, am y golygir teyrnas Dduw ynddynt fel peth amherffaith a siomedig.
Er bod perthynas agos rhwng y tair a'i gilydd, y mae perthynas agosach rhwng dwy, sef dameg yr efrau dameg y rhwyd, oblegid yr un gwirionedd cyffredinol ddysgir ynddynt, sef y bydd cymysgedd o ddrwg a da yn nheyrnas Dduw hyd ddiwedd amser; ac er cynddrwg ydyw'r cymysgedd hwnnw ynddo'i hun, mai doeth ydyw ei oddef hyd oni wahano Duw y drwg a'r da. Er hynny, y mae'r ddwy ddameg yn gwahaniaethu mewn dau beth o leiaf. Yn un peth, fe briodolir y drwg yn nameg yr efrau i falais gwrthwynebwr, tra priodolir ef yn nameg y rhwyd yn hytrach i ddamwain. Yn ail ac yn bennaf, fe ddangosir yn nameg yr efrau nad yw gwahanu'r drwg oddi wrth y da yn beth i'w ddymuno, tra awgrymir yn nameg y rhwyd bod hynny'n beth amhosibl: canys rhaid i'r pysgod da a drwg aros ynghyd yn y rhwyd nes eu tynnu i'r lan. Heblaw'r ddau wahaniaeth yna fe roddir yn nameg yr efrau fwy o amlygrwydd i'r cymysgedd, ac yn nameg y rhwyd fwy o amlygrwydd i'r didoliad.
DAMEG YR EFRAU.
Er bod dameg yr efrau wedi ei hegluro gan yr Iesu ei hun, fe'i cyfrifir yn un o'r rhai anhawsaf i'w deall. Oddi wrth ei eglurhad Ef fe ddangosir mai personau ydyw'r gwenith a'r efrau, tra dangosir yn y ddameg flaenorol mai gair y deyrnas ydyw'r gwenith, ac mai'r byd y mae'r personau hynny'n byw ynddo ydyw'r tir, ond yn nameg yr heuwr mai meddwl y rhai sy'n gwrando ydyw'r tir. Hefyd plant yr un drwg ydyw'r efrau, a phlant y deyrnas ydyw'r had da. Ond yr anhawster yma ydyw penderfynu pa un ai gau Gristnogion ydyw'r efrau, ai ynteu dynion drwg yn gyffredinol? Y maes yw'r byd, medd Crist; ond fe ddangosir yn adnod 41 fod y byd yn gyfystyr â'i deyrnas ef, ac nid yw'r deyrnas yn ddim amgen na'r eglwys weledig sydd yn y byd. Yn ail, ni buasai’n briodol cyffelybu pob math o bechaduriaid i efrau, ond yn unig y rhai sydd debycaf o ran golwg i saint, a'r rhai y mae'n hawdd i'r cyffredin eu cymryd yn lle saint. Yn drydydd, ni buasai raid i ddiafol hau cnwd o ddynion drwg yn y byd i gyd-fyw megis ochr yn ochr â phlant y deyrnas, canys yr oedd dynion drwg yn bod yn y byd cyn sefydlu'r deyrnas. Ond os gau Gristnogion, math o bechaduriaid na buasent ddim bod oni buasai am Gristnogaeth, a olygai'r Iesu wrth yr efrau, y mae'n hawdd deall paham y soniodd Ef am yr ail hau a fu yn y maes.
Y mae'r efrau gan hynny yn y deyrnas; ond wrth farnu felly, yr ydys yn gorfod wynebu anhawster arall, sef pa fodd y gellir goddef rhai drwg yn yr eglwys heb wadu hawl yr eglwys i ddisgyblu? Y mae amryw esboniadau ar hyn:
1. Esboniad y Catholiciaid, sydd ar fyr eiriau fel hyn:—Na chasgler yr efrau pan fo perygl diwreiddio'r gwenith gyda hwynt; eithr gwneler hynny ar unwaith pan na bo perygl.
2. Esboniad Luther, a ddywed mai'r hyn a waherddir ydyw dinistrio'r efrau. Fe all swyddogion eglwysig esgymuno hereticiaid, ond gan swyddogion gwladol y mae hawl i'w lladd hwynt. (Esboniad gwerth ei goffáu, ond rhy wael i'w gredu.)
