Ffrwythau Dethol/Mawl i Dduw
Gwedd
| ← Maddau a glanhau | Ffrwythau Dethol gan Ben Davies, Pant-teg golygwyd gan Tom Eirug Davies |
Ar ran Cymru → |
MAWL I DDUW[1]
RHODDWN foliant i'r Goruchaf
Am gartrefi'n gwlad a'n hiaith;
Am arweiniad er pob anaf
Inni drwy'r canrifoedd maith,
Deued eto y datguddiad—
Santaidd olau'i ysbryd Ef;
Drwy bob newid yn yr henwlad:
Cadwer ni ar lwybrau'r nef.
Boed ein Gŵyl yn Wyl o gariad,
Gŵyl o obaith, Gŵyl o ffydd;
Ac aed cofion gorau'r famwlad
At y rhai ar wasgar sydd;
Unwn oll i garu Cymru,
Unwn oll mewn gwlatgar dân,
A deisyfwn am feddiannu
Perffaith hedd, a chalon lân.
Trown cin golwg tua'r nefoedd
Heddiw, ar ddydd Gŵyl ein Sant;
Boed y gras sy'n uno'r oesoedd—
Gyda'r tadau, gyda'r plant;
Doed cenhedloedd byd yn rasol,
Doed y gwledydd blin ynghyd,
I feddiannu heddwch bythol,
Ac un aelwyd dros y byd.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Canwyd ar gais Undeb Cenedlaethol y Cymdeithasau Cymraeg, Chwef. 1936