Neidio i'r cynnwys

Fel y gwelais Arglwyddes Llanofer

Oddi ar Wicidestun
Fel y gwelais Arglwyddes Llanofer


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Cymru (cylchgrawn)
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Augusta Hall, Arglwyddes Llanofer
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Owen Morgan Edwards
ar Wicipedia



Fel y gwelais Arglwyddes Llanofer.

O Cymru (cylchgrawn) gol O.M.Edwards Cyfrol X 1896; tud 145-146

Y MAE bronfraith yn canu yn nwyfus ar frigyn uchaf ffawydden luniaidd. Y mae ganddo lond ty o blant, a chan bwys helyntion teuluaidd, yn lle ildio i duchan, y mae wedi esgyn i frigyn y goeden dalaf yn y cylch, ac yn chwiban yn herfeiddiol. Gwanwyn ydyw, gyda daear werdd a nefoedd loew.

Y mae telynau yn crogi wrth enw Llanofer, ac wrth gerdded o orsaf Nantyderry at y palasdy yr oedd telynau anweledig yn chwareu cyfeiliant i alawon y gwynt yn y coed, a'r adar yn y llwyni.

Felly o dan ddylanwad swyngyfarodd yr amgylchoedd y daethpwyd megis drwy wlad hud a lledrith i'r pentref, lle yn wir y chwareuid telyn yn y ty oedd a'i ddrws yn agored. Ar ol mynd i mewn drwy ddrws bychan y naill du i'r porth haiarn, ar gyfer y pentref, wele ni ym mhare mawr Llanofer, ac yn ebrwydd heibio i'r Ty Uchaf, lle y ganwyd yr arglwyddes, ac i olwg y palas, yr hwn sydd yn fawr a hardd, ac o adeiladwaith yn dynodi sylwedd a chadernid. Er ei faint, nid yw yn weledig hyd nes mynd yn agos ato, gan ei fod yn sefyll mown pant, ac wedi ei amgylchu gan goed.

Wedi agoshau at y drws, hawdd gwybod fod ystyr llawn i'r geiriau sydd yn argraffedig ar y Porth Mawr sydd yn wynebu ar Abergafenni,—

"Pwy wyt ti, ddyfodwr?
Os cyfaill, croesaw calon i ti:
Os dieithr, lletteugarwch a'th erys:
Os gelyn, addfwynder a'th garchara."

Cymerasom ein lle yn yr ail ddosbarth, ond cawsom nid yn unig y "lletteugarwch" cysylltiedig a'r dosbarth hwnnw, ond y "croesaw addawedig i'r dosbarth cyntaf.

Yr oedd yr arglwyddes wedi pennu ein hystafell wely, ac wedi archi cynneu tân ynddi, ac arferai yr un gofal ac arolygiaeth fanol mewn perthynas a phob ymwelydd. Drannoeth am unarddeg o'r gloch, yr ydym yn cael ein dwyn i ymgydnabod a'r arglwyddes wyneb yn wyneb. Ac ebai hi,—

"Y mae i chwi roesaw i'r ty hwn."

"Diolch i chwi, fy arglwyddes."

"Y mae i chwi roesaw i aros yma heno eto, ac hyd nes y bydd i chwi weled pob peth nad ydych wedi weled."

Yr wyf yn dra diolchgar, ac yn prisio eich croesaw a'ch lletygarwch yn fawr iawn, fy arglwyddes."

Bechan iawn o gorffolaeth ydoedd. Er yn crymu o dan bwys blynyddoedd, yr oedd ganddi wyneb hardd, glandeg, ieuangaidd, cymhesur, a dirychni. Hawdd oedd gweled ei bod wedi bod yn brydferth odiaeth. Yr oedd ei llygaid yn chwilgar, a'i hedrychiad "yn cyrhaeddyd drwodd." Ae er mai het wellt ddu, gron o rau ffurf, yn debyg i'r hyn a welir weithiau gan ambell i hen wraig na all fforddio newid ei hetiau gyda'r ffasiwn, ac mai clogyn du hirllaes oedd amdani, a scidie bach cefnagored Cymreig, yr oedd ei threm yn awdurdodol a'i hosgo yn bendefigaidd.

Hawdd, ynte, ar ol derbyniad mor serchog a grasol, oedd cydymffurfio, wrth ymadael, â'r hyn a eiddunir yn y geiriau canlynol ag sydd yn ysgrifenedig ar borth arall,—

"Ymadawydd hynaws,
Gad dy fendith ar dy ol, a bendithier dithau;
Iechyd a hawddfyd it' ar dy daith,
A dedwydd ddychweliad."

Er cymaint y llawnder a'r cyfoeth sydd yn y fangre, gellid gweled mai rheol y ty yw yr hyn a ddysg yr englyn canlynol gan Tegid, sydd wedi ei argraffu uwchben y tân yn neuadd giniaw y gwasanaethwyr.

ENGLYN Y BUELIN.

"Gwastraff—eisieu, drwg ystryw—gwarth a
Ac wrth ddwyn gwarth—distryw;
Da i bawb cynildeb yw
A thad i gyfoeth ydyw."

"Corn bual Eisteddfod Caerdyf, Awst 20fed, 1834."

Yr oedd llawer o arbenigion rhagorol yr arglwyddes yn taflu eu cysgod ar y lluaws sydd yn ei gwasanaeth, heb eithrio y nodweddion cenedlgarol hynny a gysylltir â'i henw drwy Gymru oll.

Ni ennwyd neb yn Israel gynt, drwy gynorthwy ysbryd proffwydoliaeth, gyda mwy o addasder nag yr urddwyd Arglwyddes Llanofer yn "Gwenynen Gwent." Er ei bod y pryd hwnnw wedi gadael 85 o flynyddoedd ar ol yr oedd mor ddyfal a diwyd yn ei mhedr a'i mhanylwch gyda llywodraethu ei hugeiniau gwasanaethwyr yn ac o gylch Llanofer, a chydag arolygiaeth ei mheddiannau helaeth ymhell ac agos, ag y bu erioed. Cerddai ei hewyllys yn rheol gyda golwg ar bawb a phopeth a berthynai iddi; ac nid oedd a ddywedai y byddai dim mewn cysylltiad a'r pethau distadlaf, fel y pethau pwysicaf, heb iddi hi ei orchymyn. Yr oedd ei gallu i gynnwys a rhooleiddio yr holl oruchwylion aneirif ar ei hetifeddiaethau yn rhyfeddol. Rhwydd fuasai iddi, yn ddiau, lywodraethu gwlad, canys yr oedd trefn, deddfwriaeth, a moes, yn elfennau cydnaws â'i natur. Yr oedd ei sel dros lenyddiaeth Gymreig yn adnabyddus ddigon, ond hwyrach mai ychydig mewn cydmariaeth sydd yn gwybod fod ei sel dros ddirwest yn llawn mor arbennig, gan na chaniateid gwin na diod gadarn o dan ei chronglwyd. Y pethau hyn, ynghyda'i chrefyddolder, fel y gwyr y Methodistiaid Calfinaidd yn dda, oedd yn ei gwneyd yn hynod ymysg gwragedd, ac yn hynod iawn ymhlith arglwyddesau ein gwlad. Yn ystod yr wythnos olaf y bu fyw, pan oedd y Parch. Prys yn gweddio yn ei chlyw, torrai ar draws y gweddiwr gyda'r cais, "Gweddiwch am i mi gael ffydd i ddal y prawf mawr sydd yn yr ymyl."

Ymhlith addurniadau'r Nadolig oedd heb eu tynnu i lawr oddiar furiau un o'r ystafelloedd, yr oedd arwyddair ei harfbais, yr hwn oedd mor awgrymiadol a'i henw a grybwyllwyd eisoes;—

"Ni ddaw da o hir arofyn."

Ffurfiai hi ei phenderfyniadau yn chwimwth, yn bendant, a therfynol.

Yinhlith ei hymwelwyr cyson yn y cyfnod yr ydys yn son am dano, yr oedd y diweddar Barch. Edward Matthews, yr hwn oedd yn un o'i chyfeillion pennaf. Bu yno yn pregethu y Nadolig blaenorol ar ei gwahoddiad neilltuol, ac ymgynghorai ag ef ar bob mater o bwys. Yr oedd y Parch. Daniel Silvan Evans yno hefyd yn aml. Teimlai ddyddordeb personol yn nygiad allan ei Eiriadur Cymraeg clasurol, a chefnogai a noddai ei anturiaeth gostfawr.

Awn heibio y llyn eang yn y parc, lle y mae'r eleirch beilchion yn teyrnasu ac at ffynhonnau y Tylwyth Teg. Y mae y rhai hyn yn hynod am fod pob un o honynt yn tarddu yn anibynnol ar y llall, er eu bod yn ymyl eu gilydd, hynodrwydd a briodolir i'w cyfathrach a'r tylwyth a ennwyd. Llechant mewn pant coediog neilltuedig, lle y cyrchai yr arglwyddes yn fynych yng ngwres yr haf. Yn ymyl y mae tai enwog y perlysiau, y rhai a alwai hi yn "dai blodau." Y maent eisoes, ar yr adeg gynnar hon o'r flwyddyn, yn persawru eu hystafelloedd, ac yn gwisgo holl liwiau yr enfys.

Dychwelwn heibio i eglwys Llanofer, yng nghwr eithaf y pare, er mwyn gweled y beddfaen ardderchog godasai yr arglwyddes i'w gwr, ac ar ba un y mae yn gerfiedig adnodau Cymraeg cyfaddas.

Oddifewn, mor wychion yw yr ystafelloedd, llawer o honynt, ynghyda'r dodrefn, o goed cerfiedig; derw, ifori, eboni, a phob rhyw bren. Dyma y brif neuadd, o bob tu y mae cerfddelwau mynor, ymhob ffurf ac osgo, i bortreadu harddwch corff a theithi meddwl. Yn crogi ar y parwydydd y mae darluniau drudfawr gan arlunwyr enwog. Y mae y nenfwd yn gerfwaith addurnedig, ac yn ymgolli fry mewn hudd. Ar un ochr y mae oriel; yno, ar wyliau arbennig, yr ymgasgl y cantorion, a thelynorion i chwareu ar eu telynau. Ar adegau felly llenwir y canwyllbren—goreuredig â chanwyllau wedi eu goleuo. Ymgynulla arglwyddesau ac arglwyddi ar y llawr isod mewn porffor ac ysgarlad. Y mae yr olygfa yn orwych, yn hudolus ac urddasol, yn rhywbeth sydd yn peri i drydan i befru drwom, yn enwedig pan y dechreua y tannau daro hen alawon Cymru.

Caiff Islwyn ddesgrifio yr olygfa,—

"Llanofer, llawn o afiaeth—yw'th fyrddau,
A'th feirdd, a'th gerddoriaeth:
A'th delyn, a'th hudolineth,—gwnei adfer
Heddyw, Llanofer, ddulliau henafiaeth.

"Nadolig, clywn y delyn—yn ei llys,
Lleisiau per i'w dilyn;
Lle ail i lys Llywelyn,
Ac ein hoff Arthur cyn hyn.

"Ni fagwyd pendefiges—mor enwog
Am rinwedd ei hanes;
A dymuniad ei monwes
O du ei gwlad, a'i gwiw los.

O! noddes awenyddiaeth—digymhar
Deg em y D'wysogaeth:
Drwyddi i fri dirfawr aeth
Bro y delyn—bêr dalaeth.

Na bawn yn gyflawn o'r gu—anianawl!
Gwnawn enyn holl Gymru,
I'w chyfion ddyrchafu—haedda beunydd
Angel awenydd i englynu."


JOHN M. HOWELL.
Aberaeron.

Nodiadau

[golygu]

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1926, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd.