Neidio i'r cynnwys

Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III/Rhagymadrodd

Oddi ar Wicidestun
Cynnwys Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III

gan Robert Ambrose Jones (Emrys ap Iwan)

Rhagair i'r Ysgrif Gyntaf

RHAGYMADRODD

Pe gallesid adgynhyrchu'r papurau a baratôdd efe i'r plant a'r bobl ieuainc, y gweddïau a weddïodd efe yn y cyfarfodydd gweddiau, yr anerchiadau a draddododd efe yn y cyfarfodydd eglwysig, a'r ymadroddion fyrdd a lefarodd efe wrth gyfeillion, buasai crefydd a llenyddiaeth Cymru ar eu hennill. . .

ALLAN O GYFLWYNAIR EZRA ROBERTS I'R AIL GYFRES O
HOMILIAU EMRYS AP IWAN, 1909.

Ymgais yw'r gyfrol hon i gyflwyno rhyw ychydig bach o'r cyfoeth y soniodd golygydd Homiliau Emrys ap Iwan amdano yn y geiriau uchod. Daethpwyd o hyd i'r rhan fwyaf o'r cynnwys trwy chwilio llawysgrifau'r awdur, a dyma'r tro cyntaf i fwy na'i hanner gael ei brintio erioed. Wrth ddethol ceisiwyd cynrychioli'r amrywiol agweddau ar waith ysgrifenedig Emrys ap Iwan fel bugail eglwys, ac fel meddyliwr a myfyriwr crefyddol. Rhoddir ei draethawd pwysicaf ar feirniadaeth Feiblaidd i ddechrau, ac yna ran helaeth o'i nodiadau ar ddamhegion Crist. Dilynir y rhain gan bedwar anerchiad ar agweddau ymarferol ar fywyd eglwys, ac wedyn daw rhai pigion o ysgrifau dadleuol Emrys ar y mudiad anwlatgar hwnnw a oedd mor wrthun iddo, sef yr Inglis Côs. Wedi'r chwyrn daw'r tyner, ac yn y gweddïau a'r anerchiadau bedydd fe brofir naws ei ysbryd ar ei angerddolaf. Rhaid oedd wrth un bregeth o leiaf, a chynhwysir gan hynny un o'r rhai anghyhoeddedig, ac anodd meddwl am bregeth â'i neges yn fwy amserol i ni heddiw. Gwyddai nad amlygir grym yr Efengyl ond mewn dioddefaint a gwrthdaro. Ni hudwyd ef i dybio bod cynnydd gwareiddiad y ganrif ddiwethaf yn arwydd o ddyfodiad buan ac esmwyth y Deyrnas. Yr oedd y pwys a roddai ar ddioddefaint a ffydd fel rhoddion dwyfol yn ei gadw rhag rhoi gormod bri ar yr ymgyraeddiadau dynol hynny a oedd mor ddengar yn ei oes ef, ond a droes yn gymaint siom erbyn hyn.

Am y casgliad o ddetholion a welir ar ddiwedd y gyfrol hon, fe'u cafwyd i gyd ymhlith llawysgrifau Emrys, rhai ohonynt yn frawddegau bachog ar eu pen eu hunain, ac eraill yn rhan o lythyrau, ysgrifau, a nodiadau ar wahanol rannau o'r Ysgrythur. Y mae'n wir na cheir nemor gofiant i bregethwr o Gymro heb gynnwys ynddo enghreifftiau o'i ddywediadau, eto y mae'n gwbl deg gweld yn sylwadau byrion Emrys nid yn unig fynegiant o ddawn nodweddiadol Gymreig, ond hefyd ôl ei ymgydnabod llwyr â gwaith

feddylwyr Cristnogol mwyaf Ffrainc a'r byd, sef Blaise Pascal. Gwelir yn ei lawysgrifau ambell un o'r Pensées, naill ai yn y Ffrangeg, neu wedi ei drosi i'r Gymraeg, megis:

Il n'y a que deux sortes d'hommes; les uns justes qui se croient pécheurs; les autres pécheurs qui se croient justes.[1]
Pedwar math o ddynion: dynion a chanddynt sêl heb wybodaeth; dynion a chanddynt wybodaeth heb sêl; dynion heb fod ganddynt sêl na gwybodaeth; dynion a chanddynt sêl a gwybodaeth.—Pascal 329.

Fe geir gan y ddau awdur graffter eneidegol, llwyredd ymresymiad, cynildeb gair, cyffroadau awenyddol sydyn, ac angerdd caru Duw â'r holl feddwl.

Codwyd rhan o gynnwys y gyfrol hon o hen rifynnau o'r Geninen, y Faner a'r Tyst Dirwestol. Fe nodir y darnau a gafwyd yn y cylchgronau hyn. O lawysgrifau Emrys ei hun y copïwyd y gweddill. Yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru y ceir bellach y llawysgrifau y codwyd ohonynt y rhan fwyaf o'r testun. Diolchir yma i Mr. John Morris, Trefnant, am gael benthyg y llawysgrifau lle cafwyd y gweddïau a'r anerchiadau a welir ar dudalennau 91-102, ynghyd ag ambell un o'r detholion.

