Ffrwythau Dethol/Blodau
Gwedd
| ← Glywaist ti gyfrinach Duw? | Ffrwythau Dethol gan Ben Davies, Pant-teg golygwyd gan Tom Eirug Davies |
Fy mharadwys → |
BLODAU
Ai hoff gennyt flodau natur ei hun?
Y blodau gwyllt yn y caeau a'r coed:
A dyf heb gynllun na chymorth dyn—
A welaist ti fwynach prydferthwch erioed?
Ai hoff gennyt flodau gerddi'r dref:
Y blodau a fagwyd dan ddwylo dyn?
A drefnwyd yn rhesi ganddo ef—
Mor gyfan a pherffaith eu lliw a'u llun?
Dos—dos trwy Chapel Street fore dydd Sul,
Gwêl ddynion ystwrllyd, truenus eu llun—
Eneidiau yn ddrylliau mewn heol gul;—
Dyma flodau Duw, ond a chwalwyd gan ddyn.
Nid cyflawn fy hawl ar gaea'r wlad,
Nid dwfn fy hyfrydwch o'r gerddi drud,
O cheir fi'n anghofio blodau Duw Dad,
Sydd a'u dail ar wasgar ar hyd y stryd.