Neidio i'r cynnwys

Ffrwythau Dethol/Gydag awel y dydd

Oddi ar Wicidestun
Y Duw Hwn Ffrwythau Dethol

gan Ben Davies, Pant-teg


golygwyd gan Tom Eirug Davies
Yr etifeddiaeth ysbrydol

Emynau

GYDAG AWEL Y DYDD
"A hwy a glywsant lais yr Arglwydd Dduw... gydag awel y dydd."—Gen ii: 8.

PAN egyr newydd wawr
I arwain golau'r dydd,
Daw dwyfol lais yn fwyn i lawr—
A'r Nef yn agos sydd.

Mi glywa'i alwad Ef
Drwy wawr y bore clir,
Yn lân, arafaidd, santaidd lef,
Yn galw i'r santaidd dir.

Y llais fu'n galw gynt
Drwy awel fwyn y dydd—
Y Ddwyfol ymchwil ar ei hynt
Heddiw yn galw sydd.

Drwy wawr ac awel rydd
Mae'n ymlid oes 'rôl oes,
Gan chwilio am golledig ddyn,
A'i alw dan ei loes.

Mac holl awelon dydd
Y nef ar Galfari,—
A dyma bennaf lais fy Nuw
I alw arnaf i.


Nodiadau

[golygu]