Esgyn gyda'r lluoedd
Gwedd
| ← Braint, braint | Esgyn gyda'r lluoedd gan Watkin Hezekiah Williams (Watcyn Wyn) |
Rhagom, filwyr Iesu → |
332[1] Mynydd Seion
65. 65.
1 ESGYN gyda'r lluoedd
Fry i fynydd Duw,
Tynnu tua'r nefoedd—
Bywyd f'enaid yw.
2 Yfwn o ffynhonnau
Gloywon ddyfroedd byw,
Wrth fynd dros y bryniau
Tua mynydd Duw.
3 Dringwn fel ein tadau
Dros y creigiau serth;
Canwn megis hwythau—
"Awn o nerth i nerth."
4 Pan fwyf ar ddiffygio—
Gweld y ffordd yn faith,
Duw sydd wedi addo
Cymorth ar y daith.
5 Wedi'r holl dreialon,
Wedi cario'r dydd,
Cwrdd ar fynydd Seion—
O! mor felys fydd.
—Watkin Hezekiah Williams (Watcyn Wyn)
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 332, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930