Neidio i'r cynnwys

Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III/Pregeth

Oddi ar Wicidestun
Gweddi wrth Fwrdd y Cymun Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III

gan Robert Ambrose Jones (Emrys ap Iwan)

Y Tlawd a'r Cyfoethog

PREGETH

A'i ddisgyblion a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Rabbi, pwy a bechodd, ai hwn, ai ei rieni, fel y genid ef yn ddall?
Yr Iesu a atebodd, Nid hwn a bechodd, na'i rieni chwaith: eithr fel yr amlygid gweithredoedd Duw ynddo ef. —Ioan ix 2-3.

Fel meddyg y dangosir yr Iesu yng nghorff y bennod hon; ond fel rabbi neu athro y dangosir o allan yn y testun. Yr oedd o'n ddoethor neu ddoctor yn nau ystyr y gair, oblegid fe'i hanfonwyd o'r nef, ac fe'i breintiwyd gan y nef, i ddysgu ac i iacháu. A gwnaeth hyn mor effeithiol fel yr enillodd o'r un teitlau ar y ddaear hefyd, canys y bobl yn ei wlad ei hun a'i cyfrifai'n broffwyd, a chydnabyddai hyd yn oed ei elynion ei fod yn feddyg da i bawb ond iddo'i hun.

Fel athro yn bennaf y gweinyddai fo'r swydd broffwydol, sef trwy holi ac ateb—trwy ateb yn hytrach, oblegid anfynych y byddai Iesu Grist, nac un athro da arall yng ngwledydd y Dwyrain yn holi eraill oddieithr er mwyn codi awydd ynddynt hwy i'w holi ef. Ateb, ac nid holi, ydyw gwaith priodol athro, a thuag at gael cyfleustra i ateb rhaid iddo ymegnïo i fagu ysbryd holgar a chwilgar yn ei ddisgyblion, a thuag at fedru ateb ar ôl cael ohono gyfleustra rhaid iddo wrth fesur mawr o wybodaeth a barn.

Nid yw ryfedd yn y byd fod yr Ysgolion Sabothol a'r ysgolion beunyddiol yn y wlad hon yn gadael y rhan fwyaf o'r plant mor anneallus, canys y mae'r dull y cyfrennir addysg ynddynt yn hollol annaturiol, am ei fod yn trosglwyddo gwaith yr athro i'r disgybl, a gwaith y disgybl i'r athro. Y mae holi dosbarth yn yr Ysgol Sul, neu holi'r ysgol yn gyffredinol, yn burion peth ambell dro i brofi gwybodaeth y dosbarth hwnnw, neu'r ysgol honno, ond peidied neb â meddwl bod honno'n ffordd dda i gyfrannu gwybodaeth. Trwy ateb ac ateb fel Iesu Grist y gall athro gyfrannu gwybodaeth yn y modd gorau, a thrwy holi a holi fel y disgyblion y gall aelodau'i ddosbarth ennill gwybodaeth.

Amled yn yr Efengylau y ceir y ddau ymadrodd sydd yn y testun: "A'i ddisgyblion a ofynasant iddo,' "A'r Iesu a atebodd." Oherwydd eu parodrwydd i ofyn i'r Iesu am oleuni ar bob peth oedd yn dywyll iddynt yr oedd yn hawdd iddynt ofyn ambell gwestiwn a ymddengys i ni'n blentynnaidd, ond y mae gwerth yr atebiad a roddid iddynt yn ei gwneud hi'n hawdd inni ddygymod â phlentyneiddiwch y gofyniad. Ac yn wir, yr oedd yn fuddiolach iddynt hwy eu hunain. ofyn rhyw fath o gwestiwn na bod yn ddistaw, canys am na bu'n gywilydd ganddynt fod cyhyd yn blant oran eu gostyngeiddrwydd a'u chwilfrydigrwydd yr aethant yn y man yn gymaint o dynion mewn gwybodaeth. Y mae'n anodd dyfalu pa beth a'u cymhellodd i ofyn am ddyn dall o'i enedigaeth: "Ai hwn a bechodd fel y genid ef yn ddall" Ai'n ddifeddwl y gofynasant hynny, ai meddwl yr oeddynt y gallai o bechu cyn ei eni, ai ynteu y gallai fod Duw wedi ei gosbi ymlaenllaw am bechod a wnâi o ar ôl myned i oedran gŵr? Ond er bod y gofyniad yn dyfod naill ai o anfeddylgarwch neu o gamsyniad, y mae'r ateb iddo yn cynnwys gwirionedd pwysig, sef nad yw pob drwg neilltuol a ddelo ar ddyn ddim yn ganlyniad uniongyrchol drwg neilltuol a fyddo mewn dyn.

