Neidio i'r cynnwys

Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III/Y Bachgen Drwg

Oddi ar Wicidestun
Angau a Chwsg Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III

gan Robert Ambrose Jones (Emrys ap Iwan)

Y Blaidd a'r Bugail

V. Y BACHGEN DRWG
(CYFLWYNEDIG I'R GOLYGYDD)

Yr oedd gynt hen fardd, a hen fardd da ydoedd o hefyd. Un noswaith ac efô'n eistedd yn ei dŷ wrth y tân, yr oedd hi'n chwythu ac yn glawio'n arswydus oddi allan. "Fe fydd y trueiniaid sydd allan heno'n wlyb hyd at y croen," ebe fo.

Ar hyn fe lefodd rhyw fachgennyn o'r tu allan, "O da chwi, agorwch y drws, yr wyf cyn wlyped â'r dŵr, a chyn oered â'r eira!" Yr oedd o'n gerain ac yn curo wrth y drws, tra oedd y glaw'n disgyn yn hidl, a'r gwynt yn ysgytian yr holl ffenestri.

"Druan bach!" ebe'r hen fardd wrth fyned at y drws. Wedi iddo'i agoryd, gwelai'r bachgennyn yn noethlymun, a'r dwfr yn diferu o'i gudynnau golau. Yr oedd o'n crynu gan annwyd, a threngi a wnaethai’n ddiau, pe nas gollyngesid i mewn.

"Druan bach!" ebe'r hen fardd, gan ei gymryd erbyn ei law, "tyred ataf i, a mi a'th gynhesaf, a thi gei lymaid o win ac afal rhost, canys bachgen tlws ydwyt."

Ac un felly ydoedd o. Yr oedd ei lygaid yn gwreichioni fel dwy seren loyw, ac er bod ei gudynnau'n wlyb, eto yr oeddynt o hyd yn grych. Er ei fod yn crynu drwyddo ac yn welw gan yr oerfel, yr oedd ei wyneb fel wyneb angel. Yr oedd o'n dwyn yn ei law fwa del a oedd wedi ei ddifetha gan y glaw, ac yr oedd y gwahanol liwiau disglair ar ei saethau wedi rhedeg i'w gilydd nes myned yn un lliw llwydaidd.

Fe eisteddodd yr hen fardd o flaen y tân ac a gymerodd y bachgennyn ar ei lin, yna gwasgu allan dwfr o'i wallt, a thwymo'i ddwylo ef yn ei ddwylo'i hun, a rhoddi iddo win melys, brwd, i'w yfed. Yna fe ymadferodd y bachgen, fe ddychwelodd y gwrid i'w fochau, ac yntau a neidiodd ar y llawr ac a ddechreuodd daplasu a rhonta o amgylch yr hen fardd.

"Yr wyt yn ymddangos yn fachgen llon," ebe'r hen ŵr, "beth yw dy enw, dywed?"

"Cariad (Cupid) yw fy enw," ebe fyntau; "oni'm hadwaeni? Dyna fy mwa, a mi warantaf iti y medraf saethu'n wych ag ef. Yn awr, gwêl, y mae'r ddrycin wedi myned heibio, a'r lloer yn tywynnu'n siriol."

"Ond y mae dy fwa wedi ei andwyo," ebe'r hen fardd.

"Gresyn fyddai hynny," ebe'r bachgennyn, gan ei gymryd i fyny a'i chwilio. "Y mae e'n gwbl sych, ac nid oes dim niwed arno. Mi a'i profaf." Yna wedi dodi saeth yn y bwa, anelodd, a saethodd yr hen fardd trwy ei galon. "A gredi di bellach na ddifethwyd fy mwa?" ebe fo tan redeg ymaith a chwerthin. Y fath fachgen drwg y mae'n rhaid ei fod i saethu'r hen fardd da a fu mor garedig wrtho!

Gorweddodd yr hen fardd ar y llawr ac wylodd. "Wfft!" ebe fo, "bachgen brwnt yw'r Cariad hwn. Mi ddywedaf wrth blant da ymhell ac yn agos am ymogelyd rhagddo, ac am edrych na chwaraeont byth ag ef, rhag ofn iddo'u niweidio."

A phan glywodd y plant da, yn fechgyn a genethod, beth a ddarfuasai i'r hen fardd, ceisio yn wir a wnaethant ymogelyd rhag Cariad, ond yr oedd hwnnw mor ystrywgar fel y byddai'n eu twyllo'n fynych iawn. A thwyllo a thwyllo y mae o hyd heddiw. Pan ddychwelo'r astudwyr o'r coleg i'w llety, fe fydd yntau'n rhedeg gyda hwynt mewn cotan ddu, ac â llyfr tan ei gesail. Ni allant mo'i adnabod yn y rhith hwnnw, ac am hynny cymerant ei fraich, gan dybied mai astudiwr yw yntau fel un ohonynt hwythau, a dyna'r pryd y bydd o'n gyrru un o'i saethau trwy eu calon. Yr un ffunud pan ddêl y genethod o'r eglwys fe fydd o bob amser yn eu plith. Y mae o'n rhedeg yn y parciau a'r rhodfeydd cyhoeddus. Y mae o erioed yn llercian o'r tu ôl i bobl, ac yn ceisio cyfle i glwyfo rhywun neu'i gilydd. Do, ddarllenydd, fo saethodd unwaith dy rieni trwy eu calon—gofyn di iddynt, a thi glywi beth a ddywedant. Rywbryd fe ergydiodd at dy hen nain, ond y mae llawer blwyddyn er hynny. Y mae hi yn awr yn iach o'i chlwyf; er hynny hi a'i cofia byth. O, gwalch o fachgen yw Cariad! Na foed i ti a wneli ag ef. Wele mi a'th rybuddiais mewn pryd.

HANS ANDERSEN.


Nodiadau

[golygu]