Neidio i'r cynnwys

Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III/Y Cwrdd Gweddi

Oddi ar Wicidestun
Pa olwg ddylai'r Eglwys ei gymryd ar ddifyrrwch yr oes Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III

gan Robert Ambrose Jones (Emrys ap Iwan)

Dr. Edwards, a'r Achosion Seisnigol

Y CWRDD GWEDDI
SYLWADAU A WNAED GAN R. A. JONES MEWN DAU GYFARFOD EGLWYSIG RYWBRYD CYN DIWEDD YR WYTHNOS GYNTAF YN Y FLWYDDYN 1881

Dywedwyd digon o adnodau i brofi y dylid gweddio'n ddirgel, ond ni ddywedwyd cymaint ag un i brofi y dylid gweddïo'n gyhoeddus, yn gyson o'r hyn lleiaf. Y mae lle i gasglu nad gwrando ar dri neu bedwar o ddirprwywyr yn gweddïo'n uchel ac yn hir oedd gwaith y disgyblion cyntefig pan ddeuent ynghyd bob dydd cyntaf o'r wythnos. Ni byddai Paul, er dim a wn i, ddim yn arfer gweddio cyn nac ar ôl pregethu, ac ni byddai ef yn gofyn i neb arall chwaith ddechrau'r oedfa iddo. Ac oni bai fy mod yn anewyllysgar i'm gwneud fy hun yn od, gwnawn innau fel y gwnâi Paul; hynny ydyw, ni weddïwn yn gyhoeddus oddieithr panfyddai fy marn a'm teimlad yn fy nhueddu i wneud hynny.

Y mae'n sicr fod llawer o awdurdod mewn hen arferiad, yn enwedig os bydd yr arferiad hwnnw'n un cyffredinol; ond, ag edrych heibio i draddodiad y tadau at yr Ysgrythur ei hun, rhaid i mi addef nad oes weledigaeth eglur ar y pwnc hwn. Ac y mae'r aneglurder hwn ynddo'i hun yn peri imi amau yr hyn a ddywedodd brawd yma heno, sef mai'r cyfarfod gweddi ydyw'r pwysicaf o'n holl gyfarfodydd crefyddol. Mwy; yr wyf yn credu nad ef ydyw'r pwysicaf. Y cyfarfod y byddo gair Duw yn uchaf ynddo—dyna'r cyfarfod pwysicaf. Ond nid oes un cyfarfod crefyddol oddieithr y cyfarfod canu y rhoir lleied o le ynddo i'r Beibl â'r cyfarfod gweddi. Geiriau dynion ffaeledig ydyw gweddïau ar y gorau, ac odid nad ydynt yn fwy ffaeledig wrth weddïo nag wrth wneud dim arall, am fod y rhan fwyaf ohonynt yn tybio y gellir gwneud y gwaith hwn heb ragfeddwl dim. Ond y mae'r Gair yn ddi-feth fel yr Hwn a'i rhoes. Y mae darllen y Gair, pregethu'r Gair, ac egluro'r Gair, yn ddyletswyddau amlwg a phendant. A bydd arnaf i ofn rhoi gormod o bwys ar ddyletswyddau anamlwg rhag imi wrth hynny ddirymu dyletswyddau amlwg. Er hynny, bydded pob un yn sicr yn ei feddwl ei hun, ie, ynghylch pethau amheus; hynny ydyw, bydded ffyddlon i'w argyhoeddiadau. Aed at y Gair a'r dystiolaeth, a gwrandawed ar ei gydwybod, er mwyn gwybod pa beth a ddylai ei wneuthur; a phan wypo ei ddyletswydd, gwneled hi yn ddi-ofn, ac yn ddiesgeulus. Y mae rhai o'r gweinidogion gorau sydd gennym yn credu'n ymarferol yr hyn yr wyf innau'n ei gredu'n athrawiaethol, a'r hyn yr wyf yn ei ddweud yn awr ar eiriau, canys ni byddant ymron byth yn myned i gyfarfod gweddi. Dylent, er mwyn cysondeb, naill ai myned iddynt, neu ynteu addef yn agored nad ŷnt yn credu eu bod yn gyfarfodydd anhepgorol. Ond ni synnwn i ddim nad y rhai sy'n esgeuluso heb reswm fyddai'r rhai parotaf i gondemnio'r neb a fyddo'n esgeuluso efo rheswm.

Y mae achos i ofni nad yw'r cyfarfodydd gweddi, megis y cedwir hwynt yn gyffredin, ddim yn gwneud dyn yn ddoethach nac yn fwy defosiynol. Diamau fod peth o'r bai arnom ni sy'n ceisio gweddïo, oherwydd nid ydym yn ddigon cyfarwydd â'r Ysgrythur, nac yn rhagystyried digon pa beth a ddywedom, i allu bod yn adeiladol i'r rhai a fyddo'n gwrando.

Ond y mae bai ar y drefn hefyd. Cwynir yma ac mewn mannau eraill, na fedrir cael gan yr ieuenctid wasanaethu'n gyhoeddus. Ni allaf i mo'u beio, canys yr wyf yn credu mai teimlad crefyddol yn hytrach nag anghrefyddol sy'n rhwystro rhai i weddïo'n gyhoeddus. Y drefn yn y lle hwn ydyw gosod tri i weddio yng nghorff awr o amser, a disgwylir i'r tri hynny weddio yn y set fawr. Bydd ambell un wedi colli meddiant arno'i hun erbyn cyrraedd i'r set fawr, a chael ei hun wyneb yn wyneb â'r gynulleidfa. Ac ar ôl myned yno teimla fod yn rhaid iddo aros yno am gryn amser, rhag i'r cyfarfod derfynu cyn wyth ar gloch. Gyr y teimlad hwn rai i weddïo'n hytrach wrth y cloc nag wrth eu hangen. Ymdrônt i ragymadroddi yn y modd mwyaf ystrydebol; traethant yr un peth drachefn a thrachefn; a'r hyn sydd waeth fyth, cymerant enw'r Arglwydd yn ofer yn nechrau agos bob brawddeg; a hynny fe ellid tybied yn unig er mwyn cael hamdden i ymbalfalu am rywbeth i orffen y frawddeg. Cofier nad beio ar y gweddïwyr yr wyf yn awr, ond ar y drefn sy'n temtio dynion i weddïo fel yna. Barnaf fod gweddïau o'r fath yna'n lladd ysbryd addolgar yn y gweddïwyr eu hunain ac yn y gwrandawyr hefyd. Rhaid i ddyn ddysgu ei gydddynion trwy ymgynghori, trwy esbonio neu trwy bregethu, boed ef yn yr ysbryd neu beidio; ond yn sicr, dylai gweddio Duw fod yn rhywbeth mwy naturiol, mwy spontaneous.

Yn awr, tra cedwir cyfarfodydd i weddïo'n gyhoeddus, anogwn ein gilydd i beidio â myned rhagom i siarad ar ôl gorffen dweud. Na wasger ar bawb i ddyfod i'r sêt fawr, ond gadawer iddynt, os bydd yn well ganddynt, weddio ar ychydig eiriau o'u lle. Os mynnir cynefino'r ieuenctid â'r gwaith, gofynner iddynt yn gyntaf oll roi pennill i'w ganu. Gofynner iddynt yn y man ddyfod ymlaen i ddarllen pennod o'r Beibl, gan osod rhywun hŷn a mwy profedig i weddio ar eu hôl. Ymhen ychydig amser bydd yn ddiogel gofyn iddynt weddio'n fyr o'u lle, ac yn ddiweddarach o'r sêt fawr.

