Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II (testun cyfansawdd)
| ← | Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II (testun cyfansawdd) gan Robert Ambrose Jones (Emrys ap Iwan) |
→ |
| I'w darllen pennod wrth bennod gweler Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II |

ERTHYGLAU EMRYS AP IWAN—II.

DETHOLIAD
O
Erthyglau a Llythyrau
Emrys ap Iwan
II
LLENYDDOL
IEITHYDDOL
Y CLWB LLYFRAU CYMREIG
Argraffiad Cyntaf—Ionawr 1939
Diolcha'r Clwb Llyfrau Cymreig i Lyfrfa'r Eglwys
Fethodistaidd, Bangor, ac i'r Mri. Gee a'i Fab,
Dinbych, am bob hwylustod ynglŷn â
hawlfraint cynnwys y llyfr hwn
Argraffwyd gan Wasg Gee, Dinbych, a rhwymwyd gan
George Tremewan a'i Fab, Abertawe
CYFLWYNEDIG
I
MR. SAUNDERS LEWIS
CYNNWYS
RHAGYMADRODD
Cyn myned i Ffrainc am y tro cyntaf bu Emrys ap Iwan am dair blynedd yn gweithio yn yr un alwedigaeth â'i dad, sef fel garddwr ym Modelwyddan. Er yr holl newid byd a ddilynodd hynny, y digwyddiad mawr oedd troi ohono'i gamre i gyfeiriad gwlad ei hen nain. Ffrainc bellach fu ei ail famwlad. Gwinllannwr o Ffrancwr a wnaeth yr argraff ddyfnaf ar feddwl y cynarddwr ifanc. Paul-Louis Courier oedd ei enw, ac edrychir arno, ynghyd â'i gyfoeswyr, Béranger a Stendhal, fel llenorion y bobl, mewn ystyr arbennig iawn. "Yr hwn yn unig yn dy wlad sy'n foddlon i fod yn ddyn y bobl," medd Courier ei hun, yn ôl cymreigiad Emrys o'i eiriau. Fe elwir y tri a enwyd, gan feirniad amlwg o Ffrancwr o'n hoes ni, sef Thibaudet, yn llenorion y gwir Chwyldro, sef y Chwyldro Ffrengig parhaol. Fe ddengys yr un beirniad[2] fod yr hen winwydden genedlaethol, tua diwedd y ddeunawfed ganrif, yn dwyn ffrwyth newydd i aeddfedrwydd trwy wres y Chwyldro, sef y teip newydd o Ffrancwr a nodweddai'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yr oedd hwn yn elyn i'r brenin, yr offeiriad, a'r uchelwr, yn derbyn y Chwyldro, ac yn ei gymhwyso yn ei ddull ei hun, yn eiddigus o'i ryddid personol newydd, ac ar yr un pryd yn ei gydnabod nid yn unig fel peth perthynol iddo ef ei hun, ond fel cyfran o'r fendith wladol. Yn ôl Thibaudet, bu'n rhaid i lywodraethau'r ganrif, er eu holl amrywiaeth lliw, gydnabod y teip hwn, ei ddenu, ei ddefnyddio, a'i wasanaethu, a hwn o'r diwedd a ddaeth yn ben gyda'r Drydedd Weriniaeth.
Courier a luniodd eiriau mwyaf bachog a phendant y bobl hyn. Yr oedd ei gyfryngau llenyddol o fewn cylch eu diddordeb, ie, a'u brwdfrydedd hefyd. Yr oedd yn gymaint gŵr pros â M. Jourdain. Y llythyr cyhoeddus a'r pamffled oedd ei fynegiant a'i offeryn. Dysgodd symbylu dynion trwy eu difyrru ar draul gwrth wynebwyr. Y mae ei waith yn olau inni ar ei gymdeithas a'i gwleidyddiaeth, ac yn ddatguddiad o dymer ei hysbryd a'i meddwl. Mân—feddianwyr oedd ei "bobl," a hwy'n eiddigus o'r meddiant a'r rhyddid a ddaeth iddynt trwy'r Chwyldro, ac yn benderfynol i lynu wrth y ddeubeth fel gelen. Chwyrnent yn erbyn pawb a phopeth a fygythiai'r enillion hyn, sef yn erbyn y brenin, yr offeiriad, yr uchelwr, y trethwr, a'r swyddog. Eu prif chwyrnwr oedd Courier. Adnodau wrth fodd ei galon, gellid meddwl, oedd y rheini gan y proffwyd Micah am yr holl bobloedd yn rhodio "bob un yn enw ei dduw ei hun," ac amdanynt yn eistedd "bob un dan ei winwydden heb neb i'w dychrynu." Er y gofal a gymerai Courier o'i arddull, na feddylied neb nad oedd ganddo sylwedd, a neges bendant, ac y mae argraff o'r dyn yn gryfach hyd yn oed nag o'i waith.
Eto yr oedd ganddo ef arddull yn anad neb hyd yn oed yn Ffrainc. Nid anodd deall hyn os cywir y deffiniad a rydd Emrys inni o arddull, sef yr argraff neilltuol honno y mae awdur yn ei gosod ar yr iaith gyffredin." Yr oedd Courier yn feistr ar Roeg. Darllenai hi o chwaeth, ac nid i ateb anghenion galwedigaeth. Chwaeth a chariad yn unig a'i cadwai wrthi. Yr oedd mireinder ei Ffrangeg yn ffrwyth gofal ac astudiaeth feunyddiol o'r ddwy iaith. Rhoddai hyn loywder i'w eiriau am fod ei ddysg yn llwyr yng ngwasanaeth ei ddawn. Yn y blaenllymu a welir ar ei frawddegau yr oedd rhywbeth a gâi o'i gyfathrach agos â'i "bobl," ac yr oedd yno gaboli hefyd yn llathru â rhyw ddieithrwch ysblennydd. Parchai ei bobl, a pharchai hefyd ysgolheictod prin.
Bu Napoleon yn eilun i Courier, eto yr oedd yn gas ganddo filwriaeth. Nid yw mor anodd deall hyn mewn gwlad lle y deellir nad milwr yn unig oedd Napoleon. Beth bynnag, rhoes Courier heibio ei alwedigaeth filwrol, a'i orchest bennaf mewn perthynas â hi fu ei gyfieithiad o Xenophon. Trosodd bethau eraill hefyd o Roeg i Ffrangeg fel rhan o'i ddisgyblaeth lenyddol, sef ei ymgymhwysiad at allu creu mireinder Groegaidd ei naws yn y Ffrangeg. Yr oedd yn etifedd ac yn llafuriwr dygn mewn dwy ystad, a gwiw oedd ganddo ei holl etifeddiaeth lenyddol, a gynhwysai olewydd Groeg a gardd Ffrangeg. Fe'i ystyriai ei hun fel garddwr a gwinllannwr iaith ei genedl. Ni phoenai ar ôl a oedd aruchel, mawreddog, na barddonol, ond yn hytrach fe roes ei fryd ar sgrifennu'n glir, yn lluniaidd, ac yn gywrain. Nid oedd neb mwy byw ei gydwybod lenyddol, a gwaradwydd iddo fyddai gwrthod dysg. Am hynny y dysgodd lunio llythyr gan Mme. de Sevigné, a phamffled gan yr enaid aflonydd hwnnw, sef Blaise Pascal.
Yr oedd syniadau tra gwahanol ar led yn Ffrainc ac yn Ewrop o oes y Chwyldro ymlaen am natur gwaith llenor a'i werth. Wedi'r sylw a roddwyd i Gyffesion Rousseau, cafwyd llawer i ddewis yr un llwybr. Nid oedd mwyach yr un pwys ar fodelau mewn llenyddiaeth, na'r un parch at ddysg a thraddodiad. Yr oedd y gwerthoedd a fynnid mwyach yn gyfan ym mhersonoliaeth gysegredig yr unigolyn. Hunan—fynegiant oedd llenyddiaeth felly, ac fe gafwyd digonedd ohono am flynyddoedd hir. Yn naturiol felly, barddoniaeth, a thelyneg yn anad unffurf arall, oedd priod gyfrwng yr oes. Ychydig, a heb fod yn ffafriol iddo, yw cyfeiriadau Emrys ap Iwan at Jean-Jacques Rousseau, ac nid yw byth yn cymaint â sôn am nemor un o feirdd a llenorion "llwyddiannus" ei ganrif yn Ffrainc. Awgrymwyd yn ddiweddar ei fod wedi ffoli ar lenyddiaeth Ffrainc. Camddeall o'r mwyaf yw hynny. Diystyrodd agos holl lenyddiaeth y wlad honno yn ei ddydd ac yn ôl hyd at ganol y ddeunawfed ganrif, ag eithrio gwaith yr un llenor a ddewisodd fel athro. Dewisodd yn gwbl bwyllog; nid yn ddall, ond yn unol â'r canonau a barchodd trwy gydol ei oes.
Gwelir y bwysicaf o'r canonau hyn yn nhraethawd Emrys ar Gymraeg y Pregethwr:
I'r rhai y mae ganddynt arddull, y ffordd orau y gwn i amdani i wellhau'r arddull hwnnw ydyw mynnu'n gyntaf oll lyfrau'n cynnwys enghreifftiau o waith pob awdur enwog ym mhob iaith a fyddo'n hysbys iddynt, ac yna darllen yn ddyfal weithoedd yr awdur y byddo'i arddull yn debycaf i'w harddull amherffeithiach hwy eu hunain. Wrth gymryd y cyfryw un yn gynllun, nid dynwared rhywun arall y byddant, ond datblygu eu dawn eu hunain. Pan fyddo'r awdur a ddewiser yn gynllun yn pallu mewn rhywbeth gwerthfawr, fe ddylai'r darllenwr ar yr un pryd ddarllen gwaith rhyw awdur arall a fyddo'n rhagori yn y peth hwnnw. Hyn a geidw'r disgybl rhag mynd yn gaethwas i'w athro.
Ei brif gynllun ef oedd Paul-Louis Courier. Gwelodd ei frawd-enaid yn y Ffrancwr hwn, a meithrinodd ei ddoniau cynhenid ei hun trwy arddel a mawrhau'r berthynas. Yr oedd yr un syniad o ryddid gan y ddau, yr un aflonyddwch yn erbyn llyffetheiriau "swyddogol" mewn byd ac eglwys, ynghyd â'r un parch dwfn at y "bobl," ac at dreftadaeth ysbrydol. Ymdrechai'r ddau gaboli eu hiaith. Ymserchent ynddi, a pharchent hi. Yn ei berthynas ei hun â'i athro, Groeg Emrys oedd y Ffrangeg, a'i Ffrangeg oedd y Gymraeg. Gwelai Emrys hefyd fireinder mewn eiliaith; yr oedd arno flys am ei ail greu yn ei famiaith; gwyddai am adnoddau diderfyn i'w darganfod yn iaith y bobl; a pharchai hefyd ddysg ac arweiniad coeth cynfeistri llenyddiaeth ei wlad. Ei Mme. de Sevigné a'i Blaise Pascal oedd awduron y "Clasuron Cymraeg." Cyflenwai ei addysg a'i gymreictod yn ysgol pob un ohonynt.
Gwaith difyr ac nid dibwys fyddai olrhain ymhellach fyth y tebygrwydd rhwng y disgybl a'r prifathro. Fe'i gwelir yn eu hagwedd ddeublyg at filwriaeth, sef eu casineb at yr erchylltod ynghyd â'u blas at olrhain a chroniclo campau'r drin. Sur la Cavalerie Emrys yw "O Elba i Waterloo." Gan Courier hefyd yn ddiau y dysgodd ef ei edmygedd o Napoleon. Nid hynny'n unig, ond peth pwysicach o lawer. Fel yr oedd Rousseau yn gweld iechyd cymdeithas yn tarddu o fywyd dyfnaf a mwyaf mewnol y dyn unigol, fe'i câi Courier ym mywyd ac ymgyfathrach feunyddiol a disylw'r "bobl" fel y cyfryw, ac yn arbennig ym mywyd ei briod genedl. Dyna achos ei gasineb at ymyrraeth y llywodraeth a'r eglwys â'r bywyd beunyddiol hwn. Yn hyn yr oedd ef yn wir blentyn y Chwyldro. Croesawyd dysgeidiaeth y Chwyldro ynglŷn â bywyd cenedl yn Iwerddon cyn diwedd y ddeunawfed ganrif. Yng Nghymru yr adeg honno, agwedd arall o'r ddysgeidiaeth newydd yn unig a dderbyniwyd, sef ynglŷn â "breintiau cynhenid dyn." Emrys ap Iwan, trwy arweiniad Courier, oedd y cyntaf i dderbyn neges genedlaethol y Chwyldro Ffrengig fel Cymro. Gwelwyd yn amlwg yn y gyfrol gyntaf o'i draethodau effaith hyn yn y maes cymdeithasol a pholiticaidd. Fe'i gwelir hefyd yn y maes llenyddol, yn enwedig lle bo cyfeirio at ragorion iaith a meddwl creadigol y bobl. Fe gofia Emrys am y rhagorion hyn hyd yn oed wrth fesur gwerth iaith y clasuron a'r Beibl Cymraeg.
Eto mynnai i'r bobl fod yn bobl wrteithiedig, ac nid yn rhy "werinaidd," sef yw hynny, yn ddidoledig oddi wrth eu perffeithwyr. Dyna pam y soniai gymaint wrthynt yn eu newyddiaduron a'u cylchgronau am y clasuron Cymraeg. Yn nyddiau'r clasuron rhyddiaith Gymraeg o oes y Dadeni Dysg hyd at ymhell yn y ddeunawfed ganrif, fel gyda beirdd y gynghanedd ymhob oes, yr oedd cyfansoddiad llenyddol yn ffrwyth astudiaeth o'r iaith, sef chwilio ei golud, a darganfod ei hadnoddau, trwy ymgydnabyddu â gwaith y meistri. Yr oedd gan awdur pob un o'r clasuron hyn ei fodelau neu ei gynlluniau. Ysgolheictod oedd hwn o'r fath sy'n cyfuno ac nid yn daduno. Fe'i collwyd erbyn oes Emrys, ac yr oedd ef yn hollol ar ei ben ei hun yn ei ble am astudiaeth o'r Gymraeg a'i chlasuron fel amod unrhyw fawredd llenyddol.
Yr oedd yna fudiad arall ar gynnydd, sef ysgolheictod Syr John Rhys, a weithiai ar linellau Ellmynig, yn astudio gwyddor iaith, ond Emrys oedd y cyntaf, hyd y gwn, yn ei gyfnod i ymroi at y clasuron fel y bydd prentis yn troi at waith ei feistr. Ymdriniai lawer â gwerth arbennig yr amrywiol glasuron fel modelau. Gwelai un fel sgrifen gron cymwys i laslanc ymarfer â hi, ac un arall fel ysgrifen redeg diogel i ddisgybl profedig ei mentro tua diwedd ei gwrs; gwelai un fel arddull priodol at adrodd hanes a'i addurno, ac arall at ddadansoddi meddwl yn gywrain. Daeth Syr John Morris-Jones â pheth o'r ysbryd hwn i fyd astudio barddoniaeth Gymraeg, ond y mae Emrys yn aros heb ei olynydd yn ei briod faes ei hun, sef rhyddiaith Gymraeg.
Yr oedd manyldeb yn bwysig ganddo. Trwy hyn fe ddeallodd gyfrinach geiriau. Parai iddynt amlygu eu hystyr i drwch y blewyn. Astudiai rym pob terfyniad, ac am hynny y gwyddai'r rhagor rhwng duwiol a duwiolaidd, cyfeillgar a chyfeillaidd, dynol a 'dynaidd. Yr un modd y detholai seiniau, geiriau, a rhithmau arbennig at ei bwrpas arbennig. Câi fanyldeb mwy yn iaith y bobl nag yn ymadroddion mwy unffurf y Beibl a Drych y Prif Oesoedd. Olrheiniai gynnydd manyldeb yn iaith y clasuron o waith Morgan Llwyd hyd at Ellis Wynne. Darganfu fod Cymraeg manwl yn Gymraeg eglur, ystwyth, a llawn amrywiaeth, ac oblegid hynny gwyddai paham a pha fodd y mae'r arddull yr hyn yw'r dyn. Eglurodd hynny hefyd yn ei ymdriniaeth ag arddull Edward James yn ei gymhariaeth wych rhwng trefnu brawddeg a threfnu byddin. Daeth ag ysbryd a disgyblaeth rhetoric yn ôl i iaith oedd yn colli pob graen a gofal, fel y gwelir yn amlwg yn niweddglo'r ddau draethawd cyntaf yn y casgliad hwn.
Y mae mwy nag un ffordd o ymgyrraedd at burdeb iaith. Un ffordd yw arfer y gair diddosben am het. Nid dyna ffordd Emrys. Iddo ef, daw purdeb ymadrodd yn gyntaf, yna purdeb geiriau, ac yna purdeb sain. Nid oedd yr un o'r rhain yn ddistadl yn ei olwg, ond ni châi'r llai ei le o flaen y mwy, am fod gan Emrys drefn a chymesuredd. Gan fod llun yn fwy ganddo na lliw, yr oedd purdeb ymadrodd yn sicr o'r blaen. Dyna pam y dyfal chwynnai briodebion Saesneg o'r iaith. Y mae poeni ar ôl geiriau ar draul ymadroddion yn ein harwain yn y pen draw i siarad fel y gŵr pwysig hwnnw a anogai ddynion i "beidio â rhoddi'r arddangosfa ymaith." Un arall o sylwadau cyfoethog Emrys ar arddull yw bod "geiriau'n ymgaboli yn ôl deddfau cyffredinol, ac yn ymlygru oherwydd mympwyon neilltuol." Hynny yw, y "bobl" a ŵyr, trwy eu bywyd beunyddiol a'i dreigliad oesol.
Yn yr ymchwil am gywirdeb mewn iaith ac arddull, fe rydd Emrys le i hanes (gan gynnwys arfer gwlad) ac i reswm. Y mae'n sicr o fod yn iawn yn ei farn gyffredinol ar hyn o beth, fel mewn llawer cymhwysiad o'r egwyddor. Eto gellir amau a gadwodd ef y fantol yn gywir bob amser rhwng y ddau, sef rhwng hawliau hanes neu arferiad cyffredinol ar y naill law, a rhesymiad yr unigolyn ar y llaw arall. Er enghraifft, ystyrier ei gyngor ynglŷn â llunio geiriau newyddion yn yr iaith Gymraeg. Gwyddai am ddeddfau tyfiant geiriau Cymraeg o Ladin a Groeg, ond nid yw bob amser yn cofio mai deddfau tyfiant ydynt, ac nid dyfais beiriannol. Y mae'n awgrymu y gellir eu cymhwyso pryd y mynner i lunio'r gair a fynner. Dylid cofio mai deddfau ydynt a weithiodd tros gyfnod o flynyddoedd arbennig ac yna peidio. Weithiau'n ddiau fe ellir eu hail arfer yn hwylus i lunio gair newydd megis ffosfor, ffenomen, &c. Ond nid yw hyn yn dal bob amser, fel y gwelir oddi wrth y gair rhyfedd cris a luniodd Emrys i olygu cyfyngder. Y mae rhyw synnwyr anneffiniol yn penderfynu trosom a ellir derbyn gair gwneuthur yn "gyflawn aelod" o'r iaith. Bu Emrys yn chwarae cryn dipyn hefyd gyda rhagenwau a geirynnau rhagferfol, ond gydag aeddfedrwydd blynyddoedd fe roddodd heibio lawer o'r mân driciau hyn. Eto, wrth ymgodymu â'r iaith yn ei ffordd ei hun, ynghyd â thrwy ei hastudio yng ngorchestion eraill, fe'i hystwythodd, ac amlhau ei hadnoddau.
Y mae'r detholiad hwn yn cynnwys traethodau a chyfraniadau eraill ar iaith, arddull, a llenyddiaeth Gymraeg, ar Paul-Louis Courier, ynghyd âg ar ambell bwnc perthynasol arall. Fe godwyd peth o'r defnydd yn syth o lawysgrifau Emrys ei hun, ond yng ngholofnau'r Faner a'r Geninen y cafwyd rhan fwyaf. Diweddarwyd yr orgraff a chymhwyswyd ychydig ar fanion iaith yn yr un modd ag a wnaed yn y gyfrol flaenorol. Unwaith eto y mae diolch yn ddyledus i Mr. G. J. Williams, M.A., o Goleg Caerdydd, am ei garedigrwydd yn darllen y proflenni, i Mr. Prosser Rhys eto am bob cyfarwyddyd, ac i'r cyfeillion yng Ngwasg Gee am eu gwaith graenus. Dymunaf ddiolch yn fawr hefyd i Mr. John Morris, Trefnant, am gael benthyg rhai o lawysgrifau Emrys ap Iwan, a chael copïo ohonynt ar gyfer y gyfrol hon. Manteisiwyd yn fawr hefyd ar adnoddau'r Llyfrgell Genedlaethol.
Ionawr, 1939. D. MYRDDIN LLOYD.
Y CLASURON CYMRAEG
(A DRADDODWYD I GYMDEITHAS GENEDLAETHOL GYMREIG LLYNLLEIFIAD, TACHWEDD 15, 1893)
Y mae testun fy sylwadau hytrach yn fyr nag yn fanwl; canys y mae'n hysbys i ysgrifennydd llafurus y Gymdeithas, os nad i eraill hefyd, nad wyf i ddim yn bwriadu bwrw golwg ar holl brif awduron Cymru, ond yn unig ar brif awduron a chyfieithwyr y ddwy oes o'r blaen, sef yr eilfed a'r drydedd ar bymtheg, y rhai, a siarad yn grwn, sy'n cynnwys y cyfnod rhwng y Diwygiad Protestannaidd a'r Diwygiad Methodistaidd. Er hynny, y mae'r testun braidd yn gamarweiniol hyd yn oed fel y mae o ar y cerdyn, canys pe dywedid mai'r ysgrifenwyr cymhwysaf i'r cyffredin eu cymryd yn gynlluniau ydyw'r clasuron Cymraeg, yna yn y ddwy oes o'r blaen, yn anad un cyfnod arall, y ceir hwynt. Wrth gyfeirio'ch sylw at lenorion pennaf y cyfnod hwnnw, amcanu yr ydwyf gyffroi aelodau ieuangaf eich cymdeithas i ymgydnabod mwy â'r ysgrifenwyr mwyaf Cymreigaidd eu hiaith a'u hysbryd. Fe fuasai mwy o unoliaeth yn fy sylwadau pe buaswn yn traethu am un llenor yn unig, ond wrth draethu am neilltuolion deg neu ddeuddeg, gan eu cymharu â'i gilydd, yr wyf yn gallu gwneud peth sydd ar hyn o bryd yn bennaf yn fy ngolwg, sef gosod y rhai ieuangaf ohonoch ar dir i farnu pa un o'r ysgrifenwyr Cymraeg a fyddai'n orau iddynt ei ddewis yn gynllun; ac ni chyfeiliornwn yn fawr pe dywedwn mai'r ysgrifennwr gorau ganddynt ydyw'r ysgrifennwr gorau iddynt. Fel rheol, y mae llenor ifanc yn hoffi rhyw awdur neilltuol, am fod hwnnw'n debyg iddo fo'i hun, ac wrth efelychu un tebyg iddo'i hun, nid yw'r efelychwr yn gwneud dim amgen na datblygu'i ddawn ei hun. Gofaler yn unig fod y neb a efelycher yn un sy'n haeddu ei efelychu, sef yw hynny, yn glasur. Canys fe ellir dweud am glasuron pob cenedl yr hyn a ddywed Vinet am glasuron Groeg a Rhufain, nad ydynt hwy, o'u hastudio, ddim yn mygu dawn nac yn lladd neilltuolrwydd neb. Y mae'r neb a efelycho'r awduron gorau yn eu pethau gorau yn rhywbeth amgen na dynwaredwr—disgybl yw hwnnw sydd ar y ffordd i fynd yn feistr.
Gan fod crefydd cenedl yn dylanwadu mwy na dim arall ar ei llenyddiaeth, yr wyf yn gweled yn dda ddosbarthu llenyddiaeth Gymraeg yn ddau gyfnod, sef
Y CYFNOD CATHOLIG A'R CYFNOD PROTESTANNAIDD,
gan adrannu'r Cyfnod Protestannaidd yn gyfnod Eglwysyddol ac yn Gyfnod Ymneilltuol.
Y mae Vinet a Menzel a Macaulay, a phob Protestaniad darllengar arall, am a wn i, yn addef bod crefydd Eglwys Rufain, oherwydd ei hynafiaeth, ei chwedloniaeth, ei rhwysg, ac amrywiaeth ei defodau, yn fwy barddonol o lawer na chrefydd Eglwys Loegr, ac yn fwy fyth felly na chrefydd yr Ymneilltuwyr; ac o achos hynny, y mae mwy o liw a sawr barddoniaeth ar ryddiaith y cyfnod cyntaf nag sydd ar ryddiaith yr ail a'r trydydd cyfnod. Yr hyn ydyw hanesion yr Hen Destament a damhegion yr Iesu i'r Epistolau, hynny ydyw'r Greal, y Mabinogion, a rhai o'r Brutiau, i sgrifeniadau mwy athrawiaethol y tri chanmlwydd diwethaf. Yng ngolwg y diwinydd yn ddiau, y mae'r lleiaf o'r Epistolau yn werthfawrocach nag araith Jwda, dameg Jotham, caneuon Moesen, a galarnadau Dafydd; ond yng ngolwg y llenor, anghymeradwy fydd y gwir, os na bydd o'n wir gloyw; a diflas fydd y da, os na bydd o'n dda teg yr olwg. O ran bod yn dda, nid yw llenyddiaeth Gymraeg y cyfnod cyntaf na gwell na gwaeth na llenyddiaeth y cyfnodau dilynol. Y mae hi'n llai gwir, a'i barnu wrth bwys a mesur y cysegr, ond y mae hi y llenyddiaeth decaf a welodd Cymru; ac y mae tegwch yn beth mor anhepgor mewn llenyddiaeth ag ydyw ffurf mewn celfyddyd. Y swyn sydd yn y tegwch hwn sydd wedi peri i estroniaid, megis yr Ellmyn, y Ffrancwyr, a'r Saeson, roi cymaint mwy o fri ar ein hen lenyddiaeth nag ar ein llenyddiaeth ddiweddar. Yr unig air sy'n dynodi'n fanwl natur llenyddiaeth y cyfnod hwn ydyw'r gair Ffrangeg naiveté, y gellir ei Gymreigio yn neifder, sef y naturioldeb prydferth hwnnw a berthyn i lenyddiaeth yng ngwrid a charedigrwydd ei hieuenctid.
Er amser y Diwygiad Protestannaidd, gwlad y cyffroadau crefyddol, gwlad yr ymryson ynghylch geiriau, gwlad yr ymgecru diwinyddol a phrydyddol, gwlad y gerdd ddychan a'r llythyrau di-enw, fu "Gwlad Gân" gan amlaf; ac y mae'n hysbys fod y cyffroadau pwysicaf, pa un bynnag ai crefyddol ai gwleidyddol, yn niweidiol i lenyddiaeth. Y maent, a dweud y lleiaf, yn niweidiol iddi ar y pryd; eithr gallant fod yn fuddiol iddi ymhen talm o amser ar ôl eu myned heibio. Fe all y stormydd eu hunain—pob stormydd oddieithr "storm mewn tebot "—ymddangos yn ddiddorol i ddyn pan edrycho arnynt oddi ar fryn, o bell,
Ac yntau'n ddihangol o'u cyrraedd,
Yn nofio mewn cariad a hedd.
Y mae'n debygol y rhaid i lawer blwyddyn eto fyned heibio cyn y daw i lenyddiaeth Gymraeg drannoeth teg, canys os yw'r Cymry wedi cefnu ar rai cyffroadau, y maent yn awr yn wynebu ar gyffroadau eraill mwy, sef cyffro gwleidyddol a chyffro cymdeithasol; ond pa bryd bynnag y delo llwydd allan o'r aflwydd hwn, ac y gwelir pob Cymro'n eistedd yn ddiddig o dan ei dderwen ei hun, fe ellir disgwyl i lawer un ysgrifennu ei feddyliau ar gân yn bereiddiach na Dafydd ap Gwilym, a'u hysgrifennu ar draeth yn llyfnach nag Elis Wynn. Atswn tymhestloedd a daeargrynfeydd, ac nid eu sŵn, sy'n cynhyrfu awen y prydydd a'r traethydd. Pan fo'r byd yn ymglafychu, ac yn esgor, hyd yn oed ar wirioneddau o'r math pwysicaf, mwy o lefain ac oernadu a glywir ynddo nag o ganu. Nid wyf yn anghofio bod ambell un iach ei galon, o fath Williams o Bantycelyn, yn medru canu'n dda ynghanol twrf y Philistiaid a'r bloeddio, ond fel rheol, cynhyrchu pamffledau a llyfrau dadleuol ac nid llenyddiaeth y mae rhyfel rhwng ymbleidiau crefyddol a gwleidyddol.
****
Y mae'r ddau gyfnod Protestannaidd yn debyg yn hyn, sef eu bod yn gyfnodau pur ddiwinyddol, a bod eu diwinyddiaeth yn Buronaidd yn Biwritanaidd iawn, o ddyddiau'r Tuduriaid hyd yn awr; a rhaid addef bod Puroniaeth yn niweidiol i lenoriaeth. Pe buasai yng Nghymru yn y Cyfnod Eglwysyddol Eglwyswyr o'r Ysgol Uchel, fe allesid disgwyl iddynt fod yn fwy barddonol yn eu rhyddiaith, a phe buasai ynddo Eglwyswyr o'r Ysgol Lydan, fe allesid disgwyl iddynt fod yn fwy gwyddonol, ac felly yn ehangach eu syniadau a'u cydymdeimlad. A dweud fy mhrofiad fel llenor, fe fyddai'n well gennyf i o'r ddau weled Cymru'n Gatholig ei chrefydd nag yn Biwritanaidd, am fod Catholigiaeth yn fwy manteisiol i lenoriaeth a chelfyddyd, ac yn llawn mor fanteisiol i wyddoniaeth hefyd; ond fe fyddai'n well gennyf ei gweled yn Brotestannaidd, yn ystyr orau'r gair, na dim; canys y mae Protestaniaeth aruchel, ddiragfarn, tra bo hi'n ymosod â'i llaw aswy, yn adeiladu â'i llaw dde. Fe ddichon fod Protestaniaeth yr Almaen yn rhydd hyd at fod yn benrhydd; ond pe bai Piwritaniaid Cymru yn gymaint o lenorion ag ydynt o ddiwinyddion, gwelent fod y Brotestaniaeth honno hefyd yn adeiladu mwy nag y mae hi'n ei ddistrywio. Sŵn ei cheibiau ac nid sŵn ei thrywelau sy'n cyrraedd hyd at Gymru. Darluniau o furddunnod—o garneddau'r Almaen, ac nid darluniau o'i phalasau, a ddangosir inni. Hyd yn oed mewn dinas fawr fel hon, y mae mwy o sôn am Hegel nag am Leibnitz, a mwy o ladd ar Fragmente Lessing nag o ganmol ar ei ddramodau. Y mae'n rhaid i bawb sy'n pleidio rhyddid ddygymod â rhywfaint o benrhyddid, a hynny'n fwy am fod llawer peth yr ydys yn ei gyfrif yn benrhyddid heddiw yn myned yn rhyddid cyfreithlon yfory. Pa beth bynnag yw penrhyddid, y mae'n sicr fod Piwritaniaeth yr amser a aeth heibio yn ben-rhwymedd, canys yr oedd hi'n rhy gul i fod yn Biwritaniaeth Gatholig, chwaethach yn Biwritaniaeth Brotestannaidd. Piwritaniaeth Babyddol oedd hi. Os ydym yn ein galw'n hunain yn Brotestaniaid, byddwn yn Brotestannaidd, trwy fynnu rhyddid i farnu ac i lefaru fel y mynnom ein hunain, a thrwy oddef i eraill farnu a llefaru fel y mynnont hwythau. Os bydd i Brotestaniaeth gyson a rhesymegol ladd ein Piwritaniaeth, ni wna hi yn y pen draw ddim niwed i grefydd bur a dihalogedig, ac y mae'n ddiamau y gwna hi les dirfawr i lenoriaeth.
Er bod codiad y Methodistiaid yng Nghymru, ac adfywiad y cyfundebau Ymneilltuol eraill, wedi bod yn fendithiol iawn i'n cenedl, eto rhaid addef bod yr Ymneilltuwyr hyn wedi gwneud diwinyddiaeth Biwritanaidd yn gulach ei chynnwys, ac yn fwy dadleuol a beirniadol ei gwedd, nag y bu hi erioed o'r blaen. Nid oes diben ar nifer y llyfrau a'r pamffledi a wnaethant, ond darllen y rhan fwyaf ohonynt sy flinder i'r cnawd am nad oedd eu hawduron ddim yn llenorion. Fe gyhoeddodd y rhai dysgedicaf rai llyfrau buddiol a da ymhob ystyr, yn eiriaduron ac yn esboniadau, eithr nid ydys byth yn cyfrif y cyfryw bethau yn rhan o lenoriaeth cenedl. Llyfrau cyfleus ydynt, ac nid llyfrau clasurol, ac os darllenir mwy arnynt nag ar weithiau ag unoliaeth iddynt, hwy a ddifethant chwaeth y darllenwyr. Mynych y'n hanogir yng Nghymdeithasau'r Methodistiaid i ddarllen llenyddiaeth y Corff, ac y mae'r Wesleaid, y Bedyddwyr, yr Eglwyswyr, ie, a'r Annibynwyr hefyd, yn annog eu haelodau i ddarllen llenyddiaeth y cyfundeb y maent hwy'n perthyn iddo. Ond nid oes gan y Corff fel y cyfryw ddim llenyddiaeth. Nid oes y fath beth â Llenyddiaeth Gyfundebol. Nid oes dim yn haeddu ei alw'n llenyddiaeth os na bydd cenedl a chenedlaethau yn tystiolaethu bod iddynt ran ynddo. Mynych hefyd y'n hanogir mewn cymdeithasau crefyddol i ddarllen llenyddiaeth bur, a dealler nad gwir lenyddiaeth, nad llenyddiaeth glasurol, yr ydys yn ei feddwl yn y cymdeithasau hynny wrth lenyddiaeth bur, ond llyfrau diddrwg-didda, goruwchanianol, y gellwch yn ddiogel eu rhoddi'n anrheg i enethod pymtheg oed. A llefaru'n ddiamwys, nid oes a wnelo llenyddiaeth bur fwy â moesoldeb nag sydd a wnelo pure mathematics ag ef. Yng ngolwg y llenor, llenyddiaeth gain yn unig sy'n llenoriaeth bur. Nid yw'n wiw ganddo fo ddarllen llyfr oblegid ei santeiddrwydd yn unig, os na bydd ynddo hefyd brydferthwch santeiddrwydd. Ofer cynnig iddo bethau gwir a phethau cyfiawn os na byddant hefyd yn bethau hawddgar a chanmoladwy.
Pa beth bynnag a ddyweder am nifer a gwerth y llyfrau a gyhoeddwyd yn y cyfnod Ymneilltuol, rhaid addef bod ynddo lai o lyfrau clasurol nag sydd ymhob un o'r ddau gyfnod arall. Nid yw cynhyrchion gorau'r cyfnod hwn mor goeth â chynhyrchion y Cyfnod Eglwysyddol, nac mor brydferth â chynhyrchion y Cyfnod Catholig. Yn y ddau gyfnod o'r blaen, dynion yn medru sgrifennu oedd yn gyffredin yn mynnu sgrifennu, ond yn y cyfnod hwn y mae'r rhan fwyaf yn barnu mai coll amser yw dysgu Cymraeg cyn dechrau sgrifennu. Er hyn oll y maent yn derbyn eu gwobr, canys y mae eu cariad at eu cyfundeb yn cuddio lliaws o bechodau, a chariad eu cyfundeb tuag atynt hwythau yn dwyn agos cymaint o elw iddynt â phe buasent wedi pwrcasu ac astudio Gramadeg Rowland a Geiriadur Silvan Evans. Diolch i'r aml gyfundebaeth sy'n gwneud ysgrifenwyr anfedrus yn awduron hysbys, fe all pob rhyw lyfr ddywedyd ar ôl dyfod allan o'r wasg—"Pan yw fy nghenedl yn fy ngwrthod, fy nghyfundeb a'm derbyn." Eithr ni phery hyn ddim yn hir iawn, canys mi a wn am lawer o Galfiniaid cedyrn sydd eisoes wedi mynd mor anffyddlon i'w pobl eu hunain fel na phrynant ddim te diflas gan eu brodyr yn y ffydd os gallant gael te blasus am yr un bris gan Weslead.