Hwyrach nad amherthnasol fydd sôn ychydig yma am gynnwys y degau o gyfrolau a geir yn y Llyfrgell Genedlaethol o lawysgrifau Emrys ap Iwan. Llyfrau poced ydynt gan mwyaf. Ynddynt fe welir llawer o'i ysgrifau printiedig yn eu cyflwr cyntaf, ond nid dyna yw'r rhan fwyaf. Gwyddys gymaint o'i amser a roddai Emrys i gyfarfodydd plant, i ddosbarthiadau Beiblaidd, a chyrddau addysgiadol eraill yr eglwysi a fugeiliai. Ffrwyth paratoi manwl ar gyfer y cyfarfodydd hyn yw'r rhan fwyaf o'r llawysgrifau dan sylw. Y mae yn eu plith lawer iawn o holiadau ac atebion, nodiadau a sylwadau ar rannau helaeth o'r Ysgrythur, megis teithiau Paul, gwyrthiau Crist, y damhegion, hanes cymeriadau Beiblaidd megis Iosuah, Samuel, Timotheus; ac i'r dosbarthiadau hynaf fe geir dehongli manwl, adnod ar ôl adnod, o rannau o'r epistol at y Rhufeiniaid, efengyl loan (a oedd yn amlwg yn un o'i hoff feysydd), yr epistol at yr Hebreaid, y Salmau, a darnau eraill. Ceir ganddo nodiadau tra helaeth ar hanes Methodistiaeth yng Nghymru, ac yn llenwi wyth llyfr poced y mae ganddo gyfieithiad i'r Gymraeg o Job Renan. Y mae'n debyg iddo fwriadu hwn ar gyfer y wasg.

Nid y pethau lleiaf eu diddordeb ymhlith y llawysgrifau yw'r beirniadaethau a draddodwyd mewn eisteddfodau lleol a chyfarfodydd cystadleuol. Y mae gan Emrys, fel y gellid tybio, ei ffordd gynnil hun o gyfarfod â ffaeleddau cystadleuwyr, megis, er enghraifft, y Siôn hwnnw o eginfardd a ddibynnai ar ei gof ar draul ei onestrwydd:

Y mae yn y penillion a wnaeth Siôn yn ddiau rai llinellau mwy barddonol nag sydd ym mhenillion neb o'r ymgeiswyr eraill, ond fe fuasai'n well eu gadael lle y cafwyd hwynt na'u dwyn i mewn megis gerfydd eu gwallt a'u hieuo'n anghymarus â llinellau eraill mwy cyffredin a wnaed gan Siôn ei hun.

Cyn gorffen sôn am y llawysgrifau hyn, hoffwn dynnu sylw at hunangofiant byr ganddo sydd i'w gael yn eu plith. Gan ei fyrred, barnwyd yn fuddiol ei godi'n gyfan yma:

Pregethwr, llenor, ac amddiffynnwr hawliau cenhedloedd gweiniaid. Fe'i ganwyd yn Abergele, ac yno y treuliodd ei febyd, oddieithr ychydig flynyddoedd yn Liverpool a Bodelwyddan. Pan oedd yn 18 oed aeth i Athrofa'r Bala. Wedi hynny bu am flwyddyn a hanner mewn ysgol ieithyddol yn Lausanne, yn yr hon yr oedd hen athro Ffrengig meibion y Tywysog Gortschakoff yn ben. Oddi yno aeth i Heidelberg, Bonn a Giessen, ac wedi dychwelyd adref bu am ddwy flynedd neu dair yn Ninbych yn ysgrifennu i'r Gwyddoniadur ac i'r Faner. Wedi hynny, bu'n bugeilio eglwysi Methodistaidd Rhuthyn a Threfnant, ac y mae'n awr yn ymgartrefu yn y Rhewl, gerllaw Rhuthyn. Er bod yn hoffach ganddo fyw yn y wlad nag mewn tref, a bod yn ei ystafell gyda'i lyfrau nag ymddangos mewn cylchoedd cyhoeddus, eto bydd yn treulio ei oriau haf bob blwyddyn yn un o wledydd y Cyfandir. Er cymaint a welodd ac a ddadleuodd, y mae ganddo syniad uchel am Gymru, iaith Cymru, a hen lenyddiaeth Cymru, ac y mae wedi ysgrifennu llawer i annog ei gydwladwyr i roi mwy o bris arnynt eu hunain ac ar eu hiaith, ac ar bob peth gwerthfawr sy'n eu gwahaniaethu oddi wrth y genedl y maent yn fwyaf tueddo! i'w dynwared. Yn y Faner (yr un Fawr), Y Geninen, a'r atodiad i'r Gwyddoniadur yr ymddangosodd y rhan fwyaf o'i ysgrifeniadau. Gan nad oes ganddo fawr o feddwl o'r typical Englishman, sef Saeson uniaith, anwybodus, a thrahaus, fel Chamberlain, y mae'r Cymry mwyaf Seisnigaidd yn ei gyhuddo o fod yn gulfarn, ond y mae dysgedigion tramor yn beio'n dost ar y Cymry am na byddai mwy ohonynt mor Gymreigaidd ac mor Europeaidd eu syniadau ag ef. Dyma a ddywed y Proffeswr Zimmer o'r Almaen amdano wrth ohebydd y Celt: "A! bachgen iawn ydyw Emrys. Dyna Gymro yn wir yn yr hwn nid oes dim twyll. Ond am rai o'ch ysgolorion, dyn a'u helpo!"

Er cystal yw'r disgrifiad hwn gan Emrys ap Iwan ohono'i hun a'i neges, y mae, fel y mae'n gweddu, un peth mawr ar ôl, sef ansawdd ei Gristnogaeth. Bwriadwyd i'r gyfrol hon fod yn dystiolaeth o hyn. Yr oedd ei grefydd yn ddwfn ac yn eang, ac yn rhoi cadernid i'w holl argyhoeddiadau am na chedwid hi ar wahân i'r un ohonynt. Ymboenai â threfniadau manylaf yr eglwys am fod cymaint yn dibynnu ar ei heffeithiolrwydd fel cymdeithas. Ceisiai erlid pob rhith ohoni er mwyn amlygu ei grym. Dyma paham y beiddiai sathru hyd yn oed ar deimladau anwylaf rhai credinwyr, megis yn yr anerchiad ar y cyfarfod gweddi. Er ei fod yn ansicr o werth y weddi gyhoeddus, eto y mae ei lawysgrifau yn dyst o'i fawr ofal wrth baratoi ei weddïau cyhoeddus ei hun. Ymgodymai ag anawsterau disgyblaeth eglwysig, a phraw o'i welediad clir a threiddgar i gymhlethdod y pwnc yw ei fod ar adegau yn llymach ei farn nag ar adegau eraill. Gwelai gymaint oedd ynghlwm wrth y mater. Yn anad dim mynnai ochel plwyfoldeb a bychander a hunangyfiawnder cecrus sectyddiaeth, ac yr oedd ei weledigaeth o Eglwys Crist fel un tyfiant byw gogoneddus ac amlganghennog yn ei gadw rhag llawer crebachdod. Ei ddelfryd i'w enwad oedd ei weld yn ddigon mawr a mawrfrydig i fod deilwng eglwys y Cymry (y genedl fel yr Eglwys o osodiad dwyfol), ac felly yn gangen urddasolach a ffrwythlonach o Eglwys Crist.

Lle ni ddangosir yn amgen, codwyd cynnwys y gyfrol hon o lawysgrifau Emrys ap Iwan ei hun. Talfyrrwyd mewn rhai mannau, ond nid oes dim wedi ei newid, ag eithrio'r orgraff a rhai manion iaith, fel yr eglurwyd yn rhagymadrodd y gyfrol gyntaf.

Diolchir i Mr. G. J. Williams, M.A., Caerdydd, am fwrw golwg dros y proflenni ac awgrymu gwelliannau. Diolchir yn awr unwaith eto, ar ddiwedd y gyfres hon o waith Emrys ap Iwan, i Mr. Prosser Rhys ac i'r cyfeillion yng Ngwasg Gee am bob gofal chyfarwyddyd. Dymunaf ddiolch hefyd i'r Athro Bleddyn Jones—Roberts, M.A., B.D., am ei barodrwydd i sgrifennu rhagair i ysgrif Emrys ar Gyfraith Moses, a'r Proffwydi, a'r Salmau.

Gorffennaf, 1940.

D. MYRDDIN LLOYD.[2]

Nodiadau

[golygu]
  1. Nid oes ond dau fath o ddynion; rhai cyfiawn sy'n meddwl eu bod yn bechaduriaid; a phechaduriaid sy'n meddwl eu bod yn gyfiawn. (Nid Wil Bryan, felly, oedd y cyntaf i wneud y dosbarthiad hwn!)—GOL.
  2. Bu farw Emrys ap Iwan ym 1906, gan hynny mae ei holl waith ymhell allan o hawlfraint. Yn wir, gan fod deddfau hawlfraint Cymru a Lloegr yn perthyn i lyfrau yn unig, ac nid erthyglau mewn papurau newyddion a chylchgronau, hyd ddechrau'r 20G ni chafodd y mwyafrif o'r erthyglau sydd yn y cyfrolau byth eu hamddiffyn gan hawlfraint.
    Gan fu farw David Myrddin Lloyd, awdur y rhagymadroddion i'r tair cyfrol yng Nghyfres "Erthyglau Emrys ap Iwan", ym 1981, bydd ei weithiau ef, gan gynnwys y rhagymadroddion hyn, o dan hawlfraint hyd 2052.
    Cyhoeddwyd y gyfrolau dros 80 mlynedd yn ôl. Daeth y cyhoeddwr, "Y Clwb Llyfrau Cymreig", i ben ei daith dros 80 mlynedd yn ôl, gan hynny mae pob dim ond yr ychydig tudalennau o ragymadrodd yn sicr yn y parth cyhoeddus. Bernir mae "defnydd teg" yw dyfynnu yr ychydig dudalennau o ragymadrodd gyda gweddill corff y llyfrau sydd bellach allan o hawlfraint.