Ffrwythau Dethol/Y gorfoledd parhaus
Gwedd
| ← Y llewychiadau | Ffrwythau Dethol gan Ben Davies, Pant-teg golygwyd gan Tom Eirug Davies |
Cariad → |
Y GORFOLEDD PARHAUS
At hoff gennych wenau y bore
'Rôl dunos a drycin a chri
Pe gwelech oleuni fy nghalon,
Mae'n fore o hyd arnaf i.
Ai hoff gennych ddiwrnod o wanwyn
I chwarae rhwng blodau di-ri?
Pe gwelech ddyfnderau fy nghalon,
Mae'n wanwyn o hyd arnaf i.
Ai hoff gennych wythnos o wyliau
Yn awel y glannau a'r lli?
Pe gwelech y môr sy'n fy nghalon,
Mae'n wyliau o hyd arnaf i.
Drwy brofi o gariad yr Iesu,
A derbyn o hedd Calfari,
Diflannodd anialwch fy enaid,—
Mae'n nefoedd o hyd arnaf i.