Oddieithr pedwar neu bump, rhaid addef bod ysgrifenwyr Cymraeg pob cyfnod yn pallu mewn gwreiddioldeb neu ddyfeisgarwch, yr hyn sydd ball pwysig. Y mae hyn yn dyfod yn hytrach o ddiffyg dewrder nag o ddiffyg dawn, canys y mae gwerin y genedl, pa un bynnag ai wrth y pentan ai mewn dosbarth yn yr Ysgol Sul, yn dangos cymaint o wreiddioldeb â gwerin unrhyw genedl. Eithr pan elo Cymro o'r Ysgol Sul i'r coleg, y mae o'n peidio â dychmygu er mwyn gallu cofio. Er ei fod yn hunanol ddigon, ac yn fwy cysetlyd nag un cenedl-ddyn o dan haul, eto pan elo i sgrifennu traethawd neu bregeth neu lyfr, fo fwria ymaith ei hyder, a chan dybied ei fod yn rhy wan i gloddio, fo dry i gardota. Y mae'n gywilyddus ganddo osod ar y bwrdd ei gawl ei hun, ac am hynny y mae o'n cynnig i'w westeion botes Seisnig wedi ei ail dwymo ar dân Cymreig. Y mae'r Mabinogion hynaf, y mae'n wir, mor wreiddiol â chynhyrchion unrhyw genedl; ond i'r bobl gyffredin, ac nid i lenorion y rhaid diolch am hynny. Y nhwy o genhedlaeth i genhedlaeth a luniodd y chwedlau hyn, ac a'u lliwiodd hefyd. Ni wnaeth y gwŷr llên, sef y mynachod, fawr amgen na'u hysgrifennu. Y bobl, yr un ffunud, ac nid cerddorion wrth broffes, a wnaeth ein hen alawon; a chynulleidfaoedd Cymru a wnaeth oreuon ein tonau cysegredig yn gyfryw rai ag ydynt. Mae gwerin Cymru wedi bod erioed yn fwy cynhyrchiol ymhob peth na'i dysgawdwyr.
Dywedais fod gennym ychydig o awduron gwreiddiol, ac ohonynt y mae dau os nad tri yn perthyn i'r cyfnod yr wyf yn bwriadu sylwi arno oddi yma ymlaen, sef Elis Wynn, a Morgan Llwyd; ac y mae'r trydydd hefyd, sef Theophilus Evans, mor wreiddiol ag y dichon i hanesydd fod; ie, yn rhy wreiddiol i fod yn hanesydd cywir. Y mae'n wir y dywedir am
ELIS WYNN
nad yw hyd yn oed ei Weledigaethau, er gwyched ydynt, ddim yn waith hollol wreiddiol of defnydd na chynllun. Pe rhoem fod hynny'n wir, fe ellid haeru bod yn y gwaith ddigon o brofion i ddangos bod yr awdur ei hun yn un tra gwreiddiol; canys y mae y pethau a dynnodd o allan o'i feddwl ei hun yn llawn cystal â'r pethau a ddygodd oddi ar Quevedo, os bernir gwaith yr awdur Sbaeneg hwn wrth y cyfieithiad Saesneg ohono oedd gan Elis Wynn; ac nid yw'r pethau a ddygodd oddi ar Milton, ar ôl eu troi i iaith rydd, yn ymddangos ddim mwy Miltwnaidd na llawer o bethau eraill yn y Gweledigaethau sy'n perthyn yn ddiamheuol i'r Bardd Cwsg ei hun. Y mae gwastadrwydd ei waith o'i ddechrau i'w ddiwedd yn dangos mai gan ei gydradd ac nid gan ei well y bendithiwyd ef, ac nad ysbeiliodd o eraill o ddim nad oedd ganddo ei gystal yn ei feddiant ei hun. Ysbeilio a wnaeth efô am ei fod yn drachwantus ac nid am ei fod yn dlawd. Er hyn oll, ysbeilio ysbeilwyr a sglyfaetha sglyfaeth a wnaeth y Bardd Cwsg, canys nid oedd efô wedi'r cwbl yn fwy dyledus i Quevedo nag oedd Quevedo i Cervantes, nac mor ddyledus o lawer i Milton ag oedd Milton ei hun i'r Italiad Andreini a'r Ffrancwyr St. Avitus a Du Bartas.
Boed a fynno, ni bu gan y Cymry er amser y Diwygiad Protestannaidd un ysgrifennwr mwy gwreiddiol nag Elis Wynn. Mewn asbri, arabedd, a gwawdiaith, ychydig iawn yn y byd oll sy'n rhagori arno. Yn wir, y mae o mor llawn o'r pethau hyn fel y mae o'n pallu mewn afiaith, sef mewn humor—os goddefir imi seinio gair Lladin fel gair Cymraeg. Awdur Don Quijote ydyw'r unig un, hyd y gwn i, sydd wedi medru bod yn afieithus ac yn arabeddus ar yr un pryd. Y mae awduron mwyaf afieithus y Saeson yn ysgrifennu'n rhy wasgarog i fod yn arabeddus, ac y mae ysgrifenwyr mwyaf arabeddus y Ffrancwyr yn ysgrifennu'n rhy gryno i fod yn afieithus; canys crynoder sy'n dygymod orau ag arabedd, ac anghrynoder sy'n dygymod orau ag afiaith. Math o ddigrifwch—o ysmaldod—yw arabedd ac afiaith; eithr digrifwch sych yw arabedd am mai ffrwyth dealltwriaeth ydyw, a digrifwch llaith yw afiaith am mai ffrwyth teimlad ydyw. Digrifwch dealltwriaethol, sef y digrifwch sy'n hynodi'r Ffrancwyr, yw digrifwch Elis Wynn, ac y mae hwn, pan fyddo'n gryf mewn dyn, yn gwthio ymaith ddifrifwch. Y mae'r Bardd Cwsg yn rhy ddigrifol i fod yn ddwys, ac yn rhy ddigrifol i fod yn wir aruchel. Yr ydys yn teimlo ei fod yn ei elfen wrth ddarlunio " cwrs y byd," eithr wedi iddo "ar adenydd ffansi" fyned i diriogaeth angau ac i gelloedd uffern buasid yn disgwyl iddo fod yn llai cellweirus o lawer. Y mae'n wir ei fod yn ceisio bod yn dduwiolaidd yno, ond ceisio y mae o, a methu bob rhyw bum munud. Y mae mor drwm ei wep a chrynedig ei leferydd â goruchwyliwr angladdau, a chwi ellwch ei weled yn awr ac eilwaith yn codi ei gadach at ei wyneb, eithr nid i sychu ymaith ddeigryn, ond i guddio gwên. Nid yw ei Lucifer (= Lleufer) nac yn urddasol fel Satan Milton, nac yn ddirmygol fel Mephistophel Goethe. Hen lencyn o Gymro nwyd- wyllt, ffwdanllyd, ydyw o, eithr crefyddol ddigon yn y bôn: Weslead hynaws newydd gael cwymp oddi wrth ras, ac un y mae'n ddrwg gennych yn eich calon fod Pabyddion, Mohamediaid, Cromweliaid, a Chwaceriaid, a giwed aflonydd eraill, yn peri cymaint o boen i'w enaid cyfiawn yn ei deyrnas ei hun. Ar air, y Bardd Cwsg ei hun yw Lucifer yn y cyfryw dymer y buasai'r bardd hwnnw ynddi pe buasai o wedi ei osod i gadw heddwch rhwng y pleidiau crefyddol yn uffern. Yn wir, Bardd Cwsg yn ei wahanol dymherau ac mewn gwahanol gyflyrau sy'n llefaru trwy enau pob person sydd yn y llyfr. Os yw hyn yn fai arno, y mae'n fai a berthyn i Milton hefyd, canys fe ŵyr pawb nad oedd dim o'r dramodydd ynddo yntau chwaith.
Y mae Elis Wynn yn dangos dau allu na sylwais i ddim arnynt hyd yn ddiweddar, ac nad oeddwn yn disgwyl eu cael mewn awdur mor chwareus, sef gallu barnwrol a gallu ymresymol o radd bur uchel. Chwi a gewch enghraifft o'r ddeubeth hyn yn ateb Lucifer i'w dywysogion yn agos i ddiwedd y llyfr.
Yn ei feistrolaeth ar eiriau grymus, y mae Elis Wynn yn gystadl â Theophilus Evans, ac yn rhagori arno mewn llyfnder a miniogrwydd ymadrodd. Yn y peth olaf, sef miniogrwydd, y mae'n rhagori ar bawb a fu o'i flaen ac ar ei ôl. Nid oes neb chwaith yn y ddau gyfnod olaf a chanddo glust mor gerddgar ag ef. Sylwch ar fydr a chynghanedd yr ymadroddion blaenaf yn ei lyfr, ac yn enwedig ar le a gwaith y gytsain g:
Ar ryw brynhawngwaith teg o haf hirfelyn tesog, cymerais hynt i ben un o fynyddoedd Cymru, a chyda mi ysbïenddrych i helpu'm golwg egwan i weled pell yn agos a phethau bychain yn fawr. Trwy yr awyr denau eglur, a'r tes ysblennydd tawel, canfyddwn ymhell bell tros Fôr y Werddon lawer golygiad hyfryd. O'r diwedd, wedi porthi fy llygaid ar bob rhyw hyfrydwch o'm hamgylch, onid oedd yr haul ar gyrraedd ei gaerau yn y gorllewin, gorweddais ar y gwellt glas, tan synfyfyrio deced a hawddgared (wrth fy ngwlad fy hun) oedd y gwledydd pell y gwelswn gip o olwg ar eu gwastadedd tirion; a gwyched oedd cael arnynt lawn olwg; a dedwydded y rhai a welsant gwrs y byd wrthyf i a'm bath.
Fe fuasai'r dernyn hwn yn llyfnach, yn fwy clymedig, ac yn fwy Cymreigaidd fyth, pe buasai'r awdur, yn ôl arfer y prif awduron eraill (oddieithr Charles Edwards), yn arfer rhagenw o flaen y ferf, yn enwedig yng nghorff brawddeg. Heblaw hynny, y mae'r ferf"canfyddwn" heb ragenw o'i blaen, yn amwys.
A chymryd popeth ynghyd,
MORGAN LLWYD
sy'n haeddu'r lle nesaf i Elis Wynn. Mewn dwyster meddwl a dwyster teimlad, y mae'r Llwyd yn rhagori ar y Gwyn; er y rhaid addef bod y dwyster hwn yn ei wneud ef yn llai dynaidd, ac yn gulach ei gydymdeimlad, nag Elis Wynn. Er ei fod o ran amser yn y cyfnod Eglwysyddol, eto Ymneilltuwr oedd efô o ran ei syniadau. Yn wir, yr oedd o mor Ymneilltuol fel yr oedd, megis John Milton, wedi ymneilltuo oddi wrth gorff yr Ymneilltuwyr, ac yr oedd yn rhy annibynnol i fod yn Annibynnwr. Eithr er mai Ymneilltuwr oedd o, eto nid oedd o mor Biwritanaidd ei syniadau â llawer o'r Eglwyswyr; canys yr oedd ei ysbryd cyfriniol yn ei ddwyn yn agos at y Catholigion, a'i ysbryd ymchwilgar, beirniadol, yn ei ddwyn yn agos at y Rhesymoliaid. O ran hynny, y mae Cyfriniaeth a Rhesymoliaeth, er bod eu brigau'n ymwahanu, yn tyfu oddi ar yr un bonyn. Yr un peth sy'n peri i rai ysbrydoli'r naturiol ag sy'n peri i eraill naturioli'r ysbrydol.
Er bod Morgan Llwyd mewn rhai pethau yn cyfranogi o ragfarnau'i oes, eto y mae o mewn pethau eraill ymhell o flaen ei oes. Nid oes un diwinydd Cymreig, nac odid ddiwinydd Seisnig chwaith, wedi rhagddangos cynifer o'r syniadau a gyhoeddir yn y dyddiau hyn mewn cyfrolau deg a chwech yr un gan Clark o Gaer Edni. Nid yw'r Prydeiniwr Heard yn ei Tripartite Nature of Man, na'r Ffrancwr Godet yn ei draethodau ar yr un pwnc, yn dywedyd odid ddim na ddywedwyd ddau can mlynedd yn ôl ar ddwy neu dair o ddalennau yn y Cyfarwyddyd i'r Cymro, ac yn y Tri Aderyn, o waith Morgan Llwyd. Fe fyddai'n ormod i mi ddyfynnu'r cwbl a ddywedodd yntau, eithr gwrandawer ar ychydig o frawddegau o'r ddau lyfr y cyfeiriwyd atynt:
Y mae gennyt etifeddiaeth o dair rhan, sef ysbryd ac enaid a chorff. Dy ysbryd di a ddaeth o'r Tad, fel rheswm o'r meddwl, fel gwreichionen o'r eirias, fel ffynnon o'r môr, neu fel anadl o'r genau yr hwn a chwythwyd i gorff dyn allan o fynwes Duw, ac sydd i ddychwelyd eilwaith i'w fynwes ef, yr hwn sy'n preswylio mewn plas a elwir Tragwyddoldeb. Dy enaid hefyd yw'r ysbryd naturiol a grewyd o'r elem— entau anweledig, yn ôl naturiaeth y telpyn pridd, yr hwn y mae efe yn lletya ynddo; er hynny, y mae'r enaid yma yn ffurfiwr i'r corff, ac yn ei agweddu yn ôl ei feddwl, i aros yn ei hafoty corfforol dros amser. Ac eto cwlwm yw yr enaid yma rhwng yr ysbryd a'r corff; a phan wisger ef allan drwy glefydau, neu ei dorri ffordd arall, y mae yr ysbryd yn ymollwng oddi wrth y corff i mewn, fel gŵr yn myned oddi cartref. mae enaid ymhob peth byw, a math ar ddeall gan bob anifail, ond nid oes ysbryd anfarwol mewn dim ond mewn dynion ac angylion. Yr enaid y mae dyn yn ei lun ei hun yn ei genhedlu, ond Duw yw tad (ac nid taid) yr ysbryd. Yr ysbryd yw neuadd yr enaid, a'r enaid yw porth yr ysbryd... Mae rhinweddau dyn naturiol yn ei enaid, a'i bechodau yn ei ysbryd. Mae rhinweddau dyn ysbrydol yn ei ysbryd, a'i bechodau yn unig yn ei enaid... Pam y mae ymrysonau ymysg ffyddloniaid? Am fod enaid y naill yn ymosod yn erbyn ysbryd y llall; canys yr un yw eu hysbryd hwynt oll yn Nuw, ond ni chytuna eu heneidiau daearol â'i gilydd.
Trowch i Ddogmateg Martensen, y pennaf o ddiwinyddion Lutheraidd yr oes hon, a darllenwch ei bennod ar Briodoliaethau Duw, a chwi welwch fod y frawddeg orau ynddi yn debyg iawn i gyfieithiad o'r frawddeg hon sydd yn y Tri Aderyn:
Nid yw Trugaredd a Chyfiawnder yn Nuw yn ymryson, ond yn digoni y naill y llall, ac yn ymborth yn ei gilydd erioed, fel llawenydd a thristwch yn yr un galon.
Yn lle gosod Trugaredd a Chyfiawnder i ymladd â'i gilydd fel math of "Punch and Judy" yn ôl arfer isel y diwinyddion Piwritanaidd a hen bregethwyr y Methodistiaid, y mae efô, yn gytunol â diwinyddion diweddarach a mwy athronyddol, yn edrych ar undod yr holl briodoliaethau yn yr YDWYF tragwyddol.
Pe buasai Vinet, yr hwn a elwir Pascal y Protestaniaid, yn byw o flaen Morgan Llwyd ac nid ar ei ôl, fe dyngasai rhywrai mai oddi ar y Ffrancwr hwnnw y lladratasai'r Cymro ei sylwadau gwych ar y Deml Ysbrydol. Er bod Pascal yn cydoesi ag ef, eto y mae'n anodd gennyf feddwl mai i'r awdur hwnnw y mae o'n ddyledus am rai o'r ymadroddion Pascalaidd sydd yn ei brif waith. Eithr fe ddichon mai o "Wladwriaeth " Platon yn ddigyfrwng neu yn gyfryngol y cafodd ei syniadau am ddelwau'r meddwl. Hyd yn oed pe buasai awen arafaidd Bunyan ac awen gynhyrfus Christmas Evans wedi ymgyfarfod ynddo fe fuasai'n anodd iddo sgrifennu dernyn mwy swynol na hwnnw lle y mae'r golomen yn adrodd ei hanes crefyddol; ac eto ni allai o fod yn ddyledus i Christmas Evans, nac yn wir i Bunyan chwaith. Y mae'n fuddiol darllen llyfr y Tri Aderyn am y rheswm hwn yn unig, sef bod ei awdur yn peri i'r darllenwr atgofio'r pethau a welodd rywbryd neu'i gilydd yng ngweithoedd prif awduron y gwahanol genhedloedd.
Pe bernid gwerth llyfr wrth nifer y brawddegau cynhwysfawr sydd ynddo, yna fe gyfrifid llyfr y Tri Aderyn ymhlith y goreuon o lyfrau'r byd; eithr nid crug o feini, pa mor werthfawr bynnag, ydyw llyfr, ond adeilwaith: a rhaid addef nad yw adeilwaith Morgan Llwyd yn deilwng o'r defnyddiau sy ganddo. Y mae'n frawddegwr gwych dros ben, ond paragraffwr gwael ydyw. Yn wir, nid yw llawer o'i baragraffau amgen na thwr o ddiarhebion, o ymadroddion diarhebol, ac o sylwadau byrion, heb ymresymiad na chysylltiad agos. Yn lle cyfres o frawddegau syml o'r un hyd, fe fuasai'n well gennych gael mwy o frawddegau cymalog, a mwy o arddodiaid rhyngddynt i fachu'r naill wrth y llall. Ac ystyried fyrred yw ei anadl, y mae ei arddull yn dda; ac y mae ei iaith hefyd, er ei bod yn gyffredin yn aflêr, yn aneglur, ac yn anystwyth, bob amser "mewn grym" ac weithiau "mewn prydferthwch" hefyd. O sgrifennwr mor gryf, nid oes neb yn gallu sgrifennu'n dlysach nag ef. Pa beth a all fod yn dlysach na'r dychymyg hwn:
Mae'r bwa yn y cwmwl â'i ddeupen i wared ac nid i fyny, i ddangos nad yw'r Tad yn ewyllysio saethu at ddynion mwyach, ond yn gollwng ei fwa i lawr yn ei law. Mae rhan o'r enfys yn wyrddlas, i ddangos ddarfod boddi'r byd mewn dwfr; a rhan ohoni'n gochfelen, i ddangos y llosgir y byd â thân eto.
A pha beth a all fod yn fwy hapus na'i waith yn cyffelybu Cristionogion yn ymrafaelio â'i gilydd i frodyr Joseff yn ymryson ar y ffordd tua thŷ eu tad?
Pe buasai dysg Morgan Llwyd gymaint â'i ddawn, a'i fedr gymaint â'i allu, ac yntau wedi cael oes hwy a thawelach, fo allasai wneuthur llyfr y buasai ei glod yn cerdded i lawer gwlad.
THEOPHILUS EVANS
sy'n haeddu ei enwi'n drydydd ymhlith awduron y cyfnod. Y mae'n wir ei fod ef mor hygoelus fel nad ydys mwyach yn ei gyfrif yn hanesydd da; ond yr ydys eto'n mawrygu ei allu llenyddol gymaint ag yn amser ein teidiau. Yn y gallu hwn y mae ef yn sefyll yn uwch o lawer na Morgan Llwyd, ac agos yn gyfuwch ag Elis Wynn. Er bod gradd o debygrwydd rhwng Elis Wynn a Morgan Llwyd, nid oes dim tebygrwydd rhwng un ohonynt a Theophilus Evans. Y mae hwn yn debycach i Morus Kyffin nag i un ysgrifennwr Cymraeg arall; canys y mae o fel hwnnw yn ysgrifennu'n hytrach yn llawn nag yn gryno, yn hytrach yn rhwydd nag yn fanwl. Mewn ymchwydd, sef yr hyn a eilw'r Saeson yn flow neu swing, y mae'r ardderchocaf Theophilus yn rhagori ar bawb oddieithr ar Morus Kyffin. Er bod y Gweledigaethau wedi eu cyhoeddi dair blynedd o flaen Drych y Prif Oesoedd,[3] a'r Tri Aderyn drigain mlynedd o flaen y Gweledigaethau, eto y mae Cymraeg y Drych yn fwy henaidd o lawer na Chymraeg y ddau lyfr hynny. Tra y mae Elis Wynn, a Morgan Llwyd, ac Edward James, ac eraill oedd yn byw o'i flaen, yn dodi'r ferf yn gyffredin yn nechrau ymadrodd syml, y mae Theophilus Evans yn llawn mor fynych yn dodi'r enw'n flaenaf. Y mae'n fwy ganddo fo glymu ymadroddion ynghyd, trwy ddwyn geiriau perthnasol yn agos at ei gilydd, na dangos arbwys. Rhaid addef bod llawer o'r swyn yn dyfod o'r hendid hwn, ond fe fyddai'n well peidio â'i ddilyn yn hyn o beth, oddieithr pan fyddo'r syniadau'n gofyn iaith aruchel neu areithyddol. O ran hynny, y mae'n debygol nad ceisio bod yn henaidd ei Gymraeg yr oedd o, ond bod ei waith yn dyfal ddarllen y Brutiau yn ei febyd wedi gwneud ei Gymraeg yn fwy henaidd na Chymraeg ei gydoeswyr yn ddiarwybod iddo fo'i hun. Heblaw hynny, hanesydd neu chwedlonydd oedd efô, ac nid rhaid i hwnnw wrth iaith mor fanwl â'r athrawiaethwr.
Yn ei feistrolaeth ar eiriau a phriodebion Gymraeg, nid yw Theophilus Evans yn ail i neb; er y ceir yn ei lyfr hefyd, fel yn y Beibl, lawer o ffurfiau sydd erbyn hyn yn ymddangos yn anghymreigaidd.
Eithr nid er mwyn ei Gymraeg yn unig y dylid astudio'r awdur hwn, ond hefyd oblegid ei fawr ddawn, sydd bob amser yn ffrydio mor ddiymdrech â dwfr allan o ffynnon. Y mae ganddo agos cymaint o allu i adrodd, neu yn hytrach i chwedleua, ag sy gan awduron y Mabinogion; ac yn ei allu i ddarlunio, y mae o'n rhagori ar bob awdur Cymraeg. Y mae'n ddiau gennyf y gwnâi well gohebydd rhyfel na neb a sgrifennodd i bapurau Llundain o amser brwydr Waterloo hyd amser brwydr Plevna. Y pethau gorau eraill sy'n britho'r Drych, heblaw'r chwedlau a'r darluniadau, yw'r mân gyffelybiaethau sydd ynddo. Os gwyddoch am ryw lyfr diweddar mewn unrhyw iaith ag ynddo gyffelybiaethau tebycach i gyffelybiaethau byrraf y bardd Homer na'r rhai canlynol, fe fyddai'n dda gennyf gael gwybod ei enw:
Megis aderyn gwyllt pan dorrer ei esgyll, a fydd yn dychlamu ac yn selgyngian o gylch tŷ gydag un dof; ond pan dyfant drachefn, efe a ddengys o ba anian y mae: felly y Brithwyr hwythau, ar ôl iddynt ymgryfhau, ond yn enwedigol ar ôl iddynt ymgyfeillachu a'r Saeson a'r Ffrancod, rhuthro a wnaethant ar eu hen feistriaid, y Brytaniaid, a'u llarpio mor ddidrugaredd ag y llarpia haid o eryrod ddiadell o ŵyn.
Fe weithiodd hynny, yn wir, ryw gymaint o fraw ynddynt, ac a wnaeth i'w calonnau ysboncio ychydig; megis y gwelwch ddyn yn cilio yn drachwyllt wrth ganfod neidr yn ddiswta yn gwanu ei cholyn ac yn llamsach mewn perth.
Chwennych yr oeddynt godi mewn arfau, lladd eu meistriaid, a bwyta braster y wlad, ond eu bod yn ofni bod y Rhufeiniaid yn rhy galed iddynt; megis y gwelwch chwi bedwar neu bump o gorgwn, er cymaint a fo'u chwant, a safant o hirbell, gan edrych o yma draw heb feiddio peri aflonyddwch idd eu goreuon.
Er gwahanu yr hen Frytaniaid oddi wrth ei gilydd, sef i Lydaw, a Chernyw, a Chymru, eto Ilawer gwaith y gwnaethant ymgais i hyrddu ymaith y gelynion, a bod yn ben drachefn; ond gormod o ymorchest oedd hynny, ac uwchben eu gallu; megis pan fo neidr wedi ei thorri yn dri darn, e fydd pob darn clwyfus dros encyd yn gwingo, ond heb allu byth ymgydio drachefn.
Yno y gwelid y saethau'n chwifio o'r naill lu at y llall, megis cafod o gesair yn ymdyrru pan fo gwynt gwrthwyneb yn eu gwthio draw ac yma.
Fe fyddai'n burion imi yma ddyfynnu'r ymadroddion sy'n dilyn y gyffelybiaeth olaf er mwyn rhoi enghraifft o ddawn yr awdur i ddarlunio:
Och! pa fath olwg dosturus a fyddai gweled rhai â'u hymysgaroedd allan, a'r meirch rhyfel yn ymddyrysu ym mherfedd a choluddion eraill; ambell ddart yn nhwll y llygad, a'r dyn eto yn fyw ac yn ymgynddeiriogi gan ei boen! ambell ddart yn y safn, y naill hanner y tu hyn, a'r hanner arall y tu draw i'r gwddf allan! ambell ddart yn y talcen dros yr adfach, a'r ymennydd yn glafoerio allan! ambell ddart yn disgyn ar y llurig neu'r astalch pres, ac yn seinio yn rhonc megis cloch! ac ambell ddart yn union at y galon ac yn diboeni mewn munud. Ac am ben hyn, yn lle meddygon i drin eu clwyfau, y meirch rhyfel yn ystrancio draw ac yma dros y clwyfus truain, yn briwo esgyrn rhai, yn llethu eraill; yn cernodio allan ymennydd rhai, a chalonnau ac ymysgaroedd eraill.
Os mynnwch gael enghraifft o allu'r awdur i gyfieithu, darllenwch ei gyfieithiad o "wiw bregeth St. Antwn" i'r "annwyl gariadus bysgod."
Er na ddylid cyfrif yr hen
CHARLES EDWARDS
gyda'r tri chedyrn a enwyd, eto, gan fod y cyffredin yn ei gyfrif yn hytrach yn awdur nag yn gyfieithwr, y mae o'n haeddu lle anrhydeddus ar ôl y tri hynny. Wrth ddarllen gweithoedd y tri chyntaf, eu hedmygu yr ydys oblegid eu doniau meddyliol; ond wrth ddarllen llyfr a rhagymadroddion Charles Edwards, ei garu yr ydys oblegid ei wylder, ei fwyneidd-dra, ac ireidd-dra ei ysbryd. Yn ddiau fe dywalltwyd gras ar ei wefusau, ac y mae enaint y Santaidd yn disgyn ar hyd ei farf. Ar ôl gwybod cymaint a wnaeth megis o'r tu ôl i'r llenni i ddyrchafu llenyddiaeth ei wlad, yr ydys yn ei garu'n fwy fyth. Rhwng popeth, efô yw'r awdur hawddgaraf sy gennym. Os cymwys oedd galw Daniel yn ŵr annwyl," Ioan yn "ddisgybl annwyl," a Luc yn "ffisigwr annwyl," llawn mor gymwys fyddai galw Charles Edwards yn awdur annwyl. Efô yw Fénelon Cymru; canys y mae pawb yn ei garu, er nad yw pawb yn ei gredu. Er hynny, dynion duwiolfrydig a all fwynhau Charles Edwards orau; canys y mae llawer o'r swyn sydd yn ei eiriau yn dyfod o'r eneiniad sydd arnynt. Ond fe all pob llenor, boed ef grefyddol neu anghrefyddol, brisio'i arddull dlos, a'i ffigurau gogleisiol. A dweud y gwir i gyd, y mae ei arddull yn well na'i iaith, fel y dengys y dyfyniad byr hwn:
Gwraig Job a lefarodd wrtho fel un o'r ynfydion; er hynny, ni phechodd ef â'i wefusau. Cawsai ddigon o rybudd oddi wrth Adda fel medrai Satan wneuthur bwa croes o'i asen ef i saethu ato ef ac i'w archolli; am hynny, gwiliodd ac ymgadwodd. Mor iachus ydoedd tymer ei ysbryd ef, nad allai yr haint oedd cyn nesed at ei fynwes ef mo'i amharu.
Yn y dernyn yma yr ydys yn gweled ar unwaith ym mha bethau yr oedd o'n rhagori, ac ym mha beth yr oedd o'n pallu. Ni all dim fod yn dlysach na'r syniad sydd yn y dernyn, na dim yn dlysach na'r ffurf y mae'r syniad yn ymddangos ynddo; ond fe allesid gwisgo'r peth mewn gwell iaith. Eithr un peth yn unig sy'n peri bod bai ar Gymraeg Charles Edwards, sef ei waith yn arfer rhagenwau lle nad oes mo'u heisiau; a'r hyn sydd waeth na hynny, yn peidio â'u harfer lle y mae eu heisiau. Yn y dernyn a ddyfynnwyd y mae o'n dywedyd, "wrtho ef," ato ef," ei asen ef," "ei ysbryd ef," "ei fynwes ef," pan fuasai'n ddigon iddo arfer ef ar ôl y gair asen yn unig; ond nid yw o'n arfer nac enw na rhagenw gyda'r berfau diberson cawsai ac ymgiliodd, fel na aller deall yn hawdd pa un ai dyn ynteu dynes, ai person ynteu peth, yw sylfon (subject) y ddwy ferf. Heblaw ei fod wrth beidio ag arfer rhagenw gyda chyfryw ferf yn tywyllu'r ystyr, y mae o hefyd yn gwneud aelodau brawddeg yn fwy ysgaredig ac afrywiog; canys y mae rhagenwau ar unwaith yn clymu ymadroddion, ac yn meddalu llythrennau celyd. Er enghraifft, y mae'r frawddeg, Pan ddaeth o'n agos, hi a gyfarchodd well iddo," yn eglurach, yn llyfnach, ac yn fwy cysylltiedig na'r frawddeg, "Pan ddaeth yn agos, cyfarchodd well iddo." Yr wyf yn pwyso cymaint ar hyn am fod y rhan fwyaf o sgrifenwyr yr oes hon wedi mynd i gredu os yw'n rhydd iddynt beidio ag arfer rhagenw gyda'r ffurfiau personol cyferchaist, cyfarchasoch, fod yn rhydd iddynt hefyd beidio ag arfer un gyda'r ffurf ddiberson cyfarchodd.[4] Y mae'n resyn fod gŵr mor ddysgedig â Charles Edwards, trwy ei siampl, wedi rhoi lle iddynt i gredu peth mor gyfeiliornus.
O ran ei gynnwys, y mae'r rhan flaenaf, sef y rhan hanesyddol o waith Charles Edwards yn lled ddiwerth, am nad yw hi ddim amgen na chasgliad o chwedlau allan o Fucheddau'r Saint Catholig, ac o Hanes y Merthyron Protestannaidd gan Foxe; ac am hynny, fe ddylai'r darllenydd edrych ar y chwedlau hynny'n unig fel enghreifftiau o hygoeledd yr hen bobl. Y mae gan bob cyfundeb ei chwedloniaeth, ac os astudir chwedloniaeth Gristionogol fel yr ydys yn astudio chwedloniaeth Groeg a Rhufain, fe all yr astudiaeth wneud mwy o les nag o afles. Yn ddiweddar y dechreuwyd dysgu dywedyd y gwir yn noeth, ac y mae lle i ofni na byddys wedi gorffen dysgu cyn y delo'r mil blynyddoedd. Yn y cyfnod dymunol hwnnw fe ymddengys dywedyd celwydd ym mhlaid un cyfundeb, ac yn erbyn cyfundeb arall, yn arferiad mor waradwyddus â chyniweirio Lime Street ar ôl hanner nos.
Ymhlith awduron y cyfnod, efallai mai'r pedwar a enwyd yn unig a ellir eu cyfrif yn glasuron. Yr oedd ynddo sgrifenwyr eraill o radd uchel, ond prin y sgrifennodd rhai ohonynt yn ddigon helaeth, nac eraill ar bynciau digon pwysig, i haeddu cael eu galw'n awduron clasurol. Odid nad oedd Edmwnd Prys yn Gymreigydd llawn medrusach na Charles Edwards; er hynny, ni sgrifennodd o ddim mewn rhyddiaith y byddai'n wiw annog y cyffredin i'w ddarllen. Er gwerthfawroced ei gynnwys, ac er gwyched ei arddull yw Epistol Dr. Richard Davies "At y Cembru," eto yr wyf yn hwyrfrydig i'w osod ymhlith gweithoedd clasurol y Cymry; yn un peth, am ei fod mor fyr; ac yn beth arall, am fod ei Gymraeg mor Salsbrïaidd. Er darfod i Edward Samuel ysgrifennu lliaws o anerchiadau, a hyd yn oed un llyfryn sy'n rhywbeth amgen na chyfieithiad, eto ymhlith y cyfieithwyr clasurol ac nid ymhlith yr awduron clasurol y dylid ei restru ef. Y mae'n resyn bod cynifer o sgrifenwyr dysgedicaf a medrusaf y cyfnod hwn wedi ymfoddloni ar gyfieithu'n unig; a hynny'n fwy o achos bod y mân bethau gwreiddiol a ysgrifenasant yn dangos y gallasent ysgrifennu llyfrau amgenach nag amryw o'r llyfrau Saesneg y bu'n wiw ganddynt eu troi i'r Gymraeg. Yn fy marn i, ni all un cyfieithiad, pa mor dda bynnag, fod yn gyfieithiad clasurol, os na bydd o'n gyfieithiad o waith clasurol; am hynny nid wyf yn cyfrif y Llwybr Hyffordd, o gyfieithiad Robert Llwyd o'r Waen, a'r Ymarfer o Dduwioldeb, o gyfieithiad Rowland Fychan o Gaer Gai, yn gyfieithiadau clasurol. Ie, y mae'n amheus gennyf a ddylid cyfrif Llyfr y Resolusion yn gyfieithiad clasurol. Er bod ei gyfieithydd, y Dr. John Davies o Fallwyd, yn un o'r Cymreigwyr gorau, eto nid oedd awdur y llyfr ddim yn un o'r awduron gorau, hyd yn oed yn ôl tystiolaeth ei gyd-grefyddwyr; canys yr oedd Robert Parsons yn rhy brysur yn ceisio adsefydlu'r ffydd Gatholig yn Lloegr i allu cael hamdden i wneuthur llyfr hirhoedlog. Os bu'r llyfr hwn farw yn Lloegr o eisiau hynodrwydd llenyddol, prin y byddai'n wiw ei atgyfodi yng Nghymru, hyd yn oed yn y corff ysbrydol a mwy Protestannaidd a roes Dr. Davies iddo.
Os ydys yn ymwrthod â Llyfr y Resolusion, pa beth ynteu sy'n aros i brofi bod Dr. Davies o Fallwyd yn un o'r cyfieithwyr gorau?—Ei waith yn cynorthwyo Dr. Richard Parry i ddiwygio cyfieithiad Dr. Morgan o'r Beibl. Eto i gyd, y mae Morgan yn haeddu mwy gogoniant na Davies a Parry, o gymaint ag y mae'r hwn a adeiladodd dŷ yn cael mwy o barch na'r rhai sy'n ei atgyweirio. Y mae'n wir y dywed Dr. Morgan mai diwygio a wnaeth yntau gyfieithiad Salsbri o'r Testament Newydd, ond nid oedd gan Morgan fel Cymreigiwr ddim i'w ddysgu gan Salsbri. Y mae cynefindra â Chymraeg William Morgan, fel y diwygiwyd gan John Davies a Richard Parry, yn peri i'r cyffredin feddwl na allasai neb arall newidio dim arno heb ei niweidio. Eto os bwriwn ymaith y rhagfarn sy'n dyfod o hirymarfer â rhywbeth, fe fyddai'n rhaid inni addef bod un o leiaf a allasai wellhau llawer ar Gymraeg y Beibl; canys y mae'r cyfieithiad o'r adnodau a geir yn Llyfr yr Homilïau yn fwy Cymreigaidd na chyfieithiad neb arall.
