Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III (testun cyfansawdd)
| ← | Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III (testun cyfansawdd) gan Robert Ambrose Jones (Emrys ap Iwan) |
→ |
| I'w darllen pennod wrth bennod gweler Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III |

ERTHYGLAU EMRYS AP IWAN—III.
DETHOLIAD
O
Erthyglau a Llythyrau
Emrys ap Iwan
III
CREFYDDOL
Y CLWB LLYFRAU CYMREIG
Argraffiad Cyntaf—Ionawr 1939
Argraffwyd gan Wasg Gee, Dinbych, a rhwymwyd gan
George Tremewan a'i Fab, Abertawe
CYFLWYNEDIG
I'R
PARCH. LEWIS E. VALENTINE
CYNNWYS
Rhagymadrodd
Rhagair i'r Ysgrif Gyntaf.
Cyfraith Moses, a'r Proffwydi, a'r Salmau
Damhegion Crist
Darparu a Derbyn yn Gyflawn Aelodau
Araith ynglŷn â Chasgliad y Tlodion
Pa olwg ddylai'r Eglwys ei gymryd ar ddifyrrwch yr oes
Y Cwrdd Gweddi
Dr. Edwards, a'r Achosion Seisnigol
Wrth fedyddio plentyn
Anerchiad arall wrth fedyddio plentyn
Gweddi i ddiolch am y cynhaeaf
Gweddi wrth Fwrdd y Cymun
Pregeth
Chwedlau a Damhegion Tramor
i. Y Tlawd a'r Cyfoethog (o Fabinogi Ellmyneg)
ii. Llygad y Dydd (Hans Andersen)
iii. Y Tri Mab (Chwedl Ddwyreiniol)
iv. Angau a Chwsg (F. A. Krummacher)
v. Y Bachgen Drwg (Hans Andersen)
vi. Y Blaidd a'r Bugail (Lessing)
vii. Y Distyllwr Cyntaf (Leo Tolstoi)
Detholion
RHAGYMADRODD
Pe gallesid adgynhyrchu'r papurau a baratôdd efe i'r plant a'r bobl ieuainc, y gweddïau a weddïodd efe yn y cyfarfodydd gweddiau, yr anerchiadau a draddododd efe yn y cyfarfodydd eglwysig, a'r ymadroddion fyrdd a lefarodd efe wrth gyfeillion, buasai crefydd a llenyddiaeth Cymru ar eu hennill. . .
ALLAN O GYFLWYNAIR EZRA ROBERTS I'R AIL GYFRES O
HOMILIAU EMRYS AP IWAN, 1909.
Ymgais yw'r gyfrol hon i gyflwyno rhyw ychydig bach o'r cyfoeth y soniodd golygydd Homiliau Emrys ap Iwan amdano yn y geiriau uchod. Daethpwyd o hyd i'r rhan fwyaf o'r cynnwys trwy chwilio llawysgrifau'r awdur, a dyma'r tro cyntaf i fwy na'i hanner gael ei brintio erioed. Wrth ddethol ceisiwyd cynrychioli'r amrywiol agweddau ar waith ysgrifenedig Emrys ap Iwan fel bugail eglwys, ac fel meddyliwr a myfyriwr crefyddol. Rhoddir ei draethawd pwysicaf ar feirniadaeth Feiblaidd i ddechrau, ac yna ran helaeth o'i nodiadau ar ddamhegion Crist. Dilynir y rhain gan bedwar anerchiad ar agweddau ymarferol ar fywyd eglwys, ac wedyn daw rhai pigion o ysgrifau dadleuol Emrys ar y mudiad anwlatgar hwnnw a oedd mor wrthun iddo, sef yr Inglis Côs. Wedi'r chwyrn daw'r tyner, ac yn y gweddïau a'r anerchiadau bedydd fe brofir naws ei ysbryd ar ei angerddolaf. Rhaid oedd wrth un bregeth o leiaf, a chynhwysir gan hynny un o'r rhai anghyhoeddedig, ac anodd meddwl am bregeth â'i neges yn fwy amserol i ni heddiw. Gwyddai nad amlygir grym yr Efengyl ond mewn dioddefaint a gwrthdaro. Ni hudwyd ef i dybio bod cynnydd gwareiddiad y ganrif ddiwethaf yn arwydd o ddyfodiad buan ac esmwyth y Deyrnas. Yr oedd y pwys a roddai ar ddioddefaint a ffydd fel rhoddion dwyfol yn ei gadw rhag rhoi gormod bri ar yr ymgyraeddiadau dynol hynny a oedd mor ddengar yn ei oes ef, ond a droes yn gymaint siom erbyn hyn.
Am y casgliad o ddetholion a welir ar ddiwedd y gyfrol hon, fe'u cafwyd i gyd ymhlith llawysgrifau Emrys, rhai ohonynt yn frawddegau bachog ar eu pen eu hunain, ac eraill yn rhan o lythyrau, ysgrifau, a nodiadau ar wahanol rannau o'r Ysgrythur. Y mae'n wir na cheir nemor gofiant i bregethwr o Gymro heb gynnwys ynddo enghreifftiau o'i ddywediadau, eto y mae'n gwbl deg gweld yn sylwadau byrion Emrys nid yn unig fynegiant o ddawn nodweddiadol Gymreig, ond hefyd ôl ei ymgydnabod llwyr â gwaith
feddylwyr Cristnogol mwyaf Ffrainc a'r byd, sef Blaise Pascal. Gwelir yn ei lawysgrifau ambell un o'r Pensées, naill ai yn y Ffrangeg, neu wedi ei drosi i'r Gymraeg, megis:Il n'y a que deux sortes d'hommes; les uns justes qui se croient pécheurs; les autres pécheurs qui se croient justes.[1]
Pedwar math o ddynion: dynion a chanddynt sêl heb wybodaeth; dynion a chanddynt wybodaeth heb sêl; dynion heb fod ganddynt sêl na gwybodaeth; dynion a chanddynt sêl a gwybodaeth.—Pascal 329.
Fe geir gan y ddau awdur graffter eneidegol, llwyredd ymresymiad, cynildeb gair, cyffroadau awenyddol sydyn, ac angerdd caru Duw â'r holl feddwl.
Codwyd rhan o gynnwys y gyfrol hon o hen rifynnau o'r Geninen, y Faner a'r Tyst Dirwestol. Fe nodir y darnau a gafwyd yn y cylchgronau hyn. O lawysgrifau Emrys ei hun y copïwyd y gweddill. Yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru y ceir bellach y llawysgrifau y codwyd ohonynt y rhan fwyaf o'r testun. Diolchir yma i Mr. John Morris, Trefnant, am gael benthyg y llawysgrifau lle cafwyd y gweddïau a'r anerchiadau a welir ar dudalennau 91-102, ynghyd ag ambell un o'r detholion.
Hwyrach nad amherthnasol fydd sôn ychydig yma am gynnwys y degau o gyfrolau a geir yn y Llyfrgell Genedlaethol o lawysgrifau Emrys ap Iwan. Llyfrau poced ydynt gan mwyaf. Ynddynt fe welir llawer o'i ysgrifau printiedig yn eu cyflwr cyntaf, ond nid dyna yw'r rhan fwyaf. Gwyddys gymaint o'i amser a roddai Emrys i gyfarfodydd plant, i ddosbarthiadau Beiblaidd, a chyrddau addysgiadol eraill yr eglwysi a fugeiliai. Ffrwyth paratoi manwl ar gyfer y cyfarfodydd hyn yw'r rhan fwyaf o'r llawysgrifau dan sylw. Y mae yn eu plith lawer iawn o holiadau ac atebion, nodiadau a sylwadau ar rannau helaeth o'r Ysgrythur, megis teithiau Paul, gwyrthiau Crist, y damhegion, hanes cymeriadau Beiblaidd megis Iosuah, Samuel, Timotheus; ac i'r dosbarthiadau hynaf fe geir dehongli manwl, adnod ar ôl adnod, o rannau o'r epistol at y Rhufeiniaid, efengyl loan (a oedd yn amlwg yn un o'i hoff feysydd), yr epistol at yr Hebreaid, y Salmau, a darnau eraill. Ceir ganddo nodiadau tra helaeth ar hanes Methodistiaeth yng Nghymru, ac yn llenwi wyth llyfr poced y mae ganddo gyfieithiad i'r Gymraeg o Job Renan. Y mae'n debyg iddo fwriadu hwn ar gyfer y wasg.
Nid y pethau lleiaf eu diddordeb ymhlith y llawysgrifau yw'r beirniadaethau a draddodwyd mewn eisteddfodau lleol a chyfarfodydd cystadleuol. Y mae gan Emrys, fel y gellid tybio, ei ffordd gynnil hun o gyfarfod â ffaeleddau cystadleuwyr, megis, er enghraifft, y Siôn hwnnw o eginfardd a ddibynnai ar ei gof ar draul ei onestrwydd:
Y mae yn y penillion a wnaeth Siôn yn ddiau rai llinellau mwy barddonol nag sydd ym mhenillion neb o'r ymgeiswyr eraill, ond fe fuasai'n well eu gadael lle y cafwyd hwynt na'u dwyn i mewn megis gerfydd eu gwallt a'u hieuo'n anghymarus â llinellau eraill mwy cyffredin a wnaed gan Siôn ei hun.
Cyn gorffen sôn am y llawysgrifau hyn, hoffwn dynnu sylw at hunangofiant byr ganddo sydd i'w gael yn eu plith. Gan ei fyrred, barnwyd yn fuddiol ei godi'n gyfan yma:
Pregethwr, llenor, ac amddiffynnwr hawliau cenhedloedd gweiniaid. Fe'i ganwyd yn Abergele, ac yno y treuliodd ei febyd, oddieithr ychydig flynyddoedd yn Liverpool a Bodelwyddan. Pan oedd yn 18 oed aeth i Athrofa'r Bala. Wedi hynny bu am flwyddyn a hanner mewn ysgol ieithyddol yn Lausanne, yn yr hon yr oedd hen athro Ffrengig meibion y Tywysog Gortschakoff yn ben. Oddi yno aeth i Heidelberg, Bonn a Giessen, ac wedi dychwelyd adref bu am ddwy flynedd neu dair yn Ninbych yn ysgrifennu i'r Gwyddoniadur ac i'r Faner. Wedi hynny, bu'n bugeilio eglwysi Methodistaidd Rhuthyn a Threfnant, ac y mae'n awr yn ymgartrefu yn y Rhewl, gerllaw Rhuthyn. Er bod yn hoffach ganddo fyw yn y wlad nag mewn tref, a bod yn ei ystafell gyda'i lyfrau nag ymddangos mewn cylchoedd cyhoeddus, eto bydd yn treulio ei oriau haf bob blwyddyn yn un o wledydd y Cyfandir. Er cymaint a welodd ac a ddadleuodd, y mae ganddo syniad uchel am Gymru, iaith Cymru, a hen lenyddiaeth Cymru, ac y mae wedi ysgrifennu llawer i annog ei gydwladwyr i roi mwy o bris arnynt eu hunain ac ar eu hiaith, ac ar bob peth gwerthfawr sy'n eu gwahaniaethu oddi wrth y genedl y maent yn fwyaf tueddo! i'w dynwared. Yn y Faner (yr un Fawr), Y Geninen, a'r atodiad i'r Gwyddoniadur yr ymddangosodd y rhan fwyaf o'i ysgrifeniadau. Gan nad oes ganddo fawr o feddwl o'r typical Englishman, sef Saeson uniaith, anwybodus, a thrahaus, fel Chamberlain, y mae'r Cymry mwyaf Seisnigaidd yn ei gyhuddo o fod yn gulfarn, ond y mae dysgedigion tramor yn beio'n dost ar y Cymry am na byddai mwy ohonynt mor Gymreigaidd ac mor Europeaidd eu syniadau ag ef. Dyma a ddywed y Proffeswr Zimmer o'r Almaen amdano wrth ohebydd y Celt: "A! bachgen iawn ydyw Emrys. Dyna Gymro yn wir yn yr hwn nid oes dim twyll. Ond am rai o'ch ysgolorion, dyn a'u helpo!"
Er cystal yw'r disgrifiad hwn gan Emrys ap Iwan ohono'i hun a'i neges, y mae, fel y mae'n gweddu, un peth mawr ar ôl, sef ansawdd ei Gristnogaeth. Bwriadwyd i'r gyfrol hon fod yn dystiolaeth o hyn. Yr oedd ei grefydd yn ddwfn ac yn eang, ac yn rhoi cadernid i'w holl argyhoeddiadau am na chedwid hi ar wahân i'r un ohonynt. Ymboenai â threfniadau manylaf yr eglwys am fod cymaint yn dibynnu ar ei heffeithiolrwydd fel cymdeithas. Ceisiai erlid pob rhith ohoni er mwyn amlygu ei grym. Dyma paham y beiddiai sathru hyd yn oed ar deimladau anwylaf rhai credinwyr, megis yn yr anerchiad ar y cyfarfod gweddi. Er ei fod yn ansicr o werth y weddi gyhoeddus, eto y mae ei lawysgrifau yn dyst o'i fawr ofal wrth baratoi ei weddïau cyhoeddus ei hun. Ymgodymai ag anawsterau disgyblaeth eglwysig, a phraw o'i welediad clir a threiddgar i gymhlethdod y pwnc yw ei fod ar adegau yn llymach ei farn nag ar adegau eraill. Gwelai gymaint oedd ynghlwm wrth y mater. Yn anad dim mynnai ochel plwyfoldeb a bychander a hunangyfiawnder cecrus sectyddiaeth, ac yr oedd ei weledigaeth o Eglwys Crist fel un tyfiant byw gogoneddus ac amlganghennog yn ei gadw rhag llawer crebachdod. Ei ddelfryd i'w enwad oedd ei weld yn ddigon mawr a mawrfrydig i fod deilwng eglwys y Cymry (y genedl fel yr Eglwys o osodiad dwyfol), ac felly yn gangen urddasolach a ffrwythlonach o Eglwys Crist.
Lle ni ddangosir yn amgen, codwyd cynnwys y gyfrol hon o lawysgrifau Emrys ap Iwan ei hun. Talfyrrwyd mewn rhai mannau, ond nid oes dim wedi ei newid, ag eithrio'r orgraff a rhai manion iaith, fel yr eglurwyd yn rhagymadrodd y gyfrol gyntaf.
Diolchir i Mr. G. J. Williams, M.A., Caerdydd, am fwrw golwg dros y proflenni ac awgrymu gwelliannau. Diolchir yn awr unwaith eto, ar ddiwedd y gyfres hon o waith Emrys ap Iwan, i Mr. Prosser Rhys ac i'r cyfeillion yng Ngwasg Gee am bob gofal chyfarwyddyd. Dymunaf ddiolch hefyd i'r Athro Bleddyn Jones—Roberts, M.A., B.D., am ei barodrwydd i sgrifennu rhagair i ysgrif Emrys ar Gyfraith Moses, a'r Proffwydi, a'r Salmau.
Gorffennaf, 1940.
D. MYRDDIN LLOYD.[2]
RHAGAIR I'R YSGRIF GYNTAF
GAN BLEDDYN JONES-ROBERTS
Fe gaiff y darllenydd ifanc ei synnu wrth ddarllen yr ysgrif gyntaf yn y gyfres hon. Diau y dywaid ynddo'i hun mai Emrys ap Iwan ydoedd yr arloeswr yng Nghymru ar fater y feirniadaeth hanesyddol a'i lle yn niwinyddiaeth ein pobl. Ond nid cywir hynny. Fe gofia'r rhai hŷn mor danbaid ac eiddgar yr ymleddid trosti ac yn ei herbyn yn niwedd y ganrif ddiwethaf. Yn 1898, blwyddyn cyhoeddi ysgrif Emrys, rhoddwyd y radd D.D. gan Brifysgol Cymru i'r Prifathro T. C. Edwards, ac fe erys ei esboniad ef ar y Corinthiaid hyd heddiw yn un o glasuron beirniadaeth "fodern." Hefyd yn 1898 y dechreuwyd cyhoeddi'r Hastings' Dictionary of the Bible o'r un safbwynt, ac fe erys hwn i raddau pell yn safonol. Fe gafodd cystal derbyniad yng Nghymru â chan unrhyw wlad; "gwaith godidog," meddai adolygydd yn y Traethodydd, "y mae pob gair a ysgrifennir gan ddynion fel A. B. Davidson, S. R. Driver, a H. B. Swete, yn sicr o feddu rhyw swyn i feddwl pob efrydydd manwl o'r Beibl yn y dyddiau hyn." Yn 1899 fe gyhoeddodd y Traethodydd ysgrif hir ac ysgolheigaidd "Dr. Fritz Hommel a'r Uwchfeirniaid," ac felly ymlaen. Nodaf y pethau hyn o blith llawer yn unig i rybuddio'r darllenydd y geill feddwl yn anghywir am gyflwr diwinyddiaeth Cymru yn niwedd y ganrif ddiwethaf os cred fod pawb yn haeddu'r cerydd a rydd Emrys ap Iwan. Hefyd dylid dweud nad ar ochr Emrys oedd y doniau i gyd. Meddyliwn wrth ddarllen yr ysgrif, am ddwy erthygl yn pleidio'n wahanol a gyhoeddwyd yn y Drysorfa yn 1898 gan Cynddylan Jones, yntau hefyd yn eithaf pencampwr.
Hyd y gwelaf i, seilia Emrys ap Iwan y rhan fwyaf o'r ysgrif ar lyfr enwog a hynod ddiddorol gan W. Robertson Smith, o'r enw The Old Testament in the Jewish Church. Fe'i cyhoeddwyd gyntaf yn 1881, ond yr ail argraffiad, yn 1892, sydd fwyaf adnabyddus ar silffoedd gweinidogion a siopau llyfrau ail-law. Ac y mae'r llyfr wedi dal ei dir yn rhyfedd. Ar lawer pwnc ni ddaeth dim i'w ddisodli, a chan hynny gellir dweud hefyd fod y rhan fwyaf o syniadau ysgrif Emrys yn cynrychioli syniadau heddiw. Fe ddeil rhan fwyaf o'r gosodiadau ar ffurfio Canon yr Hen Destament, ac â hyn yr ymwna'r erthygl mewn gwirionedd. Ond y dull diweddaraf o drafod y Canon yw gwneud mwy o sylw o'r cyfieithiadau cynnar i ieithoedd cymdogion yr Iddewon, sef yr Aramaeg a'r iaith Roeg. Nid wyf yn credu y dysgir heddiw mai amod derbyn i'r Canon oedd bod llyfr wedi ei ysgrifennu yn yr Hebraeg. A hefyd fe sonnir mwy heddiw am y mathau o lenyddiaeth a geir yn yr Hen Destament, megis am y Gyfraith fel cyfarwyddyd, a llyfrau'r proffwydi fel casgliadau oraclau yn cynnwys barddoniaeth a damhegion. Ond ni olyga hyn bod y syniad am egwyddor y Canon wedi newid o ran ei sylfaen. Ni wn am ddim yn y Gymraeg y gallaf gyfeirio'r darllenydd ato ar y pwnc, ond y mae angen llyfr yn ein hiaith ar hanes y Canon a hanes Beirniadaeth Ysgrythurol, ac yn anad dim i gynnwys cipdrem ar hanes beirniadaeth Feiblaidd yng Nghymru. Yn y cyfamser diddorol fyddai darllen gweithiau dau Brifathro, sef G. A. Edwards yn Y Beibl Heddiw, a T. Lewis yn Yr Hen Destament.
Fe deimla'r cyfarwydd ei bod yn rhaid cywiro rhai manion y cyfeiria'r ysgrif atynt. Er enghraifft, fe gysyllta'r awdur yr hanes deublyg am y creu â dylanwad Persia. Bellach gellir profi mai dylanwad Babilonaidd, a hwyrach hanesion o genhedloedd eraill, sydd arnynt. Hefyd, nid yw dadl y Deg Gorchymyn wedi ei thorri yn y modd yr awgryma Emrys, ac nid yw'n derfynol mai cyfraith Josïa ydoedd Deuteronomium; ac felly ymlaen.
Ond y mae'r ysgrif yn rhyfeddol. Y mae'r egwyddor y cred yr awdur ynddi yn ddiogel, ac erbyn hyn, y sawl a ystyrir yn ystyfnig ac yn afresymol yw'r sawl a gondemnir gan yr awdur yn yr ysgrif hon. Fe deilynga ei lle ar ddechrau'r gyfrol, nid yn gymaint am y wybodaeth sydd ynddi o'r ffeithiau yr ymdrinir â hwy, ond oherwydd praffter meddwl yr awdur ei hun, a'i fod yn awgrymu mor eglur y llwybr y mae'n rhaid i astudiaeth Feiblaidd ei ddilyn.
CYFRAITH MOSES, A'R PROFFWYDI, A'R SALMAU
Nid yw'r peniad uchod namyn ymadrodd yn Luc xxiv 44; ac yr wyf yn ei gymryd yn destun ychydig sylwadau ar ffurfiad ac ar raniadau'r Hen Destament, yr hwn yw'r llyfr gorau o bob llyfr yng ngolwg yr Iddewon, a'r ail orau yng ngolwg Cristnogion hefyd.
Er mai sylwedd y Beibl ydyw'r peth pwysicaf o lawer, eto ni ellir iawnsynio am y sylwedd heb wybod rhywfaint am ei ffurf, ac yr wyf i'n ofni mai ychydig ddarllenwyr y Beibl yng Nghymru sy'n gwybod nemor am ffurfiad a dosbarthiad Hen Destament na'r Newydd. Y mae a wnelo'r ddeubeth hyn â'r amser y sgrifennwyd y gwahanol lyfrau; a heb wybod yr amser y sgrifennwyd hwynt, ni allwn chwaith wybod pa ddylanwad a gafodd crefyddau cenhedloedd eraill ar grefydd yr Israeliaid a'r Iddewon. Er mai i'r rhain y rhoddwyd y datguddiad llawnaf, eto fe roddwyd rhywfaint o ddatguddiad i genhedloedd eraill hefyd, canys fe ddywed Paul na adawodd Duw mono'i hun yn ddidyst mewn un rhan o'r ddaear; ac fe ddywed awdur y bedwaredd efengyl hefyd fod y Gair tragwyddol yn goleuo pob dyn a'r sydd yn dyfod i'r byd. "Iachawdwriaeth sydd o'r Iddewon"; er hynny, y mae'r Iddewon, hyd ryw fesur, yn ddyledus i'r Groegiaid, i'r Persiaid, ac i'r Eifftiaid. Fe ysbeiliodd yr Israeliaid yr Eifftiaid o ryw bethau amgenach na bethau amgenach na thlysau aur a thlysau arian; a phe na buasent wedi eu caethgludo i Fabilon, a'u dwyn trwy hynny i gysylltiad â'r Persiaid, ychydig os dim o sôn a fuasai yn yr Hen Destament am y dull y crewyd y byd, am nef a Hades ac uffern, am Satan a Gabriel a Michael, am y sarff a dwyllodd Efa yn Eden, am anfarwoldeb enaid ac atgyfodiad y corff. Gan ei bod yn hysbys i'r cyfarwydd fod yr holl bethau hyn yn hen grefydd y Persiaid, ac nad oes un cyfeiriad eglur atynt yn yr Hen Destament, oddieithr yn y llyfrau a sgrifennwyd ar ôl y caethiwed, yna y mae'n naturiol casglu mai yn naear Persia yr eginodd ac y tyfodd yr athrawiaethau hyn. Gormod o beth fyddai dywedyd mai yno y cafodd yr Iddewon yr hadau; diogelach yw dywedyd gyda Kuenen mai crefydd y Persiaid a brysurodd dyfiant yr hadau a oedd o'r blaen yn gorwedd yn guddiedig yn y grefydd Iddewig.
Yn awr, gan fod yr hanes am greadigaeth y byd ac am gwymp dyn wedi eu dodi yn nechrau'r Beibl, y mae'n hawdd i ddarllenydd cyffredin feddwl bod y penodau blaenaf yn yr Hen Destament wedi eu sgrifennu yn gynt na'r llyfrau sydd yn sefyll yn agos i'w ddiwedd; a bod y Salmau hefyd, gan eu bod wedi eu casglu ynghyd i'r un fan, wedi eu sgrifennu tua'r un amser. Ond nid yw bod lliaws o bethau o'r un natur wedi eu dwyn ynghyd i'r un llyfr ddim yn profi eu bod wedi eu sgrifennu gan yr un awdur, ac ar yr un pryd. Nid oes dim yn fwy profedig na bod y llyfrau yr ydys yn eu priodoli i Foesen wedi eu sgrifennu gan wahanol awduron, a hynny ar wahanol amserau; a hyn sy'n egluro paham y ceir ynddynt ddau draddodiad gwahanol am y Greadigaeth, am y Dilyw, am sefyllfa'r Tabernacl, am ddechreuad y Saboth, ac am liaws of bethau eraill. Nid ar unwaith chwaith y rhoddwyd y gyfraith sydd ynddynt; eithr yn llin ar lin, yn orchymyn ar orchymyn, fel y byddai amgylchiadau yn gofyn.
Pe buasai Cristnogion mwy eu sêl na'u gwybodaeth wedi deall ac addef bod y goruwchnaturiol wedi dyfod hyd atom ar hyd ffyrdd naturiol, fod y gair sydd o Dduw wedi ei roddi trwy ddynion, fod y trysor hwn gennym mewn llestri pridd, a bod y llestri'n rhoi peth o'u lliw a'u llun a'u blas ar y trysor, pe gwybuasent nad yw ysbrydoliaeth y Beibl ddim yn gyfystyr ag anffaeledigrwydd y llythyren; ar air, pe buasent yn fwy o Brotestaniaid nag o Babyddion, ni buasai cymaint o agendor rhwng crefyddwyr anwybodus ac anghredinwyr gwybodus ag sydd yr awr hon. Yn wir, ymlyniad rhagfarnllyd y rhan fwyaf o Gristnogion wrth draddodiadau'r tadau, a'u diofalwch am gadw gorchmynion trymaf cyfraith Crist, sydd wedi gyrru cynifer yn anffyddwyr mewn gwledydd Cristnogol. Gan y bydd addysg yng Nghymru cyn hir agos mor uchel a chyffredinol ag yr ydoedd hi yn yr Almaen ryw hanner can mlynedd yn ôl, y mae'n ofynnol i bawb sydd yn addysgu eraill, pa un bynnag ai o'r pulpud ai mewn dosbarth, iawn gyfrannu gair y gwirionedd, a rhoi y cyfryw eglurhad arno ag a fyddo yn ei ganmol ei hun wrth bob cydwybod dynion. Canys os ceisiwn barchu. gair Duw trwy amharchu rheswm a chydwybod dynion, yna ni gollwn ein haelodau a'n gwrandawyr mwyaf goleuedig, fel y collwyd hwy mewn llawer gwlad arall. Fe fuasai Cristnogaeth yn llawer uwch ei phen yn y byd nag ydyw hi heddiw pe derbyniasai Cristnogion bob gwirionedd newydd â chalon hawddgar a da, yn lle'i dderbyn megis o'u hanfodd ar ôl hir ymladd yn ei erbyn. Ymladd a wnaethant yn erbyn darganfyddiadau seryddiaeth a darganfyddiadau daeareg; ac ymladd y mae llawer ohonynt heddiw eto yn erbyn darganfyddiadau anianeg a darganfyddiadau hynafiaeth; ac ymladd ond odid a wnânt hyd oni chredant mai trwy natur ei hun y mae Duw yn datguddio pethau natur, ac mai trwy yr Ysbryd ei hun y mae o'n datguddio pethau'r ysbryd.
Er bod y dysgedigion pennaf mewn rhai pethau yn wahanol eu barn am yr Hen Destament, eto y maent mewn llawer o bethau wedi dyfod i gytundeb hollol; a rhyfygus yw'r dyn a daero fod y pethau a gredir yn ddiamau ymhlith dynion annysgedig cyn wired â'r pethau a gredir yn ddiamau ymhlith dynion dysgedig. I ba beth y mae dysg a doniau dda os nad ydynt yn cymhwyso'r rhai a'u medd i arwain y rhai nis meddant. "Digon i'r disgybl fod fel ei athro," medd yr Iesu, ond y mae rhai o ddilynwyr yr Iesu yn mynnu gwelláu'r adnod trwy ddywedyd, "Digon i'r athro fod fel ei ddisgybl." "Y mae gennyf i gystal hawl i farnu â'r gorau o ddynion," medd ambell un. Oes, yn ddiau; y mae ganddo gystal hawl i farnu, ond nid oes ganddo gystal hawl i benderfynu. Yn wir, nid oes ganddo ddim hawl o gwbl i benderfynu bod 2 a 2 yn gwneud 5, fod troedfedd cyhyd â llathen, mai clwt gwastad yw'r ddaear ynghanol y dyfroedd, fod yr haul yn troi o'i hamgylch bob dydd, nad yw sêr y nef namyn mân lusernau i'n goleuo ni liw nos, fod ffurfafen las yn do i'r ddaear ac yn llawr i'r nef, a bod y Beibl Cymraeg wedi disgyn oddi uchod yn un llyfr cyfan, ac wedi'i gyfieithu a'i argraffu a'i rwymo mewn modd gwyrthiol.
Yn awr, ni ddylid derbyn na gwrthod dim sydd hen am ei fod yn hen, ac ni ddylid chwaith dderbyn na gwrthod dim sy newydd am ei fod yn newydd. Derbyn a ddylem yr hyn sydd wir a phrofedig pa un bynnag fyddo, ai hen ai newydd. A chofier nad hen ydyw pob peth a dybir ei fod yn hen, ac nad newydd ydyw pob peth a dybir ei fod yn newydd. Er enghraifft, fe daera rhyw ddosbarth yn y wlad hon mai gwell yw'r hen syniadau am y Beibl na syniadau beirniaid diweddar, heb wybod nad yw'r syniadau y maent hwy yn eu cyfrif yn newydd namyn hen syniadau Calfin a Luther Diwygwyr Protestannaidd eraill. Am Calfin, y gŵr y mae ei enw ar Fethodistiaid cyntefig Cymru, yr oedd o'n barnu y dylai pwnc y Canon fod yn bwnc agored ymhlith Cristnogion; am mai rheswm a chydwybod dyn ei hun, ynghyd â thystiolaeth yr Ysbryd yn ei galon, sydd i benderfynu pa lyfrau sydd ysbrydoledig a pha lyfrau nad ydynt ysbrydoledig, ac nid traddodiadau'r Rabbiniaid Iddewig a'r Tadau Eglwysig.[3] Am hynny, nid oedd o'n cyfrif Luther yn anffyddiwr o achos bod hwnnw'n barnu y dylasai'r Rabbiniaid fod wedi cau allan o'r Canon lyfrau'r Caniadau, y Pregethwr, Esther, a'r Croniclau, ac o achos ei fod barnu nad oedd epistolau Iago a Suddas, yr Epistol at yr Hebreaid a Llyfr y Datguddiad, ddim yn gyfartal eu hawdurdod â llyfrau eraill y Testament Newydd. Protestaniaid oedd y ddau ŵr hyn, ond mhen rhyw gan mlynedd fe droes y rhan fwyaf o'u dilynwyr yn hanner Pabyddion trwy roi mwy o bwys ar draddodiad dynion ac ar awdurdod cynghorau nag ar dystiolaeth cydwybod a thystiolaeth yr Ysbryd.
Nid oes un camsyniad mwy cyffredin na bod Hen Destament yr un faint, yr un fath, ac yn yr un drefn, ymhob oes er dyddiau Esra уг offeiriad. Mewn gwirionedd yr oedd rhannau helaeth ohono heb eu sgrifennu yn ei amser ef, ac ni chasglwyd holl lyfrau'r Testament hwnnw ynghyd hyd Gymanfa Jamnia ym mhen rhyw hanner can mlynedd ar ôl marw Crist. Yn y gymanfa honno fe gafodd y Rabbi Aciba gryn waith i argyhoeddi ei gyd-Rabbiniaid fod llyfrau Esther, y Croniclau, a'r Pregethwr, yn llyfrau cysegredig. Am y rheswm hwn, a'r rheswm nad yw Crist a'i apostolion yn gwneud un cyfeiriad atynt, fe dybia llawer nad oeddid yn cyfrif y llyfrau hyn yn llyfrau cysegredig yn amser Crist. Ond nid yw'r ffaith na chyfeiriasant hwy atynt ddim ynddi ei hun yn braw nad oeddid yn eu cyfrif yn llyfrau ysbrydoledig, ac nid yw eu gwaith yn dyfynnu o lyfrau eraill ddim ynddo'i hun yn braw bod y rheini yn ysbrydoledig; canys y mae llawer yn barnu bod yr Apostolion, os nad yr Iesu hefyd, yn dyfynnu o lyfrau'r Apocryff, a hyd yn oed o lyfrau sydd wedi myned ar goll, am na cheir rhai o'u dyfyniadau mewn dim llyfrau sydd yn awr ar gael. Y ffaith ydyw nad oedd Canon yr Hen Destament ddim wedi ei sefydlu yn amser Crist. Am hynny, yr oedd Hen Destament yr Iddewon oedd yn siarad yr iaith Roeg yn cynnwys cryn lawer mwy o lyfrau na Thestament yr Iddewon oedd yn llefaru iaith Canaan. Nid oedd Iddewon Palestina yn cyfrif dim llyfrau yn ysbrydoledig oddieithr y llyfrau a sgrifennwyd yn yr Hebraeg.[4] Yr oedd Iddewon y tu allan i Balestina yn barnu, o'r tu arall, lefaru o Dduw trwy Iddewon Groegaidd hefyd, hyd yn oed ar ôl i'r hen iaith Hebraeg beidio â bod yn iaith lenyddol; ac felly, yr oeddynt hwy'n cymysgu'r llyfrau a sgrifennwyd yn yr iaith Roeg, sef yr Apocryff, â'r llyfrau a gyfieithwyd o'r Hebraeg. Fe ŵyr y darllenydd ond odid fod yr un gwahaniaeth barn yn bod ymhlith Cristnogion hefyd, canys y mae Hen Destament y Catholigion yn fwy na Hen Destament y Protestaniaid, am fod y Catholigion, a llefaru'n grwn, yn derbyn Hen Destament yr Iddewon oedd ar wasgar, a'r Protestaniaid yn derbyn Hen Destament Iddewon Palestina. Y mae'n wir fod y Protestaniaid hefyd yn cydnabod ei bod yn fuddiol darllen y llyfrau Groegaidd, ac am hynny'n eu dodi ar eu pennau eu hunain rhwng yr Hen Destament a'r Newydd; ond gan fod y llyfrau hyn yn rhy Babyddol eu dysgeidiaeth gan Brotestaniaid Prydain, fe ddarfu i Gymdeithas y Beiblau, ryw 70 mlynedd yn ôl, benderfynu peidio â'u cyd—rwymo o hynny allan â'r Beiblau a argreffid yn eu gweithdy hwy.
