Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III/Dr. Edwards, a'r Achosion Seisnigol
| ← Y Cwrdd Gweddi | Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III gan Robert Ambrose Jones (Emrys ap Iwan) |
Wrth fedyddio plentyn → |
DR. EDWARDS, A'R ACHOSION SEISNIGOL
FONEDDIGION,
Teimlaf fod dyled arnaf fel Cymro, fel Cristion, ac fel Trefnydd Calfinaidd, i gyd-ddywedyd ag eraill yn erbyn yr hyn a ddywedodd Dr. Edwards, o'r Bala. Llosgodd Luther yn Wittenburg gyhoeddiad esgymunol Leo neu Lewis X, a oedd, gyda llaw, mor llengar a pharchedig â'r hyn a ddywedwyd yn Nolgellau. Y mae arnaf ofn y bydd i'r parch sydd gennyf i Dr. Edwards fel un a wnaeth lawer i ddyrchafu llenyddiaeth Gymraeg fy atal rhag ei sennu mor llym ag y dylid am ei ymddygiad yng nghyfarfod Dolgellau.
Bwriodd ef ei hun, o bryd i bryd, lawer o wawd bras ar y dosbarth y mae yn awr yn aelod ohono; ac am hynny, wrth gondemnio gwendidau ei henaint, ni ddylid gollwng dros gof y gwaith da a wnaeth yn ei ddyddiau gorau. Hyd yn hyn, ni ddywedais air yn erbyn y Doctor, yn gêl nac ar gyhoedd, ond y mae un peth na ddichon ac na ddylai Cymro ffyddlon ei faddau yn neb.
Yr oedd yn llawen gennyf ddarllen, oddi cartref, ers talm o amser yn ôl, fod y Trefnyddion Calfinaidd yn casglu arian i'w rhoi'n dysteb i Dr. Edwards. Ond y mae'n ddrwg gennyf fy mod yn gorfod ofni erbyn hyn fod gwobrwyon mawr y cyfoethogion wedi ci ddenu ef i bleidio eu mympwyon. Llawer cedrwydden gadarn a dorrwyd i lawr â bwyell aur.
Y mae Dr. Edwards, hyd yn oed yn awr, yn gaffaeliad mawr i ba blaid bynnag a'i caffo. Addefaf mai'r ddadl gryfaf-yn wir, yr unig ddadl gref-o blaid yr achosion Seisnigol yw y Doctor ei hun. Dywedodd y llywydd fod cyffro'r Doctor yn rheswm cryf; ond y gwaethaf yw, Mr. Donne, nad oes dim modd argraffu rheswm o'r fath yna; ac am hynny, y mae'n amhosibl i'r rhai na fuont yn Nolgellau deimlo ei rym. Am resymau argraffedig yr hwn a gyffrowyd, y maent mor eiddil â rhesymau'r tad a'r mab o . . .; ond y mae'n rhywbeth i ddynion bychain gael dweud fod un "dyn mawr" yng Nghymru yn cydfarnu â hwynt. Ni waeth pa beth a ddywedir wrth rai dynion yn erbyn trais nac ynfydrwydd na dim arall, canys caeant eich genau â'r ffaith ddarfod gwneud y trais hwn gan ryw ddyn da, neu ddarfod dangos yr ynfydrwydd yna gan ryw ddyn doeth. Dyma eu rhesymeg hwy—"Brutus assassinated Caesar; assassination is honourable, for Brutus was an honourable man." Ni ddylid rhyfeddu gormod fod dyn mor ddoeth â Dr. Edwards wedi siarad mor hynod o annoeth yn Nolgellau. Pan elo dyn mawr i gors, y mae'n naturiol iddo suddo'n is na'r cyffredin, am ei fod yn drymach.