Y mae crybwyll am y llyfr hwn yn fy nwyn at ei gyfieithydd,
EDWARD JAMES,
un o'r ddau bennaf o'r holl gyfieithwyr Cymraeg, a'r cywiraf o'n holl ysgrifenwyr yn gyfieithwyr ac yn awduron. Nid gwiw sôn am arddull unrhyw gyfieithydd, am fod cyfieithydd wrth reswm yn ceisio sgrifennu yn arddull gŵr arall; ond pe buasai Edward James yn awdur, fe fuasai ganddo fo arddull o'r fath orau, fel y prawf ei ragymadrodd i'w gyfieithiad o'r Homiliau. Ym mha ran o lenoriaeth Gymraeg; ie, ym mha ran o lenoriaeth Saesneg y tu allan i gampwaith Hooker, y cewch chwi well enghraifft o'r hen arddull ddyrchafedig na'r ddwy neu dair brawddeg hir ond ystwyth hyn:
Yr Homiliau hyn hefyd, am eu bod mor fuddiol, a orchymynnodd yr ardderchog Frenhines Elizabeth eu hargraffu eilwaith; a hi a roddodd yr un gorchymyn am eu cadw hwy ag a roesai ei brawd duwiol yn y blaen. Ac megis na ellir dywedyd fod ar y ddaear erioed Dywysog a ddangosodd ym mhob peth arall fwy o zel at Dduw nac o ofal dros ei ddeiliaid na'r Brenin godidog ardderchog duwiol James ein grasusaf Frenin a'n Llywydd, felly yn y peth hyn ni ddangosodd efe ddim llai o'r fath zel a gofal nag a ddangosasai y Brenin Edward VI, a'r Frenhines Elizabeth, o'i flaen ef. Oherwydd yntau trwy gyfraith eglwysig (fel y gellir gweled yn 46 Canon a wnaeth y Gymanfa Esgobion ac Eglwyswyr a gynhaliwyd yn yr ail flwyddyn o'i deyrnasiad ef ar Brydain Fawr, Ffrainc, ac Iwerddon, yr hon a gadarnhaodd ei fawrhydi ef â'i awdurdod goruchel brenhinol) a roes orch ymyn caled ar fod i bob Person, Ficar, a Churat, ddarllen yr Homiliau hyn bob Sul a Gŵyl (o ddiffyg pregeth) ymhob Eglwys Blwyf a Chapel o fewn y deyrnas, fel y gallai y rhai ni chlywant lafar pregethwr ond yn anaml, wrth arfer o glywed y pregethau duwiol dysgedig hyn yn fynych, ddysgu mewn amser gredu yn Nuw yn union ac yn ffyddlon, galw arno yn ddifrif ac yn deilwng, gwneuthur y cwbl o'u dyled tuag at Dduw a'u cymydogion, ac ymddwyn felly yn y byd hwn yn ôl gwybodaeth fel y caffont fwynhau bywyd tragwyddol yn y byd a ddaw trwy ein Iachawdwr Iesu Grist.
Onid yw pob brawddeg, gyda'i haml aelodau, yn peri ichwi feddwl am ddinas wedi ei chydgysylltu ynddi ei hun; ac onid yw'r awdur yn peri ichwi feddwl am dywysog urddasol yn ymdaith yn amlder ei rym? Dyn diwylliedig a mawr ei amgyffred a fedrai lunio brawddegau o fath y rhai a ddyfynnwyd. Haws fyddai i ddyn cyffredin drefnu byddin fawr mewn brwydr na threfnu ymadroddion yn null meistrolaidd Edward James. Pe na buasai ofn Calfiniaid Dyffryn Clwyd gerbron fy llygaid, mi a ddywedaswn ddarfod ethol Edward James i fod yn rhywbeth amgenach na chyfieithydd. Er bod yr Homilïau yn haeddu eu cyfieithu, ac yn haeddu eu darllen yn y dyddiau hyn am fwy nag un rheswm, eto y mae'n anodd gennyf feddwl na allasai'r cyfieithydd, trwy rin y ddawn a'r ddysg oedd ganddo, wneuthur rhyw waith llenorol a fuasai'n rhagorach na'r Homilïau. Yn ei gyfieithiad o'r rhain nid yw'r arddull mor fawreddig ag yn ei Ragymadrodd iddynt; ond y mae hynny'n bod o achos nad oedd arddull Cranmer a Latimer a Jewel mor fawreddig â'i arddull naturiol ef. Ni buasai gan awduron yr Homilïau ddim achos i gwyno bod y cyfieithiad Cymraeg yn anghywir, ac nid oes gan ddarllenwyr Cymreig achos i gwyno ei fod yn anghymreigaidd; canys nid oes gennym un gwaith gwreiddiol sy'n fwy Cymreigaidd nag ef. Er ei fod yn un o gyfieithiadau hynaf y cyfnod, y mae ei Gymraeg yn fwy diweddar ei ddull na Chymraeg un llyfr safonol oddieithr y Gweledigaethau ac mewn cywirdeb a manylder y mae o'n rhagori ar Gymraeg pob llyfr y gwn i amdano. Fe ddywedir am rai, megis Pascal yn Ffrainc, a Lessing yn yr Almaen, eu bod wedi sefydlu'r iaith yr oeddynt yn ysgrifennu ynddi. Ni bu neb yn nes i sefydlu'r Gymraeg nag Edward James. Lle na all efô fod yn gryno heb fod yn aneglur, y mae'n fforffedu crynoder er mwyn eglurder. Yn gytunol â hyn, ni bydd o odid byth yn arfer berf yn y ffurf a gamelwir yn " 3ydd person unigol" heb enw neu ragenw yn sylfon iddi. Yn gyffredin y mae o'n arfer rhagenwau o flaen ffurfiau personol y ferf hefyd; ac weithiau (a hynny er mwyn gochel amwysedd yn unig, ac nid er mwyn dangos arbwys) y mae yn eu harfer ar ôl ffurfiau personol, yn enwedig ar ôl berf yn y 3ydd person lluosog. Pan fo sylfon berf ar ei hôl, a'r sylfon hwnnw'n enw, y mae o'n arfer fe o flaen y ferf i wasanaethu yn rhagarweinydd i'r enw. Er mwyn dangos yn fanylach yr amser presennol, y mae o'n mynych arfer y ffurfiau amhersonol ydys a byddys. Hyd yn oed mewn ymadrodd cysylltiol, anfynych y mae o'n arfer y ffurf ddyfodol i ddynodi'r amser presennol; canys yn lle dywedyd, "y'n cyfiawnheir," "y'i dygir (ef)," y mae o'n dywedyd, "fod yn ein cyfiawnhau," "fod yn ei ddwyn."
Gan fod y syniadau sydd yn yr Homilïau yn hytrach yn Ysgrythurol a syber nag yn newydd a disglair, a bod y brawddegau gan mwyaf yn dra chymalog, rhaid addef nad yw'r cyfieithiad hwn ddim yn un o'r pethau hyfrytaf i'w ddarllen. Er hynny, gan fod rhannau pob brawddeg wedi eu cymwys gydgysylltu, a'r geiriau ymhob rhan wedi eu hiawn drefnu, y mae'n fuddiolach i lenor ifanc a fynno ddisgyblu ei feddwl, ddarllen y cyfieithiad o'r Homilïau nag odid un llyfr arall a gyhoeddwyd yn iaith y Cymry.
Dywedais mai Edward James oedd un o'r ddau bennaf o'n cyfieithwyr. Pe dywedaswn mai efô oedd y pennaf o'r cwbl, y mae arnaf ofn y gwnaethwn gam â'r hen
FORUS KYFFIN,
cyfieithydd dawnus Deffynniad y Ffydd, o waith yr Esgob Jewel; canys er bod Edward James yn rhagori arno mewn coethder, cywirdeb, a manylder, y mae yntau'n rhagori ar Edward James mewn rhwyddineb, ystwythder a hoywder. Y mae Cymraeg Edward James yn gyffelyb i sgrifen gron, a Chymraeg Morus Kyffin yn gyffelyb i sgrifen redeg: ac er bod hon yn arwydd o law fwy hyfedr na'r llall, y mae'n ddiogelach i ddisgyblion ifainc gymryd ysgrifen gron yn gynllun. Astudied y cyfryw rai Gymraeg Edward James yn gyntaf er mwyn dysgu sgrifennu'n bur; ac wedyn astudiant Gymraeg Morus Kyffin er mwyn dysgu sgrifennu'n wych. Er cystal yw Cymraeg Edward James yn ei gyfieithiad, eto y mae Cymraeg ei Ragymadrodd ef ei hun yn fwy urddasol. Yn y gwrthwyneb, y mae Cymraeg Morus Kyffin yn ymddangos yn llawn cystal yn ei gyfieithiad ag yn ei Ragymadrodd. O ran arddull y mae Rhagymadrodd James yn rhagori ar Ragymadrodd Kyffin, a chyfieithiad Kyffin yn rhagori ar gyfieithiad James. Ond y mae'r rhagoriaeth hwn yn ei gyfieithiad yn dyfod yn bennaf o hyn: sef bod arddull yr Esgob Jewel ei hun yn well yn y Deffynniad nag yn yr Homiliau. Heblaw hynny, gan mai o'r Lladin ac nid o'r Saesneg y cyfieithodd Kyffin Ddeffynniad y Ffydd, yr oedd math o orfod arno i gyfieithu'n rhyddach.
Yn ei fedr i gyfieithu brawddegau hirion, cyfansawdd, y mae Morus Kyffin yn gyfartal ag Edward James. Y mae gan Jewel yn nechrau'i lyfr un frawddeg sy'n ymestyn dros fwy na thudalen a hanner o faint cyffredin. Er hynny, y mae Kyffin yn ymfwrw iddi yn y pen yma mor ddihafarch, ac yn dyfod allan ohoni yn y pen draw mor llwyddiannus â dyfrgi yn croesi afon. Pe buasai cyfieithydd cyffredin yn ymosod ar y fath orchwyl, fe fuasai'n wiw iddo cyn dechrau ddiogelu ei fywyd a chanu'n iach i'w berthnasau.
Rhag eich blino â meithder, ychydig iawn a ddywedaf am y cyfieithwyr eraill.
EDWARD SAMUEL
yn ddiau sy'n haeddu cael ei osod yn nesaf i'r ddau a enwyd, gan ei fod yn Gymreigydd dillyn odiaeth. Ni chyfieithodd un Cymro arall gynifer o lyfrau gwerthfawr. Yn ei amser ef yr oeddid yn eu cyfrif hwynt oll yn weithoedd safonol, ac yr ydys eto'n cyfrif mwy nag un ohonynt felly. Y gorau o'r cwbl yn ddiau yw gwaith Hugo Grotius ar Wirionedd y Grefydd Gristionogol, sy'n haeddu bod yn llyfr dosbarth yn ein colegau diwinyddol. Dyma'r pethau eraill a gyfieithodd o: Holl Ddyledswydd Dyn; Athrawiaeth yr Eglwys, sef detholiad o'r Homilïau wedi eu newyddu gan Dr. Nourse; a rhai o weithoedd Dr. Beveridge. Er nad oes dim llawer o wreiddioldeb yn ei lyfr ar Fucheddau yr Apostolion a'r Efengylwyr, y mae hwn yn rhywbeth amgenach na chyfieithiad. Er nad yw iaith Edward Samuel yn hwn ddim mor Gymreigaidd ag mewn amryw o'i gyfieithiadau, eto gan ei fod yn cynnwys cryno— deb cyfleus o hanes prif ddynion y Testament Newydd, y mae'r llyfr yn haeddu ei argraffu unwaith eto.
Ac ystyried popeth, rhaid gosod y gwlatgar a'r gweithgar
STEPHEN HUGHES
yn is nag Edward Samuel; eithr gan ei fod yn ysgrifennu'n rhyddach ac yn fwy naturiol, y mae mwy o swyn ynddo nag sydd yn Samuel. Y mae ei gyfieithiad o Daith y Pererin mor rhydd fel y byddai'n gymhwysach ei alw'n amgeneiriad. Gŵr gwylaidd iawn oedd Stephen Hughes; er hynny, y mae o'n honni bod y cyfaddasiad Cymraeg hwn yn llai blinderus ac yn fwy dealladwy na'r gwaith gwreiddiol, am ddarfod gadael allan ohono bethau a adroddid fwy nag unwaith, a dwyn i mewn iddo bethau eraill oedd yn angenrheidiol i egluro'r ystyr. Pa un bynnag ai gwell ai gwaeth yw Taith Pererin Stephen Hughes na Thaith Pererin Bunyan, y mae'n ddiamau gennyf i ei fod yn fwy darllenadwy nag un cyfieithiad Cymraeg a wnaed yn ddiweddarach. Er bod Cymraeg y llyfr yn bur o ran ei ymadroddion, lled werinaidd ydyw o ran y geiriau. Ac nid gwedd y geiriau yn unig sydd yn werinaidd —y mae'r geiriau eu hunain felly yn gyffredin. Ond yr ydys yn teimlo bod hyn yn hytrach yn addas nag yn anaddas mewn cyfieithiad o lyfr syml a fwriadwyd i bawb o bob oed ac o bob dosbarth. Y mae'n hawdd gweled wrth bob peth a sgrifennodd Stephen Hughes ei fod yn credu y dylai iaith llyfr fod yn debycach i iaith lafar. Er hynny, nid oes un o'n hysgrifenwyr a chanddo Gymraeg llai taleithiol nag ef. Er mwyn gwneud Cymraeg ei gyfieithiad yn Gymraeg Tywysogaethol fo ddewisodd dri chynorthwywr o wahanol barthau o Gymru. Pan fo gair Deheuol da yn ddieithr i Gymry'r Gogledd, y mae o ar ymyl y ddalen yn ei egluro â gair Gogleddol; a phan fo gair Gogleddol da yn ddieithr i Gymry'r De, y mae o'n egluro hwnnw â gair Deheuol. Er mai Deheuwr oedd ef ei hun, eto rhag ffafrio'r Deheubarth yn fwy na'r Gogleddbarth, y mae o'n gyffredin, fel Edmwnd Prys, yn arfer y rhagenw fo yn sylfon berf, ac ef yn wrthrych iddi; megis, "Fo a'i gwelodd ef." A llefaru'n fanylach, fo ydyw'r rhagenw sydd ganddo yn y cyflwr enwadol (nominative), ac ef ymhob cyflwr arall. Yr wyf i'n meddwl mai da y gwnâi llenorion yn ei ddilyn yn hyn o beth, canys paham y dylem beri i'r un a'r unrhyw ragenw wneud dau waith, a chennym ninnau ragenw arall yn sefyll yn segur? Y mae gan y Saeson eu he a'u him, yr hyn sydd yn fantais fawr. Pa beth sy'n rhwystro i ninnau arfer fo ac o am he, ac efô am he arbwysig, ac arfer ef am him, ac efe am him arbwysig neu gyferbyniadol? Y mae'n wir fod cyfieithwyr y Beibl yn arfer y ffurf efe i ddynodi sylfon berf, ond y mae honno'n rhy hir i fod yn rhagenw syml; heblaw fod arfer rhagenw dyblyg yn lle rhagenw syml yn ei gwneud hi'n anodd i ddarllenydd wybod pa bryd y bydd y rhagenw yn arbwysig, a pha bryd na bydd o ddim.
Y mae Pattrwn y Gwir Gristion, sef cyfieithiad
HUW OWEN O FON
o'r Imitatio Christi, yn fwy gwerinaidd fyth—yn rhy werinaidd ond odid. Er hynny, y mae'r cyf— ieithydd wedi llwyddo'n rhyfedd i gadw'r swyn sydd yn y llyfr byd—enwog hwnnw. Pa symledd, pa heneidd—dra, pa ysbrydolrwydd bynnag, a berthyn i'r gwaith gwreiddiol, fe ellid meddwl na chollwyd nemor ohonynt yn y cyfieithiad Cymraeg. Yn wir, y mae hwn, er cynifer o fân wallau sydd arno, mor annhebyg i gyfieithiad fel yr ydys yn anghofio mai cyfieithiad ydyw. Yn unig trwy ei gymharu â chyfieithiad Dr. Challoner, a chyfieithiadau Saesneg eraill, y canfyddir gymaint y mae'n rhagori mewn naturioldeb. Gan fod hwn yn gyfieithiad mor ddarllenadwy o lyfr y bu mwy o ddarllen arno nag ar un llyfr crefyddol arall, y mae'n rhyfedd na bai argraffwyr Cymru'n ymryson pwy ohonynt a fyddai'n gyntaf i ddwyn allan argraffiad hardd ohono tebyg i'r argraffiadau Saesneg.
Beth am
JOHN LANGFORD,
cyfieithydd cyntaf Holl Ddyledswydd Dyn—a ydyw yntau ymhlith y clasuron? Bron na thebygwn ei fod; a hynny am reswm amgenach na'i fod yn byw yn Rhuthyn ddeucant a chwarter o flynyddoedd yn ôl. Yn flaenaf oll, fo gyfieithodd un o'r ddau lyfr defosiynol mwyaf eu bri a gyhoeddwyd erioed yn Lloegr; a'r hyn sy fwy, fo a'i cyfieithodd yn bur foddhaol hefyd. Er cynifer o feiau sydd ar ei gyfieithiad, eto y mae o'n llawn mor ddymunol i'w ddarllen ag yw cyfieithiad Elis Wynn o Holy Living Jeremy Taylor; er ei bod yn iawn dweud bod Elis Wynn yn iau ac yn anfedrusach pan gyfieithodd o'r gwaith hwnnw na phan wnaeth o'r Gweledigaethau'. Y mae'r geiriau yng Nghymraeg John Langford yn llai gwerinaidd o beth na geiriau Huw Owen, Stephen Hughes, a Morus Kyffin; eithr y mae yntau'n gyffredin yn bwrw allan y llythyren t o'r terfyniadau berfol —ant, —ent, —ont; ac yn troi'r terfyniadau —ym, —em, —om, yn —yn, —en, —on o flaen y rhagenw ni.[5] Y mae o, fel y Dr. Morgan ac eraill, yn troi'r terfyniad berfol ai yn e, ac yn arfer fo yn lle ef ac efe, a nhw yn lle hwy, a hwynt; eithr y ffurf lenyddol ef y mae o yn ei harfer ar ôl gair a derfyno mewn cytsain.
Am ysgrifenwyr Cymraeg un cyfnod y bûm i'n traethu heno; ac yr wyf wedi dangos bod gennym yn y cyfnod byr hwnnw ddeg o leiaf o sgrifenwyr clasurol, ac ychwaneg na hynny o lyfrau clasurol. Mynych y bydd rhywrai sy'n medru Saesneg yn cwyno nad oes yn y Gymraeg ddim llyfrau teilwng i'w darllen. Ni fynnwn innau ddywedyd bod llyfrau gorau'r Cymry agos cystal â llyfrau gorau'r Saeson, ond yr wyf yn dywedyd yn ddibetrus eu bod yn well o lawer na'r rhan fwyaf o'r llyfrau Saesneg y mae'r cyffredin yn dewis eu darllen. Os tybia rhai Cymry eu bod, o wybod enwau'r prif awduron Saesneg, wedi myned yn ormod o wŷr i edrych ar lyfrau Morgan Llwyd ac Elis Wynn, paham ynteu na ddarllenant y cyfieithiadau gwych sy gennym o sgrifeniadau Cranmer, Latimer, Jewel, Jeremy Taylor, Beveridge, a John Bunyan? Ac os dywedant ymhellach fod yr awduron hyn yn fwy eu bri yn Lloegr nag yn y byd, paham na ddarllenant y cyfieithiadau sy gennym o weithoedd Grotius a Thomas a Kempis? Canys nid oes yn y Saesneg gyfieithiadau gwell na'r rhain, os oes eu cystal. Ni ellir gwadu nad Cymru fechan yw hen wlad ein tadau, yn llenyddol yn gystal ag yn ddaearyddol; ond tra bo cerrig ym mynyddoedd Arfon, a glo yn naear Morgannwg; tra bo gennym y Gododdin, y Mabinogion, a chaniadau Dafydd ap Gwilym, ynghyd â thrysorau eraill nid ychydig o'i amser ef hyd amser Lewis Edwards, na ddyweded neb am Gymru ei bod, o ran ei thir na'i llenyddiaeth, yn Gymru fechan dlawd.
ALLAN O'R Geninen, IONAWR 1894.CYMRAEG Y PREGETHWR
(ANERCHIAD A DRADDODWYD I'R EFRYDWYR YN ATHROFA DDIWINYDDOL Y BALA, CHWEFROR 25, 1893)
FY MRODYR IFAINC,
Yr oedd Dr. Edwards, eich prifathro, yn gryf, a minnau'n wan pan gafodd o gennyf addo dyfod yma i'ch annerch. Mi allaf ddywedyd Na wnaf cystal â neb trwy lythyr, a hyd yn oed yn wyneb dyn, os rhoddir imi hamdden i ystyried; ond pan ddelo ambell un ar fy ngwarthaf yn ddisymwth, byddaf yn dueddol i addo peth y bydd yn edifar gennyf wedi hynny fod wedi ei addo. Dyma fy esgus am ymgymryd â gorchwyl a fuasai'n gweddu'n well i rywun hŷn ac enwocach.
Nid wyf yn bwriadu'ch dysgu pa fodd i bregethu; canys yr wyf yn gobeithio ac yn credu hefyd fod llawer ohonoch eisoes yn bregethwyr mwy cymeradwy na myfi. Eithr y mae arnaf ofn eich bod, gan mwyaf, yn pallu mwy mewn un peth na minnau, sef mewn gwybodaeth drwyadl o'r iaith yr ydych yn gyffredin yn pregethu ynddi. Os mynnwch wybod yr hyn oll a ddywedir amdanoch yng ngwlad fy ymdaith i, sef y Mesopotamia sy rhwng Clwyd a Chonwy, dyma fo: na bu erioed do o bregethwyr gwell nag sydd yn y Bala ar hyn o bryd; fod eu pregethu yn ganmoladwy iawn o ran defnyddiau, traddodiad ac ysbryd, eithr fod geiriau ac ymadroddion rhai ohonoch yn swnio'n estronol i Gymry uniaith; a chan fod llawer o'r Cymry yn bobl gerddgar, y mae'r rheini'n cwyno bod brawddegau rhai ohonoch yn fwy afrywiog ac afrosgo nag y dylent fod. A rhoi bod y dystiolaeth hon yn wir, y mae'n ddiamau fod mwy o fai ar eraill nag sydd arnoch chwi; canys y mae'n debygol mai i ddysgu iaith estronol, ac nid i ddysgu'n llwyrach iaith eich gwlad, y'ch anfonwyd i'r ysgol pan oeddech yn blant; ac mai trwy iaith oedd yn ddieithr ichwi yr oedd yn rhaid ichwi geisio dysgu'r iaith honno ei hun, a phob peth arall. Os adwaenwch un dyn call a dysgedig a faidd gyfiawnhau'r ffolineb anferth hwn, mi a rof bob dimai sy gennyf ar fy helw tuag at y Coleg. Y mae'r Saeson eu hunain yn beio ar y peth pan wneir ef yn Ffinland a Poland, ac yr wyf innau am yr un rhesymau yn beio arno yng Nghymru. Y mae Alexandre Vinet, Wolfgang Menzel, ac awdur arall yr ydych chwi yn astudio un o'i lyfrau, sef Martensen, yn dywedyd yn bendant, ac ymron yn yr un geiriau, mai Cristionogaeth a hen iaith ein tadau a ddylai fod yn brif bynciau addysg yn ysgolion y plant; am mai Cristionogaeth a phriod iaith ydyw sylfaen diwylliad, a'r agoriad i bob gwybodaeth arall. Fe'n haddysgwyd ni'n weddol dda mewn Cristionogaeth yn yr Ysgol Sul ac ar yr aelwyd, ac yno fe'n dysgwyd i ddarllen hefyd, ond ni chawsom ddim cyfleustra i astudio'r Gymraeg yn yr Ysgol Sul nac mewn un ysgol arall, ac y mae'n sicr y byddwn byth ar ein colled o achos hynny. Fe gefais i ddwy fantais na chafodd y rhan fwyaf ohonoch chwi mo'u cyffelyb. Fe'm magwyd i mewn tre lle 'r oedd y Parchedig William Roberts yn pregethu bob mis mewn Cymraeg na chlywid mo'i gystal o enau un pregethwr arall, ac fe'm magwyd i mewn amser pan nad oedd gorfod ar neb i fynd i Ysgol y Bwrdd, os oedd Ysgol Fwrdd yn bod. Yr ydys erbyn hyn yn addef bod y sistem addysg a luniwyd gan farsiandwyr uniaith o fath Forster yn anfuddiol hyd yn oed i'r Saeson eu hunain; ond i'r Cymry y mae hi'n waeth nag anfuddiol, ac am hynny y mae plant y blynyddoedd hyn, er eu bod yn fwy gwybodus, eto'n llai deallus o lawer na'r plant a fyddai'n cydchwarae â mi. Pe troid yr ysgolion elfennol a wnaed i Seisnigo plant y Cymry yn ysgolion i'w diwyllio, sef yw hynny, pe dysgid hwy'n gyntaf dim i ymberffeithio mewn iaith anodd a chywrain fel y Gymraeg, a phe dysgid Saesneg iddynt trwy'r Gymraeg, fe allai ysgolion Cymru fod o ran dull ac effeithioldeb eu haddysg yn fath o athrofeydd bychain na byddai mo'u rhagorach mewn un wlad.
Ni buaswn i ddim yn beiddio llefaru mor bendant pe na buaswn wedi ymofyn â gwŷr mwy na mi fy hun; canys mi a glywais rai o ddysgawdwyr Heidelberg, Bonn, Giessen a Geneva yn dywedyd ei bod yn rhyfedd ganddynt fod y Cymry'n gallu ymddygymod â'r sistem addysg a ddarparwyd i'r Saeson. Nid yw ryfedd gennyf i hynny o gwbl, canys y mae gwerin Cymru wedi mynd yn rhy groendew ac yn rhy bendew i deimlo camwri nad ydyw ddim yn peri niwed uniongyrchol i'w corff a'u hamgylchiadau; ac am hynny y mae'n haws eu cyffroi i ddadsefydlu Eglwys Loegr nag i ddadsefydlu neu i ddiwygio ysgolion Lloegr. Gan eich bod chwi'n bregethwyr, yr wyf yn hyderu y gwnewch eich gorau i argyhoeddi'r bobl mai drygau ysbrydol—drygau sy'n peri niwed i'w hysbryd a'u meddwl—ydyw'r drygau mwyaf, ac nad yw'n weddus brysio i fwrw ymaith ddrygau llai tra byddo rhai mwy yn aros. Os mai'r gŵr sy'n cynrychioli'r sir hon yn y Senedd a gymhellodd ar Mr. Acland i addo'r hyn a addawodd y dydd o'r blaen, yna fo wnaeth gymwynas fwy i Gymru nag a all o nac un seneddwr arall ei gwneud eto. Os gwleidyddiaeth ydyw hyn, chwi a syniwch ei bod yn wleidyddiaeth o'r fwyaf crefyddol os ystyriwch y fath ddylanwad sydd i'r drefn bresennol ar ddealltwriaeth a chrefydd ein cydwladwyr. Chwi a gewch mewn llawer man blant na fedrant y Gymraeg yn ddigon da i allu deall pennod neu bregeth Gymraeg yn hawdd, ac na allant byth ddysgu Saesneg chwaith fel y gallasent ddysgu Cymraeg; canys y mae Cymraeg eu cyndadau wedi gwneud ei hôl ar eu hymennydd ac ar eu peiriannau llafar; ac os coeliwn anianegwyr, fe erys olion yr heniaith ar eu plant a phlant eu plant, fel mai ofer yw disgwyl i iaith estronol fynd yn iaith naturiol hyd y drydedd neu'r bedwaredd genhedlaeth. Chwi a gewch ym mhob Ysgol Sul Gymraeg athrawon anfedrus yn ymdroi am fisoedd, ie, am flynyddoedd i ddysgu llythrennau a sillafau i blant, a chan y bydd y plant hynny yn mynd yn laslanciau a llancesi cyn gorffen dysgu darllen, y mae darllen yn mynd yn gasbeth ganddynt. Nid i Ysgolion Sul y perthyn addysgu mewn darllen, hyd yn oed pe bai ynddynt athrawon a allai addysgu'n fedrus ac mewn byr amser. Addysgu yng nghynnwys y Beibl yn unig ydyw gwaith yr ysgolion hyn, ac fe ellid mynd at gynnwys hwnnw'n llawer cynt pe dysgid y plant i ddarllen yn yr ysgolion beunyddiol, ac yn y rheini fe ellid eu dysgu i ddarllen Cymraeg mewn ychydig ddyddiau. Wrth gymryd y baich hwn ar eu hysgwyddau eu hunain y mae crefyddwyr Cymru yn gwneud peth ffôl a diddiolch dros ben.
Er gwaeled ydyw'r Ysgolion Sul, y mae'n debygol mai yno y cawsoch chwithau yn eich mebyd y rhan fwyaf o'ch addysg Gymreig, a chan fod y fantais a gawsom i ddysgu'n hiaith ein hunain yn llai na'r fantais a gafodd pregethwyr un genedl arall i ddysgu eu hiaith hwy, y mae'n rhyfedd iawn fod ein Cymraeg cystal ag ydyw; ac y mae'n rhyfeddach fyth fod corff ein gwrandawyr yn ein deall cystal, am fod rhifedi'r miloedd o eiriau sydd yn y Beibl yn fwy na rhifedi'r cannoedd o eiriau sydd ar arfer ganddynt hwy.
Er mwyn eich annog i ymberffeithio yn yr iaith odidog a adawyd inni yn etifeddiaeth, mi a wnaf ychydig sylwadau ar GYMRAEG Y PREGETHWR, gan olygu ei iaith a'i arddull. I chwi, y rhai a ddysgwyd i brisio pob gwybodaeth er ei mwyn ei hun, fe ymddengys gwybod hen iaith eich gwlad yn un o'r pethau mwyaf anhepgorol. Er y gellwch ddysgu llefaru ac ysgrifennu Saesneg neu ryw iaith arall yn gywir ddigon, eto, yn eich iaith eich hun yn unig y gellwch obeithio llefaru ac ysgrifennu'n gain, oblegid hon sydd yn ddelw eich ysbryd ac yn wir lun eich meddwl. Yn hon y gellwch chwi draethu'ch meddyliau yn naturiol, ie, yn hon y gellwch chwi feddwl y meddyliau hynny ynoch eich hun. Y mae hi'n offeryn y meddwl yn unig am ei bod yn sylfaen iddo. Y mae'r gair sy'n gynnyrch y meddwl yn gweithredu'n ôl ar y meddwl ei hun, a thrwy hwnnw'n gweithredu ar holl fywyd dyn. Fel y bydd yr iaith, felly y bydd y dyn, ac felly y bydd y genedl. Y mae iaith dda'n hyrwyddo gwareiddiad, ac iaith wael, neu iaith nad ydys yn ei medru'n dda, yn rhwystro gwareiddiad. Y mae adfywiad llenoriaeth bob amser yn cydfyned ag adfywiad iaith. Pan gyhoeddodd Dante y Divina Comedia fo roes i'w gydwladwyr iaith a llenoriaeth ar yr un pryd. Pan ymroes Lessing i buro ac i berffeithio iaith yr Ellmyn y paratowyd y ffordd i Goethe a Schiller. Pan ddechreuodd Wolff yn nechrau'r ganrif o'r blaen draethu ei ddarlithiau athrofaol yn iaith ei wlad, yn lle mewn iaith estronol fel y gwneid o'r blaen, y dechreuodd athroniaeth redeg a chael gogonedd yn yr Almaen. Os ydyw llenoriaeth y wlad honno'n fwy cydolig yn fwy cosmopolitan—na llenoriaeth un wlad arall, y mae hi felly am ei bod yn fwy cenhedlig. Pan geisio pobl fynd yn gydolig trwy beidio â bod yn genhedlig ni byddant yn ddim i neb, ond pan geisiant fod yn gydolig trwy fod yn genhedlig, byddant yn bob peth i bawb. Paham y dylanwadodd Luther fwy ar ei wlad ac ar y byd na'i gyfaill dysgedicach, Melanchthon? Yn un peth, am ei fod yn Allman o'r Ellmyn, ac oblegid hynny, fel gwladgarwr a llenor Ellmyneg y mawrygir o bellach yn yr Almaen. Yr wyf yn gwneud y sylwadau cyffredinol hyn am fod tuedd ynddynt i beri ichwi ddal yn well ar y pethau mwy neilltuol a ddywedaf ar ôl hyn.
Er bod y Gymraeg, fel agos pob iaith dda, yn iaith anodd iawn, eto fe all pob dyn trwy ei hastudio ac ymarfer â hi, ei hysgrifennu'n gywir, os nad yn gain hefyd. Trwy yr un moddion gellwch wellhau'ch arddull hefyd, os bydd gennych arddull. Wrth arddull yr wyf yn meddwl yr argraff neilltuol honno y mae awdur yn ei gosod ar yr iaith gyffredin. Efallai fod arddull yn dibynnu llawn mwy ar gymeriad moesol dyn nag ar deithi ei feddwl, ac nid ychydig ar ei dymer a'i iechyd. I sgrifennu mor feddylgar â Carlyle fe fyddai'n rhaid ichwi wrth ymennydd Carlyle; ond i sgrifennu mor hynod ag ef, fe fyddai raid ichwi wrth yr iau a'r gïau a'r cylla oedd ganddo. I ffurfio arddull neilltuol y mae'n rhaid ichwi ffurfio cymeriad neilltuol, ac y mae hynny'n waith poenus a maith. Fe anwyd rhai yn wahanol i'r cyffredin, ac am hynny y mae'n weddol hawdd iddynt hwy sgrifennu a llefaru'n wahanol i'r cyffredin. Gwybydder hagen nad oes gan bob ysgrifennwr hynod ddim arddull; canys y mae llawer un yn ysgrifennu'n hynod am ei fod yn amharchu anian ac yn troseddu deddfau cyffredin yr iaith y byddo'n ysgrifennu ynddi. Cofier bod i iaith hefyd ei harddull, ac y dylai arddull y dyn ymaddasu i arddull yr iaith. Er cynifer o ffurfiau newyddion ar eiriau ac ar ymadroddion a ddygodd Carlyle i'r Saesneg, yr oedd o'n ufuddhau i hen ddeddfau'r iaith honno mor fanwl â neb. Pascal a Paul-Louis Courier, yn ôl G. P. Marsh, ydyw'r ddau awdur perffeithiaf eu harddull a ymddangosodd yn yr oesoedd diwethaf hyn; ond wrth gymell y Ffrangeg i ymostwng i'w harddull hwy, yr oeddynt hwythau yn ymostwng i'w deddfau hithau; ac os oeddynt hwythau'n gallu sgrifennu'n hynodol mewn iaith mor gaeth ei gramadeg â'r Ffrangeg, pa faint haws y gall eraill ysgrifennu felly, a bod yn ramadegol hefyd, mewn ieithoedd mor ystwyth â'r Gymraeg a'r Ellmyneg? Mewn gwirionedd, nid arddull mo'r dull o draethu a fyddo'n anghydweddu â phriodwedd yr iaith, ond iaith wneuthur yn dyfod o fympwy ac nid o ddawn. Nid gwisg yn hongian yn llac am y meddwl ydyw iaith briodol, ond corff wedi ei gydgenhedlu ag ef—corff ysbrydol, tryloyw, sy'n gwasanaethu'n unig i roi ffurf ar y dyn oddi mewn, ac nid i'w guddio na'i addurno chwaith. Pan sonier am arddull, meddylier am yr hyn sy luniaidd ac nid am yr hyn sy liwiog; canys y mae cymesuredd y bregeth a chyflead y meddyliau ynddi yn nodau amlycach ar arddull na thlysni'r defnyddiau a chyflead y geiriau. Y mae pob cyfanwaith yn gywreinwaith; ac ni bydd un cyfansoddiad, pa un bynnag ai pregeth ai traethawd ai cân, ddim yn werthfawr a hirhoedlog os na bydd o'n gywreinwaith. Ymhlith llenorion fel ymhlith crefftwyr, y pensaer celfydd, ac nid y cloddiwr cerrig, a gyfrifir yn bennaf. Saernïaeth dda ydyw enaid arddull, a chyda'r enaid hwnnw y mae arddull yn anfarwol. Y mae crug o feini marmor yn ymchwalu, ac yn ebrwydd yn ymgolli; ond y mae adeilad o feini pridd yn sefyll dros lawer oes. Yr un ffunud, y mae meddyliau annelwig a fyddo'n gorwedd yn llanastr ar bapur, pa mor dda bynnag eu defnydd, yn mynd yn fuan yn eiddo cyffredin, neu ynteu ar goll; ond y mae arddull yn aros byth yn eiddo priodol i'r neb oedd piau fo yn y dechrau.
