Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III/Llygad y Dydd
| ← Y Tlawd a'r Cyfoethog | Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III gan Robert Ambrose Jones (Emrys ap Iwan) |
Y Tri Mab → |
II. LLYGAD Y DYDD
Yn awr gwrandewch. Draw yn y wlad, heb fod yn nepell oddi wrth y ffordd fawr, y mae hafoty. Chwi a'i gwelsoch eich hun yn ddiamau. O'i flaen y mae gardd fechan, â rheiliau lliwiedig o'i hamgylch. Yn agos i'r geuffos, ynghanol y borfa fras, yr oedd llygad y dydd yn tyfu; ond gan mai benyw oedd y llysieuyn, ni a'i galwn y waith hon wrth un o'i hen enwau eraill, sef y friallen wen. Yr oedd yr haul yn bwrw cymaint o wres a goleuni arni hi ag ar y blodau gwychion a diwylliedig a oedd yn yr ardd, ac am hynny yr oedd hi'n parhau i dyfu o awr i awr. Un bore hi ymagorodd; fel oedd ei dail mân, gwynion, yn ymddangos fel cynifer o belydrau o amgylch yr haul bychan, melyn, oedd yn y canol.
Wrth edrych i fyny ar haul mawr y nen, a gwrando ar yr hedydd yn canu fry yn yr awyr, yr oedd y friallen fach cyn hapused â phe buasai hi'n ddydd gŵyl; ac er hynny dydd Llun ydoedd hi. Yr oedd y plant oll yn yr ysgol; a thra oeddynt hwy'n eistedd ar eu meinciau, ac yn dysgu'r peth yma a'r peth arall, yr oedd hithau'n eistedd ar ei chonyn main, glas, ac yn dysgu gan yr haul cynnes, a chan bob peth a oedd o'i hamgylch, mor anfeidrol yw daioni Duw. Ac yr oedd yn llawen iawn ganddi fod yr hedydd yn medru datganu mor eglur ac mor beraidd y peth yr oedd hi'n ei deimlo ynddi ei hun.
Ac fe edrychodd y friallen â rhyw fath o barchedigaeth ar yr aderyn dedwydd oedd yn gallu telori a hedeg felly; eto, heb ymofidio chwaith am na allai hithau ddim gwneud yr un peth.
"Yr wyf yn gallu gweled ac yn gallu clywed," meddai hi ynddi ei hun; "y mae'r haul yn tywynnu arnaf a'r gwynt yn fy nghusanu. O! helaethed y'm doniwyd."
O'r tu mewn i'r rheiliau yr oedd yn sefyll nifer o flodau torsyth, penuchel; a pho leiaf eu perarogl, mwyaf oll oedd eu rhodres. Yr oedd blodau'r brenin (peonies) yn ymestyn ac yn ymchwyddo, er mwyn bod yn gymaint â'r rhosyn; ond nid maint yw popeth chwaith. Yr oedd i flodau'r bendro (tulips) liwiau gorwych, ac yr oedd hyn mor hysbys iddynt, fel yr oeddynt yn sefyll cyn sythed â saeth, er mwyn i eraill synio'n uwch amdanynt. Nid oeddynt hwy'n ymostwng i sylwi y friallen wen oedd o'r tu allan; ond po fwyaf eu difaterwch hwy, mwyaf oll yr oedd hithau'n edrych arnynt, ac yn meddwl "O'r fath flodau godidog ydynt. Yn ddiau, fe ddisgyn yr aderyn bach i'w gweled. Yr wyf yn diolch i'r Nef fy mod yn sefyll yn ddigon agos i syllu ar eu gwychder." Ac fel yr oedd hi'n meddwl felly, Quirevit! ebe'r hedydd, gan ddisgyn, ond nid at flodau'r brenin a blodau'r bendro; nage, eithr at y friallen wael oedd yn y borfa. Hi ddychrynodd gan wir lawenydd, fel na wyddai hi'n iawn pa beth i'w feddwl.
Fe ddawnsiodd yr aderyn bach o'i hamgylch tan ganu: "O! esmwythed yw'r borfa. A'r fath flodeuyn annwyl yw hwn yma, ag aur yn ei galon ac ag arian ar ei wisg!" Canys yr oedd y cnap melyn yn y friallen yn gyfliw ag aur, a'r mân ddail o'i amgylch cyn wynned ag arian.
Ni all neb ddywedyd hapused oedd friallen wen yn teimlo. Fe'i cusanodd yr aderyn â'i big, ac yna fo ymddyrchafodd drachefn i'r awyr las uwch ben. Yr oedd y friallen wedi ymgyffroi cymaint fel y bu hi lawn chwarter awr cyn dyfod ati ei hun. Gyda chywilydd ar ei hwyneb a llawenydd yn ei chalon, hi ddyrchafodd ei llygad ac a edrychodd ar y blodau oedd yn yr ardd. Hwy a welsent yr anrhydedd a gawsai hi gan yr hedydd, a rhaid eu bod yn gwybod bod ei llawenydd yn fawr. Ond yr oedd blodau'r bendro'n sefyll yn fwy gwarsyth nag erioed; yr oedd eu hwynebau, hagen, yn gochach ac yn llymach o achos eu bod wedi sorri. Creaduriaid pendew oedd blodau'r brenin; ac y mae'n dda na allent hwy ddim siarad, onid e fe fuasai'u dwndwr yn arswydus. Yr oedd yn hawdd i'r friallen ganfod eu bod wedi ffromi, a drwg oedd hynny gan ei chalon. Ar hynny, fe ddaeth geneth i'r ardd, a chyllell fawr, finiog, yn ei llaw, ac a gerddodd yn union at flodau'r bendro, ac a'u torrodd ymaith y naill ar ôl y llall.
"O'r annwyl," ebe'r friallen yn ei hiaith fud ei hun; "dyma waith erchyll! Weithian fe ddarfu amdanynt."
Yna fe ddygodd yr eneth flodau'r bendro ymaith. Yr oedd llawen friallen ei bod o'r tu allan i'r ardd yn y borfa, ac nad oedd y byd yn gwneud nemor gyfrif ohoni; a phan fachludodd yr haul, hi a blygodd ei dail ynghyd ac a gysgodd, ac wedi iddi gysgu, hi a freuddwydiodd trwy gydol y nos am yr haul ac am yr aderyn bach.
Bore drannoeth, wedi i'r friallen unwaith yn rhagor ledu ei dail gwynion, fel cynifer o freichiau bychain yn ymestyn tuag at yr awyr a'r goleuni, hi adnabu lais yr aderyn, ond trist oedd ei gân y waith hon; ac nid rhyfedd, canys yr oedd o bellach yn garcharor, ac yn eistedd mewn cawell wrth ffenestr agored. Canu yr oedd o am yr hyfrydwch o hedeg yn rhydd a dirwystr; canu am yr ŷd ieuanc, glas, oedd yn tyfu yn y meysydd, ac am y teithiau difyr y gall adar rhydd eu cymryd yn uchelderau'r awyr. Drwg ei hwyl, yn ddiau, oedd yr hedydd truan, canys yr oedd o'n gaeth mewn cawell.
Da iawn fuasai gan y friallen ei gynorthwyo, ond pe beth a allai hi ei wneud? Anodd, yn wir, oedd penderfynu. Hi a anghofiodd deced oedd popeth o'i hamgylch, gynhesed oedd yr heulwen, a gwynned a thlysed oedd ei blodennau (petals) hi ei hun. Och! ni allai hi feddwl am ddim heblaw'r aderyn caeth yr oedd hi'n analluog i wneud dim erddo.
Ar hynny o bryd, fe ddaeth dau fachgennyn i'r ardd. Yr oedd un ohonynt yn dwyn yn ei law globen o gyllell lem go debyg i'r un a arferasai'r eneth i dorri blodau'r bendro. Myned a wnaethant rhag eu blaen at y friallen wen na allai ddyfalu pa beth yr oeddynt ar fedr ei wneud.
"Dyma le y gallwn gael tywarchen ddel i'r hedydd," ebe un o'r bechgyn, ac yna fe ddechreuodd dorri dernyn petryal o amgylch y friallen, fel y byddai iddi sefyll yn union ynghanol y dywarchen.
"Plicia'r blodeuyn yna," ebe'r bachgen arall, tra oedd friallen yn crynu gan fraw; canys fe fuasai'i phlicio yr un peth a'i lladd; ac yr oedd hi'n ewyllysio byw, a myned yn ddianaf gyda'r dywarchen i gawell yr hedydd.
"Na, gadawer iddo," ebe'r bachgen hynaf, "y mae o'n dlws iawn yr olwg." Felly fe arbedwyd y blodeuyn, ac fe'i cymerwyd i gawell yr hedydd.
Yr oedd yr aderyn truan yn cwynfan yn groch o achos ei gyflwr, ac yn curo'i esgyll yn erbyn gwifrau'r cawell. Gan fod y friallen yn analluog i lefaru, ni allai hi ddywedyd gair o gysur wrtho, er cystal fuasai ganddi wneud hynny. Fel hyn y treuliwyd yr holl fore.
"Nid oes yma ddiferyn o ddwfr," ebe'r hedydd; "hwy a aethant oll ymaith, heb gofio rhoi diod imi. Y mae fy ngwddf yn sych a llosgedig. Yr wyf yn teimlo fel pe bai tân a rhew o'm mewn, ac O! mae'r awyr yn fwll. Och! rhaid imi farw, a chanu'n iach i'r heulwen dirion, i'r borfa las, ac i'r holl bethau teg a greodd Duw!" Ac yna fo wthiodd ei ylfin i'r dywarchen laith, tan obaith lleihau ei syched.
Dyma'r pryd y gwelodd o'r friallen; am hynny fo ymgrymodd iddi, ac a'i cusanodd â'i ylfin, gan ddywedyd "Gwywo a wnei dithau, druan bach, yn y carchar cyfyng hwn. Tydi, a'r dywarchen fechan hon, ydyw'r cwbl a roddwyd i mi yn gyfnewid am y byd mawr, llydan, yr oeddwn gynt yn ei fwynhau. Weithian, rhaid i bob blewyn glas wneud y tro i mi yn lle pren deiliog, a rhaid i bob un o'th ddail gwynion dithau sefyll yn lle'r blodeuyn pereiddiaf ei arogl. Ow! paham yr wyt yn peri imi feddwl am yr hyn oll a gollais?"
"O na allwn ei gysuro," ebe'r friallen ynddi ei hun, ond ni allai hi symud deilen. Er hynny, yr oedd ei harogl ar hyn o bryd yn bereiddiach nag arogl arferol briallu gwynion; ac fe wybu'r aderyn hynny, canys er ei fod yn dyddfu gan syched, ac yn llarpio'r glaswellt yn ei ing, eto ni chyffyrddodd o â'r blodeuyn.
Yr oedd hi yn awr yn hwyrhau, ac ni ddaethai neb eto i roi diod i'r aderyn sychedig. Fe ddechreuodd yntau ledu ei adenydd prydferth, a'u hysgwyd yn gyffrous, a'r sain alarus "Tsri, tsri" oedd erbyn hyn ei holl gân. O'r diwedd, fe ogwyddodd pen yr hedydd tua'r blodeuyn, ac fe ymdorrodd ei galon o hiraeth diwala am ddwfr. Ni allai'r friallen chwaith blygu ynghyd ei dail ac ymroi i gysgu, fel y gwnaethai hi y noswaith o'r blaen, eithr ymollwng a wnaeth hi tua'r ddaear yn glaf ac yn athrist.
Ni ddaeth y bechgyn i weled yr aderyn hyd drannoeth y bore, a phan wybuant ei fod wedi marw, hwy a wylasant amdano'n chwerw-dost, ac a'i claddasant mewn bedd destlus, ac a'i gwisgasant â blodau. Dodasant y corff marw mewn blwch coch, del, am eu bod wedi penderfynu ei gladdu â chladdedigaeth frenhinol. Druan bach! Pan oedd o eto'n fyw ac yn canu, hwy a'i hangofiasant, ac a'i gadawsant i ddwyn syched yn ei gawell; ond ar ôl ei farw, hwy a'i parchasant â phob urddas, ac a'i harwylasant â dagrau lawer.
Ond am y friallen, fe'i taflwyd hi ynghyd â'r dywarchen i lwch y ffordd. Nid ystyriodd neb mo'r blodeuyn dirodres a ddangosasai fwyaf o gydymdeimlad ac o fwyneidd—dra tuag at yr aderyn bach.
LLEDGYFIEITHIAD O UN O FABINOGION HANS ANDERSEN.