3. Esboniad Jerome, a llawer o esbonwyr diweddar, sy'n amgeneirio un o ymadroddion y ddameg fel hyn: "rhag i chwi yn amryfus ddiwreiddio'r gwenith yn lle'r efrau." Eithr am bob peth y mae'n amlwg nad gwenith mohono, megis drain a mieri, diwreiddier hwynt yn ddi-oed. Nid yw gwir weision yr Arglwydd heb adnabod yr efrau, ond ni ddylid diarddel neb ond y sawl y bo'i ddrygioni yn amlwg i gorff yr eglwys. Ond yn y ddameg ni ddywedir: Rhag i chwi ddiwreiddio y gwenith yn lle'r efrau; ond rhag i chwi ddadwreiddio'r gwenith gyda hwynt. Felly ni ellir osgoi'r casgliad bod yr Iesu yn cyhoeddi y dylem er mwyn diogelwch y gwenith, oddef yr efrau, er gwybod mai efrau ydynt.
Yr esboniad diweddaraf, sef nad gosod i lawr reol ddisgyblaethol y mae'r Iesu yma, ond annog ei ddisgyblion i feithrin ysbryd pwyllog a goddefgar, rhag iddynt, wrth fod yn rhy sicr mai hwynt-hwy ydyw'r gwenith, ac mai eraill ydyw'r efrau, fyned yn Phariseaidd, ac felly eu hatal eu hunain rhag tyfu ac aeddfedu. Gadael i'r gwenith dyfu i berffeithrwydd ydyw'r pwnc pwysig, ac nid cael gwared o'r efrau. Oni ellir cyrraedd y ddau amcan ar yr un pryd, fe ddylid gofalu rhag aberthu'r amcan pwysicaf er mwyn yr amcan lleiaf ei bwys. Y mae'n ofynnol sylwi nad yw'r Iesu wrth esbonio'r ddameg ddim yn egluro'r ymadroddion y dadleuir yn eu cylch; a hynny ond odid er mwyn rhoi ar ddeall nad at ddyletswydd y saint tuag at ragrithwyr y mynnai Ef dynnu sylw, ond at y ddwy ffaith hon: Sef bod yr eglwys ar hyn o bryd yn gymysgedig, ac y llwyr lanheir hi yn y farn ddiwethaf.
YR HAD MWSTARD A'R SURDOES
Yn y ddwy ddameg hyn, ac yn nameg yr had yn tyfu'n ddiarwybod fe ddisgrifir teyrnas nefoedd yn tyfu. Dengys y flaenaf gynnydd allanol y deyrnas fel cymdeithas weledig, a'r ail ei chynnydd mewnol o ran ei dylanwad moesol ar y dyn neu ar y gymdeithas a'i derbynio hi. Dengys y drydedd y bydd ei chynnydd yn ddirgel, yn raddol, ac yn ddigymell, ac felly, ei bod yn rhaid wrth amynedd i aros am ei pherffeithrwydd. . . . Bwriadwyd y tair i beri gobaith ac amynedd mewn amgylchiadau â thuedd ynddynt i beri digalondid. Fel yr oedd damhegion yr Heuwr a'r Efrau yn dangos. ochr dywyll y deyrnas, felly y mae dwy ddameg y Mwstard a'r Surdoes yn dangos ochr olau'r deyrnas. Yr un gwirionedd cyffredinol a ddysgir yn y ddwy, sef bod teyrnas nefoedd i fyned yn fawr—yn fawr ei maint yn ôl dameg yr Had Mwstard, fawr ei dylanwad santeiddiol yn ôl dameg y Surdoes.
Nid oes eisiau gofyn pwy neu ba beth a arwydda'r wraig yn y ddameg, ond efallai ddarfod arfer y gair "cuddio" i berwyl neilltuol, sef i ddangos mai'n ddistaw a di-rwysg y dygodd yr Iesu athrawiaeth y deyrnas i'r byd. "Nid ymryson efe, ac ni lefain, ac ni chlyw neb ei lais ef ar yr heolydd." Yn hytrach na'i gyhoeddi ei hun i'r byd, ei drefn Ef oedd dylanwadu ar ychydig, ac yna dylanwadu trwyddynt hwythau ar lawer.