Gan mai trefn a chymesuredd ydyw prif nodau arddull gwych, y mae hwn yn gorffwys gymaint ar resymeg ag ar ramadeg; ac am hynny, un o'r ffyrdd cyffredinol gorau i fagu arddull ydyw darllen llawer ar lyfrau awduron sydd, fel yr apostol, "yn ymresymu yn hir "—yr awduron sy'n hytrach yn cyfuno nag yn daduno. Fe geir mwy o'r cyfryw rai ymhlith y Ffrancwyr nag ymhlith cenhedloedd eraill, ac er eu bod hwy yn cyfrannu llai o wybodaeth i ddarllenwr nag y mae awduron Ellmynig a Seisnig yn ei chyfrannu, eto y maent yn agor ac yn coethi mwy ar ei feddwl. Y mae perygl i bregethwyr ar ôl gadael y coleg ymroi yn gyfangwbl i ddarllen llyfrau sy'n rhoddi iddynt ddefnyddiau i wneuthur pregethau. Rhaid yw i bregethwyr ddarllen esboniadau, bid sicr, ond hyd yn oed wrth arfer y rheini, y mae'n haws gennym o lawer ddarllen eglurhad ar adnodau unigol na darllen yr arweiniad i holl gynnwys y llyfr a esbonier. Gwell gennym ysbïo dinas Hebron a Dyffryn Escol er mwyn dwyn adre gyda ni swp o rawnwin, nag esgyn i ben Piscah i olygu'r wlad o ben bwy gilydd. I'r rhai y mae ganddynt arddull, y ffordd orau y gwn i amdani i wellhau'r arddull hwnnw ydyw mynnu'n gyntaf oll lyfrau'n cynnwys enghreifftiau o waith pob awdur enwog ym mhob iaith a fyddo'n hysbys iddynt, ac yna darllen yn ddyfal weithoedd yr awdur y byddo'i arddull yn debycaf i'w harddull amherffeithiach hwy eu hunain. Wrth gymryd y cyfryw un yn gynllun, nid dynwared rhywun arall y byddant, ond datblygu eu dawn eu hunain. Pan fyddo'r awdur a ddewiser yn gynllun yn pallu mewn rhywbeth gwerthfawr, fe ddylai'r darllenwr ar yr un pryd ddarllen gwaith rhyw awdur arall a fyddo'n rhagori yn y peth hwnnw. Hyn a geidw'r disgybl rhag mynd yn gaethwas i'w athro.
Mewn llyfrau sy'n ymdrin ag areitheg, yr ydys yn sôn am arddull aruchel, arddull syml, ac arddulliau eraill. Yn hytrach na dweud dim am y rheini, sylwi'n fyr a wnaf i o hyn i'r diwedd ar rai o'r teithi neu'r rhinweddau sy'n briodol i bob rhyw arddull.
PURDEB ydyw'r peth blaenaf. Y mae a wnelo hwn â geiriau ac ag ymadroddion, sef cyfuniad o eiriau. Er na fynnwn ichwi fod yn bureiniaid neu yn Phariseaid llenorol, fe ddylai'r holl eiriau a arferwch wrth bregethu fod yn Gymreigaidd eu dull, os nad yn Gymraeg o ran gwreiddyn. Y mae arfer geiriau mor anghydweddol â'r Gymraeg fel y rhaid eu hitaligo wrth eu hysgrifennu a'u hargraffu yn lladd urddas pregeth; ac er nad oes i'r hyn sydd urddasol ddylanwad mor amlwg ar y cyffredin â'r hyn sydd heb fod felly, eto y mae iddo ddylanwad tecach ac iachusach o lawer. I gadw'r urddas hwn ac i gael ar eraill y dylanwad goruchel sydd ynglŷn ag ef, y mae'n rhaid i'ch iaith fod yn hytrach yn henaidd nag yn ffasiynol: yn debycach i iaith y Beibl nag i iaith newyddiadur. Diau fod iaith gymysg, sitrachog, yn fwy effeithiol nag iaith bur i beri digrifwch; ac am y rheswm hwnnw y dylech chwithau ei bwrw allan. Ond o ddiogi yn unig y mae'r rhan fwyaf yn arfer y cyfryw iaith. Yn lle meddwl mor annibynnol wrth ddarparu pregeth Gymraeg â phe na baent yn gwybod ar y pryd ddim ond Cymraeg, ceisio atgofio a throsglwyddo y maent i'r Gymraeg yr hyn a ddarllenasant mewn iaith arall, a hynny heb gymorth geiriadur na gramadeg; ac os na thrawant wrth air heb ei geisio, hwy a gwynant fod y Gymraeg yn dlawd, ac a gymerant air o'r iaith a'r llyfr y cawsant eu syniadau ynddynt. Fel rheol, Cymry tlawd eu meddwl sy'n cael y Gymraeg yn dlawd. Odid byth y bydd eisiau gair nac ymadrodd ar y neb a astudiodd yr iaith yn ddigon da i allu meddwl ynddi. I'r meddyliwr manwl, cyfoeth y Gymraeg ac nid ei thlodi sy'n peri anhawster. "Pa air a ddewisaf?" ac nid "Pa air a gaf?" yw ei waedd ef.
Ond hwyrach y dywedir mai er mwyn eraill ac nid er mwyn arbed trafferth iddo'i hun y mae ambell bregethwr yn arfer geiriau Saesneg ac ymadroddion Seisnigaidd. Pe buasai amser gallaswn brofi bod parchu iaith yn beth llawn pwysicach na boddhau eraill, hyd yn oed a golygu'r peth oddi ar dir moesoldeb a chrefydd. Y mae'n sicr fod cyfieithwyr y Beibl mor awyddus i chwilio am eiriau dealladwy â neb ohonom; ond chwilio am eiriau cymeradwy oedd bennaf yn eu golwg. Am hynny fe fu'n well ganddynt hwy ddwyn i'r cyfieithiad Cymraeg eiriau a phriodweddion diarfer na dwyn rhai estronol, er y buasai'r rheini'n fwy cynefin. A phan fyddai raid iddynt wrth air estronol, dwyn ei gorff yn unig a wnaent; rhoddent iddo'n gyffredin ben a chynffon o'u hiaith eu hun, gan ei wneud felly yn air y gellid ei dreiglo fel geiriau cwbl Gymraeg. Fel mai hawdd cynnau tân ar hen aelwyd, felly hawdd yw dwyn ar arfer eiriau a fydd wedi mynd yn ddiarfer, os byddant yn eiriau persain a da. Y mae'r cyfryw eiriau, fel rheol, yn eu hesbonio'u hunain yn well na geiriau estronol. O ran hynny, anfynych y bydd raid i bregethwr wrth eiriau na cheir mohonynt yn y Beibl, a dau neu dri o lyfrau cynefin eraill. A chan y dylai pawb a fagwyd mewn Ysgol Sul fod erbyn hyn yn hyddysg yn y Beibl, ni raid i un pregethwr ymddiheuro i neb am arfer pob rhyw air ac ymadrodd a gaffer ynddo fo. Ni ellwch byth draethu holl gyngor Duw mewn pum cant o eiriau, hyd yn oed pe baech yn eu britho â phum cant arall o eiriau Saesneg. Er ichwi ymgyfaddasu i ddealltwriaeth y werin hyd at bregethu fel cenhadon Mr. Booth, fe fydd rhai o'ch geiriau fyth yn ddieithr i ambell wrandawr. Rhaid ichwi wrth lawer o eiriau i ymdrin yn drwyadl â llawer o bynciau; ond haeru yr ydwyf i na bydd y geiriau hynny ddim mwy annealladwy i'r cyffredin o fod yn Gymraeg. Paham y mae cynifer o bregethwyr sydd heb fod yn brominent eu hunain mor chwannog i arfer y gair prominent wrth bregethu?[6] A oes ynddo fo ogoniant mwy nag yn y gair amlwg? Ac os oes, tybed fod gweision a morwynion Cymru yn ddigon craff i'w ganfod? Ac os gelwir ar bregethwr i gefnogi rhyw gynigiad mewn cyfarfod cyhoeddus, a gyfrifir o'n bregethwr mwy am iddo ddywedyd, "Y mae'n bleser [neu, yn hyfrydwch] gennyf eilio'r cynigiad," nag os dywed, fel rhyw ddyn arall: "Y mae'n hyfryd gennyf gefnogi'r cynigiad." Yn ddiau, pregethwr mawreddog ac nid pregethwr mawr a fyn arfer enw yn lle cyfenw, a rhoddi ystyr newydd ac amwys i'r gair eilio. Y mae'n ddigon tebygol ei bod yn hawdd i Gymry sy'n medru Saesneg ddyfalu ystyr yr ymadrodd anghymreigaidd yma: "Yr ydych at eich rhyddid i ateb yr wyth a fynnoch o'r cwestiynau," ond fe ddylai'r rhai sy'n llunio rheolau i ymgeiswyr gofio bod eto liaws yn y wlad yn fwy hyddysg yn iaith yr Ysgrythur nag yn eu cymysgiaith hwy, ac y dylid gan hynny ddywedyd wrthynt mewn Cymraeg glân: "Y mae'n rhydd i chwi ateb," etc.
Os na ellwch gael mewn geiriadur, neu yn ein hen glasuron Cymraeg, air mor gymwys a phenodol ei ystyr â rhyw air estronol y gwyddoch amdano, gofynnwch i rywun cyfarwydd ffurfio gair ichwi; ac os na bydd hwnnw yn haeddu ei dderbyn gan bawb, yna Cymreigiwch y gair estronol yn gytunol â deddfau'r Gymraeg. Er enghraifft, os gair Groeg yn diweddu yn is a fydd o, tynnwch yr is ymaith, a dodwch derfyniad Cymraeg yn ei le. Os bydd yr hen air ffaig yn anghymeradwy gennych am ei fod yn anghynefin, a'r gair gwneuthur argyfwng am ei fod yn garbwl, nac arferwch y gair Groeg crisis sy'n gyfystyr, na'r ffurf Seisnigaidd creisis; ond fel y tynnwyd is o paralysis yn y ffurf Gymraeg parlys, felly tynnwch chwithau is o crisis, gan ei wneuthur a'i seinio yn cris fel y gwna'r Ffrancwyr. Trwy hynny fe fydd y gair yn fwy dealladwy, am fod ei gorff yn cadw'i lun a'i sain gyntefig; heblaw ei bod yn haws ei dreiglo'n rheolaidd, peth a ddylid ei ystyried bob amser wrth ddwyn i'r iaith air estronol.[7] Yr un modd y dylid gwneud hefo analysis, synthesis, phenomenon, phosphorus, ac estroneiriau eraill, os bernir nad yw'r geiriau Cymraeg pur yn ddigon neilltuol eu hystyr. Am lawer o'r geiriau perthynol i gelf a gwyddor, y mae'r rhai Cymraeg mor fyrion, mor benodol eu hystyr, ac mor ddealladwy, â'r rhai estronol. Pa achos sydd am y ffurf Seisnigaidd anatomy neu'r ffurf Gymreigaidd anatomiaeth, a chennym ninnau'r gair Cymraeg difyniaeth neu difynneg. Gymaint gwell ymhob ystyr ydyw hwn na'r gair Ellmyneg Zergliederungswissenschaft! Ac eto i gyd, y mae'r Ellmyn er ys talm bellach mor awyddus i lanhau eu hiaith oddi wrth estron-eiriau fel y maent hwy wedi bwrw allan y ffurf anatomie er mwyn gwneud lle i'r gair anferth hwn. Ac yn y diwedd, rhaid iddynt barhau i arfer y cyfenw estronol anatomisch o eisiau gair Ellmyneg pur, cyfystyr â'r gair Cymraeg difynegol. Os bydd gennym ni'r Cymry enw ar rywbeth yn ein hiaith ein hun, ni raid i ni, fel yr Ellmyn, fynd i iaith arall i gaffael cyfenw. Am fod y geiriau hyn yn enghreifftiau cyfleus y darfu i mi wrth reswm eu dewis hwy, ac nid am fy mod yn meddwl y bydd arnoch eu heisiau yn y pulpud.
Er mai peth dibwys ydyw purdeb sain wrth burdeb geiriau, ac yn enwedig wrth burdeb ymadroddion, eto yr wy'n meddwl ei bod bellach yn bryd i ni, sy'n ddysgawdwyr i'r bobl, seinio enwau estronol naill ai yn ôl deddfau'r iaith y cymerwyd hwy ohoni, neu ynteu yn ôl deddfau'r iaith y dygwyd hwy iddi. Arfer yn unig, a honno'n arfer ddrwg a diweddar, sy'n peri inni lasenwi rhyw hen batriarch yn Dsiacob; canys nid yw'r enw hwn o ran ei sain na Hebraeg na Chymraeg na Saesneg. Y mae'n sicr na buasai golygyddion y Beibl Cymraeg a gyhoeddwyd yn 1654 byth yn arfer y j i ddynodi sain yr i gytseiniol pe rhagwybuasent y buasai rhyw fân bregethwyr annysgedig yn nechrau'r ganrif hon yn ceisio seinio'r j honno fel j Saesneg. A gwybydder mai ceisio ei seinio felly, ac nid ei seinio'n gwbl Saesneg, y mae llawer o bregethwyr hyd yr awr hon. Er y buasai'n dda inni wrth y llythyren hon, eto y mae'n burion nad ydys yn awr yn ei harfer mor gyffredinol ag y buwyd unwaith, onide fe a'n dysgesid yn yr Ysgol Sul i seinio jawn yn dsiawn, a jachawdwrjaeth yn dsiachawdwrdsiaeth. Gresyn na fuasai'r cyfieithwyr wedi arfer ymhobman yr hen ffurfiau Cymraeg oedd ar arfer yn eu hamser hwy, sef Iagof neu Iago ac nid Jacob, Iof neu Io ac nid Job, Moesen ac nid Moses; canys ni fuasai neb mor dueddol i gamseinio'r hen ffurfiau cynefin. Yn Salmau Edmwnd Prys y ffurf Iago a arferir, a hynny am ei bod hi'n fwy barddonol na'r ffurf newydd; a Iago ydyw'r ffurf a geir yn y Testament Newydd ar fwy nag un Jacob. Yr ydys eto yn arfer Moesen yn y gair tarddedig Moesenaidd fel yr ydys yn arfer Platon yn y geiriau tarddedig Platonig a Platoniaid. Diau fod y fath enwau ag Eisac a Sôl yn ffurfiau pur Seisnigaidd, eithr dyna'r cwbl a ellir ei ddywedyd drostynt. Pan ddysgir y Gymraeg yn yr ysgolion beunyddiol fe ddysgir y plant i seinio geiriau estronol yn fwy priodol; ac os na achubwn eu pymtheng mlynedd mor hynod iddynt hwy ag yr ymddengys John Rhys, Silvan Evans, a Michael Jones, yn awr i ninnau. Er fy mod wedi traethu mwy am eiriau nag am ymadroddion, eto gwybydder bod purdeb ymadrodd yn bwysicach o lawer yn fy ngolwg i na phurdeb geiriau.
Rhag i burdeb fyned yn bureindeb—yn purism— dylem gofio, yn y lle nesaf, fod LLYFNDER hefyd yn rhinwedd ar iaith. Rhaid addef bod Cymraeg llyfr, pa mor dda bynnag y bo, yn anodd i'w ddarllen, am ei fod gymaint mwy clogyrnog na Chymraeg llafar. Fel y mae dŵr yn caboli rhai cerrig ac yn tyllu rhai eraill, felly y mae tafodau cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth yn llyfnu rhai geiriau, ac ysywaeth yn eu llygru hefyd. Y mae geiriau yn ymgaboli yn ôl deddfau cyffredinol, ac yn ymlygru oherwydd mympwyon neilltuol. Fe ddylai pregethwr ymgadw rhag llygriadau iaith, eithr fe ddylai barchu pob cyfnewidiad a wnaed arni yn ôl deddf. Am hynny ni ddylai mo'i llefaru fel y mae argraffwyr yn gweled yn dda ei hargraffu; yn hytrach dilyned y bobl ymhob peth y maent yn cytuno ynddo ar hyd yr oesoedd. Er enghraifft, y mae'r cyfuniad nt yn gas nid yn unig gan dafodau'r Cymry, ond hefyd gan dafodau'r Llydawiaid, yr Italiaid, y Sbaeniaid, a'r Ffrancwyr; ac o achos hynny, y mae'r cenhedloedd hyn oll wedi ymwrthod ag ef ers cannoedd o flynyddoedd: y tair blaenaf ohonynt trwy fwrw allan y t, a'r Ffrancwyr trwy ddwy neu dair o ffyrdd nad yw'n wiw ymdroi i'w hegluro. Y mae'r arfer gyffredinol hon yn profi bod nt, yn enwedig yn niwedd sill ddiacen, yn sain ddybryd. Ond er bod llais Cymru. a llais y Cyfandir hefyd yn mynd yn erbyn y t ar ôl n yn nherfyniadau lluosog berfau, y mae argraffwyr diweddar yn glynu wrthi'n dynnach hyd yn oed nag ysgrifenwyr Cymraeg y Canol Oesoedd. Ond os ydys yn parhau i'w hargraffu ac i'w hysgrifennu, ni ddylai neb ei llefaru. Ac heblaw ei bod yn anodd seinio t ar ôl n, y mae'n anodd seinio pob cytsain arall ar ôl t. Am hynny y mae n, gan ei bod yn llythyren lithrig, ac felly'n cyd-daro'n lled esmwyth â chytsain ddilynol, yn well llythyren derfyn na t. Er enghraifft, y mae'n haws dywedyd: "Hwy a welan Dduw," na "Hwy a welant Dduw."
Peth arall sy'n boenus i bob siaradwr ydyw seinio sain gyfansawdd a diacen, megis ai, au, ac aw, yn gwelai, pethau, taraw; ac am hynny fe ddylid yn gytunol â deddfau sain a hen arfer roi sain seml i bob un o'r terfyniadau hyn, yn enwedig o flaen cytseiniaid, trwy droi ai yn e, au yn a, ac aw yn o. Pe cytunai pobl Canolbarth a Deheubarth Cymru i ddywedyd petha yn lle pethau, y mae'n ddiau y cytunem ninnau yn y Gogleddbarth i ddywedyd carre yn lle carrai. Felly fe fyddai'n ddealledig fod e mewn gair tarddedig yn troi'n ei, ac a yn eu. Dyma dir y gall pleidwyr yr a a phleidwyr yr e ymgyfarfod arno heb golli mwy nag a enillant.
Mewn gramadeg Cymraeg a gyhoeddwyd yn yr Almaen yn y flwyddyn 1886, y mae'r awdur yn cadarnhau peth a ddywedasai Cymro yn un o rifynnau cyntaf Y GENINEN, sef bod terfyniadau deuseiniol a diacen yn gwneud y Gymraeg yn fwy afrwydd nag y dylai hi fod. Pan fo tystiolaeth estron yn cytuno â thystiolaeth brodor, rhaid fod mesur o wir ynddi.
Y mae llawer un yn rhoi achos i estroniaid feddwl bod y Gymraeg yn iaith arw oherwydd ei fod yn pwyso gormod ar lythrennau cras. Yn wir, y mae clywed ambell Gymro yn rhochian yr ch yr un fath yn union â chlywed un o Wyddelod Conamara yn chwyrnu yn ei gwsg.
Fe all siaradwr Cymraeg ochel seiniau afrywiog trwy lawer o ffyrdd eraill oedd yn bur gyffredin yn y dyddiau gynt, sef trwy droi m yn n o flaen n arall, megis arnon ni yn lle arnom ni, a thrwy arfer rhagenw rhwng gair â chytsain yn ei ddiwedd a gair arall â chytsain yn ei ddechrau, megis "Y mae arnat—ti swllt," neu "Y mae arnati swllt," yn lle "Y mae arnat swllt."
Mynych y clywais i ddywedyd bod pregethwyr yr oes o'r blaen yn fwy naturiol na phregethwyr yr oes hon, a phregethwyr yr oes hon yn fwy celfydd na rhai'r oes o'r blaen. Os wyf i'n deall ystyr y gair "celfydd," yna nid wyf yn petruso dywedyd bod yr hen bregethwyr yn fwy celfydd o lawer na ni; ac am eu bod yn fwy celfydd yr oeddynt yn fwy naturiol. Rhai o'r to diwethaf o bregethwyr a glywais i, y mae'n wir; ond clywais adrodd darnau o bregethau a draddodwyd gan do cynharach, ac os ydyw'n iawn eu barnu wrth y darnau hynny, yr oeddynt yn dra chelfydd. Yr oeddynt yn arfer pob dyfais gyfreithlon i ochel dybryd sain, ac i amlhau seiniau llafar.[8] Yr oedd cynghanedd yn eu geiriau a mesur ar eu brawddegau, ac y mae'n amlwg eu bod, wrth lunio'u brawddegau, yn fwy gofalus na ni i astudio hyd eu hanadl. Yr oedd y gofyniad, "Pa fodd y canaf?" mor bwysig yn eu golwg hwy ag ydyw'r gofyniad, "Pa beth a waeddaf?" yn ein golwg ninnau. A pha beth bynnag a feddyliwn ni am las-ganu pregeth, y mae'n ddiddadl y rhaid wrth fwy o gelfyddyd y prydydd a'r cerddor i wneuthur pregeth ganadwy na phregeth waeddadwy. Paham yr oedd y diweddar Richard Owen gymaint mwy effeithiol na phregethwyr eraill? Am hyn, yn un peth, sef bod miwsig yr hen bregethwyr yn ei lais ac yn ei iaith hefyd. Yr oedd o'n cofio bod gan agos pob Cymro dair clust, ac yn credu mai trwy agoryd y feinaf o'r tair y gallai'n orau fwrw eiriau i'r galon oedd islaw iddi.
Hyd yn oed pe bai amser, nid oes achos imi draethu am YSTWYTHDER, EGLURDER a MANYLDER, bob un ar ei ben ei hun, am fod ystwythder ac eglurder yn y Gymraeg yn gorffwys yn gyffredin ar fanylder. Dywedwch rywbeth yn fanwl, a chwi a'i dywedwch yn eglur ac yn ystwyth hefyd. Fe ellir gwrthdroi mwy ar frawddeg Gymraeg nag ar frawddeg Ellmyneg, ac y mae pob newidiad a wneir ar drefn geiriau mewn brawddeg Gymraeg yn arwyddo newidiad ar ystyr y frawddeg; peth na ellir ei ddywedyd am frawddeg Ellmyneg. Er mwyn arbwys ac amrywiaeth y symudir gair i ddechrau brawddeg yn yr Ellmyneg, ond yn y Gymraeg fe wneir hynny er mwyn cyferbyniaeth hefyd. Y mae'r gair a symudir o'i le arferol i ddechrau ymadrodd yn rhoi ystyr mor benodol i'r holl ymadrodd hwnnw fel y mae o'n cau allan bob ystyr arall gwahanol. Cymerer yr ymadrodd hwn yn enghraifft:
Yr oedd yr astudwyr yn cerdded gynnau i'r coleg i weddïo.
Yn yr ymadrodd hwn, dywedyd yr wyf y ffaith yn syml, heb bwyso ar un gair neilltuol; eithr yn yr ymadroddion sy'n canlyn, yr wyf trwy newid trefn y geiriau yn dywedyd rhywbeth nad oeddwn o'r blaen yn ei ddywedyd yn eglur a phendant:
Yr astudwyr oedd yn cerdded gynnau i'r Coleg i weddïo.
Cerdded yr oedd yr astudwyr gynnau i'r Coleg.
Gynnau yr oedd yr astudwyr yn cerdded i'r Coleg.
I'r Coleg yr oedd yr astudwyr yn cerdded gynnau.
I weddïo yr oedd yr astudwyr yn cerdded gynnau i'r Coleg.
Y mae'r ymadroddion hyn yn profi'r hyn a ddywedais o'r blaen, sef bod Cymraeg manwl o anghenraid yn Gymraeg eglur, miniog, ystwyth, a llawn o amrywiaeth; yn Gymraeg sy'n llesol i feddwl y llefarwr ac yn hyfryd i glust y gwrandawr. Y mae'r cyfryw iaith yn peri imi feddwl y gallai'r Cymry, pe bai eu gweithgarwch gymaint â'u gallu, ragori mwy mewn athroniaeth nag mewn barddoniaeth. Os oes ar hyn o bryd fwy o brydyddion yng Nghymru nag sydd o athronyddion, y mae hynny am ei bod yn haws i ddyn diog fod yn dipyn o brydydd nag yn llawer o athronydd.
Mewn barddoniaeth, ac areithyddiaeth uchel, fe all iaith fod yn ystwyth heb fod yn fanwl. Iaith ystwyth yn hytrach na manwl a geir yn y Beibl, ac iaith felly a geir yn Nrych y Prif Oesoedd. Morgan Llwyd, neu'n hytrach Elis Wynn, oedd y cyntaf a wnaeth iaith fanylach y bobl yn iaith lenorol, ac a seiliodd ystwythder ar fanylder. Y mae ei iaith ef, er yn llai swynol nag iaith hynafol y Drych, yn fwy buddiol i bob perwyl.
Mewn un peth, yn wir, y mae Elis Wynn yn ymbellhau oddi wrth iaith y bobl, ac oddi wrth iaith y prif lenorion eraill hefyd; ac yn hynny o beth y mae o yn llai manwl na hwy, sef mewn peidio ag arfer rhagenw personol yn ddigon mynych o flaen ac ar ôl berf; ac weithiau, y mae o'n tywyllu synnwyr ymadrodd trwy adael a allan o flaen berf, gan ddywedyd, "Ni welsom," pan y mae o'n meddwl dywedyd, "Ni a welsom." Fe ŵyr rhai cyfarwydd pa bryd y gellir hepgor rhagenwau, eithr ni ŵyr y cyffredin ddim; am hynny, os mynnant hwy lefaru'n eglur, edrychant na chynilont mo'u rhagenwau, yn enwedig gyda'r ffurf noeth a elwir yn "ferf yn y trydydd person unigol." Yn lle dywedyd Daw, dyweder yn hytrach, Efe a ddaw, Hi a ddaw, neu ynteu Y daw efe, Y daw hi; onide fe all gwrandawr feddwl mai gwrthrych y ferf fydd ei thestun. Yn lle arferyd y ffurf orchmynnol Gwelwn am y modd mynegol, dyweder Mi a welwn, os gorffennol ac unigol a fydd y ferf; a Ni a welwn, os dyfodol a lluosog a fydd hi. Heblaw hynny, y mae rhagenwau yn gwneud brawddeg yn fwy rhugl a chlymedig; canys y mae'r frawddeg, Gwelwn ef pan awn yno," heblaw ei bod yn fwy aneglur, yn fwy toredig hefyd na "Ni a'i gwelwn o pan awn ni yno." Y mae'r werin bob amser yn arfer rhagenw ar ôl berf, ac yn arfer mi o flaen berf hefyd; eithr eu bod hwy ysywaeth, fel gwladwyr anllythrennog Ffrainc, yn gwneud i ragenw yn y person cyntaf unigol wasanaethu yn lle rhagenwau yn y personau eraill. Yr un ffunud, fe ddylid weithiau arferyd rhagenw er mwyn eglurder, hyd yn oed pan na bydd ei eisiau er mwyn arbwys, mewn ymadrodd fel hwn hefyd, "Fe sychodd Olwen ei dagrau hi"; canys y rhagenw hi sy'n dangos mai dagrau rhyw ferch amgen nag Olwen a olygir. Heb y rhagenw fe ellid meddwl mai ei dagrau ei hun a ddarfu i Olwen eu sychu.
Yr wyf yn cyfeirio'ch sylw at y pethau sychion hyn am ei bod yn bwysig i sgrifennwr, ac yn enwedig i siaradwr, arfer iaith y gall gwrandawr ei deall yn rhwydd ac yn ebrwydd, ac nid ei dyfalu. Nid yw hyn yn anghyson â'r peth a awgrymais i o'r blaen, sef bod iaith ambell un yn aneglur i'r cyffredin yn unig am ei bod yn anghynefin, a'r iaith yn anghynefin am fod y pethau yr ymdrinir â hwy yn anghynefin. Y gwrandawyr ac nid y siaradwyr a ddylid eu beio am hyn.
Yn ddiwethaf, nac anghofiwch BRIODOLDEB NATURIOLDEB, canys hebddynt hwy ni bydd iaith nac arddull neb yn dda. . . .
Swm cwbl a ddywedwyd yw hyn: Pa beth bynnag a wneloch, gwnewch hynny yn dda. Na foddlonwch i wneud dim yn wael hyd yn oed os bydd gwaith gwael yn dwyn ichwi gymaint o glod ac elw â gwaith gwych. Y gwych yn unig a fydd byw; am hynny, ceisiwch yn hytrach anllygredigaeth na gogoniant ac anrhydedd presennol. Gwnewch eich pregethau'n gyfryw y bydd yn wiw gan ddynion eu darllen ymhen oesoedd ar ôl eich marw; canys wrth ymgyfaddasu i'r oesau a ddêl, chwi a'ch gwnewch eich hunain yn bregethwyr cymhwysach i'ch oes eich hun. Y mae llawer pregethwr wedi ei ddifetha ei hun cyn ei farw trwy ymroi i foddhau'r hen boblach oedd yn myned ymaith, ac esgeuluso ymbaratoi ar gyfer y genhedlaeth oedd yn dyfod ar eu hôl hwynt. Cofiwch y daw'r Gymraeg ar fyrder i'r ysgolion cyffredin, ac y mae hynny'n cynnwys y bydd Cymraeg coeth ac arddull da yn fwy eu bri gan y genhedlaeth nesaf. A pha beth yn y diwedd ydyw iaith goeth amgen nag iaith heb ynddi ddim geiriau ofer ac anghymwys, eithr rhai eglur hyd at fod yn loyw, a manwl hyd at fod yn finiog. "Geiriau y doethion sydd megis symbylau "; ac y mae pregeth y byddo'i ffurf yn gyfaddas i'w defnydd fel afalau aur mewn gwaith arian cerfiedig."
LLENYDDIAETH GREFYDDOL Y CYMRY GYNT
I'w gwrando ac nid i'w darllen y darparwyd y sylwadau hyn; ac yr wyf yn eu cyhoeddi yn unig rhag dibrisio penderfyniad caredig Penadur ac astudwyr Coleg Diwinyddol y Bala.—E. AP I.
Er bod llenyddiaeth yn un a diwahân, ac iddi'r un egwyddorion ymhob cylch, eto fe ddywedir er mwyn cyfleustra ei bod naill ai'n grefyddol neu ynteu'n gyffredin—yn gyffredin, meddaf, ond nid yn aflan; am fod pa beth bynnag sydd wrthun ym meddyliau ysgrifenedig dyn yn annheilwng i'w alw'n llenyddiaeth. Y mae llenyddiaeth gyffredin yn dda am ei bod yn darparu ar gyfer yr enaid; y mae llenyddiaeth grefyddol yn well o lawer am ei bod hi'n darparu ar gyfer yr ysbryd hefyd. Y mae'r gair "llenyddiaeth" ynddo'i hun agos ymhob iaith hysbys yn golygu gwybodaeth deg, neu ddysgeidiaeth gain; a pha beth bynnag nad yw wir, nad yw onest, nad yw bur, nid yw hwnnw yn deg chwaith. Yr un gair, meddant hwy, oedd gan y Groegiaid am y teg ac am y da; a gair go gyffelyb i "deg", sef "disgleirdeb", ydyw ystyr y gair "da" yn y Gymraeg hefyd. Fe wnaeth yr hen Ymneilltuwyr, yn ddiau, lawer iawn tuag at ddyrchafu crefydd ysbrydol yn y wlad hon; ond rhaid addef eu bod wedi peri niwed nid ychydig i chwaeth y bobl wrth wahanu'r da oddi wrth y teg, neu'r buddiol oddi wrth y prydferth. Yr oeddynt yn sôn llawer am santeiddrwydd; ond ychydig am ""brydferthwch" santeiddrwydd." Hyd yn oed yn awr, y mae'n well gan lawer ohonynt annog ieuenctid i ddarllen llyfrau da, sef llyfrau diddrwg, nag i ddarllen llyfrau gwych. Y mae llyfrau gwych yn cynnwys pob llyfr "da"; ond yn sicr, nid yw'r rhan fwyaf o'r llyfrau dwl-dduwiol a alwant hwy yn dda ddim yn llyfrau gwych o gwbl; a hynny am y rheswm amlwg nad oes arnynt mo'r nodau hynny sydd yn rhoi i lyfrau werth llenyddol. Y mae pob llyfr sy'n rhan o lenyddiaeth yn gywreinwaith yn waith celfyddyd—o ran cynllun, defnyddiau, arddull, ac iaith; ac am hynny yn tueddu i ddyrchafu chwaeth y neb a'i hastudio. Prin, gan hynny, y rhaid dweud mai ychydig o'r llyfrau Cymraeg a gyhoeddwyd yn ystod y can mlynedd diwethaf sydd yn rhan o lenyddiaeth y cyfnod hwnnw. Y mae ein "llyfrau" crefyddol yn llawer; ond prin yw ein "llenyddiaeth" grefyddol. Yr achos pennaf o hyn ydyw amledd sectau yng Nghymru, a'r ffaith eu bod gan mwyaf yn sectau go newydd. I fagu llenorion, rhaid i gyfundeb fod nid yn unig yn gryf, ond hefyd yn hen. Rhaid iddo fod wedi cefnu er ys talm ar y cyfnod cyffrous, pryd y mae gorfod arno dreulio'i nerth mewn ymddadlau â gwrthwynebwyr, er mwyn ymsefydlu neu ymgadarnhau yn y wlad. Cyn y Diwygiad Protestannaidd, pan nad oedd ond un cyfundeb yng Nghymru, fe gynhyrchodd y Cymry lenoriaeth y mae iddi enwogrwydd Europeaidd; canys gweithoedd y cyfnod hwnnw, megis y Gododdin, y Greal, a'r Mabinogion, ydyw'r unig weithoedd Cymraeg yr ydys yn eu hastudio yng ngwledydd y Cyfandir. Yn wir, y mae'r gweithoedd hanner crefyddol a hanner arwraidd hyn yn fwy hysbys o lawer i'r Ellmyn nag ydynt i gorff y Cymry. Pan gymerodd Eglwys Loegr le yr Eglwys Gatholig fel prif, a bron fel unig, eglwys y Cymry, fe gynhyrchwyd yn y cyfnod hwnnw lenyddiaeth sy'n ail i lenyddiaeth y cyfnod blaenorol; ac er na chyfieithwyd un o lyfrau'r cyfnod hwn i'r Ffrangeg a'r Ellmyneg, fe gyfieithwyd un ohonynt, sef "Gweledigaethau'r Bardd Cwsg", i'r Saesneg; a hynny gan lenor Seisnig wedi dysgu Cymraeg.
Pan ddaeth y Diwygiad Methodistaidd i Gymru, fe aeth Eglwys Loegr yn ebrwydd yn rhy wan ac yn rhy estronol i gynhyrchu llenyddiaeth Gymraeg o radd uchel; ac y mae'r Ymneilltuwyr eto'n rhy ieuanc, ac, os rhaid dweud y gwir i gyd, yn rhy gulfarn ac yn rhy genfigenllyd, i gynhyrchu llawer o lenyddion hirhoedlog. I gynhyrchu llenyddiaeth a gydnabyddir yn llenyddiaeth gan yr holl genedl rhaid iddynt anghofio, dros y pryd, eu bod yn perthyn i'r cyfundeb hwn neu'r cyfundeb arall, a chofio'n unig mai dynion ydynt; neu, o leiaf, mai Cymry ydynt. Ac arfer y gair "llenyddiaeth" yn ei ystyr manylaf, nid oes y fath beth â llenyddiaeth gyfundebol yn bod. Rhaid i lenyddiaeth wirioneddol fod yn genhedlig; neu, os mynnwch air hwy ac anghywirach, yn genedlaethol. Fe fu gennym ni'r Methodistiaid dri, os nad pedwar, o lenorion, sydd ac a fyddant yn ddynion cenedl; ac am un ohonynt, sef Williams o Bant-y-celyn, fe ellir ei osod ef ar yr un tir ag Aneirin Gwawdrydd a Dafydd ap Gwilym, os nad yn wir yn uwch na hwynt. Ond nid am ei fod ef a'r lleill yn Fethodistiaid Calfinaidd, eithr am eu bod yn fwy na Methodistiaid yr aeth eu gwaith yn eiddo cyffredin i'r holl genedl. Gan ei bod yn deg imi gredu bod y rhan fwyaf ohonoch chwi wedi darllen mwy neu lai ar weithoedd Williams o Bant-y-celyn a Dr. Lewis Edwards, sôn a wnaf i am brif lyfrau gwŷr o Gymry nad oeddynt yn Fethodistiaid; am fy mod yn ofni bod y rheini yn fwy anhysbys i lawer ohonom nag y dylent fod.
Ysywaeth, cyfieithiadau ydyw'r rhan fwyaf o'r llyfrau crefyddol a gyhoeddwyd ar ôl y Diwygiad Protestannaidd; ond y mae rhai ohonynt yn gyfieithiadau mor ystwyth a Chymreigaidd fel y maent mor ddarllenadwy â llyfrau gwreiddiol; a chan eu bod felly, yr wyf yn eu cyfrif yn rhan o lenyddiaeth Gymraeg. Cyfieithiad yw'r Beibl ei hun, ac ymha wlad bynnag y mae cyfieithiad gwych ohono, y mae'r genedl yno yn ei gyfrif yn un o'i chlasuron ei hun.