Ni wn yn iawn pa un ai teg ai annheg, ai doeth ai annoeth, fyddai imi feirniadu'n rhy fanwl ar ei ymadroddion, ond rhag ofn y bydd y Doctor yn rhy falch i ddiarddelwi'r ymadroddion hynny ar ôl eu hail ystyried, byddai'n burion dangos pa mor anwybodus y gall diwinydd fod ynghylch pethau dynol a bydol fath yr achosion Seisnigol. Dywedodd yn gyntaf oll fod ymlyniad y Cymry wrth eu hiaith, a'u gwrthwynebiad i roi arian i Mr. i bresbytereiddio'r Corff, ac i Seisnigo'r wlad, yn codi naill ai oddi ar wybodaeth neu oddi ar ymrysongarwch. Yn wir y mae'r haeriad hwn yn ddigon i beri i bawb gredu bellach fod Cynddylan yn gywir, wrth ddywedyd bod Dr. Edwards yn ymhyfrydu mewn paradoxes.
Atolwg, pwy yn Lloegr a fu'n annog y Cymry i gadw eu hiaith a'u defodau cenhedlig? Ai rhywun o'r lliaws uniaith, ai ynteu dynion dysgedig o fath Gladstone a Craig? Pwy ar y Cyfandir a fu'n rhyfeddu bod y Cymry'n dibrisio iaith mor odidog â'r Gymraeg? Onid dynion y mae eu henwau'n hysbys ymhob gwlad? Pwy yn Iwerddon sy'n edifarhau fwyaf am esgeuluso ohonynt yr iaith Wyddeleg, a phwy sy'n ymdrechu fwyaf i'w hadfywio? Onid y gwŷr dysgedicaf yn y wlad? . . . . O na bai tipyn o ysbryd y Gwyddelod yn eu cefnderoedd Cymreig! Yna trôi diystyrwch y Saeson yn gasineb, a thrôi eu casineb yn y man yn ofn, a'u hofn yn barch. Ond parch neu beidio, y mae'n well i genedl fod yn wrthrych casineb y Saeson nag yn wrthrych eu dirmyg. Gwell i wlad gael eu galw'n "discontented Ireland" nag yn "poor little Wales."
Myned i ddweud yr oeddwn, cyn cyfeirio at esiampl y Gwyddelod, mai'r blaid yr ymunodd y Doctor dysgedig â hi ydyw'r blaid fwyaf bas a di-ddysg ymhob oes a gwlad. Nid wyf i, fel un o'r ffyddloniaid Cymreig, yn erbyn i rai ddysgu Saesneg ac estronieithoedd eraill, os mynnant—ac os medrant. Ond dweud yr wyf na ddylent wneud dim i ddisodli eu hiaith eu hunain. Hyn yw'r gwahaniaeth rhyngof i a Dr. Edwards, sef ei fod yn pleidio'r trefniant gorau a ddychmygwyd erioed i droi'r Cymry'n Saeson uniaith, a minnau'n pleidio trefniant a bair iddynt gadw eu Cymraeg wrth ddysgu Saesneg. Os dywed ef ei bod yn annichon i bobl ddarostyngedig gadw eu hiaith eu hun a dysgu iaith eu darostyngwyr hefyd, y mae gennyf well mantais nag ef i ddweud bod hynny nid yn unig yn ddichonadwy ond yn hawdd hefyd. Pe bai'r Doctor a'i blaid yn siarad ac yn gwario hanner cymaint i Gymreigio'r Cymry ag y maent yn ei siarad a'i wario i'w Seisnigo, a phe bai'n haelodau seneddol, yn hytrach na gwastraffu eu hamser i helpu'r Saeson i wneud deddfau Seisnig, yn ymuno â'i gilydd i fynnu deddfau cyfaddas i'r Cymry, byddai gwybodaeth, a moes, a chrefydd, yn llawer uwch yng Nghymru nag ydynt yn awr. Paham yn enw pob synnwyr y dylem ni ymboeni ar hyd y blynyddoedd i ddysgu'r plant Cymreig i ddarllen Cymraeg, a'r Ysgrythur Lân yn eu hiaith eu hunain yn yr Ysgolion Sabbothol, tra bo'r Bohemiaid a chenhedloedd darostyngedig eraill, yn dysgu iaith eu gwlad yn yr ysgolion dyddiol, a hynny ar draul y genedl a'u darostyngodd? Yn ddiau, y Cymry yw'r genedl wirionaf ar wyneb y ddaear! Nid rhyfedd fod y Saeson yn ein diystyru! . . . .
