Neidio i'r cynnwys

Ffrwythau Dethol/Wrth y môr

Oddi ar Wicidestun
Y dref Ffrwythau Dethol

gan Ben Davies, Pant-teg


golygwyd gan Tom Eirug Davies
Yr hen fro

WRTH Y MOR

Mi welais unwaith Gurnos fawr
Yn llesg ac unig, druan ŵr,
Yn fyr ei gam, a'i ben i lawr,
Yn teithio heibio drwy Glandŵr;
Medd ef: "'Rwy'n ofni mynd yn dlawd,
'Does gennyf i ddim nerth yn stôr;
'Rwy'n myned heddiw, hynaws frawd,
I dreulio diwrnod wrth y môr ".

Mi deithiais wedyn drwy Glandŵr,
A phrynais bapur ar fy rhawd:
"Bu farw Gurnos!"—hoffus ŵr,
Ac ni bydd ef byth mwy yn dlawd !
Caiff awel iach y nefol hin,
A thraethau gwell dan wên yr Iôr;
Fe ddaeth i ben yr ymdaith flin—
Caiff dragwyddoldeb wrth y môr!

Ymhen blynyddoedd lawer iawn.
'Rwyf unwaith eto yng Nglandŵr,
Ieuenctid mewn cerbydau llawn,
A minnau'n unig, unig ŵr;
Mor fyw yw geiriau fy hen ffrind:
"Does gennyf i ddim nerth yn stôr",
Ac wele finnau heddiw'n mynd
I dreulio diwrnod wrth y môr!


Nodiadau

[golygu]