Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III/Y Distyllwr Cyntaf
| ← Y Blaidd a'r Bugail | Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III gan Robert Ambrose Jones (Emrys ap Iwan) |
Detholion → |
VII. Y DISTYLLWR CYNTAF
Ar ryw foregwaith fe aeth amaethwr tlawd i'w faes i aredig, heb gymryd gydag ef yn ginio ddim amgenach na thafell o fara. Wedi cyrraedd y maes, diosgodd ei geitlen ac a'i dododd yng nghysgod y gwrych, a'r dafell dani. Ymhen rhai oriau fe ddechreuodd yr anifail flino, ac fe ddaeth chwant bwyd ar y dyn; am hynny gollyngodd ei anifail i bori, ac a aeth i'r fan lle'r oedd ei geitlen. Pan gododd ef hon, gwelodd fod y bara wedi diflannu, ac er chwilio a chwilio ni chafodd ef hyd iddo. "Rhyfedd," eb ef, "ni welais i neb, ac er hynny rhaid bod rhywun wedi lladrata'r bara."
Y gwir ydyw mai cythraul oedd y lleidr, ac yr oedd ef yn awr yn ymguddio o'r tu ôl i'r gwrych er mwyn clywed a alwai'r dyn arno yn ei siom a'i lid. Ond er bod y dyn yn wir siomedig, eto ni chythruddodd ef ddim, eithr dywedyd yn bwyllog: "Wedi'r cwbl, ni byddaf farw o newyn. Rhaid bod ar y neb a ladrataodd y bara fwy o angen amdano na myfi. Iechyd iddo gydag ef."
Ac fe aeth amaethwr at y ffynnon a oedd gerllaw, ac a yfodd o'i dwfr bywiol. Yna bachu'r anifail wrth yr aradr a dechrau aredig eilwaith.
Drwg a syn fu gan y cythraul na allodd demtio'r dyn i bechu; a myned a wnaeth ef i annwn at Bennaeth y cythreuliaid, ac adrodd iddo pa fodd y dygasai ef y dafell o fara oddi ar yr amaethwr, a pha fodd y darfu i hwnnw yn lle melltithio ddywedyd yn unig, "Iechyd iddo."
Chwerw gan y Pencythraul fu chwedl y cythraul bach. "Y penbwl gwirion," eb ef, "rhaid iti wneud iawn am dy fusgrellni hwn. Dos i fyny yn dy ôl, ac oni byddi wedi dal dy bryf cyn pen tair blynedd, yna mi a'th drochaf mewn dwfr santaidd gwnaf yn wir!"
Yr oedd ar y cythreulyn ofn dwfr santaidd yn anad dim; am hynny dychwelodd ar frys i'w hen drigfa ar y ddaear, ac ystyriodd yn ddyfal pa fodd y gallai ef ddyhuddo llid ac ennill ffafr y Pencythraul. Ar ôl meddwl a meddwl penderfynu a wnaeth ef ymwisgo fel dyn gonest ac ymgyflogi'n was i'r amaethwr. A gwas deallus fu ef; canys ac ef yn rhagweld y byddai'r haf cyntaf yn sych, cynghorodd ei feistr i hau yn y gwernydd, a chan ei fod yn dyfalu y byddai'r haf nesaf yn wlyb, fe'i cynghorodd i hau ar y bryniau. Felly, er darfod i gnydau'r cymdogion fethu naill ai gan y gwres neu gan y glaw, fe gafodd meistr y cythraul gnwd toreithiog.
Gan na wyddai'r amaethwr beth i'w wneuthur â'r gormod ŷd a oedd ganddo fe ddysgodd y cythraul iddo wneuthur diod gadarn ag ef.
Yn Rwsia, ac aml wlad arall, yr ydys yn distyllio diod gadarn o drwyth ŷd eplesedig.—E. ap I.
Yn y man fe gafodd yr amaethwr flas ar y ddiod, a gwahoddodd ei gyfeillion i'w phrofi.
Ar hyn fe aeth y cythraul i lawr at y Diafol, sef y Pencythraul, ac a ffrostiodd ei fod o'r diwedd wedi dal ei bryf. Ni fynnai'r Diafol gredu hyn heb gael praw â'i lygaid ei hun. Am hynny, daeth ef at yr amaethwr, gwelodd fod hwnnw newydd wahodd gwŷr a gwragedd parchusaf yr ardal i gyd-yfed ag ef yn ei dŷ. Wedi iddynt yfed y gwydraid cyntaf dechreuasant foli ei gilydd, ac yr oedd eu holl ymadroddion yn beraidd ac yn llyfn fel ymenyn. Wrth glywed eu gwag-siarad fe sibrydodd y Pencythraul wrth y cythraul bychan: "O! fel y maent yn twyllo ei gilydd ag ymadroddion teg. Yn ddiau, y mae'r ddiod hon yn eu gwneud yn gyffelyb i lwynogod."
"Aros," ebe'r cythraul bychan, "hyd onid yfont yr ail wydraid," ac fe aeth eu hymddiddan yn uwch ac yn arwach. O wenieithio i'w gilydd troesant i oganu ei gilydd, ac o'r diwedd i ddyrnodio'i gilydd hyd onid oeddynt yn friwiau i gyd drostynt.
Wrth weled hyn fe wenodd y Pencythraul yn foddhaus, a dywedodd, "Da, da iawn."
"Aros ennyd," ebe'r cythraul bach, "a thi gei weled peth gwell fyth. Ar ôl yfed gwydraid arall fe dry'r bleiddiaid yn foch."
A hwy a yfasant y trydydd gwydraid. Yna dechrau ymlonyddu, ac yn lle brochian, rhochian a wnaethant. Yn y man fe aeth y gwesteion ymaith bob yn un, bob yn ddau, bob yn dri, ac a gwympasant yn glytiau ar yr heol. Fe aeth y gwahoddwr hefyd allan gyda hwynt er mwyn eu hebrwng, ond gan ei fod yntau cyn feddwed â'r lleill, syrthio a wnaeth i ffos fudr, ac yno y gorweddodd fel mochyn.
Erbyn hyn yr oedd llawenydd y Pencythraul yn gyflawn. Am hynny, dywedodd wrth y cythraul bach, "Yn wir, ti ddyfeisiaist ddiod gampus-pa fodd y gwnaethost ti hi, dywed? A barnu wrth ei heffeithiau, rhaid, debygaf i, mai gwaed llwynog oedd y gwydraid cyntaf, mai gwaed blaidd oedd yr ail, ac mai gwaed mochyn oedd y trydydd."
"Nage," ebe'r cythraul bach; "yr un fath ddiod oedd y tri gwydraid, ond bod y gwydraid cyntaf yn gwneud dyn yn llwynog, yr ail yn ei wneud yn flaidd, a'r trydydd yn ei wneud yn fochyn. Nid o waed un anifail, eithr o'r ŷd a ordeiniodd y Creawdr yn fara i ddyn y dysgais i'r amaethwr i wneuthur y ddiod hon. Oni thyciodd y demtasiwn gyntaf, fe dyciodd yr ail."
Fe ganmolodd y Pencythraul y cythraul bach ac a'i dyrchafodd yn uchel iawn.
LEO TOLSTOI.