Gan fod disgyblion yr Iesu agos i gyd wedi eu magu ar lan Llyn Tiberias, y mae'n sicr eu bod hwy'n medru Groeg yn llawn cystal ag y medr y rhan fwyaf ohonom ninnau Saesneg. Yn wir, y mae'n amlwg mai o'r Hen Destament Groeg y byddent hwy'n fynych yn dyfynnu; a hynny ydyw'r rheswm bod yr ymadroddion dyfynedig yn y Testament Newydd mor annhebyg i'r ymadroddion sydd yn ein Hen Destament ni. Er bod Beibl Iddewon Palestina yn bur debyg i'r Hen Destament sydd yn awr yn ein dwylo ni, eto yr oedd ei lyfrau wedi eu dosbarthu yn bur wahanol. Yn ôl natur eu cynnwys yr ydys wedi dosbarthu'r llyfrau yn ein Hen Destament ni; ac felly, y llyfrau cyfreithiol sy'n sefyll ymlaenaf, y llyfrau hanesyddol yn ail, y llyfrau barddonol ac addysgol yn drydydd, a'r llyfrau proffwydol yn olaf. Yn y Beibl y cyfeiria'r Iesu ato yn y testun yr oedd y llyfrau wedi eu dosbarthu yn ôl eu gwerth a'u hawdurdod, ac felly'r gyfraith sy'n sefyll ymlaenaf, y proffwydi yn nesaf, a'r Salmau yn olaf. Er bod yr Iddewon yn cyfrif holl lyfrau'r Hen Destament yn ysbrydoledig, eto y Gyfraith yn unig a alwent hwy'n Sgrythur ac yn Air Duw. Nid oedd yr holl lyfrau eraill amgen nag esboniad dynion Santaidd Duw ar y Sgrythur. Y Gyfraith yn unig a ddarllenent hwy'n gyson ac yn rheolaidd yn eu synagogau. Yn awr ac yn y man y byddent yn darllen rhannau detholedig o'r Proffwydi, ac ni byddent yn darllen Salmau o gwbl yn eu synagogau, er eu bod yn canu Salmau yn y deml. Yn wir, yr oedd llyfr y Gyfraith yn eu golwg hwy gymaint santeiddiach na'r llyfrau eraill, fel nas cadwent ef yn yr un gist â hwynt-hwy. Yn y gwrthwyneb, yr ydym ni Gristnogion yn rhoi mwy o fri ar y Salmau a llyfrau'r Proffwydi nag ar y Gyfraith, am eu bod hwy'n fwy efengylaidd, ac felly'n debycach eu haddysg i lyfrau'r Testament Newydd.
Ond pa rannau o'r Hen Destament a feddylir wrth y Gyfraith? Y pum llyfr blaenaf a feddylir wrthi yn y testun, ac yn llyfrau diweddaraf yr Hen Destament; ond yn y llyfrau a sgrifennwyd cyn amser Hesecia, y Deng Air Deddf a feddylir wrthi'n gyffredin; ond weithiau y mae hi'n cynnwys Llyfr y Cyfamod, sef y llyfr sy'n cynnwys yr unfed bennod ar hugain o Ecsodus a'r ddwy bennod ddilynol. Weithiau hefyd y mae hi'n golygu'r Deng Air Deddf, ynghyd â'r holl ddeddfau oedd ar lafar a heb eu sgrifennu; canys yng nghof dynion byw ac nid mewn llyfrau y byddid yn trysori gwybodaeth hyd amser y proffwydi cyntaf. Nid yw'n debygol ddarfod i Foesen ei hun sgrifennu dim heblaw'r Deng Air Deddf ar ddwy lech;[5] er bod rhai'n barnu mai o'i enau ef y daeth cynnwys Llyfr y Cyfamod hefyd. Fel y mae Llyfr y Salmau'n gasgliad o'r holl salmau a wnaed hyd ddyddiau'r Maccabeaid, felly y mae llyfrau Moesen yn cynnwys yr holl ddeddfau a wnaeth offeiriaid Israel hyd amser Esra: a chan mai ar gyfraith Moesen y sylfaenwyd pob deddf ddiweddarach, yr oedd yr Iddewon, er mwyn cyfleustra, yn galw'r holl ddeddfau gyda'i gilydd yn gyfraith Moesen.
Er hynny, y mae'n amlwg i ddarllenydd gweddol graff fod yn llyfrau Moesen dair cyfraith, sy'n wahanol iawn eu hoedran a'u cynnwys. Y mae'r gyfraith gyntaf a symlaf yn gynwysedig yn Llyfr y Cyfamod, sef Ecs. xxi—xxiii; a honno a fu mewn grym hyd amser y Brenin Iosïa. Y mae'r ail gyfraith yn gynwysedig yn Llyfr Deuteronom;[6] a honno a fu mewn grym o amser Iosïa hyd amser Esra. Y mae'r drydedd gyfraith, sef y Gyfraith Lefiticaidd, yn gynwysedig yn y rhan olaf o Lyfr Ecsodus, ac yn Lefiticus a Numeri; a hon a fu mewn grym o amser Esra hyd ddinistr y drydedd deml yn y flwyddyn 70 o oed Crist.
Yn ôl y gyfraith gyntaf, yr oedd yn rhydd i bob penteulu yn Israel aberthu, a hynny ymhob rhyw fan. Yn ôl yr ail gyfraith, yn y tabernacl neu'r deml yr oedd rhaid aberthu; a chan y Lefiaid yn unig yr oedd hawl i aberthu yn y fan honno. Yn ôl y drydedd gyfraith gan deulu Aaron yn unig yr oedd hawl i aberthu, ac yr oedd y Lefiad a feiddiai nesáu at yr allor i aberthu yn euog o farwolaeth. Y mae hyn ei hun yn ddigon i ddangos bod y drydedd gyfraith yn gaethach na'r ail, a bod yr ail yn gaethach na'r gyntaf.
Am wyth gan mlynedd ar ôl marw Moesen nid oedd neb yn Israel yn gwybod am un gyfraith amgen na'r gyntaf, a chan nad oedd neb yn gwybod am un arall, teg yw penderfynu nad oedd un gyfraith arall yn bod y pryd hwnnw, canys pe buasai un o'r ddwy arall yn bod, yna fe fuasai dynion gorau'r Hen Destament yn euog o bechodau rhyfygus. Fe fuasai Gideon, Manoa, Samwel, Saul, a Dafydd, yn euog o farwolaeth am aberthu mewn lleoedd anghyfreithlon; ac yn wir am aberthu o gwbl, a hwythau heb fod offeiriaid. Fe fuasai'r bachgen Samwel yn euog o farwolaeth am gysgu yn y stafell yr oedd arch Duw ynghadw ynddi; ac fe fuasai Solomon yn euog o farwolaeth am aberthu wrth gysegru'r deml. Ie, fe fuasai miloedd o dduwiolion Israel yn euog am aberthu yn Sichem, Bethel, Mispa, Offra, Gilgal, Rama, Gibeon, Hebron, Bethlem, Beerseba, Cades, Mahanaim, Tabor, a Charmel. O'r tu arall, ni buasai meibion Eli yn euog o un bai eglwysig am wneud yr hyn a wnaent wrth aberthu pe buasai'r gyfraith Lefiticaidd mewn grym; ac ni buasai gan Elias ddim achos i feio ar Ahab a'i dylwyth am ddinistrio allorau'r Arglwydd yng ngwlad Israel pe buasai'n hysbys fod yr allorau hynny'n anghyfreithlon.
Mewn gwirionedd, yr oedd esbonwyr yr oes o'r blaen, wrth daeru mai Moesen oedd awdur y gyfraith Ddeuteronomaidd a'r gyfraith Lefiticaidd, yn rhoi achos cyfiawn i anffyddwyr ddywedyd nad yw'r hanes a geir yn yr Hen Destament yn ddim amgen na chymysgfa o anghysonderau. Heblaw hynny, yr oedd yr esbonwyr hyn yn myned yn erbyn tystiolaeth eglur a phendant y Proffwydi eu hunain; canys y maent hwy'n dywedyd na roddwyd y deddfau aberthol ac offeiriadol yn yr anialwch "A offrymasoch chwi imi aberthau a bwyd—offrymau yn y diffeithwch?" ebe Amos; ac ebe'r proffwyd Ieremia yr un ffunud: "Ni ddywedais i wrth eich tadau, ac ni orchmynnais iddynt, y dydd y dygais hwynt allan o'r Aifft, am boeth-offrymau ac aberthau." Ebe Esiais hefyd: "Ni pherais iti fy ngwasanaethu ag offrwm, ac ni'th flinais ag arogl-darth." Ac ebe fo mewn man arall: "Beth yw lluosowgrwydd eich aberthau i mi, medd yr Arglwydd? Gwaed bustych ac ŵyn a bychod nid ymhyfrydais ynddynt. Eich lleuadau newydd a'ch gŵyliau gosodedig a gasaodd fy enaid; maent yn faich arnaf; blinais yn eu dwyn." Yn lle ymarfer â'r defodau hyn, gwnewch eich dyletswyddau moesol "peidiwch â gwneuthur drwg, dysgwch wneuthur daioni." Y mae'r proffwyd Mica hefyd mor efengylaidd a gwrth-offeiriadol ag Esaia, canys y mae o'n dywedyd: "A pha beth y deuaf gerbron yr Arglwydd? A ddeuaf fi ger ei fron Ef â phoeth-offrymau a dyniewaid? A foddlonir yr Arglwydd â miloedd o feheryn, ac â myrddiwn o ffrydiau olew? Dangosodd Efe i ti, ddyn, beth sydd dda. A pha beth a gais yr Arglwydd gennyt, ond gwneuthur barn, a hoffi trugaredd, ac ymostwng i rodio gyda'th Dduw?"
Ar y gyfraith Israelaidd ac ysbrydol hon, a roddwyd trwy Foesen a'r proffwydi, ac nid ar y gyfraith Iddewaidd a wnaed gan Esra yr offeiriad, y darfu i'r Iesu sylfaenu ei efengyl. Fe dystiolaethodd Paul fod y gyfraith o ran ei chnewyllyn yn santaidd, yn gyfiawn, ac yn dda; ond pan fydd o'n cyfeirio at ei phlisgyn, y mae o'n ei galw'n ddeddf caethiwed, a'i hegwyddorion yn egwyddorion llesg a thlodion. Er hynny, yr oedd y plisgyn a wnaed gan yr offeiriaid yn angenrheidiol ar y pryd i gadw'r cnewyllyn, canys fe fu'r rheolau manwl a chwanegasant hwy at gyfraith seml Moesen a'r proffwydi yn foddion effeithiol i ddiddyfnu'r genedl oddi wrth eilunaddoliaeth; ac yn wir, fe ellir dweud mai'r rheolau hynny a fu'n foddion i gadw'r Iddewon yn genedl wahanedig. Meddylier, er enghraifft, am y gwaharddiad i briodi estronesi. Fe fuasai hwn yn orchymyn llym ac afreidiol ar lawer adeg, ond yn amser Nehemia yr oedd yn orchymyn angenrheidiol; canys pe buasai'r dyrnaid o Iddewon a oedd wedi gweled yn dda ddychwelyd o Fabilon i'w gwlad eu hunain yn dechrau ymgymysgu trwy briodas â'r cenedloedd oedd o'u hamgylch, buan iawn y peidiasent â bod yn genedl, ac wrth beidio â bod yn genedl, hwy a gollasent eu crefydd, ac fe fuasai'r golled honno yn golled i'r holl fyd. Er mai crefydd gul ac anianol oedd crefydd yr Iddewon o'i chymharu â hen grefydd yr Israeliaid, eto yr oedd y grefydd honno, sef y grefydd Lefiticaidd, yn athro at Grist; am mai hyhi oedd yn gwneud genedigaeth Crist o had Dafydd yn beth posibl. Yr oedd hyd yn oed caethder y gyfraith hon yn tueddu i baratoi'r Iddewon mwyaf ysbrydol i dderbyn yr efengyl, sef perffaith gyfraith rhyddid. Yn wir yr oedd cyfraith yr Iddewon mor gaeth fel na allwyd ei chadw'n fanwl mewn un oes. Yr oedd y degymau mor fawr fel na ellid eu talu'n llawn, y gŵyliau mor feithion a lluosog fel na ellid eu cadw oll, a'r cosbau am fân droseddau mor llym fel na feiddiai'r awdurdodau mo'u gweinyddu.
Y mae awdur anhysbys y Llythyr at yr Hebreaid yn gweled yn y tabernacl a'i ddodrefn, yn yr archoffeiriad a'r aberthau, gysgodau o bethau nefol. Hyn, ymhlith pethau eraill, a barodd i'r Eglwysi Gorllewinol, oddieithr Eglwys Rufain, gau allan y llyfr hwn o'r Canon hyd y bumed ganrif. Yr oedd Calfin am yr un rhesymau'n barnu nad Paul oedd ei awdur, a Luther yn myned mor bell â thaeru na allai awdur mor Iddewaidd fod yn ysbrydoledig. Y mae'n wir fod syniadau'r awdur hwn am y ddeddf Lefiticaidd yn bur wahanol i syniadau Paul amdani, ond rhaid cofio mai ei amcan ef oedd cymodi'r Iddewon â Christnogaeth trwy geisio dangos nad oedd y grefydd newydd namyn cyflawniad o'r hen.
Ychydig iawn a ddywedaf am y proffwydi a'r Salmau. Wrth y proffwydi y meddylir nid yn unig lyfrau'r proffwydi a elwir yn briodol felly, ond hefyd y prif lyfrau hanesyddol, megis Ioswa, y Barnwyr, Llyfrau Samwel, a Llyfrau'r Brenhinoedd. Nid oeddid yn cyfrif Daniel ymhlith y proffwydi; am hynny, yn y trydydd dosbarth y ceid ei lyfr ef Beibl Hebraeg.
Fel y sylwyd o'r blaen, y mae syniadau'r proffwydi, yn enwedig y proffwydi cyntaf, yn fwy eang, a'u hathrawiaeth yn fwy ysbrydol nag athrawiaeth yr offeiriaid. Yr oedd rhai o'r proffwydi diweddaraf yn offeiriaid eu hunain, ac am hynny, yn rhoi mesur o fri ar aberthau a defodau eraill. Yn ôl y gyfraith offeiriadol, yr oedd Duw'n cyfrannu ei ras i Israel trwy'r offeiriaid; yn ôl y proffwydi, trwy'r gair yr oedd o'n cyfrannu ei ras. Yn ôl hen grefydd yr Israeliaid y proffwyd ac nid yr offeiriad oedd yn gyfryngwr rhwng Duw a dynion: "Pe safai Moses a Samuel ger fy mron (ebe Duw), eto ni byddai fy serch ar y bobl yma." "Yn ôl y proffwydi, yr oedd crefydd Israel (medd Robertson Smith) yn wahanol i grefyddau eraill, ac yn rhagori arnynt o achos nad ydoedd hi ddim yn grefydd aberthol."
Y llyfrau cysegredig y gelwid y trydydd dosbarth lyfrau'r Hen Destament, ond fe'u gelwid weithiau, fel yn y testun, yn Salmau; am mai Llyfr y Salmau oedd gynt yn sefyll ymlaenaf yn y dosbarth. Ar ôl y Salmau yn y dosbarth hwn, yr oedd y llyfrau Hebraeg a sgrifennwyd ddiweddaraf, ac a ystyrid yn lleiaf eu hawdurdod, megis y Diarhebion, Job, Ruth, y Galarnad, Daniel, Esra, Nehemia, a'r Croniclau. Ar ôl hir a chyndyn ddadlau fe benderfynwyd chwanegu at y llyfrau hyn Lyfr Esther, a'r Pregethwr, a'r Caniadau; a hynny'n bennaf am eu bod wedi eu sgrifennu'n Hebraeg. Er hynny, nid oedd yr Iddewon yn caniatáu i'w plant ddarllen y Caniadau hyd oni byddent yn ddeg ar hugain oed. Yn ddirgel ac nid yn gyhoeddus y byddai'r Iddewon yn darllen holl lyfrau'r dosbarth hwn, oddieithr Llyfr y Salmau. Ni ddarllenid y llyfr hwnnw chwaith yn gyhoeddus, eithr fe genid rhannau ohono yng ngwasanaeth y deml; ond ni chenid dim ohono yn y synagogau, am nad oedd dim canu ynddynt hwy. Braidd y mae'n rhaid dweud mai trefn gwasanaeth y synagog a ddilynwyd ar y cyntaf yn yr eglwysi Cristnogol.
Gan ddarfod cyfansoddi'r Salmau ar wahanol amserau y mae syniadau'r awduron am natur Duw ac am ddyletswyddau dyn yn bur wahanol. Y mae rhai ohonynt yn darlunio Duw fel bod sy'n preswylio uwchlaw'r ddaear, ac yn edrych i lawr ar feibion dynion. Y mae eraill, sy'n fwy ysbrydol, yn darlunio Duw fel bod sy'n llenwi pob man, ac yn treiddio trwy bob peth. Y mae rhai ohonynt yn gosod cryn bwys ar aberthau, ac eraill yn cyfrif aberthau yn bethau afreidiol. Israeliaid[7] oedd awduron y Salmau mwyaf ysbrydol, ac Iddewon oedd awduron y Salmau mwyaf defodol. Y mae'n amlwg mai dilynwyr Samwel y proffwyd, ac nid dilynwyr Esra'r offeiriad, a draethodd y syniadau efengylaidd hyn: "Aberth ac offrwm nid ewyllysiaist; poeth-offrwm a phech-aberth nis gofynnaist." "Arglwydd, agor fy ngwefusau, a'm genau a fynega dy foliant; canys ni chwenychi aberth, pe amgen, mi a'i rhoddwn; poeth-offrwm ni fynni. Aberthau Duw ydynt ysbryd drylliedig; calon ddrylliog, gystuddiedig, O Dduw, ni ddirmygi." "A fwytaf fi gig teirw, neu yfaf fi waed bychod? Abertha foliant i Dduw, a thâl i'r Goruchaf dy addunedau; a galw arnaf Fi yn nydd trallod, a Mi a'th waredaf [heb aberth], a thi a'm gogoneddi." Dilynwyr y proffwydi, meddaf, a draethodd y syniadau hyn; ac yr oedd holl addysg y proffwydi yn seiliedig ar gyhoeddiad Samwel, proffwyd cyntaf brenhiniaeth Israel, yr hwn a ddywedodd: "Wele, gwrando sydd well nag aberth, ac ufuddhau na braster hyrddod."
Yn y sylwadau hyn, yr wyf wedi dwyn i mewn syniadau beirniaid estronol a rhy anturus o fath y Ffrancwr Réville, y Batafiad Kuenen, a'r Allman Wellhausen; ond nid wyf wedi eu dilyn hwy ond yn unig cyn belled ag y mae'r beirniad Brytanaidd Robertson Smith yn eu dilyn. Y mae hynny yr un peth â dweud fy mod wedi eu dilyn cyn belled yn unig ag y maent yn cytuno â'r beirniad mwy gochelgar Reuss. Am fod hwn yn Ffrancwr ag ynddo waed Ellmynig, y mae'n cyfuno ynddo'i hun wybodaeth a barn yn fwy nag un beirniad arall ar yr Hen Destament. Dyweder a fynner yn erbyn gormod rhysedd rhai o'r beirniaid diweddar, y maent oll fel ei gilydd yn cerdded yn fwy neu lai union ar hyd y "ffordd newydd a bywiol" a agorodd y Protestaniaid cyntaf. Calfin, yn anad neb arall, yw tad ac athro pob beirniad hanesyddol, pa un bynnag ai Reuss ai Robertson Smith fyddo'i enw; a phe bai'r Methodistiaid Calfinaidd yn dilyn Calfin yn hytrach yn ei syniad rhydd am y Sgrythurau nag yn ei syniad caeth am etholedigaeth, byddent yn fwy Galfiniaid, ac felly'n fwy o Brotestaniaid, o lawer nag ydynt. Beirniaid hanesyddol yn unig sy'n feirniaid Protestannaidd; a beirniadaeth hanesyddol yw sylfaen beirniadaeth destunol a sgrythurol.<ref>Y mae'r crach-lenorion sy'n meddwl bod cyfieithu yr un peth â Chymreigio geiriau estronol o sillaf i sillaf, yn galw beirniadaeth hanesyddol yn "uwch-feirniadaeth," a beirniadaeth destunol yn "is-feirniadaeth"! Yn enw rheswm, pa hyd y caniateir i siopwyr werthu papur ac inc i Gymry nad ydynt yn medru Cymraeg nac un iaith arall?<ref> Yn awr, gan hynny, ni raid i neb ymgyffroi o achos bod beirniadaeth hanesyddol yn ymwthio o'r Cyfandir trwy Loegr i Gymru; canys unig effaith hynny yn y pen draw fydd gwneud Cristnogion Cymru yn fwy Protestannaidd, a'u dwyn yn ôl i'r tir diogel y safodd Calfin arno. Dyma'r unig dir y gallwn ymladd oddi arno ag anffyddwyr heb ddefnyddio arfau'r Pabyddion, ac â Phabyddion heb ddefnyddio arfau anffyddwyr. Na feddylied neb fy mod wrth amddiffyn Protestaniaeth y Cyfandir, yn amddiffyn Anglicaniaeth a Phuritaniaeth y wlad hon; canys nid yw'r rhain ddim amgen na Phabyddiaeth Lloegr wedi ei chymysgu â mwy neu lai o Brotestaniaeth y Cyfandir; a chan eu bod yn gorffwys mewn rhan ar reswm ac mewn rhan ar draddodiad, ni ddichon iddynt sefyll yn hir. Am hynny yr ydys eisoes yn gweled bod y rhan fwyaf o'r Anglicaniaid yn ymdroi'n Babyddion, a bod y rhan fwyaf o'r Puritaniaid yn ymdroi'n Brotestaniaid. Hynny o Brotestaniaeth a ddaeth i'r wlad hon, o'r Cyfandir y daeth o, a dylem fod yn hytrach yn llawen nag yn drist wrth weled mwy ohoni'n dyfod drosodd yn y dyddiau hyn nag a ddaeth yn nyddiau'r Ffrancwr Calfin, yr Yswisiad Zuinglius, a'r Allman Luther. Y Cymry a ddylai fod y bobl barotaf o bawb i groesawu Protestaniaeth bur a llwyr, canys onid yw egwyddor fawr Protestaniaeth yn gynwysedig yn gryno mewn un o'n hen ddiarhebion: "Rhydd i bob dyn ei farn, ac i bob barn ei llafar."
DAMHEGION CRIST
Yn y Beibl fe roddir i'r gair dameg neu gyffelybiaeth ystyr tra eang, gan ei fod weithiau'n arwyddo dihareb, weithiau foeswers, weithiau wireb dywyll, ac weithiau hanes arwyddluniol. Yr oedd Crist fel addysgwr yn Feistr neu athro, yn efengylydd, ac yn broffwyd i benaethiaid anghrediniol y bobl trwy ei waith yn tystio yn eu herbyn i'r gwirionedd. Ac fe ellir rhannu'r damhegion yn dri dosbarth sy'n cyfateb i'r tri theitl hynny, sef: 1. Y damhegion athrawiaethol, sy'n mynegi'r gwirionedd cyffredinol am deyrnas Dduw, megis y saith dameg ym Mathew xiii; 2. Y damhegion efengylaidd, sy'n arddangos daioni a gras Duw tuag at bechaduriaid a thrueiniaid; 3. Y damhegion proffwydol neu farnol, sy'n cyhoeddi cyfiawnder Duw fel un yn talu i ddynion yn ôl eu gweithredoedd. Dealler mai trwy rybuddio a cheryddu, fel Elias, yn hytrach na thrwy ragfynegi yr oedd yr Iesu'n proffwydo. Nid yw pob dameg yn perthyn mor gaeth i un dosbarth fel na ellid ei gosod mewn dosbarth arall, canys y mae dameg y swper mawr, er enghraifft, yn efengylaidd ac yn farnol.
Y mae'r rhan fwyaf o ddamhegion Mathew yn athrawiaethol ac yn farnol, a'r rhan fwyaf o rai Luc yn efengylaidd. Er bod yr efengylau yn cynnwys llawer o'r un pethau, eto y mae iddynt eu nodau neilltuol. Y mae efengyl Mathew yn hytrach yn Iddewaidd, ac efengyl Luc yn fwy dynol a chyffredinol. Felly nid oes odid ddameg yn Efengyl Luc heb fod yn llawn trugaredd ac ewyllys da tuag at bechaduriaid. Gan fod Luc yn gydymaith i'r Apostol Paul oedd yr yn naturiol iddo wneud ei efengyl yn efengyl maddeuant, a maddeuant a geir trwy ffydd.
O'r saith dameg a geir ym Mathew xiii, fe lefarwyd y pedair blaenaf wrth y gynulleidfa gymysg, a'r tair olaf wrth y disgyblion o'r neilltu. Gellir golygu Dameg yr Heuwr yn rhagymadrodd i'r chwech eraill, a gellir dosbarthu'r chwech hyn yn dri phâr, am fod pob pâr yn gosod allan yr un gwirionedd cyffredinol mewn gwedd wahanol.
Pâr 1. Yr efrau a'r rhwyd.
Pâr 2. Yr had mwstard a'r surdoes.
Pâr 3. Y trysor a'r perl.
Y gwirionedd mawr a ddysgir yn nameg yr heuwr yw bod dylanwad y Gair yn dibynnu ar ystad y galon. Min y ffordd, neu fin y llwybr sathredig oedd yn myned trwy'r maes. Wrth dir draenog y golygir, nid tir â pherthi drain yn tyfu arno ar y pryd, ond tir heb ei lwyr lanhau oddi wrth wraidd neu hadau drain. Wrth dir da y golygir y rhan o'r maes oedd yn rhydd oddi wrth feiau'r rhannau eraill, ac felly ar unwaith yn rhywiog, yn ddwfn, ac yn lân.
Ni sonnir yn nameg yr Heuwr am wrandawyr hollol galongaled sy'n diystyru'r gair. Er bod min y ffordd a'r creigleoedd yn anfanteisiol iawn i dderbyn yr had, eto nid craig noeth ydyw'r naill na'r llall. Gwrandawyr difeddwl a dideimlad ydyw'r dosbarth blaenaf, eto nid at fod yn anobeithiol. Nid o ddiffyg gallu meddyliol mae eu hurtrwydd ysbrydol yn dyfod, ond o fod eu meddwl wedi myned yn sathrfa i ewyllysiau'r cnawd a syniadau bydol. Nid yw'r ail ddosbarth yn ddideimlad, ond y maent hwythau'n ddifeddwl. Y maent i'w canmol am dderbyn y Gair gyda llawenydd; am ei dderbyn heb ystyriaeth y maent i'w beio, a'r hyn sy'n profi eu bod heb ystyriaeth ydyw eu bod heb ragweled y blinder a'r erlid sy'n eu haros. Nid oes gan wrandawr o'r dosbarth hwn wreiddyn ynddo'i hun, hynny ydyw yn y cyneddfau sy'n cyfansoddi personoliaeth, sef y rheswm a'r gydwybod a'r ewyllys; y mae'r rhain yn aros yn galed, a gwraidd eu ffydd heb dreiddio iddynt. Yn eraill y mae ei wreiddyn ef, sef yn y brwdfrydedd sy'n meddiannu'r cyffredin. Enghraifft o'r dosbarth hwn oedd yr un a ddywedodd wrth Grist, "Mi a'th ganlynaf i ba le bynnag yr elych." Yr oedd diwygiad mawr ar hyn o bryd yng Ngalilea.
Gŵr dauddyblig ei feddwl, neu ddauddyblig ei ewyllys ydyw'r un a dderbyniodd yr had ymhlith y drain. Ei fai ef ydyw dwyn dau gnwd, gyda'r canlyniad y bydd i'r cnwd gwaethaf ddifetha'r cnwd gorau. Ei ddalen ni wywa, yn hytrach hi a dyf hyd oni ddelo'r dywysen, ond gwerdd fydd y dywysen pan ddylai hi fod aeddfed. Yn yr ystyr yna y dywedir ei fod yn myned yn ddiffrwyth. Ef a ddwg ffrwyth ond nid i berffeithrwydd. Ef a all fod yn gadwedig, ond ni bydd ei fywyd yn ddefnyddiol nac yn ddaionus ei ddylanwad. Enghraifft o'r dosbarth hwn oedd yr un a ddywedodd: "Mi a'th ganlynaf di, O Arglwydd, ond gad imi'n gyntaf ganu'n iach i'r rhai sydd yn fy nhŷ."
Y mae gwrandawr y tir dreiniog yn derbyn neu yn deall y gair, ac yn ei gadw hefyd. Ei unig fai ydyw nad ydyw ef yn ei dderbyn a'i gadw ef yn unig. Y mae gwrandawr y tir da yn gwneud hynny, ac felly y mae ei feddwl ef yn syml fel ei lygad. Hyn a feddylia Luc wrth ddywedyd bod ganddo galon ardderchog a da. Dyn â'i amcan yn uchel ac yn llwyr ymroddi i'w amcan, ydyw meddwl yr ymadrodd hwn.
YR EFRAU A'R RHWYD
Nid yw'n sicr a lefarwyd yr holl ddamhegion a geir ym Mathew xiii ar yr un pryd, ond fe gytuna pawb i'r Iesu lefaru tair ohonynt, sef dameg yr Heuwr, yr Efrau, a'r Rhwyd, oddi ar ei eistedd yn y llong ar fin môr Galilea. Y maent ill tair yn gweddu i gyflwr naturiol y rhan honno o'r wlad, a hefyd i gyflwr moesol y gwrandawyr. Damhegion pruddaidd ydyw'r rhai hyn, am y golygir teyrnas Dduw ynddynt fel peth amherffaith a siomedig.
Er bod perthynas agos rhwng y tair a'i gilydd, y mae perthynas agosach rhwng dwy, sef dameg yr efrau dameg y rhwyd, oblegid yr un gwirionedd cyffredinol ddysgir ynddynt, sef y bydd cymysgedd o ddrwg a da yn nheyrnas Dduw hyd ddiwedd amser; ac er cynddrwg ydyw'r cymysgedd hwnnw ynddo'i hun, mai doeth ydyw ei oddef hyd oni wahano Duw y drwg a'r da. Er hynny, y mae'r ddwy ddameg yn gwahaniaethu mewn dau beth o leiaf. Yn un peth, fe briodolir y drwg yn nameg yr efrau i falais gwrthwynebwr, tra priodolir ef yn nameg y rhwyd yn hytrach i ddamwain. Yn ail ac yn bennaf, fe ddangosir yn nameg yr efrau nad yw gwahanu'r drwg oddi wrth y da yn beth i'w ddymuno, tra awgrymir yn nameg y rhwyd bod hynny'n beth amhosibl: canys rhaid i'r pysgod da a drwg aros ynghyd yn y rhwyd nes eu tynnu i'r lan. Heblaw'r ddau wahaniaeth yna fe roddir yn nameg yr efrau fwy o amlygrwydd i'r cymysgedd, ac yn nameg y rhwyd fwy o amlygrwydd i'r didoliad.
DAMEG YR EFRAU.
Er bod dameg yr efrau wedi ei hegluro gan yr Iesu ei hun, fe'i cyfrifir yn un o'r rhai anhawsaf i'w deall. Oddi wrth ei eglurhad Ef fe ddangosir mai personau ydyw'r gwenith a'r efrau, tra dangosir yn y ddameg flaenorol mai gair y deyrnas ydyw'r gwenith, ac mai'r byd y mae'r personau hynny'n byw ynddo ydyw'r tir, ond yn nameg yr heuwr mai meddwl y rhai sy'n gwrando ydyw'r tir. Hefyd plant yr un drwg ydyw'r efrau, a phlant y deyrnas ydyw'r had da. Ond yr anhawster yma ydyw penderfynu pa un ai gau Gristnogion ydyw'r efrau, ai ynteu dynion drwg yn gyffredinol? Y maes yw'r byd, medd Crist; ond fe ddangosir yn adnod 41 fod y byd yn gyfystyr â'i deyrnas ef, ac nid yw'r deyrnas yn ddim amgen na'r eglwys weledig sydd yn y byd. Yn ail, ni buasai’n briodol cyffelybu pob math o bechaduriaid i efrau, ond yn unig y rhai sydd debycaf o ran golwg i saint, a'r rhai y mae'n hawdd i'r cyffredin eu cymryd yn lle saint. Yn drydydd, ni buasai raid i ddiafol hau cnwd o ddynion drwg yn y byd i gyd-fyw megis ochr yn ochr â phlant y deyrnas, canys yr oedd dynion drwg yn bod yn y byd cyn sefydlu'r deyrnas. Ond os gau Gristnogion, math o bechaduriaid na buasent ddim bod oni buasai am Gristnogaeth, a olygai'r Iesu wrth yr efrau, y mae'n hawdd deall paham y soniodd Ef am yr ail hau a fu yn y maes.
Y mae'r efrau gan hynny yn y deyrnas; ond wrth farnu felly, yr ydys yn gorfod wynebu anhawster arall, sef pa fodd y gellir goddef rhai drwg yn yr eglwys heb wadu hawl yr eglwys i ddisgyblu? Y mae amryw esboniadau ar hyn:
1. Esboniad y Catholiciaid, sydd ar fyr eiriau fel hyn:—Na chasgler yr efrau pan fo perygl diwreiddio'r gwenith gyda hwynt; eithr gwneler hynny ar unwaith pan na bo perygl.