Rhag cymysgu ynghyd lyfrau annhebyg i'w gilydd, mi a ddosbarthaf lenyddiaeth grefyddol y Cymry yn llenyddiaeth ddefosiynol, yn llenyddiaeth athrawiaethol, ac yn llenyddiaeth hanesyddol, sef yn llenyddiaeth y mae a wnelo hi â hanes crefydd. Mewn llenyddiaeth ddefosiynol, rhaid addef ein bod yn dra chyfoethog; canys y mae pob llyfr a gyfrifir yn glasurol yn y dosbarth hwn, oddieithr Cyffesiadau Awstin, wedi ei gyfieithu i'r Gymraeg, a hynny gan ein llenorion gorau. Gan Gatholigion y cyfansoddwyd y rhai enwocaf ohonynt; ond Protestaniaid pybyr a'u cyfieithodd oll, oddieithr un; yr hyn sy'n profi bod y dynion mwyaf duwiolfrydig ymhob cyfundeb yn ddynion cenedl ac yn ddynion byd. "Dilyniad Iesu Grist", gan Thomas a Kempis, yw'r llyfr crefyddol y bu mwyaf o ddarllen arno o bob llyfr oddieithr y Beibl; ac fe drowyd hwn o'r Lladin i Gymraeg ystwyth ond lled werinaidd, gan Huw Owen o Fôn. Ychydig o'r "Arweiniad i Fywyd Defosiynol", gan François de Sales, Esgob Genefa, a drowyd i'r Gymraeg; ac y mae'r ychydig hynny, ysywaeth, yn "Llyfr Gweddi'r Catholig"—llyfr na byddai'n ddiogel ei ddodi yn nwylo Protestaniaid ieuainc. Llyfr Catholig wedi ei Brotestaneiddio ydyw "Llyfr y Resolusion" hefyd, a Gymreigiwyd gan Dr. Dafis o Fallwyd, un o gyfieithwyr y Beibl Cymraeg. Er fy mod yn myned i grybwyll am lyfrau defosiynol eraill o waith Protestaniaid, eto fe eddyf pob Ymneilltuwr diragfarn nad oes gan Brotestaniaid unrhyw wlad un llyfr defosiynol o'r radd uchaf i'w gynnig i grefyddwyr; a hynny ydyw un achos paham y mae Protestaniaid gymaint mwy diffygiol na'r Catholigion mewn lledneisrwydd a pharchedigaeth. Ond os ydym ni'r Anghydffurfwyr yn rhy ofnus neu'n rhy gulfarn i annog ein pobl ieuainc i ddarllen y ddau lyfr byd-enwog y soniwyd amdanynt, yna anoger hwynt i chwilio am gyfieithiad godidog Elis Wynn o "Reol Buchedd Santaidd" Dr. Jeremy Taylor, yr hwn oedd yn Brotestaniad, ac yn un o dri chedyrn diwinyddion Lloegr; neu gyfieithiad da John Langford, a chyfieithiad gwell Edward Samuel, o "Holl Ddyletswydd Dyn". Ni wn i a oes yn Gymraeg lyfr defosiynol o waith neu o gyfieithiad Anghydffurfiwr. Y mae gan Griffith Jones o Landdowror, "Seren Fore'r Diwygiad Methodistaidd," gasgl o Weddïau Teuluol; ond y mae'n rhaid addef nad yw ei weddïau ef mor ddarllenadwy o lawer â gweddïau a gyfansoddwyd neu a gyfieithwyd gan eraill o'i flaen.
Er nad oes gennym ni'r Methodistiaid, mwy nag Anghydffurfwyr eraill, ryw un llyfr arbennig y gellid ei alw'n Llyfr Defosiynau, eto yr wyf yn credu bod yn wasgaredig ym mhregethau a llythyrau rhai o'n hen bregethwyr sylwadau dwysion a duwiolfrydig odiaeth, a phe cesglid hwy ynghyd a'u dosbarthu o dan wahanol bennau, y gwnaent lyfr na byddai raid i un cyfundeb ar y ddaear gywilyddio o'i blegid.
Dyna ddigon am ein llyfrau defosiynol; mi af rhagof bellach i enwi goreuon ein llyfrau athrawiaethol. O'r llyfrau gwreiddiol yn y dosbarth hwn yr wyf yn credu mai mân lyfrau Morgan Llwyd yw'r rhai llawnaf o feddwl. Anghydffurfiwr ydoedd Morgan Llwyd, ond Anghydffurfiwr mor eang ac annibynnol fel nad yw'n hawdd penderfynu i ba gyfundeb yr oedd o'n perthyn. "Tri Aderyn yn Ymddiddan" yw'r hynotaf o'i lyfrau; ond y mae'r rhan fwyaf o'r lleill mor sylweddol ag yntau, er y gallant fod i rai yn llai difyrrus.
O'r llyfrau tramor a drowyd o'r Lladin i'r Gymraeg, "Gwirionedd y Grefydd Gristionogol," gan Hugo Grotius, yw'r mwyaf ysgolheigaidd; ac efô, yn fy marn i, yw'r cymhwysaf o bob llyfr Cymraeg i fod yn llyfr dosbarth mewn athrofa neu gyfarfod darllen.
Y llyfr nesaf iddo o ran ysgolheictod a gallu rhesymegol ydyw "Deffynniad Ffydd Eglwys Loegr", gan Esgob Jewel, wedi ei gyfieithu o'r Lladin yn ystwyth odiaeth gan Morus Kyffin. Er mai amddiffyn Eglwys Loegr yn erbyn edliwiadau Eglwys Rufain y mae Jewel, eto y mae ei waith, erbyn hyn, yn hytrach yn amddiffyniad i Ymneilltuaeth nag i'r Eglwysyddiaeth Uchel sydd yn awr mewn bri. Y mae hen amddiffynwyr Eglwys Loegr yn dangos un peth yn amlwg iawn, sef nad diwygio'r Eglwys Gatholig a wnaeth y Diwygwyr Protestannaidd, eithr ymwahanu oddi wrthi, mor wirioneddol ag yr ymwahanodd yr Ymneilltuwyr oddi wrth Eglwys Loegr; a chyfiawnhau'r ymwahaniad neu'r ymadawiad hwn y mae prif amddiffynnwr Eglwys Loegr yn ei lyfr. Mewn gwirionedd, dyfyniadau o'r "Deffynniad" fyddai'r rhesymau cryfaf yn erbyn y rhai sydd yn haeru nad yw Eglwys Loegr yn ddim amgen na pharhad difwlch o'r hen Eglwys Frytanaidd. Y mae'n resyn fod llawer o offeiriaid, a rhai o esgobion, Eglwys Loegr mor brysur gyda mân orchwylion fel nad ydynt yn cael amser i ymgydnabod â phrif awduron eu heglwys eu hunain.
Yr oedd gan y Jewel y soniwyd amdano, ran, gyda Cranmer, Latimer, ac eraill, yng nghyfansoddiad neu yn adolygiad "Llyfr yr Homiliau" hefyd. Casgl helaeth o bregethau ydyw'r Homiliau hyn i amddiffyn athrawiaethau ac egwyddorion Protestannaidd. Nid oes arnynt fawr o ddisgleirdeb nac eneiniad, ond y maent yn bur sylweddol, ac yn fuddiolach i'w darllen na'r rhan fwyaf o'r pregethau a ganmolir yn y dyddiau hyn. O ran cynllun a saerniaeth y maent yn rhagorol, ac yn gwbl rydd oddi wrth yr aml bennau a'r aml raniadau sy'n anurddo pregethau'r Puritaniaid. Y mae eu hawduron yn cadarnhau eu dadleuon â phob rhyw reswm ac â phob rhyw adnod y gellir meddwl amdanynt; ac am hynny fe all "Llyfr yr Homiliau" wasanaethu fel math o eiriadur i bregethwr ieuanc. Gŵr dysgedig ond anhysbys, a'i enw Edward James, a gyfieithodd y llyfr hwn; ac yn fy marn i, y mae ei Gymraeg ef yn fwy Cymreigaidd ac yn fwy cywir na Chymraeg y Beibl. Y mae ei arddull hefyd yn llawn mwy urddasol nag arddull Morus Kyffin. Fe gyfaddaswyd yr "Homilïau" i oes ddiweddarach gan Dr. Nourse, ac fe Gymreigiwyd deuddeg ohonynt yn eu ffurf ddiwygiedig gan Edward Samuel, person Llangar, a oedd agos cystal cyfieithwr ag Edward James.
Y mae gennym amryw gyfieithiadau o "Daith y Pererin", ond y crynodeb a'r lledgyfieithiad a wnaeth Stephen Hughes a'i dri chyfaill ohono ydyw'r mwyaf darllenadwy o lawer. Er nad yw llyfrau fel "Taith y Pererin" a "Choll Gwynfa", sydd yn cynnwys un alegori hir yn yr hon yr ydys yn personoli pechod a rhinwedd, ddim mor gymeradwy yn awr ag y buont unwaith, eto pe tynnid o'r cyfieithiad hwn o Daith y Pererin chwaneg o'r hen ddiwinyddiaeth unochrol y mae pob cyfundeb erbyn hyn wedi cefnu'n ddistaw arni, fe ellid ei wneud eto yn llyfr diddorol iawn i blant. A dweud y gwir, tlawd iawn ydym o lyfrau crefyddol cyfaddas i blant. Y mae'n wir fod "Saith Doethion Rhufain" yn chwedl mor gywrain a difyrrus ag ydyw'r "Nosweithiau Arabaidd", ond nid chwedl grefyddol ydyw honno. Nid wyf i am gredu y dylai hyd yn oed lyfrau plant fod yn blentynnaidd, canys, hyd y gwelais i, y mae llyfrau plentynnaidd yn cadw plant yn blant; er hynny, fe ddylai pob llyfr a roir iddynt fod yn loyw fel y grisial, ac yn hoyw fel asgell fraith.
Mi a ddywedais yn y dechrau y soniwn yn y trydydd lle am lyfrau crefyddol sydd yn hanesyddol; ond y mae sôn am hynny bron yr un peth â sôn am bethau nid ydynt. Dyma'r llyfrau gorau o ran eu gwerth llenyddol: "Hanes y Ffydd Ddiffuant", gan Charles Edwards; yr ail ran o Ddrych y Prif Oesoedd, gan Theophilus Evans; a'r ail ran o "Hanes y Byd a'r Amseroedd", gan Simon Thomas. Nid yw defnydd nac iaith y llyfr olaf yn dangos bod ei awdur mor ddawnus a dysgedig â'r ddau awdur arall; ond yr oedd ynddo fwy o gymhwyster i fod yn hanesydd am ei fod ychydig yn llai hygoelus na hwynt-hwy. Y mae'n wiw darllen y llyfr hwn oblegid ei fod yn un o'r ychydig hen lyfrau hanesyddol ag ynddo fwy o ffeithiau nag o chwedlau; ac y mae'n wiw darllen "Drych y Prif Oesoedd" oblegid y disgrifiadau a'r cyffelybiaethau Homeraidd sydd ynddo, a "Hanes y Ffydd" oblegid yr aml feddyliau tlysion sydd yn wasgaredig ynddo; ond os na chofir o hyd wrth eu darllen mai math o nofelau hanesyddol ydynt, gallant wneud mwy o niwed nag o les. Yn nyddiau'n tadau nid oedd beirniadaeth hanesyddol, sef yr hyn yr hyn a eilw rhai o'r Ellmyn yn chwithig iawn yn uwch-feirniadaeth," ddim wedi cyrraedd i Loegr, chwaethach i Gymru. Am hynny, nid yw'n deg eu beio am fod yn rhy hygoelus: ond y mae yn deg eu beio am fod yn llawn mwy hygoelus nag awduron y Brutiau, oedd yn byw lawer canmlwydd o'u blaen. I mi, y mae hygoeledd y Protestaniaid yn fwy gwrthun ac yn fwy anesgusadwy na hygoeledd y Pabyddion; ac y mae parodrwydd parhaus y Cymry i dderbyn hen draddodiadau ac i gredu chwedlau ofer yn peri imi ofni nad yw'r Pabyddion wedi ymosod ar waith anodd iawn wrth geisio troi Cymru yn Babyddol yn ei hôl. Os ydyw'r Cymry'n credu ddarfod i Dduw wneuthur gwyrthiau afreidiol a lled ddigrifol i ddiogelu John Jones o Dreffynnon, pa beth a'u rhwystra yn y man i gredu bod yr un Duw yn iacháu cloffion a gwywedigion wrth weddi'r Tad Beauclerc a thrwy rinwedd ffynnon Gwenfrewi?
Goddefer imi cyn dibennu gyfeirio at hen lyfr a gefais beth amser yn ôl gan gyfaill, sef "Cysondeb y Pedair Efengyl", gan John Evans, M.A., caplan i'r brenin Siôr y Trydydd, ac adolygydd un o argraffiadau'r Beibl. Pan geir yr un hanes mewn mwy nag un efengyl, yr hanes llawnaf yn unig a roir yn y Cysondeb hwn, ac yn fynych iawn fe ddodir ymadroddion rhwng crymfachau ynghanol y testun i egluro neu i gyflawni'r ystyr, ac i ddangos y cysylltiad sy rhwng y naill adnod neu'r naill adran a'r llall, ac ar ôl pob pennod y mae esboniad ar yr ymadroddion tywyllaf. Hwn yw'r esboniad cyntaf a wnaed yn yr iaith Gymraeg, ac anturiaf ddweud mai hwn yw'r esboniad gorau sy gennym ar yr "holl" Efengylau—y gorau o ddigon i bregethwyr ieuainc, i aelodau eglwysig ac aelodau'r Ysgol Sul. Mi wn na chyfrifir mo'r esboniadau gorau oll yn rhan o lenyddiaeth cenedl; ond y mae'r Cymraeg cywir a gloyw yr ysgrifennwyd yr esboniad hwn ynddo, ynghyd â gwerth y Rhagdraethawd maith sydd o'i flaen ar Hanes Crefydd, bron â'm temtio i gyfrif y llyfr yn un o lyfrau clasurol y Cymry. Y mae'n rhyfedd iawn nad ymgystadlai cyhoeddwyr Cymru mewn dwyn allan argraffiad newydd o'r llyfr hwn ac amryw o'r llyfrau eraill y crybwyllwyd amdanynt. Y mae'n arw o beth ei bod yn rhaid i'r genhedlaeth hon o Gymry ymfoddloni ar waelach llyfrau nag oedd gan y cenedlaethau o'r blaen. Y mae arnaf ofn y rhaid disgwyl wrth ryw Sais neu Americaniad i neud ei ffortiwn trwy ddwyn allan argraffiad hardd ac unffurf o'r clasuron Cymraeg.
Yr wyf wedi traethu'n unig am awduron marw rhag cael fy nhemtio i wenieithio neu i beri tramgwydd i awduron byw. Pe buasai'r Methodistiaid mor gul ag ambell gyfundeb Cymreig, dywedaswn y dylem edrych na lygrom chwaeth ein pobl ieuainc trwy eu hannog i ddarllen llyfrau a elwir yn grefyddol, yn unig am eu bod wedi eu gwneuthur gan ddynion o'n sect ni. Yr ydys mewn rhai cylchoedd yn y dyddiau hyn yn gwneud masnach o grefydd, ac yn gwneud cam â chrefyddwyr, trwy gymell arnynt lyfrynnach a phapurach crefyddol yn lle llenyddiaeth grefyddol. Os teimlir anhawster i wybod pa lyfrau crefyddol sy'n llenyddiaeth grefyddol, ymofynner pa lyfrau sy mor gymeradwy heddiw ag oeddynt ddau neu dri chant o flynyddoedd yn ôl. Y mae gwyddoniaeth yn myned rhagddi; y mae hyd yn oed esboniadaeth grefyddol yn myned rhagddi'n araf, er pan ddechreuwyd cyfieithu esboniadau tramorwyr i'r Saesneg; ond y mae llenyddiaeth grefyddol, a llenyddiaeth "gyffredin" hefyd, yn myned yn ei gwrthol. Y mae'n wir y rhaid i bregethwyr ieuainc ddarllen llyfrau crefyddol nad oes iddynt ddim gwerth llenyddol, sef llyfrau wedi eu hamcanu i'w gwneuthur hwynt yn hytrach yn wybodus nag i fagu ynddynt ysbryd crefyddol a chwaeth lenyddol; ond nid yw llyfrau addysgiadol o'r fath yma, pa mor hylaw ac angenrheidiol bynnag y byddont, ddim yn rhan o lenyddiaeth. Nid adeilwaith ydynt hwy, eithr defnyddiau i wneuthur adeilwaith. Y mae'n dda gennyf weled cynifer o aelodau'r Ysgolion Sul yn darllen llyfrau addysgol, ond fe fyddai'n well gennyf o'r ddau eu gweled yn darllen llyfrau llenyddol, am fod i'r rhain, yn enwedig os byddant yn grefyddol hefyd, fwy o ddylanwad ar yr holl ddyn.
Yr wyf felly yn eich annog i ddarllen y llyfrau Cymraeg a enwyd, nid am fy mod yn meddwl y cewch ynddynt hwy gymaint o wybodaeth ag a gewch mewn llyfrau diweddarach, eithr am fy mod yn credu eu bod yn llyfrau manteisiol i fagu ynoch ysbryd defosiynol a chwaeth lenyddol. Beth bynnag yw eu diffygion, y maent wedi eu hysgrifennu mewn arddull sy'n debycach i arddull urddasol y Beibl, sef yr arddull sy'n gweddu orau i'r pulpud, a'r arddull sy'n debycaf i barhau mewn bri. Gan na fuwyd hyd yn hyn yn dysgu'r Gymraeg yn ysgolion ein gwlad, nid yw'r Cymry yn rhoi cymaint o bwys ar iaith ac arddull ag a ddyry cenhedloedd eraill; ond y mae arwyddion pur amlwg y rhoddir mwy o bwys arnynt o hyn allan. Pa un bynnag ai byr ai hir fydd oes y Gymraeg, pa un bynnag a ddysgir hi'n lled gyffredinol yn ysgolion ein gwlad ai ni wneir,[9] y mae'n sicr fod mwy o blant ac ieuenctid yn ei hastudio yn awr nag a fu yn ei hastudio er ys talm hir o amser; ac am hynny, y mae'n ddoeth ichwi ofalu na fyddo'r dosbarth gorau o'ch gwrandawyr yn yr amser a ddaw ddim yn medru'r Gymraeg yn well na chwi, rhag ofn iddynt eich diystyru a'ch gadael. Yn hyn, fel ym mhopeth arall, ymbaratowch yn hytrach ar gyfer y genhedlaeth sy'n dyfod nag ar gyfer y genhedlaeth sy'n myned ymaith; ac os mynnwch fod yn bregethwyr poblogaidd, boed yn well gennych fod yn boblogaidd yn ddeg a thrigain oed nag yn bum mlwydd ar hugain; canys nid oes dim i'w ofni'n fwy na bod yn fach yn hen ar ôl bod yn fawr yn ieuanc. Wrth ymgoethi ar gyfer dosbarth coethaf, mewn oes a ddichon fod yn goethach na'r oes hon, nid wyf yn credu y'ch gwnewch eich hunain yn bregethwyr mwy anghymeradwy gan y dosbarth cyffredin. Os nad yw gwrandawyr cyffredin yn gallu prisio iaith helaeth (copious), y maent hwythau yr un ffunud â'r rhai dysgedig yn prisio iaith olau ac ystwyth. Hyd yn oed yng Nghymru, y pregethwyr a chwiliodd am eiriau cymeradwy fu meistriaid y gynulleidfa; o leiaf, hwynt-hwy a barhaodd i fod yn feistriaid y gynulleidfa dros hir amser. Y mae hyn yn fwy gwir fyth am bregethwyr gwledydd eraill. Yr oedd Bourdaloue, Massillon, a Bossuet, yn bregethwyr mwy cymeradwy na phregethwyr eraill am eu bod yn fwy o lenorion na hwynt; ac am eu bod yn llenorion, y maent, er wedi marw, yn llefaru eto trwy eu pregethau argraffedig.
Y mae'n debygol mai yn Gymraeg y mae ac y bydd y rhan fwyaf ohonoch chwi yn pregethu yn gyffredin, ac na all rhai ohonoch obeithio rhagori byth wrth bregethu mewn un iaith arall. Am hynny, y mae dyled grefyddol arnoch chwi i wneud y Gymraeg yn offeryn i ddiwyllio'ch meddwl eich hunain, ac yn gyfrwng cymwys i drosglwyddo'ch meddyliau a'ch teimladau i eraill. Fel y galloch wneud hynny, yr wyf yn eich annog i ddarllen cryn lawer ar lenyddiaeth grefyddol ein hen dadau. Prin y rhaid imi ddweud na fynnwn ichwi ymfoddloni ar ddarllen llyfrau Cymraeg yn unig: yn hytrach, mi a'ch cynghorwn i beidio â brysio fyned yn fugeiliaid i leoedd poblog, eithr i ddewis yn hytrach leoedd bychain, gwledig, fel y caffoch hamdden ym mlynyddoedd cyntaf eich gweinidogaeth i ddarllen y llyfrau hynny a gyfrifir yn oreuon y byd. Ar ôl gadael y Bala, na chefnwch am byth ar Platon, Aristotel, a Tacit; canys y mae'n wiw darllen y rhain drachefn a thrachefn mewn rhyw iaith neu'i gilydd. Na fydded y llyfrau ar eich silffoedd yn rhy Biwritanaidd, na hyd yn oed yn ddiwinyddol i gyd; canys yn y dyddiau hyn fe ddisgwylir i bregethwr fod yn nesaf peth i hollwybodol. Darllenwch lyfrau'r Ellmyn er mwyn helaethu'ch gwybodaeth, llyfrau'r Ffrancwyr er mwyn dysgu iawn-drefnu'ch gwybodaeth, llyfrau'r Saeson er mwyn dysgu cymhwyso'ch gwybodaeth, a llyfrau'r hen Gymry er mwyn gallu ohonoch gyfrannu'ch gwybodaeth mewn dull Cymreig i'ch cydwladwyr.
Yn iach, frodyr ieuainc, a bendith a'ch canlyno chwi a'ch athrawon.
GWERSI I SGRIFENWYR A SIARADWYR IEUAINC
ANNWYL DDISGYBLION,
Talm o amser yn ôl dinoethais a chywirais liaws o ymadroddion anghymreigaidd a welswn ac a glywswn. Ag arddull yr ymdriniaf ychydig y waith hon.
Gwybyddwch y dichon i'ch arddull fod yn wrthun, er i'ch geiriau fod yn gymeradwy, ac er i'ch ymadroddion fod yn Gymreigaidd. Ni chanmolwn nemor arnoch pe dywedwn yn unig fod gennych Gymraeg da, neu Saesneg da; am fod yn hawdd cael hyd i eiriau a phriodebion mewn geiriadur a gramadeg. Ond rhown glod mawr ichwi pe dywedwn fod gennych arddull da; canys byddwn wrth hynny yn rhoi ar ddeall fod gennych ragoriaethau meddyliol cynhenid a chyraeddedig, nad ŷnt gan y rhan fwyaf. Pan na bo iaith ddim ond math o wisg symudliw o amgylch rhith o feddwl, nid cymwys ei galw'n arddull. Rhaid iddi fod yn hytrach megis corff, sy'n cyd-hanfod, yn cyd-fod, yn cyd-dyfu, ac yn cyd-oberu â'r enaid. Yn wir, bu Buffon yn hyfach na Wordsworth, canys dywedodd, "Y dull, y dyn yw."
Gall llawer sgrifennu'n dlws heb fod ganddynt ddim arddull. Yn wir, y mae tlysni, oni bydd yn dlysni tra rhagorol, yn cau allan bob neilltuolrwydd. Fel nad yw wyneb teg odid byth yn wyneb hynod, ac nad yw dyn hawddgar gan bawb odid byth yn ddyn ar ei ben ei hun, felly hefyd nid yw sgrifennwr tlws odid byth yn un ag arddull ganddo. Nid yn y lliw a rodder ar feddyliau, eithr yn eu lluniad, eu cyflead, a'u cymhlethiad, y canfyddir arddull awdur. Genir rhai i saernïo, ac eraill i addurno: ac y mae'r lliwiwr, ysywaeth, yn tynnu mwy o sylw na'r lluniwr. Y mae arddull yn sefyll yn hytrach ar nawd neu anian dyn nag ar ei allu, ac felly yn dyfod yn hytrach o'i galon nag o'i ben. Yr oedd Charles o'r Bala yn sgrifennwr golau, a gweddol gywir hefyd, er gwaethaf ei aw-iau yn rhagymadrawdd," canawl," "párawd," agaws, diwigiaw," etc.; ond nid oedd ganddo arddull, a hynny o achos nad oedd dim hynodrwydd yn ei gymeriad ef.[10] Ond y mae gan yr hen Charles Edwards arddull, ac y mae gan Morgan Llwyd hefyd un; yn wir, y mae pob un o'n prif awduron mor nodedig am ei arddull ag ydyw am ei Gymraeg. Y mae gan y Ffrancwyr fwy o sgrifenwyr medrus nag sy gan un genedl arall; er hynny, gan ychydig ohonynt y mae arddull, a hynny am fod i'w hiaith hwy arddull. Po fwyaf diarddull y bo iaith gwlad, hawsaf oll yw i bobl y wlad honno sgrifennu mewn arddull neilltuol. Diolchodd un awdur Ellmynig am fod yr Ellmyneg heb arddull ("Die Deutsche Sprache hat der Himmel sei dafür gepriesen-keinen Styl, sondern alle mögliche Freiheit"). Y mae'n rhyfedd na fyddai gan chwaneg o sgrifenwyr Cymraeg arddull, a'u hiaith hwythau mor ddiarddull: ac nid oes achos iddynt hwy, fel Carlyle, redeg yn y gwddf i amau eu hiaith, a throseddu ei rheolau, er mwyn sgrifennu'n wahanol i'w cydwladwyr, ac yn debyg i ryw Richter estronol. Yn wir, y rhai sy'n cadw deddfau'r Gymraeg fanylaf sy'n sgrifennu ryddaf, a hwynt-hwy sy'n sgrifennu annhebycaf i'w gilydd. Y mae i'r Saesneg hefyd ei harddull, er nad i'r un mesur â'r Ffrangeg. Iaith unffurf, anhyblyg yw hithau; ac y mae'n rhyfedd pa fodd y medrodd Shakespeare ac ychydig eraill ystumio digon arni i'w chymhwyso i fynegi eu meddyliau a'u teimladau. Y mae chwaredau'r Sais Shakespeare, a llythyrau'r Ffrancwr Pascal, yn profi bod awen (genius) yn gallu gorfod ar waelder iaith. Pa orchest a wnâi Cymro pe buasai ganddo feddwl un o'r ddau hyn? Neu pa orchest a wnâi'r ddau hyn pe buasai ganddynt iaith ystwyth o fath y Sbaeneg, yr Italeg, yr Ellmyneg, neu'r Gymraeg? "Y Gymraeg!" meddwch. Ie, y Gymraeg; canys gellir profi, cyn hawsed ag y gellir profi y gwna dau a dau bedwar, ei bod hi, o ran ystwythder, yn rhagori ar y tair iaith a enwais gyda hi. Ac os y hi ydyw'r iaith ystwythaf o'r ieithoedd gwybyddus, yna y hi ydyw'r iaith fanylaf—yng ngenau meddyliwr manwl, bid sicr; canys y mae manylder yn cydfyned ag ystwythder, ie, yn gorffwys arno.
Gan fy mod yn addysgu megis mewn dosbarth, ac nid mewn cynulleidfa, y mae'n rhydd imi wyro ychydig ymhellach oddi ar ganol fy llwybr, er mwyn gwneud y sylw ymarferol hwn:—Wrth ystyried teithi'r Gymraeg, a theithi meddwl y rhai sy'n ei siarad, yr wyf yn credu y byddai'n haws i'r Cymry ragori fel athronyddion nag fel beirdd. Ond rhaid addef bod un peth yn ôl iddynt tuag at fod yn athronyddion gwych, sef y gallu i gymryd poen. Felly, er mwyn ymenwogi, heb boen a heb ddysg, y maent hwy yn myned yn feirdd, neu'n hytrach yn brydyddion, gan ganu i'w cariadon ac i'r lleuad! Ceisiodd Henry Taine yn ei Littérature Anglaise ddangos paham na fagodd y Saeson neb o'r math hwnnw o athronyddion yr ydys yn eu galw'n fetaffysegwyr. Diau mai'r rheswm a roes ef ydyw'r un cryfaf; ond nid rheswm gwan fuasai hyn chwaith, sef nad yw iaith y Saeson ddim yn ddigon manwl i alluogi dyn i draethu, na hyd yn oed i synio'n olau, am y pethau a alwai'r hen Gymry yn el ac elf. Ond nid yw'r diffyg hwnnw ar y Gymraeg, pa ddiffyg bynnag arall a fo arni.
Dychwelaf yn awr at y peth y gwyrais oddi wrtho. Y mae arddull da o ran yn ddawn, ac o ran yn gaffaeliad. Dir yw fod llawer math o arddull da; canys bydd pobl yn sôn am arddull Junius, arddull Swift, arddull Bunyan, ac arddull Hooker. Er hynny, y mae rhai teithi cyffredinol y sy'n gweddu i bob math o arddull, megis coethder, manylder, eglurder, priodoldeb, a naturioldeb. Y mae rheolau gramadeg yn neilltuol ac yn bendant, ac am hynny yn hawdd eu hamgyffred a'u cadw; ond ni ellir amgyffred rheolau chwaeth heb feddu chwaeth. O ba herwydd, y mae'n anodd mynegi'n benodol pa fodd y gellwch fod yn goeth, neu'n briodol, neu'n naturiol eich arddull. Bydd y cyngor hwn, ond odid, yn fuddiolach na rheol i chwi y sy'n ieuanc:—Dyfal ddarllenwch yr hen sgrifeniadau gorau yn eich iaith eich hun ac yn yr iaith Saesneg; ac os medrwch ddysgu'r Ffrangeg mor rhwydd ag y medr ambell goegyn o Gymro anghofio'i Gymraeg, yna cymdeithaswch â Pascal a Paul-Louis Courier; canys hwynt—hwy, ym marn gwŷr cyfarwydd, ydyw'r arddullwyr gorau o bawb yn yr oesoedd diwethaf. Dylwn eich rhybuddio y byddwch yn fwy anfoddog nag erioed ar ôl gwneud fy nghyngor; canys bydd yn flin gennych ddarllen a gwrando llawer o bethau yr ŷch yn ymhyfrydu ynddynt ar hyn o bryd.
Mi enwais symledd a chrynoder ymhlith yr ansoddau sy'n perthyn i arddull da, am fy mod yn bwrw bod pob un o'r rhai a enwais yn cynnwys y ddau hyn, ac yn cau allan bob peth gwrthwyneb iddynt. Er enghraifft, ni ddichon dim fod yn goeth, nac yn briodol, nac yn naturiol, oni bydd hefyd yn syml ac yn gryno. Ond y mae'n fwy angenrheidiol ichwi fod yn gryno—yn awgrymus, o'r hyn lleiaf—wrth sgrifennu nag wrth lefaru. Ped ymdrown i ddywedyd paham, fe beidiwn â bod yn awgrymus fy hun. Os dyfalasoch fy rhesymau, nid wyf yn neidio dim wrth ddyfod i'r casgliad hwn: sef mai ychydig o bethau ar a baratowyd i'w gwrando sy'n deilwng i'w darllen. Dichon y daw amser pryd y medr gwrandawyr eich deall yn llefaru mewn awgrymau a thrwy amneidiau, ac y bydd yn ddiogel i chwithau redeg at y Therefore heb aros gyda'r In-as-much.
Cyffyrddaf—a chyffwrdd yn unig a wnaf—â rhai o'r anhepgorion a enwais. Na fydded i chwi a wneloch â'r naturioldeb isel y sy'n taro'n erbyn coethder. Ni ddylech ddilyn natur ond yn unig lle bo natur yn haeddu ei dilyn. Credwch na fedrwch wneud dim yn berffaith naturiol heb ei lwyr ddysgu, canys nid chwarae â geiriau y byddaf wrth ddywedyd nad oes dim yn fwy naturiol i ddyn na bod yn annaturiol.
Mewn priodoldeb, ysgatfydd, yr ŷch yn pallu fwyaf; am hynny, edrychwch yn ddyfal ar fod mynegiad pob meddwl yn gwbl gyfaddas i'r cyfryw feddwl. Na thraethwch feddyliau ychyd yn iaith nwyfus John Wilson neu Kilsby Jones. Os mynnwch wybod a oes gwerth mewn rhyw feddwl, mynegwch ef yn yr iaith fwyaf diaddurn. Os na bydd pryd na thegwch iddo yn noethlymun, nid gwiw fydd ei addurno â blodau ac â rhubanau. Nac arferwch ddau neu chwaneg o gydenwau (adjectives) gogyfystyr—na chymaint ag un, oni bydd yn rhaid wrtho. Diffyg chwaeth, a phrinder geiriau, ydyw'r achos bod dynion yn arferyd gormod o eiriau; canys o fethu â dyfod o hyd i'r unig air cymwys, bydd gorfod arnynt ymfoddloni ar amryw o eiriau anghymwys. Na'ch temtier chwaith i bentyrru cyffelybiaethau, megis "cof fel uffern," "safn fel dôr dragwyddoldeb," "yn ddiffaith a digysgod fel traeth y tragwyddol fyd." Nid yw "feliau" o'r fath yn ddim amgen na chydenwau a goreiriau gorgryf i guddio gwendid meddyliol. Nid rhaid wrth ddim awen i lunio cant ohonynt mewn munud awr.
Heblaw hynny, fe'ch ceidw'r teimlad o briodoldeb rhag arferyd y cast hwn: sef traws-gyfleu geiriau heb achos, a heb ddiben amgenach na gyrru syndod ar annoethion. Gellwch fod yn "ddoniol" odiaeth heb alw'r Werddon yn " Werdd Ynys," a byd arall yn "arall fyd."
Dylai pob gair a arferoch fod fel saeth a ollynger oddi ar fwa un celfydd, ac nid yn farcutan papur a gyhwfaner yn yr awyr i ddifyrru plant. Y mae grym yn y gair a ddyweder i berwyl, pa un bynnag ai o'r nef ai o'r ddaear y byddo; canys "efe a wna yr hyn a fynnoch, ac a lwydda yn y peth yr anfonasoch ef o'i blegid."
PLICIO GWALLT YR HANNER CYMRY
(TALFYRIWYD)
A'u plant hwy oedd yn llefaru y naill hanner o'r Asdodeg, ac heb fedru ymddiddan yn iaith yr Iddewon, ond yn ôl tafodiaith y ddeubar bobl. Yna yr ymrysonais â hwynt, ac y melltithiais hwynt; tarewais hefyd rai ohonynt, ac a bliciais eu gwallt hwynt. —Neh. xiii. 24 a 25.