"Hyd oni surodd y cwbl oll." Os dywed yr Iesu mewn man arall fod ei ddisgyblion yn halen y ddaear, ac yn oleuni'r byd, a ellir dweud hefyd eu bod yn lefain y byd? Gellir, o ran tuedd ac amcan, er nad o ran ffaith. Bwriadwyd Cristnogaeth i ddylanwadu mewn rhyw fodd ar bawb oll, ond nid yw'n canlyn y bydd y dylanwad lefeiniol ymhob achos yn llwyr a chyflawn.
Y TRYSOR A'R PERL
Dyma'r gwirionedd a ddysgir yn y ddwy ddameg hyn: sef gwerth anghymharol teyrnas Crist, neu fendithion teyrnas Crist; mai yng ngolwg y rhai y mae'n wiw ganddynt aberthu pob peth er ei mwyn y mae hi'n werthfawr; a thra bo rhai yn ei chael heb ei cheisio, ei chael y mae eraill trwy hir a dyfal chwilio amdani. Yr hyn a gyffelybir yma, yn wirioneddol, i'r trysor cuddiedig, ydyw'r meddiant personol a'r had o'r deyrnas, gyda'i holl ragorfreintiau. Mai'r deyrnas ydyw'r daioni pennaf, ac y dylid gwneud pob peth arall yn ddarostyngedig iddi, yw dysg yr Iesu yn Luc ix 60, Math. xvi 24, xix 21, a Luc xiv 26.
Paham na ddywedasid i'r dyn gymryd y trysor a gawsai ef heb ymdrafferthu i brynu'r maes? Nid am y rheswm y buasai'n anghyfreithlon, er bod hynny'n wir, canys nid oedd ef nemor gonestach wrth brynu'r maes heb roi ar ddeall pa beth a welsai ynddo. Mewn un peth yn unig yr oedd ef yn esampl i eraill, sef yn ei barodrwydd i roddi i fyny bob peth er mwyn un peth gwerthfawrocach. Fe fynnai'r Iesu rywfodd neu'i gilydd ddangos bod yr hwn a gawsai'r trysor yn bwrcaswr hefyd, er mwyn rhoi ar ddeall fod rhyw brynu neu aberthu yn angenrheidiol tuag at feddiannu teyrnas nefoedd. Ond os ydyw'r deyrnas o ras paham y mae'n rhaid pwrcasu? Ac os ydyw i bawb, beth am rhai nad oes ganddynt fodd i brynu? Nid yw prynu yn golygu dim amgen na dangos ar weithred ein bod yn cyfrif y deyrnas yn bennaf peth; a rhaid i bawb wneud hynny, ac y mae gan bawb fodd i wneud cymaint â hynny. Y mae gan bob dyn galon, a'r neb a garo'r trysor â'i holl galon a'i caiff. Y pris a dalodd rhai o'r disgyblion oedd eu llongau a'u rhwydau. Y pris a ofynnwyd gan y gŵr ieuanc cyfoethog oedd ei feddiannau. Y mae'n ofynnol sylwi y darlunnir y naill ddyn fel y llall yn derbyn y deyrnas yn llawen—y blaenaf fel daioni heb ei ddisgwyl, a'r olaf fel daioni hir-ddisgwyliedig. Gweler Esaiah lxv 1, a Jer. xxix 13. I'r dosbarth blaenaf y perthyn y wraig o Samaria, Mathew, Zacheus, Saul; i'r olaf Nathanael a phawb oedd yn disgwyl am ddiddanwch yr Israel.
Heblaw'r gwahaniaeth y cyfeiriwyd ato, y mae ond odid wahaniaeth arall. Yn nameg y trysor fe osodir allan deyrnas nefoedd fel peth buddiol; yn nameg y perl fel peth prydferth neu addurnol, i awgrymu bod yn yr efengyl rywbeth i gyfarfod â chwaeth dyn yn ogystal ag â'i angen. Y mae hi'n ei gadw ac yn ei santeiddio. Wrth ddywedyd bod y marchnatawr hwn yn ceisio perlau teg, fe ddangosir ei fod yn ddyn chwaethus, ac fe awgrymir hefyd ei fod yn eu ceisio iddo'i hun o bur gariad tuag at y prydferth, ac nid i'w hailwerthu i eraill er mwyn elw.
DAMEG YR EGINYN, Y DYWYSEN, A'R YD YN LLAWN
Bwriadwyd y ddameg hon i ddysgu bod yr hwn sy'n hau'r Gair, a'r rhai yr heuir y Gair ynddynt, mewn ystyr yn oddefol, a bod y Gair yn tyfu ohono'i hun yn ôl deddfau sefydlog. Nid cefnogi dynion i fod yn ddiog, yn ddifater ac yn ddifeddwl ydyw amcan y ddameg, ond meithrin ynddynt ostyngeiddrwydd, ymddiried, ac amynedd.
Nid dysgu bod had yr yn tyfu'n ddirgel ydyw prif bwynt y ddameg, ond dysgu ei fod yn tyfu'n raddol yn ôl deddf naturiol. Yn lle pryderu a cheisio cynhyrchu tyfiant annaturiol, fe ddylai disgyblion Crist, fel yr amaethwr, ymdawelu yn yr ystyriaeth bod y deyrnas yn myned rhagddi yn ei hamser ei hun ac yn ôl ei deddfau ei hun. Un yn hau'n ddyfal heb ddisgwyl ffrwyth yn fuan oedd Crist ei hun ar y ddaear.
"Y modd nis gŵyr efe." Dangos y mae'r ymadrodd hwn, nid fod yr amaethwr yn anwybodus ynghylch deddfau tyfiant, ond ei fod yn ddibryder am y deddfau hynny. Hyn mewn effaith a ddywed yr Iesu: Y mae'r amaethwr yn ddiofal am gynnydd yr had am y gŵyr ef nad oes ganddo allu i atal nac i brysuro'r cynnydd, gan fod y ddaear ohoni ei hun yn dwyn ffrwyth; yn gyntaf yr eginyn, ar ôl hynny y dywysen, ac yna'r ŷd llawn. Gwybyddwch chwithau fod yr un ddeddf yn bod yn nheyrnas nefoedd. Am hynny, meithrinwch ysbryd yr amaethwr, sef yr ysbryd a gynhyrchir gan gydnabyddiaeth ddyledus o ddeddf tyfiant.
Y mae cynnydd yn y byd ysbrydol yn cyfateb i gynnydd yn y byd naturiol yn y tri pheth hyn: ei fod ohono'i hun (spontaneous), ei fod yn araf, a'i fod yn raddol (neu o radd i radd). Y mae'r heuwr yn peidio â bod yn ddiofal pan aeddfedo'r ŷd. Y cynhaeaf ydyw canlyniad pob datblygiad a ddigwyddo mewn person unigol, neu ynteu mewn cymdeithas; ac felly fe eill fod llawer cynhaeaf yn hanes yr eglwys cyn y farn diwethaf.
Y mae tair gradd yng nghynnydd y Cristion. Yn gyntaf, yr eginyn, neu os cymherir ef i bren, y blodeuyn. Wrth yr eginyn neu'r blodeuyn y golygir dechreuad amlwg y bywyd ysbrydol yn yr enaid. Yr ail radd ydyw'r dywysen ir, neu pan sonnir am bren, y ffrwyth ir. Er bod ffrwythau'r ysbryd ar y Cristion yn y cyflwr hwn, eto surion iawn eu blas ydynt. Nid yw ddrwg iddo fod yn y cyflwr hwn; y drwg yw aros ynddo heb fyned i'r trydydd cyflwr. Fel y mae pren newydd fwrw'i flodau yn edrych yn noethach nag o'r blaen, felly y mae'r Cristion yn y cyflwr hwn yn ymddangos yn fwy gwrthgiliedig nag oedd ar y cyntaf; ond i'r golwg yn unig y mae ef felly, ac am hynny, er maint y gwrthgiliadau a'r amheuon a'r profedigaethau a berthyn i'r cyflwr hwn, y mae'r hwn sydd ynddo'n ymddatblygu'n barhaus.
Y drydedd radd ydyw'r ŷd yn llawn yn y dywysen. Yn y cyflwr hwn, y mae'r Cristion, o ran ei ysbryd a'i ymarweddiad yn gyfryw ag y gellir dywedyd ei fod yn aeddfed i'r nef—ei lawenydd yn fwy tawel a sefydlog na phan oedd ef yn y cyflwr cyntaf, a'i ffydd yn fwy diymod na phan oedd yn yr ail gyflwr.