2. Esboniad Luther, a ddywed mai'r hyn a waherddir ydyw dinistrio'r efrau. Fe all swyddogion eglwysig esgymuno hereticiaid, ond gan swyddogion gwladol y mae hawl i'w lladd hwynt. (Esboniad gwerth ei goffáu, ond rhy wael i'w gredu.)
3. Esboniad Jerome, a llawer o esbonwyr diweddar, sy'n amgeneirio un o ymadroddion y ddameg fel hyn: "rhag i chwi yn amryfus ddiwreiddio'r gwenith yn lle'r efrau." Eithr am bob peth y mae'n amlwg nad gwenith mohono, megis drain a mieri, diwreiddier hwynt yn ddi-oed. Nid yw gwir weision yr Arglwydd heb adnabod yr efrau, ond ni ddylid diarddel neb ond y sawl y bo'i ddrygioni yn amlwg i gorff yr eglwys. Ond yn y ddameg ni ddywedir: Rhag i chwi ddiwreiddio y gwenith yn lle'r efrau; ond rhag i chwi ddadwreiddio'r gwenith gyda hwynt. Felly ni ellir osgoi'r casgliad bod yr Iesu yn cyhoeddi y dylem er mwyn diogelwch y gwenith, oddef yr efrau, er gwybod mai efrau ydynt.
Yr esboniad diweddaraf, sef nad gosod i lawr reol ddisgyblaethol y mae'r Iesu yma, ond annog ei ddisgyblion i feithrin ysbryd pwyllog a goddefgar, rhag iddynt, wrth fod yn rhy sicr mai hwynt-hwy ydyw'r gwenith, ac mai eraill ydyw'r efrau, fyned yn Phariseaidd, ac felly eu hatal eu hunain rhag tyfu ac aeddfedu. Gadael i'r gwenith dyfu i berffeithrwydd ydyw'r pwnc pwysig, ac nid cael gwared o'r efrau. Oni ellir cyrraedd y ddau amcan ar yr un pryd, fe ddylid gofalu rhag aberthu'r amcan pwysicaf er mwyn yr amcan lleiaf ei bwys. Y mae'n ofynnol sylwi nad yw'r Iesu wrth esbonio'r ddameg ddim yn egluro'r ymadroddion y dadleuir yn eu cylch; a hynny ond odid er mwyn rhoi ar ddeall nad at ddyletswydd y saint tuag at ragrithwyr y mynnai Ef dynnu sylw, ond at y ddwy ffaith hon: Sef bod yr eglwys ar hyn o bryd yn gymysgedig, ac y llwyr lanheir hi yn y farn ddiwethaf.
YR HAD MWSTARD A'R SURDOES
Yn y ddwy ddameg hyn, ac yn nameg yr had yn tyfu'n ddiarwybod fe ddisgrifir teyrnas nefoedd yn tyfu. Dengys y flaenaf gynnydd allanol y deyrnas fel cymdeithas weledig, a'r ail ei chynnydd mewnol o ran ei dylanwad moesol ar y dyn neu ar y gymdeithas a'i derbynio hi. Dengys y drydedd y bydd ei chynnydd yn ddirgel, yn raddol, ac yn ddigymell, ac felly, ei bod yn rhaid wrth amynedd i aros am ei pherffeithrwydd. . . . Bwriadwyd y tair i beri gobaith ac amynedd mewn amgylchiadau â thuedd ynddynt i beri digalondid. Fel yr oedd damhegion yr Heuwr a'r Efrau yn dangos. ochr dywyll y deyrnas, felly y mae dwy ddameg y Mwstard a'r Surdoes yn dangos ochr olau'r deyrnas. Yr un gwirionedd cyffredinol a ddysgir yn y ddwy, sef bod teyrnas nefoedd i fyned yn fawr—yn fawr ei maint yn ôl dameg yr Had Mwstard, fawr ei dylanwad santeiddiol yn ôl dameg y Surdoes.
Nid oes eisiau gofyn pwy neu ba beth a arwydda'r wraig yn y ddameg, ond efallai ddarfod arfer y gair "cuddio" i berwyl neilltuol, sef i ddangos mai'n ddistaw a di-rwysg y dygodd yr Iesu athrawiaeth y deyrnas i'r byd. "Nid ymryson efe, ac ni lefain, ac ni chlyw neb ei lais ef ar yr heolydd." Yn hytrach na'i gyhoeddi ei hun i'r byd, ei drefn Ef oedd dylanwadu ar ychydig, ac yna dylanwadu trwyddynt hwythau ar lawer.
"Hyd oni surodd y cwbl oll." Os dywed yr Iesu mewn man arall fod ei ddisgyblion yn halen y ddaear, ac yn oleuni'r byd, a ellir dweud hefyd eu bod yn lefain y byd? Gellir, o ran tuedd ac amcan, er nad o ran ffaith. Bwriadwyd Cristnogaeth i ddylanwadu mewn rhyw fodd ar bawb oll, ond nid yw'n canlyn y bydd y dylanwad lefeiniol ymhob achos yn llwyr a chyflawn.
Y TRYSOR A'R PERL
Dyma'r gwirionedd a ddysgir yn y ddwy ddameg hyn: sef gwerth anghymharol teyrnas Crist, neu fendithion teyrnas Crist; mai yng ngolwg y rhai y mae'n wiw ganddynt aberthu pob peth er ei mwyn y mae hi'n werthfawr; a thra bo rhai yn ei chael heb ei cheisio, ei chael y mae eraill trwy hir a dyfal chwilio amdani. Yr hyn a gyffelybir yma, yn wirioneddol, i'r trysor cuddiedig, ydyw'r meddiant personol a'r had o'r deyrnas, gyda'i holl ragorfreintiau. Mai'r deyrnas ydyw'r daioni pennaf, ac y dylid gwneud pob peth arall yn ddarostyngedig iddi, yw dysg yr Iesu yn Luc ix 60, Math. xvi 24, xix 21, a Luc xiv 26.
Paham na ddywedasid i'r dyn gymryd y trysor a gawsai ef heb ymdrafferthu i brynu'r maes? Nid am y rheswm y buasai'n anghyfreithlon, er bod hynny'n wir, canys nid oedd ef nemor gonestach wrth brynu'r maes heb roi ar ddeall pa beth a welsai ynddo. Mewn un peth yn unig yr oedd ef yn esampl i eraill, sef yn ei barodrwydd i roddi i fyny bob peth er mwyn un peth gwerthfawrocach. Fe fynnai'r Iesu rywfodd neu'i gilydd ddangos bod yr hwn a gawsai'r trysor yn bwrcaswr hefyd, er mwyn rhoi ar ddeall fod rhyw brynu neu aberthu yn angenrheidiol tuag at feddiannu teyrnas nefoedd. Ond os ydyw'r deyrnas o ras paham y mae'n rhaid pwrcasu? Ac os ydyw i bawb, beth am rhai nad oes ganddynt fodd i brynu? Nid yw prynu yn golygu dim amgen na dangos ar weithred ein bod yn cyfrif y deyrnas yn bennaf peth; a rhaid i bawb wneud hynny, ac y mae gan bawb fodd i wneud cymaint â hynny. Y mae gan bob dyn galon, a'r neb a garo'r trysor â'i holl galon a'i caiff. Y pris a dalodd rhai o'r disgyblion oedd eu llongau a'u rhwydau. Y pris a ofynnwyd gan y gŵr ieuanc cyfoethog oedd ei feddiannau. Y mae'n ofynnol sylwi y darlunnir y naill ddyn fel y llall yn derbyn y deyrnas yn llawen—y blaenaf fel daioni heb ei ddisgwyl, a'r olaf fel daioni hir-ddisgwyliedig. Gweler Esaiah lxv 1, a Jer. xxix 13. I'r dosbarth blaenaf y perthyn y wraig o Samaria, Mathew, Zacheus, Saul; i'r olaf Nathanael a phawb oedd yn disgwyl am ddiddanwch yr Israel.
Heblaw'r gwahaniaeth y cyfeiriwyd ato, y mae ond odid wahaniaeth arall. Yn nameg y trysor fe osodir allan deyrnas nefoedd fel peth buddiol; yn nameg y perl fel peth prydferth neu addurnol, i awgrymu bod yn yr efengyl rywbeth i gyfarfod â chwaeth dyn yn ogystal ag â'i angen. Y mae hi'n ei gadw ac yn ei santeiddio. Wrth ddywedyd bod y marchnatawr hwn yn ceisio perlau teg, fe ddangosir ei fod yn ddyn chwaethus, ac fe awgrymir hefyd ei fod yn eu ceisio iddo'i hun o bur gariad tuag at y prydferth, ac nid i'w hailwerthu i eraill er mwyn elw.
DAMEG YR EGINYN, Y DYWYSEN, A'R YD YN LLAWN
Bwriadwyd y ddameg hon i ddysgu bod yr hwn sy'n hau'r Gair, a'r rhai yr heuir y Gair ynddynt, mewn ystyr yn oddefol, a bod y Gair yn tyfu ohono'i hun yn ôl deddfau sefydlog. Nid cefnogi dynion i fod yn ddiog, yn ddifater ac yn ddifeddwl ydyw amcan y ddameg, ond meithrin ynddynt ostyngeiddrwydd, ymddiried, ac amynedd.
Nid dysgu bod had yr yn tyfu'n ddirgel ydyw prif bwynt y ddameg, ond dysgu ei fod yn tyfu'n raddol yn ôl deddf naturiol. Yn lle pryderu a cheisio cynhyrchu tyfiant annaturiol, fe ddylai disgyblion Crist, fel yr amaethwr, ymdawelu yn yr ystyriaeth bod y deyrnas yn myned rhagddi yn ei hamser ei hun ac yn ôl ei deddfau ei hun. Un yn hau'n ddyfal heb ddisgwyl ffrwyth yn fuan oedd Crist ei hun ar y ddaear.
"Y modd nis gŵyr efe." Dangos y mae'r ymadrodd hwn, nid fod yr amaethwr yn anwybodus ynghylch deddfau tyfiant, ond ei fod yn ddibryder am y deddfau hynny. Hyn mewn effaith a ddywed yr Iesu: Y mae'r amaethwr yn ddiofal am gynnydd yr had am y gŵyr ef nad oes ganddo allu i atal nac i brysuro'r cynnydd, gan fod y ddaear ohoni ei hun yn dwyn ffrwyth; yn gyntaf yr eginyn, ar ôl hynny y dywysen, ac yna'r ŷd llawn. Gwybyddwch chwithau fod yr un ddeddf yn bod yn nheyrnas nefoedd. Am hynny, meithrinwch ysbryd yr amaethwr, sef yr ysbryd a gynhyrchir gan gydnabyddiaeth ddyledus o ddeddf tyfiant.
Y mae cynnydd yn y byd ysbrydol yn cyfateb i gynnydd yn y byd naturiol yn y tri pheth hyn: ei fod ohono'i hun (spontaneous), ei fod yn araf, a'i fod yn raddol (neu o radd i radd). Y mae'r heuwr yn peidio â bod yn ddiofal pan aeddfedo'r ŷd. Y cynhaeaf ydyw canlyniad pob datblygiad a ddigwyddo mewn person unigol, neu ynteu mewn cymdeithas; ac felly fe eill fod llawer cynhaeaf yn hanes yr eglwys cyn y farn diwethaf.
Y mae tair gradd yng nghynnydd y Cristion. Yn gyntaf, yr eginyn, neu os cymherir ef i bren, y blodeuyn. Wrth yr eginyn neu'r blodeuyn y golygir dechreuad amlwg y bywyd ysbrydol yn yr enaid. Yr ail radd ydyw'r dywysen ir, neu pan sonnir am bren, y ffrwyth ir. Er bod ffrwythau'r ysbryd ar y Cristion yn y cyflwr hwn, eto surion iawn eu blas ydynt. Nid yw ddrwg iddo fod yn y cyflwr hwn; y drwg yw aros ynddo heb fyned i'r trydydd cyflwr. Fel y mae pren newydd fwrw'i flodau yn edrych yn noethach nag o'r blaen, felly y mae'r Cristion yn y cyflwr hwn yn ymddangos yn fwy gwrthgiliedig nag oedd ar y cyntaf; ond i'r golwg yn unig y mae ef felly, ac am hynny, er maint y gwrthgiliadau a'r amheuon a'r profedigaethau a berthyn i'r cyflwr hwn, y mae'r hwn sydd ynddo'n ymddatblygu'n barhaus.
Y drydedd radd ydyw'r ŷd yn llawn yn y dywysen. Yn y cyflwr hwn, y mae'r Cristion, o ran ei ysbryd a'i ymarweddiad yn gyfryw ag y gellir dywedyd ei fod yn aeddfed i'r nef—ei lawenydd yn fwy tawel a sefydlog na phan oedd ef yn y cyflwr cyntaf, a'i ffydd yn fwy diymod na phan oedd yn yr ail gyflwr.
DARPARU A DERBYN YN GYFLAWN AELODAU
Nid arnaf i y mae'r bai fod y testun hwn mor amleiriog, ond ar Ymneilltuwyr eiddigus yr amser a aeth heibio, y rhai gan faint eu cas at eglwysi Lloegr a Rhufain, oedd yn anfoddlon i arferyd hen dermau eglwysig, pa mor gyfleus bynnag, oni cheid hwynt yn y Testament Newydd. Catechesis y geilw'r cyfundebau hynaf yr addysg neilltuol a roddir i aelodau ar braw, a chonffirmasiwn y galwant y gwaith o dderbyn yn aelodau cyflawn y sawl a fedyddiwyd yn eu babandod. Er nad yw'r geiriau hyn gennym ni, yr Ymneilltuwyr Cymreig, eto y mae'r pethau gennym mewn rhyw fesur. Ac amcan hyn o sylwadau ydyw dangos y dylem ni, a phawb sy'n gweled yn dda fedyddio babanod, roi mwy o bwysigrwydd ar addysgiaeth neilltuol aelodau anghyflawn, a mwy o hynodrwydd ar y dull o'u derbyn yn aelodau cyflawn. Y mae'n well fod gennym y pethau heb yr enwau na'r enwau heb y pethau; ond y mae lle i ofni mai mewn enw yn unig y mae gennym "aelodau ar brawf" yn y rhan fwyaf o'n heglwysi; canys pa brawf a roir arnynt, heblaw gofyn eu bod o leiaf bedair ar ddeg oed, eu bod yn gallu ateb rhyw hanner dwsin o holiadau tra chyffredin allan o'r bedwaredd bennod ar ddeg o'r Hyfforddwr, a'u bod yn gyfryw o ran eu cymeriad ag na bu'n wiw gan neb eu cosbi.
Nid wyf yn dywedyd mai rhai fel hyn yr ydym yn eu derbyn, ond yn hytrach ein bod yn derbyn rhai fel hyn. Os mynnwn gael eglwysi glân a ffrwythlon, ac ar yr un pryd arbed i ni'n hunain y gwaith annymunol o fwrw allan aelodau diffrwyth, gofalwn fod yr aelodau ar braw yn aelodau profedig mewn gwirionedd, cyn cael ohonynt eu cydnabod yn aelodau cyflawn. Na adawn i'r ffaith fod rhyw gyfundeb arall yn derbyn publicanod a phechaduriaid mawr ein hatal ni rhag dal i fyny'r gwirionedd mai cynulleidfa o saint a ddylai eglwys Dduw fod, ac y gwna cynulleidfa fechan o saint fwy o'i hôl ar y byd nag a wna cynulleidfa fawr a fyddo wedi ei chymysgu â nifer dda o wrthodedigion y Methodistiaid Calfinaidd.
Y mae lle i ofni mai'r ymgiprys sy rhwng cyfundebau Cymru am eneidiau glân neu aflan ydyw un achos paham y mae disgyblaeth y Methodistiaid yn llacach nag y bu hi, ac mai hynny sy'n peri ei bod yn anodd ganddynt roi praw llwyrach ar ieuenctid sy'n ymgeiswyr am aelodaeth eglwysig.
Yn y cyfryw ieuenctid ni ellir disgwyl duwioldeb na difrifwch hynafgwyr, ond yr ydys yn disgwyl cael ynddynt hwythau gryn fesur o'r hyn a elwir yn y Beibl yn sobrwydd: "Y gwŷr ieuainc yr un ffunud, cynghora i fod yn sobr." Fe ellir disgwyl hefyd iddynt hwy yn anad pawb fod yn awyddus am wybodaeth, ac felly nid mawr o beth fyddai iddynt erbyn diwedd amser eu plentyndod feddu o leiaf ddigon o wybodaeth Ysgrythurol i'w hiawn farnu eu hunain, ac i iawn farnu corff yr Arglwydd, y dymunant ar broffes wneuthur coffa cariadus amdano. Ofer ydyw eu derbyn yn gyflawn aelodau, gan ddymuno arnynt wrth eu derbyn, ymroi i gyflawni eu diffyg gwybodaeth ar y pryd, rhwng hynny a'r Sabboth y nesaont at fwrdd yr Arglwydd. Oblegid hyd y gwelais ac y clywais i, esgeulus fyth fydd y rhai sy'n esgeuluso ceisio'r wybodaeth angenrheidiol erbyn yr amser a benodwyd i'w holi yn y cyfarfod eglwysig.
Am hynny, braidd na ddywedwn y dylai ymgeiswyr erbyn yr amser hwnnw gasglu digon o wybodaeth nid yn unig i fod yn gyfranogion cymwys o Swper yr Arglwydd, ond hefyd i fyw arni am eu hoes pe byddai raid. Mewn rhannau helaeth o'r Cyfandir fe roir llawer mwy o fri ar yr ordinhad hon nag a roir arni yng Nghymru; ac am hynny y mae gan y gweinidogion Protestannaidd yn y rhannau hynny ddosbarth ryw ddwywaith yn yr wythnos am fis neu ddau bob blwyddyn i addysgu catechumens, neu ymgeiswyr tros bedair ar ddeg oed, a heblaw'r addysg a roddir iddynt yn y dosbarth fe roir iddynt dasgau trymion i'w gwneuthur gartref. Cynhelir y cyfarfod hwn fel rheol dri ar gloch y prynhawn, a pha un bynnag ai mewn ysgolion a ynteu mewn gwasanaeth y byddo'r ymgeiswyr, nid yw rhieni nac ysgolfeistraid, na meistraid eraill, yn gwarafun iddynt adael pob gwaith cyffredin er mwyn gallu ohonynt yn yr adeg bwysicaf o'u hoes fyned i dderbyn yr addysg orau—addysg berffaith llyfr y llyfrau. Mor wahanol ydyw hi yn awr yng Nghymru. Y mae llywodraethwyr anffyddol, trwy gymryd mantais ar genfigen sectol yr Ymneilltuwyr, nid yn unig wedi bwrw allan addysg grefyddol o'r ysgolion gwladwriaethol, ond hefyd wedi trefnu bod i athrawon dasgu eu disgyblion â chymaint o addysg fydol fel na chaffo plant amser i gasglu gwybodaeth grefyddol hyd yn oed gartref. Y mae hi'n hen bryd i swyddogion eglwysig ddweud yn benderfynol wrth blant a rhieni plant sy'n proffesu crefydd, na fynnant mo'r esgus gwael hwn; a dywedyd yr un mor benderfynol wrth ysgolfeistraid na chaiff addysg fydol ddim disodli addysg grefyddol ar yr aelwyd beth bynnag. Gan na byddai'n wiw dywedyd wrth rhieni mwyaf bydol nad trwy fara, na thrwy'r addysg a fwriadwyd i ennill bara, yn unig y bydd byw dyn, fe fyddai'n burion dangos iddynt na byddai eu plant ddim yn llai sicr o'u bara wrth roi cyfran resymol o'u hamser i dderbyn addysg grefyddol; canys pan ystyrir bod yr athrawon yn yr ysgolion gwladwriaethol yn dra anfedrus, a bod y prifathrawon yn gorfod addysgu wrth sistem sy nid yn unig yn anfuddiol, ond hefyd yn niweidiol i feddyliau'r rhan fwyaf o'r plant, ac yn gyff gwawd i bawb sy wedi astudio'r gelfyddyd o addysgu, fe ellir disgwyl i lawer o weinidogion a blaenoriaid yr eglwysi, wrth ddilyn dull mwy rhesymol, gyflawni diffyg yr addysg fydol, trwy wneud y plant nid yn unig yn wybodus ond hefyd yn ddeallus, ac felly eu cynorthwyo i ragori ymhob galwedigaeth ac ymhob cylch y byddont ynddynt.
Y mae'r cyfarfodydd y darperir ieuenctid ynddynt gogyfer â'r arholiadau ysgrythurol, a hyd yn oed gogyfer â'r holi cyhoeddus mewn ysgolion Sabbothol yn ddisgyblaeth dda i'r plant, ac yn helaethu eu gwybodaeth yn fawr; ond wedi'r cwbl, nid yw'r wybodaeth a enillant trwy hynny'n ddigon perthnasol na chyffredinol i'w cymhwyso i fod yn aelodau goleuedig o eglwys Crist. Gallant ragori flwyddyn ar ôl blwyddyn yn y meysydd a roddir iddynt i'w llafurio gan bwyllgor yr arholiad, a chan y cyfarfod ysgolion, heb gael yn y diwedd y brasolwg hwnnw ar holl faes y datguddiad dwyfol sy'n angenrheidiol i ddisgyblion Crist. Hanes bywyd yr Iesu, wrth reswm, ydyw'r peth rheitiaf i'w wybod, ond ni ellir deall yr hanes hwnnw'n iawn, os ddangosir ei gysylltiad â'r hyn sydd o'i flaen ac ar ei ôl. Am hynny, un o'r pethau cyntaf y dylai athro ei wneuthur ydyw dangos mewn modd syml i'r ymgeiswyr am aelodaeth, rediad a datblygiad y datguddiad a roes Duw ohono'i Hun ac o'i ewyllys. Er mwyn dangos hynny'n hytrach mewn ffordd hanesyddol nag mewn ffordd ddiwinyddol, fe ellid cysylltu'r datguddiad â phersonau neilltuol, neu â swyddogaeth y bardd, y proffwyd, yr efengylwr, a'r apostol, neu mewn rhyw fodd diddorol arall. Ynglŷn â hyn, fe ddylid addysgu'r ymgeiswyr i ddywedyd ar fyr eiriau beth ydyw baich neu brif bynciau pob llyfr yn y Beibl yn ôl trefn amseryddol. Ac er mwyn arbed ieuenctid rhag cael eu hysgytio yn annisgwyliadwy ar ôl hyn gan eu hamheuon eu hunain, neu gan ddadleuon dynion anffyddol, peth doeth iawn ydyw brysio i ddangos iddynt fod y Beibl, er yn ddwyfol o ran ei gynhwysiad, yn dra dynol o ran ei gyfansoddiad. Y mae'n wir ei fod wedi ei ysgrifennu ar wahanol adegau gan ddynion i ddynion; ac mai'r Eglwys, yr addawodd yr lesu fod yn ei chanol hyd ddiwedd amser, a gyfarwyddwyd, ie, a ysbrydolwyd i fesur, i benderfynu pa lyfrau a fwriadodd Duw i ddatguddio'n gywir ac yn gyflawn ei Gyfamod Newydd. Y mae llawer o Brotestaniaid yn rhy dueddol i anghofio'r gwirionedd na ellir yn rhesymegol honni bod y Testament Newydd yn anffaeledig heb honni bod yr Eglwys hefyd yn anffaeledig mewn cyfnodau ac amgylchiadau neilltuol.
Ond y mae rhai rhannau o'r Beibl mor hynod am eu buddioldeb fel y dylai ymgeiswyr am aelodaeth eglwysig eu gwybod yn fanwl; hynny ydyw, gallu eu hadrodd air yng ngair: megis y Salmau sy'n dechrau fel hyn: Arglwydd, pwy a drig yn dy babell; Gwyn ei fyd y neb y maddeuwyd ei drosedd; Trugarha wrthyf, O Dduw; Ti Arglwydd fuost yn breswylfa i ni; Yr hwn sydd yn trigo yn nirgelwch y Goruchaf; Fy enaid, bendithia'r Arglwydd; Arglwydd, chwiliaist ac adnabuost fi; a dwy neu dair o fân Salmau eraill mwy hysbys; y drydedd bennod o'r Diarhebion hefyd; y bennod o lyfr Esaiah sy'n dechrau fel hyn: Llefa a'th geg; rhannau o'r Bregeth ar y Mynydd; y drydedd bennod ar ddeg a'r bymthegfed bennod o'r Corinthiaid cyntaf.
Yr wyf yn barnu y byddai'n fuddiol i'r ymgeiswyr gydadrodd y pethau canlynol wrth gael eu derbyn, ac yn wir, nid wyf yn cofio i mi gymryd rhan mewn derbyn ond un ymgeisydd ieuanc erioed heb eu bod wedi gwneud cymaint â hyn, er na chawsent ond chwech neu saith wythnos i ymbaratoi: 1. Gweddi'r Arglwydd; 2. Y weddi foreol o'r drydedd salm; 3. Y weddi hwyrol o'r bedwaredd salm; 4. Y deg gorchymyn; 5. Y ddau orchymyn mawr; 6. Credo'r Apostolion yn ei ddull cyntefig; 7. Y Gwynfydau; 8. Yr hanner olaf o'r unfed bennod ar ddeg o'r Corinthiaid cyntaf; 9. Atebion i holiadau oddi ar yr adnodau hynny; 10. Y Weddi Apostolaidd.
Pe gwneid yn hysbys pa bethau y disgwylid i aelodau ar braw eu hadrodd wrth gael eu derbyn, gallent ddechrau eu dysgu yn eu plentyndod rhag cael o'r rhai arafaf a phrysuraf achos i ddywedyd bod ychydig wythnosau yn amser rhy fyr.
Yr wyf wedi awgrymu y dylid eu derbyn oll ar yr un adeg o'r flwyddyn, ac efallai mai ymhen rhai wythnosau ar ôl yr arholiad ysgrythurol, ac wythnos neu ddwy cyn Calan Mai fyddai'r adeg fwyaf cyfleus. Er mwyn gosod pwysigrwydd ar y gwaith, fe ddylid neilltuo un cyfarfod eglwysig yn gyfangwbl i'r perwyl hwn. Er mwyn arbed amser, a pheri mwy o ddiddordeb i'r gwrandawyr, gofynner i'r ymgeiswyr o'u sefyll, a'u hwyneb tuag at y gynulleidfa gydadrodd pop peth a roddwyd iddynt i'w ddysgu, oddieithr yr atebion i holiadau. Nid oes eisiau dangos bod derbyn lliaws gyda'i gilydd yn effeithiolach o lawer na'u derbyn o un i un yn awr a phryd arall, ac nid y daioni lleiaf sy'n dyfod o'r dull hwn ydyw ei fod yn magu rhwng yr ymgeiswyr fwy o frawdgarwch a chydymdeimlad a bery rhyngddynt gan mwyaf ar hyd eu hoes. Y mae'r brawd Lazarus yn glaf, y mae Rachel yn wylo am ei phlant. Yn wir, mi ddylwn fyned atynt i'w cysuro, oblegid ar yr un pryd â mi y gwnaed nhw'n gyfranogion o holl freintiau'r Eglwys, a ni a addawsom y pryd hwnnw y carem ein gilydd hyd y diwedd, megis y carodd Crist ninnau, ac nad anghofiem byth ein bod yn frodyr i'n gilydd wrth wneuthur coffa am ein brawd hynaf.
Mi fynnwn i annog swyddogion yr eglwysi i wneud un peth bach arall a fyddai'n fawr iawn gan aelodau ieuainc, sef rhoddi i bob ymgeisydd wrth ei dderbyn, gopi cryf o'r Beibl, ynghyd â chopi o'r Gyffes Ffydd, a'r Llyfr Emynau hefyd, os gallant;—nid wobr am eu llafur, ond yn hytrach yn goffadwriaeth am yr amgylchiad pwysig yn yr hwn cadarnhasant ohonynt eu hunain yr hyn a wnaeth eu rhieni trostynt yn y bedydd.
ARAITH YNGLŶN A CHASGLIAD Y TLODION
ANNWYL FRODYR,
Y mae'r adroddiad hwn y gofynnwyd imi dynnu'ch sylw ato yn traethu ei chwedl ei hun ddiduedd ac yn ddidramgwydd i bob un a'i darlleno, ac yn enwedig a'u cymharo â'r adroddiad blaenorol, fel nad yw'n angenrheidiol i mi fanylu nemor arno, pe gallwn. Am y rhai na allant, a'r rhai na fynnant ddysgu eu holl wersi, hwy a gânt, os ydynt yn swyddogion eu cynorthwyo yn y man gan wŷr cymwys a benodir i wneud sylw ar yr adroddiad hwn gan y Cyfarfod Misol; ac a gânt, os ydynt yn aelodau yn unig, eu cynorthwyo gan y rhai a benodir i ymweled â'r eglwysi. Bydd gan y rhai hyn fantais neilltuol i wybod i ba eglwysi ac i ba bethau y dylid priodoli'r hyn sy'n rhagorol neu'n ddiffygiol yn holl eglwysi Dyffryn Clwyd, a'u golygu yn un cyfangorff. Nid yw'r fantais hon gennyf i ar hyn o bryd, gan mai cyfanswm pob casgliad a chyfanrif yr ystadegau eraill sydd o'm blaen. Felly, gan mai cyffredinol ydyw fy ngwybodaeth am y Cyfrifon Ariannol, a'r Cyfrifon Personol, etc., cyffredinol (a chyffredin hefyd) fydd yr ychydig sylwadau a wnaf arnynt. Gadawaf bethau neilltuol gan mwyaf i wŷr y mae ganddynt wybodaeth neilltuol amdanynt, a chydymdeimlad neilltuol â hwynt.
"Am y gasgl i'r Saint" tlodion—y mae honno mor hynafol, mor gyffredinol, ac mor ysgrythurol, fel na faidd y Cristnogion mwyaf cynnil ddywedyd yn ei herbyn. Y mae'r rhai sy'n rhy ysbrydol hyd yn oed i sôn am gasgliadau eraill, oddieithr gyda digasedd yn ymostwng i lefaru mor ddaearol â'r apostol Paul ei hun am y gasgl hon. Ond cofier mai am fod yr angen yn un gwastadol a chyffredinol y mae casglu i'r tlodion yn ddyletswydd mor amlwg yn yr Ysgrythur: "Canys y mae gennych y tlodion gyda chwi bob amser." Pe buasai'r byd yn nyddiau'r apostolion yr hyn ydyw yn ein dyddiau ni, diau y buasai sôn nid bychan yn yr epistolau am y casgliad at y Gymdeithas Genhadol, a llawer casgliad arall. Ni byddai'n anodd profi bod yr Efengyl cyn ddruted, hyd yn oed mewn ystyr ariannol i'r Cristnogion cyntefig ag ydyw hi i ni, a'i bod ymhob ystyr gyda'i gilydd yn ddrutach o lawer. Nid eu harian yn unig a roddai dynion y pryd hwnnw, ond eu hunain hefyd, ac os nad yw dynion ariannog yn ewyllysgar i roddi arian yn helaeth i rai tlotach na hwy eu hunain, i'w cynorthwyo i wneud gwaith angenrheidiol, y mae gennym hawl i ofyn iddynt wneud y gwaith hwnnw eu hunain. Os ydys yn eu hesgusodi rhag eu rhoddi eu hunain, yn ystyr llawnaf yr ymadrodd, ni ddylid ar un cyfrif eu hesgusodi rhag rhoddi eu harian tuag at gadw dirprwywyr iddynt. Ac eto, y mae llawer na fynnant bregethu i Baganiaid, neu fugeilio eglwysi eu hunain, yn gwarafun rhoddi eu harian i eraill i wneud hynny; a chwaneg fyth yn gomedd rhoddi dim ohonynt eu hunain, sef o'u personau, yn eu rhoddion ariannol. Rhoddi ei arian wedi'r cwbl ydyw'r aberth lleiaf y gall dyn ei wneud hyd yn oed pe rhoddai ef yr hyn oll sy ganddo.
Y mae'n hawdd gennyf i gydymdeimlo â'r rhai sy'n teimlo y gall fod ymhlith cynifer â deg, dyweder, o gasgliadau eglwysig a chyfundebol, ryw un na allant hwy mo'i gefnogi; ond beth am y naw? A ydynt yn cefnogi fel y dylent y rhai y maent hwy yn eu cymeradwyo? Ac a ydynt yn gofalu bod y bunt a ataliant oddi wrth y degfed yn mynd i chwyddo eu rhodd tuag at bob un o'r lleill? Yn unig wrth ofalu bod cyfanswm eu rhoddion yn cyfateb i'w moddion y gallant argyhoeddi dynion nad cybydd—dod sy'n eu cymell i wrthod cefnogi rhyw gasgliad neilltuol. Byddai'n gryn beth inni allu perswadio'n gilydd i fod yn ddigon cyson â ni'n hunain i gefnogi fel y dylem yr achosion sy'n fwyaf cymeradwy gennym ni; canys pe llwyddid i wneud hynny, fe fyddai pob casgliad ar ei well, am fod pob achos crefyddol yn "achos mawr" gan ryw ddosbarth. Y mae "gwnawn dda i bawb, ond yn enwedig i'r rhai sydd o deulu'r ffydd," yn adnod Ysgrythurol, ac yn un a gredir yn ddiamau yn ein plith; ond fe ddengys yr adroddiad mai rhyw naw deg o bunnau ydyw gwerth cred holl eglwysi Methodistaidd Dyffryn Clwyd, llai o dair punt na chasgliad y flwyddyn o'r blaen. Pa gasgliad bynnag a leihaodd o achos yr adfyd presennol, fe allesid disgwyl i hwn fwyhau. A ydys i gasglu oddi wrth hyn mai'r tlodion a fyddai'n cynorthwyo mwyaf ar y tlodion, ac nad yw'n cyfoethogion yn rhoddi mwy er pan orfu i'r tlodion roddi llai? Y mae cynifer yn gwneud cam â'r cyfoethogion trwy eu canmol yn anghymedrol am fwrw o'r hyn sy weddill ganddynt i lestri'r casglyddion fel y dylid goddef i ambell un ddywedyd yn gyhoeddus yn enw'r rhai sy'n dywedyd hynny'n ddirgel nad yw'r rhan fwyaf o'r cyfoethogion yn cyfrannu agos gymaint ag y dylent. Yr wyf yn deall bod llawer o lafurwyr yn rhoddi'r ddegfed ran o'u heiddo tuag at amcanion crefyddol ac elusennol, ac y mae'n dda gennyf ddeall bod un neu ddau o wŷr lled ariannog yn y Dyffryn hwn yn gwneud yr un peth; a phe bai pob dyn ariannog yn eu dilyn hwy ni byddai raid i gymaint ag un gwaith da sefyll o eisiau arian. Os peidiwn â gofalu am y tlodion yn enwedig, hwy a beidiant hwythau â gofalu amdanom ninnau; canys anodd yw argyhoeddi dynion anghenus fod y cyfundeb Cristnogol y perthynant hwy iddo yn rhagori cymaint ar gyfundeb Cristnogol arall fel y dylent er ei fwyn gydoddef â brodyr sy'n ddiofal amdanynt. A phaham y dylai'r aberth i gyd fod o dda'r tlodion? Nid wyf i'n credu yn y Sosialaeth wleidydol y ceisir ei dwyn i mewn trwy nerth mwyafrif hunangar, ond yr wyf yn credu'n gryf yn y Gymrodoliaeth Gristnogol a gymhellir ac a lywodraethir gan ysbryd cariad a chyfiawnder.