Ond fy nheimlad i fy hun ydyw y byddai'n well peidio â chadw cyfarfodydd i weddïo'n unig neu yn bennaf. Y maent yn gadael y gwrandawyr yn rhy ddiymadferth o lawer. Tybia rhai gwrandawyr eu bod yn crefydda wrth eistedd yn llonydd ar y meinciau yna, er bod eu meddyliau, er dim a wyddys yn amgen, yn crwydro ar ôl pethau'r byd drwg presennol. Nid yw bod gweddïwyr yn gweddïo'n gyhoeddus tros y bobl ddim yn profi eu bod yn grefyddol, canys fe ddichon mai porthi hunan y mae llawer un wrth ei wneud ei hun yn central figure mewn cynulleidfa. Ond y mae gennyf i syniad pur uchel am grefydd pobl fydd yn dyfod yn gyson i'r Ysgol Sabothol i addysgu, neu ynteu i gael eu haddysgu ym mhethau'r Beibl. Pa un o'r ddau sydd agosaf i deyrnas Dduw, ai y dyn fydd yn dyfod i'r seiat heb ddyfod i'r ysgol, ai ynteu y dyn fydd yn dyfod i'r ysgol heb ddyfod i'r seiat? Yr olaf, meddaf i. Gall athrawon yr ysgol ddweud eu bod yn gwneud rhywbeth, a gall eu disgyblion hefyd ddweud eu bod yn dysgu rhywfaint bob tro. Rhaid iddynt ddysgu os bydd ganddynt athro gweddol gymwys. Ond fe ddichon i rai ddyfod am flynyddoedd i gyfarfod gweddi, i gyfarfod eglwysig hefyd mewn ambell le, a hyd yn oed i odfeuon, heb wneud lles na chael lles. Adwaen rai sy'n dyfod i'r cyfarfodydd yna'n lled gyson, ac er hynny prin y gellid dweud eu bod, eto, yn gwybod digon i fod yn gadwedig.

Yn awr, rhaid fod rhyw ddiffyg ar gyfarfodydd crefyddol pan fônt yn gadael pobl yn y cyflwr yna. Eisiau mwy o ddarllen y Beibl, mwy o egluro ac o holi arno sydd. Er nad wyf yn atebwr parod fy hun, eto y mae gennyf ffydd mewn holi. Ni wn am ddim arall sydd cystal i osod y meddwl ar waith, na dim sydd cystal i argyhoeddi pobl anwybodus eu bod yn anwybodus. Ond nid oes gennyf nemor o ffydd yn yr holi a'r ateb a geir mewn cyfarfodydd eglwysig, canys y maent yn rhy benagored o lawer. Pa les ydyw gofyn i ddyn ofyniad sy'n gadael iddo ddianc i ffwrdd yng nghysgod ateb o'r fath yma—"Cael fy hun yn dywyll iawn yr ydwyf." Oni wyddom ei fod yn dywyll, ac oni wyddom hefyd nad yw, ysywaeth, yn gwneud dim ymdrech i gael gwared o'i dywyllwch. Nid yn hir y pery dyn yn anwybodus os ewyllysia'n ddifrifol fod yn wybodus. Byddai'n dda gennyf fedru argyhoeddi pob aelod sydd heb fod yn hen iawn, fod anwybodaeth o'r Ysgrythur yn bechod diesgus, ac yn bechod mor bendant â chybydd-dod neu anghymedroldeb. Peidied neb â meddwl ei fod yn gwneud iawn am ei anwybodaeth wrth ei gyfaddef yn anedifeiriol mewn cyfarfod eglwysig. Y mae'n wir nad oes neb yn deall y Beibl yn llawn, ond medr pawb geisio ei ddeall yn ôl y ddawn a roddwyd iddynt; dyna'r tir y mynnwn gael pob aelod iddo. Os bydd rhywun wrth ddarllen yr Ysgrythur gartref yn taro wrth adnod nas medr mo'i deall, deued i'r cyfarfod eglwysig i ofyn am eglurhad arni. Gwna fwy o les iddo'i hun, ac i eraill hefyd, wrth ddangos tywyllwch nag wrth gyffesu'n unig ei fod mewn tywyllwch. Y mae dyn call yn parchu dyn tywyll os gwêl ei fod yn ceisio'n ddyfal am oleuni.

Nodiadau

[golygu]