Ffrwythau Dethol/Bwlchgwyn a Llandegla
| ← Mynd i'r ysgol. Dechrau pregethu | Ffrwythau Dethol gan Ben Davies, Pant-teg golygwyd gan Tom Eirug Davies |
Dydd angladd Gwydderig → |
PENNOD VI
BWLCHGWYN A LLANDEGLA
WEDI f'ordeinio ymdeflais i waith y weinidogaeth gyda llawer o ddyfalwch—pregethu'n y bore yn Nebo, Bwlchgwyn, gan fyned i Llandegla at oedfa'r prynhawn, ac yn ôl i Nebo erbyn yr hwyr. Yna'r Sul dilynol—Nebo'r bore a Llandegla'r prynhawn a'r hwyr. Pregethu dair gwaith bob Sul, a cherdded oddeutu deuddeng milltir, erbyn cyrraedd fy llety nos Sul. Cyfarfod Gweddi nos Lun, seiat nos Fawrth, a nos Fercher Dosbarth Beiblaidd; ymweled yn ofalus, a'r gyflog rywle tua phum swllt ar hugain yr wythnos.
Ysgrifennaf y nodion hyn yn Llundain, yn y flwyddyn 1936, a gallaf wrth edrych yn ôl ac adolygu, ganfod rhai pethau ar waith yn y cyfnod hwn a fu yn foddion i benderfynu pwynt fy mywyd a'm meddwl a'm tynged yn ôl llaw. Digwyddai fod yn y ddwy eglwys nifer go dda o ddiwinyddion, ac o hen gedyrn yr Ysgol Sul, a bu raid i mi ymroi ar eu cyfer. Darllenais gyrff o ddiwinyddiaeth, ac esboniadau lu, ond nid oeddwn yn gallu eu llwyr gredu, er ceisio ohonof wneud hynny, a phregethu weithiau ryw bethau ag y teimlwn amheuaeth mawr yn eu cylch. Blinid fi gan amheuaeth ddwys ar adegau. Bûm ar fin rhoddi i fyny'r gofal. Cawn er hynny gynulleidfa dda, yn Nebo'n enwedig, canys yr oedd yno ardal fwy poblog nag yn Llandegla. Yr oedd y capel yn llawn ar nos Sul. Diau fod rhyw bethau yn fy mhregethau a dynnai sylw; ond yr oedd amheuaeth yn fy mlino. Dywedais fy nghwyn wrth hen frawd o weinidog yn y cylch, ond ni chefais ddim cysur ganddo. Byddwn yn hoff o ddarllen nofelau, ac yr oedd "John Ward, Preacher" a Robert Elsmere", wedi fy nrysu. Drwy drugaredd, cefais rodd o lyfr gan un o hen chwiorydd eglwys Nebo, myfi oedd i ddewis y llyfr, a hithau i dalu. Dewisais Natural law in the Spiritual World" (Drummond). Llyfr newydd crai. Mwy diddorol i'w ddarllen na'r un nofel—wedi ei ysgrifennu'n syml, a chlir, ac yn fy neffro a'm symbylu. Mor wahanol ydoedd i'r cyrff o ddiwinyddiaeth. Gadawodd argraff annileadwy arnaf, ac erys hyd heddiw. Pregethais gryn lawer ohono, ac yr oedd yr hen ddiwinyddion yn ei fwynhau er edrych o ambell un ohonynt braidd yn syn. Bu darllen y llyfr hwn, a'i ail ddarllen, a'i fyfyrio, yn drobwynt i mi, ac onibae amdano ef, yn ogystal â rhyw bethau eraill, mae'n lled debyg y buaswn wedi dychwelyd i'r lofa.