Fe welir bod cyfanswm y casgliadau yn llai o fil o bunnau yn y flwyddyn ddiwethaf nag oedd yn y flwyddyn flaenorol. Os cyfrannodd pob aelod yn y naill flwyddyn a'r llall "fel y llwyddodd Duw ef," da; ond ymofynned pob un â'i gydwybod ei hun a wnaeth ef felly. Mi a wn fod llawer o aelodau ynghylch y Cyfarfod Misol hwn nad yw'n bosibl dangos eu helusennau a'u rhoddion eraill mewn adroddiad; ond pe byddai amryw o'r cyfryw rai mewn eglwysi neilltuol, y mae'n anodd meddwl y llwyddent i beidio ag enwogi'r eglwysi hynny, er llwyddo i guddio'u hunain. Dylid cydnabod hefyd y dangosir llawer o garedigrwydd Cristnogol mewn ffordd o letygarwch, ac y mae hyn yn garedigrwydd o fath uwch na'r caredigrwydd ddangosir trwy gyfraniadau ariannol, am ei fod yn garedigrwydd mwy llafurus. Yr ydym gan faint ein tuedd i droi popeth yn aur teimladwy a chyfrifadwy, yn rhy chwannog i anghofio'r teuluoedd croesawgar sy'n gweini i'r saint; ie, i ambell sant digon anhawddgar, ysywaeth; ond nid anghofia Duw hwynt na'u gwaith.
Dylem ddiolch am fod yr Efengyl yn drefn i dynnu cymaint o arian o logellau dynion a fuasai'n eu cadw, neu ynteu yn eu gwario er eu mwyn eu hunain yn unig, pe baent hebddi. Pe buasai Iesu Grist yn awr ar y ddaear, ef a ddywedasai wrth lawer o broffeswyr sy'n tybied eu bod yn haelionus: "Gwerthwch yr hyn sy gennych, a rhoddwch elusen." Ac os oes yn ein mysg ni rai yn awyddus i ddilyn yr Iesu hyd i'r nef, ac yn ofni bod eu harian, neu'n hytrach eu hariangarwch, yn eu gwneud yn rhy fusgrell i'w ddilyn cyn belled, y mae'n rhyfedd na chlywem weithiau fod rhai ohonynt, er mwyn rhoi dyrnod effeithiol i'w cybydddod, yn gwneud yr hyn y gorchmynnwyd gynt i rai tebyg iddynt ei wneud. Y mae llawer disgybl yn ddigon boddlon i bwyso ar fynwes yr Iesu, ond yn anfoddlon iddo Ef bwyso dim ar eu hysgwyddau hwy. Estroniaid o Cyrene sy'n dwyn ei groes, ac yn ei ganlyn hyd yr eithaf. Yn wir, y mae John Ruskin, ac yn enwedig y Cownt Tolstoi o Rwsia, heb sôn am lawer Pabydd, yn deall ac yn gwneuthur pregethau Crist yn well na llaweroedd o Fethodistiaid Cymreig sy'n eu cyfrif yn gamgrediniol.
Fe welir nad ydym wedi cynyddu dim ers talm yn nifer ein haelodau nac odid ddim yn yn nifer ein gwrandawyr. Y mae hyn yn resynus, ac yn haeddu ei ystyried. Nid ymdroaf i enwi'r achosion amlycaf o'n hymsafiad, nac i enwi'r holl bethau na chwaith y prif bethau a gynigir yn foddion ymwellhad. Cyfeirio a wnaf yn unig at un neu ddau o'r achosion y sonnir yn gyhoeddus leiaf amdanynt. Dyma un: balchder llawer o'n swyddogion a'n haelodau, a'r diffyg cydymdeimlad a ddangosant tuag at ddynion israddol iddynt. Nid oes gan Ymneilltuwyr foneddigion neu bendefigion; ond y mae ganddynt amryw raddau o arianogion, os nad cyfoethogion hefyd; ac y mae lle i ofni bod mwy o bellter rhwng y graddau hyn a'i gilydd, a mwy o bellter rhyngddynt oll a'r tlodion nag sy rhwng pendefigion a thlodion yr Eglwys Sefydledig. Dylai'r rhai sy'n ymgyfoethogi gofio bod mwy o demtasiwn iddynt hwy nag i foneddigion beidio â bod yn foneddigaidd yn eu geiriau a'u gweithredoedd. Os myn gwŷr goludog ymgystadlu â boneddigion mewn dylanwadu ar y dosbarth isaf, rhaid iddynt ymgystadlu â hwynt mewn boneddigeiddrwydd.
Yr achos arall ydyw'r hyn a alwaf yn anffurfioldeb ffurfiol ein gwasanaeth cyhoeddus. Y mae hwn, o'r ddau, yn fwy anfanteisiol i fagu ysbryd addolgar mewn amseroedd lled farwaidd na ffurfioldeb ffurfiol yr Eglwys Sefydledig. Da cael ffurf dda i syrthio arni pan na byddo nemor o ysbryd i lanw'r diffyg. Pan oedd y Methodistiaid ac Ymneilltuwyr eraill yn fwy eu sêl na'u gwybodaeth, yr oedd ganddynt ryw reswm amgenach na chasineb at ffurfioldeb am ymwrthod mor llwyr â ffurfwasanaeth eglwysig. Ond erbyn hyn, y mae'r rhan fwyaf ymhob cynulleidfa yn gallu darllen, fel nad oes dim yn eu rhwystro mwyach rhag cyd-ddarllen a chydweddïo â'r gweinidog, yn lle gadael i hwn ddarllen y cwbl iddynt a gweddïo'r cwbl drostynt. Y mae hyn yn rhoi achos cyfiawn i Eglwyswyr edliw bod gweinidogion Ymneilltuol yn fwy o offeiriaid nag ydyw gweinidogion yr Eglwys Sefydledig. . . Barnu yr wyf i, a llefaru'n groyw, na all y gweinidog a'r gynulleidfa gyd-ddarllen a chydweddïo, mwy na chydganu, mewn modd gwirioneddol, heb fod y rhannau Ysgrythurol a ddarllenir, a'r gweddïau cyffredinol a weddïir, yn hysbys i bawb fel ei gilydd. Er mwyn hynny, y mae'n rhaid wrth ffurfwasanaeth cyffredin. Ni byddid wrth ddarllen un bennod gyffredin, neu weddïo un weddi gyffredin ymhob gwasanaeth, yn dwyn oddi ar y gweinidog na neb arall y rhyddid a'r cyfleustra i ddarllen ac i weddio'n fyr yr hyn a fynnai ef ei hun. Wrth ddilyn trefn osodedig fe ellid ym mhob man "weddïo â phob rhyw weddi," a darllen holl rannau pwysicaf y Beibl o fewn amser terfynedig, ac fe fyddai i'r amrywiaeth a ddygid i mewn trwy hynny beri mwy o fudd a diddordeb, yn enwedig i'r dosbarth ieuanc, y dylai'r Methodistiaid frysio i ennill ei ffafr ymhob modd cyfreithlon. Wrth reswm, ni allai Cyfarfod Misol na Chymdeithasfa ddwyn hyn i mewn heb beri mwy o ddrwg nag o dda, am mai eu gwaith priodol hwy ydyw trefnu a llywodraethu pethau, ac nid eu cychwyn. Ond y mae'n anodd meddwl y gwrthwynebent ymgais unrhyw eglwys neu ddosbarth mewn eglwys i wneud y gwasanaeth crefyddol yn fwy cymeradwy.
Gan ein bod ni'n proffesu bod yn fwy rhyddfrydig na'n tadau, ac wedi cael gwell manteision na hwynthwy i wybod hanes a threfn yr Eglwys Gristnogol yn yr oesoedd cyntaf, gobeithio y byddwn oherwydd ein rhyddfrydigrwydd a'n gwybodaeth helaethach yn barod i gydoddef â'n gilydd, ac i dderbyn i'n credo ac i'n trefniadau ambell beth sy cyn hyned â'r Testament Newydd, ond sydd efallai yn lled newydd i ni. Am "hen drefn eglwysig y Testament Newydd," ni chawn, er chwilio, hyd i honno byth; a hynny am y rheswm da nad un drefn oedd bod yn yn nyddiau'r apostolion mwy nag yn ein dyddiau ninnau. Nid oes dim sydd. eglurach i'r deallus na bod eglwysi Jerusalem, Antiochia, ac Ephesus, yn gwahaniaethu oddi wrth ei gilydd yn eu trefniadau eglwysig; a hefyd yn gwahâniaethu oddi wrthynt eu hunain ar wahanol adegau. Am hynny, cytunwn oll i dderbyn ac i brofi'r trefniadau hynny a farner yn fwyaf cyfaddas i'n hoes ac i'n cenedl ac i'n gwlad. A'r Arglwydd a'n cyflawno â "gwybodaeth ei ewyllys Ef ymhob doethineb a deall ysbrydol."
PA OLWG A DDYLAI'R EGLWYS EI GYMRYD AR DDIFYRRWCH YR OES
Y mae syniad dyn am ddifyrion yr oes yn sefyll ei syniad am ddisgyblaeth eglwysig, a chan fod syniad rhai am ddisgyblaeth yn peri bod yn fwy ganddynt urddas y gymdeithas nag adferiad yr aelod, a bod syniad eraill am ddisgyblaeth yn peri bod yn fwy ganddynt adferiad yr aelod nag urddas y gymdeithas, braidd y gallaf i ddisgwyl i'r sylwadau a wnaf, pa mor gymedrol bynnag y bônt, fod yn gymeradwy gan bawb. Er hynny, byddaf yn ddigon bodlon os bydd i'r pethau a ddywedaf awgrymu i rywrai eraill bethau gwell a diogelach. Maddeuer imi am arfer y myfi yn fynychach na'r nyni a'r ydys. Yr wyf yn gwneud hynny am nad oes gennyf hawl i lefaru yn enw'r holl gyfarfod.
Fel yr wyf yn heneiddio ac yn dyfod i'm hadnabod fy hun ac eraill yn well, yr wyf yn gweled yn eglurach nag o'r blaen mai Iesu Grist yw'r dyn gorau a'r dyn tyneraf o bawb, fod peth daioni ymhob dyn, a bod llawer iawn o ddrwg yn fy nghalon i fy hun, os nad oes yn fy muchedd hefyd. Rhaid i mi gan hynny addef fy mod er ys talm bellach yn credu bod eglwys lawn o gydymdeimlad yn bwysicach, os yr un, nag eglwys lân; ac mai argyhoeddi ac adferu'r aelod, ac nid cadw urddas y gymdeithas y mae o'n perthyn iddi ydyw amcan mawr disgyblaeth eglwysig; na ellir mo'i adferu ef oddi wrth ei fai heb ei argyhoeddi ei fod yn euog o fai; ac nad trwy ei gondemnio'n amhenodol y gellir ei argyhoeddi'n effeithiol, eithr trwy ymresymu a thrwy ymliw ag ef; a bod yn haws argyhoeddi dyn ar ei ben ei hun nag yn yr eglwys neu yn y gynulleidfa.
Am ddiarddeliad, nid disgyblaeth ydyw hynny; eithr gweithred sy'n bwrw dyn allan o gylch disgyblaeth. Am hynny, chwithig o beth yw diarddel dyn am unrhyw drosedd, os ydys yn credu ei fod yn ddyn duwiol. Am annuwioldeb ac nid am weithred ddrwg y dylid diarddel dyn; ac nid yw'n rhesymol inni fwrw neb allan o'r eglwys os ydym yn credu ei fod mewn undeb â Phen yr eglwys.
Fe ddichon disgyblaeth eglwysig, yn ystyr ysgrythurol y gair, fod yn llawn mwy isel yn yr eglwysi lle'r ydys yn diarddel llawer nag ydyw hi yn yr eglwysi lle nad ydys yn diarddel neb; canys weithiau, yr ydys yn bwrw dynion allan o'r eglwys yn unig er mwyn arbed y drafferth i'w disgyblu yn yr eglwys. Yn y dyddiau hyn, y mae llawer o wŷr da, a rhai gwŷr drwg hefyd, yn cwyno bod y ddisgyblaeth yn isel; ac y mae'n hawdd gennyf gredu nad yw'r rhai da na'r rhai drwg yn cwyno heb achos; ond wrth gwyno, dylem ystyried hefyd ei bod yn annichon i'r ddisgyblaeth fod cyn llymed yn ein dyddiau ni ag ydoedd hi yn nyddiau'r hen dadau Methodistaidd. Yn un peth, y mae dynion bellach er gwell neu er gwaeth, yn fwy annibynnol nag oeddynt gynt, ac am hynny ni fynnant mo'u trin fel plant ysgol, hyd yn oed pe bai John Elias ei hun yn ben-bugail arnynt. Y maent hefyd gan mwyaf yn galetach nag yr oeddynt; ac yn ôl esiampl Moses ac awgrymiad yr Iesu, y mae'n rhaid goddef rhai pethau drwg oherwydd caledrwydd calonnau dynion. Canys y mae'r ddisgyblaeth a fyddo'n rhy lem i'w goddef, er iddi fod ynddi ei hun yn gyfiawn, yn myned yn anfuddiol, os nad yn niweidiol hefyd. Heblaw hynny, y mae syniadau gwladol dynion wedi newid, ac y mae'r syniadau gwladol hynny wedi dylanwadu ar eu syniadau eglwysig. Fel yr oedd syniadau diwinyddol Awstin, ac Anselm, a Chalfin, yn derbyn eu lliw oddi wrth syniadau athronyddol a gwyddonol eu hoes, felly y mae syniadau dynion am ddisgyblaeth eglwysig yn derbyn eu lliw oddi wrth eu syniadau am ddeddfwriaeth. Y mae cyfraith y wlad yn goddef mwy yn awr nag ydoedd hi beth amser yn ôl, canys nid yw hi mwyach yn bwrw dyn i'w grogi am ladrata dafad. Y mae'r barnwyr gorau, wrth gosbi, yn meddwl mwy am wellhau'r troseddwr nag am ddial arno, a mwy am ddiogelwch cymdeithas nag am ei hurddas. Pan oedd cosbau gwladol yn drymion, yr oedd cosbau eglwysig hefyd yn drymion; ac felly yn nyddiau'r hen Buritaniaid a'r hen Fethodistiaid, yr oedd y neb a drôi ei wallt oddi ar ei dalcen ac oddi tros ei lygaid, cyn rhyngu bodd i'r nef ei wneud yn benfoel, yn euog o farn; y neb a chwibanai dôn gysegredig ar y Sul yn euog o gyngor; a'r neb a ddywedai fod y Beibl yn air Duw yn lle dywedyd mai'r Beibl ydyw gair Duw, yn euog o dân uffern. Ond erbyn hyn, y mae penaethiaid y sect fanylaf yn ein plith yn credu ac yn gwneuthur llawer o bethau a fuasai'n peri dychryn i'w teidiau.
Heblaw hynny, y mae mwy o gystadleuaeth enwadol ein gwlad nag a fu erioed o'r blaen; a phan fo amryw gyfundebau crefyddol yn barod i esguso pethau a gondemnir mewn cyfundeb arall, yna y mae disgyblaeth dra llem yn mynd yn anfuddiol yn anfuddiol i'r cyfundeb ei hun am ei fod yn colli llawer o'i aelodau, ac yn anfuddiol i'r aelodau eu hunain am eu bod wrth fyned yn aelodau o gyfundeb arall mwy goddefgar, yn gwneud y ddisgyblaeth a fu arnynt yn ddi—rym. A pha faint o les sy mewn disgyblaeth os na bydd hi'n peri ofn ac yn peri diwygiad?
Fe ddywed rhai nad oes golled wirioneddol am yr aelodau yr ydys yn eu colli yn y ffordd hon. Hwyrach nad oes fawr o golled amdanynt, er dim gwasanaeth y maent yn ei wneud i grefydd ac i'r cyfundeb. Er hynny, os ydym ni wrth eu colli yn colli'r cyfleustra i ddylanwadu'n ddaionus arnynt hwy, y mae hynny'n golled fawr i ni ac iddynt hwythau. Heblaw hynny, y mae'r rhain yn epilio fel pobl eraill, ac wrth eu colli hwy yr ydys yn colli eu plant, a'u hwyrion, a'u gorwyrion—yn colli yn y man genedl gref. Dyma un achos paham y mae Eglwys Loegr ac un neu ddau o gyfundebau Ymneilltuol wedi cynyddu'n ddiweddar yn gyflymach nag y darfu i ni. Nid wyf fi'n sectol o gwbl, ond y mae'n naturiol imi ddymuno i'r Methodistiaid barhau i fod y cyfundeb cryfaf yng Nghymru, yn unig am fy mod wedi fy magu ynddo. Heb fod fawr ni all o fod yn eang ei ddylanwad. Yn wir, ni all o ddylanwadu ar yr holl genedl hyd oni byddo'n ddigon mawr i haeddu ei alw'n eglwys y genedl. Ond er mwyn bod yn eglwys genhedlig, a pheidio â bod yn sect ymhlith sectau, rhaid inni, yn ôl esiampl yr apostolion, beidio â dodi ar warrau'r disgyblion iau rhy drom i'w dwyn. "She stoops to conquer," medd Goldsmith am wrones ei ddrama. 'Wn i ddim a ddylai eglwys Dduw ei hun fod yn rhy falch i ymostwng mewn rhai pethau a thros ennyd er mwyn gorfod ar bob peth yn y diwedd. Rhwydd hynt i bawb sy'n ceisio llwyr ddiddyfnu'n cyd-wladwyr oddi wrth ddiodydd meddwol; er hynny na adawn i neb droi'n cyfundeb yn fath o glwb dirwestol; onid e clwb fydd o byth, ac nid eglwys. Dyrnwn rai o'r chwaraeon Seisnig a ddygwyd i Gymru; er hynny, na ddyrnwn bob rhyw chwaraeon â'r ordd fawr, "canys nid ag og y dyrnir ffacbys, ac ni throir olwyn men ar gwmin; eithr dyrnir ffacbys â ffon, a chwmin â gwialen." Ar air, na wnawn ac na ddywedwn ddim i leihau ein cyfundeb yn ddiachos. Gwn fod i gyfundeb mawr ei beryglon; er hynny, nid oes dim perygl iddo ef bydru ei esgyrn trwy genfigen. Fe ellir disgwyl i gyfundeb mawr ei faint fod yn fawr ei syniadau, yn fawr ei gydymdeimlad, ac yn fawr ei amcanion. Yn ddiweddar, fe fu rhywun yn sgrifennu yn erbyn yr enwad mawr, gan ei alw'n dduw newydd. Bendigedig, meddaf i, fo'r duw hwnnw, boed ef hen neu newydd. Y mae arnaf i, wedi'r cwbl, lai o ofn enwad mawr nag enwad bach, a llai o ofn Duw mawr na duw bach.
Yr wyf yn foddlon iawn i'r Methodistiaid barhau i fod yn llymach nag un cyfundeb arall yn eu hymddygiad tuag at y pechaduriaid diamheuol yr oedd Iesu Grist yn dyrchafu ei lef mor groyw yn eu herbyn; ond yr wyf ar yr un pryd yn eu cyfiawnhau am fod yn fwy goddefgar nag oeddynt gynt wrth bechaduriaid yr oedd Ef yn oddefgar wrthynt, ac am fod yn ddistawach am bethau nad oedd yn wiw ganddo ef lefaru amdanynt. Wrth ddisgyblu, pa un bynnag ai ar air neu ar weithred, fe ddylid edrych pa mor gymwys ydyw'r eglwys i weinyddu disgyblaeth, a pha mor gymwys ydyw'r aelodau i dderbyn disgyblaeth, a pha mor argyhoeddedig ydyw'r byd a'r oes o ddrwg rhai o'r pethau y dywedir yn eu herbyn. Gwych yn ddiau fyddai cael eglwysi pur; ond y pwnc ydyw, a ellir eu gwneud yn bur trwy ddisgyblaeth yn unig. Onid ffrwyth purdeb, ac nid yr achos ohono ydyw disgyblaeth? Eglwys bur a fedr ddisgyblu. Gan eglwys bur y mae hawl i ddisgyblu. Yn awr, pa eglwys sy'n ddigon pur i geryddu ac i gosbi am bob bai? A oes gan y cybyddion sy mewn eglwys hawl i geryddu'r neb a feddwo unwaith yn y mis? A oes gan y rhai sy'n casáu ei gilydd ar hyd y blynyddoedd hawl i godi eu llaw yn erbyn y neb a garo'n anianol ac yn afreolaidd. unwaith mewn oes? A oes gan y rhai sy'n chwarae castiau twyllodrus mewn siop neu ffair neu farchnad hawl i gondemnio'r rhai sy'n chwarae pêl droed? Gyfeillion, yr oedd yn hoff gan yr Iesu burdeb, ond yr oedd yn hoff ganddo gysondeb hefyd. Yr oedd yn hoff ganddo gydymdeimlo â'r gwan, a gwneuthur rhagor rhwng pechod a phechod, a rhwng pechadur a phechadur. Am hynny, er mwyn llywodraethu eiddigedd dynion rhy ddidostur, y mae o'n dywedyd wrthym heddiw eto: "Yr hwn sy ddibechod, tafled yn gyntaf garreg."
Y mae a wnelo'r pethau a ddywedais am ddisgyblaeth yn gyffredinol â'r pethau a ddywedaf ymhellach am ein hymddygiad tuag at y rhai sy'n ymddifyrru. Os mynnwn i'n geiriau yn y pulpud ac o dan y pulpud ddylanwadu ar y rhai sydd yn ein barn ni yn ymddifyrru'n amhriodol, neu ynteu'n ymddifyrru'n anghymedrol, rhaid inni ymlaenaf ac yn bennaf dim gydymdeimlo â hwynt. Rhaid inni eu hargyhoeddi mai o gariad pur tuag atynt hwy eu hunain, ac nid oddi ar ofn i obaith ein helw ni fyned ymaith yr ydym yn dywedyd yn erbyn eu difyrrwch. Rhaid i'n cydymdeimlad â hwynt fod yn ddigon diffuant i beri inni addef, os bydd achos, eu bod hwy mewn rhai pethau'n rhagori arnom ni. Rhaid iddo fod yn gydymdeimlad a baro inni ystyried yr amgylchiadau y bo'r person hwn a'r person arall ynddynt. Dangoswn ein cydymdeimlad trwy fod yn llawen gyda'r rhai sy lawen, a thrwy ddyrchafu a chymedroli eu difyrrwch, ac nid trwy geisio ei atal yn llwyr. Os myn rhyw fugail ddywedyd yn erbyn chwaraeon, fe ddylai hwnnw o gydwybod chwarae ei hun gyda'i braidd ieuanc ryw unwaith neu ddwy yn y flwyddyn, er mwyn dangos nad oes ganddo ddim yn erbyn chwarae ynddo'i hun. Os clyw'r swyddogion fod rhai o'r aelodau yn myned i weled mân chwaraeon theatrol yn neuaddau trefi'r Rhyl, Dinbych, a Rhuthyn, anogwn hwynt i fynnu gweled Sarah Bernhard, Henry Irving, neu Beerbohm Tree yn chwarae rhyw ddrama uwchraddol, fel diflasont ar fân gomedïwyr teithiol. Os clywant fod yr ieuenctid yn rhy chwannog i ddarllen nofelau, anogwn hwynt i ddarllen prif nofelau'r byd i ddechrau; ac er nad oes cymaint ag un nofelydd o'r radd flaenaf wedi ymgodi ym Mhrydain a'r Almaen, ac nad oes ym Mhrydain ond dau neu dri sydd ym marn y byd yn haeddu eu gosod yn yr ail radd chwaith, eto y mae rhai o nofelau clasurol Ffrainc, y Sbaen, yr Ital, Rwsia, a Norwy, wedi eu cyfieithu i'r Saesneg; ac y mae hyd yn oed nofelau Goldsmith, George Eliot, a Walter Scott, a nofelau Cymraeg Daniel Owen a Gwynn Jones yn anhraethol well na'r nofelau Saesneg y mae'r rhan fwyaf yn eu darllen. Er nad oes dim rhithyn o athroniaeth yn nofelau Walter Scott, na llawer o feddylgarwch chwaith, eto nid ydynt hwythau er eu based yn ddigon bas gan ddarllenwyr cyffredin.
Wrth lefaru am ddifyrrwch yr oes, dylem hefyd ofalu na chymysgom bethau y dylid eu gwahanu, trwy lefaru am chwaraeon a chwaryddiaethau fel pe baent yr un peth. Am chwaryddiaethau (sports), sef chwaraeon wrth broffes, a chwaraeon cystadleuol, lle y mae pob math o gymeriadau yn ymgyfarfod â'i gilydd, ni all yr eglwys oddef y rheini, canys y mae goreugwyr y byd ei hun yn eu condemnio hwy.
Am chwaraeon sydd heb fod yn chwaryddiaethau, gallant hwy fod naill ai'n ddrwg, neu ynteu'n ddiddrwg. Y mae'r rhai sy ddrwg ynddynt eu hunain yn ddrwg i bawb yn ddiwahaniaeth; ac fe all chwaraeon diddrwg ynddynt eu hunain fod yn ddrwg i rai. Dengys hyn y dylid barnu chwaraeon nid yn ôl eu natur yn unig, eithr yn ôl eu dylanwad ar y chwaraewyr.
Fe ellir dywedyd yr un peth am ddifyrrwch yn gyffredinol ag a ddywedwyd am chwaraeon yn neilltuol, canys fe all difyrrwch fod naill ai'n ddrwg neu ynteu'n ddiddrwg; neu a siarad yn fanylach, gall fod yn ddifyrrwch cyfreithlon, neu yn ddifyrrwch anghyfreithlon; neu ynteu'n ddifyrrwch anweddus. A chan nad yw pob difyrrwch unrhyw ddifyrrwch, y mae'n amlwg na ddylem lefaru am y tri math yn yr un modd.
Am ddifyrrwch anghyfreithlon, ni ddylem betruso ei gondemnio ef bob amser ac ymhobman. O dan ddifyrrwch anghyfreithlon fe ellir dosbarthu pob rhyw chwarae creulon, hapchwarae, a phob math o gamblo. Hyd yn hyn, nid yw pawb wedi eu hargyhoeddi bod chwarae pêl droed, hyd yn oed yn y modd gerwin yr ydys yn ei chwarae yn y wlad hon, yn chwarae creulon; ond y mae pob cenedl dramor yn barnu ei fod yn chwarae anifeilaidd a darostyngol iawn, a'i fod yn fwy cyfaddas i fagu milwyr nag i fagu dynion; ac yn y dyddiau hyn y mae llawer o ddynion gorau Prydain yn dechrau edrych arno fel y mae cenhedloedd eraill yn edrych arno. Rhag ichwi feddwl mai pregethwyr culfarn sy'n dywedyd yn ei erbyn, a hynny mewn rhyw bapurach crefyddol fel y Gadlef a'r British Weekly, gwrandewch beth o'r hyn a ddywedodd Mr. Ernest Ensor amdano yn y Contemporary Review: "The system is bad for the players, worse for the spectators. The former learn improvident habits, become vastly conceited, whilst failing to see that they are treated like chattels, and cannot help but be brutalised. The latter are injured physically and morally. Out of every twenty thousand people who watch football matches every Saturday, many must catch colds or worse. Football, in short, is destroying the physique of the manufacturing population." Gan hynny, y mae pob pregethwr a gondemnio chwarae pêl droed, yn enwedig pan fo'r chwarae hwnnw yn un cystadleuol, yn cydsefyll â rhai o leygwyr mwyaf goleuedig y deyrnas, ac â phlaid sy'n cynyddu bob dydd.
Ond wrth gondemnio chwarae pêl droed, a chwaraeon eraill a'r sydd yn ffyrnigo'r chwaraewyr, fe fyddai'n ddoeth eu hannog i droi'n ôl at chwaraeon mwy diniwed a llawenhaol oedd ar arfer yng Nghymru pan oeddwn i ac eraill yn blant, neu ynteu at yr ymarfer corfforol hwnnw oedd yn rhan o addysg yr hen Roegiaid. Un achos paham y mae plant y Cyfandir gymaint llawenach ac addfwynach na phlant y wlad hon ydyw am eu bod hwy'n disgyblu eu cyrff trwy fabolgampau, ac nid trwy chwaryddiaethau afrywiog.
Am yr ail ddosbarth o chwaraeon, nid ydynt hwy yn anghyfreithlon ynddynt eu hunain. Anweddus ydynt i rai; ac y maent yn anweddus yn unig oherwydd rhyw, neu oedran, neu sefyllfa'r chwaraewyr. Gan na ellir barnu'r chwaraewyr hyn wrth yr un a'r unrhyw reol, fe ddylid apelio'n arbennig at eu cydwybod a'u rheswm hwy eu hunain, neu'n hytrach at y chweched synnwyr hwnnw a eilw'r Saeson yn sense of propriety.
Ond heblaw difyrrwch anghyfreithlon a difyrrwch anweddus, y mae difyrrwch cyfreithlon; ac mewn un ffordd y gall dyn bechu wrth ymarfer â difyrrwch cyfreithlon, sef trwy ymddifyrru'n anghymedrol; ac yr wyf i'n credu bod llawer mwy'n pechu wrth ymroddi i ddifyrrwch cyfreithlon nag wrth ymroddi i ddifyrrwch anghyfreithlon. Y mae rhodli, sef ymddifyrru mewn teithio ar rodlau neu fisyclau, yn ddifyrrwch digon gweddus, am a wn i, os paid dyn â rhodli mewn ystum rhy anurddasol, ac mewn gwisg rhy goegaidd; a hwyrach y daw'r amser rywbryd, pan fydd hi'n weddus i ferched farchogaeth arnynt yn null meibion, ac yn weddus i bregethwyr go ieuainc fyned i'w cyhoeddiad arnynt. Beth bynnag am hynny, y mae'n ddiau y cytuna pob dyn ystyriol â mi wrth ddywedyd bod miloedd o Gymry o bob rhyw ac oedran yn treulio gormod o'u hamser o lawer ar olwynion. Yn wir, y mae'r difyrrwch hwn wedi myned yn gymaint o gynddaredd mewn rhai gwledydd fel y mae o wedi peri mwy o niwed na dim arall i werthwyr llyfrau. Yn ôl tystiolaeth y rhain, a cheidwaid y llyfrfeydd cyhoeddus, ni bu ym Mhrydain a Ffrainc ers ys talm hir gyn lleied o ddarllen ar lyfrau da ag sydd yn y blynyddoedd hyn. Yr un ffunud, ofer fyddai annog aelodau ein heglwysi i beidio ag edrych byth ar newyddiadur, yn ôl esiampl Benjamin Disraeli, A. J. Balfour, ac eraill; ond yn sicr, fe ellir eu hannog i ddarllen llai o lawer ar bapurau nag ar lyfrau, a llai ar ffugchwedlau nag ar lyfrau hanesyddol—heb sôn am lyfrau crefyddol.
Ofer hefyd fyddai annog ieuenctid ac eraill i beidio â myned o gwbl i'r mân gyfarfodydd canu a'r mân gyfarfodydd siarad sydd erbyn hyn mor aml yn ein gwlad; ymfoddloner yn hytrach ar eu dysgu i ddeisyfu'r doniau gorau mewn canu a thraethu. Ni byddai'n wiw dywedyd wrthynt na ddylent fyned un amser i gwmnïau llawen; er hynny, fe ddylid dysgu y dylai pob dyn roi mwy o amser i ymddiddan â'i galon ei hun nag i ymddiddan â neb arall.
Fe ddylid eu hargyhoeddi y dylent roi llai hyd yn oed o'u hamser hamddenol i ymddifyrru nag i ymberffeithio mewn deall, dysg, a rhinwedd. Fe ddylid dangos nad ydyw hir ddifyrrwch ddim yn wir ddifyrrwch; fod difyrrwch yn peidio â bod yn ddifyrrwch pan droer ef yn waith, neu pan ddilyner ef er ei fwyn ei hun; ac na ddylai difyrrwch ar y gorau fod yn ddim amgen nag ymorffwysiad oddi wrth waith ac ymadnewyddiad i waith; mai niweidiol yw pob rhyw ddifyrrwch a baro i ddyn ddiflasu ar ei ddyletswyddau tuag ato'i hun, tuag at ei gyd-ddynion, tuag at Dduw, a thuag at eglwys Dduw. Dangoser y dylai difyrrwch, o ran ei fath a'i fesur, fod yn gyfaddas i alwedigaeth neu orchwylion cyffredin dyn. Er enghraifft, os bydd dyn yn gweithio â'i gorff yn ystod y dydd, ni raid i hwnnw wrth ymarfer corfforol ar ôl cadw noswyl. Os bydd gorfod i lanc gymdeithasu llawer ag anifeiliaid yn y maes, y stabl a'r beudy, y mae'n ofynnol i hwnnw gymdeithasu cryn lawer â dynion yn y tŷ, y neuadd a'r capel, rhag bod arno fwy o arogl anifail nag o arogl dyn. Gan fod y siopwr tra bo yn y siop yn gweled mwy o ddynion nag o lyfrau, fe ddylai hwnnw ar ôl noswylio weled mwy o lyfrau nag o ddynion, rhag i'w ymadroddion yn y cyfarfod athrawon neu'r cyfarfod gweddïo fod yn rhy siopyddol. Pob un nad yw'n darllen llenyddiaeth drom liw dydd, nid oes achos i hwnnw ddarllen llenyddiaeth ysgafn liw nos. Ag un darn o'r ymennydd y mae'r rhan fwyaf o ddynion yn gweithio wrth ymarfer â'u galwedigaeth; ac am hynny ni all y rheini ymddifyrru'n well na thrwy weithio â rhannau eraill eu hymennydd pa bryd bynnag y caffont hamdden.