Cyfeiriodd y Doctor at ardal yn sir Drefaldwyn lle y bu raid troi'r gwasanaeth Cymraeg yn un Saesneg. Nid wyf yn amau na throes yr eglwys honno i'w Saesneg fel y gwnaeth aml eglwys Gymraeg arall y gwn amdani, ond dymunwn gael enw'r ardal er mwyn peri i rywrai ymofyn paham y troes i'r Saesneg. Na ryfedded neb wrth fy ameugarwch, canys cefais allan fod nifer fawr iawn o'r tystiolaethau a glywais hyd yn hyn o blaid yr achosion Seisnigol yn hollol anghywir a chamarweiniol. Fel enghraifft agos, y mae gan flaenor ariannog hafod gerllaw'r dref y ganed ac y magwyd fi ynddi. Ni all ef gael gwared o'r dychymyg fod plant y gymdogaeth yn colli eu Cymraeg yn gyflym, ac felly yn fynych pan elo i Gymanfa, neu Gyfarfod Misol, traetha'i ddychymyg fel pe bai'n wirionedd diddadl; a chan fod dychymyg gŵr cyfoethog yn gadarnach na ffeithiau dyn tlawd, y mae'n ddiau gennyf ddarfod i'r cyngor Seisnigol sefydlu aml "achos" ar ei sail. Y mae hi'n digwydd bod gennyf i well cyfleustra na neb arall i wybod pa faint o Saesneg, ac o Gymraeg, a ŵyr plant Methodistiaid y dref honno, ond y mae cyfleustra'r gŵr cyfoethog i wybod hynny'n llai na'r eiddo neb yn yr ardal, canys nid yw byth yn mynd ar gyfyl nac Ysgol Sabbothol na chyfarfod plant na dim o'r fath. Pe buaswn i'n ddigon cyfoethog i siarad yn y Sasiwn, tystiolaeth sicr o fath hon a draethaswn, sef bod plant i Saeson pur wedi myned ar eu gwaethaf yn Gymry o ran iaith gan mor Gymreig ydyw awyr y dref. Ond pa beth a ddeuai o'r "achosion gwir angenrheidiol hyn" pe na thystiolaethai neb ond yr hyn a wyddai! . . .
Gair o gymhwysiad at y Cymry'n gyffredinol.—Na chymerwch eich hudo yn enw crefydd i rodio yn ôl helynt y byd hwn, nac i gydredeg â dull y byd hwn yn ei lol, ei rodres, ei falchder, na'i foethau. Nac edrychwch ar anwybodaeth o'r Gymraeg yn beth parchus, na hyd yn oed yn beth esgusadwy, ond yn hytrach yn beth cywilyddus. Na fydded ichwi roi dim cefnogaeth i'r rhieni Cymreig ynfyd hynny sydd, trwy ddirfawr ymdrech, wedi llwyddo i fagu eu plant yn Saeson uniaith. Yr ydych wrth roddi arian i adeiladu'r hyn y gellir eu galw yn "noddfeydd balchder" ar eu cyfer yn dodi bri ar eu hynfydrwydd, ac yn calonogi eraill i ymdebygu iddynt. Credwch na ellir gwneud Cristion gwych o Gymro gwael. Hyd y sylwais i, y rhai parotaf i wadu iaith eu tadau ydyw'r rhai parotaf i wadu crefydd eu tadau hefyd. Yn wir y mae'r gwirionedd neilltuol yna'n llechu yn y gwirionedd. cyffredinol hwn:—"Y neb sydd ffyddlon yn y lleiaf sydd ffyddlon mewn llawer hefyd, a'r neb sydd anghyfiawn yn y lleiaf sydd anghyfiawn mewn llawer hefyd." Dangoswch chwi ddyn a wadodd ei iaith, a dangosaf innau ddyn a wad Grist am resymau llawn cyn saled. Ni feddyliai'r bardd gwylltaf ei ddychymyg am ddarlunio Dic Siôn Dafydd yn marw fel merthyr.
Byddai'n hawdd dwyn digonedd o ffeithiau i brofi eich bod yn gwneud yr hyn sydd hollol niweidiol i grefydd, ac i ddynoliaeth hefyd, wrth anwesu'r cyfryw; ac yn gwneud yr hyn sydd afreidiol wrth anwesu'r Saeson pur. Peidiwch â thrin y Saeson sydd yn eich gwlad fel pe baent baganiaid difeddwl a diymadferth; canys honnant eu bod yn fwy crefyddgar nag un genedl tan haul. Am hynny, rhowch iddynt gyfleustra i ddangos eu crefyddgarwch, gan adael iddynt ddarbod drostynt eu hunain megis y gadewir iddynt wneud yn Ffrainc, ym Melg, yn yr Almaen, yn yr Ital, ac ymhob gwlad oddieithr "poor little [foolish] Wales" . . . .
Aflwydd a ddaeth ar bob cyfundeb crefyddol a redodd yn y gwddf i'r teimlad o wladgarwch. Am hynny, trowch eich wynebau at y Cymry; sicrhewch hwy—ie, hwy. Gosodwch y Corff allan fel Eglwys Gymreig Genhedlig. Ystwythwch ychydig ar eich deddfau, hefyd, fel y galloch dderbyn i'ch côl y Cymry a esgeulusir gan y cyfundebau eraill, wrth ymgiprys ohonynt am ymwelwyr Seisnig. Ar air, gosodwch Gristnogaeth uwchlaw enwadaeth; a Chymreigiaeth uwchlaw "surdoes Herod." Os nad ych chwi'r cyfoethogion yn foddlon i gydgychwyn â'r werin yn y cyfeiriad yna, ac i fwrw ymaith eich tegan Seisnig, gosodir anghenraid arnaf i ymosod ar eich sefydliadau Seisnigol mewn modd a'u sigla hyd eu sail. Os rhaid bod yn Gymro salw i fod yn Fethodist da, yna trenged Methodistiaeth, a dyweded yr holl bobl 'Amen.'
Yr eiddoch, &c.,
PREGETHWR.
O.Y.—Os myn rhyw flaenor bach Seisgar gael gwybod gennych pwy ydwyf, er mwyn rhoddi "marc" arnaf, y gorchymyn "Esgymunol," rhowch fy enw yn ôl iddo.
ALLAN O'R "Faner", GORFFENNAF 14, 1880.
Yn sicr ni ddylid dibrisio arian, canys y mae'n rhoi cyfleustra i ddynion da wneud llawer o ddaioni. Y mae hefyd yn codi dynion dibwys i sefyllfa bwysig; yn eu galluogi i edrych yn bwysig, ac yn gartrefol yn y sefyllfa honno; yn eu galluogi i siarad y pethau mwyaf cyffredin mewn modd a bair i wrandawyr dwl dybied eu bod yn anghyffredin, ac yn eu galluogi i dalu am gyhoeddi anerchiadau a gyfrifir yn rhy sâl i'w cyhoeddi'n ddi-dâl. Y mae arian, meddaf eto, yn gwthio dyn dinod i'r amlwg; yn rhoi cyfleustra iddo i arfer y tipyn dawn a fydd ynddo; ac wrth fynych arfer y mae'n cyrraedd rhyw rugledd ymadrodd, a elwir gan fwytawyr y briwsion yn huodledd . . .
Er nad oes arnaf ofn Sasiynaid o Ddic-Siôn-Dafyddion, ac er eich bod yn fy ngolwg yn fwy dirmygedig na neb, eto chwi welwch fy mod yn addef bod eich manteision yn lluosog a'ch dylanwad yn fawr. Addefaf yr addolir cyfoeth ym Mhrydain ymron cymaint ag yr addolir uchelfonedd yn yr Ysbaen, dawn yn Ffrainc, dysgeidiaeth yn yr Almaen, a moesau da yn yr Yswêd. Ond cyn sicred â bod eich codau yn drymion, a'ch pen yn ysgafn, mi a orfyddaf arnoch oll gyda chynhorthwy'r miloedd Cymry syml a diymod hynny na fynnant blygu eu gliniau i'r duw Ffasiwn . . . .
Bonn-wrth-y-Rhein, Medi 11, 1880.
ALLAN O'R "Faner", MEDI 29, 1880.