Ffrwythau Dethol/Mi a wni bwy y credais
| ← Gwylia di | Ffrwythau Dethol gan Ben Davies, Pant-teg golygwyd gan Tom Eirug Davies |
Yn y cyfnos → |
MI A WNI BWY Y CREDAIS
GWN innau am för o gân
Yn torri ar greigiau Gŵyr,
A gwelais y llinell dân
Ar y gorwel gyda'r hwyr,
A gwn am berarogl y meysydd
Ar ôl y gawod ddiwedydd,
Nid oes ond a'u profodd a ŵyr.
Gwn hefyd am gariad mwyn
Y fun, yn ifanc fy myd,
Y gwylio tawel dan lwyn,
Y cusan a'r dagrau drud;
A gwn am ffyddlondeb hyd angau,
A'r afael drwy'r olaf bangau—
A gwybod drwy brofi drud.
Gwn innau am awr o hedd
Ar ôl bod yn gweini i'r gwan,
A gwn am fywyd yn wledd
Wrth godi'r truan i'r lan;
Mi wn am fwynhad tosturio
Wrth un a ga'dd ei ddolurio,—
Eu profi a'u dug i'm rhan.
Gwn hefyd am rywbeth mwy,—
Gwn ddyfod goleuni byw
Yn ffrydiau i'm henaid drwy
Gymdeithas ag Ysbryd Duw ;
Ac yn y Goleuni—ddyfodiad
Byd newydd, ac atgyfodiad:
A'i profodd a wyr beth yw.