Yng ngolwg llenor, y mae'r drwg a wnaeth sectyddiaeth i lenoriaeth Cymru yn fwy na'r drwg a wnaeth hi i grefydd a gwladoldeb, am ei bod hi, trwy lygru iaith y Cymry, wedi llygru eu chwaeth hefyd, ac anafu eu deall; ac felly eu rhwystro i ragori mewn dim. Y mae'r hen iaith Gymraeg, sydd eto'n fyw yng nghilfachau'r mynyddoedd, yn dysgu'r rhai sy'n ei siarad i feddwl yn fanwl heb beidio â bod yn hoyw; ond am yr iaith Gymraeg newydd, a sgrifennir gan salw lu y mân gyfieithwyr, nid yw honno dda i ddim ond i gadw'r mân gyfieithwyr yn ddiddos, ac i ddwyn tipyn o elw i'w meistriaid. "Oes y byd i'r iaith Gymraeg," medd beirdd mwyaf cwrw-garol yr Eisteddfod. Ie, ond fe fynnai gwŷr mwy athronyddol eu meddwl wybod pa Gymraeg a olyga'r beirdd hynny. Ai Cymraeg rhai ohonynt hwy eu hunain, ai ynteu Cymraeg Cymreigaidd eu teidiau? Os eu Cymraeg hwy eu hunain, yna, meddaf i, trenged y Gymraeg gyda'r genhedlaeth hon. Er y bûm i, trwy eiriau teg a geiriau tost, yn annog y Cymry i lynu wrth eu hiaith, pan oedd agos pawb o'r rhai a dybid eu bod yn benaethiaid y bobl yn proffwydo—ie, yn dymuno—ei thranc buan, eto nid euthum yn rhy ragfarnllyd i addef y buasai'n well gennyf, o'r ddau, weled fy nghydwladwyr yn arfer Saesneg gwych na Chymraeg gwael. Ac nid wyf chwaith yn rhy ragfarnllyd i addef yr awr hon eto, mai yn nhŷ ei charedigion yr archollwyd ac y llurguniwyd yr hen Gymraeg mor echryslon. Pan amlhaodd yr ymbleidiau crefyddol yng Nghymru, yr oedd yn rhaid iddynt gael rhyw fath o gewri i'w harwain i ryfel yn erbyn ei gilydd. Ac yn y dyddiau hynny, cawr y gelwid pob corrach a safai dipyn yn uwch, ac a allai ddifenwi'n fwy haerllug na'i gyd—gorachod. Am hynny y cynhyrfwyd llawer o lafurwyr annysgedig gan ryw ysbryd neu'i gilydd i droi eu pladuriau yn gyllellau papur, a'u sychau yn binnau ysgrifennu. "Alexander y gof copr a wnaeth i mi ddrygau lawer," ebe Paul; felly, yr un modd, pan ymwthiodd gofaint a chryddion, seiri maen, seiri coed, a seiri clobos Ymneilltuol i gadeiriau hen Gymreigwyr trylen Eglwys Loegr ac Eglwys Rufain y dechreuwyd gwneud i'r Gymraeg y drwg sydd erbyn hyn, gobeithio, wedi cyrraedd ei eithaf. Yn Hanes Llenyddiaeth Gymreig, fe ddywed Gweirydd ap Rhys, ar ôl rhoi enghreifftiau helaeth o chwedlau Bown o Hamtwn ac Amlyn ac Amic:
Dyna ddigon, a gormod hefyd gan rai, ond odid, o'r sothach coelgrefyddol ac anwireddus yna; ond gwasanaetha i ddangos â pha fath lenyddiaeth ac addysg bwdr y porthid ein hynafiaid gan yr offeiriaid Pabaidd twyllodrus; a dylai [ni ddangosir trwy enw na rhagenw pa beth a ddylai] ein llenwi â diolchgarwch diffuant am y cyfnewidiad dymunol. etc...etc,
(tud. 77).
Y mae'n chwith gweled teimlad gwrthgatholig hanesydd mor ddiwyd yn gorfod mor fynych ar ei farn lenorol, a hyd yn oed ar ei deimlad cenedlgarol; canys y mae'n ymddangos na fyn ef ddim cyfrif yr "offeiriaid Pabaidd " ymhlith "ein hynafiaid." Diau fod chwedlau bwganod Gweirydd, fel pob chwedlau, yn ddigon anwireddus, a'u haddysg ond odid weithiau'n bwdr; er hynny, nid sothach mohonynt, ond llenyddiaeth o'r fath uchaf, ac o ran dychymyg, iaith, ac arddull, nid oes gennym ddim yn yr oes hon i'w gystadlu â hwynt. Onid yw Hanes y Ffydd gan yr Eglwyswr Efengylaidd, Charles Edwards, mor anwireddus, yn ôl ei faint, â Hanes y Merthyron gan Fox? Beth er hynny? Y mae'r llyfr yn werthfawr gan bob llenor Cymraeg. Nid gweddus i Brotestaniaid edliw i Gatholigion eu celwyddau; canys fe eddyf Dr. Chillingworth, un o bencampwyr Protestaniaeth, fod yr achos Protestannaidd yn cael ei gynnal yn awr, ac wedi ei gynnal o'r dechreuad, gan wrthun gelwyddau ac enllibiau, o'r hyn y mae eu prif ysgrifenwyr dadleuol yn euog mewn modd hynodol." Hyn, debygaf i, ydyw'r unig wahaniaeth rhwng yr hen chwedlyddion Catholig a'r rhai Protestannaidd, sef bod y Catholigion yn llunio eu celwyddau yn fwy celfydd, ac yn eu hadrodd yn fwy swynol na'r Protestaniaid. Ysbryd gwerinaidd yr Ymneilltuwyr mewn materion eglwysig a gwladwriaethol sy'n eu gwneud mor gyffredin; a'u gwrthwynebrwydd dirmygus i'r hyn sy brydferth a lluniaidd sy'n gwneud eu llyfrau mor anniddorol i'r llenor, a'u teisi gwair o gapelau mor anniddorol i'r galofydd (architect). Ond y maent yn ymwellhau'n gyflym, a hynny trwy fod gwybodaeth helaethach yn eu dysgu hwynt i edmygu'r hyn yr oeddynt gynt yn ei ddirmygu.
Diau y buasai'r sothach dadleuol yr esgorodd sectyddiaeth arno wedi marw yn yr esgoreddfa, a myned i ffordd yr holl bapur, oni buasai fod teimlad perthynasol y fam a'r holl deulu yn eu cymell hwynt i arfer pob moddion i'w gadw'n fyw. Rhaid yw i sect gael rhywbeth a gamenwir yn llenoriaeth cyn bod ganddi gymaint ag un llenor; a hyn, meddaf eto, ydyw gwreiddyn y drwg.
Er bod gan y sectau fwy o wŷr dysgedig yn awr nag a fu ganddynt o'r blaen er dyddiau tadau cyntaf y Methodistiaid, eto ychydig iawn iawn sy ganddynt o ddynion digon diwylliedig i allu sgrifennu Cymraeg yn weddol goeth. Gan fod rhai ohonynt yn B.A.-od, yn M.A.-od, ac yn D.D.-od, rhaid credu y buont mewn rhyw fangor neu'i gilydd, yn astudio deddfau rhesymeg, os na buont yn astudio deddfau'r Gymraeg; ond ni feddyliai neb mo hynny wrth chwilio a chwalu eu brawddegau; ac oherwydd hyn, y mae'n anodd i ambell lenor gwladaidd beidio â gofyn i ba beth y mae addysg athrofaol yn dda, os nad yw hi'n coethi'r meddwl. Mi a adwaen ychydig ohonynt a allai'n wir fyned yn burion trwy arholiad mewn gramadeg, na allent er hynny, naill ai o eisiau dawn naturiol, neu ynteu o eisiau cynefindra â'r sgrifeniadau gorau, ddim ysgrifennu llythyr Cymraeg yn gystal ag y gall llawer tramorwr. Ond nid am hyn yn gymaint yr wyf i'n beio arnynt, ond am eu hyfdra yn cyhoeddi eu Cymraeg gwael cyn ymdrafferthu i ddysgu Cymraeg gwell. Os na fynnant drugarhau wrthynt eu hunain, dylent drugarhau wrth eraill. Hybarch beriglor marchog penchwiban La Mancha, a fynnit ti losgi eu hysgrifeniadau i gyd? I gyd, i gyd, a chwaneg hefyd.
Y mae rhai, nad ydynt na Solomoniaid na Miltwniaid, cystal â dweud fel esgus fod y Gymraeg yn iaith rhy dlawd i arddangos y meddyliau mawreddig a'r teimladau dyfnion sy'n ymweithio ynddynt hwy, a bod yn rhaid iddynt gan hynny, er mwyn cyfrannu eu cyfoeth i'r byd, fenthyca lliaws o eiriau a phriodebion Saesneg. O! druain; y chwi sy'n dlawd. Y mae'r Gymraeg mor oludog o eiriau ac ymadroddion fel mai dewis ac nid dyfeisio ydyw anhawstra mawr y rhai sy'n ei medru. Tybed eich bod mor fawr ag yr ydych chwi eich hunain yn meddwl eich bod? Ie, tybed eich bod mor fach ag y mae eraill yn meddwl eich bod? Credu yr ydwyf i mai diogi a diofalwch ydyw eich beiau pennaf. Pan fyddwch yn troi rhywbeth o'r Gymraeg i'r Saesneg, byddwch yn ymdrafferthu i chwilio Gramadegau a Geiriaduron a Mynegiaduron; a chywilyddus fyddai gennych droi "ar ei ben ei hun" yn on his own head. Ond yr ydych yn tybied ei bod yn rhydd ichwi wneud fel y mynnoch â'ch iaith briod, fel y dengys yr enghreifftiau a roddaf ymhellach ymlaen. Y mae yn y Dywysogaeth ar hyn o bryd dri math o Gymraeg, sef (1) Cymraeg darllenwyr y Beibl a'r hen lyfrau, (2) Cymraeg darllenwyr y newyddiaduron a llyfrau diweddar, ac yn (3) Cymraeg Wesleaidd, sydd yn fath o Gymraeg "gneud," ac yn bur wahanol ei sŵn a'i sylwedd i Gymraeg cyffredin. Pan oeddwn yn fachgen, mi a feddyliwn mai rhyw iaith gyfrin o fath ffregod yr Aifftwys a'r Seiri Rhyddion oedd y Cymraeg hwn,[11] a'i fod wedi ei arfaethu i guddio athrawiaethau Mr. Wesley oddi wrth y byd (Cymreig) deallus, a'u datguddio i'r rhai bychain etholedig. Ond pan euthum yn ŵr, deellais nad oedd y brodyr Wesleaidd ddim yn credu eu bod hwy na neb arall wedi eu hethol yn ddiamodol; eu bod hwy yn anad un cyfundeb arall â'u hwyneb tuag at y byd, yn bawb ac yn bopeth, ac na buasai ddim yn waeth ganddynt pe buasai holl Galfiniaid Cymru yn deall ac yn derbyn eu hathrawiaethau—tan yr amod eu bod yn dysgu eu Cymraeg gwneuthur. Fe ddywedir wrthyf i fod siaradwyr y Cymraeg hwn yn deall ei gilydd yn rhyfedd iawn; neu o'r hyn lleiaf yn meddwl eu bod; ond gan nad wyf i yn eu deall, ni chynigiaf droi'r enghreifftiau a yrrwyd imi o'u Cymraeg hwy i Gymraeg cynefin. Y mae'n dda gennyf dystiolaethu bod y Cymraeg hwn yn darfod o'r tir fel y mae dynion yn myned yn gallach ac yn ddysgedicach. Heblaw hynny, y mae gorfod i bobl yn y dyddiau hyn fod mor brysur fel y mae cyn gased ganddynt roddi amser i ymegnïo i ddysgu Cymraeg gwael ag i ymegnïo i ddysgu Cymraeg gwych. Y maent yn teimlo y gallant siarad ac ysgrifennu'n llawn digon gwrthun heb geisio.
Am Gymraeg y rhan fwyaf o'r newyddiaduron, yr wyf wedi llwyddo erbyn hyn i'w ddeall yn burion, ac os myn y cyffredin hefyd ddysgu ddeall mewn agos cyn lleied o amser ag a fyddai'n angenrheidiol iddynt i ddehongli'r Gododdin, mi a ddangosaf iddynt y ffordd:—Yn gyntaf oll, tynner allan yr holl eiriau llanw a'r holl ymadroddion chwyddedig; ac os bydd ar ôl hynny ryw nifer o eiriau'n aros ar y papur, troer hwynt o air i air, ac o sillaf i sillaf, i'r Saesneg. Hyn heb newid dim ar drefn y geiriau a wna Saesneg gweddol. Yna troer yr ymadroddion drachefn i'r Gymraeg yn ôl deddfau ac anian yr iaith. Fe welir oddi wrth hyn mai'r cwbl sy'n angenrheidiol tuag at ddeall Cymraeg newyddiadurol ydyw amser, amynedd, a gwybodaeth o'r Saesneg.
Rhaid addef bod ein Geiriaduron yn gyfrifol am lawer o'r geiriau anferth a arferir yn y newyddiaduron Cymraeg. Heb grybwyll am yr enghreifftiau gwrthunaf, megis "cerbydres," "tanysgrifres," restr tanysgrifiadau," onid cyfieithiad clogyrnaidd o eiriau, o sillaf i sillaf, yn hytrach na geirlun neu Gymreigiad o'r pethau a ddynodant, ydyw'r rhan fwyaf o'r enwau swyddol a geir yn y geiriaduron hynny? A phan arferer gair cyffredin, y mae'n anodd dirnad paham yr arferir hwnnw yn hytrach na gair cyffredin arall mwy penodol a mwy perthnasol. Paham, er enghraifft, y cyfieithir ministry, yn ei ystyr gwladwriaethol, yn "weinyddiaeth," a ministers, yn yr un ystyr, yn "weinidogion"? Onid cysonach fyddai galw aelodau'r weinyddiaeth yn weinyddion? A phe gwneid hynny, anfynych y byddai raid amlhau geiriau i wahaniaethu rhwng "gweinidogion y wladwriaeth a gweinidogion y Gair. Ac yn lle manwl gyfieithu yr hen enwau amrosgo sydd ar swyddau'r gwahanol weinyddion, oni byddai'n well dynodi eu swyddau ag enwau mwy syml a phenodol, megis Gweinydd y Cyllidau, yn lle Canghellydd y Trysorlys"; Gweinydd Masnach, yn lle "Llywydd y Bwrdd Masnach"; a Gweinydd y Llynges, yn lle "Prif Arglwydd y Morlys "? Y mae'r enwau hyn yn gymaint haws i'w deall, i'w cofio, ac i'w llefaru, fel y perid hwylustod i laweroedd, ac na pherid rhwystr i neb, ped arferid hwynt yn lle'r rhai arferol. Y mae gennyf i bob dyledus barch i hen arfer gyffredinol, ond nid i arfer ddrwg nad yw hi na hen na chyffredinol.
Ond beiau dybryd yn erbyn anian yr iaith ymhob cyfnod arni, ac nid beiau maddeuadwy y gellir dwyn drostynt awdurdod geiriaduron a gramadegau diweddar, yr wyf yn bwriadu eu dinoethi a'u cywiro, canys nid gwiw ymdroi i hidlo gwybed pan fo cymaint o lyncu camelod. . .
I gyfeillion y mae gorfod arnynt wrth eu swydd ddarllen papureuach a llyfreuach diweddar y mae arnaf ddiolch am gasglu'r rhan fwyaf o'r ymadroddion yr ydys yn eu cywiro. Y mae rhai ohonynt mor wrthun fel y'm sarhawn fy hun, a darllenwyr "Y "GENINEN"" hefyd, pe gwnawn fwy na'u cyhoeddi er mwyn peri syndod. Cymerer y rhai hyn yn enghreifftiau:
Yr oedd [ef] wedi dweud y gallai gwrthryfel fod yn gyfiawnhaol mewn achos tebygol o ormes. I atal yn y dyfodol ychwanegiad o anghenraid o gapelau.
Addefai y diffynnydd iddi gyhoeddi yr athrod haeredig, ond pleidiai gyfiawnhad.
Y datblygiad diweddaf yn ngwaith y gymdeithas hon ydyw sefydliad clwb.
Y mae Mr. Jones yn edrych arno ei hun fel math o ferthyr argyhoeddiadau cydwybodol parthed y cwestiwn duwinyddol o dragywyddol gosb.
Bu gweinidog yr eglwys yn foddion trosglwyddiad dymuniad i Mr. Jones am iddo ar unwaith ymddiswyddo.
Un o'r pethau mwyaf eithafol ddigywilydd a digydwybod.
Polisi y parti ddylai fod. . .
Yr ydym yn llafurio dan anhawster.
"Y mae gennym lawer o broblems i'w solvio—Oes, y mae, ond ystyriwch, fy nyn bach i, ei bod yn anos "solvio problems" hyd yn oed, na throi'r ddau air i'r Gymraeg.
Efallai fod ychydig o'r ymadroddion sydd isod bron cyn wrthuned â'r rhai sydd uchod; ond gan fy mod yn tybied nad ydynt hwy mor anarferol, y mae mwy o reswm am eu cywiro. Er mwyn cyfleustra yr wyf yn dosbarthu'r holl eiriau a'r ymadroddion sydd yn awr o'm blaen o dan wahanol bennau a fwriedir i ddangos y bai amlycaf sydd ar bob enghraifft, ac nid pob bai. Canys mi a gymerwn fwy na'm rhan o'r "GENINEN" pe gosodwn frawddeg ag arni chwaneg nag un bai o dan chwaneg nag un pen.
1.—Rhoi enwau Saesneg, neu ynteu Seisnigaidd, ar leoedd Cymreig a lleoedd, etc., tramorol, megis:
Bridgend yn lle Pen y Bont; Menai Bridge yn lle Porth Aethwy; Greenfield yn lle Maes Glas; South Stack yn lle Ynys Lawd; Skerries yn lle Moelrhon; Ponkey yn lle y Ponciau; Ruabon yn lle Rhiwabon; Spire a Rhine yn lle'r ffurfiau Ellmyneg a mwy Cymreigaidd, Speier a Rhein; Danube yn lle Donaw; yr Appennines yn lle'r Apeninnau; Crete yn lle Creta; Belgium yn lle Belg; Norway yn lle Norwy.
2.—Cyfuno geiriau gwahanol, ac felly roi achos i'r Saeson ac i Gymry dynwaredol gamgyfleu'r acen, megis:
Penybont (a seinir gan lawer yn Penni-bont) yn lle Pen y Bont,[12] neu Ben-y-bont; Cwmyglo yn lle Cwm-y-glo; a channoedd o enwau eraill.
3.—Peidio ag arfer y cyfenw neilltuol y o flaen enw y bydd ef yn ei benodoli, ac yn newid ei ffurf, megis:
Rhyl, Rhiw, Fron, Groes, Foel, Goppa, Graig, Garn, Babell, Vaerdre, Borth, Garnedd, Bont Uchel, Waun, yn lle y Rhyl, y Fron, etc., etc.
4.—Esgeuluso newid cytseiniaid blaen ar ôl arddodiaid, megis:
o Bangor yn lle o Fangor; i Caernarfon yn lle i Gaernarfon; yn Dolgellau yn lle yn Nolgellau; trwy Conwy yn lle trwy Gonwy.
5.—Esgeuluso meddalu cytseiniaid blaen ar ôl berfau terfynol (finite verbs) ac ymadroddion rhagferfol ac eglurhaol, megis:
"Tywallta ar eu hysbrydoedd balm dy drugaredd" yn lle ". . . falm, etc."
"Cysura pawb sydd yn galaru " yn lle . . . bawb.
6.—Arfer terfyniadau amhriodol, megis:
Ieithyddwr, ieithyddwyr yn lle ieithydd, ieithyddion.
cyfarfyddodd ac adnabyddasai yn lle cyfarfu ac adnabuasai.
7.—Arfer geiriau amhriodol, megis:
Foneddigion a boneddigesau yn lle Foneddigion yn unig, am fod enwau ag iddynt y terfyniad —ion yn cynnwys y ddau ryw. Fe ellir sôn am foneddigesi pan fynner eu gwahaniaethu oddi wrth foneddigion gwryw.
Bonwr, bones, bonesau yn lle meistr, meistress, a miss.
Bonheddwr (nobleman) yn lle gŵr bonheddig (gentleman).
Tirddalwyr a taiddalwyr yn lle deiliaid tir a deiliaid tai.
Y cyhoedd yn lle pawb, neu y bobl, neu y cyffredin, neu ynteu y lliaws.
Tebygolrwydd (probability) yn lle tebygrwydd (likeness), ac weithiau tebygrwydd yn lle tebygolrwydd.
Presenoldeb meddwl yn lle parodrwydd meddwl, neu bwyll.
Papurau dyddiol' yn lle papurau beunyddiol.
Y mae digon o fynd ynddo yn lle . . . digon o ffrwt.
Yr wyf innau'n eilio'r cynigiad yn lle . . . cefnogi, etc."
Cymerwch eich siawns yn lle Cymerwch a ddelo, neu Deued arnoch a ddelo.
Y mae Barnes yn dywedyd i'r gwrthwyneb, yn lle . . . yn amgen.
Gobeithlu. Dyma air arall sy'n dyfod o gamsyniad am yr enw Saesneg Hope, nad yw amgen na Mr. Hope o Gaer Edin, sylfaenydd Cymdeithas Ddirwestol y Plant.
8.—Arfer geiriau estronol pan aller cael rhai Cymraeg, megis:
Highwater mark yn lle pen gorllanw; jointstock yn lle da cyd; impulsive yn lle ysgethrin; ergyd ricochet yn lle ergyd adlam; Jack of all trades yn lle Siôn bob swydd; cafodd relapse yn lle adglefychodd; yn ddiseremoni yn lle yn ddiymannerch; yn gorwedd in state yn lle . . . ar ei wely dangos; "y mae pressure lled fawr wedi ei ddwyn i weithredu arnynt," yn lle Bu cryn lawer o gymell arnynt; "y mae gan bob dyn ei hobby," yn lle . . . ei degan; "y mae ganddo interest mawr," yn lle Y mae ganddo fraich hir; "nid yw hyn yn fy line i," yn lle . . . fy ffordd i.
9.—Cyfieithu diarhebion Saesneg yn ôl y geiriau ac nid yn ôl yr ystyr, megis:
Gwneud rhinwedd o angenrheidrwydd," yn lle Cymryd cyngor gan angen, neu Droi rhaid yn rheswm.
"Cario glo i Newcastle," yn lle Dwyn dŵr dros afon, neu Iro blonhegen.
Gonestrwydd ydyw y policy gorau," yn lle Gorau callineb, cywirdeb; neu Ni lwydd a wneir drwy hoced.
"Y mae haelioni yn dechrau gartref," yn lle Nes elin nag arddwrn.
"Y mae gormod o gyfeillgarwch yn magu diystyrwch," yn lle Ni bydd rhybarch rhy gynefin. "Llawer o ddynion, llawer o feddyliau," yn lle Pawb a'i chwedl ganddo.
Rhoi'r cyfrwy ar y ceffyl iawn," yn lle Bwrw'r bai ar ei berchen.
10.—Arfer ymadroddion aneglur, megis:
"Carchariad Mr. Dillon a'r aelodau dros Gymru," yn lle Aelodau Seneddol Cymru a charchariad Mr. Dillon.
"Merched anffodus a thŷ annhrefnus" yn lle Puteiniaid a phuteindy.
"Cafodd hyd i'w feistr" yn lle Trawodd wrth ei drech.
"Dychrynodd y ceffylau" yn lle Dychrynodd ef y ceffylau, neu Fe ddychrynodd hyn y ceffylau. Mi allwn mewn ychydig iawn o amser gael hyd i gannoedd o ymadroddion mewn llyfrau diweddar sy'n amwys yn unig am nad oes rhagenw gyda'r ffurf ferfol a elwir er mwyn cyfleustra yn "drydydd person unigol."
11.—Arfer ymadroddion annestlus, megis:
Gwneuthur cais' a gwneud ymdrech yn lle ceisio ac ymdrechu.
"Gwnewch eich hun yn barod," yn lle Ymbaratowch.
"Dylent yn gyntaf eu gwneud eu hunain yn gymwys i'r swydd," yn lle . . . ymgymhwyso, etc.
Traddodi araith," yn lle areithio.
"Dyn wedi ei wisgo'n bur barchus," yn lle Dyn trwsiadus.
Anogodd ar fod yr holl amaethwyr yn cael eu galw ynghyd," yn lle Anogodd alw ynghyd yr holl amaethwyr.
"Yr wyf i'n hollol anghydnabyddus ag ef," yn lle Nid adwaen i mohono.
"Y mae'r cwestiwn wedi ei setlo yn yr Iwerddon er achlesiad anfesurol i amaethyddiaeth y wlad," yn lle Y mae'r pwnc wedi ei benderfynu yn Iwerddon, er dirfawr les i amaethyddiaeth y wlad honno.
"Y mae'n adlewyrchu cryn gredyd ar ei olygydd," yn lle Y mae'n peri (neu yn dwyn) clod nid bychan i'w olygydd.
"Y mae, fel yr awgrymwyd, y flwyddyn 1884 wedi esgor ar lawer o bethau," yn lle Fel yr awgrymwyd, fe ddigwyddodd llawer o bethau yn y flwyddyn 1884.
"Pasiwch yr halen" yn lle "Estynnwch yr halen."
"Yr oedd ei feistr yn ddyn o anianawd hynaws," yn lle Yr oedd ei feistr yn ŵr hynaws.
"Y mae'r gwleidyddwr hwn yn petruso rhwng y ddau barti," yn lle Y mae'r gwleidydd hwn yn bwhwman rhwng y ddwyblaid; neu yn nofio rhwng deuddwr.
Barnu ai a oedd yn bosibl iddynt ddyfod i gydwelediad," yn lle Barnu a allent hwy gytuno.
"Hi a dorrodd allan i nwyd fawr," yn lle Hi a frochodd.
"Nid oes gennyf i ddim i'w wneud ag ef," yn lle Nid oes a wnelwyf i ag ef.
Aeth y tân allan," yn lle Fe ddiffoddodd y tân. "Peidiwch â'ch gwneud eich hun mor ddieithr," yn lle Na fyddwch mor ddieithr.
"Y mae ef yn cario popeth i eithafion," yn lle Y mae ef yn eithafol ymhopeth.
"Dyma'r cyfraniad pwysicaf at orchwylion y cyfarfod," yn lle Dyma'r peth gorau a wnaed yn y cyfarfod.
"Y mae'n beth buddiol neilltuol i gael dyn ieuanc i actio ar ei orau," yn lle Gwych ydyw gweled dyn ieuanc yn gweithio â'i holl egni.
"Yr wyf yn meddwl mai'r cwrs gorau i mi ei gymryd " yn lle . . . mai gwell fyddai i mi.
"Y mae ef wedi syrthio mewn cariad â hi," yn lle Y mae hi wedi dwyn ei galon ef.
"Gofalwch am beidio â gwneud hynny," yn lle Edrychwch na wneloch chwi mo hynny.
'Hunan-ymwadu," yn lle Ymwadu.
"A chymryd yn ganiataol fod hynny yn wir," yn lle A bwrw (neu a rhoi) fod hynny'n wir.
"Y maent yn ddieithr i iaith a hanes y Cymry," yn lle Ni wyddant mo iaith na hanes y Cymry.
Eisteddodd i fyny wrth y tân trwy'r nos," yn lle Cadwodd ŵyl bentan.
12.—Arfer ymadroddion anghymreigaidd, megis:
"Y mae'n bleser mawr gennyf eich hysbysu," yn lle Y mae'n hyfryd iawn gennyf hysbysu ichwi. Begio y cwestiwn," yn lle Haeru peth cyn ei brofi.
"Y maent bob amser yn ei redeg ef i lawr," yn lle . . . yn lladd arno.
"Ni wnânt hwy ddirgelwch o'r mater," yn lle Nid ydynt hwy'n ceisio celu'r peth.
"A ydych chwi ar delerau da yn awr?" yn lle A ydyw hi'n dda rhyngoch yn awr?
Cymryd ar ôl ei thad yr oedd Ann," yn lle I'w thad yr oedd Ann yn ymdebygu.
"Nid yw Mr. Matthews mewn meddiant o'r holl ffeithiau," yn lle Ni ŵyr Mr. Matthews mo'r holl ffeithiau.
"Yr oedd ymhell o fod yn iach," yn lle Nid oedd ef (neu hi) yn iach o lawer.
"Y mae ef yn awr wedi ei ddychwelyd i'r senedd," yn lle . . . wedi ei ethol i'r senedd.
"Yr ydych at eich rhyddid," yn lle Y mae'n rhydd ichwi.
"Os try rhywbeth i fyny, dywedwch," yn lle Os digwydd rhywbeth.
"Wrth ddal cymdeithas â Duw," yn lle Wrth gymdeithasu â Duw.
"Pa fodd y mae pethau'n mynd gydag ef?" yn lle Pa fyd sydd arno? neu Pa lwyddiant sydd iddo?
"Y mae ef yn cadw oriau cynnar," yn lle Fe fydd ef yn dyfod adref yn gynnar.
Yr wyf yn teimlo drosto'n arw," yn lle Y mae'n arw gennyf amdano.
"Cerddasant yno o bwrpas," yn lle . . . yn unswydd.
"Am y presennol," yn lle Ar hyn o bryd.
"Wedi eu llosgi i fyny," yn lle Wedi eu llwyr losgi.
"Rhaid iddynt gadw'n glir o berygl," yn lle Rhaid iddynt ymgadw rhag perygl, neu . . . ochel enbydrwydd.
"Brysiwch i ddyfod i delerau," yn lle Brysiwch i gymodi, neu i gytuno.
"Y mae ef yn ei feddwl ei hun yn ddyn o bwysigrwydd," yn lle . . . yn tybied ei fod yn ŵr pwysig.
"Paham y rhaid cadw at hen arferion?" yn lle Paham y rhaid ymlynu wrth . . .?
"Darfu iddi, mewn effaith, addef ei bod yn euog," yn lle Fe ddarfu iddi cystal ag addef ei bod yn euog.
'"Paham y dylem binio ein ffydd wrth ei lawes ef" yn lle Paham y dylem dyngu wrth ei air ef?
"Yr wyf yn dal at yr hyn a ddywedais," yn lle Yr wyf yn glynu wrth a ddywedais.
"Os gallaf fy mynegi fy hun yn eglur," yn lle Os gallaf amlygu fy meddwl.
"Dylai gael ei alw i gyfrif," yn lle Fe ddylid ei geryddu.
"Y mae hyn yn fater o ffaith," yn lle . . . yn wirionedd sicr.
"Gwnaethant am y porthladd," yn lle Cyrchasant (neu hwy a gyfeiriasant) tua'r porthladd.
"Wedi syrthio'n aberth i'r ddiod feddwol," yn lle Wedi myned yn ysglyfaeth, etc.
"Fe gostiodd hynny ei fywyd iddo," yn lle Fe fu hynny'n angau iddo.
"Nad yw Mr. Gladstone mewn ffafr gyda hi," yn lle Nad yw'n dda ganddi Mr. Gladstone.
"Tystiodd ei bod mewn ofn corfforol," yn lle fod arni ofn am ei hoedl.
"Nid oedd ei resymau'n gwneud dim argraff arnynt," yn lle yn mennu dim arnynt.
"Ni allant ddal allan yn hir eto," yn lle Ni allant wrthsefyll, etc.
"Ac felly y ffurfiodd ef gydnabyddiaeth â hi," yn lle yr ymgydnabu ef â hi.
"Ond wrth bregethu yr oedd ef gartref," yn lle y byddai ef yn ei elfen.
"Y mae'r ddihareb yn dal," yn lle Y mae'r ddihareb yn parhau'n wir, neu . . . cyn wired heddiw ag erioed.
"Os cymerwch chwi'r peth mewn llaw," yn lle Os ymgymerwch chwi â'r peth, neu Os ewch chwi ynghyd â'r peth.
"Yn bresennol, gorffwys arnom i ddymuno i'n holl ddarllenwyr, Blwyddyn newydd dda," yn lle Bellach, y mae'n wiw inni ddymuno i holl ddarllenwyr y *** flwyddyn newydd dda.
Gobeithio bod y nef drugarog wedi gwrando gweddi'r gwael" hwn, er mwyn cael o'r darllenwyr amser i edifarhau am dreulio cymaint o'r blynyddoedd o'r blaen i ddarllen ei Gymraeg sitrachog. Er hynny, pe buasai ganddynt hwy ddigon o synnwyr i allu darllen y golygydd ei hun, buasent wedi peidio â darllen ei waith er ys talm o amser cyn iddo fo weddïo drostynt.
—NEHEMIAH O DDYFFRYN CLWYD.
ANERCHIAD AR GANIADAETH
GYFEILLION,
Y mae ynof un cymhwyster arbennig i siarad mewn cyfarfod o'r fath yma, sef bod fy ngwybodaeth am gerddoriaeth mor fechan fel na fedrwn i siarad yn faith ar y pwnc, ped ewyllysiwn; ac oblegid hynny, y mae'n debygol, y gofynnwyd imi'ch annerch.
Ond er nad wyf yn gerddor, yr wyf yn dipyn o lenor; ac efallai y gall llenor sydd heb fod yn gerddor ddweud un neu ddau o bethau ynghylch canu a haeddai gael eu hystyried gan gerddorion, yn enwedig[13] gan gerddorion sydd heb fod yn llenorion hefyd.
Meddylier, er enghraifft, am amser mewn canu. Onid ar bwys ei wybodaeth lenyddol y gall cerddor farnu pa un ai'n chwyrn ai'n araf y dylid canu geiriau neilltuol mewn iaith neilltuol? Fe gytunir bod y Cymry hyd yn ddiweddar yn canu popeth yn rhy araf yn araf hyd at fod yn hwyrdrwm; ond mi fyddaf i'n meddwl, a golygu'r peth oddi ar safle lenyddol, fod ambell gynulleidfa Gymreig yn y dyddiau hyn yn mynd i'r eithaf cyferbyniol trwy ganu'n rhy gyflym. Fel rheol, fe arweinir y cynulleidfaoedd hynny gan ddynion ifainc sy wedi ymroi i ganu'n unig, ac wedi ymwadu â phob chwant i feddu gwybodaeth gyffredinol. O achos hynny, nid ydynt hwy ddim yn alluog i gyfaddasu amser y dôn i natur y geiriau, heb sôn am ei chyfaddasu i anian cenedl, ac i anian iaith cenedl. Canu y maent hwy wrth glociau Lloegr. English time ydyw eu safon. Pe baent hwy gystal llenorion â llawer o'r cerddorion sydd yma heddiw, hwy a wybyddent ei bod yn amhriodol i'r Cymry ganu cyn gyflymed â'r Saeson, ac yn amhriodol i'r Saeson ganu cyn arafed â'r Cymry; a hynny oblegid dau reswm, sef oblegid y gwahaniaeth sy rhwng cymeriad y ddwy genedl, a'r gwahaniaeth sy rhwng iaith y ddwy. Ni oddef geiriau Saesneg gymryd eu llusgo a'u troelli fel y gwna geiriau Cymraeg, o achos nad yw'r llafarogion sydd ynddynt mor bur, mor agored, ac mor hirllaes â llafarogion y Gymraeg—mewn gair, o achos nad ydynt hwy mor Italaidd eu sain. Camu'n frysiog dros y llafarogion, a sangu'n ysgafn ar frig y cytseiniaid, fel iâr yn sangu ar farwor, y bydd y Saeson wrth siarad. Siarad yn gyflym ac nid yn groyw ydyw eu pwnc mawr hwy, a dyna'r achos paham y maent hwy'n taflu'r acen mor agos i ddechrau'r geiriau. Y mae hyn yn gwneud eu hiaith yn fwy crisp, fel y dyweder, ac felly yn un well i ddibenion masnachol nag un iaith arall, ac yn well ond odid i ddibenion ymddiddanol hefyd nag un iaith oddieithr y Ffrangeg. Ond po orau y bo iaith mewn ystyr masnachol ac ymddiddanol, gwaelaf oll ydyw mewn ystyr cerddorol a barddonol.
Pan oeddwn i'n dweud ei bod yn amhriodol canu geiriau Cymraeg mor gyflym â geiriau Saesneg, mi allaswn anturio mynd ymhellach a dweud ar bwys yr un rhesymau ei bod yn amhriodol, ie, yn wir yn anodd, canu geiriau yn llediaith Gogleddbarth Cymru mor gyflym â rhai yn llediaith y Deheubarth.
Nid oddi ar ragfarn yr ydwyf yn dweud bod y Gymraeg yn fwy soniarus a chanadwy o lawer iawn na'r Saesneg, canys fe ellid profi hynny trwy dystiolaethau'r seinegwyr gorau yn Ewrop. Y mae safon i farnu gwerth iaith a natur seiniau, fel agos popeth arall. Y mae pob Sais unieithog, ac ambell eneth o Gymraes hefyd, yn meddwl bod y Saesneg yn dlysach na'r hen Gymraeg, a bod ynddi lai o seiniau afrywiog. Camsyniad dybryd! Y mae rhai ohonoch, yn ddiamau, wedi darllen The Science of Language, gan Max Müller, ac yn cofio ond odid ei fod o'n dosbarthu'r Saesneg a'r Wyddeleg ymhlith yr ieithoedd cras, gwrywaidd, ac yn dosbarthu'r Gymraeg ymhlith yr ieithoedd benywaidd. Yn ôl Max Müller, un o'r beiau pennaf ar y Gymraeg ydyw ei bod yn rhy neis, ac yn rhy lathraidd i fod yn iaith gref. Yr ch ydyw'r unig lythyren gras sydd ynddi, ac ni chyhuddwn i mo'r merched ifainc yma o fod yn rhy gymhenllyd pe baent hwy'n seinio honno'n llai gyddfol, yn enwedig wrth ganu. Ond yr ydwyf i'n methu dirnad beth sy gan rai ohonynt yn erbyn y llythyren u. I ac nid u a ddaeth y prynhawn yma i'm clustiau i o enau amryw. Y mae colli sain o iaith yn golled fawr hyd yn oed mewn ystyr cerddorol, os credir bod amrywiaeth llafar seiniau yn fanteisiol i ganiadaeth. Y mae sain yr u yn dda ynddi ei hun, ac y mae iddi le amlwg ac anrhydeddus yn y Ffrangeg a'r Ellmyneg a llawer iaith arall.[14] Os oes ar rai ohonoch gywilydd dangos eich bod yn medru holl seiniau iaith eich gwlad, da chwi, seiniwch yr u ynteu, er mwyn peri i Saeson feddwl eich bod yn medru y French neu y German alphabet. Dyna reswm a ddylai fod yn gymeradwy hyd yn oed gan ferched y boarding schools. Os oes yma ryw eneth a ddywed na fedr hi ddim seinio'r u, mi a'i dysgaf yn rhad i wneud hynny mewn hanner awr os nad oes rhyw ddiffyg naturiol ar ei pheiriannau llafar.
