Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III/Pa olwg ddylai'r Eglwys ei gymryd ar ddifyrrwch yr oes
| ← Araith ynglŷn â Chasgliad y Tlodion | Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III gan Robert Ambrose Jones (Emrys ap Iwan) |
Y Cwrdd Gweddi → |
PA OLWG A DDYLAI'R EGLWYS EI GYMRYD AR DDIFYRRWCH YR OES
Y mae syniad dyn am ddifyrion yr oes yn sefyll ei syniad am ddisgyblaeth eglwysig, a chan fod syniad rhai am ddisgyblaeth yn peri bod yn fwy ganddynt urddas y gymdeithas nag adferiad yr aelod, a bod syniad eraill am ddisgyblaeth yn peri bod yn fwy ganddynt adferiad yr aelod nag urddas y gymdeithas, braidd y gallaf i ddisgwyl i'r sylwadau a wnaf, pa mor gymedrol bynnag y bônt, fod yn gymeradwy gan bawb. Er hynny, byddaf yn ddigon bodlon os bydd i'r pethau a ddywedaf awgrymu i rywrai eraill bethau gwell a diogelach. Maddeuer imi am arfer y myfi yn fynychach na'r nyni a'r ydys. Yr wyf yn gwneud hynny am nad oes gennyf hawl i lefaru yn enw'r holl gyfarfod.
Fel yr wyf yn heneiddio ac yn dyfod i'm hadnabod fy hun ac eraill yn well, yr wyf yn gweled yn eglurach nag o'r blaen mai Iesu Grist yw'r dyn gorau a'r dyn tyneraf o bawb, fod peth daioni ymhob dyn, a bod llawer iawn o ddrwg yn fy nghalon i fy hun, os nad oes yn fy muchedd hefyd. Rhaid i mi gan hynny addef fy mod er ys talm bellach yn credu bod eglwys lawn o gydymdeimlad yn bwysicach, os yr un, nag eglwys lân; ac mai argyhoeddi ac adferu'r aelod, ac nid cadw urddas y gymdeithas y mae o'n perthyn iddi ydyw amcan mawr disgyblaeth eglwysig; na ellir mo'i adferu ef oddi wrth ei fai heb ei argyhoeddi ei fod yn euog o fai; ac nad trwy ei gondemnio'n amhenodol y gellir ei argyhoeddi'n effeithiol, eithr trwy ymresymu a thrwy ymliw ag ef; a bod yn haws argyhoeddi dyn ar ei ben ei hun nag yn yr eglwys neu yn y gynulleidfa.
Am ddiarddeliad, nid disgyblaeth ydyw hynny; eithr gweithred sy'n bwrw dyn allan o gylch disgyblaeth. Am hynny, chwithig o beth yw diarddel dyn am unrhyw drosedd, os ydys yn credu ei fod yn ddyn duwiol. Am annuwioldeb ac nid am weithred ddrwg y dylid diarddel dyn; ac nid yw'n rhesymol inni fwrw neb allan o'r eglwys os ydym yn credu ei fod mewn undeb â Phen yr eglwys.
Fe ddichon disgyblaeth eglwysig, yn ystyr ysgrythurol y gair, fod yn llawn mwy isel yn yr eglwysi lle'r ydys yn diarddel llawer nag ydyw hi yn yr eglwysi lle nad ydys yn diarddel neb; canys weithiau, yr ydys yn bwrw dynion allan o'r eglwys yn unig er mwyn arbed y drafferth i'w disgyblu yn yr eglwys. Yn y dyddiau hyn, y mae llawer o wŷr da, a rhai gwŷr drwg hefyd, yn cwyno bod y ddisgyblaeth yn isel; ac y mae'n hawdd gennyf gredu nad yw'r rhai da na'r rhai drwg yn cwyno heb achos; ond wrth gwyno, dylem ystyried hefyd ei bod yn annichon i'r ddisgyblaeth fod cyn llymed yn ein dyddiau ni ag ydoedd hi yn nyddiau'r hen dadau Methodistaidd. Yn un peth, y mae dynion bellach er gwell neu er gwaeth, yn fwy annibynnol nag oeddynt gynt, ac am hynny ni fynnant mo'u trin fel plant ysgol, hyd yn oed pe bai John Elias ei hun yn ben-bugail arnynt. Y maent hefyd gan mwyaf yn galetach nag yr oeddynt; ac yn ôl esiampl Moses ac awgrymiad yr Iesu, y mae'n rhaid goddef rhai pethau drwg oherwydd caledrwydd calonnau dynion. Canys y mae'r ddisgyblaeth a fyddo'n rhy lem i'w goddef, er iddi fod ynddi ei hun yn gyfiawn, yn myned yn anfuddiol, os nad yn niweidiol hefyd. Heblaw hynny, y mae syniadau gwladol dynion wedi newid, ac y mae'r syniadau gwladol hynny wedi dylanwadu ar eu syniadau eglwysig. Fel yr oedd syniadau diwinyddol Awstin, ac Anselm, a Chalfin, yn derbyn eu lliw oddi wrth syniadau athronyddol a gwyddonol eu hoes, felly y mae syniadau dynion am ddisgyblaeth eglwysig yn derbyn eu lliw oddi wrth eu syniadau am ddeddfwriaeth. Y mae cyfraith y wlad yn goddef mwy yn awr nag ydoedd hi beth amser yn ôl, canys nid yw hi mwyach yn bwrw dyn i'w grogi am ladrata dafad. Y mae'r barnwyr gorau, wrth gosbi, yn meddwl mwy am wellhau'r troseddwr nag am ddial arno, a mwy am ddiogelwch cymdeithas nag am ei hurddas. Pan oedd cosbau gwladol yn drymion, yr oedd cosbau eglwysig hefyd yn drymion; ac felly yn nyddiau'r hen Buritaniaid a'r hen Fethodistiaid, yr oedd y neb a drôi ei wallt oddi ar ei dalcen ac oddi tros ei lygaid, cyn rhyngu bodd i'r nef ei wneud yn benfoel, yn euog o farn; y neb a chwibanai dôn gysegredig ar y Sul yn euog o gyngor; a'r neb a ddywedai fod y Beibl yn air Duw yn lle dywedyd mai'r Beibl ydyw gair Duw, yn euog o dân uffern. Ond erbyn hyn, y mae penaethiaid y sect fanylaf yn ein plith yn credu ac yn gwneuthur llawer o bethau a fuasai'n peri dychryn i'w teidiau.
Heblaw hynny, y mae mwy o gystadleuaeth enwadol ein gwlad nag a fu erioed o'r blaen; a phan fo amryw gyfundebau crefyddol yn barod i esguso pethau a gondemnir mewn cyfundeb arall, yna y mae disgyblaeth dra llem yn mynd yn anfuddiol yn anfuddiol i'r cyfundeb ei hun am ei fod yn colli llawer o'i aelodau, ac yn anfuddiol i'r aelodau eu hunain am eu bod wrth fyned yn aelodau o gyfundeb arall mwy goddefgar, yn gwneud y ddisgyblaeth a fu arnynt yn ddi—rym. A pha faint o les sy mewn disgyblaeth os na bydd hi'n peri ofn ac yn peri diwygiad?
Fe ddywed rhai nad oes golled wirioneddol am yr aelodau yr ydys yn eu colli yn y ffordd hon. Hwyrach nad oes fawr o golled amdanynt, er dim gwasanaeth y maent yn ei wneud i grefydd ac i'r cyfundeb. Er hynny, os ydym ni wrth eu colli yn colli'r cyfleustra i ddylanwadu'n ddaionus arnynt hwy, y mae hynny'n golled fawr i ni ac iddynt hwythau. Heblaw hynny, y mae'r rhain yn epilio fel pobl eraill, ac wrth eu colli hwy yr ydys yn colli eu plant, a'u hwyrion, a'u gorwyrion—yn colli yn y man genedl gref. Dyma un achos paham y mae Eglwys Loegr ac un neu ddau o gyfundebau Ymneilltuol wedi cynyddu'n ddiweddar yn gyflymach nag y darfu i ni. Nid wyf fi'n sectol o gwbl, ond y mae'n naturiol imi ddymuno i'r Methodistiaid barhau i fod y cyfundeb cryfaf yng Nghymru, yn unig am fy mod wedi fy magu ynddo. Heb fod fawr ni all o fod yn eang ei ddylanwad. Yn wir, ni all o ddylanwadu ar yr holl genedl hyd oni byddo'n ddigon mawr i haeddu ei alw'n eglwys y genedl. Ond er mwyn bod yn eglwys genhedlig, a pheidio â bod yn sect ymhlith sectau, rhaid inni, yn ôl esiampl yr apostolion, beidio â dodi ar warrau'r disgyblion iau rhy drom i'w dwyn. "She stoops to conquer," medd Goldsmith am wrones ei ddrama. 'Wn i ddim a ddylai eglwys Dduw ei hun fod yn rhy falch i ymostwng mewn rhai pethau a thros ennyd er mwyn gorfod ar bob peth yn y diwedd. Rhwydd hynt i bawb sy'n ceisio llwyr ddiddyfnu'n cyd-wladwyr oddi wrth ddiodydd meddwol; er hynny na adawn i neb droi'n cyfundeb yn fath o glwb dirwestol; onid e clwb fydd o byth, ac nid eglwys. Dyrnwn rai o'r chwaraeon Seisnig a ddygwyd i Gymru; er hynny, na ddyrnwn bob rhyw chwaraeon â'r ordd fawr, "canys nid ag og y dyrnir ffacbys, ac ni throir olwyn men ar gwmin; eithr dyrnir ffacbys â ffon, a chwmin â gwialen." Ar air, na wnawn ac na ddywedwn ddim i leihau ein cyfundeb yn ddiachos. Gwn fod i gyfundeb mawr ei beryglon; er hynny, nid oes dim perygl iddo ef bydru ei esgyrn trwy genfigen. Fe ellir disgwyl i gyfundeb mawr ei faint fod yn fawr ei syniadau, yn fawr ei gydymdeimlad, ac yn fawr ei amcanion. Yn ddiweddar, fe fu rhywun yn sgrifennu yn erbyn yr enwad mawr, gan ei alw'n dduw newydd. Bendigedig, meddaf i, fo'r duw hwnnw, boed ef hen neu newydd. Y mae arnaf i, wedi'r cwbl, lai o ofn enwad mawr nag enwad bach, a llai o ofn Duw mawr na duw bach.
Yr wyf yn foddlon iawn i'r Methodistiaid barhau i fod yn llymach nag un cyfundeb arall yn eu hymddygiad tuag at y pechaduriaid diamheuol yr oedd Iesu Grist yn dyrchafu ei lef mor groyw yn eu herbyn; ond yr wyf ar yr un pryd yn eu cyfiawnhau am fod yn fwy goddefgar nag oeddynt gynt wrth bechaduriaid yr oedd Ef yn oddefgar wrthynt, ac am fod yn ddistawach am bethau nad oedd yn wiw ganddo ef lefaru amdanynt. Wrth ddisgyblu, pa un bynnag ai ar air neu ar weithred, fe ddylid edrych pa mor gymwys ydyw'r eglwys i weinyddu disgyblaeth, a pha mor gymwys ydyw'r aelodau i dderbyn disgyblaeth, a pha mor argyhoeddedig ydyw'r byd a'r oes o ddrwg rhai o'r pethau y dywedir yn eu herbyn. Gwych yn ddiau fyddai cael eglwysi pur; ond y pwnc ydyw, a ellir eu gwneud yn bur trwy ddisgyblaeth yn unig. Onid ffrwyth purdeb, ac nid yr achos ohono ydyw disgyblaeth? Eglwys bur a fedr ddisgyblu. Gan eglwys bur y mae hawl i ddisgyblu. Yn awr, pa eglwys sy'n ddigon pur i geryddu ac i gosbi am bob bai? A oes gan y cybyddion sy mewn eglwys hawl i geryddu'r neb a feddwo unwaith yn y mis? A oes gan y rhai sy'n casáu ei gilydd ar hyd y blynyddoedd hawl i godi eu llaw yn erbyn y neb a garo'n anianol ac yn afreolaidd. unwaith mewn oes? A oes gan y rhai sy'n chwarae castiau twyllodrus mewn siop neu ffair neu farchnad hawl i gondemnio'r rhai sy'n chwarae pêl droed? Gyfeillion, yr oedd yn hoff gan yr Iesu burdeb, ond yr oedd yn hoff ganddo gysondeb hefyd. Yr oedd yn hoff ganddo gydymdeimlo â'r gwan, a gwneuthur rhagor rhwng pechod a phechod, a rhwng pechadur a phechadur. Am hynny, er mwyn llywodraethu eiddigedd dynion rhy ddidostur, y mae o'n dywedyd wrthym heddiw eto: "Yr hwn sy ddibechod, tafled yn gyntaf garreg."
Y mae a wnelo'r pethau a ddywedais am ddisgyblaeth yn gyffredinol â'r pethau a ddywedaf ymhellach am ein hymddygiad tuag at y rhai sy'n ymddifyrru. Os mynnwn i'n geiriau yn y pulpud ac o dan y pulpud ddylanwadu ar y rhai sydd yn ein barn ni yn ymddifyrru'n amhriodol, neu ynteu'n ymddifyrru'n anghymedrol, rhaid inni ymlaenaf ac yn bennaf dim gydymdeimlo â hwynt. Rhaid inni eu hargyhoeddi mai o gariad pur tuag atynt hwy eu hunain, ac nid oddi ar ofn i obaith ein helw ni fyned ymaith yr ydym yn dywedyd yn erbyn eu difyrrwch. Rhaid i'n cydymdeimlad â hwynt fod yn ddigon diffuant i beri inni addef, os bydd achos, eu bod hwy mewn rhai pethau'n rhagori arnom ni. Rhaid iddo fod yn gydymdeimlad a baro inni ystyried yr amgylchiadau y bo'r person hwn a'r person arall ynddynt. Dangoswn ein cydymdeimlad trwy fod yn llawen gyda'r rhai sy lawen, a thrwy ddyrchafu a chymedroli eu difyrrwch, ac nid trwy geisio ei atal yn llwyr. Os myn rhyw fugail ddywedyd yn erbyn chwaraeon, fe ddylai hwnnw o gydwybod chwarae ei hun gyda'i braidd ieuanc ryw unwaith neu ddwy yn y flwyddyn, er mwyn dangos nad oes ganddo ddim yn erbyn chwarae ynddo'i hun. Os clyw'r swyddogion fod rhai o'r aelodau yn myned i weled mân chwaraeon theatrol yn neuaddau trefi'r Rhyl, Dinbych, a Rhuthyn, anogwn hwynt i fynnu gweled Sarah Bernhard, Henry Irving, neu Beerbohm Tree yn chwarae rhyw ddrama uwchraddol, fel diflasont ar fân gomedïwyr teithiol. Os clywant fod yr ieuenctid yn rhy chwannog i ddarllen nofelau, anogwn hwynt i ddarllen prif nofelau'r byd i ddechrau; ac er nad oes cymaint ag un nofelydd o'r radd flaenaf wedi ymgodi ym Mhrydain a'r Almaen, ac nad oes ym Mhrydain ond dau neu dri sydd ym marn y byd yn haeddu eu gosod yn yr ail radd chwaith, eto y mae rhai o nofelau clasurol Ffrainc, y Sbaen, yr Ital, Rwsia, a Norwy, wedi eu cyfieithu i'r Saesneg; ac y mae hyd yn oed nofelau Goldsmith, George Eliot, a Walter Scott, a nofelau Cymraeg Daniel Owen a Gwynn Jones yn anhraethol well na'r nofelau Saesneg y mae'r rhan fwyaf yn eu darllen. Er nad oes dim rhithyn o athroniaeth yn nofelau Walter Scott, na llawer o feddylgarwch chwaith, eto nid ydynt hwythau er eu based yn ddigon bas gan ddarllenwyr cyffredin.
