Neidio i'r cynnwys

Ffrwythau Dethol/Bendithion Gras

Oddi ar Wicidestun
Ceisio'r colledig Ffrwythau Dethol

gan Ben Davies, Pant-teg


golygwyd gan Tom Eirug Davies
Yn y bore—ar y lan

BENDITHION GRAS

O ARGLWYDD, cadw'n gyson
Fy enaid yn Dy law,
A llanw Di fy nghalon
A nerth y byd a ddaw;
Rho ffynnon Dwyfol rinwedd
I darddu dan fy mron,

I olchi ffwrdd y llygredd
Yn llwyr o'r fynwes hon.

Rho imi fwyn gymdeithas
Dy dyner Ysbryd Di,
Rho'r cyfeillgarwch addas
I druan fel myfi,
I'm codi i'r Tangnefedd
Sy'n uwch na deall dyn,
A phrofi'r hen Drugaredd
Sy'n nefoedd ynddi'i hun.


Nodiadau

[golygu]