Peidied neb â meddwl fy mod yn ergydio yrŵan at gyd-daleithwyr Mr. Lumley, oblegid fe all pobl y Deheudir eu hamddiffyn eu hunain. Nid wedi cefnu ar sain yr u y maent hwy, ond heb ddechrau ei mabwysiadu, o leiaf yn y cysylltiadau yr ydym ni yn ei harfer. A heblaw hynny, y mae'r sain a roddant hwy i'r u, er ei meined, yn wahanol ddeg o raddau i sain syml yr i, peth na ŵyr dynwaredwyr y Gogledd mono. Ni chlywais i gymaint ag un dynwaredwr o bregethwr, na dynwaredwr o ganwr o'r Gogledd, a fedrai seinio'r u fel Deheuwr.
Nid oes un sain yn y Gymraeg mor annymunol fel y dylid ei halltudio ohoni. Cymerer y Gymraeg fel y mae hi, gyda'r ch a'r cwbl, y mae hi'n un o'r ieithoedd mwyaf cyfaddas i enau cantorion. Y mae gan gantorion Seisnig achos i droi i'r Italeg, ond nid oes gan gantorion Cymreig ddim achosdim achos ieithyddol, beth bynnag—i ganu Saesneg mewn cyngherddau yng Nghymru, am fod ganddynt hwy iaith sy gymaint mwy canadwy na'r Saesneg ag ydyw'r Italeg na'r Gymraeg.
Mi adwaen i Gymro ieuanc a fu mewn ysgol ar y Cyfandir, yn yr hon yr oedd amryw o'r ysgolorion yn gantorion gwych, ac er nad oedd y Cymro hwnnw yn fwy o gerddor nag yn well lleisiwr na minnau, eto pan fyddai cyfarfod adloniadol yn y gwyliau, ac y gofynnid i wŷr ifainc ganu bob un yn ei iaith ei hun, y Cymro fyddai seren cyfarfod o'r fath bob amser (neu, gan mai person yn y rhyw wrywol oedd o, efallai mai dweud a ddylaswn mai efô oedd haul y cyfarfod), nid oblegid ei fod agos cystal lleisiwr â'r Ellmyn a'r Hwngariaid ac eraill, ond oblegid fod sŵn mwy hoff yr iaith Gymraeg, a sain mwy nefol yr hen alawon Cymreig, yn swyno yn gwirioni'r gwrandawyr.
Ar un peth arall y sylwaf, a hynny mewn ychydig eiriau, sef ar y modd y dangosir gwahanol deimladau mewn canu. Bydd ambell arweinydd canu, wrth geisio dangos ystyr gwahanol linellau mewn pennill, yn symud mor ddisymwth o'r lleddf i'r llon fel y bydd calon dyn gwan fel fi yn dychlamu gan ddychryn. Pam nad efelychir y plentyn bach, sydd yn fynych yn dechrau gwenu cyn gorffen wylo, heb gymryd hamdden i sychu'r dagrau oddi ar ei ruddiau? I fod yn naturiol fe ddylai cantorion, a siaradwyr hefyd o ran hynny, symud o'r naill deimlad i'r llall, megis o dan ddylanwad y teimlad oedd yn eu meddiannu gyntaf.
O'r ddau, y mae'n well gennyf i glywed canu pob rhyw beth mewn tôn hanner lleddf yn ôl dull yr hen bobl na'r symudiadau a'r ysgytiadau annaturiol sy'n dangos yn lle cuddio celfyddyd. Fel y rhan fwyaf o'r hen genhedloedd, y mae'r Cymry yn bur dueddol i gymysgu rhyw gymaint o'r lleddf â'r pethau mwyaf llon. Rhaid iddynt gael gorfoleddu mewn tôn hanner wylofus. Ac y mae'n ddiamau gennyfi y cânt gyfleustra i ddangos eu hoffter tuag at y lleddf wrth ganu'r anthem nefol mewn byd arall: "Ti a laddwyd, ac a'n prynaist ni i Dduw trwy dy waed." Wel, gobeithio na chaiff neb sydd yma achos i beidio â chanu nac yn y byd hwn nac yn y byd a ddaw.
PAUL-LOUIS COURIER
Y mae'r cyfeiriadau a wneuthum yn fy llith o'r blaen[15] at y ddau lenor Ffrengig y mae G. P. Marsh yn eu cyfrif "by far the greatest stylists of modern times" wedi gwneud rhai o ddarllenwyr "Y GENINEN" yn awyddus i wybod chwaneg am y mwyaf anhysbys o'r ddau. Wrth ymosod i foddhau'r darllenwyr hynny, yr oeddwn yn bwriadu rhoi syniad iddynt am arddull ddigyffelyb Paul-Louis Courier; ond yr wyf wedi fy siomi fy hun yn hollol yn hyn o beth. Er fy mod i, yn gystal o ddiffyg dawn ag o ddiffyg ymarferiad, yn waelach cyfieithydd o lawer na Morus Kyffin, Edward James, a Charles Edwards, eto y mae'n amheus gennyf a allasai'r mwyaf cyfarwydd â'r gwaith hwn ddangos pranciau nwyfus arddull Courier, a chadw gwedd Gymraeg ar ei gyfieithiad ar yr un pryd. Ysywaeth, y rhan ymadrodd mwyaf cryno yn y Ffrangeg yw'r un mwyaf amgylchog yn y Gymraeg. Cyfeirio yr wyf yn awr at y cyfraniad gorffennol (past participle). Rhaid yw arfer dau neu dri neu chwaneg o eiriau Cymraeg i gyfieithu'r cyfraniad gorffennol Ffrangeg. Weithiau gwna un gair Saesneg y tro amdano, ond pan fo eisiau nodi'n eglur y rhyw a'r rhif, rhaid arferyd dau neu dri ohonynt. Ond yn y Ffrangeg, yr ydys yn nodi'r rhif a'r rhyw yn nherfyniad y cyfraniad, a hynny heb hwyhau'r sain. Fel sgrifennwr craff a chelfydd y mae Courier wedi canfod y rhagoriaeth hwn yn ei iaith; a chan fod yn dra hoff ganddo ymadroddion cryno, y mae'n arferyd y ffurf gyfraniadol yn bur fynych. Oherwydd hyn, pa le bynnag y bydd Courier yn fwyaf cryno, yno y rhaid i'r cyfieithydd Cymraeg fod yn fwyaf amleiriog: hynyna fel enghraifft.
O bob iaith, y Saesneg yw'r iaith y mae'n hawsaf cyfieithu iddi; am ei bod hi wedi dwyn lliaws o'i geiriau a'i phriodebion oddi ar genhedloedd eraill. Ond ychydig o'r naill na'r llall a fenthyciodd hi gan y Cymry. Am hynny, anodd iawn yw cyfieithu Cymraeg pur i'r Saesneg. Po fwyaf Cymreigaidd fo'r iaith, mwyaf i gyd fydd y cam a gaiff wrth ei throi i'r Saesneg. Yr un ffunud, meistrolaeth Courier ar Ffrangeg cwbl Ffrengig sy'n ei wneud ar unwaith mor ddifyr i'w ddarllen yn ei iaith ei hun, ac mor anodd ei gyfieithu i iaith arall.
Anfynych y byddys yn cyhuddo Ffrancwr o sgrifennu'n dywyll; ond y mae rhai yn cyhuddo Paul-Louis o sgrifennu felly. Gan ei fod yn sgrifennwr mor awgrymog a byreiriog, ni all na bo rhyw gymaint o'i feddwl yn aros yn guddiedig oddi wrth rai; ond y mae digon o feddwl hyd yn oed ar wyneb ei eiriau i roddi mwynhad i'r darllenydd mwyaf cyffredin. Nid yw goleuni ymadrodd gwir ffraeth yn tywynnu i gyd ar unwaith, hyd yn oed i feddwl y darllenydd craffaf.
Gŵr hynod yn unig y cyfrifid Courier yn ei ddydd; ond heddiw y mae'n ŵr enwog; ac yn ôl pob tebyg, yn fwy enwog yr â. Y mae'r cyfenwad inimitable wedi glynu mor dynn wrth enw Paul-Louis Courier ag y mae all-accomplished wrth Pascal, judicious wrth Hooker, a venerable wrth Bede.
I Pascal, o bawb o'r Ffrancwyr, y mae Courier debycaf o ran ei ddull o feddwl ac ymadroddi. Y mae, fel yntau, yn nodedig am ei ŵreidd-dra, ei wreiddiolder, a'i wawdiaith; am fin, bywiogrwydd a beichiogrwydd ei frawddegau. Er hynny, y mae'r annhebygrwydd rhyngddynt yn amlycach o lawer na'r tebygrwydd. Y maent yn annhebyg hyd yn oed yn y pethau y maent yn ymdebygu fwyaf. Courier yw'r mwyaf ysmala, ond Pascal yw'r mwyaf urddasol. Dirmyg sy dan wawdiaith Courier, ond digllonedd a difrifoldeb sy dan wawdiaith Pascal. Courier sy'n tynnu mwyaf o waed, ond Pascal sy'n peri mwyaf o gleisiau. Pascal yw'r sgrifennwr llyfnaf, ond Courier yw'r un hoywaf. Er mai yn llyfrynnau y cyhoeddodd Pascal ei "Lythyrau at ŵr o'r wlad," ac er mai yn ffurf llythyrau a llyfrynnau y sgrifennodd Courier hefyd, eto ar ôl eu casglu ynghyd gwnaethant ddau waith yr ydys erbyn hyn yn eu cyfrif yn glasurol. "Y crach-awdur brwnt" y gelwid Courier gan y dosbarth llywodraethol. "Ysgentyn cellweirus, cablaidd," y galwai'r Iesuaid Pascal. Credai, neu o leiaf, cyhoeddai gelynion Pascal a Courier mai byrhoedlog fyddai cynhyrchion y naill a'r llall; ond byw ydynt eto, a byw fyddant tra bo byw'r Ffrangeg. Yr oedd yn y ddau gymaint o awen (genius) fel y gwnaethant bethau a oedd dros amser yn bethau dros byth, a phethau lleol yn bethau diddorol i bawb.
Ni wn i am un sgrifennwr yn sefyll yn gymaint ar ei ben ei hun â Paul-Louis Courier. Nid oes un ddalen o'i waith y gellid ei phriodoli i neb arall. Y syniadau, y teimladau, y rhagfarnau, a'r dulliau ymadrodd, delw eu hawdur sydd arnynt i gyd. Ac yr oedd y neilltuolrwydd hwn yn perthyn yn naturiol iddo ef. Y mae'n sgrifennu mor hynod, yn ei ffordd, â Carlyle, a hynny heb beidio â bod yn naturiol a dirodres. Nid arddull wneuthur mo'i arddull ef, fel yr eiddo creawdwr y "tragwyddoldebau," yr
"anfeidroldebau," y distawedigaethau," a'r "gorfawreddau." Yr oedd ganddo yntau ei gynlluniau, yn wir; ond y Groegiaid oedd y rhai hynny, ac nid yr Ellmyn. "Junius" yw'r tebycaf iddo yn y wlad hon. Yn erbyn gormes rhai mewn awdurdod y sgrifennai'r ddau. I newyddiadur y sgrifennodd "Junius "; felly Courier hefyd, gan mwyaf. Yr oedd y ddau yn sgrifennu'n gryno ac yn finiog. Nid oes gan Courier lai o saethau yn ei gawell nag sy gan "Junius," ond nid yw ef, fel "Junius," yn eu gwenwyno—digon yw ganddo ef eu blaenllymu'n dda. Nid yw chwaith yn torri ei ymadroddion mor unffurf â "Junius." Y mae "Junius" mor watwarus ag yw Courier, ond nid yw mor chwareus. Bustl, ac nid halen, yw gwatwariaeth, oni bydd afiaith gyda hynny. O eisiau'r elfen iach, siriol hon, ni allai "Junius" chwerthin ei hun, na pheri i eraill chwerthin chwaith. Os yw "Junius" yn gwenu o gwbl, gwenu â'i drwyn y mae, ac nid â'i enau.
Sgrifennai "Junius" yn erbyn y gwŷr mwyaf pendefigaidd a chyhoeddus; am hynny, yr oedd gan ei lythyrau ef fwy o fantais i redeg ymhell o ran amser a lle na rhai Courier; canys nid yn erbyn uchelwyr Paris y sgrifennai Courier yn gyffredin, eithr yn erbyn llywodraethwyr gormesol ei ardal ei hun: yn erbyn y meiri, y cyngor, a'r offeiriaid; yn erbyn pobl nad oes odid neb ohonynt yn adnabyddus i genhedloedd a chenedlaethau eraill. Y mae lle i feddwl ddarfod i rai o'r boblach hyn wneuthur camwri er mwyn cael anfarwoli eu henwau mewn rhyw lythyr gogan o waith Courier. Diamau iddo lwyddo i wneud enwau'r Meistri Furia, Jomard, a de Beaune, yn fwy adnabyddus nag y gwnaeth "Junius" enwau Duc Grafton, Arglwydd Granby, a Syr William Draper. Ychydig fuasai yn ymddiddori yn awr yn llythyrau "Junius" oni bai am y cablu urddas sydd ynddynt. Diau y buasai pob llenor Saesneg yn eu darllen er mwyn eu Saesneg coeth; ond y gwir ydyw mai yr enllibio sydd ynddynt sy'n eu gwneud yn gymeradwy gan y lliaws. Y mae Courier yn ysgrifennu agos mor "bersonol " â 'Junius," ond ni buasai pobl mewn gwledydd eraill yn ymhyfrydu nemor mewn cyfeiriadau at bersonau anhysbys, oni bai fod yn ei sgrifeniadau ef rywbeth sy'n eu gwneud yn werthfawr ar wahân i amser a lle.
Y mae'r casgl o sgrifeniadau Courier yn cynnwys nid yn unig y llythyrau a ymddangosodd mewn newyddiaduron, ond hefyd ei lythyrau cyfrinachol at ei geraint a'i gyfeillion; ei raglith i waith Herodotus, a'i gyfieithiad o ran o'r gwaith hwnnw; ynghyd â chyfieithiad diwygiedig o'r chwedl swynol Daphnis a Chloe, o waith y Groegiad Longus. Er ei fod yn un o'r Groegwyr gorau yn ei oes, a'r ysgrifennwr Ffrangeg gorau oll, eto ni chafodd ei dderbyn yn aelod o'r Académie. Heblaw nad oedd yn ysgolor graddedig, nid oedd chwaith yn ddigon o ddyn clig a chlwb i fod yn gymeradwy gan ei gyd-lenorion. Am hynny, dyn cyffredin a byrhoedlog ei enwogrwydd, ac nid ef, a gyfrifwyd ymhlith yr "Anfarwolion "; oherwydd paham y dywedodd ef wrtho'i hun ar ôl cael ei wrthod: "Ni byddi di byth yn neb na dim; hynny ydyw, ni byddi na phlismon, na chasglwr trethi, na sbïwr, na duc, na gwastrodyn, nac yn aelod o'r Académie. Paul-Louis fyddi, a dim amgenach. Gresyn!
Os myn y darllenydd wybod pa le a pha bryd y ganwyd Courier, a ffeithiau cyffelyb, tröed i eiriadur. Digon yw i mi ddywedyd ei fod wedi byw dan y Weriniaeth gyntaf, dan Ymerodraeth Napoleon y Cyntaf, ac wedi hynny dan Frenhiniaeth y Bourboniaid. Gwinllannwr ydoedd wrth ei alwedigaeth; ac oherwydd hynny y mae cymaint o arogl y maes ar ei sgrifeniadau. Bu am rai blynyddoedd yn bennaeth ar fintai o fagnelwyr yn y Fyddin; ond ni ragorodd fel milwr, am fod yn gas ganddo ryfel. Darllen llyfrau Groegaidd oedd ei hoff waith ef yn y maes: a phan fyddai yn Rhufain, Ffloren, Napel, neu Vienna, treulio'i ddyddiau a wnâi mewn llyfrdai i chwilio am hen sgrifeniadau Groegaidd.
Bywyd helbulus a gafodd. Cafodd ei ddirwyo dro ar ôl tro, a'i daflu fwy nag unwaith i garchar; a thra oedd yno, byddai'n paratoi rhyw lith a'i dygai yno drachefn. Costiodd ei annibyniaeth yn ddrud iddo. Nid oedd ei sgrifeniadau yn dwyn dim elw iddo. Cyhoeddai a lledaenai hwynt ar ei draul ei hun. Ond nid oedd ei elynion am fod yn hir yn ei ddyled. Ryw noson, ac ef eto ond dwy a deugain oed, fe'i saethwyd am ei boen.
Gan ei fod yn y Pamphlet des Pamphlets yn ei ddarlunio ac yn ei gyfiawnhau ei hun, gadawaf bellach iddo ef lefaru:
Sgrifennodd ataf fy nghyfaill Syr John Bickerstaff yr hyn yr ydwyf ar fedr ei gyfieithu ichwi yn union deg. Gŵr hynod yw hwnnw—athronwr, llenor gwych, a phleidiwr mawr i ddiwygiad, nid Seneddol yn unig, eithr cyffredinol hefyd; canys mynnai ef adlunio holl lywodraethau Ewrop, am na thâl yr orau ohonynt nemor, medd ef. Gŵr gweddol o gyfoeth ydyw, wrth lawer o bendefigion ei wlad ef; er hynny, y mae ef yn gwbl foddlon ar ei ran; ac yn y cymes (mediocrite) hyfryd hwn yr oedd yn byw, pan ddarfu i weinyddion y wladwriaeth, wrth weled ei fod yn ddyn hylaw, hynaws, ei annog i fyned i'r senedd. Gyda'i fod yno, dechreuodd daranu a stormio yn erbyn treuliau'r llys, y llwgr a'r segurswyddau. Tybiwyd mai eisiau ei ran ohonynt oedd arno; ac am hynny cynigiodd y gweinyddion iddo le, yr hwn a gymerodd yntau; a rhoesant iddo swm cyfatebol i'w olud, yn ôl arfer llywodraethwyr o roddi mwy i'r neb y bo mwy ganddo. Cyn gynted ag y cafodd ef yr arian, dychwelodd i'w etifeddiaeth; a chynullodd ato'r llafurwyr a'r tyddynwyr a holl amaethwyr y sir, a dywedodd wrthynt: Cefais afael yn ffodus iawn ar gyfran o'r hyn yr ydys yn ei ddwyn oddi arnoch i gadw chwiwgwn a diogod y llys. Dyma'r arian, ac yr wyf ar fedr eu hadferu yn anrhydeddus. Dechreuwn hagen hefo'r rhai tlotaf. Tydi, Pedr, pa faint a delaist y flwyddyn hon? Cymaint â hynny, dyma hwy. Tydi, Paul; chwychwi, Isag ac Ieuan, pa faint yw'ch dogn?" Wedi iddo gyfrif yr arian a rhannu'r cwbl, dychwelodd i Lundain, a chan feddiannu ei swydd newydd, ymosododd yn gyntaf dim i ryddhau pob dyn ar a oedd mewn dalfa am ddywedyd gormod o'r caswir yn erbyn y mawrion a'r gweinyddion; a hynny a wnaethai hefyd, canys yr oedd ei le yn rhoi iddo'r gallu, oni buasai ddarfod ei fwrw allan.
Bu ef ar ôl hyn yn ymdeithio; a sgrifennodd ataf o Rufain fel hyn: Cymerwch eich beio, eich dyfarnu, eich carcharu; cymerwch eich crogi, ond cyhoeddwch eich barn. Dyletswydd yw hyn ac nid braint; canys y mae dyled ar bob un y bo barn ganddo i roi llafar iddi, er mwyn lles y lliaws. Y mae'r gwir yn bob peth i bawb. Pa beth bynnag a wyddoch y sy'n fuddiol, yn dda i bob dyn ei wybod, nid yw rydd ichwi gelu hynny yn ôl na rheswm na chydwybod. Dyn sgeler o'r mwyaf fuasai Jenner, y bufrechwr cyntaf, pe cadwasai ei gyfrinach am un awr; a chan nad oes neb heb gredu bod ei syniadau ei hun yn fuddiol, nid oes neb heb fod yn rhwymedig i'w mynegi a'u taenu trwy bob ffordd ddichonadwy iddo. Y mae llefaru yn dda, sgrifennu yn well, argraffu yn beth rhagorol. Syniad wedi ei draethu mewn ymadroddion cryno a golau, hefo thystiolaethau, prawfysgrifau, ac enghreifftiau, pamffled yw pan ei hargraffer; a'r weithred orau, yr wrolaf yn fynych, y gall dyn ei gwneuthur er mwyn y byd. Canys os da fydd eich syniad, ceir budd oddi wrtho; os drwg, fe'i cywirir, a cheir budd oddi wrtho fyth. Ond y camarferiad, meddwch; wfft i'r gair, meddaf i; y rhai a'i dyfeisiodd, hwynt—hwy sy'n camarfer y wasg, wrth argraffu'r hyn a fynnont, gan dwyllo a difenwi, ac atal dynion rhag gwrthateb. Y mae ganddynt hwy eu rhesymau, dealler, am ddyrchafu eu llef yn erbyn pamffledau, llyfrynnau, a newyddiaduron. Y mae gennyf innau fy rhesymau; ac fe fynnwn pe cyhoeddai pawb yr hyn oll a synio ac a wypo. Yr un modd y gwaeddai'r Iesuaid yn erbyn Pascal; a diau y buasent yn ei alw yn bamffledwr, ond nid oedd y gair yn bod eto; am hynny fe'i galwasant yn ufferngi (tison d'enfer), yr un peth yn iaith penboethyn. Dyn a ddywedo'r gwir ac a gaffo wrandawiad y mae'r enw hwn bob amser yn ei arwyddo. Atebasant ei bamffled ef yn gyntaf oll trwy bamffledau eraill; wedyn trwy lettres de cachet, sef trwy dra-awdurdod, a thyciodd hyn iddynt yn llawer gwell. Dyma, gan hynny, yr ateb y byddai'n wiw gan yr Iesuaid a'r galluogion ei roi i bamffledau.
Gellid meddwl, hagen, wrth eu siarad, mai bychan o beth oedd hynny ganddynt; diystyru a wnaent y mân lythyrau, am nad oeddynt ar y gorau, meddent hwy, yn ddim amgen na chroesanaethau brwnt i ddifyrru munud o amser trwy athrod a gogan; ysgrifau diwerth, disylwedd, a ddarllenid yn y bore ac a anghofid erbyn yr hwyr; ar air, pethau annheilwng ohono ef, y fath ŵr, y fath lenor! Yr oedd yr awdur yn ei ddarostwng ei hun wrth dreulio'i amser a'i ddoniau i sgrifennu dalennau yn lle llyfrau, ac i droi pob peth yn gellwair, yn lle rhesymu yn ddifrifol; dyna'r edliwiad a ddygent yn ei erbyn, hen edliwiad arferol y sawl na bo'r chwarddwyr o'u tu. Pa beth a fu? Gwnaeth cellwair, gwnaeth gwatwar miniog Pascal yr hyn ni allodd deddfau a dedfrydau, gwnaeth i'r Iesuaid ffoi yn archolledig o bob man. Er ysgafned y dalennau hynny, llethasant y corff cryf hwn. Darfu i bamffledwr, dan chwarae, ddymchwelyd y ddelw fawr hon, a arswydid gan frenhinoedd a phobloedd. Ni chyfyd mwyach y Gymdeithas syrthiedig, pa faint bynnag a ateger arni; ac erys Pascal yn fawr yng nghoffadwriaeth dynion, nid oblegid ei weithoedd dysgedig, ei drogyrfen (roulette), ei brofiadau, eithr oblegid ei bamffledau, ei fân lythyrau.
Nid y Tuscalanodau a enwogodd Ciceron, eithr ei areithiau, gwir bamffledau. Ymddangosasant yn ddalennau hedol, heb eu rholio o amgylch ffon, yn ôl yr arfer y pryd hwnnw, gan na thraethwyd mo'r rhan fwyaf a'r rhai gwychaf ohonynt. Pa beth oedd ei Caton amgen na phamffled yn erbyn Cesar, yr hwn a atebwyd yn ddiau yn dda iawn, fel ag y medrai ef, ac fel dyn deallus, teilwng i gael ei wrando hyd yn oed ar ôl Ciceron. Yn ddiweddarach dreliwyd un arall mewn dalen arall, a chan ei fod yn ŵr ffyrnig, a heb feddu sgrifell Cesar na'i gleddyf chwaith, atebodd hwnnw'r pamffledwr Rhufeinig trwy orchymyn ei ladd. Esgymuno, erlid, dyna'r daledigaeth gyffredin i'r neb a feiddio ddywedyd ei hun y peth a synio pawb. Yr un modd y trengodd o'i flaen ef bamffledwr mawr Tir Groeg, sef Demosthen, yr hwn y mae ei Philipodau yn parhau hyd heddiw. Bychan hagen fuasai eu dylanwad ped ymfoddlonasai ef ar eu llefaru wrth yr ychydig bobl a allai eu clywed a'u deall mewn cymanfa; ond wedi eu sgrifennu, yr oedd pawb yn eu darllen; ac yr oedd y pamffledau hyn, yn ôl addefiad y Macedoniad ei hun, yn peri mwy o rwystr iddo ef na holl arfau Athen.. [16]
Er bod y rhan fwyaf o'r darnau a ddyfynnais uchod o'r Pamphlet des Pamphlets wedi eu dodi yng ngenau Syr John Bickerstaff, eto y mae'n amlwg mai geiriau Courier ei hun ydynt. Yn niwedd y pamffled hwn y mae'r awdur yn rhagdebygu na byddai farw mewn heddwch; canys y mae'n dywedyd:
Yr wyf yn credu ddarfod fy ngwneuthur i ddilyn Socrat hyd y diwedd. Na, trowch y cwpan hwn heibio; chwerw yw'r cegid; ac y mae'r byd ohono'i hun yn ymddiwygio digon heb i mi, druan, ymhel ag ef. Pryf fyddwn i ar y cerbyd a âi rhagddo yn burion heb fy hymian i. Myned y mae e, gyfeillion cu; ac ni phaid â myned. Os yw ei fynediad yn ymddangos i ni yn araf, y mae hynny am mai dros funudyn yr ym yn byw. Ond gymaint o ffordd a dramwyodd er pump neu chwe chanrif!
Os metha gan ryw ddarllenydd weled na phryd na thegwch yn yr esiamplau a roddwyd o waith Courier, priodoled hynny i ddiffyg chwaeth ynddo'i hun, neu ynteu i ddiffyg medr yn y cyfieithydd.
DYFYNION O'R "PAMPHLET DES PAMPHLETS "
Tra oeddid yn fy holi yn y préfecture de police ynghylch fy enw, fy nghynenwau, a'm galwedigaeth, daeth un o'r presenolion ataf; ac er ei fod yn ddieithr a di-swydd, gofynnodd im yn gyfeillaidd a diddefod ai myfi oedd awdur rhyw bamffledau? Ymddifferais innau'n bybyr.
'Ha! Syr (meddai yntau wrthyf), yr ydych yn awenydd mawr—yr ydych yn ddihafal.'
Parodd yr ymadrodd hwn imi atgofio ffaith hanesiol bur anhysbys, a adroddaf ichwi megis rhwng cromfachau.
Yr oeddwn yn bwyta efo'm cydymaith Duroc, a oedd yn lletya y pryd hwnnw, eithr er ys ennyd bach, sylwch, yn ystafelloedd isaf hen dŷ hyll tros ben, yn ôl fy nhyb i, rhwng buarth a gardd. Yr oedd amryw ohonom wrth y bwrdd yn llawen ac yn brysur pan ddaeth i mewn, yn gwbl ddirybudd, ein camrad Bonaparte, perchennog newydd yr hen dŷ, a chyfaneddwr y llofft isaf. Fel cymydog yr oedd yn dyfod; ac fe'n synnodd y cyweithaster hwn yn gymaint fel na wyddai neb o'r gwesteion pa beth i'w wneud. Codasom oll, a gofynasom 'Pa beth sydd yn bod?' Parodd y gwron inni adeistedd. Nid oedd ef yn gyfryw gydymaith ag y gallech ddywedyd wrtho, Eistedd, a bwyta efo ni. Buasai hynny'n gweddu'n burion cyn prynu ohono'r hen dŷ. Yr oedd yn ein golygu o'i sefyll, ac yn cerdded yn ôl ac ymlaen, heb wybod yn iawn pa beth i'w ddywedyd.
'Ai artichokes sydd gennych yna?'
'Ie, gadlywydd.'
'Yr ydych chwi, Rapp, yn eu bwyta efog olew, onid ydych? '
'Ydwyf, gadlywydd.'
'A chwithau, Savary, efo sibr.[17] Efo halen y byddaf i yn eu bwyta.'
'Ha! gadlywydd!' meddai'r hwn a elwid y pryd hwnnw Savary, 'dyn mawr ydych chwi; yr ydych yn ddihafal.'
Adroddais yr hanesyn hwn fel y gweloch, fy nghyfeillion, ddarfod fy nhrin innau fel Bonaparte, a hynny am yr un rhesymau. Nid er dim yr oeddid yn gwenieithio i'r consul; a phan oedd y gŵr da hwn hefyd, efo'i eiriau teg, yn fy nghanmol mor anfeidrol nes peri imi yswilio, gan fy ngalw'n ddyn digymar ac aneiluniadwy, yr oedd ganddo ei ddiben, fel y dywedwyd wrthyf ar ôl hynny gan wŷr a'i hedwyn. Mynnai ef dynnu rhywbeth ohonof ar fedr fy nghanmol ar fy nhraul fy hun; ond ni wn a foddlonwyd ef. Ar ôl llawer o ymadroddion a llawer o holion, a atebais cystal ag y gellais, ef a ddywedodd wrthyf wrth ymadael:
'Syr, gwrandewch arnaf, credwch fi, arferwch eich awen fawr i wneud rhywbeth amgenach na phamffledau.'
Myfyriais ar hyn, a chofiais ddarfod yn flaenorol i Meistr de Broë, gŵr huawdl, brwd o blaid moesau da, fy nghynghori'n gyffelyb, mewn geiriau llai gwenieithus, ger bron y brawdlys. Gan droi ataf, a gwneud ysgogiad areithegol o'r gwychaf, ef a'm cyfarchodd fel hyn: Bamffledwr brwnt, etc.!' Ergyd taran—na, ergyd pastwn, ac ystyried arddull yr areithiwr, â'r hon y'm tarawodd i lawr yn anaele. Cododd y gair hwn yn fy erbyn y barnwyr, y tystion, y rheithwyr, y gynulleidfa; ie, ymddangosai fy amddiffynnwr ei hun wedi ei derfysgu. Fe'm condemniwyd ym marn pawb o'r munud y'm galwodd swyddog y brenin yn bamffledwr, ac ni allwn innau wadu na wneuthum yr hyn a elwir yn bamffled. Yr oeddwn felly yn bamffledwr yn ôl fy marn fy hun; ac wrth weld y dychryn a barodd y fath enw i'r presenolion, cythruddais a chywilyddiais.
Wedi myned allan oddi yno, cefais fy hun ar y grisiau, yn ochr Meistr Arthus Bertrand, llyfrwerthwr, un o'm rheithwyr, yr hwn oedd yn myned i giniawa, wedi fy nghyhoeddi'n euog. Cyferchais well iddo; fe'm harfollodd yntau, canys dyn diddichell odiaeth yw e'. Ac ar y ffordd, erfyniais arno ddywedyd wrthyf pa beth oedd yn ymddangos iddo ef yn senadwy yn y Discours a gondemniasid.
'Ni ddarllenais mohono (meddai yntau wrthyf); eithr pamffled ydyw, ac y mae hynny'n ddigon i mi.'
Yna gofynnais iddo pa beth ydoedd pamffled, ac ystyr y gair, gan ei fod i mi yn lled aneglur, er nad yn ddieithr. Eb yntau:
'Un neu ddwy ddalen argraffedig ydyw, fel yr eiddoch chwi.'
'Ai pamffled fyddai tair dalen?' ebe finnau. 'Ef allai (meddai yntau), yn ôl y farn gyffredin; ond a siarad yn fanwl, un ddalen yn unig sydd i bamffled. Gwna dwy neu chwaneg ohonynt lyfryn.'
'Beth am ddeg dalen? pymtheg dalen? ugain dalen?'
'Gwnânt gyfrol (meddai yntau)—gwaith.'
'Ar eich anrhydedd a'ch cydwybod, Meistr Arthus Bertrand, gan eich bod yn rheithiwr, pa un ai pamffled ai llyfryn ydyw'r dalenaid a hanner a wneuthum i?'
'Pamffled (meddai yntau)—pamffled yn ddiddadl.'
Yr wyf i felly yn bamffledwr?'
'Ni fynaswn ddywedyd hynny wrthych, o barch, o dynerwch, o dosturi; ond dyna'r gwir. Er hynny (eb ef ymhellach), os edifarhewch, maddeuir ichwi yn y byd arall. Ewch, fy annwyl Syr, ac na phechwch mwyach. Ewch i garchar Sainte—Pélagie.' Fel yna y'm cysurai. 'Syr (meddwn wrtho), un gofyniad eto, os gwelwch yn dda.'
'Dau (meddai yntau), a chwaneg, a chynifer ag a fynnoch hyd bedwar ar gloch; yr hwn, debygaf, sydd ar daro.'
'O'r gorau, dyma fy ngofyniad:—Pe bawn, yn lle pamffled ar dreth Chambord, wedi gwneuthur cyfrol neu waith, a ddyfarnasech chwi e'?'
'Yn ôl yr amgylchiadau.'
'Yr wyf yn deall. Fe'i darllenasech yn gyntaf er mwyn gweled a fuasai'n ddyfarnadwy?'
'Fe'i harchwiliaswn yn ddiau.'
'Eithr ni fyddwch yn darllen pamffled?'
'Na fyddaf, canys ni all pamffled fod yn dda. Nid yw pamffled amgen nag ysgrif lawn o wenwyn?'
'O wenwyn?
'Ie, Syr, o'r ffieiddiaf hefyd. Pe amgen, nis darllenid. Y mae dynion yn gyfryw fel y carant wenwyn ymhopeth a argraffer. Er enghraifft, ni wn i, ac nid wyf yn ewyllysio gwybod dim am eich pamffled a gondemniwyd gennym. Eithr gwn hyn y mae'r byd yn ei ddarllen, ac am hynny rhaid fod gwenwyn ynddo. Dywedodd dadleuwr y brenin hynny wrthym, ac nid oeddwn innau yn ei amau. Deellwch mai'r gwenwyn sydd mewn ysgrifeniadau o'r fath yma a gondemnir gan yr awdurdodau. Canys mewn ystyr arall y mae'r wasg yn rhydd. Argreffwch, cyhoeddwch yr hyn a fynnoch—eithr nid gwenwyn!'
Ar ôl gwneud ychydig sylwadau ar hyn rhyngof a mi fy hun, dywedais: Yn ddiau, Syr, nid yw gwenwyn yn dda i ddim; a da y gwneir yn atal ei werthiant. Eithr y mae'n rhyfedd gennyf fod y bobl, yn ôl eich tystiolaeth chwi, yn ei garu gymaint. Y mae hynny yn ddiddadl am fod mewn pamffledau rywbeth amgenach na gwenwyn.'
'Dim ond ffregod, coegiaith, a chellwair. Pa faint, fy annwyl Syr, pa faint o synnwyr a ddichon dalen fach ei gynnwys? Pa feddyliau, pa ideon, a ellir eu datblygu arni? Mewn gweithoedd rhesymiadol, braidd y gellir gweled—ie, yn y chweched gyfrol at ba beth y mae'r awdur yn cyfeirio.' 'Ni ddichon dalen, yn wir (meddwn innau), gynnwys llawer.'
'Dim â gwerth ynddo (meddai yntau); ac am hynny, ni fyddaf i'n darllen dim un.'
"Ni fyddwch, felly, yn darllen gorchmynion Arglwydd Esgob Troyes ynghylch y Grawys a'r Adfent?
'O! y mae hynny'n beth pur wahanol!'
'Na chylch-lythyrau Toulouse ar uchafiaeth y pab?'
'O! peth arall yw hynny.'
'Felly, yn ôl eich barn chwi, gall ambell lyfryn —gall dalen unig. . .'
'Ffach! na soniwch wrthyf amdanynt. Wfft i lenoriaeth, i'r oes, ac i'r genedl, fod y fath ffiloregau haerllug yn cael eu hysgrifennu, eu hargraffu, a'u darllen.'
'Syr (meddwn innau wrtho), beth am Lettres provinciales Pascal?'
'O! llyfr ardderchog, campwaith ein hiaith!' 'O'r gorau, nid yw'r campwaith ardderchog hwn yn ddim amgen na phamffledau, na dalennau a ymddangosodd . . .'
Arhoswch y mae gennyf fy syniadau am hynny. Fel yr wyf yn anrhydeddu'r gweithoedd mawr a wnaed i barhau am oesoedd, felly yr wyf yn dirmygu ac yn ffieiddio'r mân ysgrifau byrhoedlog, y papurau sy'n myned o law i law, ac yn llefaru wrth bobl y pryd hwn am bethau'r pryd hwn. Ni allaf oddef pamffledau.'
Ac eto y mae'n hoff gennych y Provinciales—y mân lythyrau fel y'u gelwid gynt pan oeddynt yn hedeg o law i law?'
‘Yn wir (meddai yntau ymhellach, heb gymryd arno fy nghlywed), y mae'n syn gennyf eich bod chwi, sy'n ddyn addysgedig, ac wedi'ch arfaethu i fod yn rhywbeth yn y byd, yn ymddarostwng i wneuthur pamffledau! Pe baech yn gyfrifwr, yn geidwad carchar, neu yn gendarme, cyrhaeddech sefyllfa anrhydeddus; canys pwy a'ch lluddiai i fyned, yn y man, yn farwn, fel rhywun arall?'
'Nid oedd Blaise Pascal (meddwn innau) nac yn geidwad carchar, nac yn geidwad trefn, nac yn swyddog i Meistr Franchet.
Ust! Lleferwch yn is, canys gall ef ein clywed.' 'Pwy?'
"Yr abad Franchet.'
Ai tybed ei fod mor agos atom?'
'Syr, y mae ef ym mhob man. Dyma bedwar ar gloch; eich ufudd was.'
'Minnau yr eiddoch chwithau.'
Fe'm gadawodd, ac aeth ymaith ar redeg.
Y mae hyn, fy annwyl gyfeillion, yn haeddu ystyriaeth; tri gŵr mor ragorol, sef Meistr Arthus Bertrand, Meistr Franchet, a Meistr de Broë, gŵr hynod ei wybodaeth a'i urddas—dyma dri gŵr da yn elynion i bamffledau. Cewch weled llawer eraill, ac o'r gymdeithas orau, yn twyllo cyfaill, yn celwyddu, yn bradychu, yn torri amod; ac eto byddai'n gywilyddus ganddynt fod wedi dywedyd y gwir mewn ysgrif bymtheg dalen; canys yn yr ychydig y mae'r drwg i gyd. Gwnewch bymtheg o ddalennau, dyna chwi'n bamffledwr—a gwyliwch rhag Sainte-Pélagie! Gwnewch bymtheg cant, fe'ch cyflwynir i'r brenin. Cymysgir rhyw gymaint o wenwyn â phob peth a argreffir; a pho leiaf y llyfr, cryfaf oll fydd y gwenwyn. Y mae mymryn o halen morphin yn ymgolli mewn celyrnaid, fel na chlywir dim oddi wrtho; ond yn peri cyfog mewn cwpanaid, yn lladd mewn llwyaid—a chyfryw beth yw pamffled!
NODIADAU DARLITH AR NODWEDDION
Y FFRANCWYR
Didwylledd yw amod yr Ellmyn—Bismark wedi drygu eu cymeriad—Gweithgarwch a myfyrdod yn nodweddion—Richter yn dweud mai'r Ellmyn piau llywodraeth yr awyr, am eu bod yn byw yn y cymylau—Bonhomie yr Ellmyn—La conversation comme talent n'existe qu'en France—Yn Ffrainc, astudio dynion yr ydys; yn yr Almaen, llyfrau.
Yn Lloegr fe gyfrifir pawb sydd yn werth llai na dwy fil o bunnau yn y flwyddyn yn fwy neu lai tlawd, er y ceir llaweroedd o dlodion y ddwy fil yn edrych i lawr ar dlodion y ddau gant.
Gan nad yw tad o Ffrancwr, er y Chwyldroad, yn gadael y cwbl na'r rhan fwyaf o'i dda i'w fab hynaf, nid oes yn Ffrainc gynifer o diriogion a chyfoethogion mawr ag sydd yn Lloegr. Yno y mae tir ac arian wedi eu rhannu'n fwy cyfartal. Hyn yn peri bod yr hen balasau mawrion yn myned yn ddiddefnydd. Y ffaith bod gwladwyr Ffrainc yn byw ar eu tir eu hunain yn peri eu bod yn byw yn gynilach ac yn sobrach na gwladwyr y wlad hon.
Yng ngolwg y Saeson y mae'r Ffrancwyr yn rhy gynnil; ond nid cariad at arian ynddo'i hun sydd yn eu gwneud felly, ond yr awydd i fod yn ddiddyled, a'r awydd i adael rhyw gynhysgaeth i'w plant. Y mae ar y Ffrancwyr ofn bod yn nyled neb; a'r ofn hwn, ac nid anfoesoldeb fel yr haera rhai, sydd yn atal cynifer o ieuenctid gweddol dlawd rhag priodi. Y mae hyn yn peri nad yw'r Ffrancwyr ddim yn lluosogi fel pobl ddiofal am y dyfodol, megis tlodion Iwerddon a Lloegr. Ond y mae'n peri [hefyd] fod yno lai o drueni nag sydd yn y wlad hon ac Iwerddon. Fe gollodd llawer o Ffrancwyr y cwbl oedd ganddynt yn y rhyfel rhwng Ffrainc a'r Almaen, ond trwy fyw am ychydig flynyddoedd ar fara sych i forefwyd, a chloron a chnau cyffylog wedi eu rhostio i ginio a swper, llwyddasant i adael gwaddol da i'w merched priodadwy.
Pobl y wlad o bob dosbarth yn codi rhwng 4 a 5 yn yr haf a rhwng 6 a 7 yn y gaeaf. Dim borefwyd. Weithiau goffi a llaeth gyda dernyn o fara ynddo, neu heb fara. Te yn unig fel meddyginiaeth rhag yr annwyd a rhag y cnoi.
Fel y gwyddoch, ceir amryw fathau o fwyd yn y gwestai, er mwyn cyfarfod â chwaeth pob un a ddelo iddynt. Mewn tai preifat fe wyddys pa fwydydd sydd yn gymeradwy gan y teulu, ac am hynny bydd ynddynt hwy lai o amrywiaeth, a bydd y bwyd wedi ei goginio yn well nag mewn gwestai. Mewn gwirionedd, ni ŵyr neb pa mor ragorol y gall y Ffrancwyr goginio os na chafodd fwyd mewn tŷ preifat.
Gall gwraig i wladwr Ffrengig wneud cinio blasus gydag asgwrn ac ychydig o lysiau.
Gwin, wrth reswm, yw'r ddiod gyffredin oddieithr i forefwyd, ond y mae'r gwin cyffredin yn wannach hyd yn oed na diodydd dirwestol y wlad hon.
Llawer yn y wlad yn cymryd potes i'w borefwyd, a'r rhai sydd yn cymryd hwn yw'r bobl iachaf. Y borefwyd mawr, sef y borefwyd â fforch, rhwng 10 ac II ar gloch yw'r pryd trymaf yn Ffrainc. Y mae'r cinio, sy tua 6 ar gloch, yn bryd ysgafnach. Rhai yn cymryd cwpanaid o goffi a chacen, neu hanner potelaid o win, rywbryd rhwng y borefwyd a'r cinio. Yn y wlad ni fwyteir dim swper, ond yn y mân drefi yn y rhan Ffrengig o'r Swisdir fe gymerir tamaid o fara a chaws, neu fara a chnau gyda gwydraid bach o win gwyn.
Bûm yn profi malwod unwaith, a phe buaswn heb wybod mai malwod oeddynt, diau y buaswn yn eu mwynhau. Ni chefais erioed goesau llyffaint; canys y mae'r rheini mor ddrud, fel y mae'r Ffrancwyr yn eu cadw agos i gyd i gyfoethogion Lloegr a'r Taleithiau Unedig. I mi nid yw coes llyffant yn ymddangos yn fwy anghynnes na neidr y dwfr, sef yslywen, ac eto y mae rhai yn y wlad hon yn gallu bwyta neidr y dwfr heb gymaint â bytheirio ar ôl hynny.
Y mae gan y Ffrancwyr, yn enwedig y bobl gyffredin, ragfarn yn erbyn cig dafad a chig oen. Flwyddyn yn ôl yr oedd rhyw anhwyldeb arnaf; am hynny gofynnais i feddyg o Lerpwl pa beth a fwytawn. Bwytewch gig dafad, meddai. Fis yn ddiweddarach gofynnais yr un cwestiwn i feddyg yn Ffrainc. Na fwytewch gig dafad, ebe hwnnw. Euthum oddi yno i'r Almaen, a gofynnais i feddyg yn Hamburg pa un ai'r Sais ai'r Ffrancwr oedd yn ei le. Y mae'r ddau'n cyfeiliorni, ebe hwnnw. Bwytewch gig dafad os bydd yn dygymod â chwi; onid e, na fwytewch ddim ohono. Wyddoch chi beth, doctor, ebe fi, yr ydych yn gwybod cymaint â minnau. Atolwg, pa faint yw'r tâl am atebiad mor ochelgar? Coron, os gwelwch yn dda, ebr yntau.
Oddieithr cig dafad, gellyg y ddaear, sef jerusalem artichokes, gwyfon gwyrddion, sef green gooseberries, ac ychydig bethau eraill, fe all y Ffrancwyr fwyta pob math o gigau, o lysiau, ac o ffrwythau, os byddant wedi eu coginio'n dda; a da oedd i'r Parisiaid yn amser y gwarchae ar Paris eu bod yn medru byw ar chwyn, ceffylau, cathod a llygod, ac anifeiliaid gwylltion y Jardin des Plantes.
Os nad yw Pabyddion Ffrainc yn rhoddi cymaint o amser â ninnau i grefydda ar y Sul, y maent yn rhoddi mwy o lawer yng nghorff wythnos; canys y mae'r rhai mwyaf defosiynol ohonynt yn codi'n blygeiniol iawn i fyned i wasanaeth yr offeren bob dydd. Y maent hefyd yn neilltuo rhywfaint o amser ar rannau o'r dydd i ddarllen a myfyrio, yn ymprydio ac yn cadw gŵyl, ac yn treulio cryn amser i ymweled â'r cleifion a'r tlodion.
Y mae'r agosrwydd rhwng meistri a gweision, ac yn enwedig rhwng meistresi a morwynion, yn fwy o lawer nag yn y wlad hon. Anfynych bydd dim oddieithr priodas neu angau yn eu gwahanu oddi wrth ei gilydd, a hyd yn oed ar ôl i forwyn briodi fe fydd yn dda ganddi gael gwahoddiad ar achlysurion neilltuol i gynorthwyo ei hen feistres. Darllenais am
Darllenais am un hen forwyn a drowyd ymaith am ryw achos neu'i gilydd. Drannoeth hi a ymddangosodd eilwaith yn y tŷ, fel pe na buasai dim wedi digwydd, gan ddywedyd nad oedd wiw ceisio ei gyrru ymaith, y byddai'n well ganddi hi wasanaethu heb gyflog nag ymadael o'i hen le. Y mae'r Ffrancwyr cyfoethocaf yn cadw cyn lleied o forwynion fel na ellir disgwyl i'r morwynion wneud pob rhyw waith yn y modd gorau; ond pa beth bynnag a wnelont, hwy a'i gwnânt yn gydwybodol ac yn wyneb-lawen.
Y Ffrancwyr yn yfed er mwyn cymdeithas, ac nid o chwant am y ddiod.
Ni raid dweud dim am y tai coffi; am fod tai go debyg ym Mhrydain hefyd er ys blynyddoedd bellach, ond eu bod yn llai golau ac yn llai agored yn y wlad hon, ac heb erddi cysgodol ynglŷn â hwynt. Ond er mor anghysurus ydynt o'u cymharu â rhai Ffrainc, y maent wedi gwneud a chadw mwy yn ddirwestwyr na mil o areithiau dirwestol.
Yr ydys, wrth reswm, yn yfed rhywbeth neu'i gilydd ym mhob café Ffrengig, ond er mwyn ymddiddan ac nid er mwyn yfed yr ydys yn myned i dŷ coffi; ac oherwydd eu bod yn ymgyfarfod mewn lleoedd o'r fath, y mae'r Ffrancwyr yn well ymddiddanwyr nag un genedl arall.
Y Ffrancwyr at ei gilydd mor uniaith â'r Saeson. Gan fod pob dyn dysgedig trwy Ewrop yn medru eu hiaith hwy, nid oeddynt hyd ar ôl rhyfel 1871 yn gweld achos iddynt hwy ddysgu un iaith arall.
The interval between a French peasant and a Kentish labourer is enormous.
Ffrainc gymaint bedair gwaith â Lloegr, ac agos gymaint ddwywaith â Phrydain ac Iwerddon; er hynny, nid yw ei phoblogaeth gymaint. Os yw rhai o ferched Paris a Bordeaux yn newid eu dull o wisgo bob mis, y mae pobl y wlad yn ymgadw at yr un dull yn gaethach o lawer na Chymry Lleyn ac Eifionnydd.
Y Ffrancwr naill ai yn dilyn ei reswm ei hun, neu ynteu yn ymostwng i awdurdod eglwysig; ac y mae hynny yn ei wneud naill ai yn anffyddiwr neu yn Babydd.
Yr offeiriaid Pabaidd yn bur debyg i ninnau, bregethwyr y Methodistiaid—rhai yn wych, rhai yn wael, a llawer yn weddol. Culni meddyliol yw'r pechod parotaf i'w hamgylchu hwy a ninnau. Yn yr Almaen y mae'r offeiriaid yn fwy rhyddfrydig. At ei gilydd, y mae offeiriaid Ffrainc, a phob gwlad arall o ran hynny, yn fwy ymwadol o lawer na phregethwyr Cymru. Gan eu bod oll yn ddibriod, ac yn byw i'r eglwys yn unig, nid oes fawr o demtasiwn iddynt hwy gasglu a chadw arian. Am yr un rheswm y maent yn gofyn llai o arian i'w cadw. Y mae cyflog ein pregethwyr mwyaf poblogaidd ni yn fwy seithwaith, os nad ddengwaith, na chyflog yr offeiriad Catholig, ac yn fwy ddwywaith na chyflog esgob. Fe fyddai'r gyflog yr ydym ni'r Methodistiaid yn ei rhoddi i un cenhadwr yn ddigon i gadw tuag ugain o genhadon Catholig. Yng ngolwg Eglwys Rufain, nid ydyw'r cenhadon Protestannaidd eithr bugeiliaid sefydlog yn magu teuluoedd yn barchus mewn gwledydd pellennig. Mi wn fod i'r offeiriaid Pabaidd lawer o feiau, ond bydd yn llawn digon buan i mi eu condemnio'n ddiwahaniaeth pan fyddwyf wedi dysgu byw yn fy stafell heb dân trwy'r gaeaf, er mwyn gallu prynu tanwydd i hen wragedd tlodion fy ardal. Y mae llaweroedd ohonynt yn gwneud hynny.
Bai mawr Eglwys Rhufain ydyw ei bod yn anghefnogi pob gwybodaeth y tu allan iddi ei hun, ac nad yw hi yn gwneud odid ddim i symud ymaith ofergoelion y werin. Nid yw'r offeiriaid yn darllen dim llyfrau oddieithr llyfrau eu Heglwys eu hunain; ac yn wir, y mae ganddynt gynifer o fân orchwylion fel nad oes ganddynt amser i ddarllen llawer.
Ni fyn Ffrancwr briodi merch os na bydd y llog ar ei chynhysgaeth yn ddigon i'w chadw hi ei hun. I gael mynediad i dŷ lle bo merch ieuanc, rhaid i fab ieuanc yn gyntaf oll ofyn trwy rywun arall am y ferch honno yn wraig. Wedi iddo benderfynu ei phriodi fe fydd yn rhydd iddo ei gweled ac ymddiddan â hi. Wrth reswm, fe fydd y mab wedi ymholi yn ddyfal ynghylch y ferch cyn anturio myned mor bell â hyn.
Chwedl garwriaethol:—Gofynnodd dyn ifanc unwaith i Sais oedd wedi priodi Ffrances, ac wedi byw hanner ei oes yn Ffrainc, fyned at rieni parchus i ofyn eu merch yn wraig iddo. Aeth yntau a dywedodd
neges wrth y fam. Atebodd hithau yn rhwydd y câi y carwr ei merch ymhen dwy flynedd, os na ddôi rhywun cyfoethocach a boneddicach i'w gynnig ei hun iddi yn y cyfamser. Gan fod y carwr yn 32 oed, yr oedd yn ormod ganddo aros hyd hynny. Fe briododd ferch arall cyn pen mis, a gwnaeth hon iddo wraig ragorol, ac y mae'r ddau yn byw yn dra dedwydd.
Ni bydd un ferch ieuanc dan 25 oed yn myned ei hunan i'r farchnad nac unlle arall heb fod ei gweinyddes neu ryw berthynas gyda hi. Dealler bod merch ieuanc dros 25 oed yn hen ferch yn Ffrainc. Merched ieuainc Ffrainc yn gwbl wahanol i'r darluniau a wneir ohonynt yn y wlad hon; canys fe'u megir yn llawer caethach. Y maent yn gweithio yn y tŷ o fore hyd hwyr oddieithr pan fyddont yn gwneuthur dyletswyddau crefyddol. Ni byddant byth yn siarad â gŵr ieuanc yn unlle, nac yn myned yn fynych i gymdeithas; yn gwisgo yn syml; ni chânt ddarllen dim llyfrau ond a rydd eu rhieni iddynt. Er hyn oll y maent yn dra siriol, ac yn teimlo'r iau yn esmwyth am eu bod wedi eu cynefino â hi. Yn y wlad hon y mae merched yn colli eu rhyddid wrth ymbriodi. Yn Ffrainc ei ennill y maent. Yn y dosbarth cyffredin, nid oes fawr mwy o bellter rhwng y ddeuryw nag sydd yn y wlad hon. Er hynny, cariad masnachol iawn yw cariad y ferch tuag at y mab. Am hynny, ei harfer hi ydyw oedi ac oedi diwrnod y priodi er mwyn rhoi cyfle i ryw garwr amgenach ymgynnig iddi. Pe dywedech wrth Ffrances fod caru o'r fath yma yn garu gwael, atebai hithau fod caru ar brawf yn well na charu dall, a bod yn deg iddi fel y person goddefol garu pob dyn ar ei thelerau ei hun.
DETHOLION
Canfydda, cyfarfyddais, adnabyddodd, darganfyddasom, etc. Ymha le y cawsoch o hyd i'r ffurfiau anferth yna—ai yn y Beibl, bregethwyr? ai yn y Gweledigaethau neu yn Hanes y Ffydd, ohebwyr? Prin y gallaf ddisgwyl i lawer ohonoch roi sylltyn am Ramadeg; llawer llai i gynilo ychydig o amser
I roi i lawr eiriau lu,
Deg mil, a'u digymalu;
Profi gwreiddyn y prifair,
Olrhain yn gywrain y gair;
Ceisio'n ddiball, dyall da
Ddwys ganfod ei ddisgynfa;
Caru, coledd cywirwaith,
Tlysau agoriadau'r iaith.
Na: y mae'ch gwaith yn arfer y ffurfiau a roddwyd yn profi ei bod yn ormod gan y rhan fwyaf ohonoch roi pum munud o'ch oes i ddysgu treiglo'r prifair bod; canys pum munud fyddai'n ddigon i'r dylaf ohonoch. Ond y mae'n rhesymol imi ddisgwyl i bob un ohonoch ddarllen yr Ysgrythur Lân—yn enwedig chwychwi'r pregethwyr. Addefir eich bod yn bur gyfarwydd ag esboniadau ar y Beibl, ond y mae'n amlwg wrth eich iaith aflêr ac anystwyth eich bod yn ddieithr iawn i'r Beibl ei hun. Pe darllenech ef yn fynych ac yn fanwl, chwi ysgrifennech Gymraeg yn weddol dda, ar eich gwaethaf. Ai tybed fod modd ichwi gael gafael ar feddyliau'r Beibl heb gyffwrdd â'i eiriau? A ydych yn medru ymhyfrydu yn ei wirionedd heb gael eich goglais gan ei dlysni llenyddol? Ni choeliaf mo hynny, hyd yn oed os dywedir wrthyf fod eich croen cyn dewed â chroen y behemoth. Ond, meddwch wrthyf, "I ba beth yr ymdrafferthwn i wneud gwaith gwych, os cawn gymaint o arian a chlod am wneud gwaith gwael? Pe siaradem yn gryno, byddai'n rhaid inni wthio cnawd ac esgyrn hanner cant o'r pregethau sydd gennym yn awr i groen un. Ped ysgrifennem yn olau, nid ymddangosai'n hysgrifeniadau mor ddwfn o lawer. Pe traethem ein meddyliau'n hoyw, nid ystyrid hwynt mor drymion; canys y mae hi'n dyb gyffredin fod cysylltiad agos rhwng y trymllyd a'r trwm. Pe rhoddem fin main, disglair, ar ein brawddegau, ni chyfrifid hwynt gan y rhan fwyaf mor bwysig, oblegid cyfrifa llawer y pŵl a'r pwysig yn gymdeithion. Pe siaradem Gymraeg yn Gymreigaidd, byddai perygl i'n gwrandawyr feddwl nad ŷm yn hyddysg yn y Saesneg, ac na buom erioed mewn athrofa'n dysgu egwyddorion Groeg a Lladin. Yn sicr, ni fynnech ein gweled ni, blant y colegau, ac etifeddion y B.A., yr M.A., y Ph.D., a'r D.D., yn ymostwng i bregethu yn arddull Feiblaidd Daniel Rowlands, ac eraill o bregethwyr amseroedd yr anwybodaeth'!"
Wel, mi welaf eich bod yn rhy gall i fod yn ddoeth, yn rhy gyfrwys i fod yn gydwybodus, ac yn rhy grachddysgedig i fod yn ddysgadwy; ond cyn ysgwyd y llwch oddi wrth fy esgidiau, gwnaf un ymdrech yn rhagor i gael gennych ddysgu'r prifair bod, mewn un neu ddau o'r amserau, ac yna byddaf yn lân oddi wrth eich gwaed.
Yr Amser Gorffennol
Bûm, Buost, Bu.
Buom, Buoch, Buont (neu Buant).
Yr Amser Tragorffennol
Buaswn, Buasud (neu-it), Buasai.
Buasem, Buasech, Buasent.
Yr un ffunud y dylid treiglo bod pan fyddo'n rhan ôl gair cyfansawdd. Felly, dyma'r ffurfiau a ddylid eu harfer yn lle'r rhai sydd yn nechrau'r paragraff—cenfydd, cyfarfüm, adnabu, darganfuom (neu darganfuasom), etc.
A ddarlleno, ystyried,
A ystyrio, cofied,
A gofio, gwnaed.
Ydwyf, etc.,
—ATHRO.
DARN O'R GWERSI I YSGRIFENWYR A SIARADWYR
IEUAINC," ALLAN O'R "Faner", TACHWEDD 17, 1880.
Gwych gennyf i fod cynifer o wŷr ieuainc dysgedicaf Cymru er ys talm bellach yn ymroi i ddysgu iaith ac i ddarllen hen lyfrau eu gwlad, a bod nifer y coegion sy'n meddwl y medrant lefaru a sgrifennu yn eu hiaith eu hunain heb ymdrafferthu i'w hastudio, yn myned yn lleilai o flwyddyn i flwyddyn. Oni buasai am yr ysbryd arall a gwell a ddaeth yn ddiweddar ar ein dysgawdwyr, diau yr aethai Cymraeg y wasg a Chymraeg y pulpud cyn hir yn iaith farbaraidd, annheilwng o genedl ddiwylliedig. Pan elo iaith yn sâl, y mae hi'n barod i farw; a phan elo hi'n rhy wael i fod yn addas i bob rhyw berwyl, gorau po gyntaf y bo hi farw. Yng ngenau y rhan fwyaf o bregethwyr ac yn llaw y rhan fwyaf o sgrifenwyr y dyddiau hyn, y mae'r Gymraeg yn iaith dlawd iawn: yn brin ei geiriau ac yn aflêr ei brawddegau. Yn wir, ni chawsai dynion mor anhyddysg yn eu priod iaith ddim cyfle i addysgu eraill mewn un wlad arall ar y ddaear. Ond yn llaw gwŷr cyfarwydd, bu'r Gymraeg bob amser yn ddigonol i bob peth ar a ofynnid ganddi. A drowyd y Beibl i ryw iaith yn well nag y'i trowyd i'n hiaith ni? A oedd yn Ewrop, yn yr Oesoedd Canol, rywrai'n medru chwedleua'n rhagorach na chwedleuwyr Cymru? A sgrifennodd un Sais neu un Ffrancwr yn fwy hoyw na Morus Kyffin a Theophilus Evans? yn fwy cryno nag Elis Wynn? yn fwy cyfareddol na Morgan Llwyd? ac yn fwy dichlyn na'r caplan brenhinol John Evans, A.M.? A fynegodd rhyw emynydd wahanol deimladau'r dyn duwiol yn gystal â Williams, sef Williams Fawr o Bantycelyn? A welodd llygad, a glywodd clust, ac a ddychmygodd calon dyn, rywbeth na allai meistr o feddyliwr neu feistr o ysgolhaig ei draethu a'i ddarlunio yn y Gymraeg yn llawn cystal ag mewn un iaith arall? Dynion tlawd eu hunain sy'n cwyno bod y Gymraeg yn dlawd. Golud y Gymraeg, ac nid ei thlodi, fydd yn gyrru penbleth ar y gŵr cyfarwydd. Nid gofyn "Pa air a gaf?" fydd hwn, eithr "Pa air a ddewisaf o blith cynifer o eiriau gogyfystyr?"
Ys gwir nad oes neb yn yr oes hon a fedr droi Gwladwriaeth Plato neu Fucheddau Plutarch i gystal Cymraeg ag y trowyd y Beibl iddo; ond arnom ni, ac nid ar ein hiaith, y mae'r bai am hynny. Pe na buasai llenorion gwir ysgolheigaidd o fath yr Esgob Morgan, yr Esgob Parry, yr Esgob Richard Davies, a'r Dr. John Davies, wedi darfod o'r tir yn Oesoedd Tywyll yr Eglwys Sefydledig ac yn ystod rhwysg Anghydffurfiaeth dra gwerinaidd, buasai'r Gymraeg erbyn hyn yn iaith grynhoach ac ystwythach nag ydoedd hi hyd yn oed yn amser y cedyrn hynny. Diau gan hynny y buasai gennym ddigon o wŷr a allasai ddiwygio llawer ar gyfieithiad diwygiedig y Dr. Parry, heb fod neb yn ein plith yn ddigon anllythrennog i'w farbareiddio yn ôl dull pob esboniwr diweddar oddieithr y Parch. Puleston Jones.<ref>Er bod iaith y gŵr dawnus hwn weithiau'n rhy werinaidd i fod yn urddasol, eto nid oes neb byw a chanddo well syniad nag ef am anian (genius) y Gymraeg. "'Does dim dwywaith," chwedl yntau, am hyn.—E. ap I.
Gwell yw crynhoder na byrder: am fod y cryno yn cynnwys pob gair y mae'n rhaid wrtho. Sgrifenwyr chwanocaf i ymwrthod â geiriau rheidiol yw'r rhai chwanocaf i arferyd geiriau afreidiol.
Y mae llawer o Gymry yn sgrifennu'n anghywir o wybod tipyn o Saesneg, a dim o un iaith estronol arall. Pan gaffont well a helaethach addysg diau y byddant yn well Cymreigwyr. Onid y Cymry mwyaf hyddysg yn ieithoedd a llên cenhedloedd eraill fu'r Cymreigwyr gorau ymhob oes?
Os cas gan rywun ddechrau rhes o ymadroddion ag y mae, gwybydded fod llawer ffordd amgenach i osgoi hynny na thrwy arferyd ffurf yr amser dyfodol yn lle'r amser presennol. Onid yw dechrau agos pob brawddeg â rhyw ferf yn gwneud y brawddegau mor bŵl â phe baid yn dechrau pob un ohonynt ag un o ffurfiau presennol y ferf bod? Pa Gymro bynnag sy'n ymadroddi yn rhy unffurf, arno ef ei hun, ac nid ar y Gymraeg, y mae'r bai. Fel y bydd meddwl dyn, felly yn union y bydd ei iaith a'i arddull. Os bydd min ar ei feddwl, bydd min ar ei iaith hefyd; os bydd amrywiaeth yn ei feddyliau, bydd amrywiaeth yn ei ymadroddion hefyd. Yr oedd yn syn gan Ruskin fod Shakespeare yn medru barddoni mor dda mewn iaith mor anfarddonol â'r Saesneg. Nid oedd raid iddo synnu dim—ymdrŷ pob rhyw wialen yn hudlath yn llaw swynwr.
Rhag i neb feddwl nad yw rydd i Gymro arferyd yr amser dyfodol yn fynychach na'r Sais, dylwn ddywedyd ei bod yn briodol iddo arferyd ffurf yr amser dyfodol nid yn unig am bethau a fydd, ond hefyd am bethau a all fod, sy raid eu bod, ac a ddylai fod; ie, ei bod yn briodol iddo arferyd y ffurf honno pa bryd bynnag y byddo'r hyn sydd wir yn yr amser y sydd, yn wir yn yr amser a fydd hefyd. Fe wêl y neb a gofio hyn nad yw cyfieithwyr y Beibl Cymraeg wrth arferyd berf yn yr amser dyfodol, lle y mae'r cyfieithwyr Saesneg yn arferyd berf yn yr amser presennol, ddim yn myned yn erbyn yr arfer gyffredin mor fynych ag yr ydys yn tybied eu bod. O ran hynny, onid oedd y Saeson eu hunain, pan gyfieithwyd y Beibl, yn gwneud mwy o ddefnydd o'r amser dyfodol, a llai o'r amser presennol, nag y maent yn ei wneud yn yr oes hon? Fel y mae'r Sais yn chwannog i wneud eiddo cenhedloedd eraill yn eiddo iddo'i hun, felly y mae'n naturiol iddo chwenychu gwneud pob amser yn eiddo iddo'i hun, trwy ei droi i'r amser presennol. Pe bai'r Sais yn byw mwy yn y dyfodol, a'r Cymro yn byw mwy yn y presennol, byddai'r naill a'r llall yn fwy o feistr ar amserau y ferf. Trwy ddysgu tipyn gan ei gilydd, odid na fedr y ddau yn y man sgrifennu mor rhesymegol â Ffrancwr.
Ceir Cymraeg o'r math gorau yn ein Beibl ni, a cheir ynddo lawer o Gymraeg gwneuthur hefyd. Ein doethineb ni yn y dyddiau hyn yw dewis y Cymraeg da sydd ynddo, a gwrthod y llall. Edward James, Elis Wynn, Charles Edwards, John Evans, a Morgan Llwyd, yw'r awduron sy'n cydymffurfio lwyraf ag arfer y bobl wrth drin y berfau.
DARNAU O'R GWELLA GWALLAU . . ‚" ALLAN O'R Geninen, 1901—2.

Nodiadau
[golygu]- ↑ Llenyddiaeth Grefyddol sydd uwchben yr erthygl
- ↑ Gweler ei Histoire de la littérature française de 1789 à nos jours (Stock, 1936), tud. 88 ac ymlaen.
- ↑ Nid yw hyn yn hollol gywir. Dyddiad argraffiad cyntaf y Bardd Cwsc yw 1703, ac o'r Drych yw 1716.—Gol.
- ↑ Wrth ddywedyd hyn yr wyf yn golygu'n hytrach ystyr presennol y terfyniad na'i wreiddyn cuddiedig.—E. ap I.
- ↑ Yn y gwrthwyneb, troi'r rhagenw ni yn mi, ac nid newid y terfyniadau berfol y mae Dr. Gruffydd Roberts, Morys Clynog, a Morus Kyffin—ffordd sy'n ymddangos yn chwithig i ochel dybryd sain.—E. ap I.
- ↑ Tua blwyddyn yn ôl, o bulpud Cymraeg yn y dref hon, clywyd y frawddeg fythgofiadwy hon:—"Mae'r subliminal consciousness yn full of infinite possibilities!"—Gol.
- ↑ Y mae iaith gymysg fel y Saesneg yn peidio â bod yn iaith. resymegol, ac yn un fanteisiol i ddisgyblu'r meddwl, am nad yw un gair yn awgrymu gair arall perthnasol. Er enghraifft, pwy allai ddyfalu bod a wnelo naval â ship?—E. ap I.
- ↑ Megis o flaen l, m, n ac r yn y fath eiriau â magl, storm, edn, sobr.—E. ap I.
- ↑ Gan fod y rhan fwyaf o ysgolfeistriaid Cymru yn gofalu mwy am eu helw a'u hesmwythyd eu hunain nag am iaith eu gwlad, y mae arnaf ofn na fynnant hwy ymdrafferthu i ddysgu iaith a hanes Cymru i'r plant hyd oni ddywedo'r Cynghorau Ysgol wrthynt fod yn rhaid iddynt wneud hynny neu ymddiswyddo. Gan fod llawer o aelodau'r Cynghorau hyn mor anwlatgar â'r athrawon, fe ddylai'r holl etholwyr sy'n caru eu gwlad a'u hiaith a'u cenedl ofalu na ddewisont neb yn aelod o Gyngor Ysgol heb iddo addo'n bendant y mynn o i'r addysg ieithyddol sydd yn cael ei chyfrannu yn amherffaith yn yr Ysgol Sul gael ei chyfrannu'n berffeithiach yn yr Ysgol Feunyddiol. Ni waeth mo'r llawer pwy a etholer i'r cynghorau eraill, na hyd yn oed i'r Senedd Ymerodrol, ond y mae hoedl yr unig beth sy'n ein cadw'n genedl yn sefyll ar y math o ddynion a etholer i'r Cynghorau Ysgol. Ni allai Cymdeithas Cymru Fydd (os yw hi'n eto'n fyw) wneud dim sydd well na danfon dynion i gyfarwyddo ac i drefnu'r Cymry ymhob lle y byddo ethol Cynghorwyr Ysgol ynddo. Yn y dyddiau hyn, y mae Ymneilltuwyr Cymreig yn dangos ofn mawr rhag i addysg yr ysgolion Eglwyseiddio'u plant; ond nid ydynt yn dangos dim ofn rhag i'r addysg honno eu Seisnigeiddio! Ocha fi! A ydyw bodolaeth hanner dwsin o sectau cyn bwysiced â bodolaeth iaith? Yn enw rheswm, pa bryd yr ymdeimla corff y Cymry nid yn unig â'r gorthrymau sydd arnynt hwy a'r Saeson ynghyd, ond hefyd â'r gorthrwm mwy sydd arnynt hwy yn unig?—E. ap I.
- ↑ Diau fod llawer o'r atebion sydd yn Yr Hyfforddwr mewn iaith urddasol, ond y maent hwy felly am eu bod wedi eu cymryd o Gatecism Eglwys Loegr, ac o'r Homiliau, naill ai'n uniongyrchol, neu ynteu'n anuniongyrchol trwy Gatecism Griffith Jones.—E. ap I.
- ↑ Benywol ydyw "Cymraeg" pan fo'n golygu'r iaith; eithr gwrywol ydyw'r gair pan fo'n golygu math neilltuol o Gymraeg.E. ap I.
- ↑ Dyma'r ffordd y rhennir enwau lleoedd cyfansawdd ar orsafoedd y rheilffyrdd yn Iwerddon y blynyddoedd diwethaf hyn.—GOL.
- ↑ Yn y llsgr. ceir geiriau yn enwedig yn sgrifenedig tros ben y geiriau o leiaf, ond nid yw'r naill na'r llall wedi eu croesi allan. Gol.
- ↑ Gwyddai Emrys yn burion mai siarad yn fras yr oedd wrth gymharu'r Gymraeg â'r seiniau Ffrangeg ac Ellmyneg hyn; oblegid yn ei adolygiad yn Y "Faner", Mawrth 3, 1886, ar ramadeg Cymraeg Ernst Sattler, fe sonia am y gwahaniaeth rhyngddynt, ac yn wir fe ddywed yno am yr # Gymraeg ogleddol ei bod yn nes i'r i nag i'r i Ellmyneg.—Gol.
- ↑ Gweler tud. 53 a 100. Cyfeirio y mae at yr ail.—Gol.
- ↑ Codwyd y gweddill o gyfieithiad Emrys ap Iwan o ddarnau o'r pamffled Ffrangeg hwn yn rhagymadrodd y gyfrol flaenorol o draethodau Emrys.—Gol.
- ↑ Gair Emrys ap Iwan am 'saws.'—Gol.
Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1926, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd.