Neidio i'r cynnwys

Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III/Darparu a Derbyn yn Gyflawn Aelodau

Oddi ar Wicidestun
Damhegion Crist Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III

gan Robert Ambrose Jones (Emrys ap Iwan)

Araith ynglŷn â Chasgliad y Tlodion

DARPARU A DERBYN YN GYFLAWN AELODAU

Nid arnaf i y mae'r bai fod y testun hwn mor amleiriog, ond ar Ymneilltuwyr eiddigus yr amser a aeth heibio, y rhai gan faint eu cas at eglwysi Lloegr a Rhufain, oedd yn anfoddlon i arferyd hen dermau eglwysig, pa mor gyfleus bynnag, oni cheid hwynt yn y Testament Newydd. Catechesis y geilw'r cyfundebau hynaf yr addysg neilltuol a roddir i aelodau ar braw, a chonffirmasiwn y galwant y gwaith o dderbyn yn aelodau cyflawn y sawl a fedyddiwyd yn eu babandod. Er nad yw'r geiriau hyn gennym ni, yr Ymneilltuwyr Cymreig, eto y mae'r pethau gennym mewn rhyw fesur. Ac amcan hyn o sylwadau ydyw dangos y dylem ni, a phawb sy'n gweled yn dda fedyddio babanod, roi mwy o bwysigrwydd ar addysgiaeth neilltuol aelodau anghyflawn, a mwy o hynodrwydd ar y dull o'u derbyn yn aelodau cyflawn. Y mae'n well fod gennym y pethau heb yr enwau na'r enwau heb y pethau; ond y mae lle i ofni mai mewn enw yn unig y mae gennym "aelodau ar brawf" yn y rhan fwyaf o'n heglwysi; canys pa brawf a roir arnynt, heblaw gofyn eu bod o leiaf bedair ar ddeg oed, eu bod yn gallu ateb rhyw hanner dwsin o holiadau tra chyffredin allan o'r bedwaredd bennod ar ddeg o'r Hyfforddwr, a'u bod yn gyfryw o ran eu cymeriad ag na bu'n wiw gan neb eu cosbi.

Nid wyf yn dywedyd mai rhai fel hyn yr ydym yn eu derbyn, ond yn hytrach ein bod yn derbyn rhai fel hyn. Os mynnwn gael eglwysi glân a ffrwythlon, ac ar yr un pryd arbed i ni'n hunain y gwaith annymunol o fwrw allan aelodau diffrwyth, gofalwn fod yr aelodau ar braw yn aelodau profedig mewn gwirionedd, cyn cael ohonynt eu cydnabod yn aelodau cyflawn. Na adawn i'r ffaith fod rhyw gyfundeb arall yn derbyn publicanod a phechaduriaid mawr ein hatal ni rhag dal i fyny'r gwirionedd mai cynulleidfa o saint a ddylai eglwys Dduw fod, ac y gwna cynulleidfa fechan o saint fwy o'i hôl ar y byd nag a wna cynulleidfa fawr a fyddo wedi ei chymysgu â nifer dda o wrthodedigion y Methodistiaid Calfinaidd.

Y mae lle i ofni mai'r ymgiprys sy rhwng cyfundebau Cymru am eneidiau glân neu aflan ydyw un achos paham y mae disgyblaeth y Methodistiaid yn llacach nag y bu hi, ac mai hynny sy'n peri ei bod yn anodd ganddynt roi praw llwyrach ar ieuenctid sy'n ymgeiswyr am aelodaeth eglwysig.

Yn y cyfryw ieuenctid ni ellir disgwyl duwioldeb na difrifwch hynafgwyr, ond yr ydys yn disgwyl cael ynddynt hwythau gryn fesur o'r hyn a elwir yn y Beibl yn sobrwydd: "Y gwŷr ieuainc yr un ffunud, cynghora i fod yn sobr." Fe ellir disgwyl hefyd iddynt hwy yn anad pawb fod yn awyddus am wybodaeth, ac felly nid mawr o beth fyddai iddynt erbyn diwedd amser eu plentyndod feddu o leiaf ddigon o wybodaeth Ysgrythurol i'w hiawn farnu eu hunain, ac i iawn farnu corff yr Arglwydd, y dymunant ar broffes wneuthur coffa cariadus amdano. Ofer ydyw eu derbyn yn gyflawn aelodau, gan ddymuno arnynt wrth eu derbyn, ymroi i gyflawni eu diffyg gwybodaeth ar y pryd, rhwng hynny a'r Sabboth y nesaont at fwrdd yr Arglwydd. Oblegid hyd y gwelais ac y clywais i, esgeulus fyth fydd y rhai sy'n esgeuluso ceisio'r wybodaeth angenrheidiol erbyn yr amser a benodwyd i'w holi yn y cyfarfod eglwysig.

Am hynny, braidd na ddywedwn y dylai ymgeiswyr erbyn yr amser hwnnw gasglu digon o wybodaeth nid yn unig i fod yn gyfranogion cymwys o Swper yr Arglwydd, ond hefyd i fyw arni am eu hoes pe byddai raid. Mewn rhannau helaeth o'r Cyfandir fe roir llawer mwy o fri ar yr ordinhad hon nag a roir arni yng Nghymru; ac am hynny y mae gan y gweinidogion Protestannaidd yn y rhannau hynny ddosbarth ryw ddwywaith yn yr wythnos am fis neu ddau bob blwyddyn i addysgu catechumens, neu ymgeiswyr tros bedair ar ddeg oed, a heblaw'r addysg a roddir iddynt yn y dosbarth fe roir iddynt dasgau trymion i'w gwneuthur gartref. Cynhelir y cyfarfod hwn fel rheol dri ar gloch y prynhawn, a pha un bynnag ai mewn ysgolion a ynteu mewn gwasanaeth y byddo'r ymgeiswyr, nid yw rhieni nac ysgolfeistraid, na meistraid eraill, yn gwarafun iddynt adael pob gwaith cyffredin er mwyn gallu ohonynt yn yr adeg bwysicaf o'u hoes fyned i dderbyn yr addysg orau—addysg berffaith llyfr y llyfrau. Mor wahanol ydyw hi yn awr yng Nghymru. Y mae llywodraethwyr anffyddol, trwy gymryd mantais ar genfigen sectol yr Ymneilltuwyr, nid yn unig wedi bwrw allan addysg grefyddol o'r ysgolion gwladwriaethol, ond hefyd wedi trefnu bod i athrawon dasgu eu disgyblion â chymaint o addysg fydol fel na chaffo plant amser i gasglu gwybodaeth grefyddol hyd yn oed gartref. Y mae hi'n hen bryd i swyddogion eglwysig ddweud yn benderfynol wrth blant a rhieni plant sy'n proffesu crefydd, na fynnant mo'r esgus gwael hwn; a dywedyd yr un mor benderfynol wrth ysgolfeistraid na chaiff addysg fydol ddim disodli addysg grefyddol ar yr aelwyd beth bynnag. Gan na byddai'n wiw dywedyd wrth rhieni mwyaf bydol nad trwy fara, na thrwy'r addysg a fwriadwyd i ennill bara, yn unig y bydd byw dyn, fe fyddai'n burion dangos iddynt na byddai eu plant ddim yn llai sicr o'u bara wrth roi cyfran resymol o'u hamser i dderbyn addysg grefyddol; canys pan ystyrir bod yr athrawon yn yr ysgolion gwladwriaethol yn dra anfedrus, a bod y prifathrawon yn gorfod addysgu wrth sistem sy nid yn unig yn anfuddiol, ond hefyd yn niweidiol i feddyliau'r rhan fwyaf o'r plant, ac yn gyff gwawd i bawb sy wedi astudio'r gelfyddyd o addysgu, fe ellir disgwyl i lawer o weinidogion a blaenoriaid yr eglwysi, wrth ddilyn dull mwy rhesymol, gyflawni diffyg yr addysg fydol, trwy wneud y plant nid yn unig yn wybodus ond hefyd yn ddeallus, ac felly eu cynorthwyo i ragori ymhob galwedigaeth ac ymhob cylch y byddont ynddynt.

Y mae'r cyfarfodydd y darperir ieuenctid ynddynt gogyfer â'r arholiadau ysgrythurol, a hyd yn oed gogyfer â'r holi cyhoeddus mewn ysgolion Sabbothol yn ddisgyblaeth dda i'r plant, ac yn helaethu eu gwybodaeth yn fawr; ond wedi'r cwbl, nid yw'r wybodaeth a enillant trwy hynny'n ddigon perthnasol na chyffredinol i'w cymhwyso i fod yn aelodau goleuedig o eglwys Crist. Gallant ragori flwyddyn ar ôl blwyddyn yn y meysydd a roddir iddynt i'w llafurio gan bwyllgor yr arholiad, a chan y cyfarfod ysgolion, heb gael yn y diwedd y brasolwg hwnnw ar holl faes y datguddiad dwyfol sy'n angenrheidiol i ddisgyblion Crist. Hanes bywyd yr Iesu, wrth reswm, ydyw'r peth rheitiaf i'w wybod, ond ni ellir deall yr hanes hwnnw'n iawn, os ddangosir ei gysylltiad â'r hyn sydd o'i flaen ac ar ei ôl. Am hynny, un o'r pethau cyntaf y dylai athro ei wneuthur ydyw dangos mewn modd syml i'r ymgeiswyr am aelodaeth, rediad a datblygiad y datguddiad a roes Duw ohono'i Hun ac o'i ewyllys. Er mwyn dangos hynny'n hytrach mewn ffordd hanesyddol nag mewn ffordd ddiwinyddol, fe ellid cysylltu'r datguddiad â phersonau neilltuol, neu â swyddogaeth y bardd, y proffwyd, yr efengylwr, a'r apostol, neu mewn rhyw fodd diddorol arall. Ynglŷn â hyn, fe ddylid addysgu'r ymgeiswyr i ddywedyd ar fyr eiriau beth ydyw baich neu brif bynciau pob llyfr yn y Beibl yn ôl trefn amseryddol. Ac er mwyn arbed ieuenctid rhag cael eu hysgytio yn annisgwyliadwy ar ôl hyn gan eu hamheuon eu hunain, neu gan ddadleuon dynion anffyddol, peth doeth iawn ydyw brysio i ddangos iddynt fod y Beibl, er yn ddwyfol o ran ei gynhwysiad, yn dra dynol o ran ei gyfansoddiad. Y mae'n wir ei fod wedi ei ysgrifennu ar wahanol adegau gan ddynion i ddynion; ac mai'r Eglwys, yr addawodd yr lesu fod yn ei chanol hyd ddiwedd amser, a gyfarwyddwyd, ie, a ysbrydolwyd i fesur, i benderfynu pa lyfrau a fwriadodd Duw i ddatguddio'n gywir ac yn gyflawn ei Gyfamod Newydd. Y mae llawer o Brotestaniaid yn rhy dueddol i anghofio'r gwirionedd na ellir yn rhesymegol honni bod y Testament Newydd yn anffaeledig heb honni bod yr Eglwys hefyd yn anffaeledig mewn cyfnodau ac amgylchiadau neilltuol.

Ond y mae rhai rhannau o'r Beibl mor hynod am eu buddioldeb fel y dylai ymgeiswyr am aelodaeth eglwysig eu gwybod yn fanwl; hynny ydyw, gallu eu hadrodd air yng ngair: megis y Salmau sy'n dechrau fel hyn: Arglwydd, pwy a drig yn dy babell; Gwyn ei fyd y neb y maddeuwyd ei drosedd; Trugarha wrthyf, O Dduw; Ti Arglwydd fuost yn breswylfa i ni; Yr hwn sydd yn trigo yn nirgelwch y Goruchaf; Fy enaid, bendithia'r Arglwydd; Arglwydd, chwiliaist ac adnabuost fi; a dwy neu dair o fân Salmau eraill mwy hysbys; y drydedd bennod o'r Diarhebion hefyd; y bennod o lyfr Esaiah sy'n dechrau fel hyn: Llefa a'th geg; rhannau o'r Bregeth ar y Mynydd; y drydedd bennod ar ddeg a'r bymthegfed bennod o'r Corinthiaid cyntaf.

Yr wyf yn barnu y byddai'n fuddiol i'r ymgeiswyr gydadrodd y pethau canlynol wrth gael eu derbyn, ac yn wir, nid wyf yn cofio i mi gymryd rhan mewn derbyn ond un ymgeisydd ieuanc erioed heb eu bod wedi gwneud cymaint â hyn, er na chawsent ond chwech neu saith wythnos i ymbaratoi: 1. Gweddi'r Arglwydd; 2. Y weddi foreol o'r drydedd salm; 3. Y weddi hwyrol o'r bedwaredd salm; 4. Y deg gorchymyn; 5. Y ddau orchymyn mawr; 6. Credo'r Apostolion yn ei ddull cyntefig; 7. Y Gwynfydau; 8. Yr hanner olaf o'r unfed bennod ar ddeg o'r Corinthiaid cyntaf; 9. Atebion i holiadau oddi ar yr adnodau hynny; 10. Y Weddi Apostolaidd.

Pe gwneid yn hysbys pa bethau y disgwylid i aelodau ar braw eu hadrodd wrth gael eu derbyn, gallent ddechrau eu dysgu yn eu plentyndod rhag cael o'r rhai arafaf a phrysuraf achos i ddywedyd bod ychydig wythnosau yn amser rhy fyr.

Yr wyf wedi awgrymu y dylid eu derbyn oll ar yr un adeg o'r flwyddyn, ac efallai mai ymhen rhai wythnosau ar ôl yr arholiad ysgrythurol, ac wythnos neu ddwy cyn Calan Mai fyddai'r adeg fwyaf cyfleus. Er mwyn gosod pwysigrwydd ar y gwaith, fe ddylid neilltuo un cyfarfod eglwysig yn gyfangwbl i'r perwyl hwn. Er mwyn arbed amser, a pheri mwy o ddiddordeb i'r gwrandawyr, gofynner i'r ymgeiswyr o'u sefyll, a'u hwyneb tuag at y gynulleidfa gydadrodd pop peth a roddwyd iddynt i'w ddysgu, oddieithr yr atebion i holiadau. Nid oes eisiau dangos bod derbyn lliaws gyda'i gilydd yn effeithiolach o lawer na'u derbyn o un i un yn awr a phryd arall, ac nid y daioni lleiaf sy'n dyfod o'r dull hwn ydyw ei fod yn magu rhwng yr ymgeiswyr fwy o frawdgarwch a chydymdeimlad a bery rhyngddynt gan mwyaf ar hyd eu hoes. Y mae'r brawd Lazarus yn glaf, y mae Rachel yn wylo am ei phlant. Yn wir, mi ddylwn fyned atynt i'w cysuro, oblegid ar yr un pryd â mi y gwnaed nhw'n gyfranogion o holl freintiau'r Eglwys, a ni a addawsom y pryd hwnnw y carem ein gilydd hyd y diwedd, megis y carodd Crist ninnau, ac nad anghofiem byth ein bod yn frodyr i'n gilydd wrth wneuthur coffa am ein brawd hynaf.

Mi fynnwn i annog swyddogion yr eglwysi i wneud un peth bach arall a fyddai'n fawr iawn gan aelodau ieuainc, sef rhoddi i bob ymgeisydd wrth ei dderbyn, gopi cryf o'r Beibl, ynghyd â chopi o'r Gyffes Ffydd, a'r Llyfr Emynau hefyd, os gallant;—nid wobr am eu llafur, ond yn hytrach yn goffadwriaeth am yr amgylchiad pwysig yn yr hwn cadarnhasant ohonynt eu hunain yr hyn a wnaeth eu rhieni trostynt yn y bedydd.

Nodiadau

[golygu]