Neidio i'r cynnwys

Ffrwythau Dethol/Y llewychiadau

Oddi ar Wicidestun
Yn y cyfnos Ffrwythau Dethol

gan Ben Davies, Pant-teg


golygwyd gan Tom Eirug Davies
Y gorfoledd parhaus

Y LLEWYCHIADAU

MOR hyfryd yw y loyw awr
Pan ddaw y llewychiadau i lawr!
Anghofiaf boenau mân fy myd,
A thry y croesau'n hedd i gyd.


Fe dry gerwinder llym fy oes
Yn deg a llyfn, heb awel groes;
Fe ffy'r cymylau i ffwrdd yn llwyr
Pan ddaw'r goleuni yn yr hwyr.

Mac glesni newydd yn y pant,
A miwsig newydd yn y nant;
Mac golau yn y niwl a'r glyn,
A phorffor santaidd ar y bryn.

Mae hedd ysbrydol lond fy mryd,
A chân y cread maith i gyd;
Diflanna'r ddaear yn y Nef,
A llanw'r byd mae'i gariad Ef.


Nodiadau

[golygu]