Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III/Rhagair i'r Ysgrif Gyntaf
| ← Rhagymadrodd | Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III gan Robert Ambrose Jones (Emrys ap Iwan) |
Cyfraith Moses, a'r Proffwydi, a'r Salmau → |
RHAGAIR I'R YSGRIF GYNTAF
GAN BLEDDYN JONES-ROBERTS
Fe gaiff y darllenydd ifanc ei synnu wrth ddarllen yr ysgrif gyntaf yn y gyfres hon. Diau y dywaid ynddo'i hun mai Emrys ap Iwan ydoedd yr arloeswr yng Nghymru ar fater y feirniadaeth hanesyddol a'i lle yn niwinyddiaeth ein pobl. Ond nid cywir hynny. Fe gofia'r rhai hŷn mor danbaid ac eiddgar yr ymleddid trosti ac yn ei herbyn yn niwedd y ganrif ddiwethaf. Yn 1898, blwyddyn cyhoeddi ysgrif Emrys, rhoddwyd y radd D.D. gan Brifysgol Cymru i'r Prifathro T. C. Edwards, ac fe erys ei esboniad ef ar y Corinthiaid hyd heddiw yn un o glasuron beirniadaeth "fodern." Hefyd yn 1898 y dechreuwyd cyhoeddi'r Hastings' Dictionary of the Bible o'r un safbwynt, ac fe erys hwn i raddau pell yn safonol. Fe gafodd cystal derbyniad yng Nghymru â chan unrhyw wlad; "gwaith godidog," meddai adolygydd yn y Traethodydd, "y mae pob gair a ysgrifennir gan ddynion fel A. B. Davidson, S. R. Driver, a H. B. Swete, yn sicr o feddu rhyw swyn i feddwl pob efrydydd manwl o'r Beibl yn y dyddiau hyn." Yn 1899 fe gyhoeddodd y Traethodydd ysgrif hir ac ysgolheigaidd "Dr. Fritz Hommel a'r Uwchfeirniaid," ac felly ymlaen. Nodaf y pethau hyn o blith llawer yn unig i rybuddio'r darllenydd y geill feddwl yn anghywir am gyflwr diwinyddiaeth Cymru yn niwedd y ganrif ddiwethaf os cred fod pawb yn haeddu'r cerydd a rydd Emrys ap Iwan. Hefyd dylid dweud nad ar ochr Emrys oedd y doniau i gyd. Meddyliwn wrth ddarllen yr ysgrif, am ddwy erthygl yn pleidio'n wahanol a gyhoeddwyd yn y Drysorfa yn 1898 gan Cynddylan Jones, yntau hefyd yn eithaf pencampwr.
Hyd y gwelaf i, seilia Emrys ap Iwan y rhan fwyaf o'r ysgrif ar lyfr enwog a hynod ddiddorol gan W. Robertson Smith, o'r enw The Old Testament in the Jewish Church. Fe'i cyhoeddwyd gyntaf yn 1881, ond yr ail argraffiad, yn 1892, sydd fwyaf adnabyddus ar silffoedd gweinidogion a siopau llyfrau ail-law. Ac y mae'r llyfr wedi dal ei dir yn rhyfedd. Ar lawer pwnc ni ddaeth dim i'w ddisodli, a chan hynny gellir dweud hefyd fod y rhan fwyaf o syniadau ysgrif Emrys yn cynrychioli syniadau heddiw. Fe ddeil rhan fwyaf o'r gosodiadau ar ffurfio Canon yr Hen Destament, ac â hyn yr ymwna'r erthygl mewn gwirionedd. Ond y dull diweddaraf o drafod y Canon yw gwneud mwy o sylw o'r cyfieithiadau cynnar i ieithoedd cymdogion yr Iddewon, sef yr Aramaeg a'r iaith Roeg. Nid wyf yn credu y dysgir heddiw mai amod derbyn i'r Canon oedd bod llyfr wedi ei ysgrifennu yn yr Hebraeg. A hefyd fe sonnir mwy heddiw am y mathau o lenyddiaeth a geir yn yr Hen Destament, megis am y Gyfraith fel cyfarwyddyd, a llyfrau'r proffwydi fel casgliadau oraclau yn cynnwys barddoniaeth a damhegion. Ond ni olyga hyn bod y syniad am egwyddor y Canon wedi newid o ran ei sylfaen. Ni wn am ddim yn y Gymraeg y gallaf gyfeirio'r darllenydd ato ar y pwnc, ond y mae angen llyfr yn ein hiaith ar hanes y Canon a hanes Beirniadaeth Ysgrythurol, ac yn anad dim i gynnwys cipdrem ar hanes beirniadaeth Feiblaidd yng Nghymru. Yn y cyfamser diddorol fyddai darllen gweithiau dau Brifathro, sef G. A. Edwards yn Y Beibl Heddiw, a T. Lewis yn Yr Hen Destament.
Fe deimla'r cyfarwydd ei bod yn rhaid cywiro rhai manion y cyfeiria'r ysgrif atynt. Er enghraifft, fe gysyllta'r awdur yr hanes deublyg am y creu â dylanwad Persia. Bellach gellir profi mai dylanwad Babilonaidd, a hwyrach hanesion o genhedloedd eraill, sydd arnynt. Hefyd, nid yw dadl y Deg Gorchymyn wedi ei thorri yn y modd yr awgryma Emrys, ac nid yw'n derfynol mai cyfraith Josïa ydoedd Deuteronomium; ac felly ymlaen.
Ond y mae'r ysgrif yn rhyfeddol. Y mae'r egwyddor y cred yr awdur ynddi yn ddiogel, ac erbyn hyn, y sawl a ystyrir yn ystyfnig ac yn afresymol yw'r sawl a gondemnir gan yr awdur yn yr ysgrif hon. Fe deilynga ei lle ar ddechrau'r gyfrol, nid yn gymaint am y wybodaeth sydd ynddi o'r ffeithiau yr ymdrinir â hwy, ond oherwydd praffter meddwl yr awdur ei hun, a'i fod yn awgrymu mor eglur y llwybr y mae'n rhaid i astudiaeth Feiblaidd ei ddilyn.