Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III/Y Blaidd a'r Bugail
Gwedd
| ← Y Bachgen Drwg | Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III gan Robert Ambrose Jones (Emrys ap Iwan) |
Y Distyllwr Cyntaf → |
VI. Y BLAIDD A'R BUGAIL
Fe gollodd rhyw fugail ei holl braidd trwy haint, ac wedi clywed hynny fe ddaeth y blaidd ato i gydofidio ag ef.
"Fugail," ebe fo, "ai gwir yw colli ohonot dy holl braidd? Y defaid bach, gwirion! Yr wyf yn gresynu wrthyt, a mi allwn dywallt dagrau o waed."
"Diolch i ti, Meistr Bela," ebe'r bugail; "mi welaf fod gennyt galon dosturiol iawn."
"Ac yr wyf innau yn dyst," ebe'r ci, "mai calon felly sy ganddo mewn gwirionedd pa bryd bynnag y bo colled ei gymydog yn golled iddo yntau.'
LESSING.