Ffrwythau Dethol/Dydd ola'r flwyddyn
Gwedd
| ← Yr hen fro | Ffrwythau Dethol gan Ben Davies, Pant-teg golygwyd gan Tom Eirug Davies |
Gweld y Nef → |
DYDD OLA'R FLWYDDYN
A'r flwyddyn yn nesâu at olaf ffin
Ei hoes, a chryndod yn ei dwylaw hen,
Gwyw ydoedd rhos ei grudd, a gwyw ei gwen,
A'i gwisg ar chwâl yn y dymhestlog hin;
Eithr gwelais fod ei throed yn siglo crud
Ac ynddo faban teg, a'i dyner lef
Fel tarddiad ffynnon; ar ei wyneb ef
Oleuni haul, a gwên, a deigryn drud;
Diflannodd yr hen flwyddyn tua'r pant
Fel chwa drwy'r coed, a gwelais lwyn o ddrain.
A blodau drosto megys lliain main;
Yna ochenaid drom, a melys dant!
A chofiais i am y diderfyn loes
A'r gobaith sydd yr un o oes i oes.