Neidio i'r cynnwys

Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III/Y Tri Mab

Oddi ar Wicidestun
Llygad y Dydd Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III

gan Robert Ambrose Jones (Emrys ap Iwan)

Angau a Chwsg

III. Y TRI MAB

Yr oedd gan Dartariad goludog â'i enw Tochtamis dri mab o'i unig wraig Turcan-Catan; a chyn ei farw fo draddododd y Farnwr y lle lythyr cymyn seliedig, yn yr hwn yr oedd o'n penodi'n etifedd ei holl dda mab hwnnw a brofai orau ei fod yn fab i Dochtamis. Fe aeth y tri brawd at y Barnwr ac a ddygasant eu profion. Yr oedd yn ymddangos bod ganddynt ill tri hawl gyfartal i'r etifeddiaeth, canys yr oeddynt bob un yn apelio at dystiolaeth eu mam, a oedd eto'n fyw. Ni wyddai'r Barnwr pa fodd i benderfynu'r ddadl. Am hynny fo ddatguddiodd ei benbleth i'r Sultan Togrul a oedd newydd droi i mewn i'r frawdle. Yr oedd y Sultan ar gychwyn i hela, ac o achos hynny gorchymyn a wnaeth i'r rhai a oedd yn ymgyfreithio ddwyn ato'n ddi-oed fommi (mummy) eu tad. Wedi iddo beri gosod y mommi ergyd carreg oddi wrth y frawdle, estynnodd ei fwa i'r mab hynaf, ac a ddywedodd: "Pa un bynnag ohonoch eich tri a saetho'i dad ynghanol ei galon, hwnnw a gydnabyddir yn fab ac yn etifedd i Dochtamis, canys nid oes un ffordd amgenach i benderfynu dadl mor ddyrys."

Fe dynnodd y mab hynaf yn y bwa, ac a saethodd ei dad yn ei galon. Wedi hynny fe anelodd yr ail fab ac a saethodd yn gystal â'i frawd. Yna fe gymerodd mab ieuengaf y bwa, ond pan oedd o ar anelu fo'i gollyngodd i lawr ac a ddechreuodd wylo ac ymdaflodd wrth draed y Sultan, gan ddywedyd: "Fy arglwydd, na ddigia wrthyf am anufuddhau i'th orchymyn. Y mae'n dyfod i'm cof yr holl bethau da a gefais gan fy nhad; yr oedd o'n fy ngharu i mor fawr, ac mor dirion wrthyf bob amser â phe buaswn yn unig fab iddo. Pa fodd y gallaf yn awr fod yn ddigon anniolchgar a chreulon i'w archolli hyd yn oed yn ei gorff marw? Gwell gennyf i golli fy etifeddiaeth na'i hennill yn y modd hwn."

Fe'i cododd y Sultan i fyny ac a'i cusanodd ar ei dalcen, gan ddywedyd: "Tydi a brofodd orau dy fod yn fab i'r ardderchocaf Dochtamis. Am hynny, tydi fydd ei unig etifedd. Am y ddau fab hynaf, gwerther hwynt yn gaethweision, canys profi a wnaethant trwy eu hanniolchgarwch nad ydynt ddim yn wir feibion i ardderchog dad."

CHWEDL DDWYREINIOL.

Nodiadau

[golygu]