Gan nad yw llawer o aelodau'n heglwysi yn ddigon grasol i brisio rhesymau crefyddol, buddiol fyddai dangos iddynt fod y gormod chwarae sy'n y wlad hon yn niweidiol i'w masnach hi, a hynny am ei fod yn dylanwadu'n niweidiol ar ddealltwriaeth ei thrigolion. Yr amser y mae llanciau Prydain yn ei dreulio i chwarae pêl droed, y mae llanciau'r Almaen yn ei brynu i astudio ieithoedd, llenyddiaeth a hanes cenhedloedd eraill; am hynny, hwynt—hwy ydyw'r teithwyr masnachol mwyaf llwyddiannus mewn gwledydd estronol. Ie, hwynt—hwy sy'n cael y lleoedd anrhydeddusaf yn swyddfeydd Prydain ei hun. Pan fydd ar olygydd gwyddoniadur Saesneg eisiau erthyglau gwell na'r cyffredin ar ddiwinyddiaeth ac athroniaeth, rhaid iddo ddanfon amdanynt i'r Almaen, i Holand, ac i'r Yswisdir, am fod dysgedigion y wlad hon wedi colli gormod o'u hamser i chwarae yn Rugby a Rhydychen i allu ymdrin â phynciau dwfn a dyrys. Er y cwbl, y mae gan y Saeson well esgus am fod yn chwaraegar nag sy gan y Cymry, am eu bod hwy yn gyfoethocach.
Er ei bod yn angenrheidiol ambell waith lefaru'n eglur ac yn benodol am ddifyrion a chamarferion eraill yr oes, eto, y peth gorau fel rheol yw dyrchafu meddyliau dynion at yr hyn sydd uchel a phur; eu dwyn i gymdeithas Mab y Dyn, dyn y dynion, a'r gŵr bonheddig perffeithiaf a sangodd y ddaear; eu dwyn i weled gwerth eu heneidiau eu hunain, a gwerth yr ychydig amser a roddwyd iddynt ar y ddaear i ddarparu ar gyfer y . . . [Y diwedd ar goll.]
Y CWRDD GWEDDI
SYLWADAU A WNAED GAN R. A. JONES MEWN DAU GYFARFOD EGLWYSIG RYWBRYD CYN DIWEDD YR WYTHNOS GYNTAF YN Y FLWYDDYN 1881
Dywedwyd digon o adnodau i brofi y dylid gweddio'n ddirgel, ond ni ddywedwyd cymaint ag un i brofi y dylid gweddïo'n gyhoeddus, yn gyson o'r hyn lleiaf. Y mae lle i gasglu nad gwrando ar dri neu bedwar o ddirprwywyr yn gweddïo'n uchel ac yn hir oedd gwaith y disgyblion cyntefig pan ddeuent ynghyd bob dydd cyntaf o'r wythnos. Ni byddai Paul, er dim a wn i, ddim yn arfer gweddio cyn nac ar ôl pregethu, ac ni byddai ef yn gofyn i neb arall chwaith ddechrau'r oedfa iddo. Ac oni bai fy mod yn anewyllysgar i'm gwneud fy hun yn od, gwnawn innau fel y gwnâi Paul; hynny ydyw, ni weddïwn yn gyhoeddus oddieithr panfyddai fy marn a'm teimlad yn fy nhueddu i wneud hynny.
Y mae'n sicr fod llawer o awdurdod mewn hen arferiad, yn enwedig os bydd yr arferiad hwnnw'n un cyffredinol; ond, ag edrych heibio i draddodiad y tadau at yr Ysgrythur ei hun, rhaid i mi addef nad oes weledigaeth eglur ar y pwnc hwn. Ac y mae'r aneglurder hwn ynddo'i hun yn peri imi amau yr hyn a ddywedodd brawd yma heno, sef mai'r cyfarfod gweddi ydyw'r pwysicaf o'n holl gyfarfodydd crefyddol. Mwy; yr wyf yn credu nad ef ydyw'r pwysicaf. Y cyfarfod y byddo gair Duw yn uchaf ynddo—dyna'r cyfarfod pwysicaf. Ond nid oes un cyfarfod crefyddol oddieithr y cyfarfod canu y rhoir lleied o le ynddo i'r Beibl â'r cyfarfod gweddi. Geiriau dynion ffaeledig ydyw gweddïau ar y gorau, ac odid nad ydynt yn fwy ffaeledig wrth weddïo nag wrth wneud dim arall, am fod y rhan fwyaf ohonynt yn tybio y gellir gwneud y gwaith hwn heb ragfeddwl dim. Ond y mae'r Gair yn ddi-feth fel yr Hwn a'i rhoes. Y mae darllen y Gair, pregethu'r Gair, ac egluro'r Gair, yn ddyletswyddau amlwg a phendant. A bydd arnaf i ofn rhoi gormod o bwys ar ddyletswyddau anamlwg rhag imi wrth hynny ddirymu dyletswyddau amlwg. Er hynny, bydded pob un yn sicr yn ei feddwl ei hun, ie, ynghylch pethau amheus; hynny ydyw, bydded ffyddlon i'w argyhoeddiadau. Aed at y Gair a'r dystiolaeth, a gwrandawed ar ei gydwybod, er mwyn gwybod pa beth a ddylai ei wneuthur; a phan wypo ei ddyletswydd, gwneled hi yn ddi-ofn, ac yn ddiesgeulus. Y mae rhai o'r gweinidogion gorau sydd gennym yn credu'n ymarferol yr hyn yr wyf innau'n ei gredu'n athrawiaethol, a'r hyn yr wyf yn ei ddweud yn awr ar eiriau, canys ni byddant ymron byth yn myned i gyfarfod gweddi. Dylent, er mwyn cysondeb, naill ai myned iddynt, neu ynteu addef yn agored nad ŷnt yn credu eu bod yn gyfarfodydd anhepgorol. Ond ni synnwn i ddim nad y rhai sy'n esgeuluso heb reswm fyddai'r rhai parotaf i gondemnio'r neb a fyddo'n esgeuluso efo rheswm.
Y mae achos i ofni nad yw'r cyfarfodydd gweddi, megis y cedwir hwynt yn gyffredin, ddim yn gwneud dyn yn ddoethach nac yn fwy defosiynol. Diamau fod peth o'r bai arnom ni sy'n ceisio gweddïo, oherwydd nid ydym yn ddigon cyfarwydd â'r Ysgrythur, nac yn rhagystyried digon pa beth a ddywedom, i allu bod yn adeiladol i'r rhai a fyddo'n gwrando.
Ond y mae bai ar y drefn hefyd. Cwynir yma ac mewn mannau eraill, na fedrir cael gan yr ieuenctid wasanaethu'n gyhoeddus. Ni allaf i mo'u beio, canys yr wyf yn credu mai teimlad crefyddol yn hytrach nag anghrefyddol sy'n rhwystro rhai i weddïo'n gyhoeddus. Y drefn yn y lle hwn ydyw gosod tri i weddio yng nghorff awr o amser, a disgwylir i'r tri hynny weddio yn y set fawr. Bydd ambell un wedi colli meddiant arno'i hun erbyn cyrraedd i'r set fawr, a chael ei hun wyneb yn wyneb â'r gynulleidfa. Ac ar ôl myned yno teimla fod yn rhaid iddo aros yno am gryn amser, rhag i'r cyfarfod derfynu cyn wyth ar gloch. Gyr y teimlad hwn rai i weddïo'n hytrach wrth y cloc nag wrth eu hangen. Ymdrônt i ragymadroddi yn y modd mwyaf ystrydebol; traethant yr un peth drachefn a thrachefn; a'r hyn sydd waeth fyth, cymerant enw'r Arglwydd yn ofer yn nechrau agos bob brawddeg; a hynny fe ellid tybied yn unig er mwyn cael hamdden i ymbalfalu am rywbeth i orffen y frawddeg. Cofier nad beio ar y gweddïwyr yr wyf yn awr, ond ar y drefn sy'n temtio dynion i weddïo fel yna. Barnaf fod gweddïau o'r fath yna'n lladd ysbryd addolgar yn y gweddïwyr eu hunain ac yn y gwrandawyr hefyd. Rhaid i ddyn ddysgu ei gydddynion trwy ymgynghori, trwy esbonio neu trwy bregethu, boed ef yn yr ysbryd neu beidio; ond yn sicr, dylai gweddio Duw fod yn rhywbeth mwy naturiol, mwy spontaneous.
Yn awr, tra cedwir cyfarfodydd i weddïo'n gyhoeddus, anogwn ein gilydd i beidio â myned rhagom i siarad ar ôl gorffen dweud. Na wasger ar bawb i ddyfod i'r sêt fawr, ond gadawer iddynt, os bydd yn well ganddynt, weddio ar ychydig eiriau o'u lle. Os mynnir cynefino'r ieuenctid â'r gwaith, gofynner iddynt yn gyntaf oll roi pennill i'w ganu. Gofynner iddynt yn y man ddyfod ymlaen i ddarllen pennod o'r Beibl, gan osod rhywun hŷn a mwy profedig i weddio ar eu hôl. Ymhen ychydig amser bydd yn ddiogel gofyn iddynt weddio'n fyr o'u lle, ac yn ddiweddarach o'r sêt fawr.
Ond fy nheimlad i fy hun ydyw y byddai'n well peidio â chadw cyfarfodydd i weddïo'n unig neu yn bennaf. Y maent yn gadael y gwrandawyr yn rhy ddiymadferth o lawer. Tybia rhai gwrandawyr eu bod yn crefydda wrth eistedd yn llonydd ar y meinciau yna, er bod eu meddyliau, er dim a wyddys yn amgen, yn crwydro ar ôl pethau'r byd drwg presennol. Nid yw bod gweddïwyr yn gweddïo'n gyhoeddus tros y bobl ddim yn profi eu bod yn grefyddol, canys fe ddichon mai porthi hunan y mae llawer un wrth ei wneud ei hun yn central figure mewn cynulleidfa. Ond y mae gennyf i syniad pur uchel am grefydd pobl fydd yn dyfod yn gyson i'r Ysgol Sabothol i addysgu, neu ynteu i gael eu haddysgu ym mhethau'r Beibl. Pa un o'r ddau sydd agosaf i deyrnas Dduw, ai y dyn fydd yn dyfod i'r seiat heb ddyfod i'r ysgol, ai ynteu y dyn fydd yn dyfod i'r ysgol heb ddyfod i'r seiat? Yr olaf, meddaf i. Gall athrawon yr ysgol ddweud eu bod yn gwneud rhywbeth, a gall eu disgyblion hefyd ddweud eu bod yn dysgu rhywfaint bob tro. Rhaid iddynt ddysgu os bydd ganddynt athro gweddol gymwys. Ond fe ddichon i rai ddyfod am flynyddoedd i gyfarfod gweddi, i gyfarfod eglwysig hefyd mewn ambell le, a hyd yn oed i odfeuon, heb wneud lles na chael lles. Adwaen rai sy'n dyfod i'r cyfarfodydd yna'n lled gyson, ac er hynny prin y gellid dweud eu bod, eto, yn gwybod digon i fod yn gadwedig.
Yn awr, rhaid fod rhyw ddiffyg ar gyfarfodydd crefyddol pan fônt yn gadael pobl yn y cyflwr yna. Eisiau mwy o ddarllen y Beibl, mwy o egluro ac o holi arno sydd. Er nad wyf yn atebwr parod fy hun, eto y mae gennyf ffydd mewn holi. Ni wn am ddim arall sydd cystal i osod y meddwl ar waith, na dim sydd cystal i argyhoeddi pobl anwybodus eu bod yn anwybodus. Ond nid oes gennyf nemor o ffydd yn yr holi a'r ateb a geir mewn cyfarfodydd eglwysig, canys y maent yn rhy benagored o lawer. Pa les ydyw gofyn i ddyn ofyniad sy'n gadael iddo ddianc i ffwrdd yng nghysgod ateb o'r fath yma—"Cael fy hun yn dywyll iawn yr ydwyf." Oni wyddom ei fod yn dywyll, ac oni wyddom hefyd nad yw, ysywaeth, yn gwneud dim ymdrech i gael gwared o'i dywyllwch. Nid yn hir y pery dyn yn anwybodus os ewyllysia'n ddifrifol fod yn wybodus. Byddai'n dda gennyf fedru argyhoeddi pob aelod sydd heb fod yn hen iawn, fod anwybodaeth o'r Ysgrythur yn bechod diesgus, ac yn bechod mor bendant â chybydd-dod neu anghymedroldeb. Peidied neb â meddwl ei fod yn gwneud iawn am ei anwybodaeth wrth ei gyfaddef yn anedifeiriol mewn cyfarfod eglwysig. Y mae'n wir nad oes neb yn deall y Beibl yn llawn, ond medr pawb geisio ei ddeall yn ôl y ddawn a roddwyd iddynt; dyna'r tir y mynnwn gael pob aelod iddo. Os bydd rhywun wrth ddarllen yr Ysgrythur gartref yn taro wrth adnod nas medr mo'i deall, deued i'r cyfarfod eglwysig i ofyn am eglurhad arni. Gwna fwy o les iddo'i hun, ac i eraill hefyd, wrth ddangos tywyllwch nag wrth gyffesu'n unig ei fod mewn tywyllwch. Y mae dyn call yn parchu dyn tywyll os gwêl ei fod yn ceisio'n ddyfal am oleuni.
DR. EDWARDS, A'R ACHOSION SEISNIGOL
FONEDDIGION,
Teimlaf fod dyled arnaf fel Cymro, fel Cristion, ac fel Trefnydd Calfinaidd, i gyd-ddywedyd ag eraill yn erbyn yr hyn a ddywedodd Dr. Edwards, o'r Bala. Llosgodd Luther yn Wittenburg gyhoeddiad esgymunol Leo neu Lewis X, a oedd, gyda llaw, mor llengar a pharchedig â'r hyn a ddywedwyd yn Nolgellau. Y mae arnaf ofn y bydd i'r parch sydd gennyf i Dr. Edwards fel un a wnaeth lawer i ddyrchafu llenyddiaeth Gymraeg fy atal rhag ei sennu mor llym ag y dylid am ei ymddygiad yng nghyfarfod Dolgellau.
Bwriodd ef ei hun, o bryd i bryd, lawer o wawd bras ar y dosbarth y mae yn awr yn aelod ohono; ac am hynny, wrth gondemnio gwendidau ei henaint, ni ddylid gollwng dros gof y gwaith da a wnaeth yn ei ddyddiau gorau. Hyd yn hyn, ni ddywedais air yn erbyn y Doctor, yn gêl nac ar gyhoedd, ond y mae un peth na ddichon ac na ddylai Cymro ffyddlon ei faddau yn neb.
Yr oedd yn llawen gennyf ddarllen, oddi cartref, ers talm o amser yn ôl, fod y Trefnyddion Calfinaidd yn casglu arian i'w rhoi'n dysteb i Dr. Edwards. Ond y mae'n ddrwg gennyf fy mod yn gorfod ofni erbyn hyn fod gwobrwyon mawr y cyfoethogion wedi ci ddenu ef i bleidio eu mympwyon. Llawer cedrwydden gadarn a dorrwyd i lawr â bwyell aur.
Y mae Dr. Edwards, hyd yn oed yn awr, yn gaffaeliad mawr i ba blaid bynnag a'i caffo. Addefaf mai'r ddadl gryfaf-yn wir, yr unig ddadl gref-o blaid yr achosion Seisnigol yw y Doctor ei hun. Dywedodd y llywydd fod cyffro'r Doctor yn rheswm cryf; ond y gwaethaf yw, Mr. Donne, nad oes dim modd argraffu rheswm o'r fath yna; ac am hynny, y mae'n amhosibl i'r rhai na fuont yn Nolgellau deimlo ei rym. Am resymau argraffedig yr hwn a gyffrowyd, y maent mor eiddil â rhesymau'r tad a'r mab o . . .; ond y mae'n rhywbeth i ddynion bychain gael dweud fod un "dyn mawr" yng Nghymru yn cydfarnu â hwynt. Ni waeth pa beth a ddywedir wrth rai dynion yn erbyn trais nac ynfydrwydd na dim arall, canys caeant eich genau â'r ffaith ddarfod gwneud y trais hwn gan ryw ddyn da, neu ddarfod dangos yr ynfydrwydd yna gan ryw ddyn doeth. Dyma eu rhesymeg hwy—"Brutus assassinated Caesar; assassination is honourable, for Brutus was an honourable man." Ni ddylid rhyfeddu gormod fod dyn mor ddoeth â Dr. Edwards wedi siarad mor hynod o annoeth yn Nolgellau. Pan elo dyn mawr i gors, y mae'n naturiol iddo suddo'n is na'r cyffredin, am ei fod yn drymach.
Ni wn yn iawn pa un ai teg ai annheg, ai doeth ai annoeth, fyddai imi feirniadu'n rhy fanwl ar ei ymadroddion, ond rhag ofn y bydd y Doctor yn rhy falch i ddiarddelwi'r ymadroddion hynny ar ôl eu hail ystyried, byddai'n burion dangos pa mor anwybodus y gall diwinydd fod ynghylch pethau dynol a bydol fath yr achosion Seisnigol. Dywedodd yn gyntaf oll fod ymlyniad y Cymry wrth eu hiaith, a'u gwrthwynebiad i roi arian i Mr. i bresbytereiddio'r Corff, ac i Seisnigo'r wlad, yn codi naill ai oddi ar wybodaeth neu oddi ar ymrysongarwch. Yn wir y mae'r haeriad hwn yn ddigon i beri i bawb gredu bellach fod Cynddylan yn gywir, wrth ddywedyd bod Dr. Edwards yn ymhyfrydu mewn paradoxes.
Atolwg, pwy yn Lloegr a fu'n annog y Cymry i gadw eu hiaith a'u defodau cenhedlig? Ai rhywun o'r lliaws uniaith, ai ynteu dynion dysgedig o fath Gladstone a Craig? Pwy ar y Cyfandir a fu'n rhyfeddu bod y Cymry'n dibrisio iaith mor odidog â'r Gymraeg? Onid dynion y mae eu henwau'n hysbys ymhob gwlad? Pwy yn Iwerddon sy'n edifarhau fwyaf am esgeuluso ohonynt yr iaith Wyddeleg, a phwy sy'n ymdrechu fwyaf i'w hadfywio? Onid y gwŷr dysgedicaf yn y wlad? . . . . O na bai tipyn o ysbryd y Gwyddelod yn eu cefnderoedd Cymreig! Yna trôi diystyrwch y Saeson yn gasineb, a thrôi eu casineb yn y man yn ofn, a'u hofn yn barch. Ond parch neu beidio, y mae'n well i genedl fod yn wrthrych casineb y Saeson nag yn wrthrych eu dirmyg. Gwell i wlad gael eu galw'n "discontented Ireland" nag yn "poor little Wales."
Myned i ddweud yr oeddwn, cyn cyfeirio at esiampl y Gwyddelod, mai'r blaid yr ymunodd y Doctor dysgedig â hi ydyw'r blaid fwyaf bas a di-ddysg ymhob oes a gwlad. Nid wyf i, fel un o'r ffyddloniaid Cymreig, yn erbyn i rai ddysgu Saesneg ac estronieithoedd eraill, os mynnant—ac os medrant. Ond dweud yr wyf na ddylent wneud dim i ddisodli eu hiaith eu hunain. Hyn yw'r gwahaniaeth rhyngof i a Dr. Edwards, sef ei fod yn pleidio'r trefniant gorau a ddychmygwyd erioed i droi'r Cymry'n Saeson uniaith, a minnau'n pleidio trefniant a bair iddynt gadw eu Cymraeg wrth ddysgu Saesneg. Os dywed ef ei bod yn annichon i bobl ddarostyngedig gadw eu hiaith eu hun a dysgu iaith eu darostyngwyr hefyd, y mae gennyf well mantais nag ef i ddweud bod hynny nid yn unig yn ddichonadwy ond yn hawdd hefyd. Pe bai'r Doctor a'i blaid yn siarad ac yn gwario hanner cymaint i Gymreigio'r Cymry ag y maent yn ei siarad a'i wario i'w Seisnigo, a phe bai'n haelodau seneddol, yn hytrach na gwastraffu eu hamser i helpu'r Saeson i wneud deddfau Seisnig, yn ymuno â'i gilydd i fynnu deddfau cyfaddas i'r Cymry, byddai gwybodaeth, a moes, a chrefydd, yn llawer uwch yng Nghymru nag ydynt yn awr. Paham yn enw pob synnwyr y dylem ni ymboeni ar hyd y blynyddoedd i ddysgu'r plant Cymreig i ddarllen Cymraeg, a'r Ysgrythur Lân yn eu hiaith eu hunain yn yr Ysgolion Sabbothol, tra bo'r Bohemiaid a chenhedloedd darostyngedig eraill, yn dysgu iaith eu gwlad yn yr ysgolion dyddiol, a hynny ar draul y genedl a'u darostyngodd? Yn ddiau, y Cymry yw'r genedl wirionaf ar wyneb y ddaear! Nid rhyfedd fod y Saeson yn ein diystyru! . . . .
Cyfeiriodd y Doctor at ardal yn sir Drefaldwyn lle y bu raid troi'r gwasanaeth Cymraeg yn un Saesneg. Nid wyf yn amau na throes yr eglwys honno i'w Saesneg fel y gwnaeth aml eglwys Gymraeg arall y gwn amdani, ond dymunwn gael enw'r ardal er mwyn peri i rywrai ymofyn paham y troes i'r Saesneg. Na ryfedded neb wrth fy ameugarwch, canys cefais allan fod nifer fawr iawn o'r tystiolaethau a glywais hyd yn hyn o blaid yr achosion Seisnigol yn hollol anghywir a chamarweiniol. Fel enghraifft agos, y mae gan flaenor ariannog hafod gerllaw'r dref y ganed ac y magwyd fi ynddi. Ni all ef gael gwared o'r dychymyg fod plant y gymdogaeth yn colli eu Cymraeg yn gyflym, ac felly yn fynych pan elo i Gymanfa, neu Gyfarfod Misol, traetha'i ddychymyg fel pe bai'n wirionedd diddadl; a chan fod dychymyg gŵr cyfoethog yn gadarnach na ffeithiau dyn tlawd, y mae'n ddiau gennyf ddarfod i'r cyngor Seisnigol sefydlu aml "achos" ar ei sail. Y mae hi'n digwydd bod gennyf i well cyfleustra na neb arall i wybod pa faint o Saesneg, ac o Gymraeg, a ŵyr plant Methodistiaid y dref honno, ond y mae cyfleustra'r gŵr cyfoethog i wybod hynny'n llai na'r eiddo neb yn yr ardal, canys nid yw byth yn mynd ar gyfyl nac Ysgol Sabbothol na chyfarfod plant na dim o'r fath. Pe buaswn i'n ddigon cyfoethog i siarad yn y Sasiwn, tystiolaeth sicr o fath hon a draethaswn, sef bod plant i Saeson pur wedi myned ar eu gwaethaf yn Gymry o ran iaith gan mor Gymreig ydyw awyr y dref. Ond pa beth a ddeuai o'r "achosion gwir angenrheidiol hyn" pe na thystiolaethai neb ond yr hyn a wyddai! . . .
Gair o gymhwysiad at y Cymry'n gyffredinol.—Na chymerwch eich hudo yn enw crefydd i rodio yn ôl helynt y byd hwn, nac i gydredeg â dull y byd hwn yn ei lol, ei rodres, ei falchder, na'i foethau. Nac edrychwch ar anwybodaeth o'r Gymraeg yn beth parchus, na hyd yn oed yn beth esgusadwy, ond yn hytrach yn beth cywilyddus. Na fydded ichwi roi dim cefnogaeth i'r rhieni Cymreig ynfyd hynny sydd, trwy ddirfawr ymdrech, wedi llwyddo i fagu eu plant yn Saeson uniaith. Yr ydych wrth roddi arian i adeiladu'r hyn y gellir eu galw yn "noddfeydd balchder" ar eu cyfer yn dodi bri ar eu hynfydrwydd, ac yn calonogi eraill i ymdebygu iddynt. Credwch na ellir gwneud Cristion gwych o Gymro gwael. Hyd y sylwais i, y rhai parotaf i wadu iaith eu tadau ydyw'r rhai parotaf i wadu crefydd eu tadau hefyd. Yn wir y mae'r gwirionedd neilltuol yna'n llechu yn y gwirionedd. cyffredinol hwn:—"Y neb sydd ffyddlon yn y lleiaf sydd ffyddlon mewn llawer hefyd, a'r neb sydd anghyfiawn yn y lleiaf sydd anghyfiawn mewn llawer hefyd." Dangoswch chwi ddyn a wadodd ei iaith, a dangosaf innau ddyn a wad Grist am resymau llawn cyn saled. Ni feddyliai'r bardd gwylltaf ei ddychymyg am ddarlunio Dic Siôn Dafydd yn marw fel merthyr.
Byddai'n hawdd dwyn digonedd o ffeithiau i brofi eich bod yn gwneud yr hyn sydd hollol niweidiol i grefydd, ac i ddynoliaeth hefyd, wrth anwesu'r cyfryw; ac yn gwneud yr hyn sydd afreidiol wrth anwesu'r Saeson pur. Peidiwch â thrin y Saeson sydd yn eich gwlad fel pe baent baganiaid difeddwl a diymadferth; canys honnant eu bod yn fwy crefyddgar nag un genedl tan haul. Am hynny, rhowch iddynt gyfleustra i ddangos eu crefyddgarwch, gan adael iddynt ddarbod drostynt eu hunain megis y gadewir iddynt wneud yn Ffrainc, ym Melg, yn yr Almaen, yn yr Ital, ac ymhob gwlad oddieithr "poor little [foolish] Wales" . . . .
Aflwydd a ddaeth ar bob cyfundeb crefyddol a redodd yn y gwddf i'r teimlad o wladgarwch. Am hynny, trowch eich wynebau at y Cymry; sicrhewch hwy—ie, hwy. Gosodwch y Corff allan fel Eglwys Gymreig Genhedlig. Ystwythwch ychydig ar eich deddfau, hefyd, fel y galloch dderbyn i'ch côl y Cymry a esgeulusir gan y cyfundebau eraill, wrth ymgiprys ohonynt am ymwelwyr Seisnig. Ar air, gosodwch Gristnogaeth uwchlaw enwadaeth; a Chymreigiaeth uwchlaw "surdoes Herod." Os nad ych chwi'r cyfoethogion yn foddlon i gydgychwyn â'r werin yn y cyfeiriad yna, ac i fwrw ymaith eich tegan Seisnig, gosodir anghenraid arnaf i ymosod ar eich sefydliadau Seisnigol mewn modd a'u sigla hyd eu sail. Os rhaid bod yn Gymro salw i fod yn Fethodist da, yna trenged Methodistiaeth, a dyweded yr holl bobl 'Amen.'
Yr eiddoch, &c.,
PREGETHWR.
O.Y.—Os myn rhyw flaenor bach Seisgar gael gwybod gennych pwy ydwyf, er mwyn rhoddi "marc" arnaf, y gorchymyn "Esgymunol," rhowch fy enw yn ôl iddo.
ALLAN O'R "Faner", GORFFENNAF 14, 1880.
Yn sicr ni ddylid dibrisio arian, canys y mae'n rhoi cyfleustra i ddynion da wneud llawer o ddaioni. Y mae hefyd yn codi dynion dibwys i sefyllfa bwysig; yn eu galluogi i edrych yn bwysig, ac yn gartrefol yn y sefyllfa honno; yn eu galluogi i siarad y pethau mwyaf cyffredin mewn modd a bair i wrandawyr dwl dybied eu bod yn anghyffredin, ac yn eu galluogi i dalu am gyhoeddi anerchiadau a gyfrifir yn rhy sâl i'w cyhoeddi'n ddi-dâl. Y mae arian, meddaf eto, yn gwthio dyn dinod i'r amlwg; yn rhoi cyfleustra iddo i arfer y tipyn dawn a fydd ynddo; ac wrth fynych arfer y mae'n cyrraedd rhyw rugledd ymadrodd, a elwir gan fwytawyr y briwsion yn huodledd . . .
Er nad oes arnaf ofn Sasiynaid o Ddic-Siôn-Dafyddion, ac er eich bod yn fy ngolwg yn fwy dirmygedig na neb, eto chwi welwch fy mod yn addef bod eich manteision yn lluosog a'ch dylanwad yn fawr. Addefaf yr addolir cyfoeth ym Mhrydain ymron cymaint ag yr addolir uchelfonedd yn yr Ysbaen, dawn yn Ffrainc, dysgeidiaeth yn yr Almaen, a moesau da yn yr Yswêd. Ond cyn sicred â bod eich codau yn drymion, a'ch pen yn ysgafn, mi a orfyddaf arnoch oll gyda chynhorthwy'r miloedd Cymry syml a diymod hynny na fynnant blygu eu gliniau i'r duw Ffasiwn . . . .
Bonn-wrth-y-Rhein, Medi 11, 1880.
ALLAN O'R "Faner", MEDI 29, 1880.
WRTH FEDYDDIO PLENTYN
GOFYNNWYD I EMRYS FEDYDDIO MERCH FACH I FEDDYG. DYMA'R ARAITH A RODDODD I'R RHIENI, A'I WEDDI
Fe ofynnodd chwaer fach y baban yma imi ychydig amser yn ôl yn ei dull plentynnaidd ond pert ei hun, "Pa bryd yr ydachi yn mynd i bregethu i'r babi?" Wel, fe ŵyr rhai hŷn nad ydyw ddim yn wiw i'r sawl fydd yn bedyddio bregethu dim i fabanod, ac nad yw'n fuddiol pregethu rhyw lawer i'w rhieni hwy chwaith, yn enwedig pan fyddir yn bedyddio mewn cynulleidfa gymysg. Os disgwylir i mi wrth fy swydd, ac yn enw'r eglwys roi dau neu dri o gynghorion i'r brawd a'r chwaer yma, rhaid iddynt beidio â meddwl fy mod wrth hynny'n fy nghyfrif fy hun yn well na hwy, nac yn gystal â hwy. Llefaru y byddaf fel pechadur wrth bechaduriaid, fel cyfaill wrth gyfeillion, gan ddymuno eu lles o'm calon. Y mae'n dda gennym oll weled Dr. H. yn llwyddo yn ei alwedigaeth ac yn cael ei anrhydeddu yn y naill ffordd a'r llall. Ond cofied y ddau fod popeth o'r fath yn mwyhau eu cyfrifoldeb, ac yn wir yn ei ddwyn ef i wyneb temtasiynau newyddion. Yr ydych chwi Dr. Hughes wrth natur yn bur gymdeithasgar, ac y mae hynny'n rhinwedd dymunol a gwerthfawr, ond y mae o'n rhinwedd peryglus iawn. Gofelwch gan hynny na wneloch ddim cyfeiliorni trwy'r hyn a eilw'r Saeson yn excess of virtue. Penderfynwch na wneloch byth gyfeillion rhy agos o ddynion a all niweidio eich crefydd.
'Wn i ddim a ydych yn darllen a gweddïo yn y teulu, ond mi wn fod eich galwedigaeth yn ei gwneud hi'n bur hawdd ichwi esgeuluso'r ddyletswydd hon. Mynnwch ychydig o amser bob dydd i ddarllen y Beibl, beth bynnag, ac yn hytrach na pheidio â gweddio yn y teulu o gwbl, darllenwch weddi fer o Lyfr Gweddïau. Yr wyf yn apelio atoch chwi Mrs. Hughes i rwyddhau ffordd eich priod i wneuthur hyn o beth.
Penderfynwch addysgu'ch plant yn elfennau crefydd, canys chwi a all eu dysgu hwy orau o bawb. Yn wir, fe fydd y bedyddio'n ofer oni bydd dysgu yn ei ganlyn.
Cofiwch fod yn eich plentyn dair rhan, sef corff, enaid ac ysbryd, ac mai addysg grefyddol yn unig a ddatblyga'i ysbryd o.
Peidiwch â meddwl mai chwi'ch dau piau'r fechan hon yn gyfangwbl. Y mae gan yr Eglwys ryw ran ynddi. Ie, y mae'r wladwriaeth yn hawlio rhyw ran ynddi. Ond Duw piau'r rhan orau ohoni. Ef yw Tad yr ysbrydoedd, ac Ef yw Tad ei hysbryd hithau. Tad a mam ei chorff hi ydych chwi, a heddiw yn y bedydd yr ydych yn rhoddi hwnnw hefyd i Dduw yn ei roddi ef
yn aberth byw, santaidd a chymeradwy, gan deimlo mai hynny ydyw'ch rhesymol wasanaeth. Ond wrth ei rhoddi iddo Ef yr ydych yn ei meddiannu yn ei meddiannu yn yr ystyr uchaf. Pan ydych yn ei rhoddi iddo Ef, y mae Yntau yn ei rhoddi'n ôl i chwithau, gan ddywedyd, "Mag y plentyn hwn i Mi."
Dyro i ni fel Eglwys ffydd i gyflwyno'r fechan hon i Ti, yr hwn a'i rhoes ac a'i piau hi. Derbyn hi o ddwylo ei mam, ac o ddwylo'r Eglwys, a dod hi ym mreichiau dy Fab, yr hwn wrth ei chofleidio hi a ddichon ei bendithio, a'i gwneud yn etifedd bywyd tragwyddol. Bedyddia hi â'r Ysbryd Glân fel na byddo dim yn lluddias
lluddias ei bedyddio â dwfr. Y mae hi wedi ei geni ar lun a delw ei rhieni. Boed iddi gael ei geni drachefn ar dy lun a'th ddelw Di.