"Ai ei rieni a bechodd?" ebe'r disgyblion drachefn. Er mai ateb negyddol a roes yr Iesu i'r gofyniad hwn hefyd, eto yr oedd hwn yn un digon rhesymol ynddo'i hun. Er bod yr Iesu'n cyhoeddi bod pob un o ddau ddyfaliad y disgyblion yn anghywir am y dioddefydd neilltuol hwn, eto nid yw o'n cyhoeddi bod eu dyfaliadau yn anghywir am bob dioddefydd, oblegid y mae'r ddau beth a wadodd o am y dyn dall yn wir am lawer o ddynion eraill. Byddai'n wir dywedyd am lawer dioddefydd hwn a bechodd. Byddai'n wir dywedyd am ambell ddioddefydd: ei rieni a bechodd; a byddai'n wir dywedyd am ddioddefydd arall: nid hwn a bechodd na'i rieni chwaith, eithr fel yr amlygid gweithredoedd Duw ynddo ef. Y mae pob un o'r tri haeriad yn wir, er nad oes un ohonynt yn wir cyffredinol.

Dyma'r tri gwirionedd y sylwaf ychydig arnynt:

Yn gyntaf, Fod dyn yn dioddef weithiau o'i achos ei hun.

Yn ail, Fod dyn yn dioddef weithiau o achos eraill.

Yn drydydd, Fod dyn yn dioddef weithiau, nid o'i achos ei hun, nac o achos eraill, ond er mwyn gogoniant Duw.

Yn gyntaf, Fod dyn yn dioddef weithiau o'i achos ei hun. Y mae hyn yn wirionedd mor amlwg fel na raid ymdroi nemor i'w gadarnhau, canys y mae profiad pob dyn yn dangos iddo ddioddef rywbryd, naill ai yn ei gorff neu yn ei ysbryd, nid yn unig mewn canlyniad i bechod cyffredinol y ddynoliaeth, ond hefyd mewn canlyniad i ryw bechod neilltuol y bu ef yn euog ohono. Y mae rhai cosbedigaethau yn canlyn eu priodol bechodau mor rheolaidd, ac weithiau mor uniongyrchol hefyd, fel y mae'r berthynas sy rhyngddynt a'i gilydd yn amlwg i bawb. I bwy y mae llygaid cochion? Nid i bob un o blant Adda—nid i bawb a'r a bechasant yn ôl cyffelybiaeth ei gamwedd ef, ond i'r neb sydd yn aros wrth y gwin. Y gwin coch a yfaist ti yn anghymedrol, ac nid yr afal coch a fwytaodd ein rhieni cyntaf a gochodd dy lygaid.

Y mae brathiad y ddraig fawr a phigiad yr hen sarff yn poeni pob dyn, ond y mae gan y gwin coch ei frathiad ei hun; y mae gan y gwin cymysgedig ei bigiad neilltuol ei hun. Rhaid iti ymwthio i ryw ddyrysgoed nad anturiodd Adda iddynt i gyfarfod ag ambell sarff. Rhaid iti grwydro i ryw lannerch fwsoglyd nad adnabu traed Efa moni i daro wrth ambell neidr.

