Ffrwythau Dethol/Cân y byddar
Gwedd
| ← Cyngerdd y plant | Ffrwythau Dethol gan Ben Davies, Pant-teg golygwyd gan Tom Eirug Davies |
Ystorm y ddinas → |
CÂN Y BYDDAR.
Os na chlywaf gân yr adar
Yn y llwyn ar ben y talar,
Clywaf ryw aderyn tirion
Eto'n canu yn fy nghalon.
Os wy' 'mhell oddi wrth y gornant
Sydd yn canu yn y ceunant,
Llifa ffrydlif dyfroedd tirion.
Beunydd yn nyfnderau 'nghalon.
Ni chaf yma groesi'r Coedca,
Na chael dringo i'r Bryn Isa;
Ond fe chwyth eu mwyn awelon
Beunydd yn nyfnderau 'nghalon.
Prin yw'r dydd yn nhawch y ddinas,
Prin yw'r haul a'i fwyn gymwynas,
Ond daw dydd a haul yn gyson
Yn oleuni yn fy nghalon.