Os da yn dy olwg, dyro iddi einioes ac iechyd i'th wasanaethu Di. Gwna hi yn y man fel Persis, a gymerodd lawer o boen yn yr Arglwydd, fel Dorcas, yn llawn o weithredoedd da ac elusennau, a hefyd fel Debora fam yn yn Israel.
Boed i'r fam, fel i Elisabeth, lawenydd a gorfoledd o'i phlegyd, a boed i lawer mam lawenychu am ei genedigaeth hi. Er mwyn hynny, cynorthwya hi yr awr hon, fel Hannah, i roddi ei phlentyn i'r Arglwydd. Cynnal hi fel honno i ddwyn ei phlentyn i'r demi fel yr ymddangoso gerbron yr Arglwydd, ac y trigo yno byth.
Dysg hi i fagu'r eneth hon i Ti, rhag iti gael achos i'w chymryd hi ymaith, a gorffen ei magu dy hun yn nefoedd. Gwna'r tad hefyd yn gyfryw un ag y gelli Di ddweud amdano [fel am Abraham], "Mi a'i hadwaen ef y gorchymyn efe i'w blant ac i'w dylwyth ar ei ôl gadw ohonynt ffordd yr Arglwydd."
Gwna hi'n etifedd teyrnas nefoedd.
ANERCHIAD ARALL WRTH FEDYDDIO PLENTYN
Yn y geiriau a ddarllenwyd, gwelwn gymaint mwy rhydd a thrugarog, ar air gymaint mwy o ddyn oedd yr lesu na'i ddisgyblion. Yr oedd o'n gwahodd pan fyddent hwy'n gwahardd. Yr oedd o'n galw ato y rhai y byddai ei ddisgyblion yn gorchymyn iddynt dewi. Yr oedd y disgyblion yn meddwl na allai'r lesu wneuthur dim i blant bychain, ac na allent hwythau wneuthur dim iddo yntau heblaw ei boeni; ond y mae o yn eu cofleidio ac yn eu bendithio; ac y mae o yn dywedyd mewn man arall fod Duw yn peri moliant o enau plant bychain a rhai yn sugno. Yr oedd y disgyblion yn synio bod yr Iesu'n ormod o ddyn i ymwneud dim â phlant, ond y mae ef yn dangos ei wir ddyndod—ei ragorol ddyndod trwy eu croesawu. Yn wir fe deimlai pawb fod rhyw wall pwysig yng Ngwaredwr y byd pe na buasai'n hoff ganddo blant. Fe brofodd ei fod yn Waredwr cymwys i ddynion trwy ei ddangos ei hun yn Waredwr i blant.
Ni ddywedir i'r Iesu fedyddio plant bychain, ond fe ddywedir iddo'u bendithio; ac y mae maddeuant, ail-eni a santeiddrwydd y mae bywyd tragwyddol yn ei fendith Ef. Os ydym yn ddeiliaid gras, paham na allwn fod yn ddeiliaid bedydd hefyd? Y mae eu bod yn blant yn hytrach yn eu cymhwyso nag yn eu hanghymwyso i fod yn etifeddion bywyd tragwyddol. Eiddo'r cyfryw rai yw teyrnas nefoedd. Y mae'r Pabyddion yn bedyddio plant er mwyn eu gwneud yn etifeddion bywyd tragwyddol: y mae'r Protestaniaid yn eu bedyddio am eu bod yn etifeddion y bywyd hwnnw. Y maent yn wir wrth natur yn blant digofaint megis eraill, ond y mae arnynt er hynny rai nodweddion, megis gostyngeiddrwydd, didwylledd, a theimlad o ddibyniad sydd yn eu gwneud yn gymwys yn anad pawb i deyrnas Dduw. Yn y pethau hynny fe ofynnir i ddynion fod yn debyg i blant.
Nid oes dim hanes i'r Iesu fedyddio plant; ond fe ellir casglu oddi wrth ei ryddfrydigrwydd na buasai fo'n condemnio neb am eu bedyddio. Os ydych chwi trwy fedyddio'ch plentyn yn ei gyflwyno i Grist, yna y mae Crist yn edrych yn foddlon ar y bedydd.
Yr wyf i'n prisio gwaith y Bedyddwyr yn gosod cymaint o bwys ar gyfrifoldeb personol; ond y maent yn colli golwg ar egwyddor arall, sef awdurdod y rhieni ar eu plant. Os yw'r plant yn rhydd i wneud fel y mynnont pan dyfont i oedran gwŷr, y mae'r rhieni'n rhwym i'w cyflwyno hwynt yn eu mebyd cyntaf i Arglwydd pawb oll.
GWEDDI I DDIOLCH AM Y CYNHAEAF
O Arglwydd, yr ydym yn ymgyfarfod heddiw mewn modd neilltuol er mwyn diolch iti nid yn unig am roddi inni law a gwres, bob un yn ei amser, i dyfu, i aeddfedu ac i gasglu cynnyrch y tir, ond hefyd am dy holl ddoniau inni, yn dymhorol ac yn ysbrydol, ar hyd y flwyddyn a aeth heibio. Yr ydym yn diolch iti, nid yn unig am roddi inni bethau da, ond hefyd am ein cadw rhag llawer drwg. Beth a dalwn iti am dy holl ddoniau inni? 'D allwn ni ddim talu iti ond yn unig o'th eiddot dy hun. Am hynny y mae'n dda gennym feddwl mai derbyn dy iachawdwriaeth a'th addoli ydyw'r diolch mwyaf cymeradwy gennyt ti am ddoniau dy ragluniaeth. Cynorthwya bob un ohonom gan hynny i ddywedyd â'i galon: "Ffiol iachawdwriaeth a gymeraf, ac ar enw yr Arglwydd y galwaf, fy addunedau a dalaf i'r Arglwydd." Yr ydym yn teimlo oni wnawn ni hynny, mai ein twyllo'n hunain, a cheisio dy dwyllo dithau y byddwn wrth ymgynnull ynghyd fel hyn.
Er ein bod yn cydnabod dy fod Ti wedi gwneud dy ran tuag atom trwy roddi inni dywydd tymhoraidd iawn, eto y mae amgylchiadau yn gyfryw fel yr ydym yn ofni y bydd llawer, naill ai trwy eu camwedd eu hunain neu trwy gamwedd rhai eraill, mewn caledi mawr yng nghorff y gaeaf sydd ar ddyfod. Dwg ni i gredu bod dy lywodraeth di ar amgylchiadau yn gystal ag ar elfennau natur, ac y gelli di drefnu ffordd i roddi ymborth a dillad i bawb a ymddiriedo ynot. Os rhoddaist inni beth mor fawr â bywyd, dysg inni gredu mai bychan gennyt bellach ydyw rhoddi inni fwyd i gynnal y bywyd hwnnw; os rhoddaist inni beth mor werthfawr â'r corff, mai bychan gennyt roddi inni wisg i ddilladu'r corff hwnnw.
Ond yr wyt ti wedi rhoddi inni beth gwerthfawrocach hyd yn oed na'r corff, ac na'r bywyd anianol sy'n bywiocáu'r corff—yr wyt wedi rhoddi inni ysbryd anfarwol. O Arglwydd, portha hwnnw hefyd, â'r bara a ddaeth i waered o'r nef. Dillada hwnnw hefyd â'r Arglwydd Iesu ac â'i gyfiawnder Ef, fel nad ymddangoso gwarth ein noethder ni yn y dydd mawr y byddi Di'n diosg hyd yn oed y bratiau budron sy'n awr yn gorchuddio enaid aflanach na hwythau.
Rho dy wisg ddisgleirwen, olau,
Cuddia'n noethni hyd y llawr
Fel nad ofnom mwy ymddangos
Byth o flaen yr orsedd fawr.
Dwg ar gof inni y daw rywbryd amser cynhaeaf pwysicach na'r un a gawsom, pan fedir y rhai sy'n medi, ac y nithir y rhai sy'n awr yn nithio. Na ad inni anghofio bod gennyt tithau dy faes a'th lawr dyrnu, dy ffwrn a'th ysgubor. O! dihidla arnom law graslon ym moddion gras, a thywynned dy wyneb arnom fel y tyfom, ac aeddfedu, a dwyn ffrwyth lawer, a hynny i berffeithrwydd. Gwna ni oll yn gyfryw rai na chwelir ni byth ymaith gan wynt cryf y farn, ond y casgler ni yn hytrach i'th ysgubor.
Derbyn ein diolch, a gwrando'n deisyfiadau, &c.
GWEDDI WRTH FWRDD Y CYMUN
O Dad Hollalluog a thrugarog, bendiga'r bara hwn, a'r cwpan hwn, trwy y rhai yr ydym yn myned i goffáu am farwolaeth dy Fab, y rhyngodd bodd i Ti ei ddanfon i'r byd i ddatguddio dy gariad, ac i'n prynu ninnau â'i werthfawr waed. Pwy ydym ni, O Dduw, fel y gwnelit y fath gymwynas i ni, a pha fodd y gallwn ni ddangos iti'n diolchgarwch amdani? Y mae'r nefoedd a'r ddaear yn mynegi dy ogoniant, ac y mae holl weithredoedd dy ddwylo yn llawn o olion dy ddaioni, ond Ti a ddangosaist dy gariad tuag atom ni wrth anfon Dy Fab i'r byd fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo Ef, ond caffael ohono fywyd tragwyddol. Nid oes gennym ddim i'w dalu iti am y fath ddawn anhraethol. Er hynny, gan gyffesu mai Tydi ydyw'n Duw, ac mai dy weision ydym ninnau, yr ydym yn cyflwyno iti ein corff, ein henaid, a'n hysbryd, y rhai a brynaist. Yr ydym yn ymgysegru i'th wasanaeth, ac yn ymrwymo i ddilyn o hyn allan dy ewyllys santaidd di, i wneuthur yr hyn sydd dda yn dy olwg, ac i gilio oddi wrth ddrygioni. O Dduw, Ti wyddost ein gwendid, ac nid yw ein diffygion yn guddiedig oddi wrthyt; bydd drugarog wrthym, a chyflawna ynom yr addunedau hyn fel y gallom rhag llaw ein hoffrymu'n hunain iti yn aberth byw, santaidd a chymeradwy gennyt Ti dy hun, yr hyn yw ein rhesymol wasanaeth ni.
O Arglwydd, golyga ni yn gymeradwy yn aberth dy Fab. Na chyfrif i'th bobl eu pechodau, na phechodau'r hwn sy'n gweinyddu. Ond cadarnha, a gwna Di'n effeithiol bob peth a ddyweder ac a wneler yn dy enw, ac yn ôl dy orchymyn. Anfon dy Lân Ysbryd arnom, fel wrth fwyta o'r bara hwn, ac yfed o'r cwpan hwn, y derbyniom gorff a gwaed yr Arglwydd.
Yr ydym yn atolygu ar i Lywodraethwr y wledd fod Ei Hun gyda ni, megis wrth ben y bwrdd, yn ein bendithio, a ninnau trwy ffydd yn edrych arno, ac yn ymborthi arno, trwy gyfranogi o'i fywyd, o'i Ysbryd, o'i ewyllys, ac o'r hyn oll sydd eiddo.
Derbyn ein diolch, a gwrando er mwyn. . . .
PREGETH
A'i ddisgyblion a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Rabbi, pwy a bechodd, ai hwn, ai ei rieni, fel y genid ef yn ddall?
Yr Iesu a atebodd, Nid hwn a bechodd, na'i rieni chwaith: eithr fel yr amlygid gweithredoedd Duw ynddo ef. —Ioan ix 2-3.
Fel meddyg y dangosir yr Iesu yng nghorff y bennod hon; ond fel rabbi neu athro y dangosir o allan yn y testun. Yr oedd o'n ddoethor neu ddoctor yn nau ystyr y gair, oblegid fe'i hanfonwyd o'r nef, ac fe'i breintiwyd gan y nef, i ddysgu ac i iacháu. A gwnaeth hyn mor effeithiol fel yr enillodd o'r un teitlau ar y ddaear hefyd, canys y bobl yn ei wlad ei hun a'i cyfrifai'n broffwyd, a chydnabyddai hyd yn oed ei elynion ei fod yn feddyg da i bawb ond iddo'i hun.
Fel athro yn bennaf y gweinyddai fo'r swydd broffwydol, sef trwy holi ac ateb—trwy ateb yn hytrach, oblegid anfynych y byddai Iesu Grist, nac un athro da arall yng ngwledydd y Dwyrain yn holi eraill oddieithr er mwyn codi awydd ynddynt hwy i'w holi ef. Ateb, ac nid holi, ydyw gwaith priodol athro, a thuag at gael cyfleustra i ateb rhaid iddo ymegnïo i fagu ysbryd holgar a chwilgar yn ei ddisgyblion, a thuag at fedru ateb ar ôl cael ohono gyfleustra rhaid iddo wrth fesur mawr o wybodaeth a barn.
Nid yw ryfedd yn y byd fod yr Ysgolion Sabothol a'r ysgolion beunyddiol yn y wlad hon yn gadael y rhan fwyaf o'r plant mor anneallus, canys y mae'r dull y cyfrennir addysg ynddynt yn hollol annaturiol, am ei fod yn trosglwyddo gwaith yr athro i'r disgybl, a gwaith y disgybl i'r athro. Y mae holi dosbarth yn yr Ysgol Sul, neu holi'r ysgol yn gyffredinol, yn burion peth ambell dro i brofi gwybodaeth y dosbarth hwnnw, neu'r ysgol honno, ond peidied neb â meddwl bod honno'n ffordd dda i gyfrannu gwybodaeth. Trwy ateb ac ateb fel Iesu Grist y gall athro gyfrannu gwybodaeth yn y modd gorau, a thrwy holi a holi fel y disgyblion y gall aelodau'i ddosbarth ennill gwybodaeth.
Amled yn yr Efengylau y ceir y ddau ymadrodd sydd yn y testun: "A'i ddisgyblion a ofynasant iddo,' "A'r Iesu a atebodd." Oherwydd eu parodrwydd i ofyn i'r Iesu am oleuni ar bob peth oedd yn dywyll iddynt yr oedd yn hawdd iddynt ofyn ambell gwestiwn a ymddengys i ni'n blentynnaidd, ond y mae gwerth yr atebiad a roddid iddynt yn ei gwneud hi'n hawdd inni ddygymod â phlentyneiddiwch y gofyniad. Ac yn wir, yr oedd yn fuddiolach iddynt hwy eu hunain. ofyn rhyw fath o gwestiwn na bod yn ddistaw, canys am na bu'n gywilydd ganddynt fod cyhyd yn blant oran eu gostyngeiddrwydd a'u chwilfrydigrwydd yr aethant yn y man yn gymaint o dynion mewn gwybodaeth. Y mae'n anodd dyfalu pa beth a'u cymhellodd i ofyn am ddyn dall o'i enedigaeth: "Ai hwn a bechodd fel y genid ef yn ddall" Ai'n ddifeddwl y gofynasant hynny, ai meddwl yr oeddynt y gallai o bechu cyn ei eni, ai ynteu y gallai fod Duw wedi ei gosbi ymlaenllaw am bechod a wnâi o ar ôl myned i oedran gŵr? Ond er bod y gofyniad yn dyfod naill ai o anfeddylgarwch neu o gamsyniad, y mae'r ateb iddo yn cynnwys gwirionedd pwysig, sef nad yw pob drwg neilltuol a ddelo ar ddyn ddim yn ganlyniad uniongyrchol drwg neilltuol a fyddo mewn dyn.
"Ai ei rieni a bechodd?" ebe'r disgyblion drachefn. Er mai ateb negyddol a roes yr Iesu i'r gofyniad hwn hefyd, eto yr oedd hwn yn un digon rhesymol ynddo'i hun. Er bod yr Iesu'n cyhoeddi bod pob un o ddau ddyfaliad y disgyblion yn anghywir am y dioddefydd neilltuol hwn, eto nid yw o'n cyhoeddi bod eu dyfaliadau yn anghywir am bob dioddefydd, oblegid y mae'r ddau beth a wadodd o am y dyn dall yn wir am lawer o ddynion eraill. Byddai'n wir dywedyd am lawer dioddefydd hwn a bechodd. Byddai'n wir dywedyd am ambell ddioddefydd: ei rieni a bechodd; a byddai'n wir dywedyd am ddioddefydd arall: nid hwn a bechodd na'i rieni chwaith, eithr fel yr amlygid gweithredoedd Duw ynddo ef. Y mae pob un o'r tri haeriad yn wir, er nad oes un ohonynt yn wir cyffredinol.
Dyma'r tri gwirionedd y sylwaf ychydig arnynt:
Yn gyntaf, Fod dyn yn dioddef weithiau o'i achos ei hun.
Yn ail, Fod dyn yn dioddef weithiau o achos eraill.
Yn drydydd, Fod dyn yn dioddef weithiau, nid o'i achos ei hun, nac o achos eraill, ond er mwyn gogoniant Duw.
Yn gyntaf, Fod dyn yn dioddef weithiau o'i achos ei hun. Y mae hyn yn wirionedd mor amlwg fel na raid ymdroi nemor i'w gadarnhau, canys y mae profiad pob dyn yn dangos iddo ddioddef rywbryd, naill ai yn ei gorff neu yn ei ysbryd, nid yn unig mewn canlyniad i bechod cyffredinol y ddynoliaeth, ond hefyd mewn canlyniad i ryw bechod neilltuol y bu ef yn euog ohono. Y mae rhai cosbedigaethau yn canlyn eu priodol bechodau mor rheolaidd, ac weithiau mor uniongyrchol hefyd, fel y mae'r berthynas sy rhyngddynt a'i gilydd yn amlwg i bawb. I bwy y mae llygaid cochion? Nid i bob un o blant Adda—nid i bawb a'r a bechasant yn ôl cyffelybiaeth ei gamwedd ef, ond i'r neb sydd yn aros wrth y gwin. Y gwin coch a yfaist ti yn anghymedrol, ac nid yr afal coch a fwytaodd ein rhieni cyntaf a gochodd dy lygaid.
Y mae brathiad y ddraig fawr a phigiad yr hen sarff yn poeni pob dyn, ond y mae gan y gwin coch ei frathiad ei hun; y mae gan y gwin cymysgedig ei bigiad neilltuol ei hun. Rhaid iti ymwthio i ryw ddyrysgoed nad anturiodd Adda iddynt i gyfarfod ag ambell sarff. Rhaid iti grwydro i ryw lannerch fwsoglyd nad adnabu traed Efa moni i daro wrth ambell neidr.
Y mae meibion Adda wrth chwanegu pechod ar bechod yn amlhau eu cosbedigaethau. Er bod ambell bechod yn dwyn ei ffrwyth ei hun yn dra diweddar, eto pan ddelo'r gosbedigaeth, nid yw ei diweddarwch yn ein rhwystro i weled ei bod yn ganlyniad rhyw bechod neilltuol. Yr ydym yn cofio'r fellten pan glywom y daran; y mae'n gof gennym mae'n gof gennym weled y mwg a'r tân yn rhuthro o ffroen y fagnel pan gyrhaeddo sŵn yr ergyd hyd atom. Yr wyf yn cofio fy meiau heddiw, ebe'r pechadur. A phaham heddiw? Am dy fod yn gwneuthur imi feddiannu—imi etifeddu camweddau fy ieuenctid. Rhaid i natur gael dial ei cham ar y neb a'i troseddo; am hynny nid yw hi'n arbed llawer un a wnaed gan Dduw yn etifedd bywyd tragwyddol rhag bod yn etifedd ei gamweddau ar yr un pryd. "Na chofia bechod fy ieuenctid na'm camweddau," ebe Dafydd. Cofia yn hytrach dy dosturiaethau a'th drugareddau; canys erioed y maent hwy. Maddau fy hen bechodau er mwyn trugareddau sy'n llawer hŷn. Gwnaf, medd Duw o'r nef yn eglur. Ni chofiaf i mo'th bechodau yn fy ffordd i o gofio; ond fe a'u cofia natur yn ei ffordd hi.
Ychydig mewn cymhariaeth o'r drygau sy'n dyfod arnom a allwn ni eu holrhain i'r drygau a wnaethom; ond y mae'n bod yn gallu cysylltu ambell ddioddefaint â phechod neilltuol yn dangos y gall fod cysylltiad rhwng llawer o ddioddefiadau eraill a phechodau neilltuol, ond ein bod ni'n analluog i'w ganfod. Oni chlywsom rai rhieni yn cwyno yn rhithgrefyddol iawn o achos y blinder a gânt oddi wrth eu plant pan y mae'n amlwg i ni fod y blinder hwnnw yn ffrwyth naturiol eu hesgeulustra hwy.
Mewn ambell adfyd y mae calon dyn ei hun yn ei gondemnio am yr anwiredd a ŵyr ef, pan fydd ei gymdogion ond odid yn gofyn yn synedig: "Pwy a bechodd, a'i hwn ai ei rieni" fel y byddai ef yn y fath adfyd. Ond mwy yw Duw na'r galon, ac Ef a ŵyr bob peth. Canlyniad naturiol pechod yn ei olwg Ef ydyw llawer dioddefaint a ymddengys i ni yn ddamwain ac yn anffawd. Llawer dioddefaint, meddaf, ac nid pob dioddefaint, oblegid y mae gwirionedd arall yn bod, sef
Yn ail, Fod dyn yn dioddef weithiau o achos eraill.
Ond a ydyw hyn yn gyfiawn? Ydyw, tra na byddo dyn yn dioddef o achos eraill fwy nag y mae o'n haeddu ei ddioddef o'i achos ei hun, ac nid oes un dyn ar dir i ddywedyd ei fod yn dioddef mwy na'i haeddiant yn y byd hwn; canys cyflog pechod—cyflog llawn pechod pob dyn yw marwolaeth. Paham gan hynny y grwgnach dyn byw?
Pan oedd angel yr Arglwydd ar ôl difetha eisoes ddeng mil a thrigain o feibion Israel yn estyn ei gleddyf tua'r ddinas santaidd i ddinistrio'i thrigolion hithau o achos i Ddafydd rifo'r bobl, fe ddywedodd y brenin wrth Dduw, "Onid myfi a ddywedais am gyfrif y bobl, ac a wneuthum fawr ddrwg, ond y defaid hyn, beth a wnaethant hwy? Fy Arglwydd Dduw, bydded dy law, atolwg, arnaf i, ac ar dŷ fy nhad."
Y mae'n wir mai o achos drygioni Dafydd y lladdwyd cynifer o'r bobl, ond nid defaid diniwed oeddynt hwy chwaith. Os oeddynt yn ddieuog o bechod neilltuol brenin, yr oeddynt yn euog o lawer pechod oedd yn haeddu marwolaeth, ac am hynny yr oedd yn gyfiawn i Dduw daro'r brenin trwy eu taro hwy, canys ni allesid yn effeithiolach gosbi brenin oedd yn ymfalchïo yn rhifedi ei bobl na thrwy leihau eu rhifedi. Fel na ellir taro tad yn drymach na thrwy gymryd ymaith ei blant, felly ni ellir taro brenin yn drymach na thrwy gymryd ymaith ei ddeiliaid.
Pwy a bechodd ai hwn ai ei rieni fel yr ymlidid y gwrid o'i fochau gan welwder marwolaeth ddisymwth? Nid hwn a bechodd, er ei fod yn bechadur. Fe ddichon mai ei rieni a bechodd. Pwy a bechodd, ai hwn ai ei rieni, fel y genid ef yn nychlyd ac yn anafus? Os pechodd rhywun, ei rieni a bechodd neu rieni ei rieni. Dyna a ddywed astudwyr natur yn bendant, a dyna a ddywed Duw natur hefyd weithiau. "Y tadau a fwytasant rawnwin surion, ac ar ddannedd y plant y mae dincod." Ein tadau, medd y proffwydi, a bechasant, ac nid ydynt, a ninnau sy'n dwyn eu cosb hwynt.
Ond os yw Duw ôl trefn natur yn ymweled ag anwiredd y tadau ar y plant hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth o'r rhai a'i casânt, y mae Ef, yn ôl trefn gras yn gwneuthur trugaredd i filoedd, neu hyd fil o genhedlaethau o'r rhai a'i carant. Y mae trugaredd wedi'r cwbl yn gorfoleddu yn erbyn barn.
Gellir casglu oddi wrth waith Iddewon yn dweud wrth y dyn a gawsai ei olwg: "Mewn pechodau y ganwyd ti oll," eu bod hwy yn priodoli ei ddallineb i'w rieni. Y mae'n wir eu bod hwy'n cyfeiliorni yn yr achos neilltuol hwn; ond nid oeddynt yn cyfeiliorni wrth farnu y gallai dyn ddioddef yn ei gorff, ac yn ei enaid hefyd, o achos camwedd ei rieni; canys y mae'n naturiol i blant etifeddu pechod eu rhieni ac etifeddu eu cosb hefyd.
Y mae'r ddeddf hon mor fuddiol ag ydyw hi o naturiol, canys oni bai amdani hi, fe fyddai'n haws fyth gan ieuenctid anystyriol ymgymryd â'r cyfrifoldeb ofnadwy o fagu plant, ac fe fyddai llawer o rieni yn fwy esgeulus nag ydynt i hyfforddi eu plant yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. Gwae i lanc annuwiol yn y Farn, ond gwae ar wae i rieni annuwiol.
Ac nid plant yn unig sy'n dioddef o achos pechodau rhai eraill. Y mae cysylltiad lleol y naill ddyn â'r llall yn ei wneud yn agored i'r un anffawd. Mynych y bydd y cyfiawn yn cyfranogi o aflwydd ei gymydog anghyfiawn. Bydd yr haint a gafodd lety cymwys mewn tŷ aflan yn ymweled â'r tŷ glân sydd yn ei ymyl. Y mae gwledydd o fath Poland, Iwerddon, a'r India, yn ymboeni gan ddrygfyd ac anniddigrwydd oblegid eu cysylltiad gorfodol â gwledydd gormesol.
Ond y mae rhai dynion yn dioddef oblegid eraill mewn ystyr uwch na'r ystyr yr ydys newydd grybwyll amdano, sef er mwyn cyd-ddioddef â nhw. Y mae hwn yn ddioddefaint gwirfoddol, ac am hynny, yn un rhagorol ynddo'i hun, heblaw ei fod yn rhagorol yn ei amcan. Y mae'r neb a ddioddefo er mwyn ysgafnhau dioddefaint eraill yn ail-fyw bywyd yr Iesu, ac fe all trueiniaid yn briodol ddywedyd am y cyfryw un: "Efe a gymerth ein gwendid ni, ac a ddug ein doluriau." Yn ein holl gystudd ni, yntau a gystuddiwyd.
Y mae dioddef yn ymostyngar o achos eraill yn beth mawr; ond y mae dioddef yn llawen er mwyn eraill yn beth mwy o lawer.
Eithr fel y gallom ddeall yn well ffyrdd Duw tuag at ddynion, y mae Iesu Grist yn y testun yn datguddio gwirionedd arall mwy cysurol na'r ddau flaenorol, sef yn drydydd—Fod dyn yn dioddef weithiau, nid o'i achos ei hun, nac o achos eraill, ond er mwyn gogoniant Duw. "Nid hwn a bechodd, na'i rieni chwaith, eithr fel yr amlygid gweithredoedd Duw ynddo."
Fe a bechodd ef yn ddiau, ac fe bechodd ei rieni hefyd; ond dweud y mae'r Iesu nad oes dim cysylltiad rhwng unrhyw bechod personol neu deuluol, â dallineb y truan hwn. Dallineb â diben iddo, ac nid dallineb ag achos iddo, oedd ei ddallineb ef, a'r diben oedd amlygu ynddo fo y ddwy weithred a oedd hyd hynny yn guddiedig yng nghynllun Duw, a thrwy y rhai y gogoneddid Ef yn ei Fab Iesu, sef agoryd llygaid corff y dall ac agoryd llygaid ei feddwl hefyd.
Cadarnhau hen wirionedd a ddatguddiesid o'r blaen, ac nid datguddio gwirionedd newydd oedd yr Iesu wrth ddweud bod ambell ddyn yn dioddef yn ddiachos, ac yr oedd yn rhyfeddod fod yr Iddewan a disgyblion heb ganfod y gwirionedd hwnnw yn llyfr Job.
Hawdd y gallasai'r Iesu ddywedyd wrthynt, "Oni
ddarllenasoch chwi yr Ysgrythur hon: 'A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Satan, "A ddeliaist ti ar fy ngwas Job, nad oes gyffelyb iddo ar wyneb y ddaear, yn ŵr perffaith ac uniawn yn ofni Duw, ac yn cilio oddi wrth ddrygioni," ac yn parhau yn ei berffeithrwydd er i ti fy annog i yn ei erbyn ef i'w ddifa heb achos. " Dyma ddyn y tystiolaethai Duw amdano ei fod mor berffaith ag y disgwylir i ddyn pechadurus fod, a dyn na feiddiodd Satan ei hun, er mor feiddgar ydyw, ddim gwadu'r dystiolaeth a dystiolaethwyd amdano, yn dioddef, ac yn dioddef heb ddim achos ynddo'i hun.
Os oedd achos i'r cystudd, yn y temtiwr, ac nid yn y temtiedig yr oedd o; canys yr oedd y diafol wedi edliw wrth Dduw nad heb achos yr oedd Job yn gyfryw ddyn ag oedd o. "Ai yn ddiachos," eb ef, "y mae Job yn ofni Duw; oni chaeaist o'i amgylch ef, ac o amgylch ei dŷ, ac ynghylch yr hyn oll sydd eiddo oddi amgylch? ti a fendithiaist waith ei ddwylaw ef, a'i dda ef a gynyddodd ar y ddaear; eithr estyn yn awr dy law, a chyffwrdd â'r hyn oll sy ganddo, ac efe a'th felldithia o flaen dy wyneb." Dyma ystyr yr haeriad mewn geiriau eraill: Nid er dy fwyn dy hun y mae Job yn dy garu, ond er mwyn y rhoddion a gafodd o gennyt.
Yr oedd hyn yn wirioneddol yn fwy o gyhuddiad yn erbyn Duw nag yn erbyn Job, oblegid yr oedd o'n awgrymu nad oes yn Nuw ddigon o hawddgarwch i beri i'w bobl ei garu er ei fwyn ei hun. Yr oedd y cyhuddiad, gan hynny, yn ergyd at anrhydedd Duw, canys nid anrhydeddir neb ond i'r graddau y cerir ef er ei fwyn ei hun. Yn awr, y mae Duw weithiau, er mwyn amddiffyn ei anrhydedd yn y ffordd fwyaf effeithiol, yn derbyn her y diafol. Wele fy rhai annwyl yn dy law, eb Ef. Cymer oddi arnynt bopeth ond eu heinioes. Dwg ymaith eu hiechyd, eu heiddo, a'u perthnasau, megis ag un ergyd, a chei weled y'm gogoneddant i ynghanol eu gorthrymderau, ac y'm bendithiant yn y lludw. Y mae gennyf i ymddiried yn fy mhobl, a chei weled cyn diwedd y praw fod ganddynt hwythau ymddiried ynof innau.
Chwi, saint y Goruchaf, gwelwch na siomer Duw ynoch, rhag gorfoleddu o'r gelyn. Dangoswch trwy eich amynedd a'ch ymostyngiad fod Duw yn eirwir, a bod y diafol yn gelwyddog. Dangoswch i gyhuddwr mawr y brodyr eich bod yn gweled digon o hawddgarwch yn eich Duw i beri ichwi ei garu er ei fwyn ei hun. Ymgodwch i'r tir yr oedd Job ynddo pan ddywedodd o: "A dderbyniwn ni gan Dduw yr hyn sydd dda; ac oni dderbyniwn yr hyn sydd ddrwg?" Diau eich bod yn dioddef weithiau heb wybod am ba achos nac i ba ddiben yr ydych yn dioddef. Os felly, cyfrifwch eich bod yn dioddef o achos diafol, ac er mwyn Duw.
Rhwng Duw ac yntau y mae'r ymrafael, ac nid rhwng Duw a chwi, pan ddywed eich cydwybod wrthych eich bod yn dioddef megis heb achos. Am hynny cyfrifwch eich cystudd yn gyfleustra a roddir ichwi i ddial anrhydedd eich Achubwr ar elyn eich enaid. Ond cyngor anodd i'w wneuthur ydyw hwn hefyd, canys pa sawl sant sydd yma yn foddlon i golli ei iechyd, ac i golli'r hyn oll sydd werthfawr ganddo er mwyn gogoniant Duw? A adewch chwi i Dduw amlygu ei weithredoedd ynoch trwy orchfygu Satan yn eich corff, ac yn eich ysbryd chwi'ch hunain? Os gwnewch, chwi fyddwch yn wroniaid yng ngolwg Duw yn wroniaid yn yr ystyr uchaf a santeiddiaf. Fe all Duw lethu ei elyn heboch chwi, ond trwy oddef ohonoch yn amyneddgar y prawf a rydd o arnoch y gall o'i orchfygu'n deg, a gosod taw effeithiol arno. O enau plant bychain, ebe'r Salmydd, y peraist nerth i orchfygu'r gelyn a'r ymddialydd.
Os oes neb yn dioddef yn ôl ewyllys Duw ac er mwyn gogoniant Duw, cofied fod ei ddioddefaint yn rhodd Duw mor wirioneddol ag y mae ffydd felly, a'i fod hefyd yn arwydd cael ohono ffafr yng ngolwg yr Arglwydd. Nid pob Cristion sy'n ddigon teilwng i ddioddef yn yr ystyr yma, sef er mwyn enw ac anrhydedd y personau dwyfol. Ni byddai'n ddiogel i Dduw ymddiried ei enw i ambell un—byddai perygl iddo fyned yn ysbail i ddiafol. Ni fedrai Doré na Munkacsy nac un paentiwr arall ddarlunio'r llawenydd nefol a oedd yn goleuo wyneb yr apostolion y diwrnod y cawsant eu cyfrif yn deilwng i ddioddef amarch o achos ei enw ef.
Na ddioddefed neb fel lleidr neu ddrwgweithredwr, ond os fel Cristion, na fydded gywilydd ganddo yn hyn o ran. Caiff y Cristion ddigon o gyfleustra i ogoneddu Duw trwy ei foli yn y nefoedd; ond yn y byd hwn yn unig y caiff o gyfleustra i'w ogoneddu trwy ddioddef.