Y mae meibion Adda wrth chwanegu pechod ar bechod yn amlhau eu cosbedigaethau. Er bod ambell bechod yn dwyn ei ffrwyth ei hun yn dra diweddar, eto pan ddelo'r gosbedigaeth, nid yw ei diweddarwch yn ein rhwystro i weled ei bod yn ganlyniad rhyw bechod neilltuol. Yr ydym yn cofio'r fellten pan glywom y daran; y mae'n gof gennym mae'n gof gennym weled y mwg a'r tân yn rhuthro o ffroen y fagnel pan gyrhaeddo sŵn yr ergyd hyd atom. Yr wyf yn cofio fy meiau heddiw, ebe'r pechadur. A phaham heddiw? Am dy fod yn gwneuthur imi feddiannu—imi etifeddu camweddau fy ieuenctid. Rhaid i natur gael dial ei cham ar y neb a'i troseddo; am hynny nid yw hi'n arbed llawer un a wnaed gan Dduw yn etifedd bywyd tragwyddol rhag bod yn etifedd ei gamweddau ar yr un pryd. "Na chofia bechod fy ieuenctid na'm camweddau," ebe Dafydd. Cofia yn hytrach dy dosturiaethau a'th drugareddau; canys erioed y maent hwy. Maddau fy hen bechodau er mwyn trugareddau sy'n llawer hŷn. Gwnaf, medd Duw o'r nef yn eglur. Ni chofiaf i mo'th bechodau yn fy ffordd i o gofio; ond fe a'u cofia natur yn ei ffordd hi.

Ychydig mewn cymhariaeth o'r drygau sy'n dyfod arnom a allwn ni eu holrhain i'r drygau a wnaethom; ond y mae'n bod yn gallu cysylltu ambell ddioddefaint â phechod neilltuol yn dangos y gall fod cysylltiad rhwng llawer o ddioddefiadau eraill a phechodau neilltuol, ond ein bod ni'n analluog i'w ganfod. Oni chlywsom rai rhieni yn cwyno yn rhithgrefyddol iawn o achos y blinder a gânt oddi wrth eu plant pan y mae'n amlwg i ni fod y blinder hwnnw yn ffrwyth naturiol eu hesgeulustra hwy.

Mewn ambell adfyd y mae calon dyn ei hun yn ei gondemnio am yr anwiredd a ŵyr ef, pan fydd ei gymdogion ond odid yn gofyn yn synedig: "Pwy a bechodd, a'i hwn ai ei rieni" fel y byddai ef yn y fath adfyd. Ond mwy yw Duw na'r galon, ac Ef a ŵyr bob peth. Canlyniad naturiol pechod yn ei olwg Ef ydyw llawer dioddefaint a ymddengys i ni yn ddamwain ac yn anffawd. Llawer dioddefaint, meddaf, ac nid pob dioddefaint, oblegid y mae gwirionedd arall yn bod, sef

Yn ail, Fod dyn yn dioddef weithiau o achos eraill.

Ond a ydyw hyn yn gyfiawn? Ydyw, tra na byddo dyn yn dioddef o achos eraill fwy nag y mae o'n haeddu ei ddioddef o'i achos ei hun, ac nid oes un dyn ar dir i ddywedyd ei fod yn dioddef mwy na'i haeddiant yn y byd hwn; canys cyflog pechod—cyflog llawn pechod pob dyn yw marwolaeth. Paham gan hynny y grwgnach dyn byw?

Pan oedd angel yr Arglwydd ar ôl difetha eisoes ddeng mil a thrigain o feibion Israel yn estyn ei gleddyf tua'r ddinas santaidd i ddinistrio'i thrigolion hithau o achos i Ddafydd rifo'r bobl, fe ddywedodd y brenin wrth Dduw, "Onid myfi a ddywedais am gyfrif y bobl, ac a wneuthum fawr ddrwg, ond y defaid hyn, beth a wnaethant hwy? Fy Arglwydd Dduw, bydded dy law, atolwg, arnaf i, ac ar dŷ fy nhad."

Y mae'n wir mai o achos drygioni Dafydd y lladdwyd cynifer o'r bobl, ond nid defaid diniwed oeddynt hwy chwaith. Os oeddynt yn ddieuog o bechod neilltuol brenin, yr oeddynt yn euog o lawer pechod oedd yn haeddu marwolaeth, ac am hynny yr oedd yn gyfiawn i Dduw daro'r brenin trwy eu taro hwy, canys ni allesid yn effeithiolach gosbi brenin oedd yn ymfalchïo yn rhifedi ei bobl na thrwy leihau eu rhifedi. Fel na ellir taro tad yn drymach na thrwy gymryd ymaith ei blant, felly ni ellir taro brenin yn drymach na thrwy gymryd ymaith ei ddeiliaid.

Pwy a bechodd ai hwn ai ei rieni fel yr ymlidid y gwrid o'i fochau gan welwder marwolaeth ddisymwth? Nid hwn a bechodd, er ei fod yn bechadur. Fe ddichon mai ei rieni a bechodd. Pwy a bechodd, ai hwn ai ei rieni, fel y genid ef yn nychlyd ac yn anafus? Os pechodd rhywun, ei rieni a bechodd neu rieni ei rieni. Dyna a ddywed astudwyr natur yn bendant, a dyna a ddywed Duw natur hefyd weithiau. "Y tadau a fwytasant rawnwin surion, ac ar ddannedd y plant y mae dincod." Ein tadau, medd y proffwydi, a bechasant, ac nid ydynt, a ninnau sy'n dwyn eu cosb hwynt.

Ond os yw Duw ôl trefn natur yn ymweled ag anwiredd y tadau ar y plant hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth o'r rhai a'i casânt, y mae Ef, yn ôl trefn gras yn gwneuthur trugaredd i filoedd, neu hyd fil o genhedlaethau o'r rhai a'i carant. Y mae trugaredd wedi'r cwbl yn gorfoleddu yn erbyn barn.

Gellir casglu oddi wrth waith Iddewon yn dweud wrth y dyn a gawsai ei olwg: "Mewn pechodau y ganwyd ti oll," eu bod hwy yn priodoli ei ddallineb i'w rieni. Y mae'n wir eu bod hwy'n cyfeiliorni yn yr achos neilltuol hwn; ond nid oeddynt yn cyfeiliorni wrth farnu y gallai dyn ddioddef yn ei gorff, ac yn ei enaid hefyd, o achos camwedd ei rieni; canys y mae'n naturiol i blant etifeddu pechod eu rhieni ac etifeddu eu cosb hefyd.

Y mae'r ddeddf hon mor fuddiol ag ydyw hi o naturiol, canys oni bai amdani hi, fe fyddai'n haws fyth gan ieuenctid anystyriol ymgymryd â'r cyfrifoldeb ofnadwy o fagu plant, ac fe fyddai llawer o rieni yn fwy esgeulus nag ydynt i hyfforddi eu plant yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. Gwae i lanc annuwiol yn y Farn, ond gwae ar wae i rieni annuwiol.

Ac nid plant yn unig sy'n dioddef o achos pechodau rhai eraill. Y mae cysylltiad lleol y naill ddyn â'r llall yn ei wneud yn agored i'r un anffawd. Mynych y bydd y cyfiawn yn cyfranogi o aflwydd ei gymydog anghyfiawn. Bydd yr haint a gafodd lety cymwys mewn tŷ aflan yn ymweled â'r tŷ glân sydd yn ei ymyl. Y mae gwledydd o fath Poland, Iwerddon, a'r India, yn ymboeni gan ddrygfyd ac anniddigrwydd oblegid eu cysylltiad gorfodol â gwledydd gormesol.

Ond y mae rhai dynion yn dioddef oblegid eraill mewn ystyr uwch na'r ystyr yr ydys newydd grybwyll amdano, sef er mwyn cyd-ddioddef â nhw. Y mae hwn yn ddioddefaint gwirfoddol, ac am hynny, yn un rhagorol ynddo'i hun, heblaw ei fod yn rhagorol yn ei amcan. Y mae'r neb a ddioddefo er mwyn ysgafnhau dioddefaint eraill yn ail-fyw bywyd yr Iesu, ac fe all trueiniaid yn briodol ddywedyd am y cyfryw un: "Efe a gymerth ein gwendid ni, ac a ddug ein doluriau." Yn ein holl gystudd ni, yntau a gystuddiwyd.

Y mae dioddef yn ymostyngar o achos eraill yn beth mawr; ond y mae dioddef yn llawen er mwyn eraill yn beth mwy o lawer.

Eithr fel y gallom ddeall yn well ffyrdd Duw tuag at ddynion, y mae Iesu Grist yn y testun yn datguddio gwirionedd arall mwy cysurol na'r ddau flaenorol, sef yn drydydd—Fod dyn yn dioddef weithiau, nid o'i achos ei hun, nac o achos eraill, ond er mwyn gogoniant Duw. "Nid hwn a bechodd, na'i rieni chwaith, eithr fel yr amlygid gweithredoedd Duw ynddo."

Fe a bechodd ef yn ddiau, ac fe bechodd ei rieni hefyd; ond dweud y mae'r Iesu nad oes dim cysylltiad rhwng unrhyw bechod personol neu deuluol, â dallineb y truan hwn. Dallineb â diben iddo, ac nid dallineb ag achos iddo, oedd ei ddallineb ef, a'r diben oedd amlygu ynddo fo y ddwy weithred a oedd hyd hynny yn guddiedig yng nghynllun Duw, a thrwy y rhai y gogoneddid Ef yn ei Fab Iesu, sef agoryd llygaid corff y dall ac agoryd llygaid ei feddwl hefyd.

Cadarnhau hen wirionedd a ddatguddiesid o'r blaen, ac nid datguddio gwirionedd newydd oedd yr Iesu wrth ddweud bod ambell ddyn yn dioddef yn ddiachos, ac yr oedd yn rhyfeddod fod yr Iddewan a disgyblion heb ganfod y gwirionedd hwnnw yn llyfr Job.

Hawdd y gallasai'r Iesu ddywedyd wrthynt, "Oni

ddarllenasoch chwi yr Ysgrythur hon: 'A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Satan, "A ddeliaist ti ar fy ngwas Job, nad oes gyffelyb iddo ar wyneb y ddaear, yn ŵr perffaith ac uniawn yn ofni Duw, ac yn cilio oddi wrth ddrygioni," ac yn parhau yn ei berffeithrwydd er i ti fy annog i yn ei erbyn ef i'w ddifa heb achos. " Dyma ddyn y tystiolaethai Duw amdano ei fod mor berffaith ag y disgwylir i ddyn pechadurus fod, a dyn na feiddiodd Satan ei hun, er mor feiddgar ydyw, ddim gwadu'r dystiolaeth a dystiolaethwyd amdano, yn dioddef, ac yn dioddef heb ddim achos ynddo'i hun.

Os oedd achos i'r cystudd, yn y temtiwr, ac nid yn y temtiedig yr oedd o; canys yr oedd y diafol wedi edliw wrth Dduw nad heb achos yr oedd Job yn gyfryw ddyn ag oedd o. "Ai yn ddiachos," eb ef, "y mae Job yn ofni Duw; oni chaeaist o'i amgylch ef, ac o amgylch ei dŷ, ac ynghylch yr hyn oll sydd eiddo oddi amgylch? ti a fendithiaist waith ei ddwylaw ef, a'i dda ef a gynyddodd ar y ddaear; eithr estyn yn awr dy law, a chyffwrdd â'r hyn oll sy ganddo, ac efe a'th felldithia o flaen dy wyneb." Dyma ystyr yr haeriad mewn geiriau eraill: Nid er dy fwyn dy hun y mae Job yn dy garu, ond er mwyn y rhoddion a gafodd o gennyt.

Yr oedd hyn yn wirioneddol yn fwy o gyhuddiad yn erbyn Duw nag yn erbyn Job, oblegid yr oedd o'n awgrymu nad oes yn Nuw ddigon o hawddgarwch i beri i'w bobl ei garu er ei fwyn ei hun. Yr oedd y cyhuddiad, gan hynny, yn ergyd at anrhydedd Duw, canys nid anrhydeddir neb ond i'r graddau y cerir ef er ei fwyn ei hun. Yn awr, y mae Duw weithiau, er mwyn amddiffyn ei anrhydedd yn y ffordd fwyaf effeithiol, yn derbyn her y diafol. Wele fy rhai annwyl yn dy law, eb Ef. Cymer oddi arnynt bopeth ond eu heinioes. Dwg ymaith eu hiechyd, eu heiddo, a'u perthnasau, megis ag un ergyd, a chei weled y'm gogoneddant i ynghanol eu gorthrymderau, ac y'm bendithiant yn y lludw. Y mae gennyf i ymddiried yn fy mhobl, a chei weled cyn diwedd y praw fod ganddynt hwythau ymddiried ynof innau.

Chwi, saint y Goruchaf, gwelwch na siomer Duw ynoch, rhag gorfoleddu o'r gelyn. Dangoswch trwy eich amynedd a'ch ymostyngiad fod Duw yn eirwir, a bod y diafol yn gelwyddog. Dangoswch i gyhuddwr mawr y brodyr eich bod yn gweled digon o hawddgarwch yn eich Duw i beri ichwi ei garu er ei fwyn ei hun. Ymgodwch i'r tir yr oedd Job ynddo pan ddywedodd o: "A dderbyniwn ni gan Dduw yr hyn sydd dda; ac oni dderbyniwn yr hyn sydd ddrwg?" Diau eich bod yn dioddef weithiau heb wybod am ba achos nac i ba ddiben yr ydych yn dioddef. Os felly, cyfrifwch eich bod yn dioddef o achos diafol, ac er mwyn Duw.

Rhwng Duw ac yntau y mae'r ymrafael, ac nid rhwng Duw a chwi, pan ddywed eich cydwybod wrthych eich bod yn dioddef megis heb achos. Am hynny cyfrifwch eich cystudd yn gyfleustra a roddir ichwi i ddial anrhydedd eich Achubwr ar elyn eich enaid. Ond cyngor anodd i'w wneuthur ydyw hwn hefyd, canys pa sawl sant sydd yma yn foddlon i golli ei iechyd, ac i golli'r hyn oll sydd werthfawr ganddo er mwyn gogoniant Duw? A adewch chwi i Dduw amlygu ei weithredoedd ynoch trwy orchfygu Satan yn eich corff, ac yn eich ysbryd chwi'ch hunain? Os gwnewch, chwi fyddwch yn wroniaid yng ngolwg Duw yn wroniaid yn yr ystyr uchaf a santeiddiaf. Fe all Duw lethu ei elyn heboch chwi, ond trwy oddef ohonoch yn amyneddgar y prawf a rydd o arnoch y gall o'i orchfygu'n deg, a gosod taw effeithiol arno. O enau plant bychain, ebe'r Salmydd, y peraist nerth i orchfygu'r gelyn a'r ymddialydd.

Os oes neb yn dioddef yn ôl ewyllys Duw ac er mwyn gogoniant Duw, cofied fod ei ddioddefaint yn rhodd Duw mor wirioneddol ag y mae ffydd felly, a'i fod hefyd yn arwydd cael ohono ffafr yng ngolwg yr Arglwydd. Nid pob Cristion sy'n ddigon teilwng i ddioddef yn yr ystyr yma, sef er mwyn enw ac anrhydedd y personau dwyfol. Ni byddai'n ddiogel i Dduw ymddiried ei enw i ambell un—byddai perygl iddo fyned yn ysbail i ddiafol. Ni fedrai Doré na Munkacsy nac un paentiwr arall ddarlunio'r llawenydd nefol a oedd yn goleuo wyneb yr apostolion y diwrnod y cawsant eu cyfrif yn deilwng i ddioddef amarch o achos ei enw ef.

Na ddioddefed neb fel lleidr neu ddrwgweithredwr, ond os fel Cristion, na fydded gywilydd ganddo yn hyn o ran. Caiff y Cristion ddigon o gyfleustra i ogoneddu Duw trwy ei foli yn y nefoedd; ond yn y byd hwn yn unig y caiff o gyfleustra i'w ogoneddu trwy ddioddef.

Byddai'n haws i'r dyn perffaith ac union ddioddef yn dawel ped ystyriai fo mai dioddef y mae o cr mwyn yr Hwn a ddioddefodd fwy o lawer drosto ef. "Ni wrthwynebasoch chwi eto hyd at waed, gan ymdrech yn erbyn pechod," ond fe ddioddefodd Ef hyd ac waed.

Edrychwch ar Iesu, yr hwn yn lle'r llawenydd a osodwyd iddo—yr Hwn, er mwyn y gogoniant a ddaliwyd o'i flaen, a ddioddefodd y groes, gan ddiystyru gwaradwydd—gan waradwyddo gwaradwydd ei hun. Gogoniant a roddwyd iddo'n gyfnewid am ei ddioddefaint ydyw ei ogoniant cyfryngol; a phob peth a roddwyd iddo—pob peth a enillwyd ganddo trwy eithaf chwys gwaed, y mae ganddo awdurdod i'w roddi i eraill. Y mae o mor rhwydd ei galon, ac mor agored ei law fel na fedr o gadw iddo'i hun ddim y mae ar ei law ei roddi. Braidd na ellir dweud ei fod megis yn afradloni ei dda. Y mae o'n ewyllysio rhannu. ei ogoniant i bawb a fu'n gyfrannog o'i ddioddefiadau. Pwy bynnag sy'n cyflawni'r hyn sy'n ôl o gystuddiau Crist, fe gyflawnir hwnnw â'i ogoniant ef. Pwy bynnag sy'n cylcharwain yn y corff farweiddiad yr Arglwydd Iesu, fe gaiff hwnnw gyfranogi o'i fywyd ef. Pwy bynnag sy'n dwyn yn ei gorff nodau yr Arglwydd Iesu, neu'n dwyn yn ei ysbryd gleisiau rhyw ail Golgotha, fe gaiff hwnnw wisgo ar ei fynwes y seren arian ar groes aur i ddangos mai ym mrwydrau'i Dywysog, ac nid yn ei frwydrau'i hun, y cafodd o'i greithiau.

Nid yw milwr da i Iesu Grist yn foddlon ar brofi grym ei atgyfodiad ef heb gael yn gyntaf gymdeithas ei ddioddefiadau ef, a chael ei gydffurfio â'i farwolaeth ef. Ni byddai'n wiw gan y cyfryw un gychwyn i'r nef oddi ar ben y maen treigledig neu oddi ar ben mynydd yr Olewydd. Y mae mor hyfryd ganddo gymdeithas yr Iesu fel y mae o'n mynnu cychwyn gydag ef i'w ogoniant o ymyl Bethlem. Y mae o'n cael rhyw hyfrydwch trist wrth ymdroi gydag ef yn y diffeithwch erchyll, ac yng Ngethsemane dywyll. Y mae o'n ewyllysio marw gydag ef, a chael ei gladdu gydag ef, ac nid oes eisiau dweud ei fod yn barod iawn i gydgyfodi ag ef, i gydesgyn ac i gyd-fyw ag ef yn dragwyddol, er mwyn cyfranogi o'i ogoniant.

Ac os oes i Grist ogoniant na ddichon o mo'i roddi i arall, fe gaiff ei ddisgyblion weled hwnnw, a bydd gweled y mawr ragorol ogoniant a oedd iddo cyn bod y byd yn ddigon i beri iddynt anghofio eu holl ofidiau ar y ddaear.

Nerthed Duw ni i gyd-ddioddef, os bydd raid, â Christ, fel y'n cydogonedder hefyd.

Nodiadau

[golygu]