Wrth lefaru am ddifyrrwch yr oes, dylem hefyd ofalu na chymysgom bethau y dylid eu gwahanu, trwy lefaru am chwaraeon a chwaryddiaethau fel pe baent yr un peth. Am chwaryddiaethau (sports), sef chwaraeon wrth broffes, a chwaraeon cystadleuol, lle y mae pob math o gymeriadau yn ymgyfarfod â'i gilydd, ni all yr eglwys oddef y rheini, canys y mae goreugwyr y byd ei hun yn eu condemnio hwy.
Am chwaraeon sydd heb fod yn chwaryddiaethau, gallant hwy fod naill ai'n ddrwg, neu ynteu'n ddiddrwg. Y mae'r rhai sy ddrwg ynddynt eu hunain yn ddrwg i bawb yn ddiwahaniaeth; ac fe all chwaraeon diddrwg ynddynt eu hunain fod yn ddrwg i rai. Dengys hyn y dylid barnu chwaraeon nid yn ôl eu natur yn unig, eithr yn ôl eu dylanwad ar y chwaraewyr.
Fe ellir dywedyd yr un peth am ddifyrrwch yn gyffredinol ag a ddywedwyd am chwaraeon yn neilltuol, canys fe all difyrrwch fod naill ai'n ddrwg neu ynteu'n ddiddrwg; neu a siarad yn fanylach, gall fod yn ddifyrrwch cyfreithlon, neu yn ddifyrrwch anghyfreithlon; neu ynteu'n ddifyrrwch anweddus. A chan nad yw pob difyrrwch unrhyw ddifyrrwch, y mae'n amlwg na ddylem lefaru am y tri math yn yr un modd.
Am ddifyrrwch anghyfreithlon, ni ddylem betruso ei gondemnio ef bob amser ac ymhobman. O dan ddifyrrwch anghyfreithlon fe ellir dosbarthu pob rhyw chwarae creulon, hapchwarae, a phob math o gamblo. Hyd yn hyn, nid yw pawb wedi eu hargyhoeddi bod chwarae pêl droed, hyd yn oed yn y modd gerwin yr ydys yn ei chwarae yn y wlad hon, yn chwarae creulon; ond y mae pob cenedl dramor yn barnu ei fod yn chwarae anifeilaidd a darostyngol iawn, a'i fod yn fwy cyfaddas i fagu milwyr nag i fagu dynion; ac yn y dyddiau hyn y mae llawer o ddynion gorau Prydain yn dechrau edrych arno fel y mae cenhedloedd eraill yn edrych arno. Rhag ichwi feddwl mai pregethwyr culfarn sy'n dywedyd yn ei erbyn, a hynny mewn rhyw bapurach crefyddol fel y Gadlef a'r British Weekly, gwrandewch beth o'r hyn a ddywedodd Mr. Ernest Ensor amdano yn y Contemporary Review: "The system is bad for the players, worse for the spectators. The former learn improvident habits, become vastly conceited, whilst failing to see that they are treated like chattels, and cannot help but be brutalised. The latter are injured physically and morally. Out of every twenty thousand people who watch football matches every Saturday, many must catch colds or worse. Football, in short, is destroying the physique of the manufacturing population." Gan hynny, y mae pob pregethwr a gondemnio chwarae pêl droed, yn enwedig pan fo'r chwarae hwnnw yn un cystadleuol, yn cydsefyll â rhai o leygwyr mwyaf goleuedig y deyrnas, ac â phlaid sy'n cynyddu bob dydd.
Ond wrth gondemnio chwarae pêl droed, a chwaraeon eraill a'r sydd yn ffyrnigo'r chwaraewyr, fe fyddai'n ddoeth eu hannog i droi'n ôl at chwaraeon mwy diniwed a llawenhaol oedd ar arfer yng Nghymru pan oeddwn i ac eraill yn blant, neu ynteu at yr ymarfer corfforol hwnnw oedd yn rhan o addysg yr hen Roegiaid. Un achos paham y mae plant y Cyfandir gymaint llawenach ac addfwynach na phlant y wlad hon ydyw am eu bod hwy'n disgyblu eu cyrff trwy fabolgampau, ac nid trwy chwaryddiaethau afrywiog.
Am yr ail ddosbarth o chwaraeon, nid ydynt hwy yn anghyfreithlon ynddynt eu hunain. Anweddus ydynt i rai; ac y maent yn anweddus yn unig oherwydd rhyw, neu oedran, neu sefyllfa'r chwaraewyr. Gan na ellir barnu'r chwaraewyr hyn wrth yr un a'r unrhyw reol, fe ddylid apelio'n arbennig at eu cydwybod a'u rheswm hwy eu hunain, neu'n hytrach at y chweched synnwyr hwnnw a eilw'r Saeson yn sense of propriety.
Ond heblaw difyrrwch anghyfreithlon a difyrrwch anweddus, y mae difyrrwch cyfreithlon; ac mewn un ffordd y gall dyn bechu wrth ymarfer â difyrrwch cyfreithlon, sef trwy ymddifyrru'n anghymedrol; ac yr wyf i'n credu bod llawer mwy'n pechu wrth ymroddi i ddifyrrwch cyfreithlon nag wrth ymroddi i ddifyrrwch anghyfreithlon. Y mae rhodli, sef ymddifyrru mewn teithio ar rodlau neu fisyclau, yn ddifyrrwch digon gweddus, am a wn i, os paid dyn â rhodli mewn ystum rhy anurddasol, ac mewn gwisg rhy goegaidd; a hwyrach y daw'r amser rywbryd, pan fydd hi'n weddus i ferched farchogaeth arnynt yn null meibion, ac yn weddus i bregethwyr go ieuainc fyned i'w cyhoeddiad arnynt. Beth bynnag am hynny, y mae'n ddiau y cytuna pob dyn ystyriol â mi wrth ddywedyd bod miloedd o Gymry o bob rhyw ac oedran yn treulio gormod o'u hamser o lawer ar olwynion. Yn wir, y mae'r difyrrwch hwn wedi myned yn gymaint o gynddaredd mewn rhai gwledydd fel y mae o wedi peri mwy o niwed na dim arall i werthwyr llyfrau. Yn ôl tystiolaeth y rhain, a cheidwaid y llyfrfeydd cyhoeddus, ni bu ym Mhrydain a Ffrainc ers ys talm hir gyn lleied o ddarllen ar lyfrau da ag sydd yn y blynyddoedd hyn. Yr un ffunud, ofer fyddai annog aelodau ein heglwysi i beidio ag edrych byth ar newyddiadur, yn ôl esiampl Benjamin Disraeli, A. J. Balfour, ac eraill; ond yn sicr, fe ellir eu hannog i ddarllen llai o lawer ar bapurau nag ar lyfrau, a llai ar ffugchwedlau nag ar lyfrau hanesyddol—heb sôn am lyfrau crefyddol.
Ofer hefyd fyddai annog ieuenctid ac eraill i beidio â myned o gwbl i'r mân gyfarfodydd canu a'r mân gyfarfodydd siarad sydd erbyn hyn mor aml yn ein gwlad; ymfoddloner yn hytrach ar eu dysgu i ddeisyfu'r doniau gorau mewn canu a thraethu. Ni byddai'n wiw dywedyd wrthynt na ddylent fyned un amser i gwmnïau llawen; er hynny, fe ddylid dysgu y dylai pob dyn roi mwy o amser i ymddiddan â'i galon ei hun nag i ymddiddan â neb arall.
Fe ddylid eu hargyhoeddi y dylent roi llai hyd yn oed o'u hamser hamddenol i ymddifyrru nag i ymberffeithio mewn deall, dysg, a rhinwedd. Fe ddylid dangos nad ydyw hir ddifyrrwch ddim yn wir ddifyrrwch; fod difyrrwch yn peidio â bod yn ddifyrrwch pan droer ef yn waith, neu pan ddilyner ef er ei fwyn ei hun; ac na ddylai difyrrwch ar y gorau fod yn ddim amgen nag ymorffwysiad oddi wrth waith ac ymadnewyddiad i waith; mai niweidiol yw pob rhyw ddifyrrwch a baro i ddyn ddiflasu ar ei ddyletswyddau tuag ato'i hun, tuag at ei gyd-ddynion, tuag at Dduw, a thuag at eglwys Dduw. Dangoser y dylai difyrrwch, o ran ei fath a'i fesur, fod yn gyfaddas i alwedigaeth neu orchwylion cyffredin dyn. Er enghraifft, os bydd dyn yn gweithio â'i gorff yn ystod y dydd, ni raid i hwnnw wrth ymarfer corfforol ar ôl cadw noswyl. Os bydd gorfod i lanc gymdeithasu llawer ag anifeiliaid yn y maes, y stabl a'r beudy, y mae'n ofynnol i hwnnw gymdeithasu cryn lawer â dynion yn y tŷ, y neuadd a'r capel, rhag bod arno fwy o arogl anifail nag o arogl dyn. Gan fod y siopwr tra bo yn y siop yn gweled mwy o ddynion nag o lyfrau, fe ddylai hwnnw ar ôl noswylio weled mwy o lyfrau nag o ddynion, rhag i'w ymadroddion yn y cyfarfod athrawon neu'r cyfarfod gweddïo fod yn rhy siopyddol. Pob un nad yw'n darllen llenyddiaeth drom liw dydd, nid oes achos i hwnnw ddarllen llenyddiaeth ysgafn liw nos. Ag un darn o'r ymennydd y mae'r rhan fwyaf o ddynion yn gweithio wrth ymarfer â'u galwedigaeth; ac am hynny ni all y rheini ymddifyrru'n well na thrwy weithio â rhannau eraill eu hymennydd pa bryd bynnag y caffont hamdden.
Gan nad yw llawer o aelodau'n heglwysi yn ddigon grasol i brisio rhesymau crefyddol, buddiol fyddai dangos iddynt fod y gormod chwarae sy'n y wlad hon yn niweidiol i'w masnach hi, a hynny am ei fod yn dylanwadu'n niweidiol ar ddealltwriaeth ei thrigolion. Yr amser y mae llanciau Prydain yn ei dreulio i chwarae pêl droed, y mae llanciau'r Almaen yn ei brynu i astudio ieithoedd, llenyddiaeth a hanes cenhedloedd eraill; am hynny, hwynt—hwy ydyw'r teithwyr masnachol mwyaf llwyddiannus mewn gwledydd estronol. Ie, hwynt—hwy sy'n cael y lleoedd anrhydeddusaf yn swyddfeydd Prydain ei hun. Pan fydd ar olygydd gwyddoniadur Saesneg eisiau erthyglau gwell na'r cyffredin ar ddiwinyddiaeth ac athroniaeth, rhaid iddo ddanfon amdanynt i'r Almaen, i Holand, ac i'r Yswisdir, am fod dysgedigion y wlad hon wedi colli gormod o'u hamser i chwarae yn Rugby a Rhydychen i allu ymdrin â phynciau dwfn a dyrys. Er y cwbl, y mae gan y Saeson well esgus am fod yn chwaraegar nag sy gan y Cymry, am eu bod hwy yn gyfoethocach.
Er ei bod yn angenrheidiol ambell waith lefaru'n eglur ac yn benodol am ddifyrion a chamarferion eraill yr oes, eto, y peth gorau fel rheol yw dyrchafu meddyliau dynion at yr hyn sydd uchel a phur; eu dwyn i gymdeithas Mab y Dyn, dyn y dynion, a'r gŵr bonheddig perffeithiaf a sangodd y ddaear; eu dwyn i weled gwerth eu heneidiau eu hunain, a gwerth yr ychydig amser a roddwyd iddynt ar y ddaear i ddarparu ar gyfer y . . . [Y diwedd ar goll.]