Byddai'n haws i'r dyn perffaith ac union ddioddef yn dawel ped ystyriai fo mai dioddef y mae o cr mwyn yr Hwn a ddioddefodd fwy o lawer drosto ef. "Ni wrthwynebasoch chwi eto hyd at waed, gan ymdrech yn erbyn pechod," ond fe ddioddefodd Ef hyd ac waed.
Edrychwch ar Iesu, yr hwn yn lle'r llawenydd a osodwyd iddo—yr Hwn, er mwyn y gogoniant a ddaliwyd o'i flaen, a ddioddefodd y groes, gan ddiystyru gwaradwydd—gan waradwyddo gwaradwydd ei hun. Gogoniant a roddwyd iddo'n gyfnewid am ei ddioddefaint ydyw ei ogoniant cyfryngol; a phob peth a roddwyd iddo—pob peth a enillwyd ganddo trwy eithaf chwys gwaed, y mae ganddo awdurdod i'w roddi i eraill. Y mae o mor rhwydd ei galon, ac mor agored ei law fel na fedr o gadw iddo'i hun ddim y mae ar ei law ei roddi. Braidd na ellir dweud ei fod megis yn afradloni ei dda. Y mae o'n ewyllysio rhannu. ei ogoniant i bawb a fu'n gyfrannog o'i ddioddefiadau. Pwy bynnag sy'n cyflawni'r hyn sy'n ôl o gystuddiau Crist, fe gyflawnir hwnnw â'i ogoniant ef. Pwy bynnag sy'n cylcharwain yn y corff farweiddiad yr Arglwydd Iesu, fe gaiff hwnnw gyfranogi o'i fywyd ef. Pwy bynnag sy'n dwyn yn ei gorff nodau yr Arglwydd Iesu, neu'n dwyn yn ei ysbryd gleisiau rhyw ail Golgotha, fe gaiff hwnnw wisgo ar ei fynwes y seren arian ar groes aur i ddangos mai ym mrwydrau'i Dywysog, ac nid yn ei frwydrau'i hun, y cafodd o'i greithiau.
Nid yw milwr da i Iesu Grist yn foddlon ar brofi grym ei atgyfodiad ef heb gael yn gyntaf gymdeithas ei ddioddefiadau ef, a chael ei gydffurfio â'i farwolaeth ef. Ni byddai'n wiw gan y cyfryw un gychwyn i'r nef oddi ar ben y maen treigledig neu oddi ar ben mynydd yr Olewydd. Y mae mor hyfryd ganddo gymdeithas yr Iesu fel y mae o'n mynnu cychwyn gydag ef i'w ogoniant o ymyl Bethlem. Y mae o'n cael rhyw hyfrydwch trist wrth ymdroi gydag ef yn y diffeithwch erchyll, ac yng Ngethsemane dywyll. Y mae o'n ewyllysio marw gydag ef, a chael ei gladdu gydag ef, ac nid oes eisiau dweud ei fod yn barod iawn i gydgyfodi ag ef, i gydesgyn ac i gyd-fyw ag ef yn dragwyddol, er mwyn cyfranogi o'i ogoniant.
Ac os oes i Grist ogoniant na ddichon o mo'i roddi i arall, fe gaiff ei ddisgyblion weled hwnnw, a bydd gweled y mawr ragorol ogoniant a oedd iddo cyn bod y byd yn ddigon i beri iddynt anghofio eu holl ofidiau ar y ddaear.
Nerthed Duw ni i gyd-ddioddef, os bydd raid, â Christ, fel y'n cydogonedder hefyd.
CHWEDLAU
A
DAMHEGION TRAMOR
ALLAN O'R Tyst Dirwestol, 1898—1899
I. Y TLAWD A'R CYFOETHOG
Yn yr hen amser gynt, pan oedd y Duw da ei hun eto'n ymrodio ar y ddaear ymhlith dynion, fe ddigwyddodd ei fod ar ryw brynhawn yn flinedig, ac i'r nos ei oddiweddyd cyn cael ohono hyd i lety. Yn awr yr oedd yn sefyll o'i flaen ar y ffordd ddau dŷ ar gyfer ei gilydd, y naill yn fawr a gwych, a'r llall yn fychan a gwael; ac yr oedd y mwyaf o'r ddau yn perthyn i ŵr cyfoethog, a'r llall i ŵr tlawd. Yna fe ddywedodd ein Harglwydd Dduw ynddo'i hun, "Ychydig o faich fyddaf ar y goludog; curo a wnaf ei ddôr ef." Pan glywodd y goludog y curo, agorodd y ffenestr, a gofynnodd i'r gŵr dieithr beth yr oedd o yn ei geisio. Yntau a atebodd, "Deisyf yr wyf yn unig gael llety dros nos." Yna fe edrychodd y goludog ar y teithiwr o warthaf ei ben hyd i wadnau ei draed; a chan fod y Duw daionus yn gyffredin ei wisg, ac nad oedd o'n debyg i ddyn â chanddo lawer o arian yn ei god, fe ysgydwodd y goludog ei ben ac a ddywedodd, "Ni allaf eich derbyn i mewn; y mae lloriau fy stafelloedd wedi eu gorchuddio â llysau a hadau, a phe rhown i lety i bob un a gurai wrth fy nrws, odid na fyddai raid i mi fy hun gymryd ffon cardotyn yn fy llaw. Cais fwyd a llety mewn rhyw le arall." Gyda hynny fo gaeodd y ffenestr, ac a adawodd y Duw da i sefyll o'r tu allan. Felly fe droes y Duw da ei gefn arno, ac a gerddedd dros ffordd at y tŷ bychan ac a gurodd y ddôr. Gyda'i fod wedi curo, fe agorodd y dyn tlawd y drws, ac a barodd i'r ymdeithiwr ddyfod i mewn ac aros gydag ef dros nos. "Y mae hi eisys yn dywyll," ebe fo, "a heddiw ni elli gerdded ymhellach." Da fu hynny gan yr annwyl Dduw, a myned i mewn a wnaeth o i'r tŷ. Fe estynnodd gwraig y tŷ ei llaw iddo, a chan ei groesawu, hi a ddymunodd arno gydddwyn â hwynt cystal ag y gallai o; nad oedd ganddynt hwy fawr, ond y rhoddent yn ewyllysgar o'r hyn oedd ganddynt. Yna hi ddododd gloron ar y tân, a thra oeddynt hwy'n berwi, hi aeth i odro'i gafr, er mwyn gwneud teisen gloron â'r llaeth. A phan huliwyd y bwrdd, eistedd wrtho a wnaeth y Duw da a chydfwyta, ac yr oedd yn flasus ganddo'r ymborth, er ei waeled, canys yr oedd wynebau llawen ger ei fron. Wedi iddynt fwyta, a dyfod yr amser i gysgu, fe gymerodd y wraig ei gŵr o'r neilltu, ac a ddywedodd wrtho, "Gwrando, anwylyd, ni a wnawn inni heno wely gwellt, fel y caffo'r ymdeithiwr tlawd orwedd a gorffwys yn ein gwely ni; rhaid ei fod yn flinedig iawn, ac yntau wedi cerdded ar hyd y dydd." "A'm holl galon," eb yntau, "mi a gynigiaf hynny iddo." Yna fo aeth at y Duw da, ac a Duw da, ac a ofynnodd ar fod yn wiw ganddo gysgu ac ymddadflino yn eu gwely hwy. Yr oedd y Duw da yn anfoddlon iawn i gytuno â hwynt yn hyn o beth, ond gan eu bod yn daer arno, cytuno a wnaeth o'r diwedd. Bore drannoeth fe gododd yr hen bobl cyn dydd, ac a baratoesant i'r gŵr dieithr forefwyd syml. Pan dywynnodd yr haul trwy'r ffenestr a chyfodi o'r Duw da, fo fwytaodd eilwaith gydag hwynt, ac a ymbaratoes i fyned ymaith. Ond pan oedd o ar riniog y drws, fo droes at yr hen ŵr ac a ddywedodd wrtho, "Gan dy fod mor dosturiol a duwiol, dymuna i ti dy hun dri pheth, a mi a'u rhoddaf iti." "Dau beth yn unig yr wyf i yn eu dymuno," eb yntau, "sef gwynfyd tragwyddol ynghyd ag iechyd a bara beunyddiol yn y byd hwn." "Oni ddymuni ti gael tŷ newydd yn lle'r hen?" ebe Duw. "Dymunwn," eb yntau, "pe gwyddwn na wnâi tŷ newydd ddim niwed imi." Yna fe gyflawnodd yr Arglwydd ei ddymuniadau, ac a droes yr hen dŷ yn dŷ newydd, ac wedi gwneuthur hynny fo aeth rhagddo i'w daith.
Yr oedd hi'n ddydd glân golau pan gyfododd y gŵr goludog; ac wrth edrych trwy'r ffenestr fo welai fod yr hen benty tlodaidd wedi diflannu, a thŷ newydd hardd yn sefyll yn ei le. Yna fo alwodd ei wraig ato, ac a barodd iddi redeg dros y ffordd i fynnu gwybod pa fodd y bu hyn. Hithau, wedi dychwelyd, a fynegodd iddo ddyfod ymdeithiwr heibio y noswaith o'r blaen ac ymofyn am lety, ac iddo wrth ymadael yn y bore addo rhoddi i'r hen bobl unrhyw dri pheth a ddymunent, a phan na wyddent pa beth a ddymunent yn drydydd, iddo yntau gynnig rhoddi iddynt dŷ newydd. "Ocha fi!" ebe'r gŵr, "mi allwn dorri fy nghnawd yn ddarnau. O na wybuaswn yr hyn a wn yn awr! Fe fu'r dyn dieithr wrth fy nrws innau, ond mi a'i gyrrais ymaith." "Cymer dy farch," ebe'i wraig wrtho, "a dos ar frys ar ôl y gŵr, ac y gŵr, ac felly ti a'i goddiweddi, ac odid na chei dithau ganddo'r tri pheth a ddymuni."
Yna fe aeth y goludog ar ei farch ac a ddaeth o hyd i'r Duw da; a chan lefaru'n fwynaidd, fo ddywedodd fod yn ddrwg ganddo am nad oedd o wedi gallu agor y drws yn ddi-oed y noswaith o'r blaen; mai methu â chael hyd i'r allwedd yr oedd o, fel pan ddaeth o i lawr i agor y drws, nad oedd neb mwyach wrtho, ac os byddai'n wiw ganddo'n awr droi'n ôl, y câi o dderbyniad croesawus i'w dŷ. "Os byth y deuaf ar hyd y ffordd hon eto, mi a dderbyniaf eich gwahoddiad," ebe'r Duw da. Yna fe ofynnodd y goludog a allai o ddymuno tri dymuniad ganddo, fel ei gymydog. "Gelli yn ddiau," ebe Duw, "ond gwell fyddai iti beidio â dymuno dim." Gan nad oedd yr ateb hwn wrth fodd y goludog, fe ddywedodd y Duw da wrtho,
"Dos adre, a pha dri pheth bynnag a ddymuni, ti a'u cei."
Yr oedd y goludog yn awr yn foddlon; ac wrth fyned tuag adre, fo ddechreuodd feddwl pa beth a fyddai orau iddo'i ddymuno. Pan oedd o fel hyn mewn dwys fyfyrdod, fe aeth y march yn aflonydd, a pharhau'n aflonydd a wnaeth o, fel na allai'r marchog mewn modd yn y byd gasglu ei feddyliau ynghyd. O'r diwedd fo ddywedodd yn llidiog wrth ei farch, "Mi a ddymunwn pe torrid dy wddf!" Gyda'i fod wedi dywedyd y gair, fe gwympodd y march farw gelain. Felly y cyflawnwyd y dymuniad cyntaf. Gan fod y goludog yn gybydd, ni fynnai o adael y cyfrwy ar ôl, am hynny fo'i dododd ar ei ysgwyddau, ac a droediodd yn araf tuag adre trwy'r tywod rhydd. Yr oedd hi erbyn hyn yn ganol dydd, a'r haul yn boeth, a'r cyfrwy yn briwo ei gefn yntau, fel nad oedd yn hawdd iddo benderfynu pa beth a ddymunai o nesaf. Ar ôl colli ei farch, yr oedd arno ofn dymuno dim yn fyrbwyll, rhag cael siom ar ôl siom; er hynny, gan fod ei flinderau'n cyffroi ei ysbryd, meddwl a wnaeth o am ei wraig, ac wrth ystyried ei bod hi ar y pryd yn eistedd yn gysurus yn ei stafell, dywedyd a wnaeth o yn ei ffrwst, "Mi fynnwn pe bai hi'n eistedd gartref ar y cyfrwy hwn, ac na allai hi ddim myned oddi arno." Gyda bod y gair olaf allan o'i enau, fe ddiflannodd y cyfrwy oddi ar ei gefn, ac fe sylwodd yntau fod hyn yn gyflawniad o'i ail ddymuniad. Bellach fo ddechreuodd redeg, gan ei bod yn hwyr ganddo ymgilio i'w stafell ddirgel er mwyn ystyried pa beth mawr a ddymunai o'r drydedd waith. Pan ddaeth o i'r tŷ ac agoryd drws y stafell, wele'i wraig yn ei chanol hi ar y cyfrwy ac heb allu disgyn; oherwydd paham yr oedd hi'n ochain ac yn llefain bob yn ail. Yna fo ddywedodd wrthi, "Ymgysura; mi ddymunaf iti holl ddaoedd y byd, ond iti aros yn y fan lle'r ydwyt." Hithau atebodd, "Pa fudd a fydd hynny i mi, tra bwyf yn eistedd ar y cyfrwy? Tydi a ddymunodd hyn yma i mi, a thydi hefyd a fedr fy rhyddhau." Nid oedd waeth iddo dewi na llefaru—fe fu gorfod iddo ddymuno'n drydydd peth allu o'i wraig ddisgyn oddi ar y cyfrwy; a'r hyn a ddymunwyd, hynny'n ddi-oed a gyflawnwyd. Cyn gynted ag y safodd y wraig ar ei thraed, hi a blannodd ei dwylo yn ei ystlysau ac a ddywedodd wrth ei gŵr, "Penbwl ydwyt; gwell y gwnaethwn i na thydi." Felly ni bu dim ffrwyth i'r goludog o'i holl lafur namyn poen a blinder a gogan a cheffyl coll; ond fe fu'r ddeuddyn tlawd fyw'n foddlon, yn dangnefeddus ac yn dduwiol hyd eu diwedd dedwydd.
CYFIEITHIAD TALFYREDIG O FABINOGI ELLMYNEG.
II. LLYGAD Y DYDD
Yn awr gwrandewch. Draw yn y wlad, heb fod yn nepell oddi wrth y ffordd fawr, y mae hafoty. Chwi a'i gwelsoch eich hun yn ddiamau. O'i flaen y mae gardd fechan, â rheiliau lliwiedig o'i hamgylch. Yn agos i'r geuffos, ynghanol y borfa fras, yr oedd llygad y dydd yn tyfu; ond gan mai benyw oedd y llysieuyn, ni a'i galwn y waith hon wrth un o'i hen enwau eraill, sef y friallen wen. Yr oedd yr haul yn bwrw cymaint o wres a goleuni arni hi ag ar y blodau gwychion a diwylliedig a oedd yn yr ardd, ac am hynny yr oedd hi'n parhau i dyfu o awr i awr. Un bore hi ymagorodd; fel oedd ei dail mân, gwynion, yn ymddangos fel cynifer o belydrau o amgylch yr haul bychan, melyn, oedd yn y canol.
Wrth edrych i fyny ar haul mawr y nen, a gwrando ar yr hedydd yn canu fry yn yr awyr, yr oedd y friallen fach cyn hapused â phe buasai hi'n ddydd gŵyl; ac er hynny dydd Llun ydoedd hi. Yr oedd y plant oll yn yr ysgol; a thra oeddynt hwy'n eistedd ar eu meinciau, ac yn dysgu'r peth yma a'r peth arall, yr oedd hithau'n eistedd ar ei chonyn main, glas, ac yn dysgu gan yr haul cynnes, a chan bob peth a oedd o'i hamgylch, mor anfeidrol yw daioni Duw. Ac yr oedd yn llawen iawn ganddi fod yr hedydd yn medru datganu mor eglur ac mor beraidd y peth yr oedd hi'n ei deimlo ynddi ei hun.
Ac fe edrychodd y friallen â rhyw fath o barchedigaeth ar yr aderyn dedwydd oedd yn gallu telori a hedeg felly; eto, heb ymofidio chwaith am na allai hithau ddim gwneud yr un peth.
"Yr wyf yn gallu gweled ac yn gallu clywed," meddai hi ynddi ei hun; "y mae'r haul yn tywynnu arnaf a'r gwynt yn fy nghusanu. O! helaethed y'm doniwyd."
O'r tu mewn i'r rheiliau yr oedd yn sefyll nifer o flodau torsyth, penuchel; a pho leiaf eu perarogl, mwyaf oll oedd eu rhodres. Yr oedd blodau'r brenin (peonies) yn ymestyn ac yn ymchwyddo, er mwyn bod yn gymaint â'r rhosyn; ond nid maint yw popeth chwaith. Yr oedd i flodau'r bendro (tulips) liwiau gorwych, ac yr oedd hyn mor hysbys iddynt, fel yr oeddynt yn sefyll cyn sythed â saeth, er mwyn i eraill synio'n uwch amdanynt. Nid oeddynt hwy'n ymostwng i sylwi y friallen wen oedd o'r tu allan; ond po fwyaf eu difaterwch hwy, mwyaf oll yr oedd hithau'n edrych arnynt, ac yn meddwl "O'r fath flodau godidog ydynt. Yn ddiau, fe ddisgyn yr aderyn bach i'w gweled. Yr wyf yn diolch i'r Nef fy mod yn sefyll yn ddigon agos i syllu ar eu gwychder." Ac fel yr oedd hi'n meddwl felly, Quirevit! ebe'r hedydd, gan ddisgyn, ond nid at flodau'r brenin a blodau'r bendro; nage, eithr at y friallen wael oedd yn y borfa. Hi ddychrynodd gan wir lawenydd, fel na wyddai hi'n iawn pa beth i'w feddwl.
Fe ddawnsiodd yr aderyn bach o'i hamgylch tan ganu: "O! esmwythed yw'r borfa. A'r fath flodeuyn annwyl yw hwn yma, ag aur yn ei galon ac ag arian ar ei wisg!" Canys yr oedd y cnap melyn yn y friallen yn gyfliw ag aur, a'r mân ddail o'i amgylch cyn wynned ag arian.
Ni all neb ddywedyd hapused oedd friallen wen yn teimlo. Fe'i cusanodd yr aderyn â'i big, ac yna fo ymddyrchafodd drachefn i'r awyr las uwch ben. Yr oedd y friallen wedi ymgyffroi cymaint fel y bu hi lawn chwarter awr cyn dyfod ati ei hun. Gyda chywilydd ar ei hwyneb a llawenydd yn ei chalon, hi ddyrchafodd ei llygad ac a edrychodd ar y blodau oedd yn yr ardd. Hwy a welsent yr anrhydedd a gawsai hi gan yr hedydd, a rhaid eu bod yn gwybod bod ei llawenydd yn fawr. Ond yr oedd blodau'r bendro'n sefyll yn fwy gwarsyth nag erioed; yr oedd eu hwynebau, hagen, yn gochach ac yn llymach o achos eu bod wedi sorri. Creaduriaid pendew oedd blodau'r brenin; ac y mae'n dda na allent hwy ddim siarad, onid e fe fuasai'u dwndwr yn arswydus. Yr oedd yn hawdd i'r friallen ganfod eu bod wedi ffromi, a drwg oedd hynny gan ei chalon. Ar hynny, fe ddaeth geneth i'r ardd, a chyllell fawr, finiog, yn ei llaw, ac a gerddodd yn union at flodau'r bendro, ac a'u torrodd ymaith y naill ar ôl y llall.
"O'r annwyl," ebe'r friallen yn ei hiaith fud ei hun; "dyma waith erchyll! Weithian fe ddarfu amdanynt."
Yna fe ddygodd yr eneth flodau'r bendro ymaith. Yr oedd llawen friallen ei bod o'r tu allan i'r ardd yn y borfa, ac nad oedd y byd yn gwneud nemor gyfrif ohoni; a phan fachludodd yr haul, hi a blygodd ei dail ynghyd ac a gysgodd, ac wedi iddi gysgu, hi a freuddwydiodd trwy gydol y nos am yr haul ac am yr aderyn bach.
Bore drannoeth, wedi i'r friallen unwaith yn rhagor ledu ei dail gwynion, fel cynifer o freichiau bychain yn ymestyn tuag at yr awyr a'r goleuni, hi adnabu lais yr aderyn, ond trist oedd ei gân y waith hon; ac nid rhyfedd, canys yr oedd o bellach yn garcharor, ac yn eistedd mewn cawell wrth ffenestr agored. Canu yr oedd o am yr hyfrydwch o hedeg yn rhydd a dirwystr; canu am yr ŷd ieuanc, glas, oedd yn tyfu yn y meysydd, ac am y teithiau difyr y gall adar rhydd eu cymryd yn uchelderau'r awyr. Drwg ei hwyl, yn ddiau, oedd yr hedydd truan, canys yr oedd o'n gaeth mewn cawell.
Da iawn fuasai gan y friallen ei gynorthwyo, ond pe beth a allai hi ei wneud? Anodd, yn wir, oedd penderfynu. Hi a anghofiodd deced oedd popeth o'i hamgylch, gynhesed oedd yr heulwen, a gwynned a thlysed oedd ei blodennau (petals) hi ei hun. Och! ni allai hi feddwl am ddim heblaw'r aderyn caeth yr oedd hi'n analluog i wneud dim erddo.
Ar hynny o bryd, fe ddaeth dau fachgennyn i'r ardd. Yr oedd un ohonynt yn dwyn yn ei law globen o gyllell lem go debyg i'r un a arferasai'r eneth i dorri blodau'r bendro. Myned a wnaethant rhag eu blaen at y friallen wen na allai ddyfalu pa beth yr oeddynt ar fedr ei wneud.
"Dyma le y gallwn gael tywarchen ddel i'r hedydd," ebe un o'r bechgyn, ac yna fe ddechreuodd dorri dernyn petryal o amgylch y friallen, fel y byddai iddi sefyll yn union ynghanol y dywarchen.
"Plicia'r blodeuyn yna," ebe'r bachgen arall, tra oedd friallen yn crynu gan fraw; canys fe fuasai'i phlicio yr un peth a'i lladd; ac yr oedd hi'n ewyllysio byw, a myned yn ddianaf gyda'r dywarchen i gawell yr hedydd.
"Na, gadawer iddo," ebe'r bachgen hynaf, "y mae o'n dlws iawn yr olwg." Felly fe arbedwyd y blodeuyn, ac fe'i cymerwyd i gawell yr hedydd.
Yr oedd yr aderyn truan yn cwynfan yn groch o achos ei gyflwr, ac yn curo'i esgyll yn erbyn gwifrau'r cawell. Gan fod y friallen yn analluog i lefaru, ni allai hi ddywedyd gair o gysur wrtho, er cystal fuasai ganddi wneud hynny. Fel hyn y treuliwyd yr holl fore.
"Nid oes yma ddiferyn o ddwfr," ebe'r hedydd; "hwy a aethant oll ymaith, heb gofio rhoi diod imi. Y mae fy ngwddf yn sych a llosgedig. Yr wyf yn teimlo fel pe bai tân a rhew o'm mewn, ac O! mae'r awyr yn fwll. Och! rhaid imi farw, a chanu'n iach i'r heulwen dirion, i'r borfa las, ac i'r holl bethau teg a greodd Duw!" Ac yna fo wthiodd ei ylfin i'r dywarchen laith, tan obaith lleihau ei syched.
Dyma'r pryd y gwelodd o'r friallen; am hynny fo ymgrymodd iddi, ac a'i cusanodd â'i ylfin, gan ddywedyd "Gwywo a wnei dithau, druan bach, yn y carchar cyfyng hwn. Tydi, a'r dywarchen fechan hon, ydyw'r cwbl a roddwyd i mi yn gyfnewid am y byd mawr, llydan, yr oeddwn gynt yn ei fwynhau. Weithian, rhaid i bob blewyn glas wneud y tro i mi yn lle pren deiliog, a rhaid i bob un o'th ddail gwynion dithau sefyll yn lle'r blodeuyn pereiddiaf ei arogl. Ow! paham yr wyt yn peri imi feddwl am yr hyn oll a gollais?"
"O na allwn ei gysuro," ebe'r friallen ynddi ei hun, ond ni allai hi symud deilen. Er hynny, yr oedd ei harogl ar hyn o bryd yn bereiddiach nag arogl arferol briallu gwynion; ac fe wybu'r aderyn hynny, canys er ei fod yn dyddfu gan syched, ac yn llarpio'r glaswellt yn ei ing, eto ni chyffyrddodd o â'r blodeuyn.
Yr oedd hi yn awr yn hwyrhau, ac ni ddaethai neb eto i roi diod i'r aderyn sychedig. Fe ddechreuodd yntau ledu ei adenydd prydferth, a'u hysgwyd yn gyffrous, a'r sain alarus "Tsri, tsri" oedd erbyn hyn ei holl gân. O'r diwedd, fe ogwyddodd pen yr hedydd tua'r blodeuyn, ac fe ymdorrodd ei galon o hiraeth diwala am ddwfr. Ni allai'r friallen chwaith blygu ynghyd ei dail ac ymroi i gysgu, fel y gwnaethai hi y noswaith o'r blaen, eithr ymollwng a wnaeth hi tua'r ddaear yn glaf ac yn athrist.
Ni ddaeth y bechgyn i weled yr aderyn hyd drannoeth y bore, a phan wybuant ei fod wedi marw, hwy a wylasant amdano'n chwerw-dost, ac a'i claddasant mewn bedd destlus, ac a'i gwisgasant â blodau. Dodasant y corff marw mewn blwch coch, del, am eu bod wedi penderfynu ei gladdu â chladdedigaeth frenhinol. Druan bach! Pan oedd o eto'n fyw ac yn canu, hwy a'i hangofiasant, ac a'i gadawsant i ddwyn syched yn ei gawell; ond ar ôl ei farw, hwy a'i parchasant â phob urddas, ac a'i harwylasant â dagrau lawer.
Ond am y friallen, fe'i taflwyd hi ynghyd â'r dywarchen i lwch y ffordd. Nid ystyriodd neb mo'r blodeuyn dirodres a ddangosasai fwyaf o gydymdeimlad ac o fwyneidd—dra tuag at yr aderyn bach.
LLEDGYFIEITHIAD O UN O FABINOGION HANS ANDERSEN.
III. Y TRI MAB
Yr oedd gan Dartariad goludog â'i enw Tochtamis dri mab o'i unig wraig Turcan-Catan; a chyn ei farw fo draddododd y Farnwr y lle lythyr cymyn seliedig, yn yr hwn yr oedd o'n penodi'n etifedd ei holl dda mab hwnnw a brofai orau ei fod yn fab i Dochtamis. Fe aeth y tri brawd at y Barnwr ac a ddygasant eu profion. Yr oedd yn ymddangos bod ganddynt ill tri hawl gyfartal i'r etifeddiaeth, canys yr oeddynt bob un yn apelio at dystiolaeth eu mam, a oedd eto'n fyw. Ni wyddai'r Barnwr pa fodd i benderfynu'r ddadl. Am hynny fo ddatguddiodd ei benbleth i'r Sultan Togrul a oedd newydd droi i mewn i'r frawdle. Yr oedd y Sultan ar gychwyn i hela, ac o achos hynny gorchymyn a wnaeth i'r rhai a oedd yn ymgyfreithio ddwyn ato'n ddi-oed fommi (mummy) eu tad. Wedi iddo beri gosod y mommi ergyd carreg oddi wrth y frawdle, estynnodd ei fwa i'r mab hynaf, ac a ddywedodd: "Pa un bynnag ohonoch eich tri a saetho'i dad ynghanol ei galon, hwnnw a gydnabyddir yn fab ac yn etifedd i Doch- tamis, canys nid oes un ffordd amgenach i benderfynu dadl mor ddyrys."
Fe dynnodd y mab hynaf yn y bwa, ac a saethodd ei dad yn ei galon. Wedi hynny fe anelodd yr ail fab ac a saethodd yn gystal â'i frawd. Yna fe gymerodd mab ieuengaf y bwa, ond pan oedd o ar anelu fo'i gollyngodd i lawr ac a ddechreuodd wylo ac ymdaflodd wrth draed y Sultan, gan ddywedyd: "Fy arglwydd, na ddigia wrthyf am anufuddhau i'th orchymyn. Y mae'n dyfod i'm cof yr holl bethau da a gefais gan fy nhad; yr oedd o'n fy ngharu i mor fawr, ac mor dirion wrthyf bob amser â phe buaswn yn unig fab iddo. Pa fodd y gallaf yn awr fod yn ddigon anniolchgar a chreulon i'w archolli hyd yn oed yn ei gorff marw? Gwell gennyf i golli fy etifeddiaeth na'i hennill yn y modd hwn."
Fe'i cododd y Sultan i fyny ac a'i cusanodd ar ei dalcen, gan ddywedyd: "Tydi a brofodd orau dy fod yn fab i'r ardderchocaf Dochtamis. Am hynny, tydi fydd ei unig etifedd. Am y ddau fab hynaf, gwerther hwynt yn gaethweision, canys profi a wnaethant trwy eu hanniolchgarwch nad ydynt ddim yn wir feibion i ardderchog dad."
CHWEDL DDWYREINIOL.
IV. ANGAU A CHWSG
Dyddgwaith, yr oedd Angel Cwsg ac Angel Marwolaeth yn tramwy ar hyd y ddaear fraich—ymmraich fel cyfeillion. Pan fachludodd yr haul eisteddasant ynghyd ar ben bryn a oedd yn agos i anheddau dynion. Fe ymdaenodd distawrwydd trist tros y fro, ac fe beidiodd cloch yr hwyr â chanu yn y pentref draw.
Pan aeth hi'n nos fe gododd Angel Cwsg oddi ar ei eisteddfa fwsoglyd, ac â llaw ysgafn fo heuodd ar led hadau anweledig hun, ac fe'u cludodd awel yr hwyr i'r anheddau tawel. Yn ddioed fe ddaeth syrthni ar drigolion y tir o'r henwr musgrell hyd y plentyn yn ei grud. Fe ymgaeodd pob llygad fel yr anghofiai'r claf ei glefyd, y blinderog ei flinder, a'r tlawd ei dlodi.
Yna fe eisteddodd Angel Cwsg eilwaith wrth ochr ei frawd, ac a lefodd â llawenydd diniwed: O felysed yw gwneuthur da heb beri dim sylw. Pan ymddengys gwrid y bore fe'm bendithia dynion ac a'm galwant yn gyfaill ac yn gymwynaswr.
Felly y llefarodd mwyn Angel Cwsg.
Fe edrychodd Angel Marwolaeth yn athrist arno, ac fe ymddangosodd deigryn yn ei lygad mawr, tywyll. "Och! ebe fo, paham na chawn innau ddiolch gan ddynion? Gelyn, ysywaeth, y maent hwy yn fy ngalw i, a dinistrydd eu llawenydd wyf yn eu golwg." "O! fy mrawd, eb Angel Cwsg, pan ddeffry'r dynion da o'u hun ddiwethaf, hwy a welant mai cyfaill a chymwynaswr wyt tithau, ac a'th fendithiant yn ddiolchgar. Onid brodyr ydym ein dau, wedi'n danfon gan yr un Tad?"
Ar hyn fe ymloywodd llygad Angel Marwolaeth, ac fe ymgofleidiodd y brodyr yn gariadus.
F. A. KRUMMACHER.
V. Y BACHGEN DRWG
(CYFLWYNEDIG I'R GOLYGYDD)
Yr oedd gynt hen fardd, a hen fardd da ydoedd o hefyd. Un noswaith ac efô'n eistedd yn ei dŷ wrth y tân, yr oedd hi'n chwythu ac yn glawio'n arswydus oddi allan. "Fe fydd y trueiniaid sydd allan heno'n wlyb hyd at y croen," ebe fo.
Ar hyn fe lefodd rhyw fachgennyn o'r tu allan, "O da chwi, agorwch y drws, yr wyf cyn wlyped â'r dŵr, a chyn oered â'r eira!" Yr oedd o'n gerain ac yn curo wrth y drws, tra oedd y glaw'n disgyn yn hidl, a'r gwynt yn ysgytian yr holl ffenestri.
"Druan bach!" ebe'r hen fardd wrth fyned at y drws. Wedi iddo'i agoryd, gwelai'r bachgennyn yn noethlymun, a'r dwfr yn diferu o'i gudynnau golau. Yr oedd o'n crynu gan annwyd, a threngi a wnaethai’n ddiau, pe nas gollyngesid i mewn.
"Druan bach!" ebe'r hen fardd, gan ei gymryd erbyn ei law, "tyred ataf i, a mi a'th gynhesaf, a thi gei lymaid o win ac afal rhost, canys bachgen tlws ydwyt."
Ac un felly ydoedd o. Yr oedd ei lygaid yn gwreichioni fel dwy seren loyw, ac er bod ei gudynnau'n wlyb, eto yr oeddynt o hyd yn grych. Er ei fod yn crynu drwyddo ac yn welw gan yr oerfel, yr oedd ei wyneb fel wyneb angel. Yr oedd o'n dwyn yn ei law fwa del a oedd wedi ei ddifetha gan y glaw, ac yr oedd y gwahanol liwiau disglair ar ei saethau wedi rhedeg i'w gilydd nes myned yn un lliw llwydaidd.
Fe eisteddodd yr hen fardd o flaen y tân ac a gymerodd y bachgennyn ar ei lin, yna gwasgu allan dwfr o'i wallt, a thwymo'i ddwylo ef yn ei ddwylo'i hun, a rhoddi iddo win melys, brwd, i'w yfed. Yna fe ymadferodd y bachgen, fe ddychwelodd y gwrid i'w fochau, ac yntau a neidiodd ar y llawr ac a ddechreuodd daplasu a rhonta o amgylch yr hen fardd.
