Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III/Gweddi i ddiolch am y cynhaeaf
| ← Anerchiad arall wrth fedyddio plentyn | Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III gan Robert Ambrose Jones (Emrys ap Iwan) |
Gweddi wrth Fwrdd y Cymun → |
GWEDDI I DDIOLCH AM Y CYNHAEAF
O Arglwydd, yr ydym yn ymgyfarfod heddiw mewn modd neilltuol er mwyn diolch iti nid yn unig am roddi inni law a gwres, bob un yn ei amser, i dyfu, i aeddfedu ac i gasglu cynnyrch y tir, ond hefyd am dy holl ddoniau inni, yn dymhorol ac yn ysbrydol, ar hyd y flwyddyn a aeth heibio. Yr ydym yn diolch iti, nid yn unig am roddi inni bethau da, ond hefyd am ein cadw rhag llawer drwg. Beth a dalwn iti am dy holl ddoniau inni? 'D allwn ni ddim talu iti ond yn unig o'th eiddot dy hun. Am hynny y mae'n dda gennym feddwl mai derbyn dy iachawdwriaeth a'th addoli ydyw'r diolch mwyaf cymeradwy gennyt ti am ddoniau dy ragluniaeth. Cynorthwya bob un ohonom gan hynny i ddywedyd â'i galon: "Ffiol iachawdwriaeth a gymeraf, ac ar enw yr Arglwydd y galwaf, fy addunedau a dalaf i'r Arglwydd." Yr ydym yn teimlo oni wnawn ni hynny, mai ein twyllo'n hunain, a cheisio dy dwyllo dithau y byddwn wrth ymgynnull ynghyd fel hyn.
Er ein bod yn cydnabod dy fod Ti wedi gwneud dy ran tuag atom trwy roddi inni dywydd tymhoraidd iawn, eto y mae amgylchiadau yn gyfryw fel yr ydym yn ofni y bydd llawer, naill ai trwy eu camwedd eu hunain neu trwy gamwedd rhai eraill, mewn caledi mawr yng nghorff y gaeaf sydd ar ddyfod. Dwg ni i gredu bod dy lywodraeth di ar amgylchiadau yn gystal ag ar elfennau natur, ac y gelli di drefnu ffordd i roddi ymborth a dillad i bawb a ymddiriedo ynot. Os rhoddaist inni beth mor fawr â bywyd, dysg inni gredu mai bychan gennyt bellach ydyw rhoddi inni fwyd i gynnal y bywyd hwnnw; os rhoddaist inni beth mor werthfawr â'r corff, mai bychan gennyt roddi inni wisg i ddilladu'r corff hwnnw.
Ond yr wyt ti wedi rhoddi inni beth gwerthfawrocach hyd yn oed na'r corff, ac na'r bywyd anianol sy'n bywiocáu'r corff—yr wyt wedi rhoddi inni ysbryd anfarwol. O Arglwydd, portha hwnnw hefyd, â'r bara a ddaeth i waered o'r nef. Dillada hwnnw hefyd â'r Arglwydd Iesu ac â'i gyfiawnder Ef, fel nad ymddangoso gwarth ein noethder ni yn y dydd mawr y byddi Di'n diosg hyd yn oed y bratiau budron sy'n awr yn gorchuddio enaid aflanach na hwythau.
Rho dy wisg ddisgleirwen, olau,
Cuddia'n noethni hyd y llawr
Fel nad ofnom mwy ymddangos
Byth o flaen yr orsedd fawr.
Dwg ar gof inni y daw rywbryd amser cynhaeaf pwysicach na'r un a gawsom, pan fedir y rhai sy'n medi, ac y nithir y rhai sy'n awr yn nithio. Na ad inni anghofio bod gennyt tithau dy faes a'th lawr dyrnu, dy ffwrn a'th ysgubor. O! dihidla arnom law graslon ym moddion gras, a thywynned dy wyneb arnom fel y tyfom, ac aeddfedu, a dwyn ffrwyth lawer, a hynny i berffeithrwydd. Gwna ni oll yn gyfryw rai na chwelir ni byth ymaith gan wynt cryf y farn, ond y casgler ni yn hytrach i'th ysgubor.
Derbyn ein diolch, a gwrando'n deisyfiadau, &c.