"Yr wyt yn ymddangos yn fachgen llon," ebe'r hen ŵr, "beth yw dy enw, dywed?"
"Cariad (Cupid) yw fy enw," ebe fyntau; "oni'm hadwaeni? Dyna fy mwa, a mi warantaf iti y medraf saethu'n wych ag ef. Yn awr, gwêl, y mae'r ddrycin wedi myned heibio, a'r lloer yn tywynnu'n siriol."
"Ond y mae dy fwa wedi ei andwyo," ebe'r hen fardd.
"Gresyn fyddai hynny," ebe'r bachgennyn, gan ei gymryd i fyny a'i chwilio. "Y mae e'n gwbl sych, ac nid oes dim niwed arno. Mi a'i profaf." Yna wedi dodi saeth yn y bwa, anelodd, a saethodd yr hen fardd trwy ei galon. "A gredi di bellach na ddifethwyd fy mwa?" ebe fo tan redeg ymaith a chwerthin. Y fath fachgen drwg y mae'n rhaid ei fod i saethu'r hen fardd da a fu mor garedig wrtho!
Gorweddodd yr hen fardd ar y llawr ac wylodd. "Wfft!" ebe fo, "bachgen brwnt yw'r Cariad hwn. Mi ddywedaf wrth blant da ymhell ac yn agos am ymogelyd rhagddo, ac am edrych na chwaraeont byth ag ef, rhag ofn iddo'u niweidio."
A phan glywodd y plant da, yn fechgyn a genethod, beth a ddarfuasai i'r hen fardd, ceisio yn wir a wnaethant ymogelyd rhag Cariad, ond yr oedd hwnnw mor ystrywgar fel y byddai'n eu twyllo'n fynych iawn. A thwyllo a thwyllo y mae o hyd heddiw. Pan ddychwelo'r astudwyr o'r coleg i'w llety, fe fydd yntau'n rhedeg gyda hwynt mewn cotan ddu, ac â llyfr tan ei gesail. Ni allant mo'i adnabod yn y rhith hwnnw, ac am hynny cymerant ei fraich, gan dybied mai astudiwr yw yntau fel un ohonynt hwythau, a dyna'r pryd y bydd o'n gyrru un o'i saethau trwy eu calon. Yr un ffunud pan ddêl y genethod o'r eglwys fe fydd o bob amser yn eu plith. Y mae o'n rhedeg yn y parciau a'r rhodfeydd cyhoeddus. Y mae o erioed yn llercian o'r tu ôl i bobl, ac yn ceisio cyfle i glwyfo rhywun neu'i gilydd. Do, ddarllenydd, fo saethodd unwaith dy rieni trwy eu calon—gofyn di iddynt, a thi glywi beth a ddywedant. Rywbryd fe ergydiodd at dy hen nain, ond y mae llawer blwyddyn er hynny. Y mae hi yn awr yn iach o'i chlwyf; er hynny hi a'i cofia byth. O, gwalch o fachgen yw Cariad! Na foed i ti a wneli ag ef. Wele mi a'th rybuddiais mewn pryd.
HANS ANDERSEN.
VI. Y BLAIDD A'R BUGAIL
Fe gollodd rhyw fugail ei holl braidd trwy haint, ac wedi clywed hynny fe ddaeth y blaidd ato i gydofidio ag ef.
"Fugail," ebe fo, "ai gwir yw colli ohonot dy holl braidd? Y defaid bach, gwirion! Yr wyf yn gresynu wrthyt, a mi allwn dywallt dagrau o waed."
"Diolch i ti, Meistr Bela," ebe'r bugail; "mi welaf fod gennyt galon dosturiol iawn."
"Ac yr wyf innau yn dyst," ebe'r ci, "mai calon felly sy ganddo mewn gwirionedd pa bryd bynnag y bo colled ei gymydog yn golled iddo yntau.'
LESSING.
VII. Y DISTYLLWR CYNTAF
Ar ryw foregwaith fe aeth amaethwr tlawd i'w faes i aredig, heb gymryd gydag ef yn ginio ddim amgenach na thafell o fara. Wedi cyrraedd y maes, diosgodd ei geitlen ac a'i dododd yng nghysgod y gwrych, a'r dafell dani. Ymhen rhai oriau fe ddechreuodd yr anifail flino, ac fe ddaeth chwant bwyd ar y dyn; am hynny gollyngodd ei anifail i bori, ac a aeth i'r fan lle'r oedd ei geitlen. Pan gododd ef hon, gwelodd fod y bara wedi diflannu, ac er chwilio a chwilio ni chafodd ef hyd iddo. "Rhyfedd," eb ef, "ni welais i neb, ac er hynny rhaid bod rhywun wedi lladrata'r bara."
Y gwir ydyw mai cythraul oedd y lleidr, ac yr oedd ef yn awr yn ymguddio o'r tu ôl i'r gwrych er mwyn clywed a alwai'r dyn arno yn ei siom a'i lid. Ond er bod y dyn yn wir siomedig, eto ni chythruddodd ef ddim, eithr dywedyd yn bwyllog: "Wedi'r cwbl, ni byddaf farw o newyn. Rhaid bod ar y neb a ladrataodd y bara fwy o angen amdano na myfi. Iechyd iddo gydag ef."
Ac fe aeth amaethwr at y ffynnon a oedd gerllaw, ac a yfodd o'i dwfr bywiol. Yna bachu'r anifail wrth yr aradr a dechrau aredig eilwaith.
Drwg a syn fu gan y cythraul na allodd demtio'r dyn i bechu; a myned a wnaeth ef i annwn at Bennaeth y cythreuliaid, ac adrodd iddo pa fodd y dygasai ef y dafell o fara oddi ar yr amaethwr, a pha fodd y darfu i hwnnw yn lle melltithio ddywedyd yn unig, "Iechyd iddo."
Chwerw gan y Pencythraul fu chwedl y cythraul bach. "Y penbwl gwirion," eb ef, "rhaid iti wneud iawn am dy fusgrellni hwn. Dos i fyny yn dy ôl, ac oni byddi wedi dal dy bryf cyn pen tair blynedd, yna mi a'th drochaf mewn dwfr santaidd gwnaf yn wir!"
Yr oedd ar y cythreulyn ofn dwfr santaidd yn anad dim; am hynny dychwelodd ar frys i'w hen drigfa ar y ddaear, ac ystyriodd yn ddyfal pa fodd y gallai ef ddyhuddo llid ac ennill ffafr y Pencythraul. Ar ôl meddwl a meddwl penderfynu a wnaeth ef ymwisgo fel dyn gonest ac ymgyflogi'n was i'r amaethwr. A gwas deallus fu ef; canys ac ef yn rhagweld y byddai'r haf cyntaf yn sych, cynghorodd ei feistr i hau yn y gwernydd, a chan ei fod yn dyfalu y byddai'r haf nesaf yn wlyb, fe'i cynghorodd i hau ar y bryniau. Felly, er darfod i gnydau'r cymdogion fethu naill ai gan y gwres neu gan y glaw, fe gafodd meistr y cythraul gnwd toreithiog.
Gan na wyddai'r amaethwr beth i'w wneuthur â'r gormod ŷd a oedd ganddo fe ddysgodd y cythraul iddo wneuthur diod gadarn ag ef.
Yn Rwsia, ac aml wlad arall, yr ydys yn distyllio diod gadarn o drwyth ŷd eplesedig.—E. ap I.
Yn y man fe gafodd yr amaethwr flas ar y ddiod, a gwahoddodd ei gyfeillion i'w phrofi.
Ar hyn fe aeth y cythraul i lawr at y Diafol, sef y Pencythraul, ac a ffrostiodd ei fod o'r diwedd wedi dal ei bryf. Ni fynnai'r Diafol gredu hyn heb gael praw â'i lygaid ei hun. Am hynny, daeth ef at yr amaethwr, gwelodd fod hwnnw newydd wahodd gwŷr a gwragedd parchusaf yr ardal i gyd-yfed ag ef yn ei dŷ. Wedi iddynt yfed y gwydraid cyntaf dechreuasant foli ei gilydd, ac yr oedd eu holl ymadroddion yn beraidd ac yn llyfn fel ymenyn. Wrth glywed eu gwag-siarad fe sibrydodd y Pencythraul wrth y cythraul bychan: "O! fel y maent yn twyllo ei gilydd ag ymadroddion teg. Yn ddiau, y mae'r ddiod hon yn eu gwneud yn gyffelyb i lwynogod."
"Aros," ebe'r cythraul bychan, "hyd onid yfont yr ail wydraid," ac fe aeth eu hymddiddan yn uwch ac yn arwach. O wenieithio i'w gilydd troesant i oganu ei gilydd, ac o'r diwedd i ddyrnodio'i gilydd hyd onid oeddynt yn friwiau i gyd drostynt.
Wrth weled hyn fe wenodd y Pencythraul yn foddhaus, a dywedodd, "Da, da iawn."
"Aros ennyd," ebe'r cythraul bach, "a thi gei weled peth gwell fyth. Ar ôl yfed gwydraid arall fe dry'r bleiddiaid yn foch."
A hwy a yfasant y trydydd gwydraid. Yna dechrau ymlonyddu, ac yn lle brochian, rhochian a wnaethant. Yn y man fe aeth y gwesteion ymaith bob yn un, bob yn ddau, bob yn dri, ac a gwympasant yn glytiau ar yr heol. Fe aeth y gwahoddwr hefyd allan gyda hwynt er mwyn eu hebrwng, ond gan ei fod yntau cyn feddwed â'r lleill, syrthio a wnaeth i ffos fudr, ac yno y gorweddodd fel mochyn.
Erbyn hyn yr oedd llawenydd y Pencythraul yn gyflawn. Am hynny, dywedodd wrth y cythraul bach, "Yn wir, ti ddyfeisiaist ddiod gampus-pa fodd y gwnaethost ti hi, dywed? A barnu wrth ei heffeithiau, rhaid, debygaf i, mai gwaed llwynog oedd y gwydraid cyntaf, mai gwaed blaidd oedd yr ail, ac mai gwaed mochyn oedd y trydydd."
"Nage," ebe'r cythraul bach; "yr un fath ddiod oedd y tri gwydraid, ond bod y gwydraid cyntaf yn gwneud dyn yn llwynog, yr ail yn ei wneud yn flaidd, a'r trydydd yn ei wneud yn fochyn. Nid o waed un anifail, eithr o'r ŷd a ordeiniodd y Creawdr yn fara i ddyn y dysgais i'r amaethwr i wneuthur y ddiod hon. Oni thyciodd y demtasiwn gyntaf, fe dyciodd yr ail."
Fe ganmolodd y Pencythraul y cythraul bach ac a'i dyrchafodd yn uchel iawn.
LEO TOLSTOI.
DETHOLION
BUGEILIAETH
Y mae'r bugail yn bod er mwyn y praidd, ac nid praidd er mwyn y bugail. Os ymddwg bugail yn ddoeth ac yn ddiymhongar, os anghofia fo'i hunan yn ei waith, ac os argyhoedda fo'i braidd ei fod yn eu caru hwynt yn fwy nag arian, yn fwy na'i iechyd na'i einioes ei hun, ni bydd yn wiw gan un sant godi ei sawdl yn ei erbyn na digio wrtho'n hir.
CALFINIAETH
Duw tebyg i Calfin ei hun a geir yn niwinyddiaeth Calfin. Duw galluog, cyfiawn, heb ddim hawddgarwch ynddo. Meistr tost ac nid Tad daionus, fel nad yw ryfedd yn y byd fod ei ddiwinyddiaeth wedi diflannu er ystalm o'i wlad ef ei hun, ac ar diflannu o Gymru a'r Alban hefyd.
CALON PHARAOH
Rhuf. ix 18. Cosbi dyn am bechu y mae mae Duw wrth ei galedu. Am hynny, y mae caledu nid yn unig yn weithred benarglwyddiaethol, ond hefyd yn weithred naturiol. Gan na fynnodd Pharaoh ogoneddu Duw yn weithredol, bu gorfod arno'i ogoneddu'n oddefol. Gan ddarfod iddo wrthod iachawdwriaeth iddo'i hun, fe'i gwnaeth Duw yn foddion iachawdwriaeth i eraill.
CAMFARNU'R BYD
Y mae cam farn am y bywyd yr ydym yn ei fyw, a'r byd yr ydym yn byw ynddo, yn peri cam farn am awdur y byd a'r bywyd.
Y CARIAD RHATAF
Y mae cariad sy'n rhy falch i fod yn ufudd, cariad sy'n ymchwyddo, ac yn ceisio'r eiddo ei hun. Nid yw hwnnw, y mae'n wir, yn haeddu'r enw rhagorol sydd iddo, ond ysywaeth ef ydyw'r cariad y mae mwyaf fynd arno yn y farchnad, a hynny am mai efô ydyw'r cariad rhataf.
CLADDU'R MEIRW
Pan ddywedodd yr Iesu wrth y dyn hwn: "gad i'r meirw . . . . " yr oedd hi'n awr bwysig iddo fo, canys yr oedd y Gwaredwr ar adael Galilea am y waith ddiwethaf, a gwelai gan hynny y byddai aros ar ôl iddo fo yn dynnu'n ôl, ac felly'n ddinistr. Y mae hi'n digwydd weithiau ei bod yn rhaid i ddyn roi heibio dyletswyddau mwyaf naturiol a mwyaf gweddus mwyn cipio teyrnas nefoedd.
CREFYDD DDIGARIAD
Y mae rhai crefyddwyr, er eu bod yn gydwybodol a difrifol, eto yn ddigariad, ac y mae gan y rhai hyn lai o allu i dderbyn y fendith nag sy gan rai helaeth eu cariad. Eithr am y rhai sy'n hollol hunanol a heb fod yn ddim amgen na phroffeswyr, gallant hwy droi'r fendith yn felltith, ac felly y mae'r geiniog yn myned iddynt hwy yn y diwedd yn gosb ac yn farnedigaeth.
CYDWYBOD
Rhuf. xiii 5. Y mae ymostwng nid yn unig yn bwnc o gallineb, eithr hefyd yn bwnc o gydwybod. Y mae'n canlyn oddi wrth hynny nad oes gan hyd yn oed y llywodraeth hawl i ofyn i ddyn wneuthur cam â'i gydwybod.
CYFOETHOGION
Yn llym wrthynt nid am eu bod yn gyfoethog ond am nad oeddynt yn dlawd yn yr ysbryd; am eu bod yn hunanol a balch; am eu bod yn lwth, am eu bod yn anghyfiawn. Nid yw dyn na gwell yw dyn na gwell na gwaeth am ei fod yn gyfoethog. Y mae'r cwbl yn dibynnu ar hyn, sef pa beth y mae o yn ei wneud â'i arian, a pha fodd cafodd o'i arian—ai'n onest ai'n anonest, ai trwy lafurio ynteu trwy anturio, trwy dyngu i niwed ei gymydog ynteu trwy dyngu i'w niwed ei hun, ai trwy roddi arian at y cyfnewidwyr ynteu trwy roddi arian ar usuriaeth, ai trwy ewyllysio ymgyfoethogi ynteu trwy fynd yn gyfoethog heb ewyllysio, ai trwy wneud bargen a fyddo'n elw i un blaid ynteu trwy wneud bargen a fyddo'n elw cyfartal i ddwyblaid. Yr oedd hyd yn oed Paganiaid gorau Groeg a Rhufain yn dal nad oedd yn gyfiawn i ddyn ennill ceiniog ar draul colledu eraill, ac na allai un dyn gonest fynd yn gyfoethog iawn mewn byr amser. Os ydym ni'n chwennych anrhydeddu dynion yr oedd y Paganiaid yn eu diystyru, a Christ yn cyhoeddi gwaeau yn eu herbyn, profi y mae hynny, nid bod y Paganiaid yn anfoneddigaidd, na bod yr Iesu yn rhy lym, ond yn hytrach ein bod ni wedi dirywio.
Pan orchmynnodd Iesu Grist i'r gŵr hwn [nw] adael ei holl feddiannau, ef a orchmynnodd iddo nad ymlynai wrth ddim a allai wrthbwyso'r cariad a ddylai fod gan enaid tuag ato Ef. A'r hyn y mae yn ei ofyn ninnau ydyw na charwn ni ddim yn y fath fodd fel na allom ei adael o gariad.
DAMEG Y WINLLAN
Fe ddengys yr Iesu [yn y ddameg hon] y gall gras Duw wneud amser byr yn gyfartal ag amser hir. Y mae hynny megis yn adferu i weithwyr eiddgar yr amser a gollasant. Prif syniad y ddameg ydyw hyn: sef nad wrth fympwy y rhoddir gwobr yn nheyrnas nefoedd, ond yn ôl yr hyn fyddo ansawdd calon a meddwl y gweithiwr, am nad yw teyrnas nefoedd yn gynwysedig o weithredoedd allanol a wobrwyir mewn modd deddfol a chyffredin. Ond er nad yw'r wobr yn fympwyol, a'i bod hi hefyd yn gytunol â'r hyn sydd gyfiawn, cto y mae hi o ras.
DAMHEGION
Yr oedd y damhegion yn cuddio ac yn datguddio'r gwirionedd yn ôl ystad y gwrandawyr. Er bod y dull hwn ynddo'i hun yn farn, eto yr oedd ddull trugarog hefyd, am ei fod yn cadw'r gwrandawyr rhag bod yn euog o ymgaledu yn erbyn y gwirionedd noeth.
DIAFOL
Gan fod yr Iesu yn bur a dihalog ni ellir tybied bod un meddwl amhûr yn dyfod ohono fo'i hun, fel y synia'r rhai sy'n gwadu fod diafol. Fel y temtiwyd yr Adda cyntaf oddi allan, felly y temtiwyd yr ail Adda hefyd; ond gyda hyn o wahaniaeth, sef bod yr ail wedi gorfod ar y temtiwr.
Y DISGYBL A'R BYD
A phaham yr oedd y byd yn casáu dynion mor ddibynnol ac mor ddiniwed â'r disgyblion? Am fod yr lesu wedi rhoi iddynt hwy ei air, ac yr oedd y gair hwnnw wedi eu gwneud hwynt megis dieithriaid yn y byd. Nid oeddynt o'r byd er eu bod yn y byd. Nid oeddynt yn cydweled nac yn cydymffurfio â'r byd; ac y mae'r byd bob amser yn casáu a hyd yn oed yn cosbi mewn rhyw fodd neu'i gilydd bawb a ryfygo nacáu dilyn dull y byd. Er hynny, nid yw'r Iesu'n gofyn i'w Dad gymryd y disgyblion allan o'r byd. . . am mai ei ddiben Ef yn eu galw ato, ac yn egluro iddynt enw Duw, oedd eu cymhwyso i aros yn y byd ar ei ôl ef, a gwneuthur iddo ddaioni.
DUW YN GOGONEDDU ARALL
Pan fo Duw yn gogoneddu un arall, y mae Ef yn ei dynnu i'w fynwes, ac yn ei amgau yn ei ogoniant ei Hun.
EDRYCH AR GRIST
Trwy edrych ar Grist croeshoeliedig y cedwir dynion ar y ddaear, a thrwy edrych ar Grist gogoneddus y gwneir hwynt yn ddedwydd dros byth. Ac wrth edrych ar ei ogoniant ef, hwy a ânt yn ogoneddus eu hunain. Fe'u newidir o ogoniant i ogoniant, o ogoniant daearol i ogoniant nefol, o ogoniant llai i ogoniant mwy.
ETHOLEDIGAETH GRAS
Y mae a wnelo arfaeth Duw â phersonau ac â phethau; etholedigaeth â phersonau'n unig. Heblaw hynny, y mae arfaeth yn dragwyddol, ac etholedigaeth yn dymhorol a hanesyddol. Nid yw arfaeth ac etholedigaeth yn bynciau priodol i Gristnogaeth yn unig, canys yr oedd y Phariseaid a'r Eseniaid ymhlith yr Iddewon, y Stoiciaid ymhlith y Groegiaid, a dilynwyr Mohamed i gyd yn credu ynddynt. Am y Saduceaid yr oeddynt hwy'n credu bod pob dyn yn feistr ar ei dynged ei hun.
Er bod y Cristnogion oll yn credu mewn etholedigaeth, nid ydynt yn cydfarnu ynghylch yr hyn yw etholedigaeth. Dyma'r prif farnau:
1. Calfiniaeth. Y mae Calfin a'r Calfiniaid yn credu bod Duw er tragwyddoldeb wedi arfaethu rhyw nifer o ddynion yn ddiamodol i iachawdwriaeth a gogoniant, a bod pawb eraill wedi eu gwrthod neu eu gadael. Yn ôl y Calfiniaid y mae Duw wedi [ethol][8] am ei fod yn rhagwybod pa fodd y gweithredai dynion.
2. Arminiaeth. Y mae'r Arminiaid hwythau'n credu ddarfod i Dduw er tragwyddoldeb arfaethu rhyw nifer o ddynion i ogoniant, ond ar yr un pryd yn credu nad oedd etholedigaeth Duw ddim yn ddiamodol, eithr ei bod yn ganlyniad rhagwybodaeth Duw o'r ffaith y gwnâi'r rhai a arfaethwyd ddefnydd da o'r gras a roddid iddynt. Yn ôl yr Arminiaid, y mae arfaeth Duw yn seiliedig ar ei ragwybodaeh.
Yn ôl y farn Galfinaidd a'r farn Arminaidd, y mae'r etholedigaeth yn etholedigaeth i fywyd tragwyddol, ac y mae'r etholedigion yr un rhai â'r rhai a gedwir.
3. Baxteriaeth. Yr oedd Richard Baxter yn haeru, er bod Duw yn rhoddi i bob Cristion ddigon o ras i'w gadw ond iddo ef wneud defnydd o'r gras hwnnw, eto bod Duw wedi arfaethu rhoddi gras mwy i rai ohonynt er mwyn sicrhau eu cadwedigaeth.
4. Etholedigaeth cenhedloedd. Y mae llawer o ddiwinyddion Lloegr yn derbyn syniad Locke, sef mai cenhedloedd ac nid personau a etholodd Duw.
5. Etholedigaeth eglwysig. Y mae'r rhan fwyaf o ddiwinyddion diweddar Lloegr yn credu mai'r Eglwys Gristnogol, sef pob aelod a fedyddiwyd a etholodd Duw, a bod yr etholedigaeth honno i freintiau crefyddol, ac nid o anghenraid i fywyd tragwyddol. Nid yw'r bobl hyn yn llwyddo i symud ymaith yn llwyr yr anhawster sydd ynglŷn ag etholedigaeth gras; canys yn gyffredin, y mae etholedigaeth i fywyd yn dibynnu ar etholedigaeth i freintiau. Pa fodd y credant yn yr hyn ni chlywsant amdano?
Nid ydys yn symud ymaith yr anhawster o'r athrawiaeth hon wrth ddywedyd bod arfaeth Duw yn seiliedig ar ei ragwybodaeth, oblegid gyda Duw y mae gwybod a gwneuthur yr un peth.
Y mae'r anawsterau yn dyfod o waith dynion yn anghofio bod Duw yn dragwyddol, ac felly uwchlaw amser. Yn hytrach na dywedyd bod Duw wedi ethol rhywrai er tragwyddoldeb, gwell fyddai dywedyd ei fod yn dragwyddol yn ethol, ac er na all dyn gyda'r cyneddfau sydd ganddo yn awr ddim cysoni ei ryddid a'i gyfrifoldeb ei hun â rhagwybodaeth ac arfaeth Duw, rhaid inni gredu bod y naill a'r llall yn wirionedd.
FFYDD
Gall ffydd symudo mynyddoedd; gall ddwyn Calfaria hyd atom.
GLANHAU'R DEML
Fe ddengys yr hanes, er i'r Iesu wneud fflangell o fân reffynnau, mai er mwyn gyrru'r anifeiliaid allan, ac nid y dynion, yr arferodd o hi. Ac er mwyn dangos na chollodd o mo'i bwyll, ni ddychrynodd mo'r colomennod na dymchwelyd y cawelli yr oedd y rheini ynddynt; eithr gorchymyn i'r gwerthwyr eu cymryd. Eiddigedd santaidd yn hytrach yn rhinwedd nag yn fai. Nid yw'r geiriau'n rhoi ar ddeall iddo arfer y ffrewyll i ffrewyllu'r gwerthwyr na'r anifeiliaid chwaith.
GORCHYMYN EI DAD I GRIST
Y gorchymyn a dderbyniodd Crist gan ei Dad oedd nid y gorchymyn i farw ac i atgyfodi, ond yr hawl i wneuthur fel y mynnai Ef ag Ef ei Hun, trwy fyw neu farw.
GWEDDI
Y mae pob gwir weddi yn ffrwyth myfyrdod.
GWYBODAETH
Y mae gwybodaeth fach a gyrhaeddo hyd i'r dwylo a'r traed yn well na gwybodaeth fawr na chyrhaeddo ymhellach na blaen y tafod.
GWNEUD
Gofyn y maent fel Pedr, beth a wna hwn, ac nid beth a wnawn ni.
HAFOD A HENDRE'R IESU
Os calon dyn ydyw hafod yr Iesu ar y ddaear, y nef ydyw ei hendre.
HUNAN-HOLI
Wrth ei holi ei hun, rhaid i ddyn bersonoli'r troseddwr, y cyhuddwr a'r barnwr. Ein cydwybod sy'n cyhuddo, a'n rheswm sy'n barnu.
PAHAM Y'M GADEWAIST?
Pan fydd Duw yn gadael pechadur, ni raid i hwnnw ddim gofyn Paham . . . Y mae ei gydwybod ef ei hun yn ateb cyn gofyn ohono paham.
SECTYDDIAETH
Peth plentynnaidd fyddai i neb ddigalonni a meddwl bod Cristnogaeth yn colli ei gafael ar y byd o achos. bod trefniadau rhyw un sect fach yng nghornel Prydain yn mynd yn anghyfaddas ac yn aneffeithiol. Paham yr ydys yn barnu duwioldeb dynion, neu'n barnu llwyddiant yr eglwys, yn unig wrth allu i ddweud profiad neu i weddio'n gyhoeddus? Gostyngeiddrwydd, ymwadiad, a chariad ydyw prif rinweddau'r Cristion, ac fe all rhai hyn fod yn amlycach yn y rhai distaw nag yn y rhai dawnus.
Y SWPER
Rhai wrth ddyfod i'r addoldy i fwyta'r Swper yn dywedyd wrth eu pechodau fel y dywedodd Abram wrth ei weision, Arhoswch chwi yma, a mi a af hyd acw ac a addolaf, yna y dychwelaf atoch.
Y TEMTIAD
Fe demtiwyd Crist ar hyd ei oes, ond yn fwyaf arbennig yn nechrau ac yn niwedd ei fywyd cyhoeddus. Yn yr anialwch fe'i temtiwyd i chwenychu; yn yr ardd i ofni; a thrwy chwant neu ynteu trwy ofn y temtir pawb i bob peth.
Temtasiwn i amau gair Duw oedd y Aaenaf; temtasiwn i gamarfer gair Duw oedd yr ail, a themtasiwn i wrthod gair Duw oedd y drydedd.
TIRIONDEB YR IESU
Onid tiriondeb yr Iesu a brofai ambell un ohonoch yn nhiriondeb cyfeillion yr Iesu?
TRAGWYDDOLDEB DUW
Y mae'r bywyd y mae Ef yn ei fyw yn wastadol yr un, ac er hynny nid bywyd llonydd yw ei fywyd. Nid tragwyddoldeb y mynyddoedd tragwyddol ydyw ci dragwyddoldeb Ef, ond tragwyddoldeb bywiol yn blodeuo gan ieuenctid anniflanedig.
FEL Y BYDDONT UN, FEL Y CREDO'R BYD
Ioan xvii 21. I ba ddiben y mae'r Iesu'n gweddïo am yr undeb ysbrydol hwn rhwng credinwyr? Fel y credo'r byd, ac y gwypo mai Duw a'i hanfonodd Ef. Os oes arnom eisiau profi i anffyddwyr ddwyfol anfoniad yr Iesu, a dwyn y byd ar fyr i gredu ynddo, trwy fod yn un â'n gilydd, trwy feddwl yr un peth, a'r un cariad gennym, yn gytûn, yn synied yr un peth, y gallwn ni wneud hynny orau, ac nid trwy ysgrifennu llyfrau i amddiffyn Cristnogaeth; nac yn gymaint trwy anfon cenhadon a Beiblau i baganiaid; canys pa fodd mewn difrif yr ydys yn disgwyl i'r byd gytuno i dderbyn Cristnogaeth tra byddo Cristnogion heb gytuno â'i gilydd ynghylch Cristnogaeth? Ofer i sectau Cristnogol ddywedyd wrth baganiaid â thipyn o graffter ynddynt: "Yr ydym ni yn un o ran ysbryd, yr ydym yn cytuno ynghylch y pethau hanfodol," oblegid hwy a atebant yn union: "Os ydych yn un ysbryd, paham na fyddwch yn un ffydd, ac yn un corff hefyd?" Os ydych yn cytuno yn y pethau hanfodol, paham yr ydych yn ymrannu yn fân sectau aneirif oblegid pethau nad ydynt yn hanfodol. A ydyw'r hawl i brotestio yn erbyn syniadau'r cyffredin yn bwysicach yn eich golwg na'r ddyletswydd i ymuno? Y mae rhai'n ceisio cyfiawnhau sectyddiaeth trwy ddweud bod y gystadleuaeth y mae hi yn ei chynhyrchu yn fanteisiol i Gristionogaeth, ond ni raid i neb ddarllen llawer ar ei Feibl ac ar hanes y byd heb gael ei argyhoeddi bod sectyddiaeth y rhwystr mwyaf sy'n bod i Gristnogaeth. Ni ad Duw ei bobl sydd ar wasgar yn y gwahanol sectau, ac ni phaid Ef ag ymweled â'i eglwys gyffredinol er gwaethaf ei hymraniadau; ond nid wyf i fy hun yn gallu gweled bod gennym hawl i ddisgwyl ymweliad amlwg na thywalltiad helaeth o'i ysbryd ar y byd hyd onid ymroddo Cristnogion ar air ac ar ymddygiad i wneud y ddyletswydd sy'n amod llwyddiant ar deyrnas Crist—"fel y byddont un, fel y credo'r byd."
YR YSBRYD GLÂN
Pa fodd y gallwn ni ddisgwyl i'r Ysbryd Glân ein diddanu os ydym yn ei dristáu Ef?
Nodiadau
[golygu]- ↑ Nid oes ond dau fath o ddynion; rhai cyfiawn sy'n meddwl eu bod yn bechaduriaid; a phechaduriaid sy'n meddwl eu bod yn gyfiawn. (Nid Wil Bryan, felly, oedd y cyntaf i wneud y dosbarthiad hwn!)—GOL.
- ↑ Bu farw Emrys ap Iwan ym 1906, gan hynny mae ei holl waith ymhell allan o hawlfraint. Yn wir, gan fod deddfau hawlfraint Cymru a Lloegr yn perthyn i lyfrau yn unig, ac nid erthyglau mewn papurau newyddion a chylchgronau, hyd ddechrau'r 20G ni chafodd y mwyafrif o'r erthyglau sydd yn y cyfrolau byth eu hamddiffyn gan hawlfraint.Gan fu farw David Myrddin Lloyd, awdur y rhagymadroddion i'r tair cyfrol yng Nghyfres "Erthyglau Emrys ap Iwan", ym 1981, bydd ei weithiau ef, gan gynnwys y rhagymadroddion hyn, o dan hawlfraint hyd 2052.Cyhoeddwyd y gyfrolau dros 80 mlynedd yn ôl. Daeth y cyhoeddwr, "Y Clwb Llyfrau Cymreig", i ben ei daith dros 80 mlynedd yn ôl, gan hynny mae pob dim ond yr ychydig tudalennau o ragymadrodd yn sicr yn y parth cyhoeddus. Bernir mae "defnydd teg" yw dyfynnu yr ychydig dudalennau o ragymadrodd gyda gweddill corff y llyfrau sydd bellach allan o hawlfraint.
- ↑ Gweler yr argraffiad Ffrangeg o'r Institution, sy'n ddiweddarach ac yn helaethach nag argraffiad Lladin 1536. Gweler hefyd Le Congé de discerner entre les livres apocryphes. E. ap I.
- ↑ Fe ddywedir ddarfod sgrifennu dau neu dri o lyfrau'r Apocryff ar y cyntaf mewn Hebraeg llygredig, neu ynteu yn yr Aramaeg; ond gan na sgrifennwyd monynt mewn Hebraeg clasurol, braidd y mae'n wiw eu cyfrif yn eithriadau. E. ap I.
- ↑ "Nid yw'r Deng Air Deddf sydd yn Deuteronom ac yn y Testament Newydd yn gwbl gyffelyb i'r Deng Air sydd yn Ecsodus. Dengys hyn ddarfod eu newid a'u helaethu fwy nag unwaith. Y mae'n debygol mai fel hyn y sgrifennwyd hwy ar y cyntaf: 1. Myfi yw Iafe dy Dduw.
2. Nac addola dduw arall.
3. Na thwng anudon yn fy enw.
4. Cadw yn santaidd y seithfed dydd.
5. Anrhydedda dy dad a'th fam.
6. Na lofruddia.
7. Na odineba.
8. Na ladrata.
9. Na cham-dystiolaetha.
10. Na thrachwanta. - ↑ Y mae'n amlwg oddi wrth i 5 a iv 41-43 mai rhywun oedd yn byw yng Ngwlad Canaan a sgrifennodd y llyfr hwn, canys y mae o'n cyfeirio at Moab, Gilead, a Basan, fel gwledydd tu hwnt i'r Iorddonen. Yn y Beiblau cyffredin yr ydys wedi cuddio hyn o beth trwy gam-gyfieithiad. Y mae'r cyfeiriad sydd yn y llyfr at y frenhiniaeth yn dangos mai yn amser y brenhinoedd y sgrifennwyd ef.
- ↑ Fe ddeëllir fy mod yn arfer y gair "Israeliaid" yn ei ystyr helaethaf ac nid yn ei ystyr cyfyngaf.
- ↑ "rhagwybod" a geir yma yn y llawysgrif. Y mae'n amlwg mai gair fel "ethol" neu "arfaethu" a fwriadai Emrys.—GOL.
Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1926, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd.